1
Gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Micha o Moreseth yn nyddiau Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda. Dyma'i weledigaethau am Samaria a Jerwsalem.2
Gwrandewch, bobloedd, bawb ohonoch;3
Wele'r ARGLWYDD yn dod allan o'i drigfan,
yn dod i lawr ac yn troedio ar uchelderau'r ddaear.
4
Y mae'r mynyddoedd yn toddi dano,
a'r dyffrynnoedd yn hollti'n agored,
fel cwyr o flaen tân,
fel dyfroedd wedi eu tywallt ar oriwaered.
5
Am drosedd Jacob y mae hyn oll,
ac am bechod tŷ Israel.
Beth yw trosedd Jacob? Onid Samaria?
Beth yw pechod tŷ Jwda? Onid Jerwsalem?
6
“Am hynny, gwnaf Samaria yn garnedd ar faes agored,
yn lle i blannu gwinwydd;
gwnaf i'w cherrig dreiglo i'r dyffryn,
a dinoethaf ei sylfeini.
7
Malurir ei holl gerfddelwau,
llosgir ei holl enillion yn y tân,
a gwnaf ddifrod o'i delwau;
o enillion puteindra y casglodd hwy,
ac yn dâl puteindra y dychwelant.”
8
Am hyn y galaraf ac yr wylaf,
a mynd yn noeth a heb esgidiau;
galarnadaf fel y siacal,
a llefain fel tylluanod yr anialwch,
9
am nad oes meddyginiaeth i'w chlwyf;
oherwydd daeth hyd at Jwda,
a chyrraedd at borth fy mhobl,
hyd at Jerwsalem.
10
Peidiwch â chyhoeddi'r peth yn Gath,
a pheidiwch ag wylo yn Baca ;
yn Beth-affra ymdreiglwch yn y llwch.
11
Ewch ymlaen, drigolion Saffir;
onid mewn noethni a chywilydd
yr â trigolion Saanan allan?
Galar sydd yn Beth-esel,
a pheidiodd â bod yn gynhaliaeth i chwi.
12
Mewn gwewyr am newydd da y mae trigolion Maroth,
oherwydd i ddrygioni oddi wrth yr ARGLWYDD
ddod hyd at borth Jerwsalem.
13
Harneisiwch y meirch wrth y cerbydau,
drigolion Lachis;
chwi oedd cychwyn pechod i ferch Seion,
ac ynoch chwi y caed troseddau Israel.
14
Felly, rhodder anrheg ymadael i Moreseth-gath;
y mae Beth-achsib yn dwyllodrus i frenhinoedd Israel.
15
Dygaf eto yr anrheithiwr at bobl Maresa,
a bydd gogoniant Israel yn mynd i Adulam.
16
Eillia dy ben a gwna dy hun yn foel,
am y plant a hoffaist;
gwna dy hun yn foel fel eryr,
am iddynt fynd oddi wrthyt i gaethglud.
1
Gwae'r rhai sy'n dyfeisio niwed,2
Y maent yn chwenychu meysydd ac yn eu cipio,
a thai, ac yn eu meddiannu;
y maent yn treisio perchennog a'i dŷ,
dyn a'i etifeddiaeth.
3
Felly, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Wele fi'n dyfeisio yn erbyn y tylwyth hwn y fath ddrwg
na all eich gwarrau ei osgoi;
ni fyddwch yn cerdded yn dorsyth,
oherwydd bydd yn amser drwg.
4
Yn y dydd hwnnw, gwneir dychan ohonoch,
a chenir galargan chwerw a dweud,
‘Yr ydym wedi'n difa'n llwyr;
y mae cyfran fy mhobl yn newid dwylo.
Sut y gall neb adfer i mi
ein meysydd sydd wedi eu rhannu?’ ”
5
Am hyn, ni bydd neb i fesur i ti trwy fwrw coelbren
yng nghynulleidfa'r ARGLWYDD.
6
Fel hyn y proffwydant: “Peidiwch â phroffwydo;
peidied neb â phroffwydo am hyn;
ni ddaw cywilydd arnom.
7
A ddywedir hyn am dŷ Jacob?
A yw'r ARGLWYDD yn ddiamynedd?
Ai ei waith ef yw hyn?
Onid yw fy ngeiriau'n gwneud daioni
i'r sawl sy'n cerdded yn uniawn?
8
‘Ond yr ydych chwi'n codi yn erbyn fy mhobl fel gelyn
yn cipio ymaith fantell yr heddychol,
ac yn dwyn dinistr rhyfel ar y rhai sy'n rhodio'n ddiofal.
9
Yr ydych yn troi gwragedd fy mhobl o'u tai dymunol,
ac yn dwyn eu llety oddi ar eu plant am byth.
10
Codwch! Ewch! Nid oes yma orffwysfa i chwi,
oherwydd yr aflendid sy'n dinistrio â dinistr creulon.
11
Pe byddai rhywun mewn ysbryd twyll a chelwydd yn dweud,
“Proffwydaf i chwi am win a diod gadarn”,’
câi fod yn broffwyd i'r bobl hyn.”
12
“Yn wir, fe gasglaf y cyfan ohonot, Jacob,
a chynullaf ynghyd weddill Israel;
gosodaf hwy gyda'i gilydd, fel defaid Bosra,
fel diadell yn ei phorfa yn tyrru o Edom.
13
Fe â'r un a agorodd y bwlch i fyny o'u blaen;
torrant hwythau trwy'r porth a rhuthro allan.
 eu brenin o'u blaenau,
a bydd yr ARGLWYDD yn eu harwain.”
1
Yna dywedais, “Clywch, benaethiaid Jacob, arweinwyr tŷ Israel!2
Yr ydych yn casáu daioni ac yn caru drygioni,
yn rhwygo'u croen oddi ar fy mhobl,
a'u cnawd oddi ar eu hesgyrn;
3
yr ydych yn bwyta'u cnawd,
yn blingo'u croen oddi amdanynt,
yn dryllio'u hesgyrn,
yn eu malu fel cnawd i badell
ac fel cig i grochan.
4
Yna fe waeddant ar yr ARGLWYDD,
ond ni fydd yn eu hateb;
bydd yn cuddio'i wyneb oddi wrthynt yr amser hwnnw,
am fod eu gweithredoedd mor ddrygionus.”
5
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi
sy'n arwain fy mhobl ar gyfeiliorn,
y rhai os cânt rywbeth i'w fwyta
sy'n cyhoeddi heddwch,
ond pan na rydd neb ddim iddynt
sy'n cyhoeddi rhyfel yn ei erbyn:
6
“Am hyn bydd yn nos heb weledigaeth arnoch,
ac yn dywyllwch heb ddim dewiniaeth;
bydd yr haul yn machlud ar y proffwydi,
a'r dydd yn tywyllu o'u cwmpas.”
7
Bydd y gweledyddion mewn gwarth
a'r dewiniaid mewn cywilydd;
byddant i gyd yn gorchuddio'u genau,
am nad oes ateb oddi wrth Dduw.
8
Ond amdanaf fi, rwy'n llawn grym
ac ysbryd yr ARGLWYDD, a chyfiawnder a nerth,
i gyhoeddi ei drosedd i Jacob,
a'i bechod i Israel.
9
Clywch hyn, benaethiaid Jacob, arweinwyr tŷ Israel,
chwi sy'n casáu cyfiawnder
ac yn gwyrdroi pob uniondeb,
10
yn adeiladu Seion trwy dywallt gwaed
a Jerwsalem trwy dwyll.
11
Y mae ei phenaethiaid yn barnu yn ôl y tâl,
ei hoffeiriaid yn cyfarwyddo yn ôl y wobr,
ei phroffwydi yn cyflwyno neges yn ôl yr arian;
ac eto, pwysant ar yr ARGLWYDD, a dweud,
“Onid yw'r ARGLWYDD yn ein mysg?
Ni ddaw drwg arnom.”
12
Am hynny, o'ch achos chwi
bydd Seion yn faes wedi ei aredig,
a Jerwsalem yn garneddau,
a mynydd y deml yn fynydd-dir coediog.
1
Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tŷ'r ARGLWYDD2
a daw cenhedloedd lawer, a dweud,
“Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD,
i deml Duw Jacob,
er mwyn iddo ddysgu inni ei ffyrdd
ac i ninnau rodio yn ei lwybrau.”
Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith,
a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
3
Bydd ef yn barnu rhwng cenhedloedd,
ac yn torri'r ddadl i bobloedd cryfion o bell;
byddant hwy'n curo'u cleddyfau'n geibiau,
a'u gwaywffyn yn grymanau.
Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl,
ac ni ddysgant ryfel mwyach;
4
a bydd pob un yn eistedd dan ei winwydden
a than ei ffigysbren, heb neb i'w ddychryn.
Oherwydd genau ARGLWYDD y Lluoedd a lefarodd.
5
Rhodia pob un o'r cenhedloedd yn enw ei duw,
ac fe rodiwn ninnau yn enw'r ARGLWYDD ein Duw dros byth.
6
“Yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,
“fe gasglaf y cloff,
a chynnull y rhai a wasgarwyd
a'r rhai a gosbais;
7
a gwnaf weddill o'r cloff,
a chenedl gref o'r gwasgaredig,
a theyrnasa'r ARGLWYDD drostynt ym Mynydd Seion
yn awr a hyd byth.
8
A thithau, tŵr y ddiadell, mynydd merch Seion,
i ti y daw, ie, y daw y llywodraeth a fu,
y frenhiniaeth i ferch Jerwsalem.”
9
“Pam yn awr yr wyt yn llefain yn uchel?
Onid oes gennyt frenin?
A yw dy gynghorwyr wedi darfod,
nes bod poenau, fel gwewyr gwraig yn esgor, wedi cydio ynot?”
10
“Gwinga a gwaedda, ferch Seion,
fel gwraig yn esgor,
oherwydd yn awr byddi'n mynd o'r ddinas
ac yn byw yn y maes agored;
byddi'n mynd i Fabilon.
Yno fe'th waredir;
yno bydd yr ARGLWYDD yn dy achub
o law d'elynion.”
11
“Yn awr y mae llawer o genhedloedd
wedi ymgasglu yn dy erbyn,
ac yn dweud, ‘Haloger hi,
a chaed ein llygaid weld eu dymuniad ar Seion.’
12
Ond nid ydynt hwy'n gwybod meddyliau'r ARGLWYDD,
nac yn deall ei fwriad,
oherwydd y mae ef wedi eu casglu fel ysgubau i'r llawr dyrnu.
13
Cod i ddyrnu, ferch Seion,
oherwydd gwnaf dy gorn o haearn
a'th garnau o bres,
ac fe fethri bobloedd lawer;
yn ddiofryd i'r ARGLWYDD y gwneir eu helw,
a'u cyfoeth i Arglwydd yr holl ddaear.”
1
“Yn awr, dos i mewn i'th gaer, ti ferch gaerog;2
Ond ti, Bethlehem Effrata,
sy'n fechan i fod ymhlith llwythau Jwda,
ohonot ti y daw allan i mi
un i fod yn llywodraethwr yn Israel,
a'i darddiad yn y gorffennol,
mewn dyddiau gynt.
3
Felly fe'u gedy hyd amser esgor yr un feichiog,
ac yna fe ddychwel y rhai fydd yn weddill yn Israel
at eu tylwyth.
4
Fe saif ac arwain y praidd yn nerth yr ARGLWYDD,
ac ym mawredd enw'r ARGLWYDD ei Dduw.
A byddant yn ddiogel,
oherwydd bydd ef yn fawr hyd derfynau'r ddaear;
5
ac yna bydd heddwch.
Pan ddaw Asyria i'n gwlad,
a cherdded hyd ein tir ,
codwn yn ei erbyn saith o fugeiliaid
ac wyth o arweinwyr pobl.
6
A bugeiliant Asyria â'r cleddyf,
a thir Nimrod â'r cleddyf noeth;
fe'n gwaredant oddi wrth Asyria
pan ddaw i'n gwlad
a sarnu'n terfynau.
7
A bydd gweddill Jacob yng nghanol pobloedd lawer,
fel gwlith oddi wrth yr ARGLWYDD,
fel cawodydd ar laswellt,
nad ydynt yn disgwyl wrth ddyn,
nac yn aros am feibion dynion.
8
A bydd gweddill Jacob ymhlith y cenhedloedd,
ac yng nghanol pobloedd lawer,
fel llew ymysg anifeiliaid y goedwig,
fel llew ifanc ymhlith diadelloedd defaid,
sydd, wrth fynd heibio, yn mathru
ac yn malurio, heb neb i waredu.
9
Bydd dy law wedi ei chodi yn erbyn dy wrthwynebwyr,
a thorrir ymaith dy holl elynion.
10
“Yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD,
“distrywiaf dy feirch o'ch plith,
a dinistriaf dy gerbydau.
11
Distrywiaf ddinasoedd dy wlad,
a mathraf dy holl geyrydd.
12
Distrywiaf swyngyfaredd o'th afael,
ac ni fydd gennyt ddewiniaid.
13
Distrywiaf dy gerfddelwau
a'th golofnau o'ch mysg,
a mwyach nid addoli waith dy ddwylo dy hun.
14
Diwreiddiaf y prennau Asera yn eich plith,
a dinistriaf dy ddinasoedd.
15
Mewn llid a digofaint fe ddialaf
ar yr holl genhedloedd na fuont yn ufudd.”
1
Clywch yn awr beth a ddywed yr ARGLWYDD:2
Clywch achos yr ARGLWYDD, chwi fynyddoedd,
chwi gadarn sylfeini'r ddaear;
oherwydd y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn ei bobl,
ac fe'i dadlau yn erbyn Israel.
3
O fy mhobl, beth a wneuthum i ti?
Sut y blinais di? Ateb fi.
4
Dygais di i fyny o'r Aifft,
gwaredais di o dŷ'r caethiwed,
a rhoddais Moses, Aaron a Miriam i'th arwain.
5
O fy mhobl, cofia beth oedd bwriad Balac brenin Moab,
a sut yr atebodd Balaam fab Beor ef,
a hefyd y daith o Sittim i Gilgal,
er mwyn iti wybod cyfiawnder yr ARGLWYDD.”
6
 pha beth y dof o flaen yr ARGLWYDD,
a phlygu gerbron y Duw uchel?
A ddof ger ei fron â phoethoffrymau,
neu â lloi blwydd?
7
A fydd yr ARGLWYDD yn fodlon ar filoedd o hyrddod
neu ar fyrddiwn o afonydd olew?
A rof fy nghyntafanedig am fy nghamwedd,
fy mhlant fy hun am fy mhechod?
8
Dywedodd wrthyt, feidrolyn, beth sydd dda,
a'r hyn a gais yr ARGLWYDD gennyt:
dim ond gwneud beth sy'n iawn, caru teyrngarwch,
ac ymostwng i rodio'n ostyngedig gyda'th Dduw.
9
Clyw! Y mae'r ARGLWYDD yn gweiddi ar y ddinas—
y mae llwyddiant o ofni ei enw:
“Gwrando, di lwyth, a chyngor y ddinas .
10
A anghofiaf enillion twyllodrus yn nhŷ'r twyllwr,
a'r mesur prin sy'n felltigedig?
11
A oddefaf gloriannau twyllodrus,
neu gyfres o bwysau ysgafn?
12
Y mae ei chyfoethogion yn llawn trais,
a'i thrigolion yn dweud celwydd,
a thafodau ffals yn eu genau.
13
Ond yr wyf fi'n dy daro nes dy glwyfo,
i'th anrheithio am dy bechodau:
14
byddi'n bwyta, ond heb dy ddigoni,
a bydd y bwyd yn pwyso ar dy stumog;
byddi'n cilio, ond heb ddianc,
a'r sawl a ddianc, fe'i lladdaf â'r cleddyf;
15
byddi'n hau, ond heb fedi,
yn sathru olewydd, ond heb ddefnyddio'r olew,
a gwinwydd, ond heb yfed gwin.
16
Cedwaist ddeddfau Omri,
a holl weithredoedd tŷ Ahab,
a dilynaist eu cynghorion,
er mwyn imi dy wneud yn ddiffaith
a'th drigolion yn gyff gwawd;
a dygwch ddirmyg y bobl .”
1
Gwae fi! Yr wyf fel gweddillion ffrwythau haf,2
Darfu am y ffyddlon o'r tir,
ac nid oes neb uniawn ar ôl;
y maent i gyd yn llechu i ladd,
a phawb yn hela'i gilydd â rhwyd.
3
Y mae eu dwylo'n fedrus mewn drygioni,
y swyddog yn codi tâl a'r barnwr yn derbyn gwobr,
a'r uchelwr yn mynegi ei ddymuniad llygredig.
4
Y maent yn gwneud i'w cymwynas droi fel mieri,
a'u huniondeb fel drain.
Daeth y dydd y gwyliwyd amdano, dydd cosb;
ac yn awr y bydd yn ddryswch iddynt.
5
Peidiwch â rhoi hyder mewn cymydog,
nac ymddiried mewn cyfaill;
gwylia ar dy enau rhag gwraig dy fynwes.
6
Oherwydd y mae'r mab yn amharchu ei dad,
y ferch yn gwrthryfela yn erbyn ei mam,
y ferch-yng-nghyfraith yn erbyn ei mam-yng-nghyfraith;
a gelynion rhywun yw ei dylwyth ei hun.
7
Ond edrychaf fi at yr ARGLWYDD,
disgwyliaf wrth Dduw fy iachawdwriaeth;
gwrendy fy Nuw arnaf.
8
Paid â llawenychu yn f'erbyn, fy ngelyn;
er imi syrthio, fe godaf.
Er fy mod yn trigo mewn tywyllwch,
bydd yr ARGLWYDD yn oleuni i mi.
9
Dygaf ddig yr ARGLWYDD—oherwydd pechais yn ei erbyn—
nes iddo ddadlau f'achos a rhoi dedfryd o'm plaid,
nes iddo fy nwyn allan i oleuni,
ac imi weld ei gyfiawnder.
10
Yna fe wêl fy ngelyn a chywilyddio—
yr un a ddywedodd wrthyf, “Ble mae'r ARGLWYDD dy Dduw?”
Yna bydd fy llygaid yn gloddesta arno,
pan sethrir ef fel baw ar yr heolydd.
11
Bydd yn ddydd adeiladu dy furiau,
yn ddydd ehangu terfynau,
12
yn ddydd pan ddônt atat o Asyria hyd yr Aifft ,
ac o'r Aifft hyd afon Ewffrates,
o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd.
13
Ond bydd y ddaear yn ddiffaith,
oherwydd ei thrigolion;
dyma ffrwyth eu gweithredoedd.
14
Bugeilia dy bobl â'th ffon,
y ddiadell sy'n etifeddiaeth iti,
sy'n trigo ar wahân mewn coedwig yng nghanol Carmel;
porant Basan a Gilead fel yn y dyddiau gynt.
15
Fel yn y dyddiau pan ddaethost allan o'r Aifft,
fe ddangosaf iddynt ryfeddodau.
16
Fe wêl y cenhedloedd, a chywilyddio
er eu holl rym;
rhônt eu dwylo ar eu genau
a bydd eu clustiau'n fyddar;
17
llyfant y llwch fel neidr,
fel ymlusgiaid y ddaear;
dônt yn grynedig allan o'u llochesau,
a throi mewn dychryn at yr ARGLWYDD ein Duw,
ac ofnant di.
18
Pwy sydd Dduw fel ti, yn maddau camwedd,
ac yn mynd heibio i drosedd gweddill ei etifeddiaeth?
Nid yw'n dal ei ddig am byth,
ond ymhyfryda mewn trugaredd.
19
Bydd yn tosturio wrthym eto,
ac yn golchi ein camweddau,
ac yn taflu ein holl bechodau i eigion y môr.
20
Byddi'n ffyddlon i Jacob
ac yn deyrngar i Abraham,
fel y tyngaist i'n tadau
yn y dyddiau gynt.