1
Gair yr ARGLWYDD i Israel trwy Malachi.2
“Rwy'n eich caru,” medd yr ARGLWYDD, a dywedwch chwithau, “Ym mha ffordd yr wyt yn ein caru?” “Onid yw Esau'n frawd i Jacob?” medd yr ARGLWYDD.3 “Yr wyf yn caru Jacob, ond yn casáu Esau; gwneuthum ei fynyddoedd yn ddiffeithwch a'i etifeddiaeth yn gartref i siacal yr anialwch.”
4 Os dywed Edom, “Maluriwyd ni, ond adeiladwn ein hadfeilion eto,” fe ddywed ARGLWYDD y Lluoedd fel hyn: “Os adeiladant, fe dynnaf i lawr, ac fe'u gelwir yn diriogaeth drygioni ac yn bobl y digiodd yr ARGLWYDD wrthynt am byth.”
5 Cewch weld hyn â'ch llygaid eich hunain a dweud, “Y mae'r ARGLWYDD yn fawr hyd yn oed y tu allan i Israel.”
6
“Y mae mab yn anrhydeddu ei dad, a gwas ei feistr. Os wyf fi'n dad, ple mae f'anrhydedd? Os wyf yn feistr, ple mae fy mharch?” medd ARGLWYDD y Lluoedd wrthych chwi'r offeiriaid, sy'n dirmygu ei enw. A dywedwch, “Sut y bu inni ddirmygu dy enw?”7 “Wrth offrymu bwyd halogedig ar fy allor.” A dywedwch, “Sut y bu inni ei halogi?” “Wrth feddwl y gellir dirmygu bwrdd yr ARGLWYDD,
8 a thybio, pan fyddwch yn offrymu anifeiliaid dall yn aberth, nad yw hynny'n ddrwg, a phan fyddwch yn offrymu rhai cloff neu glaf, nad yw hynny'n ddrwg. Pe dygech hyn i lywodraethwr y wlad, a fyddai ef yn fodlon ac yn dangos ffafr atoch?” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
9 “Yn awr, ceisiwch ffafr Duw, er mwyn iddo drugarhau wrthym; a'r fath rodd gennych, a ddengys ef ffafr atoch?” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
10 “O na fyddai rhywun o'ch plith yn cloi'r drysau, rhag i chwi aberthu'n ofer ar fy allor! Nid wyf yn fodlon o gwbl arnoch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “ac ni dderbyniaf offrwm gennych.
11 Oherwydd y mae f'enw yn fawr ymysg y cenhedloedd o'r dwyrain i'r gorllewin, ac ym mhob man offrymir arogldarth ac offrwm pur i'm henw; oherwydd mawr yw f'enw ymysg y cenhedloedd,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
12 “Ond yr ydych chwi yn ei halogi wrth feddwl y gallwch ddifwyno bwrdd yr ARGLWYDD â bwyd gwrthodedig.
13 Wrth ei arogli, fe ddywedwch, ‘Mor atgas yw!’ ” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “Os dygwch anifeiliaid anafus, cloff neu glaf, a'u cyflwyno'n offrwm, a dderbyniaf hwy gennych?” medd yr ARGLWYDD.
14 “Melltith ar y twyllwr sy'n addunedu hwrdd o'i braidd, ond sy'n aberthu i'r Arglwydd un â nam arno; oherwydd brenin mawr wyf fi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “a'm henw'n ofnadwy ymhlith y cenhedloedd.”
1
Yn awr, offeiriaid, i chwi y mae'r gorchymyn hwn.2 “Os na wrandewch, a gofalu am anrhydeddu fy enw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “yna anfonaf felltith arnoch, a melltithiaf eich bendithion; yn wir, yr wyf wedi eu melltithio eisoes, am nad ydych yn ystyried.
3 Wele fi'n torri ymaith eich braich ac yn taflu carthion i'ch wynebau, carthion eich uchelwyliau, ac yn eich troi ymaith oddi wrthyf.
4 Yna cewch wybod imi anfon y gorchymyn hwn atoch, er mwyn parhau fy nghyfamod â Lefi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
5 “Fy nghyfamod ag ef oedd bywyd a heddwch; rhoddais hyn iddo er mwyn iddo ofni, ac ofnodd yntau fi a pharchu fy enw.
6 Gwir gyfarwyddyd oedd yn ei enau, ac ni chaed twyll ar ei wefusau; rhodiai gyda mi mewn heddwch ac uniondeb, a throdd lawer oddi wrth ddrygioni.
7 Y mae gwefusau offeiriad yn diogelu gwybodaeth, ac y mae pawb yn ceisio cyfarwyddyd o'i enau, oherwydd cennad ARGLWYDD y Lluoedd yw.
8 Ond troesoch chwi oddi ar y ffordd, a gwneud i lawer faglu â'ch cyfarwyddyd; yr ydych wedi diddymu cyfamod Lefi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
9 “Yr wyf finnau wedi eich gwneud yn ddirmygus ac yn waradwyddus gan yr holl bobl, yn gymaint ag ichwi beidio â chadw fy ffyrdd, ac ichwi ddangos ffafr yn eich cyfarwyddyd.”
10
Onid un tad sydd gennym oll? Onid un Duw a'n creodd? Pam felly yr ydym yn dwyllodrus tuag at ein gilydd, gan ddifwyno cyfamod ein hynafiaid?11 Bu Jwda'n dwyllodrus, a gwnaed pethau ffiaidd yn Israel ac yn Jerwsalem; oherwydd halogodd Jwda y cysegr a gâr yr ARGLWYDD trwy briodi merch duw estron.
12 Bydded i'r ARGLWYDD dorri ymaith o bebyll Jacob pwy bynnag a wna hyn, boed dyst neu ddiffynnydd, er iddo ddwyn offrwm i ARGLWYDD y Lluoedd.
13
Dyma beth arall a wnewch: yr ydych yn tywallt dagrau ar allor yr ARGLWYDD, gan wylo a galaru am nad yw ef bellach yn edrych ar eich offrwm nac yn derbyn rhodd gennych.14 Yr ydych yn gofyn, “Pam?” Am i'r ARGLWYDD fod yn dyst rhyngot ti a gwraig dy ieuenctid, y buost yn anffyddlon iddi, er mai hi yw dy gymar a'th wraig trwy gyfamod.
15 Onid yn un y gwnaeth chwi, yn gnawd ac ysbryd? A beth yw amcan yr undod hwn, ond cael plant i Dduw? Gwyliwch arnoch eich hunain rhag bod yn anffyddlon i wraig eich ieuenctid.
16 “Oherwydd yr wyf yn casáu ysgariad,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel, “a'r sawl sy'n gwisgo trais fel dilledyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. Felly, gwyliwch arnoch eich hunain rhag bod yn anffyddlon.
17
Yr ydych wedi blino'r ARGLWYDD â'ch geiriau. Gofynnwch, “Sut yr ydym wedi ei flino?” Trwy ddweud, “Y mae pawb sy'n gwneud drygioni yn dda yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac y mae'n fodlon arnynt”; neu trwy ofyn, “Ple mae Duw cyfiawnder?”1
“Wele fi'n anfon fy nghennad i baratoi fy ffordd o'm blaen; ac yn sydyn fe ddaw'r Arglwydd yr ydych yn ei geisio i mewn i'w deml; y mae cennad y cyfamod yr ydych yn hoff ohono yn dod,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.2 Pwy a all ddal dydd ei ddyfodiad, a phwy a saif pan ymddengys? Y mae fel tân coethydd ac fel sebon golchydd.
3 Fe eistedd i lawr fel un yn coethi a phuro arian, ac fe bura feibion Lefi a'u coethi fel aur ac arian, er mwyn iddynt fod yn addas i ddwyn offrymau i'r ARGLWYDD.
4 Yna bydd offrwm Jwda a Jerwsalem yn hyfrydwch i'r ARGLWYDD, fel yn y dyddiau gynt a'r blynyddoedd a fu.
5
“Yna nesâf atoch i farn, yn dyst parod yn erbyn dewiniaid a godinebwyr; yn erbyn y rhai sy'n tyngu'n gelwyddog; yn erbyn y rhai sy'n gorthrymu'r gwas cyflog, y weddw a'r amddifad; yn erbyn y rhai sy'n gwthio'r estron o'r neilltu, ac nad ydynt yn fy ofni i,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.6
“Oherwydd nid wyf fi, yr ARGLWYDD, yn newid, ac nid ydych chwithau'n peidio â bod yn blant Jacob.7 O ddyddiau eich hynafiaid, troesoch oddi wrth fy neddfau a pheidio â'u cadw. Dychwelwch ataf fi, a dychwelaf finnau atoch chwi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “A dywedwch, ‘Sut y dychwelwn?’
8 A ysbeilia rhywun Dduw? Eto yr ydych chwi yn fy ysbeilio i. A dywedwch, ‘Sut yr ydym yn dy ysbeilio?’ Yn eich degymau a'ch cyfraniadau.
9 Fe'ch melltithiwyd â melltith am eich bod yn fy ysbeilio i, y genedl gyfan ohonoch.
10 Dygwch y degwm llawn i'r trysordy, fel y bo bwyd yn fy nhŷ. Profwch fi yn hyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “nes imi agor i chwi ffenestri'r nefoedd a thywallt arnoch fendith yn helaeth.
11 Ceryddaf hefyd y locust, rhag iddo ddifetha cynnyrch eich tir a gwneud eich gwinwydden yn ddiffrwyth,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
12 “Yna bydd yr holl genhedloedd yn dweud, ‘Gwyn eich byd’, oherwydd byddwch yn wlad o hyfrydwch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
13
“Bu eich geiriau'n galed yn f'erbyn,” medd yr ARGLWYDD, “a dywedwch, ‘Beth a ddywedasom yn dy erbyn?’14 Dywedasoch, ‘Ofer yw gwasanaethu Duw. Pa ennill yw cadw ei ddeddfau neu rodio'n wynepdrist gerbron ARGLWYDD y Lluoedd?
15 Yn awr, yr ydym ni'n ystyried mai'r trahaus sy'n hapus, ac mai'r rhai sy'n gwneud drwg sy'n llwyddo, ac yn dianc hefyd er iddynt herio Duw.’ ”
16
Yna, fel yr oedd y rhai a ofnai Dduw yn siarad â'i gilydd, sylwodd Duw a gwrando, ac ysgrifennwyd ger ei fron gofrestr o'r rhai a oedd yn ofni'r ARGLWYDD ac yn meddwl am ei enw.17 “Eiddof fi fyddant,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “fy eiddo arbennig ar y dydd pan weithredaf; ac arbedaf hwy fel y mae dyn yn arbed ei fab, a'i gwasanaetha.
18 Yna, unwaith eto, byddwch yn gweld rhagor rhwng y cyfiawn a'r drygionus, rhwng yr un sy'n gwasanaethu Duw a'r un nad yw.”
1
“Wele'r dydd yn dod, yn llosgi fel ffwrnais, pan fydd yr holl rai balch a'r holl wneuthurwyr drwg yn sofl; bydd y dydd hwn sy'n dod yn eu llosgi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “heb adael iddynt na gwreiddyn na changen.2 Ond i chwi sy'n ofni fy enw fe gyfyd haul cyfiawnder â meddyginiaeth yn ei esgyll, ac fe ewch allan a llamu fel lloi wedi eu gollwng.
3 Fe sathrwch y rhai drwg, oherwydd byddant fel lludw dan wadnau eich traed, ar y dydd pan weithredaf,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
4
“Cofiwch gyfraith fy ngwas Moses, y deddfau a'r ordeiniadau a orchmynnais iddo yn Horeb ar gyfer Israel gyfan.5
“Wele fi'n anfon atoch Elias y proffwyd cyn dod dydd mawr ac ofnadwy'r ARGLWYDD.6 Ac fe dry galonnau'r rhieni at y plant a chalonnau'r plant at y rhieni, rhag imi ddod a tharo'r ddaear â difodiant.”