1
Geiriau Amos, un o fugeiliaid Tecoa, a gafodd weledigaeth am Israel yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas brenin Israel, ddwy flynedd cyn y daeargryn.2
Dywedodd, “Rhua'r ARGLWYDD o Seion,3
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Damascus,4
anfonaf dân ar dŷ Hasael,
ac fe ddifa geyrydd Ben-hadad.
5
Drylliaf farrau pyrth Damascus,
a thorraf ymaith y trigolion o ddyffryn Afen,
a pherchen y deyrnwialen o Beth-eden;
a chaethgludir pobl Syria i Cir,” medd yr ARGLWYDD.
6
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Gasa,7
anfonaf dân ar fur Gasa,
ac fe ddifa ei cheyrydd.
8
Torraf ymaith y trigolion o Asdod,
a pherchen y deyrnwialen o Ascalon;
trof fy llaw yn erbyn Ecron,
a difodir gweddill y Philistiaid,” medd yr Arglwydd DDUW.
9
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Tyrus,10
anfonaf dân ar fur Tyrus,
ac fe ddifa ei cheyrydd.”
11
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Edom,12
anfonaf dân ar Teman,
ac fe ddifa geyrydd Bosra.”
13
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau'r Ammoniaid,14
cyneuaf dân ar fur Rabba,
ac fe ddifa ei cheyrydd
â bloedd ar ddydd brwydr,
a chorwynt ar ddydd tymestl.
15
A chaethgludir eu brenin,
ef a'i swyddogion i'w ganlyn,” medd yr ARGLWYDD.
1
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Moab,2
anfonaf dân ar Moab,
ac fe ddifa geyrydd Cerioth.
Bydd farw Moab yng nghanol terfysg,
yng nghanol banllefau a sŵn utgorn.
3
Torraf ymaith y pennaeth o'i chanol,
a lladdaf ei holl swyddogion gydag ef,” medd yr ARGLWYDD.
4
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Jwda,5
anfonaf dân ar Jwda,
ac fe ddifa geyrydd Jerwsalem.”
6
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Am dri o droseddau Israel,7
am eu bod yn sathru pen y tlawd i'r llwch
ac yn ystumio ffordd y gorthrymedig;
am fod dyn a'i dad yn mynd at yr un llances,
fel bod halogi ar fy enw sanctaidd;
8
am eu bod yn gorwedd ar ddillad gwystl
yn ymyl pob allor;
am eu bod yn yfed gwin y ddirwy
yn nhŷ eu Duw.
9
“Eto, myfi a ddinistriodd yr Amoriad o'u blaenau,
a'i uchder fel uchder cedrwydd
a'i gryfder fel y derw;
dinistriais ei ffrwyth oddi arno
a'i wreiddiau oddi tano.
10
Myfi hefyd a'ch dygodd o'r Aifft,
a'ch arwain am ddeugain mlynedd yn yr anialwch,
i feddiannu gwlad yr Amoriad.
11
Codais rai o'ch meibion yn broffwydi,
a rhai o'ch llanciau yn Nasareaid.
Onid fel hyn y bu, bobl Israel?” medd yr ARGLWYDD.
12
“Ond gwnaethoch i'r Nasareaid yfed gwin,
a rhoesoch orchymyn i'r proffwydi, ‘Peidiwch â phroffwydo.’
13
“Wele, yr wyf am eich gwasgu i lawr,
fel y mae trol lawn ysgubau yn gwasgu.
14
Derfydd am ddihangfa i'r cyflym,
ac ni ddeil y cryf yn ei gryfder,
ac ni all y rhyfelwr ei waredu ei hun;
15
ni saif y saethwr bwa;
ni all y cyflym ei droed ei achub ei hun,
na'r marchog ei waredu ei hun;
16
bydd y dewraf ei galon o'r rhyfelwyr
yn ffoi yn noeth yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD.
1
Gwrandewch y gair a lefarodd yr ARGLWYDD yn eich erbyn, bobl Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o'r Aifft:2
“Chwi'n unig a adwaenais3
A gerdda dau gyda'i gilydd
heb wneud cytundeb?
4
A rua llew yn y goedwig
pan fydd heb ysglyfaeth?
A waedda'r llew ifanc o'i ffau
pan fydd heb ddal dim?
5
A syrth aderyn ar y ddaear
os nad oes magl iddo?
A neidia'r groglath oddi ar y ddaear
os nad yw wedi dal dim?
6
A genir utgorn yn y ddinas
heb i'r bobl ddychryn?
A ddaw trychineb i'r ddinas
heb i'r ARGLWYDD ei anfon?
7
Ni wna'r Arglwydd DDUW ddim
heb ddangos ei fwriad i'w weision, y proffwydi.
8
Rhuodd y llew;
pwy nid ofna?
Llefarodd yr Arglwydd DDUW;
pwy all beidio â phroffwydo?
9
Cyhoeddwch wrth geyrydd Asyria ,
ac wrth geyrydd gwlad yr Aifft;
dywedwch, “Ymgynullwch ar fynyddoedd Samaria,
ac edrych ar y terfysgoedd mawr o'i mewn,
ac ar y gorthrymderau sydd ynddi.”
10
“Ni wyddant sut i wneud yr hyn sy'n iawn,” medd yr ARGLWYDD.
“Y maent yn pentyrru trais ac ysbail yn eu ceyrydd.”
11
Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:
“Daw gelyn i amgylchu'r wlad,
a bwrw i lawr dy amddiffynfeydd
ac ysbeilio dy geyrydd.”
12
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Fel y gwareda'r bugail ddwy goes neu ddarn o glust o safn y llew, felly o'r Israeliaid sy'n trigo yn Samaria, gwaredir cwr o fatras neu ddarn o wely.”13
“Clywch, a thystiwch yn erbyn tŷ Jacob,”14
“Ar y dydd y cosbaf Israel am ei bechodau,
fe gosbaf allorau Bethel;
torrir cyrn yr allor,
a syrthiant i'r llawr.
15
Difethaf y tŷ gaeaf a'r tŷ haf;
derfydd am y tai ifori,
a daw diwedd ar y tai mawrion,” medd yr ARGLWYDD.
1
Clywch y gair hwn, fuchod Basan,2
Tyngodd yr Arglwydd DDUW i'w sancteiddrwydd,
“Fe ddaw, yn wir, ddyddiau arnoch
pan ddygir chwi i ffwrdd â bachau,
a'r olaf ohonoch â bachau pysgota.
3
Ac ewch allan trwy'r bylchau,
pob un ohonoch ar ei chyfer,
ac fe'ch bwrir i Harmon,” medd yr ARGLWYDD.
4
“Dewch i Fethel a throseddu,
i Gilgal a phechu fwyfwy;
dygwch eich aberthau bob bore
a'ch degymau bob tridiau;
5
offrymwch aberth diolch o fara lefeinllyd,
cyhoeddwch aberthau gwirfodd, a gwnewch hwy'n hysbys;
canys hyn a hoffwch, bobl Israel,” medd yr Arglwydd DDUW.
6
“Myfi a adawodd eich dannedd yn lân yn eich holl ddinasoedd,
ac eisiau bara ym mhob man;
er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.
7
“Myfi hefyd a ataliodd y glaw oddi wrthych,
pan oedd eto dri mis hyd y cynhaeaf;
rhoddais law ar un ddinas,
a'i atal oddi ar un arall;
glawiodd ar un cae,
a gwywodd y cae na chafodd law;
8
crwydrodd dwy ddinas neu dair i un ddinas
i yfed dŵr, ond heb gael digon;
er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.
9
“Trewais chwi â malltod a llwydni;
difeais eich gerddi a'ch gwinllannoedd;
bwytaodd y locust eich coed ffigys a'ch olewydd;
er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.
10
“Anfonais arnoch haint fel haint yr Aifft;
lleddais eich llanciau â'r cleddyf,
a chaethgludo eich meirch ;
gwneuthum i ddrewdod eich gwersyll godi i'ch ffroenau;
er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.
11
“Dymchwelais chwi, fel y dymchwelodd Duw Sodom a Gomorra,
ac yr oeddech fel pentewyn wedi ei gipio o'r tân;
er hynny ni throesoch yn ôl ataf,” medd yr ARGLWYDD.
12
“Hyn felly a wnaf i ti, Israel.
Gan fy mod am wneud hyn i ti,
bydd yn barod, Israel, i gyfarfod â'th Dduw.”
13
Wele, lluniwr y mynyddoedd a chrëwr y gwynt,
yr un sy'n mynegi ei feddwl i ddynolryw,
yr un sy'n gwneud y bore'n dywyllwch,
ac yn cerdded uchelderau'r ddaear—
yr ARGLWYDD, Duw y Lluoedd, yw ei enw.
1
Clywch y gair hwn a lefaraf yn eich erbyn; galarnad yw, dŷ Israel:2
“Y mae'r wyryf Israel wedi syrthio,3
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD Dduw wrth dŷ Israel: “Y ddinas a anfonodd fil4
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth dŷ Israel: “Ceisiwch fi, a byddwch fyw;5
peidiwch â cheisio Bethel,
nac ymweld â Gilgal,
na theithio i Beerseba;
oherwydd yn wir fe gaethgludir Gilgal,
ac ni bydd Bethel yn ddim.”
6
Ceisiwch yr ARGLWYDD, a byddwch fyw—
rhag iddo ruthro fel tân drwy dŷ Joseff
a'i ddifa, heb neb i'w ddiffodd ym Methel—
7
chwi sy'n troi barn yn wermod,
ac yn taflu cyfiawnder i'r llawr.
8
Ef a wnaeth Pleiades ac Orion;
ef sy'n troi tywyllwch yn fore,
ac yn tywyllu'r dydd yn nos.
Ef sy'n galw ar ddyfroedd y môr,
ac yn eu tywallt ar wyneb y tir;
yr ARGLWYDD yw ei enw.
9
Gwna i ddinistr fflachio ar y cryf,
a daw distryw ar y gaer.
10
Y maent yn casáu'r un a wna farn yn y porth,
ac yn ffieiddio'r sawl a lefara'n onest.
11
Felly, am ichwi sathru'r tlawd,
a chymryd oddi arno ei gyfran gwenith—
er ichwi godi tai o gerrig nadd,
ni chewch fyw ynddynt;
er ichwi blannu gwinllannoedd hyfryd,
ni chewch yfed eu gwin.
12
Canys gwn mor niferus yw'ch troseddau
ac mor fawr yw'ch pechodau—
chwi, sy'n gorthrymu'r cyfiawn, yn derbyn llwgrwobr,
ac yn troi ymaith y tlawd yn y porth.
13
Felly tawed y doeth ar y fath amser,
canys amser drwg ydyw.
14
Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni,
fel y byddwch fyw
ac y bydd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, gyda chwi,
fel yr ydych yn honni ei fod.
15
Casewch ddrygioni, carwch ddaioni,
gofalwch am farn yn y porth;
efallai y trugarha'r ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd,
wrth weddill Joseff.
16
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, yr Arglwydd: “Ym mhob sgwâr fe fydd wylo,17
Bydd wylofain ym mhob gwinllan,
oherwydd mi af trwy dy ganol,” medd yr ARGLWYDD.
18
Gwae y rhai sy'n dyheu am ddydd yr ARGLWYDD!
Beth fydd dydd yr ARGLWYDD i chwi?
Tywyllwch fydd, nid goleuni;
19
fel pe bai dyn yn dianc rhag llew,
ac arth yn ei gyfarfod;
neu'n cyrraedd y tŷ ac yn rhoi ei law ar y pared,
a neidr yn ei frathu.
20
Onid tywyllwch fydd dydd yr ARGLWYDD, ac nid goleuni;
caddug, heb lygedyn golau ynddo?
21
“Yr wyf yn casáu, yr wyf yn ffieiddio eich gwyliau;
nid oes imi bleser yn eich cymanfaoedd.
22
Er ichwi aberthu imi boethoffrymau a bwydoffrymau,
ni allaf eu derbyn;
ac nid edrychaf ar eich heddoffrymau o'ch pasgedigion.
23
Ewch â sŵn eich caneuon oddi wrthyf;
ni wrandawaf ar gainc eich telynau.
24
Ond llifed barn fel dyfroedd
a chyfiawnder fel afon gref.
25
“A ddaethoch ag aberthau ac offrymau i mi yn yr anialwch am ddeugain mlynedd, dŷ Israel?26 Fe gludwch ymaith eich delwau, a wnaethoch i chwi—eich duw Saccuth, a Caiwan eich seren-dduw—
27 oherwydd caethgludaf chwi y tu hwnt i Ddamascus,” medd yr ARGLWYDD; Duw'r Lluoedd yw ei enw.
1
Gwae y rhai sydd mewn esmwythyd yn Seion,2
Ewch trosodd i Calne ac edrychwch;
oddi yno ewch i Hamath fawr,
ac yna i lawr i Gath y Philistiaid.
A ydynt yn well na'ch teyrnasoedd chwi?
A yw eu tiriogaeth yn fwy na'r eiddoch chwi?
3
Chwi, sy'n ceisio pellhau'r dydd drwg,
ond yn dwyn teyrnasiad trais yn nes;
4
yn gorwedd ar welyau ifori
ac yn ymestyn ar eich matresi;
yn gwledda ar ŵyn o'r ddiadell
ac ar y lloi pasgedig;
5
yn canu maswedd i sain y nabl,
ac fel Dafydd yn dyfeisio offerynnau cerdd;
6
yn yfed gwin fesul powlennaid,
ac yn eich iro'ch hunain â'r olew gorau;
ond heb boeni am ddinistr Joseff!
7
Felly, yn awr, chwi fydd y cyntaf i'r gaethglud;
derfydd am rialtwch y rhai sy'n gorweddian.
8
Tyngodd yr Arglwydd DDUW iddo'i hun;
medd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd:
“Yr wyf yn ffieiddio balchder Jacob,
ac yn casáu ei geyrydd;
gadawaf y ddinas a phopeth sydd ynddi.”
9
Os gadewir deg o bobl mewn un tŷ, byddant farw.10 Pan ddaw perthynas, sydd am losgi un ohonynt, yno i'w godi a dwyn ei gorff allan o'r tŷ, a dweud wrth un sydd yng nghanol y tŷ, “A oes rhywun gyda thi?” fe ddywed yntau, “Nac oes.” Yna fe ddywed, “Taw! Nid yw enw'r ARGLWYDD i'w grybwyll.”
11
Wele, yr ARGLWYDD sy'n gorchymyn;12
A garlama meirch ar graig?
A ellir aredig môr ag ychen?
Ond troesoch chwi farn yn wenwyn,
a ffrwyth cyfiawnder yn wermod.
13
Llawenhau yr ydych am Lo-debar,
a dweud, “Onid trwy ein nerth ein hunain
y cymerasom ni Carnaim?”
14
“Wele, yr wyf yn codi cenedl yn eich erbyn, tŷ Israel,”
medd ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd,
“ac fe'ch gorthrymant o Lebo-hamath
hyd at afon yr Araba.”
1
Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma haid o locustiaid yn codi ar ddechrau tyfiant yr adladd, sef y cynhaeaf ar ôl torri cnwd y brenin.2 Pan oeddent yn gorffen bwyta gwellt y ddaear, dywedais,
“O Arglwydd DDUW, maddau!3
Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn. “Ni fydd hyn,” medd yr ARGLWYDD.4
Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma'r Arglwydd DDUW yn galw am farn trwy dân, a hwnnw'n difa'r dyfnder mawr, ac yn ysu'r tir hefyd.5 A dywedais,
“O Arglwydd DDUW, paid!6
Ac edifarhaodd yr ARGLWYDD. “Ni fydd hyn chwaith,” medd yr Arglwydd DDUW.7
Fel hyn y dangosodd i mi: dyma'r Arglwydd yn sefyll ger mur a godwyd â llinyn plwm, a'r llinyn plwm yn ei law.8 A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Beth a weli, Amos?” Atebais innau, “Llinyn plwm.” A dywedodd yr Arglwydd,
“Wele fi'n gosod llinyn plwm9
Difodir uchelfeydd Isaac
a distrywir cysegrleoedd Israel;
a chodaf gleddyf yn erbyn tŷ Jeroboam.”
10
Yna anfonodd Amaseia offeiriad Bethel at Jeroboam brenin Israel i ddweud, “Cynllwyniodd Amos yn dy erbyn yng nghanol tŷ Israel; ni all y wlad oddef ei holl eiriau.11 Oherwydd fel hyn y dywed Amos: ‘Bydd Jeroboam yn marw trwy'r cleddyf, ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.’ ”
12 A dywedodd Amaseia wrth Amos, “Dos ymaith, weledydd; ffo i wlad Jwda; ennill dy damaid yno, a phroffwyda yno.
13 Paid â phroffwydo ym Methel eto, gan mai dyma gysegr y brenin a theml y wladwriaeth.”
14 Ond atebodd Amos a dweud wrth Amaseia, “Nid oeddwn i'n broffwyd, nac yn fab i broffwyd chwaith; bugail oeddwn i, a garddwr coed sycamor;
15 ond cymerodd yr ARGLWYDD fi oddi wrth y praidd, a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, ‘Dos i broffwydo i'm pobl Israel.’
16 Gwrando yn awr ar air yr ARGLWYDD.
“Yr wyt ti'n dweud, ‘Paid â phroffwydo yn erbyn Israel,17
Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
‘Bydd dy wraig yn puteinio yn y ddinas;
fe syrth dy feibion a'th ferched trwy'r cleddyf;
rhennir dy dir â'r llinyn;
byddi dithau'n marw mewn gwlad aflan,
ac Israel yn mynd i gaethglud ymhell o'u gwlad.’ ”
1
Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd DDUW i mi: dyma fasgedaid o ffrwythau haf ,2 a gofynnodd ef, “Beth a weli, Amos?” Atebais innau, “Basgedaid o ffrwythau haf .” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf,
“Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel;3
Bydd cantorion y deml yn galarnadu yn y dydd hwnnw,” medd yr Arglwydd DDUW,
“bod y cyrff mor niferus
fel y teflir hwy'n ddisôn ym mhob man.”
4
Gwrandewch hyn, chwi sy'n sathru'r anghenus
ac yn difa tlodion y wlad,
5
ac yn dweud, “Pa bryd y mae'r newydd-loer yn diweddu,
inni gael gwerthu ŷd;
a'r saboth, inni roi'r grawn ar werth,
inni leihau'r effa a thrymhau'r sicl,
inni gael twyllo â chloriannau anghywir,
6
inni gael prynu'r tlawd am arian
a'r anghenus am bâr o sandalau,
a gwerthu ysgubion yr ŷd?”
7
Tyngodd yr ARGLWYDD i falchder Jacob,
“Ni allaf fyth anghofio'u gweithredoedd.
8
Onid am hyn y cryna'r ddaear
nes y galara'i holl drigolion,
ac y cwyd i gyd fel y Neil,
a dygyfor a gostwng fel afon yr Aifft?”
9
“Y dydd hwnnw,” medd yr Arglwydd DDUW,
“gwnaf i'r haul fachlud am hanner dydd,
a thywyllaf y ddaear gefn dydd golau.
10
Trof eich gwyliau yn alaru
a'ch holl ganiadau yn wylofain;
rhof sachliain am eich llwynau
a moelni ar eich pennau.
Fe'i gwnaf yn debyg i alar am unig fab;
bydd ei ddiwedd yn ddiwrnod chwerw.
11
“Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr Arglwydd DDUW,
“pan anfonaf newyn i'r wlad;
nid newyn am fara, na syched am ddŵr,
ond am glywed geiriau'r ARGLWYDD.
12
Crwydrant o fôr i fôr
ac o'r gogledd i'r dwyrain;
ânt yn ôl ac ymlaen i geisio gair yr ARGLWYDD,
ond heb ei gael.
13
“Yn y dydd hwnnw, bydd gwyryfon teg a gwŷr ifainc
yn llewygu o syched.
14
Y rhai sy'n tyngu i Asima Samaria,
ac yn dweud, ‘Cyn wired â bod dy dduw yn fyw, Dan’,
neu, ‘Cyn wired â bod dy dduw yn fyw, Beerseba’—
fe syrthiant oll heb godi byth mwy.”
1
Gwelais yr ARGLWYDD yn sefyll gerllaw'r allor, ac yn dweud, “Taro gapan y drws nes i'r rhiniogau ysgwyd,2
Pe baent yn cloddio hyd at Sheol,
fe dynnai fy llaw hwy oddi yno;
pe baent yn dringo i'r nefoedd,
fe'u dygwn i lawr oddi yno.
3
Pe baent yn ymguddio ar ben Carmel,
fe chwiliwn amdanynt, a'u cymryd oddi yno;
pe baent yn cuddio o'm golwg yng ngwaelod y môr,
byddwn yn gorchymyn i'r ddraig eu brathu yno.
4
Pe bai eu gelynion yn eu dwyn ymaith i gaethglud,
fe rown orchymyn i'm cleddyf eu lladd yno;
cadwaf fy ngolwg arnynt,
er drwg ac nid er da.”
5
Yr Arglwydd, DUW y Lluoedd—
ef sy'n cyffwrdd â'r ddaear, a hithau'n toddi,
a'i holl drigolion yn galaru;
bydd i gyd yn dygyfor fel y Neil,
ac yn gostwng fel afon yr Aifft;
6
ef sy'n codi ei breswylfeydd yn y nefoedd
ac yn sylfaenu ei gromen ar y ddaear;
ef sy'n galw ar ddyfroedd y môr
ac yn eu tywallt dros y tir;
yr ARGLWYDD yw ei enw.
7
“Onid ydych chwi fel pobl Ethiopia i mi,
O bobl Israel?” medd yr ARGLWYDD.
“Oni ddygais Israel i fyny o'r Aifft,
a'r Philistiaid o Cafftor
a'r Syriaid o Cir?
8
Wele, y mae llygaid yr Arglwydd DDUW
ar y deyrnas bechadurus;
fe'i dinistriaf oddi ar wyneb y ddaear;
eto ni ddinistriaf dŷ Jacob yn llwyr,” medd yr ARGLWYDD.
9
“Wele, yr wyf yn gorchymyn,
ac ysgydwaf dŷ Israel ymhlith yr holl genhedloedd
fel ysgwyd gogr,
heb i'r un gronyn syrthio i'r ddaear.
10
Lleddir holl bechaduriaid fy mhobl â'r cleddyf,
y rhai sy'n dweud, ‘Ni chyffwrdd dinistr â ni, na dod yn agos atom.’ ”
11
“Yn y dydd hwnnw, codaf furddun dadfeiliedig Dafydd;
trwsiaf ei fylchau a chodaf ei adfeilion,
a'i ailadeiladu fel yn y dyddiau gynt,
12
fel y gallant goncro gweddill Edom
a'r holl genhedloedd y galwyd fy enw arnynt,”
medd yr ARGLWYDD. Ef a wna hyn.
13
“Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD,
“pan fydd yr un sy'n aredig yn goddiweddyd y sawl sy'n medi,
a'r sawl sy'n sathru'r grawnwin yn goddiweddyd y sawl sy'n hau'r had;
bydd y mynyddoedd yn diferu gwin newydd,
a phob bryn yn llifo ohono.
14
Adferaf lwyddiant fy mhobl Israel,
ac adeiladant y dinasoedd adfeiliedig, a byw ynddynt;
plannant winllannoedd ac yfed eu gwin,
palant erddi a bwyta'u cynnyrch.
15
Fe'u plannaf yn eu gwlad,
ac ni ddiwreiddir hwy byth eto
o'r tir a rois iddynt,”
medd yr ARGLWYDD dy Dduw.