1

1

Oracl am Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum o Elcos.

2

Duw eiddigeddus ac un sy'n dial yw'r ARGLWYDD;
y mae'r ARGLWYDD yn dial ac yn llawn llid;
y mae'r ARGLWYDD yn dial ar ei wrthwynebwyr,
ac yn dal dig at ei elynion.

3
Y mae'r ARGLWYDD yn araf i ddigio ond yn fawr o nerth,
ac nid yw'n gadael yr euog yn ddi-gosb.

Y mae ei ffordd yn y corwynt a'r dymestl,
a llwch ei draed yw'r cymylau.

4
Y mae'n ceryddu'r môr ac yn ei sychu,
ac yn gwneud pob afon yn hesb;
gwywa Basan a Charmel,
a derfydd gwyrddlesni Lebanon.

5
Cryna'r mynyddoedd o'i flaen,
a thodda'r bryniau;
difrodir y ddaear o'i flaen,
y byd a phopeth sy'n byw ynddo.


6
Pwy a saif o flaen ei lid?
Pwy a ddeil gynddaredd ei ddig?
Tywelltir ei lid fel tân,
a dryllir y creigiau o'i flaen.

7
Y mae'r ARGLWYDD yn dda—yn amddiffynfa yn nydd argyfwng;
y mae'n adnabod y rhai sy'n ymddiried ynddo.

8
Ond â llifeiriant ysgubol gwna ddiwedd llwyr ar ei wrthwynebwyr ,
ac fe ymlid ei elynion i'r tywyllwch.

9
Beth a gynlluniwch yn erbyn yr ARGLWYDD?
Gwna ef ddiwedd llwyr,
fel na ddaw blinder ddwywaith.

10
Fel perth o ddrain fe'u hysir,
fel diotwyr â'u diod,
fel sofl wedi sychu'n llwyr.

11
Ohonot ti, Ninefe, y daeth allan un yn cynllwynio
drygioni yn erbyn yr ARGLWYDD—
cynghorwr dieflig.

12

Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:

“Er eu bod yn gyflawn a niferus,
eto fe'u torrir i lawr, a darfyddant.
Er imi dy flino,
ni flinaf di mwyach.

13
Yn awr, fe ddrylliaf ei iau oddi arnat,
a thorraf dy rwymau.”


14
Rhoes yr ARGLWYDD orchymyn amdanat:
“Ni fydd had o'th hil mwyach;
torraf ymaith ddelw ac eilun o dŷ dy dduwiau;
a rhoddaf i ti fedd am dy fod yn ddirmygedig.”


15
Wele ar y mynyddoedd draed y negesydd
yn cyhoeddi heddwch.
Dathla dy wyliau, O Jwda,
tâl dy addunedau,
oherwydd ni ddaw'r dieflig i'th oresgyn byth eto;
fe'i torrwyd ymaith yn llwyr.

2

1

Daeth dinistrydd i fyny yn dy erbyn;
diogela'r amddiffynfa, gwylia'r ffordd,
rhwyma dy wregys, a chasgla dy nerth ynghyd.


2
Y mae'r ARGLWYDD yn adfer gogoniant Jacob,
a gogoniant Israel yr un modd,
er i'r anrheithwyr eu difetha
a dinoethi eu canghennau.


3
Y mae tarian ei ryfelwyr yn goch,
a'r milwyr mewn ysgarlad,
a'i gerbydau yn eu rhengoedd
yn fflachio fel tân,
a'r gwŷr meirch yn prancio.

4
Rhuthra'r cerbydau trwy'r strydoedd,
a gweu trwy'i gilydd yn y mannau agored;
fflachiant fel ffaglau,
gwibiant fel mellt.

5
Gelwir y glewion i'r frwydr,
baglant hwythau wrth ddod;
brysiant at y mur,
a pharatoir yr amddiffyn.

6
Agorir llifddorau'r afonydd,
ac y mae'r plas mewn dychryn;

7
dygir y frenhines ymaith i gaethglud,
a'i morynion yn galaru,
yn cwyno fel colomennod
ac yn curo dwyfron.

8
Y mae Ninefe fel llyn
a'i ddyfroedd yn diflannu.
“Aros! Aros!” meddant, ond nid yw neb yn troi'n ôl.

9
Ysbeiliwch yr arian! Ysbeiliwch yr aur!
Nid oes terfyn ar y trysor,
nac ar y cyfoeth o bethau dymunol.

10
Wedi ei hysbeilio, ei hanrheithio a'i dinoethi,
pob calon yn toddi, pob glin yn gwegian,
y lwynau'n crynu,
ac wyneb pawb yn gwelwi!


11
Ple mae ffau'r llew ac ogof y llewod ifainc,
cynefin y llew a'r llewes,
lle triga'r cenawon heb eu tarfu?

12
Darniodd y llew ddigon i'w genawon,
a lladd ar gyfer ei lewesau;
llanwodd ei ogofeydd ag ysglyfaeth,
a'i loches â'i raib.

13
“Wele fi yn dy erbyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
“Llosgaf dy ffau mewn mwg,
ac ysa'r cleddyf dy genawon;
torraf ymaith dy ysbail o'r tir,
ac ni chlywir mwyach sôn am dy weithredoedd.”

3

1

Gwae'r ddinas waedlyd,
sy'n dwyll i gyd,
yn llawn anrhaith
a heb derfyn ar ysbail!

2
Clec y chwip, trwst olwynion,
meirch yn carlamu a cherbydau'n ysgytian,

3
marchogion yn ymosod,
cleddyfau'n disgleirio, gwaywffyn yn fflachio.
Llu o glwyfedigion,
pentyrrau o gyrff,
meirwon dirifedi—
baglant dros y cyrff.

4
Y cyfan oherwydd puteindra mynych y butain,
y deg ei phryd, meistres swynion,
a dwyllodd genhedloedd â'i phuteindra,
a phobloedd â'i swynion.

5
“Wele fi yn dy erbyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.
“Codaf odre dy wisg at dy wyneb,
a dangosaf dy noethni i'r cenhedloedd,
a'th warth i'r teyrnasoedd.

6
Taflaf fudreddi drosot,
gwaradwyddaf di a'th wneud yn sioe.

7
Yna bydd pob un a'th wêl yn cilio oddi wrthyt ac yn dweud,
‘Difethwyd Ninefe, pwy a gydymdeimla â hi?’
O ble y ceisiaf rai i'th gysuro?”


8
A wyt yn well na Thebes,
sydd ar lannau'r Neil,
gyda dŵr o'i hamgylch,
y môr yn fur,
a'r lli yn wrthglawdd iddi?

9
Ethiopia oedd ei chadernid,
a'r Aifft hefyd, a hynny'n ddihysbydd;
Put a Libya oedd ei chymorth .

10
Ond dygwyd hithau ymaith a'i chaethgludo;
drylliwyd ei phlantos ar ben pob heol;
bwriwyd coelbren am ei huchelwyr,
a rhwymwyd ei mawrion â chadwynau.


11
Byddi dithau hefyd yn chwil a chuddiedig,
ac yn ceisio noddfa rhag y gelyn.

12
Bydd dy holl amddiffynfeydd fel coed ffigys
gyda'u ffigys cynnar aeddfed;
pan ysgydwir hwy, syrthiant i geg y bwytawr.

13
Wele, gwragedd yw dy filwyr yn dy ganol,
y mae pyrth dy wlad yn agored i'th elynion,
a thân wedi ysu eu barrau.

14
Tyn ddŵr ar gyfer gwarchae,
cryfha dy amddiffynfeydd;
dos at y clai,
sathra'r pridd,
moldia briddfeini.

15
Er hynny, cei dy ddifa gan dân,
fe'th dorrir ymaith â'r cleddyf,
ac fe'th ysir fel gan locust.
Lluosoga fel y locust,
lluosoga fel y sbonciwr,
haid sy'n ymledu ac yn hedfan ymaith.

16
Y mae dy farsiandïwyr
yn lluosocach na sêr y nefoedd,

17
dy dywysogion fel locustiaid,
dy gapteiniaid fel cwmwl o sboncwyr—
ymsefydlant ar y muriau ar ddiwrnod oer,
ond pan gyfyd yr haul ehedant ymaith,
ac ni ŵyr neb ble maent.

18
Cysgu y mae dy fugeiliaid, O frenin Asyria,
a'th arweinwyr yn gorffwyso;
gwasgarwyd dy luoedd hyd y mynyddoedd,
heb neb i'w casglu.

19
Ni ellir lliniaru dy glwyf;
y mae dy archoll yn ddwfn.
Bydd pob un a glyw'r newydd amdanat
yn curo'i ddwylo o'th blegid.
A oes rhywun nad yw wedi dioddef oddi wrth dy ddrygioni diddiwedd?