1

1

Gair yr ARGLWYDD, a ddaeth at Seffaneia fab Cushi, fab Gedaleia, fab Amareia, fab Heseceia, yn nyddiau Joseia fab Amon, brenin Jwda.

2

“Ysgubaf ymaith yn llwyr bopeth oddi ar wyneb y ddaear,” medd yr ARGLWYDD.

3
“Ysgubaf ymaith ddyn ac anifail;
ysgubaf ymaith adar y nefoedd a physgod y môr;
darostyngaf y rhai drygionus,
a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear,” medd yr ARGLWYDD.


4
“Estynnaf fy llaw yn erbyn Jwda
ac yn erbyn holl drigolion Jerwsalem;
a thorraf ymaith o'r lle hwn weddill Baal,
ac enw'r offeiriaid gau,

5
a'r rhai sy'n ymgrymu ar bennau'r tai i lu'r nef,
y rhai sy'n ymgrymu ac yn tyngu i'r ARGLWYDD
ond hefyd yn tyngu i Milcom,

6
a'r rhai sydd wedi cefnu ar yr ARGLWYDD,
ac nad ydynt yn ceisio'r ARGLWYDD nac yn ymgynghori ag ef.”


7
Distawrwydd o flaen yr Arglwydd DDUW!
Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;
y mae'r ARGLWYDD wedi paratoi aberth
ac wedi cysegru ei wahoddedigion.

8
“Ac ar ddydd aberth yr ARGLWYDD
mi gosbaf y swyddogion a'r tŷ brenhinol,
a phawb sy'n gwisgo dillad estron.

9
Ar y dydd hwnnw
mi gosbaf bawb sy'n camu dros y rhiniog
ac yn llenwi tŷ eu harglwydd â thrais a thwyll.


10
“Ar y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,
“clywir gwaedd o Borth y Pysgod,
a chri o Ail Barth y ddinas,
a malurio trystfawr o'r bryniau.

11
Gwaeddwch, drigolion y Farchnad .
Oherwydd darfu am yr holl fasnachwyr,
a thorrwyd ymaith yr holl bwyswyr arian.


12
“Yn yr amser hwnnw
chwiliaf Jerwsalem â llusernau,
a chosbaf y rhai sy'n ymbesgi uwch eu gwaddod
ac yn dweud wrthynt eu hunain,
‘Ni wna'r ARGLWYDD na da na drwg.’

13
Anrheithir eu cyfoeth
a difethir eu tai;
codant dai, ond ni chânt fyw ynddynt;
plannant winllannoedd, ond ni chânt yfed eu gwin.”


14
Y mae dydd mawr yr ARGLWYDD yn agos,
yn agos ac yn dod yn gyflym;
chwerw yw trwst dydd yr ARGLWYDD,
ac yna y gwaedda'r rhyfelwr yn uchel.

15
Dydd dicter yw'r dydd hwnnw,
dydd blinder a gofid,
dydd dinistr a difrod,
dydd tywyllwch a düwch,
dydd cymylau a chaddug,

16
dydd utgorn a bloedd rhyfel
yn erbyn y dinasoedd caerog
ac yn erbyn y tyrau uchel.

17
“Mi ddof â thrybini ar bobl,
a cherddant fel deillion;
am iddynt bechu yn erbyn yr ARGLWYDD
tywelltir eu gwaed fel llwch
a'u perfedd fel tom,

18
ac ni all eu harian na'u haur eu gwaredu.”
Ar ddydd dicter yr ARGLWYDD
ysir yr holl dir â thân ei lid,
oherwydd gwna ddiwedd, ie, yn fuan,
ar holl drigolion y ddaear.

2

1

Ymgasglwch a dewch ynghyd, genedl ddigywilydd,

2
cyn i chwi gael eich gyrru ymaith, a diflannu fel us,
cyn i gynddaredd llid yr ARGLWYDD ddod arnoch,
cyn i ddydd dicter yr ARGLWYDD ddod arnoch.

3
Ceisiwch yr ARGLWYDD, holl rai gostyngedig y ddaear sy'n cadw ei ddeddfau;
ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch ostyngeiddrwydd;
efallai y cewch guddfan yn nydd llid yr ARGLWYDD.

4
Bydd Gasa yn anghyfannedd
ac Ascalon yn ddiffaith;
gyrrir allan drigolion Asdod ganol dydd,
a diwreiddir Ecron.

5
Gwae drigolion glan y môr, cenedl y Cerethiaid!
Y mae gair yr ARGLWYDD yn eich erbyn,
O Ganaan, gwlad y Philistiaid:
“Difethaf chwi heb adael trigiannydd ar ôl.”

6
A bydd glan y môr yn borfa,
yn fythod i fugeiliaid
ac yn gorlannau i ddefaid.

7
Bydd glan y môr yn eiddo i weddill tŷ Jwda;
yno y porant, a gorwedd fin nos yn nhai Ascalon.
Oherwydd bydd yr ARGLWYDD eu Duw yn ymweld â hwy
ac yn adfer eu llwyddiant.

8
“Clywais wawd Moab
a gwatwaredd yr Ammoniaid,
fel y bu iddynt wawdio fy mhobl
a bygwth eu terfyn.

9
Am hynny, cyn wired â'm bod i'n fyw,”
medd ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel,
“bydd Moab fel Sodom,
a'r Ammoniaid fel Gomorra,
yn dir danadl, yn bentwr o halen, yn ddiffaith am byth.
Bydd y rhai a adawyd o'm pobl yn eu hanrheithio,
a gweddill fy nghenedl yn meddiannu eu tir.”

10
Dyma'r tâl am eu balchder,
am iddynt wawdio a bygwth pobl ARGLWYDD y Lluoedd.

11
Bydd yr ARGLWYDD yn ofnadwy yn eu herbyn,
oherwydd fe ddarostwng holl dduwiau'r ddaear hyd newyn,
a bydd holl arfordir y cenhedloedd yn ymostwng iddo,
pob un yn ei le ei hun.

12
Chwithau hefyd, Ethiopiaid,
fe'ch lleddir â'm cleddyf.

13
Ac fe estyn ei law yn erbyn y gogledd,
a dinistrio Asyria;
fe wna Ninefe'n anialwch,
yn sych fel diffeithwch.

14
Bydd diadelloedd yn gorwedd yn ei chanol,
holl anifeiliaid y maes ;
bydd y pelican ac aderyn y bwn
yn nythu yn ei thrawstiau;
bydd y dylluan yn llefain yn ei ffenestr,
a'r gigfran wrth y rhiniog,
am fod y cedrwydd yn noeth.

15
Dyma'r ddinas fostfawr
oedd yn byw mor ddiofal,
ac yn dweud wrthi ei hun,
“Myfi, nid oes neb ond myfi.”
Y fath ddiffeithwch ydyw,
lloches i anifeiliaid gwylltion!
Bydd pob un a â heibio iddi
yn chwibanu ac yn codi dwrn arni.

3

1

Gwae'r ddinas orthrymus,
yr un wrthryfelgar a budr!

2
Ni wrandawodd ar lais neb,
ac ni dderbyniodd gyngor;
nid ymddiriedodd yn yr ARGLWYDD,
ac ni nesaodd at ei Duw.

3
Llewod yn rhuo yn ei chanol
oedd ei swyddogion;
ei barnwyr yn fleiddiaid yr hwyr,
heb adael dim tan y bore;

4
ei phroffwydi'n rhyfygus
ac yn rhai twyllodrus;
ei hoffeiriaid yn halogi'r cysegredig
ac yn treisio'r gyfraith.

5
Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei chanol yn gyfiawn;
nid yw'n gwneud cam;
fore ar ôl bore y mae'n traddodi barn
heb ballu ar doriad y dydd;
ond ni ŵyr yr anghyfiawn gywilydd.


6
“Torrais ymaith genhedloedd,
ac y mae eu tyrau'n garnedd;
gwneuthum eu strydoedd yn ddiffeithwch
nad eir trwyddo;
anrheithiwyd eu dinasoedd,
heb bobl, heb drigiannydd.

7
Dywedais, ‘Bydd yn sicr o'm hofni
a derbyn cyngor,
ac ni chyll olwg ar y cyfan
a ddygais arni.’
Ond yr oeddent yn eiddgar i lygru eu holl weithredoedd.


8
“Felly, disgwyliwch amdanaf,” medd yr ARGLWYDD,
“am y dydd y codaf yn dyst i'ch erbyn;
oherwydd fy mwriad yw casglu cenhedloedd
a chynnull teyrnasoedd,
i dywallt fy nicter arnynt,
holl gynddaredd fy llid;
oherwydd â thân fy llid yr ysir yr holl dir.


9
“Yna, rhof i'r bobloedd wefus bur,
iddynt oll alw ar enw'r ARGLWYDD
a'i wasanaethu'n unfryd.

10
O'r tu hwnt i afonydd Ethiopia
y dygir offrwm i mi gan y rhai ar wasgar
sy'n ymbil arnaf.


11
“Ar y dydd hwnnw
ni'th waradwyddir am dy holl waith
yn gwrthryfela i'm herbyn;
oherwydd symudaf o'th blith
y rhai sy'n ymhyfrydu mewn balchder,
ac ni fyddi byth mwy'n ymddyrchafu
yn fy mynydd sanctaidd.

12
Ond gadawaf yn dy fysg
bobl ostyngedig ac isel,
a bydd gweddill Israel yn ymddiried yn enw'r ARGLWYDD;

13
ni wnânt ddim anghyfiawn na dweud celwydd,
ac ni cheir tafod twyllodrus yn eu genau;
oherwydd porant, a gorweddant heb neb i'w dychryn.”

14
Cân, ferch Seion;
gwaedda'n uchel, O Israel;
llawenha a gorfoledda â'th holl galon, ferch Jerwsalem.

15
Trodd yr ARGLWYDD dy gosb oddi wrthyt,
a symud dy elynion.
Y mae brenin Israel, yr ARGLWYDD, yn dy ganol,
ac nid ofni ddrwg mwyach.

16
Y dydd hwnnw dywedir wrth Jerwsalem,
“Nac ofna, Seion,
ac na laesa dy ddwylo;

17
y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn dy ganol,
yn rhyfelwr i'th waredu;
fe orfoledda'n llawen ynot,
a'th adnewyddu yn ei gariad;
llawenycha ynot â chân

18
fel ar ddydd gŵyl.
Symudaf aflwydd ymaith oddi wrthyt,
rhag bod iti gywilydd o'i blegid.

19
Wele fi'n talu'r pwyth i'th orthrymwyr yn yr amser hwnnw;
gwaredaf y rhai cloff a chasglaf y rhai gwasgaredig,
a rhof iddynt glod ac enw yn holl dir eu gwarth.

20
Y pryd hwnnw,
pan fydd yn amser i'ch casglu, mi ddof â chwi adref;
oherwydd rhof i chwi glod ac enw
ymhlith holl bobloedd y ddaear,
pan adferaf eich llwyddiant yn eich gŵydd,” medd yr ARGLWYDD.