1
Gair yr ARGLWYDD, a ddaeth at Joel fab Pethuel.2
Clywch hyn, henuriaid,3
Dywedwch am hyn wrth eich plant,
a dyweded eich plant wrth eu plant,
a'u plant hwythau wrth y genhedlaeth nesaf.
4
Yr hyn a adawodd y cyw locust,
fe'i bwytaodd y locust sydd ar ei dyfiant;
yr hyn a adawodd y locust ar ei dyfiant,
fe'i bwytaodd y locust mawr;
a'r hyn a adawodd y locust mawr,
fe'i bwytaodd y locust difaol.
5
Deffrowch feddwon, ac wylwch;
galarwch, bob yfwr gwin,
am y gwin newydd a dorrwyd ymaith o'ch genau.
6
Oherwydd daeth cenedl i oresgyn fy nhir,
a honno'n un gref a dirifedi;
dannedd llew yw ei dannedd,
ac y mae ganddi gilddannedd llewes.
7
Maluriodd fy ngwinwydd,
a darnio fy nghoed ffigys;
rhwygodd ymaith y rhisgl yn llwyr,
ac aeth y cangau'n wynion.
8
Galara di fel gwyryf yn gwisgo sachliain
am ddyweddi ei hieuenctid.
9
Pallodd y bwydoffrwm a'r diodoffrwm yn nhŷ'r ARGLWYDD;
y mae'r offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD, yn galaru.
10
Anrheithiwyd y tir,
y mae'r ddaear yn galaru,
oherwydd i'r grawn gael ei ddifa,
ac i'r gwin ballu,
ac i'r olew sychu.
11
Safwch mewn braw, amaethwyr,
galarwch, winwyddwyr,
am y gwenith a'r haidd;
oherwydd difawyd cynhaeaf y maes.
12
Gwywodd y winwydden,
a deifiwyd y ffigysbren.
Y prennau pomgranad, y palmwydd a'r coed afalau—
y mae holl brennau'r maes wedi gwywo.
A diflannodd llawenydd o blith y bobl.
13
Gwisgwch sachliain a galaru, offeiriaid,
codwch gwynfan, weinidogion yr allor.
Ewch i dreulio'r nos mewn sachliain,
weinidogion fy Nuw,
oherwydd i'r bwydoffrwm a'r diodoffrwm
gael eu hatal o dŷ eich Duw.
14
Cyhoeddwch ympryd,
galwch gynulliad.
Chwi henuriaid, cynullwch
holl drigolion y wlad
i dŷ'r ARGLWYDD eich Duw,
a llefwch ar yr ARGLWYDD.
15
Och y fath ddiwrnod!
Oherwydd y mae dydd yr ARGLWYDD yn agos;
daw fel dinistr oddi wrth yr Hollalluog.
16
Oni ddiflannodd y bwyd o flaen ein llygaid,
a dedwyddwch a llawenydd o dŷ ein Duw?
17
Y mae'r had yn crebachu
o dan y tywyrch,
yr ysgubor wedi ei chwalu
a'r granar yn adfeilion,
am i'r grawn fethu.
18
Y fath alar gan yr anifeiliaid!
Y mae'r gyrroedd gwartheg mewn dryswch
am eu bod heb borfa;
ac y mae'r diadelloedd defaid yn darfod.
19
Arnat ti, ARGLWYDD, yr wyf yn llefain,
oherwydd difaodd tân borfeydd yr anialwch,
a llosgodd fflam holl goed y maes.
20
Y mae'r anifeiliaid gwylltion yn llefain arnat,
oherwydd sychodd y nentydd
a difaodd tân borfeydd yr anialwch.
1
Canwch utgorn yn Seion,2
dydd o dywyllwch ac o gaddug,
dydd o gymylau ac o ddüwch.
Fel cysgod yn ymdaenu dros y mynyddoedd,
wele luoedd mawr a chryf;
ni fu eu bath erioed,
ac ni fydd ar eu hôl ychwaith
am genedlaethau dirifedi.
3
Ysa tân o'u blaen
a llysg fflam ar eu hôl.
Y mae'r wlad o'u blaen fel gardd Eden,
ond ar eu hôl yn anialwch diffaith,
ac ni ddianc dim rhagddo.
4
Y maent yn ymddangos fel ceffylau,
ac yn carlamu fel meirch rhyfel.
5
Fel torf o gerbydau
neidiant ar bennau'r mynyddoedd;
fel sŵn fflamau tân yn ysu sofl,
fel byddin gref yn barod i ryfel.
6
Arswyda'r cenhedloedd rhagddynt,
a gwelwa pob wyneb.
7
Rhuthrant fel milwyr,
dringant y mur fel rhyfelwyr;
cerdda pob un yn ei flaen
heb wyro o'i reng.
8
Ni wthiant ar draws ei gilydd,
dilyn pob un ei lwybr ei hun;
er y saethau, ymosodant
ac ni ellir eu hatal .
9
Rhuthrant yn erbyn y ddinas,
rhedant dros ei muriau,
dringant i fyny i'r tai,
ânt i mewn trwy'r ffenestri fel lladron.
10
Ysgwyd y ddaear o'u blaen
a chryna'r nefoedd.
Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllu
a'r sêr yn atal eu goleuni.
11
Cwyd yr ARGLWYDD ei lef ar flaen ei fyddin;
y mae ei lu yn fawr iawn,
a'r un sy'n cyflawni ei air yn gryf.
Oherwydd mawr yw dydd yr ARGLWYDD,
ac ofnadwy, a phwy a'i deil?
12
“Yn awr,” medd yr ARGLWYDD,
“dychwelwch ataf â'ch holl galon,
ag ympryd, wylofain a galar.
13
Rhwygwch eich calon, nid eich dillad,
a dychwelwch at yr ARGLWYDD eich Duw.”
Graslon a thrugarog yw ef,
araf i ddigio, a mawr ei ffyddlondeb,
ac yn edifar ganddo wneud niwed.
14
Pwy a ŵyr na thry a thosturio,
a gadael bendith ar ei ôl—
bwydoffrwm a diodoffrwm i'r ARGLWYDD eich Duw?
15
Canwch utgorn yn Seion,
cyhoeddwch ympryd,
galwch gymanfa,
16
cynullwch y bobl.
Neilltuwch y gynulleidfa,
cynullwch yr henuriaid,
casglwch y plant,
hyd yn oed y babanod.
Doed y priodfab o'i ystafell
a'r briodferch o'i siambr.
17
Rhwng y porth a'r allor
wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr ARGLWYDD,
a dweud, “Arbed dy bobl, O ARGLWYDD.
Paid â gwneud dy etifeddiaeth yn warth
ac yn gyff gwawd ymysg y cenhedloedd.
Pam y dywedir ymysg y bobloedd,
‘Ple mae eu Duw?’ ”
18
Yna aeth yr ARGLWYDD yn eiddigeddus dros ei dir,
a thrugarhau wrth ei bobl.
19
Atebodd yr ARGLWYDD a dweud wrth ei bobl,
“Yr wyf yn anfon i chwi rawn a gwin ac olew
nes eich digoni;
ac ni wnaf chwi eto'n warth ymysg y cenhedloedd.
20
Symudaf y gelyn o'r gogledd ymhell oddi wrthych,
a'i yrru i dir sych a diffaith,
â'i reng flaen at fôr y dwyrain
a'i reng ôl at fôr y gorllewin;
bydd ei arogl drwg a'i ddrewdod yn codi,
am iddo ymorchestu.”
21
Paid ag ofni, ddaear;
bydd lawen a gorfoledda,
oherwydd fe wnaeth yr ARGLWYDD bethau mawrion.
22
Peidiwch ag ofni, anifeiliaid gwylltion,
oherwydd bydd porfeydd yr anialwch yn wyrddlas;
bydd y coed yn dwyn ffrwyth,
a'r coed ffigys a'r gwinwydd yn rhoi eu cnwd yn helaeth.
23
Blant Seion, byddwch lawen,
gorfoleddwch yn yr ARGLWYDD eich Duw;
oherwydd rhydd ef ichwi law cynnar digonol;
fe dywallt y glawogydd ichwi,
y rhai cynnar a'r rhai diweddar fel o'r blaen.
24
Bydd y llawr dyrnu yn llawn o ŷd
a'r cafnau yn orlawn o win ac olew.
25
“Ad-dalaf ichwi am y blynyddoedd
a ddifaodd y locust ar ei dyfiant a'r locust mawr,
y locust difaol a'r cyw locust,
fy llu mawr, a anfonais i'ch mysg.”
26
“Fe fwytewch yn helaeth, nes eich digoni,
a moliannu enw'r ARGLWYDD eich Duw,
a wnaeth ryfeddod â chwi.
Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.
27
Cewch wybod fy mod i yng nghanol Israel,
ac mai myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Duw, ac nid neb arall.
Ni wneir fy mhobl yn waradwydd mwyach.”
28
“Ar ôl hyn
tywalltaf fy ysbryd ar bawb;
bydd eich meibion a'ch merched yn proffwydo,
bydd eich hynafgwyr yn gweld breuddwydion,
a'ch gwŷr ifainc yn cael gweledigaethau.
29
Hyd yn oed ar y gweision a'r morynion
fe dywalltaf fy ysbryd yn y dyddiau hynny.”
30
“Rhof argoelion yn y nefoedd ac ar y ddaear,
gwaed a thân a cholofnau mwg.
31
Troir yr haul yn dywyllwch
a'r lleuad yn waed
cyn i ddydd mawr ac ofnadwy yr ARGLWYDD ddod.
32
A bydd pob un sy'n galw ar enw'r ARGLWYDD yn cael ei achub,
oherwydd ar Fynydd Seion ac yn Jerwsalem bydd rhai dihangol,
fel y dywedodd yr ARGLWYDD,
ac ymysg y gwaredigion rai a elwir gan yr ARGLWYDD.”
1
“Yn y dyddiau hynny ac ar yr amser hwnnw,2
fe gasglaf yr holl genhedloedd
a'u dwyn i ddyffryn Jehosaffat ,
a mynd i farn â hwy yno
ynglŷn â'm pobl a'm hetifeddiaeth, Israel,
am iddynt eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd
a rhannu fy nhir,
3
a bwrw coelbren am fy mhobl,
a chynnig bachgen am butain,
a gwerthu geneth am win a'i yfed.
4
“Beth ydych chwi i mi, Tyrus a Sidon, a holl ranbarthau Philistia? Ai talu'n ôl i mi yr ydych? Os talu'n ôl i mi yr ydych, fe ddychwelaf y tâl ar eich pen chwi eich hunain yn chwim a buan.5 Yr ydych wedi cymryd f'arian a'm haur, ac wedi dwyn fy nhrysorau gwerthfawr i'ch temlau.
6 Yr ydych wedi gwerthu pobl Jwda a Jerwsalem i'r Groegiaid er mwyn eu symud ymhell o'u goror.
7 Ond yn awr fe'u galwaf o'r mannau lle'u gwerthwyd, a dychwelaf eich tâl ar eich pen chwi eich hunain.
8 Gwerthaf eich bechgyn a'ch merched i bobl Jwda, a byddant hwythau'n eu gwerthu i'r Sabeaid, cenedl bell.” Yr ARGLWYDD a lefarodd.
9
“Cyhoeddwch hyn ymysg y cenhedloedd:10
Curwch eich ceibiau'n gleddyfau
a'ch crymanau'n waywffyn;
dyweded y gwan, “Rwy'n rhyfelwr.”
11
“ ‘Dewch ar frys,
chwi genhedloedd o amgylch,
ymgynullwch yno.’ ”
Anfon i lawr dy ryfelwyr, O ARGLWYDD.
12
“Bydded i'r cenhedloedd ymysgwyd
a dyfod i ddyffryn Jehosaffat;
oherwydd yno'r eisteddaf mewn barn
ar yr holl genhedloedd o amgylch.
13
“Codwch y cryman,
y mae'r cynhaeaf yn barod;
dewch i sathru,
y mae'r gwinwryf yn llawn;
y mae'r cafnau'n gorlifo,
oherwydd mawr yw eu drygioni.”
14
Tyrfa ar dyrfa
yn nyffryn y ddedfryd,
oherwydd agos yw dydd yr ARGLWYDD
yn nyffryn y ddedfryd.
15
Bydd yr haul a'r lleuad yn tywyllu,
a'r sêr yn atal eu goleuni.
16
Rhua'r ARGLWYDD o Seion,
a chodi ei lef o Jerwsalem;
cryna'r nefoedd a'r ddaear.
Ond y mae'r ARGLWYDD yn gysgod i'w bobl,
ac yn noddfa i blant Israel.
17
“Cewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw,
yn trigo yn Seion, fy mynydd sanctaidd.
A bydd Jerwsalem yn sanctaidd,
ac nid â dieithriaid trwyddi eto.
18
“Yn y dydd hwnnw,
difera'r mynyddoedd win newydd,
a llifa'r bryniau o laeth,
a bydd holl nentydd Jwda yn llifo o ddŵr.
Tardd ffynnon o dŷ'r ARGLWYDD
a dyfrhau dyffryn Sittim.
19
“Bydd yr Aifft yn anghyfannedd
ac Edom yn anialwch diffaith,
oherwydd y gorthrwm ar bobl Jwda
wrth dywallt gwaed y dieuog yn eu gwlad.
20
Ond erys Jwda dros byth
a Jerwsalem dros genedlaethau.
21
Dialaf eu gwaed, ac ni ollyngaf yr euog ,
a phreswylia'r ARGLWYDD yn Seion.”