1
Paul, apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, a Timotheus ein brawd,2 at y saint yn Colosae, rhai ffyddlon yng Nghrist. Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad.
3
Yr ydym bob amser yn ein gweddïau yn diolch amdanoch i Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist,4 oherwydd i ni glywed am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint,
5 deubeth sy'n tarddu o wrthrych eich gobaith, sydd ynghadw yn y nefoedd i chwi. Clywsoch eisoes am y gobaith hwn, yng ngair y gwirionedd, yr Efengyl
6 sydd wedi dod atoch. Y mae'r Efengyl yn dwyn ffrwyth ac yn cynyddu trwy'r holl fyd, yn union fel y mae hefyd yn eich plith chwi, o'r dydd y clywsoch am ras Duw a'i amgyffred mewn gwirionedd.
7 Dysgasoch hyn oddi wrth Epaffras, ein cydwas annwyl, sy'n weinidog ffyddlon i Grist ar eich rhan,
8 ac ef sydd wedi'n hysbysu ni am eich cariad yn yr Ysbryd.
9
Oherwydd hyn, o'r dydd y clywsom hynny, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch. Deisyf yr ydym ar ichwi gael eich llenwi, trwy bob doethineb a deall ysbrydol, ag amgyffrediad o ewyllys Duw,10 er mwyn ichwi fyw yn deilwng o'r Arglwydd a rhyngu ei fodd yn gyfan gwbl, gan ddwyn ffrwyth mewn gweithredoedd da o bob math, a chynyddu yn eich adnabyddiaeth o Dduw.
11 Yr ydym yn deisyf ar ichwi gael eich grymuso â phob grymuster, yn ôl nerth ei ogoniant ef, i ddyfalbarhau a hirymaros yn llawen ym mhob dim,
12 gan ddiolch i'r Tad, yr hwn a'ch gwnaeth yn gymwys i gael cyfran o etifeddiaeth y saint yn y goleuni.
13 Gwaredodd ni o afael y tywyllwch, a'n trosglwyddo i deyrnas ei annwyl Fab,
14 yn yr hwn y mae inni brynedigaeth, sef maddeuant ein pechodau.
15 Hwn yw delw'r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth;
16 oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu.
17 Y mae ef yn bod cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll.
18 Ef hefyd yw pen y corff, sef yr eglwys. Ef yw'r dechrau, y cyntafanedig o blith y meirw, i fod ei hun yn gyntaf ym mhob peth.
19 Oherwydd gwelodd Duw yn dda i'w holl gyflawnder breswylio ynddo ef,
20 a thrwyddo ef, ar ôl gwneud heddwch trwy ei waed ar y groes, i gymodi pob peth ag ef ei hun, y pethau sydd ar y ddaear a'r pethau sydd yn y nefoedd.
21
Yr oeddech chwithau ar un adeg wedi ymddieithrio, ac yn elyniaethus eich meddwl, a'ch gweithredoedd yn ddrwg. Ond yn awr fe'ch cymododd ,22 yng nghorff ei gnawd trwy ei farwolaeth, i'ch cyflwyno'n sanctaidd a di-fai a di-fefl ger ei fron.
23 Ond y mae'n rhaid ichwi barhau yn eich ffydd, yn gadarn a diysgog, a pheidio â symud oddi wrth obaith yr Efengyl a glywsoch. Dyma'r Efengyl a bregethwyd ym mhob rhan o'r greadigaeth dan y nef, a'r Efengyl y deuthum i, Paul, yn weinidog iddi.
24
Yr wyf yn awr yn llawen yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cwblhau yn fy nghnawd yr hyn sy'n ôl o gystuddiau Crist, er mwyn ei gorff, sef yr eglwys.25 Fe ddeuthum i yn weinidog i'r eglwys yn ôl yr oruchwyliaeth a roddodd Duw i mi er eich mwyn chwi, i gyhoeddi gair Duw yn ei gyflawnder,
26 sef y dirgelwch a fu'n guddiedig ers oesoedd ac ers cenedlaethau, ond sydd yn awr wedi ei amlygu i'w saint.
27 Ewyllysiodd Duw hysbysu iddynt hwy beth yw cyfoeth gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd. Dyma'r dirgelwch: Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant.
28 Ei gyhoeddi ef yr ydym ni, gan rybuddio pawb, a dysgu pawb ym mhob doethineb, er mwyn cyflwyno pob un yn gyflawn yng Nghrist.
29 I'r diben hwn yr wyf yn llafurio ac yn ymdrechu trwy ei nerth ef, y nerth sy'n gweithredu'n rymus ynof fi.
1
Oherwydd yr wyf am ichwi wybod cymaint yw fy ymdrech drosoch chwi, a thros y rhai sydd yn Laodicea, a phawb sydd heb fy ngweld wyneb yn wyneb.2 Fy nod yw eu calonogi a'u clymu ynghyd mewn cariad, iddynt gael holl gyfoeth y sicrwydd a ddaw yn sgîl dealltwriaeth, ac iddynt amgyffred dirgelwch Duw, sef Crist.
3 Ynddo ef y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig.
4 Yr wyf yn dweud hyn rhag i neb eich arwain ar gyfeiliorn â'u hymadrodd twyllodrus.
5 Oherwydd, er fy mod yn absennol yn y cnawd, yr wyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenhau wrth weld eich rhengoedd disgybledig a chadernid eich ffydd yng Nghrist.
6
Felly, gan eich bod wedi derbyn Crist Iesu, yr Arglwydd, dylech fyw ynddo ef.7 Cadwch eich gwreiddiau ynddo, gan gael eich adeiladu ynddo, a'ch cadarnhau yn y ffydd fel y'ch dysgwyd, a bod yn ddibrin eich diolch.
8 Gwyliwch rhag i neb eich cipio i gaethiwed drwy athroniaeth a gwag hudoliaeth yn ôl traddodiad dynol, yn ôl ysbrydion elfennig y cyfanfyd, ac nid yn ôl Crist.
9 Oherwydd ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio'n gorfforol,
10 ac yr ydych chwithau wedi eich dwyn i gyflawnder ynddo ef. Y mae ef yn ben ar bob tywysogaeth ac awdurdod.
11 Ynddo ef hefyd yr enwaedwyd arnoch ag enwaediad nad yw o waith llaw, ond yn hytrach o ddiosg y corff cnawdol; hwn yw enwaediad Crist.
12 Claddwyd chwi gydag ef yn eich bedydd, ac yn y bedydd hefyd fe'ch cyfodwyd gydag ef drwy ffydd yn nerth Duw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw.
13 Ac er eich bod yn feirw yn eich camweddau a'ch cnawd dienwaededig, fe'ch gwnaeth chwi yn fyw gydag ef. Y mae wedi maddau inni ein holl gamweddau,
14 ac wedi diddymu'r ddogfen oedd yn ein rhwymo i'r gofynion a'n gwnâi ni yn ddyledwyr. Y mae wedi ei bwrw hi o'r neilltu; fe'i hoeliodd ar y groes.
15 Diarfogodd y tywysogaethau a'r awdurdodau, a'u gwneud yn sioe gerbron y byd yng ngorymdaith ei fuddugoliaeth arnynt ar y groes.
16
Peidiwch, felly, â chymryd eich barnu gan neb ynglŷn â bwyta ac yfed, neu mewn perthynas â gŵyl neu newydd-loer neu Saboth.17 Cysgod yw'r rhain o'r pethau sy'n dod; Crist biau'r sylwedd.
18 Peidiwch â chymryd eich gwahardd gan ddyfarniad neb sydd â'i fryd ar ddiraddio'r hunan, ac ar addoli angylion ar sail ei weledigaethau. Meddwl cnawdol sy'n peri i rai felly ymchwyddo heb achos,
19 ac nid oes ganddynt afael ar y pen. Ond oddi wrth y pen y mae'r holl gorff yn cael ei gynnal a'i gydgysylltu trwy'r cymalau a'r gewynnau, ac felly'n prifio â phrifiant sydd o Dduw.
20
Os buoch farw gyda Christ i ysbrydion elfennig y cyfanfyd, pam yr ydych, fel petaech yn byw o hyd yn y byd, yn ymddarostwng i orchmynion:21 “Peidiwch â chyffwrdd”, “Peidiwch â blasu”, “Peidiwch â thrafod”—
22 a hynny ynglŷn â phethau sydd i gyd yn darfod wrth eu defnyddio? Dilyn rheolau ac athrawiaethau dynol yr ydych.
23 Y mae i'r fath bethau enw doethineb, gyda'u crefydd wneud, eu hunanddiraddiad, a'u triniaeth lem o'r corff. Ond nid ydynt o unrhyw werth i atal cnawdolrwydd.
1
Felly, os cyfodwyd chwi gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle y mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw.2 Rhowch eich bryd ar y pethau sydd uchod, nid ar y pethau sydd ar y ddaear.
3 Oherwydd buoch farw, ac y mae eich bywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw.
4 Pan amlygir Crist, eich bywyd chwi , yna fe gewch chwithau eich amlygu gydag ef mewn gogoniant.
5
Rhowch i farwolaeth, felly, y rhannau hynny ohonoch sy'n perthyn i'r ddaear: anfoesoldeb rhywiol, amhurdeb, nwyd, blys, a thrachwant, sydd yn eilunaddoliaeth.6 O achos y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dod ar y rhai anufudd.
7 Dyna oedd eich ffordd chwithau o ymddwyn ar un adeg, pan oeddech yn byw yn eu canol.
8 Ond yn awr, rhowch heibio'r holl bethau hyn: digofaint, llid, drwgdeimlad, cabledd a bryntni o'ch genau.
9 Peidiwch â dweud celwydd wrth eich gilydd, gan eich bod wedi diosg yr hen natur ddynol, ynghyd â'i gweithredoedd,
10 ac wedi gwisgo amdanoch y natur ddynol newydd, sy'n cael ei hadnewyddu mewn gwybodaeth ar ddelw ei Chreawdwr.
11 Nid oes yma ragor rhwng Groegiaid ac Iddewon, enwaediad a dienwaediad, barbariad, Scythiad, caeth, rhydd; ond Crist yw pob peth, a Christ sydd ym mhob peth.
12
Am hynny, fel etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl, gwisgwch amdanoch dynerwch calon, caredigrwydd, gostyngeiddrwydd, addfwynder ac amynedd.13 Goddefwch eich gilydd, a maddeuwch i'ch gilydd os bydd gan rywun gŵyn yn erbyn rhywun arall; fel y maddeuodd yr Arglwydd i chwi, felly gwnewch chwithau.
14 Tros y rhain i gyd gwisgwch gariad, sy'n rhwymyn perffeithrwydd.
15 Bydded i dangnefedd Crist lywodraethu yn eich calonnau; i hyn y cawsoch eich galw, yn un corff. A byddwch yn ddiolchgar.
16 Bydded i air Crist breswylio ynoch yn ei gyfoeth. Dysgwch a rhybuddiwch eich gilydd gyda phob doethineb. Â chalonnau diolchgar canwch i Dduw salmau ac emynau a chaniadau ysbrydol.
17 Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, ar air neu ar weithred, gwnewch bopeth yn enw yr Arglwydd Iesu, gan roi diolch i Dduw, y Tad, drwyddo ef.
18
Chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr; hyn yw eich dyletswydd fel pobl yr Arglwydd.19 Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, a pheidiwch â bod yn llym wrthynt.
20
Chwi blant, ufuddhewch i'ch rhieni ym mhob peth, oherwydd hyn sydd gymeradwy ym mhobl yr Arglwydd.21 Chwi dadau, peidiwch â chythruddo eich plant, rhag iddynt ddigalonni.
22
Chwi gaethweision, ufuddhewch ym mhob peth i'ch meistri daearol, nid ag esgus o wasanaeth fel rhai sy'n ceisio plesio dynion, ond mewn unplygrwydd calon yn ofn yr Arglwydd.23 Beth bynnag yr ydych yn ei wneud, gweithiwch â'ch holl galon, fel i'r Arglwydd, ac nid i neb arall.
24 Gwyddoch mai oddi wrth yr Arglwydd y byddwch yn derbyn yr etifeddiaeth yn wobr. Gwasanaethwch Grist, eich Meistr chwi.
25 Oherwydd y sawl sy'n gwneud cam fydd yn derbyn y cam yn ôl; nid oes ffafriaeth.
1
Chwi feistri, rhowch i'ch caethweision yr hyn sy'n gyfiawn a theg, gan wybod fod gennych chwithau hefyd Feistr yn y nef.2
Parhewch i weddïo yn ddyfal, yn effro, ac yn ddiolchgar.3 Gweddïwch yr un pryd drosom ninnau hefyd, ar i Dduw agor inni ddrws i'r gair, inni gael traethu dirgelwch Crist, y dirgelwch yr wyf yn garcharor er ei fwyn.
4 Gweddïwch ar i mi ei amlygu, fel y mae'n ddyletswydd arnaf lefaru.
5 Byddwch yn ddoeth eich ymddygiad tuag at y rhai sydd y tu allan; daliwch ar eich cyfle.
6 Bydded eich gair bob amser yn rasol, wedi ei flasu â halen, ichwi fedru ateb pob un fel y dylid.
7
Fe gewch yr holl hanes amdanaf gan Tychicus, y brawd annwyl a'r gweinidog ffyddlon, a'm cydwas yn yr Arglwydd.8 Yr wyf yn ei anfon atoch yn unswydd ichwi gael gwybod am ein hynt, ac er mwyn iddo ef eich calonogi.
9 Daw Onesimus gydag ef, y brawd ffyddlon ac annwyl, sy'n un ohonoch chwi. Fe gewch yr holl hanes oddi yma ganddynt hwy.
10
Y mae Aristarchus, fy nghydgarcharor, yn eich cyfarch; a Marc, cefnder Barnabas (cawsoch orchmynion ynglŷn ag ef: os daw atoch, rhowch groeso iddo);11 a Jesws, a elwir Jwstus. Dyma'r unig gredinwyr Iddewig sy'n cydweithio â mi dros deyrnas Dduw; a buont yn gysur mawr imi.
12 Y mae Epaffras, sy'n un ohonoch, caethwas Crist Iesu, yn eich cyfarch. Y mae ef bob amser yn gweddïo'n daer drosoch chwi, ar ichwi sefyll yn gadarn, yn gredinwyr aeddfed, ac yn gwbl argyhoeddedig ym mhob dim y mae Duw yn ei ewyllysio.
13 Yr wyf yn tystio amdano ei fod yn llafurio'n ddygn trosoch chwi, a thros y rhai sydd yn Laodicea ac yn Hierapolis.
14 Y mae Luc, y meddyg annwyl, a Demas yn eich cyfarch.
15 Cyfarchwch y credinwyr yn Laodicea, a Nymffa a'r eglwys sy'n ymgynnull yn ei thŷ.
16 A phan fydd y llythyr hwn wedi ei ddarllen yn eich plith chwi, parwch iddo gael ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid. Yr ydych chwithau hefyd i ddarllen y llythyr o Laodicea.
17 A dywedwch wrth Archipus, “Gofala dy fod yn cyflawni'r gwasanaeth a ymddiriedodd yr Arglwydd iti.”
18
Y mae'r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul. Cofiwch fy mod yng ngharchar. Gras fyddo gyda chwi!