1
Yr oracl a dderbyniodd Habacuc y proffwyd mewn gweledigaeth.2
Am ba hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf am gymorth,3
Pam y peri imi edrych ar ddrygioni,
a gwneud imi weld trallod?
Anrhaith a thrais sydd o'm blaen,
cynnen a therfysg yn codi.
4
Am hynny, â'r gyfraith yn ddirym,
ac nid yw cyfiawnder byth yn llwyddo;
yn wir y mae'r drygionus yn amgylchu'r cyfiawn,
a daw cyfiawnder allan yn wyrgam.
5
“Edrychwch ymysg y cenhedloedd, a sylwch;
rhyfeddwch, a byddwch wedi'ch syfrdanu;
oherwydd yn eich dyddiau chwi yr wyf yn gwneud gwaith
na choeliech, pe dywedid wrthych.
6
Oherwydd wele, yr wyf yn codi'r Caldeaid,
y genedl greulon a gwyllt,
sy'n ymdaith ledled y ddaear
i feddiannu cartrefi nad ydynt yn eiddo iddynt.
7
Arswydus ac ofnadwy ydynt,
yn dilyn eu rheolau a'u hawdurdod eu hunain.
8
Y mae eu meirch yn gyflymach na'r llewpard,
yn ddycnach na bleiddiaid yr hwyr,
ac yn ysu am fynd.
Daw ei farchogion o bell,
yn ehedeg fel fwltur yn brysio at ysglyfaeth.
9
Dônt i gyd i dreisio,
a bydd dychryn o'u blaen;
casglant gaethion rif y tywod;
10
gwawdiant frenhinoedd
a dirmygant arweinwyr;
dirmygant bob amddiffynfa,
a gosod gwarchae i'w meddiannu.
11
Yna rhuthrant heibio fel gwynt—
dynion euog, a wnaeth dduw o'u nerth.”
12
Onid wyt ti erioed, O ARGLWYDD,
fy Nuw sanctaidd na fyddi farw?
O ARGLWYDD, ti a'u penododd i farn;
O Graig, ti a'u dewisodd i ddwyn cerydd.
13
Ti, sydd â'th lygaid yn rhy bur i edrych ar ddrwg,
ac na elli oddef camwri,
pam y goddefi bobl dwyllodrus,
a bod yn ddistaw pan fydd y drygionus
yn traflyncu un mwy cyfiawn nag ef ei hun?
14
Pam y gwnei bobl fel pysgod y môr,
fel ymlusgiaid heb neb i'w rheoli?
15
Coda hwy i fyny â bach, bob un ohonynt,
a'u dal mewn rhwydau,
a'u casglu â llusgrwydau;
yna mae'n llawenhau ac yn gorfoleddu,
16
yn cyflwyno aberth i'w rhwydau
ac yn arogldarthu i'r llusgrwydau,
am mai trwyddynt hwy y caiff fyw'n fras
a bwyta'n foethus.
17
A ydyw felly i wagio'r rhwydau'n ddiddiwedd,
a lladd cenhedloedd yn ddidostur?
1
Safaf ar fy nisgwylfa,2
Atebodd yr ARGLWYDD fi:
“Ysgrifenna'r weledigaeth,
a gwna hi'n eglur ar lechen,
fel y gellir ei darllen wrth redeg;
3
oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser—
daw ar frys i'w chyflawni, a heb ball.
Yn wir nid oeda; disgwyl amdani,
oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu.
4
Yr un nad yw ei enaid yn uniawn sy'n ddi-hid,
ond bydd y cyfiawn fyw trwy ei ffyddlondeb.”
5
Y mae cyfoeth yn dwyllodrus, yn gwneud rhywun yn falch a di-ddal;
y mae yntau'n lledu ei safn fel Sheol,
ac fel marwolaeth yn anniwall,
yn casglu'r holl genhedloedd iddo'i hun
ac yn cynnull ato'r holl bobloedd.
6
Oni fyddant i gyd yn adrodd dychan yn ei erbyn,
ac yn ei watwar yn sbeitlyd a dweud,
“Gwae'r sawl sy'n pentyrru'r hyn nad yw'n eiddo iddo,
ac yn cadw iddo'i hun wystl y dyledwr.”
7
Oni chyfyd dy echwynwyr yn sydyn,
ac oni ddeffry'r rhai sy'n dy ddychryn,
a thithau'n syrthio'n ysglyfaeth iddynt?
8
Am i ti dy hun ysbeilio cenhedloedd lawer,
bydd gweddill pobloedd y byd yn dy ysbeilio di,
o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tir
a'r ddinas a'i holl drigolion.
9
Gwae'r sawl a gais enillion drygionus i'w feddiant,
er mwyn gosod ei nyth yn uchel,
a'i waredu ei hun o afael blinder.
10
Cynlluniaist warth i'th dŷ dy hun
trwy dorri ymaith bobloedd lawer,
a pheryglaist dy einioes dy hun.
11
Oherwydd gwaedda'r garreg o'r mur,
ac etyb trawst o'r gwaith coed.
12
Gwae'r sawl sy'n adeiladu dinas trwy waed,
ac yn sylfaenu dinas ar anghyfiawnder.
13
Wele, onid oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd y daw hyn:
fod pobloedd yn llafurio i ddim ond tân,
a chenhedloedd yn ymdrechu i ddim o gwbl?
14
Oherwydd llenwir y ddaear â gwybodaeth o ogoniant yr ARGLWYDD,
fel y mae'r dyfroedd yn llenwi'r môr.
15
Gwae'r sawl sy'n gwneud i'w gymydog yfed o gwpan ei lid,
ac yn ei feddwi er mwyn cael gweld ei noethni.
16
Byddi'n llawn o warth, ac nid o ogoniant.
Yf dithau nes y byddi'n simsan.
Atat ti y daw cwpan deheulaw'r ARGLWYDD,
a bydd dy warth yn fwy na'th ogoniant.
17
Bydd y trais a wnaed yn Lebanon yn dy oresgyn,
a dinistr yr anifeiliaid yn dy arswydo,
o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tir
a'r ddinas a'i holl drigolion.
18
Pa fudd i'w wneuthurwr yw'r eilun a luniodd?
Nid yw ond delw dawdd a dysgwr celwydd.
Er bod y gwneuthurwr yn ymddiried yn ei waith,
nid yw'n gwneud ond delwau mud.
19
Gwae'r sawl a ddywed wrth bren, “Deffro”,
ac wrth garreg fud, “Ymysgwyd”.
Y mae wedi ei amgylchu ag aur ac arian,
ond nid oes dim anadl ynddo.
20
Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd;
bydded i'r holl ddaear ymdawelu ger ei fron.
1
Gweddi'r proffwyd Habacuc. Ar Sigionoth.2
O ARGLWYDD, clywais y sôn amdanat,3
Y mae Duw yn dyfod o Teman,
a'r Sanctaidd o Fynydd Paran.
4
Y mae ei lewyrch fel y wawr,
a phelydrau'n fflachio o'i law;
ac yno y mae cuddfan ei nerth.
5
 haint allan o'i flaen,
a daw pla allan ar ei ôl.
6
Pan saif, y mae'r ddaear yn ysgwyd;
pan edrycha, gwna i'r cenhedloedd grynu;
rhwygir y mynyddoedd hen
a siglir y bryniau oesol;
llwybrau oesol sydd ganddo.
7
Gwelais bebyll Cusan mewn helbul
a llenni tir Midian yn crynu.
8
A wyt yn ddig wrth y dyfroedd, ARGLWYDD?
A yw dy lid yn erbyn yr afonydd,
a'th ddicter at y môr?
Pan wyt yn marchogaeth dy feirch
a'th gerbydau i fuddugoliaeth,
9
y mae dy fwa wedi ei ddarparu
a'r saethau'n barod i'r llinyn.
10
pan wêl y mynyddoedd di, fe'u dirdynnir.
Ysguba'r llifddyfroedd ymlaen;
tarana'r dyfnder a chodi ei ddwylo'n uchel.
11
Saif yr haul a'r lleuad yn eu lle,
rhag fflachiau dy saethau cyflym,
rhag llewyrch dy waywffon ddisglair.
12
Mewn llid yr wyt yn camu dros y ddaear,
ac mewn dicter yn mathru cenhedloedd.
13
Ei allan i waredu dy bobl,
i waredu dy eneiniog;
drylli dŷ'r drygionus i'r llawr,
a dinoethi'r sylfaen hyd at y graig.
14
Tryweni â'th waywffyn bennau'r rhyfelwyr
a ddaeth fel corwynt i'n gwasgaru,
fel rhai'n llawenhau i lyncu'r tlawd yn ddirgel.
15
Pan sethri'r môr â'th feirch,
y mae'r dyfroedd mawrion yn ymchwyddo.
16
Clywais innau, a chynhyrfwyd fy ymysgaroedd,
cryna fy ngwefusau gan y sŵn;
daw pydredd i'm hesgyrn,
a gollwng fy nhraed danaf;
disgwyliaf am i'r dydd blin
wawrio ar y bobl sy'n ymosod arnom.
17
Er nad yw'r ffigysbren yn blodeuo,
ac er nad yw'r gwinwydd yn dwyn ffrwyth;
er i'r cynhaeaf olew ballu,
ac er nad yw'r meysydd yn rhoi bwyd;
er i'r praidd ddarfod o'r gorlan,
ac er nad oes gwartheg yn y beudai;
18
eto llawenychaf yn yr ARGLWYDD,
a llawenhaf yn Nuw fy iachawdwriaeth.
19
Yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth;
gwna fy nhraed yn ysgafn fel ewig,
a phâr imi rodio uchelfannau.
I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol.