1

1

O mor unig yw'r ddinas a fu'n llawn o bobl!
Y mae'r un a fu'n fawr ymysg y cenhedloedd yn awr fel gweddw,
a'r un a fu'n dywysoges y taleithiau dan lafur gorfod.

2
Y mae'n wylo'n chwerw yn y nos,
a dagrau ar ei gruddiau;
nid oes ganddi neb i'w chysuro
o blith ei holl gariadon;
y mae ei chyfeillion i gyd wedi ei bradychu,
ac wedi troi'n elynion iddi.

3
Aeth Jwda i gaethglud mewn trallod
ac mewn gorthrwm mawr;
y mae'n byw ymysg y cenhedloedd,
ond heb gael lle i orffwys;
y mae ei holl erlidwyr wedi ei goddiweddyd
yng nghanol ei gofidiau.

4
Y mae ffyrdd Seion mewn galar
am nad oes neb yn dod i'r gwyliau;
y mae ei holl byrth yn anghyfannedd,
a'i hoffeiriaid yn griddfan;
y mae ei merched ifainc yn drallodus,
a hithau mewn chwerwder.

5
Daeth ei gwrthwynebwyr yn feistri arni,
a llwyddodd ei gelynion,
oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi dwyn trallod arni
o achos amlder ei throseddau;
y mae ei phlant wedi mynd ymaith
yn gaethion o flaen y gelyn.

6
Diflannodd y cyfan o'i hanrhydedd
oddi wrth ferch Seion;
y mae ei thywysogion fel ewigod
sy'n methu cael porfa;
y maent wedi ffoi, heb nerth,
o flaen yr erlidwyr.

7
Yn nydd ei thrallod a'i chyni
y mae Jerwsalem yn cofio'r holl drysorau
oedd ganddi yn y dyddiau gynt.
Pan syrthiodd ei phobl i ddwylo'r gwrthwynebwyr,
heb neb i'w chynorthwyo,
edrychodd ei gwrthwynebwyr arni
a chwerthin o achos ei dinistr.

8
Pechodd Jerwsalem yn erchyll;
am hynny fe aeth yn ffieidd-dra.
Y mae pawb oedd yn ei pharchu yn ei dirmygu
am iddynt weld ei noethni;
y mae hithau'n griddfan
ac yn troi draw.

9
Yr oedd ei haflendid yng ngodre'i dillad;
nid ystyriodd ei thynged.
Yr oedd ei chwymp yn arswydus,
ac nid oedd neb i'w chysuro.
Edrych, O ARGLWYDD, ar fy nhrallod,
oherwydd y mae'r gelyn wedi gorchfygu.

10
Estynnodd y gelyn ei law
i gymryd ei holl drysorau;
yn wir, gwelodd hi y cenhedloedd
yn dod i'w chysegr—
rhai yr oeddit ti wedi eu gwahardd
yn dod i mewn i'th gynulliad!

11
Yr oedd ei phobl i gyd yn griddfan
wrth iddynt chwilio am fara;
yr oeddent yn cyfnewid eu trysorau am fwyd
i'w cynnal eu hunain.
Edrych, O ARGLWYDD, a gwêl,
oherwydd euthum yn ddirmyg.

12
Onid yw hyn o bwys i chwi sy'n mynd heibio?
Edrychwch a gwelwch;
a oes gofid fel y gofid
a osodwyd yn drwm arnaf,
ac a ddygodd yr ARGLWYDD arnaf
yn nydd ei lid angerddol?

13
Anfonodd dân o'r uchelder,
a threiddiodd i'm hesgyrn;
gosododd rwyd i'm traed,
a'm troi'n ôl;
gwnaeth fi yn ddiffaith
ac yn gystuddiol trwy'r dydd.

14
Clymwyd fy nhroseddau amdanaf ;
plethwyd hwy â'i law ei hun;
gosododd ei iau ar fy ngwddf,
ac ysigodd fy nerth;
rhoddodd yr Arglwydd fi yng ngafael rhai
na allaf godi yn eu herbyn.

15
Diystyrodd yr Arglwydd
yr holl ryfelwyr oedd ynof;
galwodd ar fyddin i ddod yn f'erbyn,
i ddifetha fy ngwŷr ifainc;
fel y sethrir grawnwin y sathrodd yr Arglwydd
y forwyn, merch Jwda.

16
O achos hyn yr wyf yn wylo,
ac y mae fy llygad yn llifo gan ddagrau,
oherwydd pellhaodd yr un sy'n fy nghysuro
ac yn fy nghynnal;
y mae fy mhlant wedi eu hanrheithio
am fod y gelyn wedi gorchfygu.


17
Estynnodd Seion ei dwylo,
ond nid oedd neb i'w chysuro;
gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'r gelynion
amgylchynu Jacob o bob cyfeiriad;
yr oedd Jerwsalem wedi mynd
yn ffieidd-dra yn eu mysg.


18
Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn,
ond gwrthryfelais yn erbyn ei air.
Gwrandewch yn awr, yr holl bobloedd,
ac edrychwch ar fy nolur:
aeth fy merched a'm dynion ifainc i gaethglud.

19
Gelwais ar fy nghariadon,
ond y maent hwy wedi fy mradychu;
trengodd f'offeiriaid a'm henuriaid yn y ddinas,
wrth chwilio am fwyd i'w cynnal eu hunain.

20
Edrych, O ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf;
y mae f'ymysgaroedd mewn poen,
a'm calon wedi cyffroi,
oherwydd yr wyf wedi gwrthryfela i'r eithaf.
O'r tu allan, y mae'r cleddyf wedi gwneud rhai'n amddifad;
yn y tŷ, nid oes dim ond marwolaeth.

21
Gwrandewch pan wyf yn griddfan,
heb neb i'm cysuro.
Clywodd fy holl elynion am fy nhrychineb,
a llawenhau am iti wneud hyn;
ond byddi di'n dwyn arnynt y dydd a benodaist,
a byddant hwythau fel finnau.

22
Gad i'w holl ddrygioni ddod i'th sylw,
a dwg gosb arnynt,
fel y cosbaist fi am fy holl droseddau;
oherwydd y mae fy ngriddfannau'n aml,
a'm calon yn gystuddiol.

2

1

O'r fath dywyllwch a ddygodd yr Arglwydd
ar ferch Seion yn ei ddig!
Bwriodd ogoniant Israel
o'r nefoedd i'r llawr,
ac ni chofiodd am ei droedfainc
yn nydd ei ddicter.

2
Difethodd yr Arglwydd yn ddiarbed
holl drigfannau Jacob;
yn ei ddigofaint dinistriodd
amddiffynfeydd merch Jwda;
taflodd i lawr a difwynodd
y deyrnas a'i phenaethiaid.

3
Yn angerdd ei ddig torrodd
gyrn Israel i gyd;
tynnodd yn ôl ei ddeheulaw
wrth i'r gelyn ymosod;
llosgodd yn Jacob fel fflam dân
yn difa popeth o'i hamgylch.

4
Fel gelyn paratôdd ei fwa,
safodd â'i ddeheulaw'n barod,
ac fel gwrthwynebwr fe laddodd
y cyfan oedd yn ddymunol i'r llygad;
tywalltodd ei lid fel tân
ar babell merch Seion.

5
Y mae'r Arglwydd wedi troi'n elyn
ac wedi difetha Israel;
difethodd ei holl balasau,
a dinistrio'i hamddiffynfeydd;
gwnaeth i alar a gofid
gynyddu i ferch Jwda.

6
Chwalodd ei babell fel chwalu gardd,
a dinistrio'r man cyfarfod;
gwnaeth yr ARGLWYDD i Seion anghofio
ei gŵyl a'i Saboth;
yn angerdd ei lid dirmygodd
frenin ac offeiriad.

7
Gwrthododd yr Arglwydd ei allor,
a ffieiddio'i gysegr;
rhoddodd furiau ei phalasau
yn llaw'r gelyn;
gwaeddasant hwythau yn nhŷ'r ARGLWYDD
fel ar ddydd gŵyl.

8
Yr oedd yr ARGLWYDD yn benderfynol
o ddinistrio mur merch Seion;
gosododd linyn mesur arni,
ac ni thynnodd yn ôl ei law rhag difetha.
Gwnaeth i wrthglawdd a mur alaru;
aethant i gyd yn wan.

9
Suddodd ei phyrth i'r ddaear;
torrodd a maluriodd ef ei barrau.
Y mae ei brenin a'i phenaethiaid ymysg y cenhedloedd,
ac nid oes cyfraith mwyach;
ni chaiff ei phroffwydi
weledigaeth gan yr ARGLWYDD.

10
Y mae henuriaid merch Seion
yn eistedd yn fud ar y ddaear,
wedi taflu llwch ar eu pennau
a gwisgo sachliain;
y mae merched ifainc Jerwsalem
wedi crymu eu pennau i'r llawr.

11
Dallwyd fy llygaid gan ddagrau;
y mae f'ymysgaroedd mewn poen.
Yr wyf yn tywallt fy nghalon allan
o achos dinistr merch fy mhobl,
ac am fod plant a babanod yn llewygu
yn strydoedd y ddinas.

12
Yr oeddent yn gweiddi ar eu mamau,
“Ple cawn ni rawn a gwin?”—
wrth iddynt lewygu fel rhai clwyfedig
yn strydoedd y ddinas,
ac wrth iddynt ymladd am eu bywyd
ym mynwes eu mamau.


13
Beth allaf ei ddweud o'th blaid,
a beth a ddychmygaf amdanat, ferch Jerwsalem?
I bwy y gallaf dy gyffelybu er mwyn dy gysur,
y forwyn, ferch Seion?
Y mae dy ddolur mor ddwfn â'r môr,
pwy a all dy iacháu?

14
Yr oedd gweledigaethau dy broffwydi
yn gelwyddog a thwyllodrus;
ni fu iddynt ddatgelu dy gamwedd
er mwyn adfer dy lwyddiant;
yr oedd yr oraclau a roddasant iti
yn gelwyddog a chamarweiniol.

15
Y mae pob un sy'n mynd heibio
yn curo'i ddwylo o'th achos;
y maent yn chwibanu ac yn ysgwyd eu pennau
ar ferch Jerwsalem:
“Ai hon yw'r ddinas a gyfrifid yn goron prydferthwch,
ac yn llawenydd yr holl ddaear?”

16
Y mae dy holl elynion
yn gweiddi'n groch yn dy erbyn,
yn chwibanu ac yn ysgyrnygu dannedd;
dywedant, “Yr ydym wedi ei difetha;
dyma'r dydd yr oeddem yn disgwyl amdano;
yr ydym wedi cael ei weld!”


17
Gwnaeth yr ARGLWYDD yr hyn a gynlluniodd;
cyflawnodd ei fwriad,
a drefnodd ers amser maith,
a dinistriodd yn ddiarbed;
gwnaeth i'r gelyn lawenhau o'th achos,
a dyrchafu corn dy wrthwynebwyr.

18
Gwaedda ar yr Arglwydd,
O fur merch Seion;
tywallt ddagrau'n genllif ddydd a nos;
paid ag ymatal na rhoi gorffwys i'th lygaid.

19
Cod, a gwaedda liw nos,
ar gychwyn pob gwyliadwriaeth;
tywallt dy galon fel dŵr
o flaen yr Arglwydd;
estyn dy ddwylo tuag ato
am fywyd dy blant,
sy'n llewygu gan newyn
ym mhen pob stryd.

20
Edrych, ARGLWYDD, a gwêl.
I bwy y gwnaethost hyn?
A yw'r gwragedd i fwyta'u hepil,
y plant y maent yn eu hanwesu?
A leddir offeiriad a phroffwyd
yng nghysegr yr Arglwydd?

21
Gorwedd yr ifanc a'r hen
yn y llwch ar y strydoedd;
y mae fy merched a'm dynion ifainc
wedi syrthio trwy'r cleddyf;
lleddaist hwy yn nydd dy ddicter,
a'u difa'n ddiarbed.

22
Gelwaist ar fy ymosodwyr o bob cyfeiriad,
fel ar ddydd gŵyl;
nid oedd un yn dianc nac yn cael ei arbed
yn nydd dicter yr ARGLWYDD;
lladdodd fy ngelyn
bob un a anwesais ac a fegais.

3

1

Myfi yw'r gŵr a welodd ofid
dan wialen ei ddicter.

2
Gyrrodd fi allan a gwneud imi gerdded
trwy dywyllwch lle nad oedd goleuni.

3
Daliodd i droi ei law yn f'erbyn,
a hynny ddydd ar ôl dydd.


4
Parodd i'm cnawd a'm croen ddihoeni,
a maluriodd f'esgyrn.

5
Gwnaeth warchae o'm cwmpas,
a'm hamgylchynu â chwerwder a blinder.

6
Gwnaeth i mi aros mewn tywyllwch,
fel rhai wedi hen farw.


7
Caeodd arnaf fel na allwn ddianc,
a gosododd rwymau trwm amdanaf.

8
Pan elwais, a gweiddi am gymorth,
fe wrthododd fy ngweddi.

9
Caeodd fy ffyrdd â meini mawrion,
a gwneud fy llwybrau'n gam.


10
Y mae'n gwylio amdanaf fel arth,
fel llew yn ei guddfa.

11
Tynnodd fi oddi ar y ffordd a'm dryllio,
ac yna fy ngadael yn ddiymgeledd.

12
Paratôdd ei fwa, a'm gosod
yn nod i'w saeth.


13
Anelodd saethau ei gawell
a'u trywanu i'm perfeddion.

14
Yr oeddwn yn gyff gwawd i'r holl bobloedd,
yn destun caneuon gwatwarus drwy'r dydd.

15
Llanwodd fi â chwerwder,
a'm meddwi â'r wermod.


16
Torrodd fy nannedd â cherrig,
a gwneud imi grymu yn y lludw.

17
Yr wyf wedi f'amddifadu o heddwch;
anghofiais beth yw daioni.

18
Yna dywedais, “Diflannodd fy nerth,
a hefyd fy ngobaith oddi wrth yr ARGLWYDD.”


19
Cofia fy nhrallod a'm crwydro,
y wermod a'r bustl.

20
Yr wyf fi yn ei gofio'n wastad,
ac wedi fy narostwng.

21
Meddyliaf yn wastad am hyn,
ac felly disgwyliaf yn eiddgar.


22
Nid oes terfyn ar gariad yr ARGLWYDD,
ac yn sicr ni phalla ei dosturiaethau.

23
Y maent yn newydd bob bore,
a mawr yw dy ffyddlondeb.

24
Dywedais, “Yr ARGLWYDD yw fy rhan,
am hynny disgwyliaf wrtho.”


25
Da yw'r ARGLWYDD i'r rhai sy'n gobeithio ynddo,
i'r rhai sy'n ei geisio.

26
Y mae'n dda disgwyl yn dawel
am iachawdwriaeth yr ARGLWYDD.

27
Da yw bod un yn cymryd yr iau arno
yng nghyfnod ei ieuenctid.


28
Boed iddo eistedd ar ei ben ei hun,
a bod yn dawel pan roddir hi arno;

29
boed iddo osod ei enau yn y llwch;
hwyrach fod gobaith iddo.

30
Boed iddo droi ei rudd i'r un sy'n ei daro,
a bod yn fodlon i dderbyn dirmyg.


31
Oherwydd nid yw'r Arglwydd
yn gwrthod am byth;

32
er iddo gystuddio,
bydd yn trugarhau yn ôl ei dosturi mawr,

33
gan nad o'i fodd y mae'n dwyn gofid
ac yn cystuddio pobl.


34
Sathru dan draed
holl garcharorion y ddaear,

35
a thaflu o'r neilltu hawl rhywun
gerbron y Goruchaf,

36
a gwyrdroi achos—
Onid yw'r Arglwydd yn sylwi ar hyn?


37
Pwy a all orchymyn i unrhyw beth ddigwydd
heb i'r Arglwydd ei drefnu?

38
Onid o enau'r Goruchaf
y daw drwg a da?

39
Sut y gall unrhyw un byw rwgnach,
ie, unrhyw feidrolyn, yn erbyn ei gosb?


40
Bydded inni chwilio a phrofi ein ffyrdd,
a dychwelyd at yr ARGLWYDD,

41
a dyrchafu'n calonnau a'n dwylo
at Dduw yn y nefoedd.

42
Yr ydym ni wedi troseddu a gwrthryfela,
ac nid wyt ti wedi maddau.


43
Yr wyt yn llawn dig ac yn ein herlid,
yn lladd yn ddiarbed.

44
Ymguddiaist mewn cwmwl
rhag i'n gweddi ddod atat.

45
Gwnaethost ni'n ysbwriel ac yn garthion
ymysg y bobloedd.


46
Y mae'n holl elynion
yn gweiddi'n groch yn ein herbyn.

47
Fe'n cawsom ein hunain mewn dychryn a magl,
hefyd mewn difrod a dinistr.

48
Y mae fy llygad yn ffrydiau o ddŵr
o achos dinistr merch fy mhobl;


49
y mae'n diferu'n ddi-baid,
heb gael gorffwys,

50
hyd onid edrycha'r ARGLWYDD
a gweld o'r nefoedd.

51
Y mae fy llygad yn flinder imi
o achos dinistr holl ferched fy ninas.


52
Y mae'r rhai sy'n elynion imi heb achos
yn fy erlid yn wastad fel aderyn.

53
Y maent yn fy mwrw'n fyw i'r pydew,
ac yn taflu cerrig arnaf.

54
Llifodd y dyfroedd trosof,
a dywedais, “Y mae ar ben arnaf.”


55
Gelwais ar d'enw, O ARGLWYDD,
o waelod y pydew.

56
Clywaist fy llef: “Paid â throi'n glustfyddar
i'm cri am gymorth.”

57
Daethost yn agos ataf y dydd y gelwais arnat;
dywedaist, “Paid ag ofni.”


58
Yr oeddit ti, O Arglwydd, yn dadlau f'achos,
ac yn gwaredu fy mywyd.

59
Gwelaist, O ARGLWYDD, y cam a wnaethpwyd â mi,
a dyfernaist o'm plaid.

60
Gwelaist eu holl ddial,
a'u holl gynllwynio yn f'erbyn.


61
Clywaist, O ARGLWYDD, eu dirmyg,
a'u holl gynllwynio yn f'erbyn—

62
geiriau a sibrydion fy ngwrthwynebwyr
yn f'erbyn bob dydd.

63
Edrych arnynt—yn eistedd neu'n sefyll,
fi yw testun eu gwawd.


64
O ARGLWYDD, tâl iddynt
yn ôl gweithredoedd eu dwylo.

65
Rho iddynt ofid calon,
a bydded dy felltith arnynt.

66
O ARGLWYDD, erlid hwy yn dy lid,
a dinistria hwy oddi tan y nefoedd.

4

1

O fel y pylodd yr aur,
ac y newidiodd yr aur coeth!
Gwasgarwyd meini'r cysegr
ym mhen pob stryd.

2
Plant gwerthfawr Seion,
a oedd yn werth eu pwysau mewn aur,
yn awr yn cael eu hystyried fel llestri pridd,
gwaith dwylo crochenydd!

3
Y mae hyd yn oed siacaliaid yn dinoethi'r fron
i roi sugn i'w hepil,
ond y mae merch fy mhobl wedi mynd yn greulon,
fel estrys yn yr anialwch.

4
Y mae tafod y plentyn sugno
yn glynu wrth ei daflod o syched;
y mae'r plant yn cardota bara,
heb neb yn ei roi iddynt.

5
Y mae'r rhai a arferai fwyta danteithion
yn ddiymgeledd yn y strydoedd,
a'r rhai a fagwyd mewn ysgarlad
yn ymgreinio ar domennydd ysbwriel.

6
Y mae trosedd merch fy mhobl
yn fwy na phechod Sodom,
a ddymchwelwyd yn ddisymwth
heb i neb godi llaw yn ei herbyn.

7
Yr oedd ei thywysogion yn lanach nag eira,
yn wynnach na llaeth;
yr oedd eu cyrff yn gochach na chwrel,
a'u pryd fel saffir.

8
Ond aeth eu hwynepryd yn dduach na pharddu,
ac nid oes neb yn eu hadnabod yn y strydoedd;
crebachodd eu croen am eu hesgyrn,
a sychodd fel pren.

9
Yr oedd y rhai a laddwyd â'r cleddyf yn fwy ffodus
na'r rhai oedd yn marw o newyn,
oherwydd yr oeddent hwy yn dihoeni,
wedi eu hamddifadu o gynnyrch y meysydd.

10
Yr oedd gwragedd tynergalon â'u dwylo eu hunain
yn berwi eu plant,
i'w gwneud yn fwyd iddynt eu hunain,
pan ddinistriwyd merch fy mhobl.

11
Bwriodd yr ARGLWYDD ei holl lid,
a thywalltodd angerdd ei ddig;
cyneuodd dân yn Seion,
ac fe ysodd ei sylfeini.

12
Ni chredai brenhinoedd y ddaear,
na'r un o drigolion y byd,
y gallai ymosodwr neu elyn
fynd i mewn trwy byrth Jerwsalem.

13
Ond fe ddigwyddodd hyn oherwydd pechodau ei phroffwydi
a chamweddau ei hoffeiriaid,
a dywalltodd waed y cyfiawn yn ei chanol hi.

14
Yr oeddent yn crwydro fel deillion yn y strydoedd,
wedi eu halogi â gwaed,
fel na feiddiai neb gyffwrdd â'u dillad.

15
“Cadwch draw, maent yn aflan,”—dyna a waeddai pobl—
“cadwch draw, cadwch draw, peidiwch â'u cyffwrdd!”
Yn wir fe ffoesant a mynd ar grwydr,
a dywedwyd ymysg y cenhedloedd,
“Ni chânt aros yn ein plith mwyach.”

16
Yr ARGLWYDD ei hun a'u gwasgarodd,
heb edrych arnynt mwyach;
ni roddwyd anrhydedd i'r offeiriaid,
na ffafr i'r henuriaid.


17
Yr oedd ein llygaid yn pallu
wrth edrych yn ofer am gymorth;
buom yn disgwyl a disgwyl
wrth genedl na allai achub.

18
Yr oeddent yn gwylio pob cam a gymerem,
fel na allem fynd allan i'n strydoedd.
Yr oedd ein diwedd yn agos, a'n dyddiau'n dod i ben;
yn wir fe ddaeth ein diwedd.

19
Yr oedd ein herlidwyr yn gyflymach
nag eryrod yr awyr;
yr oeddent yn ein herlid ar y mynyddoedd,
ac yn gwylio amdanom yn y diffeithwch.

20
Anadl ein bywyd, eneiniog yr ARGLWYDD,
a ddaliwyd yn eu maglau,
a ninnau wedi meddwl mai yn ei gysgod ef
y byddem yn byw'n ddiogel ymysg y cenhedloedd.


21
Gorfoledda a bydd lawen, ferch Edom,
sy'n preswylio yng ngwlad Us!
Ond fe ddaw'r cwpan i tithau hefyd;
byddi'n feddw ac yn dy ddinoethi dy hun.

22
Daeth terfyn ar dy gosb, ferch Seion;
ni chei dy gaethgludo eto.
Ond fe ddaw dy gosb arnat ti, ferch Edom;
fe ddatgelir dy bechod.

5

1

Cofia, O ARGLWYDD, beth ddigwyddodd inni;
edrych a gwêl ein gwarth.

2
Rhoddwyd ein hetifeddiaeth i estroniaid,
a'n tai i ddieithriaid.

3
Yr ydym fel rhai amddifad, heb dadau,
a'n mamau fel gweddwon.

4
Y mae'n rhaid inni dalu am y dŵr a yfwn,
a phrynu'r coed a gawn.

5
Y mae iau ar ein gwarrau, ac fe'n gorthrymir;
yr ydym wedi blino, ac ni chawn orffwys.

6
Gwnaethom gytundeb â'r Aifft,
ac yna ag Asyria, i gael digon o fwyd.

7
Pechodd ein tadau, ond nid ydynt mwyach;
ni sy'n dwyn y baich am eu camweddau.

8
Caethweision sy'n llywodraethu arnom,
ac nid oes neb i'n hachub o'u gafael.

9
Yr ydym yn peryglu'n heinioes wrth gyrchu bwyd,
oherwydd y cleddyf yn yr anialwch.

10
Y mae ein croen wedi duo fel ffwrn
oherwydd y dwymyn a achosir gan newyn.

11
Treisir gwragedd yn Seion,
a merched ifainc yn ninasoedd Jwda.

12
Crogir llywodraethwyr gerfydd eu dwylo,
ac ni pherchir yr henuriaid.

13
Y mae'r dynion ifainc yn llafurio â'r maen melin,
a'r llanciau'n baglu dan bwysau'r coed.

14
Gadawodd yr henuriaid y porth,
a'r gwŷr ifainc eu cerddoriaeth.

15
Diflannodd llawenydd o'n calonnau,
a throdd ein dawnsio yn alar.

16
Syrthiodd y goron oddi ar ein pen;
gwae ni, oherwydd pechasom.

17
Dyma pam y mae ein calon yn gystuddiol,
ac oherwydd hyn y pylodd ein llygaid:

18
am fod Mynydd Seion wedi mynd yn ddiffeithwch,
a'r siacaliaid yn prowla yno am ysglyfaeth.


19
Yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth,
ac y mae dy orsedd o genhedlaeth i genhedlaeth.

20
Pam yr wyt yn ein hanghofio o hyd,
ac wedi'n gwrthod am amser mor faith?


21
ARGLWYDD, tyn ni'n ôl atat, ac fe ddychwelwn;
adnewydda ein dyddiau fel yn yr amser a fu,

22
os nad wyt wedi'n gwrthod yn llwyr,
ac yn ddig iawn wrthym.