1

1

Gair yr ARGLWYDD at Hosea fab Beeri yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas, brenin Israel.

2

Dyma ddechrau geiriau'r ARGLWYDD trwy Hosea. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, “Dos, cymer iti wraig o butain, a phlant puteindra, oherwydd puteiniodd y wlad i gyd trwy gilio oddi wrth yr ARGLWYDD.”

3 Fe aeth a chymryd Gomer, merch Diblaim; beichiogodd hithau a geni mab iddo.

4 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Enwa ef Jesreel, oherwydd ymhen ychydig eto dialaf ar dŷ Jehu am waed Jesreel ,

5 a rhof derfyn ar frenhiniaeth tŷ Israel. Y dydd hwnnw torraf fwa Israel yn nyffryn Jesreel.”

6

Beichiogodd Gomer eilwaith a geni merch. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, “Enwa hi Lo-ruhama , oherwydd ni wnaf drugaredd mwyach â thŷ Israel, i roi maddeuant iddynt.

7 Ond gwnaf drugaredd â thŷ Jwda, a gwaredaf hwy trwy'r ARGLWYDD eu Duw; ond ni waredaf hwy trwy'r bwa, y cleddyf, rhyfel, meirch na marchogion.”

8

Wedi iddi ddiddyfnu Lo-ruhama, beichiogodd Gomer a geni mab.

9 A dywedodd yr ARGLWYDD, “Enwa ef Lo-ammi , oherwydd nid ydych yn bobl i mi, na minnau'n Dduw i chwithau.”

10

Bydd nifer plant Israel fel tywod y môr,
na ellir ei fesur na'i rifo.
Yn y lle y dywedwyd wrthynt, “Nid-fy-mhobl ydych”,
fe ddywedir wrthynt, “Meibion y Duw byw”.

11
Cesglir ynghyd blant Jwda a phlant Israel,
a gosodant iddynt un pen;
dônt i fyny o'r wlad,
oherwydd mawr fydd dydd Jesreel.

2

1

“Dywedwch wrth eich brodyr, ‘Fy-mhobl ’,
ac wrth eich chwiorydd, ‘Cafodd-drugaredd ’.

2
Plediwch â'ch mam, plediwch—
onid yw'n wraig i mi,
a minnau'n ŵr iddi hi?—
ar iddi symud ei phuteindra o'i hwyneb,
a'i godineb oddi rhwng ei bronnau.

3
Onid e, byddaf yn ei diosg yn noeth a'i gosod fel ar ddydd ei geni,
a'i gwneud fel anialwch a'i gosod fel tir sych,
a'i lladd â syched;

4
ni wnaf drugaredd â'i phlant,
am eu bod yn blant puteindra.

5
Oherwydd i'w mam buteinio,
ac i'r hon a'u cariodd ymddwyn yn waradwyddus,
a dweud, ‘Af ar ôl fy nghariadon,
sy'n rhoi imi fy mara a'm dŵr, fy ngwlân a'm llin, fy olew a'm diod’—

6
am hynny, caeaf ei ffordd â drain,
a gosodaf rwystr rhag iddi gael ei llwybrau.

7
Fe ymlid ei chariadon heb eu dal,
fe'u cais heb eu cael;
yna dywed, ‘Dychwelaf at y gŵr oedd gennyf,
gan ei bod yn well arnaf y pryd hwnnw nag yn awr.’

8
Ond ni ŵyr hi mai myfi a roddodd iddi ŷd a gwin ac olew,
ac amlhau iddi arian ac aur, pethau a roesant hwy i Baal.

9
Felly, cymeraf yn ôl fy ŷd yn ei bryd a'm gwin yn ei dymor;
dygaf ymaith fy ngwlân a'm llin, a guddiai ei noethni.

10
Yn awr, dinoethaf ei gwarth gerbron ei chariadon,
ac ni fyn yr un ohonynt ei chipio o'm llaw.

11
Rhof derfyn ar ei holl lawenydd,
ei gwyliau, ei newydd-loerau, ei Sabothau a'i gwyliau sefydlog.

12
Difethaf ei gwinwydd a'i ffigyswydd, y dywedodd amdanynt,
‘Dyma fy nhâl, a roes fy nghariadon i mi.’
Gwnaf hwy'n goedwig, a bydd yr anifeiliaid gwylltion yn eu difa.

13
Cosbaf hi am ddyddiau gŵyl y Baalim, pan losgodd arogldarth iddynt,
a gwisgo'i modrwy a'i haddurn,
a mynd ar ôl ei chariadon a'm hanghofio i,” medd yr ARGLWYDD.

14
“Am hynny, wele, fe'i denaf;
af â hi i'r anialwch, a siarad yn dyner wrthi.

15
Rhof iddi yno ei gwinllannoedd,
a bydd dyffryn Achor yn ddrws gobaith.
Yno fe ymetyb hi fel yn nyddiau ei hieuenctid,
fel yn y dydd y daeth i fyny o wlad yr Aifft.”

16

“ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD, gelwi fi ‘Fy ngŵr’, ac ni'm gelwi mwyach ‘Fy Baal ’;

17 symudaf ymaith enwau'r Baalim o'i genau, ac ni chofir hwy mwy wrth eu henwau.

18 Yn y dydd hwnnw gwnaf i ti gyfamod â'r anifeiliaid gwylltion, ac adar yr awyr ac ymlusgiaid y ddaear; symudaf o'r tir y bwa, y cleddyf, a rhyfel, a gwnaf i ti orffwyso mewn diogelwch.

19 Fe'th ddyweddïaf â mi fy hun dros byth; fe'th ddyweddïaf â mi mewn cyfiawnder a barn, mewn cariad a thrugaredd.

20 Fe'th ddyweddïaf â mi mewn ffyddlondeb, a byddi'n adnabod yr ARGLWYDD.”

21

“ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD,
‘atebaf y nef, ac etyb hithau y ddaear;

22
etyb y ddaear yr ŷd, y gwin a'r olew,
ac atebant hwythau Jesreel ;

23
ac fe'i heuaf i mi fy hun yn y tir.
Gwnaf drugaredd â Lo-ruhama ;
dywedaf wrth Lo-ammi , “Fy-mhobl wyt ti”,
a dywed yntau, “Fy Nuw”.’ ”

3

1

Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Dos eto, câr wraig a gerir gan arall ac sy'n odinebwraig, fel y câr yr ARGLWYDD blant Israel er iddynt droi at dduwiau eraill a hoffi teisennau grawnwin.”

2 Felly, fe'i prynais am bymtheg darn arian, a homer a hanner o haidd.

3 Dywedais wrthi, “Aros amdanaf am ddyddiau lawer, heb buteinio na'th roi dy hun i neb; felly y gwnaf finnau i ti.”

4 Oherwydd am ddyddiau lawer yr erys plant Israel heb frenin na thywysog, heb offrwm na cholofn, heb effod na theraffim.

5 Wedi hyn, bydd plant Israel yn troi eto i geisio'r ARGLWYDD eu Duw a Dafydd eu brenin, ac yn troi mewn braw yn y dyddiau diwethaf at yr ARGLWYDD ac at ei ddaioni.

4

1

Clywch air yr ARGLWYDD, blant Israel.
Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn trigolion y tir,
am nad oes ffyddlondeb, cariad na gwybodaeth o Dduw yn y tir,

2
ond tyngu a chelwydda, lladd a lladrata,
godinebu a threisio, a lladd yn dilyn lladd.

3
Am hynny, galara'r wlad, nycha'i holl drigolion;
dygir ymaith anifeiliaid y maes,
adar yr awyr hefyd a physgod y môr.


4
“Peidied neb ag ymryson, ac na chyhudded neb;
y mae fy achos yn dy erbyn di, offeiriad.

5
Yr wyt yn baglu liw dydd,
a syrth y proffwyd hefyd gyda thi yn y nos.
Dinistriaf dy fam;

6
difethir fy mhobl o eisiau gwybodaeth;
am i ti wrthod gwybodaeth y gwrthodaf di yn offeiriad imi;
am i ti anghofio cyfraith dy Dduw yr anghofiaf finnau dy blant.


7
“Fel yr amlhânt, mwy y pechant yn f'erbyn;
trof eu gogoniant yn warth.

8
Bwytânt bechod fy mhobl,
ac estyn eu safn at eu drygioni.

9
Bydd y bobl fel yr offeiriad;
fe'u cosbaf am eu ffyrdd a dial arnynt am eu gweithredoedd.

10
Bwytânt, ond heb eu digoni,
puteiniant, ond heb amlhau,
am iddynt ddiystyru yr ARGLWYDD.


11
“Y mae puteindra, gwin a gwin newydd
yn dwyn ymaith y deall.

12
Y mae fy mhobl yn ymofyn â phren, a'u gwialen sy'n eu cyfarwyddo;
oherwydd ysbryd puteindra a'u camarweiniodd,
troesant mewn puteindra oddi wrth eu Duw.

13
Y maent yn aberthu ar bennau'r mynyddoedd,
ac yn offrymu ar y bryniau,
o dan y dderwen, y boplysen a'r terebinth
am fod eu cysgod yn dda.

“Am hynny, y mae eich merched yn puteinio
a'ch merched-yng-nghyfraith yn godinebu.

14
Ni chosbaf eich merched pan buteiniant,
na'ch merched-yng-nghyfraith pan odinebant,
oherwydd y mae'r dynion yn troi at buteiniaid
ac yn aberthu gyda phuteiniaid y cysegr.
Pobl heb ddeall, fe'u difethir.


15
“Er i ti buteinio, Israel, na fydded Jwda'n euog.
Peidiwch â mynd i Gilgal, nac i fyny i Beth-afen,
a pheidiwch â thyngu, ‘Cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw.’

16
Fel heffer anhydrin y mae Israel yn anodd ei thrin;
a all yr ARGLWYDD yn awr eu bwydo fel oen mewn porfa?


17
“Glynodd Effraim wrth eilunod; gadawer iddo.

18
Cwmni o feddwon wedi ymollwng i buteindra!
Syrthiodd ei arweinwyr mewn cariad â gwarth.

19
Clymodd y gwynt hwy yn ei adenydd,
a chywilyddiant oherwydd eu haberthau.”

5

1

“Clywch hyn, offeiriaid; gwrandewch, dŷ Israel;
daliwch sylw, dylwyth y brenin. Arnoch chwi y daw'r farn,
am i chwi fod yn fagl yn Mispa ac yn rhwyd wedi ei thaenu ar Tabor;

2
gwnaethant bwll Sittim yn ddwfn. Ond fe gosbaf fi bawb ohonynt.


3
“Adwaenais Effraim, ac ni chuddiodd Israel ei hun oddi wrthyf;
ond yn awr, O Effraim, fe buteiniaist, ac fe'i halogodd Israel ei hun.

4
Ni chaniatâ eu gweithredoedd iddynt droi at eu Duw,
am fod ysbryd puteindra o'u mewn, ac nad adwaenant yr ARGLWYDD.”

5
Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn;
syrth Israel ac Effraim trwy eu camwedd,
syrth Jwda hefyd gyda hwy.

6
Ânt gyda'u defaid a'u gwartheg i geisio'r ARGLWYDD,
ond heb ei gael—ciliodd oddi wrthynt.

7
Buont dwyllodrus i'r ARGLWYDD, gan iddynt eni plant anghyfreithlon.
Yn awr, fe ddifa'r gorthrymydd eu rhandiroedd.

8
“Canwch utgorn yn Gibea a thrwmped yn Rama;
rhowch floedd yn Beth-afen: ‘Ar dy ôl di, Benjamin!’

9
Bydd Effraim yn anrhaith yn nydd y cosbi;
mynegaf yr hyn sydd sicr ymysg llwythau Israel.

10
Y mae tywysogion Jwda fel rhai sy'n symud terfyn;
bwriaf fy llid arnynt fel dyfroedd.

11
Gorthrymwyd Effraim, fe'i drylliwyd trwy farn,
oherwydd iddo ddewis dilyn gwagedd .

12
Byddaf fel dolur crawnllyd i Effraim,
ac fel cancr i dŷ Jwda.


13
“Pan welodd Effraim ei glefyd a Jwda ei ddoluriau,
aeth Effraim at Asyria ac anfonodd at frenin mawr ;
ond ni all ef eich gwella na'ch iacháu o'ch doluriau.

14
Oherwydd yr wyf fi fel llew i Effraim, ac fel llew ifanc i dŷ Jwda;
myfi, ie myfi, a larpiaf, ac af ymaith; cipiaf, ac ni bydd gwaredydd.


15
“Dychwelaf drachefn i'm lle, nes iddynt weld eu bai,
a chwilio amdanaf, a'm ceisio yn eu hadfyd.”

6

1

“Dewch, dychwelwn drachefn at yr ARGLWYDD;
fe'n drylliodd, ac fe'n hiachâ;
fe'n trawodd, ac fe'n meddyginiaetha.

2
Fe'n hadfywia ar ôl deuddydd,
a'n codi ar y trydydd dydd, inni fyw yn ei ŵydd.

3
Gadewch inni adnabod, ymdrechu i adnabod, yr ARGLWYDD;
y mae ei ddyfodiad mor sicr â'r wawr;
daw fel glaw atom, fel glaw gwanwyn sy'n dyfrhau'r ddaear.”


4
“Beth a wnaf i ti, Effraim? Beth a wnaf i ti, Jwda?
Y mae dy ffyddlondeb fel tarth y bore, fel gwlith sy'n codi'n gynnar.

5
Am hynny, fe'u drylliais trwy'r proffwydi,
fe'u lleddais â geiriau fy ngenau,
a daw fy marn allan fel goleuni.

6
Oherwydd ffyddlondeb a geisiaf, ac nid aberth,
gwybodaeth o Dduw yn hytrach na phoethoffrymau.

7
Yn Adma torasant gyfamod,
yno buont dwyllodrus tuag ataf.

8
Dinas rhai ofer yw Gilead,
wedi ei thrybaeddu â gwaed.

9
Fel y bydd lladron yn disgwyl am rywun,
felly'r ymunodd yr offeiriaid yn fintai;
byddant yn lladd ar y ffordd i Sichem,
yn wir, yn gwneud anfadwaith.

10
Yng nghysegr Israel gwelais beth erchyll;
yno y mae puteindra Effraim, ac yr halogodd Israel ei hun.

11
I tithau hefyd, Jwda, paratowyd cynhaeaf.”

7

1

“ Pan ddymunaf adfer llwyddiant fy mhobl ac iacháu Israel,
datguddir camwedd Effraim a drygioni Samaria,
oherwydd y maent yn ymddwyn yn ffals;
y mae lleidr yn torri i mewn, ysbeiliwr yn anrheithio ar y stryd.

2
Nid ydynt yn ystyried fy mod yn cofio'u holl ddrygioni;
y mae eu gweithredoedd yn gylch o'u cwmpas,
y maent yn awr ger fy mron.

3
Y maent yn llawenychu'r brenin â'u drygioni,
a'r tywysogion â'u celwyddau.

4
Y mae pawb ohonynt yn odinebwyr fel ffwrn a daniwyd gan bobydd,
nad oes angen ei chyffwrdd o dyliniad y toes nes iddo godi.

5
Ar ddydd gŵyl ein brenin clafychodd y tywysogion gan effaith gwin;
estynnodd yntau ei law gyda'r gwatwarwyr.

6
Fel ffwrn y mae eu calon yn llosgi gan ddichell;
ar hyd y nos bydd eu dicter yn mud losgi;
yn y bore bydd yn cynnau fel fflamau tân.

7
Y mae pawb ohonynt yn boeth fel ffwrn, ac ysant eu barnwyr;
syrthiodd eu holl frenhinoedd, ac ni eilw yr un ohonynt arnaf.”

8
“Y mae Effraim wedi ymgymysgu â'r cenhedloedd;
y mae Effraim fel teisen heb ei throi.

9
Y mae estroniaid yn ysu ei nerth, ac yntau heb wybod;
lledodd penwynni drosto, ac yntau heb wybod.

10
Y mae balchder Israel yn tystio yn ei erbyn;
eto ni ddychwelant at yr ARGLWYDD eu Duw,
ac ni cheisiant ef, er hyn i gyd.


11
“Y mae Effraim fel colomen,
yn ffôl a diddeall;
galwant ar yr Aifft, ânt i Asyria.

12
Fel yr ânt, lledaf fy rhwyd drostynt,
a'u dwyn i lawr fel adar yr awyr;
fe'u cosbaf fel rhybudd cyhoeddus.

13
Gwae hwy am grwydro oddi wrthyf!
Distryw arnynt am wrthryfela yn f'erbyn!
Gwaredwn hwy, ond dywedant gelwydd amdanaf.


14
“Ni lefant o ddifrif arnaf, ond dolefant ar eu gwelyau;
am ŷd a gwin fe'u hanafant eu hunain, gwrthryfelant yn f'erbyn.

15
Er i mi eu dysgu a nerthu eu breichiau,
eto dyfeisiant ddrwg yn f'erbyn.

16
Trônt yn ôl heb lwyddo ; y maent fel bwa twyllodrus;
syrth eu penaethiaid â'r cleddyf oherwydd haerllugrwydd eu tafodau.
Dyma'u dirmyg yng ngwlad yr Aifft.”

8

1

“At dy wefus â'r utgorn!
Y mae un tebyg i eryr yn erbyn tŷ'r ARGLWYDD,
am iddynt dorri fy nghyfamod
a gwrthryfela yn erbyn fy nghyfraith.

2
Llefant arnaf, ‘O Dduw, yr ydym ni, Israel, yn dy adnabod.’

3
Ffieiddiodd Israel ddaioni;
bydd gelyn yn ei ymlid yntau.


4
“Gwnaethant frenhinoedd, ond nid trwof fi;
gwnaethant dywysogion, nad oeddwn yn eu hadnabod.
Â'u harian a'u haur gwnaethant iddynt eu hunain ddelwau,
a hynny er distryw.

5
Ffieiddiais dy lo, Samaria;
cyneuodd fy llid yn ei erbyn.

6
Pa hyd y methant ymlanhau yn Israel?
Crefftwr a'i gwnaeth;
nid yw'n dduw.
Dryllir llo Samaria yn chwilfriw.


7
“Canys y maent yn hau gwynt,
ac yn medi corwynt.
Y mae'r corsennau ŷd heb rawn,
ni rônt flawd;
pe rhoent, estroniaid a'i llyncai.

8
Llyncwyd Israel;
y mae eisoes ymysg y cenhedloedd
fel llestr diwerth.

9
Aethant i fyny at Asyria,
fel asyn gwyllt ar ddisberod.
Bargeiniodd Effraim am gariadon;

10
er iddynt fargeinio ymysg y cenhedloedd,
fe'u casglaf yn awr,
wedi iddynt am ychydig wingo dan y baich, yn frenin a thywysogion.


11
“Amlhaodd Effraim allorau;
ond aethant iddo yn allorau i bechu.

12
Er i mi ysgrifennu llawer o ddeddfau,
fe'u hystyrir fel peth dieithr.

13
Carant aberthau;
aberthant gig a'i fwyta;
ond nid yw'r ARGLWYDD yn fodlon arnynt.
Yn awr fe gofia eu drygioni,
a chosbi eu pechodau;
dychwelant i'r Aifft.

14
Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr,
ac adeiladodd balasau;
lluosogodd Jwda ddinasoedd caerog;
ond anfonaf dân ar ei ddinasoedd
ac fe ysa ei amddiffynfeydd.”

9

1

Paid â llawenychu, Israel.
Paid â gorfoleddu fel y bobloedd;
canys puteiniaist a gadael dy Dduw,
ceraist am dâl ar bob llawr dyrnu.

2
Ni fydd llawr dyrnu a gwinwryf yn eu porthi hwy;
bydd y gwin newydd yn eu siomi.

3
Nid arhosant yn nhir yr ARGLWYDD;
ond dychwel Effraim i'r Aifft,
a bwytânt beth aflan yn Asyria.


4
Ni thywalltant win yn offrwm i'r ARGLWYDD,
ac ni fodlonir ef â'u haberthau;
byddant iddynt fel bara galarwyr,
sy'n halogi pawb sy'n ei fwyta.
Canys at eu hangen eu hunain y bydd eu bara,
ac ni ddaw i dŷ'r ARGLWYDD.


5
Beth a wnewch ar ddydd yr ŵyl sefydlog,
ar ddydd uchel ŵyl yr ARGLWYDD?

6
Canys wele, ffoant rhag dinistr;
bydd yr Aifft yn eu casglu,
a Memffis yn eu claddu;
bydd danadl yn meddiannu eu trysorau arian,
a drain fydd yn eu pebyll.


7
Daeth dyddiau cosbi,
dyddiau i dalu'r pwyth,
a darostyngir Israel.
“Ffŵl yw'r proffwyd,
gwallgof yw gŵr yr ysbryd.”
O achos dy ddrygioni mawr
bydd dy elyniaeth yn fawr.

8
Y mae'r proffwyd yn wyliwr i Effraim, pobl fy Nuw,
ond y mae magl heliwr ar ei holl ffyrdd
a gelyniaeth yn nhŷ ei Dduw.

9
Syrthiasant yn ddwfn i lygredd,
fel yn nyddiau Gibea.
Fe gofia Duw eu drygioni
a chosbi eu pechodau.

10
“Fel grawnwin yn yr anialwch y cefais hyd i Israel;
fel blaenffrwyth ar ffigysbren newydd y gwelais eich tadau.
Ond aethant i Baal-peor,
a'u rhoi eu hunain i warth eilun;
ac aethant mor ffiaidd â gwrthrych eu serch.

11
Bydd gogoniant Effraim yn ehedeg ymaith fel aderyn;
ni bydd na geni, na chario plant na beichiogi.

12
Pe magent blant,
fe'u gwnawn yn llwyr amddifad.
Gwae hwy pan ymadawaf oddi wrthynt!

13
Yn ôl a welais, bydd Effraim yn gwneud ei feibion yn ysglyfaeth,
ac yn dwyn ei blant allan i'r lladdfa.”

14
Dyro iddynt, ARGLWYDD—
beth a roddi?
Dyro iddynt groth yn erthylu,
a bronnau hysbion.


15
“Yn Gilgal y mae eu holl ddrygioni;
yno'n wir y rhois fy nghas arnynt.
Oherwydd eu gweithredoedd drygionus,
gyrraf hwy allan o'm tŷ.
Ni charaf hwy ychwaneg;
gwrthryfelwyr yw eu holl dywysogion.


16
“Trawyd Effraim.
Sychodd eu gwraidd;
ni ddygant ffrwyth.
Er iddynt eni plant,
lladdaf anwyliaid eu crothau.”


17
Bydd fy Nuw yn eu gwrthod,
am iddynt beidio â gwrando arno;
byddant yn grwydriaid ymysg y cenhedloedd.

10

1

Gwinwydden doreithiog oedd Israel,
a'i ffrwyth yr un fath â hi.
Fel yr amlhaodd ei ffrwyth,
amlhaodd yntau allorau;
fel y daeth ei dir yn well,
gwnaeth yntau ei golofnau yn well.

2
Aeth eu calon yn ffals,
ac yn awr y maent yn euog.
Dryllia ef eu hallorau,
a difetha'u colofnau.


3
Yn awr y maent yn dweud,
“Nid oes inni frenin,
am nad ydym yn ofni'r ARGLWYDD,
a pha beth a wnâi brenin i ni?”

4
Llefaru geiriau y maent,
a gwneud cyfamod â llwon ffals.
Y mae barn yn codi fel chwyn gwenwynllyd
yn rhychau'r maes.

5
Y mae trigolion Samaria yn crynu o achos llo Beth-afen.
Y mae ei bobl yn galaru amdano,
a'i eilun-offeiriaid yn wylofain amdano,
am i'w ogoniant ymadael oddi wrtho.

6
Fe'i dygir ef i Asyria,
yn anrheg i frenin mawr .
Gwneir Effraim yn warth
a chywilyddia Israel oherwydd ei eilun .


7
Y mae brenin Samaria yn gyffelyb i frigyn ar wyneb dyfroedd.

8
Distrywir uchelfeydd Beth-afen, pechod Israel;
tyf drain a mieri ar eu hallorau;
a dywedant wrth y mynyddoedd, “Cuddiwch ni”,
ac wrth y bryniau, “Syrthiwch arnom”.


9
“Er dyddiau Gibea pechaist, O Israel;
safasant yno mewn gwrthryfel.
Oni ddaw rhyfel arnynt yn Gibea?

10
Dof i'w cosbi,
a chasglu pobloedd yn eu herbyn,
pan gaethiwir hwy am eu drygioni deublyg.


11
“Heffer wedi ei thorri i mewn yw Effraim;
y mae'n hoff o ddyrnu;
gosodaf iau ar ei gwar deg,
a rhof Effraim mewn harnais;
bydd Jwda yn aredig,
a Jacob yn llyfnu iddo.

12
Heuwch gyfiawnder,
a byddwch yn medi ffyddlondeb;
triniwch i chwi fraenar;
y mae'n bryd ceisio'r ARGLWYDD,
iddo ddod a glawio cyfiawnder arnoch.


13
“Buoch yn aredig drygioni,
yn medi anghyfiawnder,
ac yn bwyta ffrwyth celwydd.

“Am iti ymddiried yn dy ffordd,
ac yn nifer dy ryfelwyr,

14
fe gwyd terfysg ymysg dy bobl,
a dinistrir dy holl amddiffynfeydd,
fel y dinistriwyd Beth-arbel gan Salman yn nydd rhyfel,
a dryllio'r fam gyda'i phlant.

15
Felly y gwneir i chwi, Bethel,
oherwydd eich drygioni mawr;
gyda'r wawr torrir brenin Israel i lawr.”

11

1

“Pan oedd Israel yn fachgen fe'i cerais,
ac o'r Aifft y gelwais fy mab.

2
Fel y galwn arnynt, aent ymaith oddi wrthyf ;
aberthent i Baal ac arogldarthu i eilunod.


3
“Myfi a fu'n dysgu Effraim i gerdded,
a'u cymryd erbyn eu breichiau;
ond ni fynnent gydnabod i mi eu hiacháu.

4
Tywysais hwy â rheffynnau caredig
ac â rhwymau cariad;
bûm iddynt fel un yn codi'r iau, yn llacio'r ffrwyn ,
ac yn plygu atynt i'w porthi.


5
“Ni ddychwelant i wlad yr Aifft,
ond Asyria fydd yn frenin arnynt,
am iddynt wrthod dychwelyd ataf.

6
Chwyrlïa cleddyf yn erbyn eu dinasoedd,
a difa byst eu pyrth
a'u difetha am eu cynllwynion.

7
Y mae fy mhobl yn mynnu cilio oddi wrthyf;
er iddynt alw ar dduw goruchel,
ni fydd yn eu dyrchafu o gwbl.


8
“Pa fodd y'th roddaf i fyny, Effraim,
a'th roi ymaith, Israel?
Pa fodd y'th wnaf fel Adma,
a'th osod fel Seboim?
Newidiodd fy meddwl ynof;
enynnodd fy nhosturi hefyd.

9
Ni chyflawnaf angerdd fy llid,
ni ddinistriaf Effraim eto;
canys Duw wyf fi, ac nid meidrolyn,
y Sanct yn dy ganol;
ac ni ddof i ddinistrio .


10
“Ânt ar ôl yr ARGLWYDD; fe rua fel llew.
Pan rua ef, daw ei blant dan grynu o'r gorllewin;

11
dônt dan grynu fel aderyn o'r Aifft,
ac fel colomen o wlad Asyria,
a gosodaf hwy eto yn eu cartrefi,” medd yr ARGLWYDD.

12
Amgylchodd Effraim fi â chelwydd,
a thŷ Israel â thwyll;
ond y mae Jwda'n ymwneud â Duw,
ac yn ffyddlon i'r Sanct.

12

1

Y mae Effraim yn bugeilio gwynt,
ac yn dilyn gwynt y dwyrain trwy'r dydd;
amlhânt dwyll a thrais;
gwnânt gytundeb ag Asyria,
a dygant olew i'r Aifft.


2
Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn Jwda;
fe gosba Jacob yn ôl ei ffyrdd,
a thalu iddo yn ôl ei weithredoedd.

3
Yn y groth gafaelodd yn sawdl ei frawd,
ac wedi iddo dyfu ymdrechodd â Duw.

4
Ymdrechodd â'r angel a gorchfygu;
wylodd a cheisiodd ei ffafr.
Ym Methel y cafodd ef,
a siarad yno ag ef —

5
ARGLWYDD Dduw y lluoedd,
yr ARGLWYDD yw ei enw.

6
A thithau, trwy nerth dy Dduw, dychwel,
cadw deyrngarwch a barn,
a disgwyl wrth dy Dduw bob amser.


7
Y mae masnachwr a chanddo gloriannau twyllodrus
yn caru gorthrymu.

8
Dywedodd Effraim, “Yn wir, rwy'n gyfoethog,
ac enillais olud;
yn fy holl enillion ni cheir
na drygioni na phechod.”

9
“Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,
a'th ddygodd o wlad yr Aifft;
gwnaf iti eto drigo mewn pebyll,
fel yn nyddiau'r ŵyl sefydlog.


10
“Lleferais wrth y proffwydi;
ac amlheais weledigaethau
a dangos gwers trwy'r proffwydi.

11
Am fod eilunod yn Gilead,
pethau cwbl ddiddim;
am fod aberthu teirw yn Gilgal,
bydd eu hallorau fel pentyrrau cerrig
ar rychau'r meysydd.”

12
Ffodd Jacob i dir Aram;
gwasanaethodd Israel am wraig;
am wraig y cadwodd ddefaid.

13
Trwy broffwyd y dygodd yr ARGLWYDD Israel o'r Aifft,
a thrwy broffwyd y cadwyd ef.

14
Cythruddodd Effraim ef yn chwerw,
a bydd i'w Arglwydd ei adael yn ei euogrwydd,
a throi ei waradwydd yn ôl arno.

13

1

Pan lefarai Effraim byddai dychryn;
yr oedd yn ddyrchafedig yn Israel;
ond pan bechodd gyda Baal, bu farw.

2
Ac yn awr y maent yn pechu ychwaneg;
gwnânt iddynt eu hunain ddelw dawdd,
eilunod cywrain o arian,
y cyfan yn waith crefftwyr.
“Aberthwch i'r rhai hyn,” meddant.
Pobl yn cusanu lloi!

3
Felly byddant fel tarth y bore,
ac fel gwlith yn codi'n gyflym,
fel us yn chwyrlïo o'r llawr dyrnu,
ac fel mwg trwy hollt.


4
“Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,
a'th ddygodd o wlad yr Aifft;
nid adwaenit Dduw heblaw myfi,
ac nid oedd achubydd ond myfi.

5
Gofelais amdanat yn yr anialwch,
yn nhir sychder.

6
Dan fy ngofal cawsant ddigon;
fe'u llanwyd, a dyrchafodd eu calon;
felly yr anghofiwyd fi.

7
Minnau, byddaf fel llew iddynt;
llechaf fel llewpard ar ymyl y llwybr.

8
Syrthiaf arnynt fel arth wedi colli ei chenawon,
rhwygaf gnawd eu mynwes,
ac yno traflyncaf hwy fel llew,
fel y llarpia anifail gwyllt hwy.


9
“Pan ddinistriaf di, O Israel,
pwy fydd dy gynorthwywr?

10
Ble yn awr mae dy frenin, i'th achub yn dy holl ddinasoedd,
a'th farnwyr, y dywedaist amdanynt,
‘Dyro inni frenin a thywysogion’?

11
Rhoddais iti frenin yn fy nig,
ac fe'i dygais ymaith yn fy nghynddaredd.

12
Rhwymwyd drygioni Effraim,
a storiwyd ei bechod.

13
Pan ddaw poenau esgor,
am mai plentyn anghall ydyw,
ni esyd ei hun yn yr amser
ym man yr esgor.


14
“A waredaf hwy o afael Sheol?
A achubaf hwy rhag angau?
O angau, ble mae dy blâu?
O Sheol, ble mae dy ddinistr?
Cuddiwyd trugaredd oddi wrth fy llygaid.


15
“Yn wir yr oedd yn dwyn ffrwyth ymysg brodyr,
ond daw dwyreinwynt, gwynt yr ARGLWYDD,
yn codi o'r anialwch;
â ei ffynnon yn hesb,
a sychir ei bydew;
dinoetha ei drysordy
o'i holl ddarnau gwerthfawr.

16
Bydd Samaria yn euog,
am iddi wrthryfela yn erbyn ei Duw;
syrthiant wrth y cleddyf,
dryllir eu rhai bychain yn chwilfriw,
a rhwygir eu rhai beichiog yn agored.”

14

1

Dychwel, Israel at yr ARGLWYDD dy Dduw,
canys syrthiaist oherwydd dy ddrygioni.

2
Cymerwch eiriau gyda chwi,
a dychwelwch at yr ARGLWYDD;
dywedwch wrtho, “Maddau'r holl ddrygioni,
derbyn ddaioni, a rhown i ti ffrwyth ein gwefusau.

3
Ni all Asyria ein hachub,
ac ni farchogwn ar geffylau;
ac wrth waith ein dwylo
ni ddywedwn eto, ‘Ein Duw’.
Ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.”

4
“Iachâf eu hanffyddlondeb;
fe'u caraf o'm bodd,
oherwydd trodd fy llid oddi wrthynt.

5
Byddaf fel gwlith i Israel;
blodeua fel lili
a lleda'i wraidd fel pren poplys .

6
Lleda'i flagur,
a bydd ei brydferthwch fel yr olewydden,
a'i arogl fel Lebanon.

7
Dychwelant a thrigo yn fy nghysgod ;
cynhyrchant ŷd,
ffrwythant fel y winwydden,
bydd eu harogl fel gwin Lebanon.


8
“Beth sydd a wnelo Effraim mwy ag eilunod?
Myfi sydd yn ei ateb ac yn ei arwain yn gywir.
Yr wyf fi fel cypreswydden ddeiliog;
oddi wrthyf y daw dy ffrwyth.”


9
Pwy bynnag sydd ddoeth, dealled hyn;
pwy bynnag sydd ddeallgar, gwybydded.
Oherwydd y mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn gywir;
rhodia'r cyfiawn ynddynt,
ond meglir y drygionus ynddynt.