1
Yn yr wythfed mis o ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Sechareia fab Beracheia, fab Ido, a dweud,2 “Digiodd yr ARGLWYDD yn fawr wrth eich hynafiaid.
3 Dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Dychwelwch ataf fi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘a dychwelaf finnau atoch chwi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd.
4 ‘Peidiwch â bod fel eich hynafiaid, y galwodd y proffwydi gynt arnynt, a dweud, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Trowch oddi wrth eich ffyrdd drygionus a'ch gweithredoedd drygionus, ond ni wrandawsant na rhoi sylw imi,’ medd yr ARGLWYDD.
5 ‘Eich hynafiaid—ple maent? A'r proffwydi—a ydynt i fyw am byth?
6 Ond y geiriau a'r deddfau a orchmynnais i'm gweision y proffwydi—oni ddaethant ar eich hynafiaid? A ddychwelasant hwy a dweud, Gwnaeth ARGLWYDD y Lluoedd fel y bwriadodd i ni am ein ffyrdd a'n gweithredoedd?’ ”
7
Ar y pedwerydd ar hugain o'r unfed mis ar ddeg, sef mis Sebat, o ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Sechareia fab Beracheia, fab Ido.8 Dywedodd Sechareia: Neithiwr cefais weledigaeth, dyn yn marchogaeth ar geffyl coch. Yr oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd yn y pant, ac o'i ôl yr oedd meirch cochion, brithion a gwynion.
9 A gofynnais, “Beth yw'r rhai hyn, arglwydd?” A dywedodd yr angel oedd yn siarad â mi, “Dangosaf i ti beth ydynt.”
10 Yna dywedodd y gŵr oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, “Dyma'r rhai a anfonodd yr ARGLWYDD i dramwyo dros y ddaear.”
11 A dywedasant wrth angel yr ARGLWYDD, a oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, “Yr ydym wedi bod dros y ddaear, ac y mae'r holl ddaear yn dawel ac yn heddychlon.”
12 Yna atebodd angel yr ARGLWYDD, “O ARGLWYDD y Lluoedd, am ba hyd y peidi â thosturio wrth Jerwsalem ac wrth ddinasoedd Jwda, y dangosaist dy lid wrthynt y deng mlynedd a thrigain hyn?”
13 A llefarodd yr Arglwydd eiriau caredig a chysurlon wrth yr angel oedd yn siarad â mi,
14 a dywedodd yr angel oedd yn siarad â mi, “Cyhoedda, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yr wyf yn eiddigeddus iawn dros Jerwsalem a thros Seion.
15 Yr wyf yn llawn llid mawr yn erbyn y cenhedloedd y mae'n esmwyth arnynt, am iddynt bentyrru drwg ar ddrwg pan nad oedd fy llid ond bychan.’
16 Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Dychwelaf i Jerwsalem mewn trugaredd ac adeiledir fy nhŷ ynddi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘ac estynnir llinyn mesur dros Jerwsalem.’
17 Cyhoedda hefyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd fy ninasoedd eto'n orlawn o ddaioni; rhydd yr ARGLWYDD eto gysur i Seion, a bydd eto'n dewis Jerwsalem.’ ”
18
Edrychais i fyny a gwelais, ac wele bedwar corn.19 A gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth yw'r rhain?” A dywedodd wrthyf, “Dyma'r cyrn a wasgarodd Jwda, Israel a Jerwsalem.”
20 Yna dangosodd yr ARGLWYDD imi bedwar gof.
21 A dywedais, “Beth y mae'r rhain am ei wneud?” Atebodd, “Bu'r cyrn hyn yn gwasgaru Jwda mor llwyr fel na allai neb godi ei ben; ond daeth y gofaint i'w dychryn a dinistrio cyrn y cenhedloedd a gododd gorn yn erbyn gwlad Jwda i'w gwasgaru.”
1
Pan edrychais i fyny, gwelais ŵr â llinyn mesur yn ei law,2 a dywedais, “Ble'r wyt ti'n mynd?” Atebodd, “I fesur Jerwsalem, i weld beth yw ei lled a beth yw ei hyd.”
3 Wrth i'r angel oedd yn siarad â mi ddod allan, daeth angel arall i'w gyfarfod,
4 a dweud wrtho, “Rhed i ddweud wrth y llanc acw, ‘Bydd Jerwsalem yn faestrefi heb furiau, gan mor niferus fydd pobl ac anifeiliaid ynddi.
5 A byddaf fi,’ medd yr ARGLWYDD, ‘yn fur o dân o'i hamgylch, a byddaf yn ogoniant yn ei chanol.’ ”
6
“Gwyliwch, gwyliwch! Ffowch o dir y gogledd,” medd yr ARGLWYDD, “oherwydd taenaf chwi ar led fel pedwar gwynt y nefoedd,” medd yr ARGLWYDD.7 “Gwyliwch! Ffowch i Seion, chwi sy'n trigo ym Mabilon.”
8 Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, wedi i'w ogoniant fy anfon at y cenhedloedd sy'n eich ysbeilio, am fod pob un sy'n cyffwrdd â chwi yn cyffwrdd â channwyll ei lygad:
9 “Wele fi'n ysgwyd fy nwrn yn eu herbyn, a byddant yn ysbail i'w gweision eu hunain.” Yna cewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd.
10 “Gwaedda a gorfoledda, ferch Seion; oherwydd yr wyf yn dod i drigo yn dy ganol,” medd yr ARGLWYDD.
11 “A bydd cenhedloedd lawer yn glynu wrth yr ARGLWYDD yn y dydd hwnnw, ac yn dod yn bobl i mi, a byddaf yn trigo yn dy ganol, a chei wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd atat.
12 Bydd yr ARGLWYDD yn etifeddu Jwda yn gyfran iddo yn y tir sanctaidd, a bydd eto yn dewis Jerwsalem.
13 Distawed pawb gerbron yr ARGLWYDD, oherwydd y mae wedi codi o'i drigfa sanctaidd.”
1
Yna dangosodd imi Josua yr archoffeiriad, yn sefyll o flaen angel yr ARGLWYDD, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw i'w gyhuddo.2 A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “Y mae'r ARGLWYDD yn dy geryddu di, Satan; yr ARGLWYDD, yr un a ddewisodd Jerwsalem, sy'n dy geryddu di. Onid marworyn wedi ei arbed o'r tân yw hwn?”
3 Yr oedd Josua yn sefyll o flaen yr angel mewn dillad budron;
4 a dywedodd yr angel wrth ei osgordd, “Tynnwch y dillad budron oddi amdano.” Dywedodd wrth Josua, “Edrych fel y symudais dy euogrwydd oddi wrthyt, ac fe'th wisgaf â gwisgoedd gwynion.”
5 Dywedodd hefyd, “Rhodder twrban glân am ei ben”; a rhoesant dwrban glân am ei ben, a dillad amdano; ac yr oedd angel yr ARGLWYDD yn sefyll gerllaw.
6 Yna rhybuddiodd angel yr ARGLWYDD Josua a dweud,
7 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Os rhodi yn fy ffyrdd a chadw fy ngorchmynion, cei reoli fy nhŷ a gofalu am fy llysoedd, a rhof iti'r hawl i fynd a dod gyda'r osgordd.
8 Gwrando, Josua yr archoffeiriad, ti a'th gyfeillion sydd ger dy fron, oherwydd arwyddion yw'r dynion hyn. Wele fi'n arwain allan fy ngwas, y Blaguryn.
9 Dyma'r garreg a osodaf o flaen Josua, carreg ac iddi saith llygad, ac wele fi'n egluro eu hystyr,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd. ‘Symudaf ymaith euogrwydd y tir hwn mewn un diwrnod.
10 Y dydd hwnnw,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘byddwch yn gwahodd bob un ei gilydd i eistedd o dan ei winwydden ac o dan ei ffigysbren.’ ”
1
Dychwelodd yr angel oedd yn siarad â mi, a'm deffro fel rhywun yn deffro o'i gwsg,2 a dweud wrthyf, “Beth a weli?” Atebais innau, “Yr wyf yn gweld canhwyllbren, yn aur i gyd, a'i badell ar ei ben; y mae iddo saith o lampau a saith o bibellau i'r lampau arno;
3 y mae dwy olewydden gerllaw iddo, un ar dde'r badell a'r llall ar ei chwith.”
4 Gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth yw'r rhain, f'arglwydd?”
5 Ac atebodd yr angel oedd yn siarad â mi, “Oni wyddost beth yw'r rhain?” Dywedais, “Na wn i, f'arglwydd.”
6 Yna dywedodd wrthyf, “Dyma air yr ARGLWYDD at Sorobabel: ‘Nid trwy lu ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd.
7 Beth wyt ti, O fynydd mawr? O flaen Sorobabel nid wyt ond gwastadedd. Bydd ef yn gosod y garreg uchaf, a phawb yn galw arni, ‘Bendith! Bendith arni!’ ”
8 Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
9 “Dwylo Sorobabel sy'n sylfaenu'r tŷ hwn, a'i ddwylo ef a'i gorffen”; a chewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd i atoch.
10 “Pwy bynnag a ddirmygodd ddydd y pethau bychain, caiff lawenhau wrth weld carreg y gwahanu yn llaw Sorobabel.
“Y saith hyn yw llygaid yr ARGLWYDD sy'n tramwyo dros yr holl ddaear.”11
Yna gofynnais iddo, “Beth yw'r ddwy olewydden hyn ar dde a chwith y canhwyllbren?”12 A gofynnais iddo eilwaith, “Beth yw'r ddwy gangen olewydd sydd yn ymyl y ddwy bibell aur sy'n tywallt yr olew ?”
13 Ac atebodd fi, “Oni wyddost beth yw'r rhain?” Dywedais innau, “Na wn i, f'arglwydd.”
14 Yna dywedodd, “Y rhain yw'r ddau eneiniog sy'n gwasanaethu ARGLWYDD yr holl ddaear.”
1
Edrychais i fyny eto, a gweld sgrôl yn ehedeg.2 A dywedodd wrthyf, “Beth a weli?” Dywedais innau, “Yr wyf yn gweld sgrôl yn ehedeg, yn ugain cufydd ei hyd, a'i lled yn ddeg cufydd.”
3 Yna dywedodd wrthyf, “Dyma'r felltith sy'n mynd allan dros yr holl ddaear: yn ôl un ochr, torrir ymaith pwy bynnag sy'n lladrata; yn ôl yr ochr arall, torrir ymaith pwy bynnag sy'n tyngu anudon.
4 Fe'i hanfonaf allan,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “ac fe â i mewn i dŷ'r lleidr ac i dŷ'r un sy'n tyngu'n gelwyddog yn fy enw; ac fe erys yng nghanol ei dŷ a'i ddifetha, yn goed a cherrig.”
5
Daeth yr angel oedd yn siarad â mi a dweud wrthyf, “Edrych i fyny i weld beth yw hyn sy'n dod i'r golwg.”6 Pan ofynnais, “Beth ydyw?” atebodd, “Casgen sy'n dod.” A dywedodd, “Dyma'u drygioni trwy'r holl ddaear.”
7 Yna codwyd y caead plwm, ac yr oedd dynes yn eistedd yn y gasgen.
8 Dywedodd yr angel, “Drygioni yw hon,” a thaflodd hi i waelod y gasgen a chau'r caead plwm arni.
9 Edrychais i fyny, a gweld dwy wraig yn dod, a'r gwynt dan eu hadenydd (yr oedd ganddynt adenydd fel adenydd garan), ac yn codi'r gasgen rhwng nefoedd a daear.
10 Yna gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “I ble maent yn mynd â'r gasgen?”
11 Dywedodd wrthyf, “I godi tŷ iddi yng ngwlad Sinar, a phan fydd yn barod fe'i gadewir yno yn ei lle priodol.”
1
Edrychais i fyny eto, a gweld pedwar cerbyd yn dod allan rhwng dau fynydd, a'r rheini'n fynyddoedd o bres.2 Wrth y cerbyd cyntaf yr oedd meirch cochion, wrth yr ail, feirch duon,
3 wrth y trydydd, feirch gwynion, ac wrth y pedwerydd, feirch brithion.
4 Yna gofynnais i'r angel oedd yn siarad â mi, “Beth yw'r rhain, f'arglwydd?”
5 Ac atebodd yr angel, “Y rhain yw pedwar gwynt y nefoedd sy'n mynd allan o'u safle gerbron Arglwydd yr holl ddaear.
6 Y mae'r cerbyd gyda cheffylau duon yn mynd i dir y gogledd, yr un gyda'r rhai gwynion i'r gorllewin, yr un gyda'r rhai brithion i'r de.”
7 Daeth y meirch allan yn barod i dramwyo'r ddaear. A dywedodd, “Ewch i dramwyo'r ddaear.” A gwnaethant hynny.
8 Yna galwodd arnaf a dweud, “Edrych fel y mae'r rhai sy'n mynd i dir y gogledd wedi rhoi gorffwys i'm hysbryd yn nhir y gogledd.”
9
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,10 “Cymer arian ac aur oddi ar Haldai, Tobeia a Jedaia, caethgludion a ddaeth o Fabilon, a dos di y dydd hwnnw i dŷ Joseia fab Seffaneia.
11 Gwna goron o'r arian a'r aur, a'i rhoi ar ben Josua fab Josedec, yr archoffeiriad,
12 a dweud wrtho, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Wele'r dyn a'i enw Blaguryn, oherwydd blagura o'i gyff ac adeiladu teml yr ARGLWYDD.
13 Ef fydd yn adeiladu teml yr ARGLWYDD ac yn dwyn anrhydedd ac yn eistedd i deyrnasu ar ei orsedd; bydd offeiriad yn ymyl ei orsedd a chytundeb perffaith rhyngddynt.’
14 A bydd y goron yn nheml yr ARGLWYDD yn goffâd i Haldai, Tobeia, Jedaia a Joseia fab Seffaneia.
15 Daw rhai o bell i adeiladu teml yr ARGLWYDD, a chewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd i atoch. A bydd hyn os gwrandewch yn astud ar lais yr ARGLWYDD eich Duw.”
1
Ym mhedwaredd flwyddyn y Brenin Dareius, ar y pedwerydd dydd o'r nawfed mis, Cislef, daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia.2 Yr oedd pobl Bethel wedi anfon Sareser a Regem-melech a'u gwŷr i geisio ffafr yr ARGLWYDD,
3 ac i ofyn i'r offeiriaid oedd yn nhŷ ARGLWYDD y Lluoedd ac i'r proffwydi, “A ddylid galaru ac ymprydio yn y pumed mis fel y gwneir ers blynyddoedd bellach?”
4 Yna daeth gair ARGLWYDD y Lluoedd ataf a dweud,
5 “Dywed wrth holl bobl y tir ac wrth yr offeiriaid, ‘Pan oeddech yn ymprydio ac yn galaru yn y pumed mis ac yn y seithfed mis y deng mlynedd a thrigain hyn, ai er fy mwyn i yr oeddech yn ymprydio?
6 A phan oeddech yn bwyta ac yn yfed, onid er eich mwyn eich hunain yr oeddech yn bwyta ac yn yfed?
7 Onid hyn a gyhoeddodd yr ARGLWYDD trwy'r proffwydi gynt pan oedd Jerwsalem yn boblog a llewyrchus, gyda'i threfi o'i hamgylch, a'r Negef a'r Seffela hefyd yn boblog?’ ”
8
Daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia:9 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Barnwch yn deg, a dangoswch drugaredd a thosturi tuag at eich gilydd;
10 peidiwch â gorthrymu'r weddw, yr amddifad, yr estron a'r tlawd, na dyfeisio yn eich meddyliau ddrwg i'ch gilydd.’
11 Ond gwrthodasant wrando, a throi cefn yn ystyfnig arnaf, a chau eu clustiau rhag iddynt glywed.
12 Gwnaethant eu calonnau fel carreg rhag clywed y gyfraith a'r geiriau a anfonodd ARGLWYDD y Lluoedd â'i ysbryd trwy'r proffwydi gynt; a daeth digofaint mawr oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd.
13 ‘Nid oeddent hwy'n gwrando pan oeddwn i'n galw; yn yr un modd nid oeddwn innau'n gwrando pan oeddent hwy'n galw,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd,
14 ‘a gwasgerais hwy ymhlith yr holl genhedloedd nad oeddent yn eu hadnabod, a gadael eu tir yn ddiffaith ar eu hôl, heb neb yn mynd a dod yno. Felly y gwnaethant eu tir dymunol yn ddiffeithwch.’ ”
1
A daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,2 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yr wyf yn eiddigeddus dros Seion, yn eiddigeddus iawn; â llid mawr yr wyf yn eiddigeddus drosti.’
3 Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Dychwelaf i Seion a thrigo yng nghanol Jerwsalem, a gelwir Jerwsalem, Y Ddinas Ffyddlon, a mynydd ARGLWYDD y Lluoedd, Y Mynydd Sanctaidd.’
4 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd hen wŷr a gwragedd unwaith eto yn eistedd yn heolydd Jerwsalem, pob un â ffon yn ei law oherwydd ei henaint;
5 bydd strydoedd y ddinas yn llawn o fechgyn a genethod yn chwarae ar hyd y stryd.’
6 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Os yw'n rhyfedd yng ngolwg gweddill y bobl hyn yn y dyddiau hynny, a yw hefyd yn rhyfedd yn fy ngolwg i?’ medd ARGLWYDD y Lluoedd.
7 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Wele fi'n gwaredu fy mhobl o wledydd y dwyrain a'r gorllewin, a'u dwyn i drigo yng nghanol Jerwsalem;
8 a byddant yn bobl i mi, a minnau'n Dduw iddynt hwy, mewn gwirionedd a chyfiawnder.’
9
“Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Chwi yn y dyddiau hyn sy'n clywed y geiriau hyn o enau'r proffwydi oedd yno pan osodwyd sylfeini tŷ ARGLWYDD y Lluoedd, cryfhaer eich dwylo i adeiladu'r deml.10 Oherwydd cyn y dyddiau hynny nid oedd llogi ar ddyn nac ar anifail, ac ni chaed llonydd gan y gelyn i fynd a dod, ac yr oeddwn yn gyrru pob un ohonynt yn erbyn ei gilydd.
11 Ond yn awr nid wyf yr un tuag at weddill y bobl hyn ag yn y dyddiau gynt,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd.
12 ‘Oherwydd bydd hau mewn heddwch; rhydd y winwydden ei ffrwyth, y tir ei gynnyrch, a'r nefoedd ei gwlith; rhof yr holl bethau hyn yn feddiant i weddill y bobl hyn.
13 Ac fel y buoch chwi, dŷ Jwda a thŷ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd, felly y'ch gwaredaf, a byddwch yn fendith. Peidiwch ag ofni, ond cryfhaer eich dwylo.’
14
“Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Fel y bwriedais wneud drwg i chwi pan gythruddodd eich hynafiaid fi,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd, ‘ac nid edifarheais,15 felly y bwriadaf eto yn y dyddiau hyn wneud da i Jerwsalem ac i dŷ Jwda; peidiwch ag ofni.
16 Dyma'r peth a wnewch: dywedwch y gwir wrth eich gilydd; gwnewch farn uniawn a chywir yn eich pyrth;
17 peidiwch â dyfeisio â'ch meddyliau ddrwg i'ch gilydd, na charu llwon celwyddog, oherwydd yr wyf yn casáu yr holl bethau hyn,’ medd yr ARGLWYDD.”
18
Daeth gair ARGLWYDD y Lluoedd ataf a dweud,19 “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Bydd ymprydiau'r pedwerydd mis, a'r pumed mis, a'r seithfed mis, a'r degfed mis yn troi'n dymhorau llawenydd a dedwyddwch, ac yn wyliau llawen i dŷ Jwda; felly carwch wirionedd a heddwch.’
20
“Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Daw eto bobloedd a thrigolion dinasoedd mawrion;21 bydd trigolion un dref yn mynd at drigolion tref arall ac yn dweud, Awn i geisio ffafr yr ARGLWYDD ac i ymofyn ag ARGLWYDD y Lluoedd; ac fe af finnau hefyd.
22 Daw pobloedd cryfion a chenhedloedd nerthol i ymofyn ag ARGLWYDD y Lluoedd yn Jerwsalem ac i geisio ffafr yr ARGLWYDD.’
23 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yn y dyddiau hynny bydd deg o blith cenhedloedd o bob iaith yn cydio yn llewys rhyw Iddew ac yn dweud, Awn gyda chwi, oherwydd clywsom fod Duw gyda chwi.’ ”
1
Oracl. Gair yr ARGLWYDD yn nhir Hadrach2
hefyd Hamath, sy'n terfynu arni,
a Tyrus a Sidon, er eu bod yn ddoeth iawn.
3
Cododd Tyrus dŵr iddi ei hun;
pentyrrodd arian fel llwch,
ac aur fel llaid heol.
4
Ond wele, y mae'r ARGLWYDD yn cymryd ei heiddo
ac yn difetha ei grym ar y môr;
ac ysir hithau yn y tân.
5
Bydd Ascalon yn gweld ac yn ofni,
Gasa hefyd, a bydd yn gwingo gan ofid,
ac Ecron, oherwydd drysir ei gobaith;
derfydd am frenin yn Gasa,
a bydd Ascalon heb drigolion;
6
pobl gymysgryw fydd yn trigo yn Asdod,
a thorraf ymaith falchder y Philistiad.
7
Tynnaf ymaith ei waed o'i enau,
a'i ffieidd-dra oddi rhwng ei ddannedd;
bydd yntau'n weddill i'n Duw ni,
ac fel tylwyth yn Jwda;
a bydd Ecron fel y Jebusiaid.
8
Yna gwersyllaf i wylio fy nhŷ,
fel na chaiff neb fynd i mewn nac allan.
Ni ddaw gorthrymydd atynt mwyach,
oherwydd yr wyf yn gwylio'n awr â'm llygaid fy hun.
9
“Llawenha'n fawr, ferch Seion;
bloeddia'n uchel, ferch Jerwsalem.
Wele dy frenin yn dod atat
â buddugoliaeth a gwaredigaeth,
yn ostyngedig ac yn marchogaeth ar asyn,
ar ebol, llwdn asen.
10
Tyr ymaith y cerbyd o Effraim
a'r meirch o Jerwsalem;
a thorrir ymaith y bwa rhyfel.
Bydd yn siarad heddwch â'r cenhedloedd;
bydd ei lywodraeth o fôr i fôr,
o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.
11
“Amdanat ti, oherwydd gwaed y cyfamod rhyngom,
gollyngaf dy garcharorion yn rhydd o'r pydew di-ddŵr.
12
Dychwelwch i'ch amddiffynfa, chwi garcharorion hyderus;
heddiw yr wyf yn cyhoeddi i chwi adferiad dauddyblyg.
13
Yr wyf wedi plygu fy mwa, Jwda,
ac wedi gosod fy saeth ynddo, Effraim;
codaf dy feibion, Seion,
yn erbyn meibion Groeg,
a gwnaf di yn gleddyf rhyfelwr.”
14
Bydd yr ARGLWYDD yn ymddangos uwch eu pennau,
a'i saeth yn fflachio fel mellten;
Bydd yr Arglwydd DDUW yn rhoi bloedd â'r utgorn
ac yn mynd allan yng nghorwyntoedd y de.
15
Bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn iddynt;
llwyddant , sathrant y cerrig tafl,
byddant yn derfysglyd feddw fel gan win,
wedi eu trochi fel cyrn allor.
16
Y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn eu gwaredu;
bydd ei bobl fel praidd,
fel gemau coron yn disgleirio dros ei dir.
17
Mor dda ac mor brydferth fydd!
Bydd ŷd yn nerth i'r llanciau,
a gwin i'r morynion.
1
Gofynnwch i'r ARGLWYDD am law2
Oherwydd y mae'r teraffim yn llefaru oferedd,
a gweledigaeth y dewiniaid yn gelwydd;
cyhoeddant freuddwydion twyllodrus,
a chynnig cysur gwag.
Am hynny y mae'r bobl yn crwydro fel defaid,
yn druenus am eu bod heb fugail.
3
“Enynnodd fy llid yn erbyn y bugeiliaid,
a dygaf gosb ar arweinwyr y praidd;
oherwydd gofala ARGLWYDD y Lluoedd am ei braidd, tŷ Jwda,
a'u gwneud yn farch-rhyfel balch.
4
Ohonynt hwy y daw'r conglfaen a hoelen y babell;
ohonynt hwy y daw'r bwa rhyfel;
ohonynt hwy y daw pob cadfridog.
5
Byddant gyda'i gilydd fel rhyfelwyr
yn sathru'r heolydd lleidiog yn y frwydr;
brwydrant am fod yr ARGLWYDD gyda hwy,
a pharant gywilydd i farchogion.
6
Gwnaf dŷ Jwda yn nerthol,
a gwaredaf dŷ Joseff;
dychwelaf hwy am fy mod yn tosturio wrthynt,
a byddant fel pe bawn heb erioed eu gwrthod;
oherwydd myfi yw'r ARGLWYDD eu Duw, ac fe'u hatebaf.
7
Yna bydd Effraim fel rhyfelwr,
a'i galon yn llawenhau fel gan win,
a bydd ei blant yn gweld ac yn llawenychu,
a'u calonnau'n gorfoleddu yn yr ARGLWYDD.
8
Chwibanaf arnynt i'w casglu ynghyd, oherwydd gwaredaf hwy,
a byddant cyn amled ag y buont gynt.
9
Er imi eu gwasgaru ymysg cenhedloedd,
eto mewn gwledydd pell fe'm cofiant,
a magu plant, a dychwelyd.
10
Dygaf hwy'n ôl o wlad yr Aifft,
a chasglaf hwy o Asyria;
dygaf hwy i mewn i dir Gilead a Lebanon
hyd nes y byddant heb le.
11
Ânt trwy fôr yr argyfwng;
trewir tonnau'r môr,
a sychir holl ddyfnderoedd y Neil.
Darostyngir balchder Asyria,
a throir ymaith deyrnwialen yr Aifft.
12
Gwnaf hwy'n nerthol yn yr ARGLWYDD,
ac ymdeithiant yn ei enw,” medd yr ARGLWYDD.
1
Agor dy byrth, O Lebanon,2
Galarwch, ffynidwydd; oherwydd syrthiodd y cedrwydd,
dinistriwyd y coed cryfion.
Galarwch, dderw Basan,
oherwydd syrthiodd y goedwig drwchus.
3
Clywch alarnadu'r bugeiliaid,
am i'w gogoniant gael ei ddinistrio;
clywch ru'r llewod,
am i goedwig yr Iorddonen gael ei difetha.
4
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD fy Nuw: “Portha'r praidd sydd i'w lladd.5 Bydd y sawl sy'n eu prynu yn eu lladd heb deimlo'n euog; bydd y sawl sy'n eu gwerthu yn dweud, ‘Bendigedig fo'r ARGLWYDD, cefais gyfoeth’; ac ni fydd eu bugeiliaid yn tosturio wrthynt.
6 Yn wir, ni thosturiaf mwy wrth drigolion y wlad,” medd yr ARGLWYDD. “Wele fi'n gwneud i bawb syrthio i ddwylo'i gilydd ac i ddwylo'u brenin; ac fel y dinistrir y wlad, ni waredaf neb o'u gafael.”
7
Porthais y praidd a oedd i'w lladd ar gyfer y marchnatwyr. Cymerais ddwy ffon, a galw'r naill, Trugaredd, a'r llall, Undeb; a phorthais y praidd.8 Mewn un mis diswyddais dri o'r bugeiliaid am imi flino arnynt, ac yr oeddent hwythau'n fy nghasáu innau.
9 Yna dywedais, “Ni fugeiliaf chwi; y rhai sydd i farw, bydded iddynt farw, a'r rhai sydd i'w dinistrio, bydded iddynt fynd i ddinistr; a bydded i'r rhai sy'n weddill fwyta cnawd ei gilydd.”
10 A chymerais fy ffon Trugaredd a'i thorri, gan ddiddymu'r cyfamod a wneuthum â'r holl bobloedd.
11 Fe'i diddymwyd y dydd hwnnw, a gwyddai'r marchnatwyr a edrychai arnaf mai gair yr ARGLWYDD oedd hyn.
12 A dywedais wrthynt, “Os yw'n dderbyniol gennych, rhowch imi fy nghyflog; os nad yw, peidiwch.” A bu iddynt hwythau bwyso fy nghyflog, deg darn ar hugain o arian.
13 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Bwrw ef i'r drysorfa —y pris teg a osodwyd arnaf, i'm troi ymaith!” A chymerais y deg darn ar hugain a'u bwrw i'r drysorfa yn nhŷ'r ARGLWYDD.
14 Yna torrais yr ail ffon, Undeb, gan ddiddymu'r frawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.
15
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cymer eto offer bugail diwerth,16 oherwydd yr wyf yn codi yn y wlad fugail na fydd yn gofalu am y ddafad golledig, nac yn ceisio'r grwydredig , nac yn gwella'r friwedig, nac yn porthi'r iach, ond a fydd yn bwyta cnawd y rhai bras ac yn rhwygo'u traed i ffwrdd.
17
“Gwae'r bugail diwerth,1
Oracl. Gair yr ARGLWYDD am Israel. Dyma a ddywed yr ARGLWYDD a daenodd y nefoedd a sylfaenu'r ddaear a llunio ysbryd mewn pobl:2 “Wele fi'n gwneud Jerwsalem yn gwpan feddwol i'r holl bobloedd oddi amgylch; a bydd yn Jwda warchae yn erbyn Jerwsalem.
3 Yn y dydd hwnnw, pan fydd holl genhedloedd y ddaear wedi ymgasglu yn ei herbyn, gwnaf Jerwsalem yn garreg rhy drom i'r holl bobloedd, a bydd pwy bynnag a'i cwyd yn brifo'n arw.
4 Y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD, “trawaf bob ceffyl â syndod, a'i farchog â dryswch; cadwaf fy ngolwg ar dŷ Jwda, ond trawaf holl geffylau'r bobloedd yn ddall.
5 Yna dywed tylwythau Jwda wrthynt eu hunain, ‘Cafodd trigolion Jerwsalem nerth trwy ARGLWYDD y Lluoedd, eu Duw.’
6
“Y dydd hwnnw gwnaf dylwythau Jwda fel basged dân yng nghanol coed, fel ffagl dân mewn ysgub; byddant yn ysu'r holl bobloedd o'u cwmpas, ar y dde a'r chwith, ac eto bydd Jerwsalem ei hun yn aros yn ddiogel yn ei lle.7
“Rhydd yr ARGLWYDD waredigaeth yn gyntaf i deuluoedd Jwda, rhag i ogoniant tŷ Dafydd a gogoniant trigolion Jerwsalem ddyrchafu'n uwch na Jwda.8 Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn amddiffyn trigolion Jerwsalem, a bydd y gwannaf ohonynt fel Dafydd, yn y dydd hwnnw, a llinach Dafydd fel Duw, fel angel yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaenau.
9
“Yn y dydd hwnnw af ati i ddinistrio'r holl genhedloedd sy'n dod yn erbyn Jerwsalem.10 A thywalltaf ar linach Dafydd ac ar drigolion Jerwsalem ysbryd gras a gweddïau, ac edrychant ar yr un a drywanwyd ganddynt, a galaru amdano fel am uniganedig, ac wylo amdano fel am gyntafanedig.
11 Y dydd hwnnw bydd y galar yn Jerwsalem gymaint â'r galar am Hadad-rimmon yn nyffryn Megido.
12 Galara'r wlad, pob teulu wrtho'i hun—teulu llinach Dafydd wrtho'i hun, a'i wragedd wrthynt eu hunain; teulu llinach Nathan wrtho'i hun a'i wragedd wrthynt eu hunain;
13 teulu llinach Lefi wrtho'i hun, a'i wragedd wrthynt eu hunain; teulu Simei wrtho'i hun, a'i wragedd wrthynt eu hunain;
14 a'r gweddill o'r holl deuluoedd wrthynt eu hunain, a'u gwragedd wrthynt eu hunain.
1
“Yn y dydd hwnnw bydd ffynnon wedi ei hagor i linach Dafydd ac i drigolion Jerwsalem, ar gyfer pechod ac aflendid.2 Yn y dydd hwnnw,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “torraf ymaith enwau'r eilunod o'r tir, ac ni chofir hwy mwyach; symudaf hefyd o'r tir y proffwydi ac ysbryd aflendid.
3 Ac os cyfyd un i broffwydo eto, fe ddywed ei dad a'i fam a'i cenhedlodd, ‘Ni chei fyw, am iti lefaru twyll yn enw'r ARGLWYDD’, a bydd ei dad a'i fam a'i cenhedlodd yn ei ladd wrth iddo broffwydo.
4 Yn y dydd hwnnw bydd ar bob proffwyd gywilydd o'i weledigaeth wrth broffwydo, ac ni fydd yn gwisgo mantell o flew er mwyn twyllo,
5 ond dywed, ‘Nid proffwyd wyf fi, ond dyn yn trin tir, a'r tir yn gynhaliaeth imi o'm hieuenctid.’
6 Os dywed rhywun wrtho, ‘Beth yw'r creithiau hyn ar dy gorff?’ fe etyb, ‘Fe'u cefais yn nhŷ fy nghyfeillion.’ ”
7
“Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail,8
Yn yr holl dir,” medd yr ARGLWYDD,
“trewir dwy ran o dair, a threngant,
a gadewir traean yn fyw.
9
A dygaf y drydedd ran trwy dân,
a'u puro fel y purir arian,
a'u profi fel y profir aur.
Byddant yn galw ar f'enw,
a minnau fy hun yn ateb;
dywedaf fi, ‘Fy mhobl ydynt’,
a dywedant hwy, ‘Yr ARGLWYDD yw ein Duw’.”
1
Wele, y mae diwrnod i'r ARGLWYDD yn dod, ac fe rennir yn dy ŵydd yr ysbail a gymerwyd oddi arnat.2 Casglaf yr holl genhedloedd i frwydr yn erbyn Jerwsalem; cymerir y ddinas, ysbeilir y tai, a threisir y gwragedd, caethgludir hanner y ddinas, ond ni thorrir ymaith weddill y bobl o'r ddinas.
3 Yna â'r ARGLWYDD allan i ymladd yn erbyn y cenhedloedd hynny, fel yr ymladd yn nydd brwydr.
4 Yn y dydd hwnnw, gesyd ei draed ar Fynydd yr Olewydd, sydd gyferbyn â Jerwsalem i'r dwyrain; a holltir Mynydd yr Olewydd yn ddau o'r dwyrain i'r gorllewin gan ddyffryn mawr, a symud hanner y mynydd tua'r gogledd a hanner tua'r de.
5 Llenwir y dyffryn rhwng y mynyddoedd (oherwydd y mae'r dyffryn rhyngddynt yn cyrraedd hyd Asal), a bydd wedi ei lenwi fel yr oedd ar ôl ei lenwi gan y daeargryn yn amser Usseia brenin Jwda. Yna bydd yr ARGLWYDD fy Nuw yn dod, a'i holl rai sanctaidd gydag ef .
6
Ar y dydd hwnnw ni bydd na gwres, nac oerni, na rhew.7 A bydd yn un diwrnod—y mae'n wybyddus i'r ARGLWYDD—heb wahaniaeth rhwng dydd a nos; a bydd goleuni gyda'r hwyr.
8
Ar y dydd hwnnw daw dyfroedd bywiol allan o Jerwsalem, eu hanner yn mynd i fôr y dwyrain a'u hanner i fôr y gorllewin, ac fe ddigwydd hyn haf a gaeaf.9 Yna bydd yr ARGLWYDD yn frenin ar yr holl ddaear; a'r dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn un, a'i enw'n un.
10 Bydd yr holl ddaear yn wastadedd o Geba i Rimmon yn y de, a Jerwsalem yn sefyll yn uchel yn ei lle ac yn boblog o borth Benjamin hyd le'r hen borth, hyd borth y gornel, ac o dŵr Hananel hyd winwryf y brenin.
11 Bydd yn boblog, ac ni fydd dan felltith mwyach, ond gellir byw'n ddiogel ynddi.
12
Bydd yr ARGLWYDD yn taro'r holl bobloedd a fu'n rhyfela yn erbyn Jerwsalem â'r pla hwn: bydd eu cnawd yn pydru, a hwythau'n dal ar eu traed, eu llygaid yn pydru yn eu tyllau, a'u tafod yn eu safn.13 Ar y dydd hwnnw daw dychryn mawr arnynt oddi wrth yr ARGLWYDD. Bydd y naill yn codi yn erbyn y llall, a byddant yn ymladd yn erbyn ei gilydd;
14 a bydd Jwda'n rhyfela yn Jerwsalem. Cesglir cyfoeth yr holl genhedloedd oddi amgylch—aur ac arian a digonedd o ddillad.
15 A syrth pla tebyg ar geffyl a mul, ar gamel ac asyn, ac ar bob anifail yn eu gwersylloedd.
16
Yna bydd pob un a adawyd o'r holl genhedloedd a ddaeth yn erbyn Jerwsalem yn dod i fyny flwyddyn ar ôl blwyddyn i addoli'r brenin, ARGLWYDD y Lluoedd, ac i gadw gŵyl y Pebyll.17 A ph'un bynnag o deuluoedd y ddaear nad â i fyny i Jerwsalem i addoli'r brenin, ARGLWYDD y Lluoedd, ni ddisgyn glaw arno.
18 Ac os bydd teulu'r Aifft heb fynd i fyny ac ymddangos, yna fe ddaw arnynt y pla sydd gan yr ARGLWYDD i daro'r cenhedloedd nad ydynt yn mynd i fyny i gadw gŵyl y Pebyll.
19 Dyna fydd cosb yr Aifft, a chosb unrhyw genedl nad yw'n mynd i fyny i gadw gŵyl y Pebyll.
20
Ar y dydd hwnnw, bydd “Sanctaidd i'r ARGLWYDD” wedi ei ysgrifennu ar glychau'r meirch, a bydd y cawgiau yn nhŷ'r ARGLWYDD fel y dysglau o flaen yr allor;21 a bydd pob cawg yn Jerwsalem a Jwda yn sanctaidd i ARGLWYDD y Lluoedd, a bydd pob un sy'n dod i aberthu yn cymryd un ohonynt i ferwi cig. Ni fydd marchnatwr yn nhŷ ARGLWYDD y Lluoedd ar y dydd hwnnw.