1

1

Yn ail flwyddyn y Brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, daeth gair yr ARGLWYDD trwy'r proffwyd Haggai at Sorobabel fab Salathiel, llywodraethwr Jwda, ac at Josua fab Josedec, yr archoffeiriad.

2 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Y mae'r bobl hyn yn dweud na ddaeth yr amser i adeiladu tŷ'r ARGLWYDD.”

3 A daeth gair yr ARGLWYDD trwy'r proffwyd Haggai:

4 “Ai amser yw i chwi eich hunain fyw yn eich tai moethus, a'r tŷ hwn yn adfeilion?”

5 Yn awr, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Ystyriwch eich cyflwr.

6 Hauasoch lawer, ond medi ychydig; yr ydych yn bwyta, ond heb gael digon; yr ydych yn yfed, ond heb eich llenwi byth; yr ydych yn ymwisgo, ond heb fod yn gynnes byth; y mae'r sawl sy'n ennill cyflog yn ei gadw mewn cod dyllog.”

7

Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Ystyriwch eich cyflwr.

8 Ewch i'r mynydd, torrwch goed i adeiladu'r tŷ, i mi gael ymhyfrydu ynddo a chael anrhydedd,” medd yr ARGLWYDD.

9 “Yr ydych yn edrych am lawer, ond yn cael ychydig; pan ddygwch y cynhaeaf adref, yr wyf yn chwythu arno. Pam?” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “Am fod fy nhŷ yn adfeilion, a chwithau bob un ohonoch â thŷ i fynd iddo.

10 Dyna pam yr ataliodd y nefoedd y gwlith ac y cadwodd y ddaear ei ffrwyth,

11 ac y cyhoeddais innau sychder ar y ddaear, y mynyddoedd, yr ŷd, y gwin, yr olew, ar bopeth o gynnyrch y tir, ar ddyn ac anifail, ac ar holl lafur dwylo.”

12

Gwrandawodd Sorobabel fab Salathiel a Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr ARGLWYDD eu Duw a geiriau Haggai, y proffwyd a anfonodd yr ARGLWYDD eu Duw; ac ofnodd y bobl o flaen yr ARGLWYDD.

13 Yna llefarodd Haggai, cennad yr ARGLWYDD, neges yr ARGLWYDD i'r bobl: “Yr wyf fi gyda chwi,” medd yr ARGLWYDD.

14 A chynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd Sorobabel fab Salathiel, llywodraethwr Jwda, ac ysbryd Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, a gweddill y bobl; a daethant a dechrau gweithio ar dŷ ARGLWYDD y Lluoedd, eu Duw hwy,

15 ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r chweched mis.

2

1

Yn ail flwyddyn y Brenin Dareius, yn y seithfed mis, ar yr unfed dydd ar hugain o'r mis, daeth gair yr ARGLWYDD trwy'r proffwyd Haggai:

2 “Dywed wrth Sorobabel fab Salathiel, llywodraethwr Jwda, ac wrth Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, ac wrth weddill y bobl,

3 ‘A adawyd un yn eich plith a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? Sut yr ydych chwi yn ei weld yn awr? Onid megis dim yn eich golwg?

4 Yn awr, ymgryfha, Sorobabel,’ ” medd yr ARGLWYDD, “ ‘ac ymgryfha, Josua fab Josedec, yr archoffeiriad, ac ymgryfhewch, holl bobl y tir,’ ” medd yr ARGLWYDD. “ ‘Gweithiwch, oherwydd yr wyf fi gyda chwi,’ ” medd ARGLWYDD y Lluoedd,

5 “ ‘yn unol â'r addewid a wneuthum i chwi pan ddaethoch allan o'r Aifft. Y mae fy ysbryd yn aros yn eich plith; peidiwch ag ofni.’ ”

6 Oherwydd fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Unwaith eto, ymhen ychydig, yr wyf am ysgwyd y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r sychdir,

7 ac ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd; daw trysor yr holl genhedloedd i mewn, a llanwaf y tŷ hwn â gogoniant,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

8 “Eiddof fi yr arian a'r aur,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

9 “Bydd gogoniant y tŷ diwethaf hwn yn fwy na'r cyntaf,” medd ARGLWYDD y Lluoedd; “ac yn y lle hwn rhof heddwch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.

10

Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis yn ail flwyddyn Dareius, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Haggai.

11 Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: “Gofynnwch fel hyn i'r offeiriaid am gyfarwyddyd:

12 ‘Os dwg un ym mhlyg ei wisg gig wedi ei gysegru, a gadael i'r wisg gyffwrdd â bara, neu gawl, neu win, neu olew, neu unrhyw fwyd, a fyddant yn gysegredig?’ ” Atebodd yr offeiriaid, “Na fyddant.”

13 Yna dywedodd Haggai, “Os bydd rhywun sy'n halogedig oherwydd cysylltiad â chorff marw yn cyffwrdd â'r rhain, a fyddant yn halogedig?” Atebodd yr offeiriaid, “Byddant.”

14 Yna dywedodd Haggai, “ ‘Felly y mae'r bobl hyn, a'r genedl hon ger fy mron,’ medd yr ARGLWYDD, ‘a hefyd holl waith eu dwylo; y mae pob offrwm a ddygant yma yn halogedig.’ ”

15

“Yn awr, ystyriwch sut y bu hyd at y dydd hwn. Cyn rhoi carreg ar garreg yn nheml yr ARGLWYDD, sut y bu?

16 Dôi un at bentwr ugain mesur, a chael deg; dôi at winwryf i dynnu hanner can mesur, a chael ugain.

17 Trewais chwi, a holl lafur eich dwylo, â malltod, llwydni a chenllysg, ac eto ni throesoch ataf,” medd yr ARGLWYDD.

18 “Yn awr ystyriwch sut y bydd o'r dydd hwn ymlaen, o'r pedwerydd dydd ar hugain o'r nawfed mis, dydd gosod sylfaen teml yr ARGLWYDD; ystyriwch.

19 A fydd had eto yn yr ysgubor? A fydd y winwydden, y ffigysbren, y pomgranadwydden a'r olewydden eto heb roi dim? O'r dydd hwn ymlaen fe'ch bendithiaf.”

20

Daeth gair yr ARGLWYDD at Haggai eilwaith ar bedwerydd dydd ar hugain y mis:

21 “Dywed wrth Sorobabel, llywodraethwr Jwda, ‘Yr wyf fi am ysgwyd y nefoedd a'r ddaear;

22 dymchwelaf orsedd brenhinoedd, dinistriaf gryfder teyrnasoedd y cenhedloedd, a dymchwelaf gerbydau a marchogion; bydd ceffylau a'u marchogion yn syrthio, pob un trwy gleddyf ei gyfaill.

23 Yn y dydd hwnnw,’ ” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “ ‘fe'th gymeraf di Sorobabel fab Salathiel, fy ngwas,’ ” medd yr ARGLWYDD, “ ‘ac fe'th wisgaf fel sêl-fodrwy, oherwydd tydi a ddewisais,’ ” medd ARGLWYDD y Lluoedd.