1

1

Cân y caniadau, eiddo Solomon.


2
Cusana fi â chusanau dy wefusau,
oherwydd y mae dy gariad yn well na gwin,

3
ac arogl dy bersawr yn hyfryd,
a'th enw fel persawr wedi ei wasgaru;
dyna pam y mae merched yn dy garu.

4
Tyn fi ar dy ôl, gad inni redeg gyda'n gilydd;
cymer fi i'th ystafell, O frenin .

Gad inni lawenhau ac ymhyfrydu ynot,
a chanmol dy gariad yn fwy na gwin;
mor briodol yw iddynt dy garu!


5
O ferched Jerwsalem,
er fy mod yn dywyll fy lliw
fel pebyll Cedar neu lenni pebyll Solomon,
yr wyf yn brydferth.

6
Peidiwch â rhythu arnaf am fy mod yn dywyll fy lliw,
oherwydd i'r haul fy llosgi.
Bu meibion fy mam yn gas wrthyf,
a gwneud imi wylio'r gwinllannoedd;
ond ni wyliais fy ngwinllan fy hun.

7
Fy nghariad, dywed wrthyf
ymhle'r wyt yn bugeilio'r praidd,
ac yn gwneud iddynt orffwys ganol dydd.
Pam y byddaf fel un yn crwydro
wrth ymyl praidd dy gyfeillion?


8
O ti, y decaf o ferched,
os nad wyt yn gwybod,
yna dilyn lwybrau'r defaid,
a bugeilia dy fynnod
gerllaw pebyll y bugeiliaid.

9
F'anwylyd, yr wyf yn dy gyffelybu
i feirch cerbydau Pharo.

10
Mor brydferth yw dy ruddiau rhwng y plethi,
a'th wddf gan emau.


11
Fe wnawn iti gadwynau aur
gydag addurniadau arian.


12
Pan yw'r brenin ar ei wely,
y mae fy nard yn gwasgaru arogl.

13
Y mae fy nghariad fel clwstwr o fyrr
yn gorffwys rhwng fy mronnau.

14
Y mae fy nghariad fel tusw o flodau henna
o winllannoedd En-gedi.


15
O mor brydferth wyt, f'anwylyd.
O mor brydferth,
a'th lygaid fel colomennod!


16
Mor brydferth wyt, fy nghariad.
O mor ddymunol!
Y mae ein gwely wedi ei orchuddio â dail.

17
Y cedrwydd yw trawstiau ein tŷ
a'r ffynidwydd yw ei ddistiau.

2

1

Yr wyf fel rhosyn Saron,
fel lili'r dyffrynnoedd.


2
Ie, lili ymhlith drain
yw f'anwylyd ymysg merched.


3
Fel pren afalau ymhlith prennau'r goedwig
yw fy nghariad ymysg y bechgyn.
Yr oeddwn wrth fy modd yn eistedd yn ei gysgod,
ac yr oedd ei ffrwyth yn felys i'm genau.

4
Cymerodd fi i'r gwindy,
gyda baner ei gariad drosof.

5
Rhoddodd imi rawnwin i'w bwyta,
a'm hadfywio ag afalau,
oherwydd yr oeddwn yn glaf o gariad.

6
Yr oedd ei fraich chwith dan fy mhen,
a'i fraich dde yn fy nghofleidio.


7
Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch
yn enw iyrchod ac ewigod y maes.
Peidiwch â deffro na tharfu fy nghariad
nes y bydd yn barod.

8
Ust! dyma fy nghariad,
dyma ef yn dod;
y mae'n neidio ar y mynyddoedd,
ac yn llamu ar y bryniau.

9
Y mae fy nghariad fel gafrewig,
neu hydd ifanc;
dyna ef yn sefyll y tu allan i'r mur,
yn edrych trwy'r ffenestri,
ac yn syllu rhwng y dellt.

10
Y mae fy nghariad yn galw arnaf ac yn dweud wrthyf,
“Cod yn awr, f'anwylyd,
a thyrd, fy mhrydferth;

11
oherwydd edrych, aeth y gaeaf heibio,
ciliodd y glaw a darfu;

12
y mae'r blodau'n ymddangos yn y meysydd,
daeth yn amser i'r adar ganu,
ac fe glywir cân y durtur yn ein gwlad;

13
y mae'r ffigysbren yn llawn ffigys ir,
a blodau'r gwinwydd yn gwasgaru aroglau peraidd.
Cod yn awr, f'anwylyd,
a thyrd, fy mhrydferth.”


14
Fy ngholomen, sydd yn encilion y graig,
yng nghysgod y clogwyni,
gad imi weld dy wyneb,
a chlywed dy lais,
oherwydd y mae dy lais yn swynol,
a'th wyneb yn brydferth.


15
Daliwch inni'r llwynogod,
y llwynogod bychain,
sy'n difetha'r gwinllannoedd
pan yw'r blodau ar y gwinwydd.


16
Y mae fy nghariad yn eiddo i mi,
a minnau'n eiddo iddo ef;
y mae'n bugeilio'i braidd ymysg y lilïau.

17
Cyn i awel y dydd godi,
ac i'r cysgodion ddiflannu,
tro ataf, fy nghariad,
a bydd yn debyg i afrewig
neu hydd ifanc ar y mynyddoedd ysgythrog.

3

1

Bob nos ar fy ngwely
ceisiais fy nghariad;
fe'i ceisiais, ond heb ei gael.

2
Mi godais, a mynd o amgylch y dref,
trwy'r heolydd a'r strydoedd;
chwiliais am fy nghariad;
chwilio, ond heb ei gael.

3
Daeth y gwylwyr i'm cyfarfod,
wrth iddynt fynd o amgylch y dref,
a gofynnais, “A welsoch chwi fy nghariad?”

4
Ymhen ychydig wedi imi eu gadael,
fe gefais fy nghariad;
gafaelais ynddo, a gwrthod ei ollwng
nes ei ddwyn i dŷ fy mam,
i ystafell yr un a esgorodd arnaf.


5
Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch
yn enw iyrchod ac ewigod y maes.
Peidiwch â deffro na tharfu f'anwylyd
nes y bydd hi'n dymuno.

6
Beth yw hyn sy'n dod o'r anialwch,
fel colofn o fwg
yn llawn arogl o fyrr a thus,
ac o bowdrau marsiandïwr?

7
Dyma gerbyd Solomon;
o'i gylch y mae trigain o ddynion cryfion,
y rhai cryfaf yn Israel,

8
pob un yn cario cleddyf,
ac wedi ei hyfforddi i ryfela,
pob un â'i gleddyf ar ei glun,
yn barod ar gyfer dychryn yn y nos.


9
Gwnaeth y Brenin Solomon iddo'i hun
gadair gludo o goed Lebanon,

10
gyda'i pholion o arian,
ei chefn o aur, ei sedd o borffor,
a'r tu mewn iddi yn lledr
o waith merched Jerwsalem.

11
Dewch allan, ferched Seion,
edrychwch ar y Brenin Solomon
yn gwisgo'r goron a roddodd ei fam iddo
ar ddydd ei briodas,
y dydd pan oedd yn llawen.

4

1

Mor brydferth wyt, f'anwylyd,
mor brydferth wyt!
Y tu ôl i'th orchudd y mae dy lygaid fel colomennod,
a'th wallt fel diadell o eifr
yn dod i lawr o Fynydd Gilead.

2
Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid wedi eu cneifio
yn dod i fyny o'r olchfa,
y cwbl ohonynt yn efeilliaid,
heb un yn amddifad.

3
Y mae dy wefusau fel edau ysgarlad,
a'th enau yn hyfryd;
y tu ôl i'th orchudd y mae dy arlais
fel darn o bomgranad.

4
Y mae dy wddf fel tŵr Dafydd,
wedi ei adeiladu, rhes ar res,
a mil o estylch yn crogi arno,
y cwbl ohonynt yn darianau rhyfelwyr.


5
Y mae dy ddwy fron fel dwy elain,
gefeilliaid ewig yn pori ymysg y lilïau.

6
Cyn i awel y dydd godi,
ac i'r cysgodion ddiflannu,
fe af i'r mynydd myrr,
ac i fryn y thus.

7
Yr wyt i gyd yn brydferth, f'anwylyd;
nid oes yr un brycheuyn arnat.

8
O briodferch, tyrd gyda mi o Lebanon,
tyrd gyda mi o Lebanon;
tyrd i lawr o gopa Amana,
ac o ben Senir a Hermon,
o ffeuau'r llewod
a mynyddoedd y llewpardiaid.


9
Fy chwaer a'm priodferch, yr wyt wedi ennill fy nghalon,
wedi ennill fy nghalon ag un edrychiad,
ag un gem o'r gadwyn am dy wddf.

10
Mor hyfryd yw dy gariad, fy chwaer a'm priodferch!
Y mae dy gariad yn well na gwin,
ac arogl dy bersawr yn hyfrytach na'r holl berlysiau.

11
O briodferch, y mae dy wefusau'n diferu diliau mêl,
y mae mêl a llaeth dan dy dafod,
ac y mae arogl dy ddillad fel arogl Lebanon.

12
Gardd wedi ei chau i mewn yw fy chwaer a'm priodferch,
gardd wedi ei chau i mewn, ffynnon wedi ei selio.

13
Y mae dy blanhigion yn berllan o bomgranadau,
yn llawn o'r ffrwythau gorau,
henna a nard,

14
nard a saffrwn, calamus a sinamon,
hefyd yr holl goed thus,
myrr ac aloes a'r holl berlysiau gorau.

15
Y mae'r ffynnon yn yr ardd yn ffynnon o ddyfroedd byw
yn ffrydio o Lebanon.


16
Deffro, O wynt y gogledd,
a thyrd, O wynt y de;
chwyth ar fy ngardd
i wasgaru ei phersawr.
Doed fy nghariad i'w ardd,
a bwyta ei ffrwyth gorau.

5

1

Yr wyf wedi dod i'm gardd, fy chwaer a'm priodferch;
cesglais fy myrr a'm perlysiau,
a bwyta fy niliau a'm mêl,
ac yfed fy ngwin a'm llaeth.

Gyfeillion, bwytewch ac yfwch,
nes meddwi ar gariad.

2
Yr oeddwn yn cysgu, ond â'm calon yn effro.
Ust! Y mae fy nghariad yn curo:
“Agor imi, fy chwaer, f'anwylyd,
fy ngholomen, yr un berffaith yn fy ngolwg,
oherwydd y mae fy ngwallt yn diferu o wlith,
a'm barf o ddefnynnau'r nos.”

3
Ond yr wyf wedi diosg fy mantell;
a oes raid imi ei gwisgo eto?
Yr wyf wedi golchi fy nhraed;
a oes raid imi eu maeddu eto?

4
Pan roes fy nghariad ei law ar y glicied,
yr oeddwn wedi fy nghynhyrfu trwof.

5
Codais i agor i'm cariad,
ac yr oedd fy nwylo'n diferu o fyrr,
a'r myrr o'm bysedd yn llifo ar ddolennau'r clo.

6
Pan agorais i'm cariad,
yr oedd wedi cilio a mynd ymaith,
ac yr oeddwn yn drist am ei fod wedi mynd;
chwiliais amdano, ond heb ei gael;
gelwais arno, ond nid oedd yn ateb.

7
Daeth y gwylwyr i'm cyfarfod,
wrth iddynt fynd o amgylch y dref,
a rhoesant gurfa imi a'm niweidio;
bu i'r rhai oedd yn gwylio'r mur
ddwyn fy mantell oddi arnaf.

8
Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch.
Os dewch o hyd i'm cariad,
dywedwch wrtho fy mod yn glaf o gariad.


9
A yw dy gariad di yn well nag eraill,
O ti, y decaf o ferched?
A yw dy gariad di yn well nag eraill,
i beri iti ymbil fel hyn arnom?


10
Y mae fy nghariad yn deg a gwridog,
yn sefyll allan ymysg deng mil.

11
Y mae ei ben fel aur coeth,
a'i wallt yn gyrliog,
yn ddu fel y frân.

12
Y mae ei lygaid fel colomennod
wrth ffrydiau dŵr,
wedi eu golchi â llaeth,
a'u gosod yn briodol yn eu lle.

13
Y mae ei ruddiau fel gwely perlysiau
yn gwasgaru persawr;
y mae ei wefusau fel lilïau
yn diferu o fyrr rhedegog.

14
Y mae ei ddwylo fel dysglau aur
yn llawn gemau;
y mae ei gorff fel gwaith ifori
wedi ei orchuddio â saffir.

15
Y mae ei goesau fel colofnau o farmor,
wedi eu gosod ar sylfaen o aur,
a'i ymddangosiad fel Lebanon,
mor urddasol â'r cedrwydd.

16
Y mae ei wefusau yn felys;
y mae popeth ynddo'n ddymunol.
Un fel hyn yw fy nghariad,
un fel hyn yw fy nghyfaill,
O ferched Jerwsalem.

6

1

O ti, y decaf o ferched,
ple'r aeth dy gariad?
Pa ffordd yr aeth dy gariad,
inni chwilio amdano gyda thi?


2
Fe aeth fy nghariad i lawr i'w ardd,
i'r gwelyau perlysiau,
i ofalu am y gerddi,
ac i gasglu'r lilïau.


3
Yr wyf fi'n eiddo fy nghariad,
ac yntau'n eiddof finnau;
y mae'n bugeilio ymysg y lilïau.

4
Yr wyt yn brydferth fel Tirsa, f'anwylyd,
yn hardd fel Jerwsalem,
mor urddasol â llu banerog.

5
Tro dy lygaid oddi wrthyf,
y maent yn fy nghyffroi;
y mae dy wallt fel diadell o eifr
yn dod i lawr o Fynydd Gilead.

6
Y mae dy ddannedd fel diadell o ddefaid
yn dod i fyny o'r olchfa,
y cwbl ohonynt yn efeilliaid,
heb un yn amddifad.

7
Y tu ôl i'th orchudd y mae dy arlais
fel darn o bomgranad.

8
Er bod trigain o freninesau
a phedwar ugain o ordderchwragedd,
a llancesau na ellir eu rhifo,

9
y mae fy ngholomen, yr un berffaith,
ar ei phen ei hun,
unig blentyn ei mam,
y lanaf yng ngolwg yr un a esgorodd arni.
Gwelodd y merched hi a'i galw'n ddedwydd,
ac y mae breninesau a gordderchwragedd yn ei chlodfori.


10
Pwy yw hon sy'n ymddangos fel y wawr,
yn brydferth fel y lloer, yn ddisglair fel yr haul,
yn urddasol fel llu banerog?


11
Euthum i lawr i'w ardd gnau
i edrych ar ffrwythau'r dyffryn,
a gweld a oedd y winwydden yn blaguro,
a blodau ar y pomgranadau.

12
Ni wyddwn y cawn fy rhoi
yng ngherbydau perthnasau'r tywysog .


13
Tyrd yn ôl, tyrd yn ôl, Sulames!
Tyrd yn ôl, tyrd yn ôl, gad inni dy weld.

O fel yr hoffwch edrych ar y Sulames
yn dawnsio rhwng y rhengoedd!

7

1

Mor brydferth yw dy draed mewn sandalau. O ferch y tywysog!
Y mae dy gluniau lluniaidd fel gemau
o waith crefftwr medrus.

2
Y mae dy fogail fel ffiol gron
nad yw byth yn brin o win cymysg;
y mae dy fol fel pentwr o wenith
wedi ei amgylchynu gan lilïau.

3
Y mae dy ddwy fron fel dwy elain,
gefeilliaid ewig.

4
Y mae dy wddf fel tŵr ifori,
a'th lygaid fel y llynnoedd yn Hesbon,
ger mynedfa Bath-rabbim;
y mae dy drwyn fel tŵr Lebanon,
sy'n edrych i gyfeiriad Damascus.

5
Y mae dy ben yn ymddangos fel Carmel
a gwallt dy ben fel porffor,
a brenin wedi ei garcharu yn y plethi.

6
Mor brydferth, mor hardd wyt,
fy anwylyd, y fwyaf dymunol.

7
Y mae dy gorff fel palmwydden,
a'th fronnau fel clwstwr o'i ffrwythau.

8
Dywedais, “Dringaf y balmwydden,
a gafael yn ei brigau.”
Bydded dy fronnau fel clwstwr o rawnwin,
ac arogl dy anadl fel afalau,

9
a'th wefusau fel y gwin gorau
yn llifo'n esmwyth mewn cariad,
ac yn llithro rhwng gwefusau a dannedd .


10
Yr wyf fi'n eiddo i'm cariad,
ac yntau'n fy chwennych.

11
Tyrd, fy nghariad, gad inni fynd allan i'r maes,
a threulio'r nos ymysg y llwyni henna.

12
Gad inni fynd yn fore i'r gwinllannoedd,
i edrych a yw'r winwydden yn blaguro,
a'i blodau yn agor,
a'r pomgranadau yn blodeuo;
yno fe ddangosaf fy nghariad tuag atat.

13
Y mae'r mandragorau yn gwasgar eu harogl;
o gwmpas ein drws ceir yr holl ffrwythau gorau,
ffrwythau newydd a hen
a gedwais i ti, fy nghariad.

8

1

O na fyddit yn frawd i mi,
wedi dy fagu ar fronnau fy mam!
Yna pan welwn di yn y stryd byddwn yn dy gusanu,
ac ni fyddai neb yn fy nirmygu.

2
Byddwn yn dy arwain
a'th ddwyn i dŷ fy mam a'm hyfforddodd,
a rhoi gwin llysiau yn ddiod iti,
sudd fy mhomgranadau.

3
Yna byddai ei fraich chwith o dan fy mhen,
a'i fraich dde yn fy nghofleidio.


4
Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch.
Peidiwch â deffro na tharfu fy nghariad
nes y bydd yn barod.

5
Pwy yw hon sy'n dod i fyny o'r anialwch,
yn pwyso ar ei chariad?

Deffroais di dan y pren afalau,
lle bu dy fam mewn gwewyr gyda thi,
lle bu'r un a esgorodd arnat mewn gwewyr.

6
Gosod fi fel sêl ar dy galon,
fel sêl ar dy fraich;
oherwydd y mae cariad mor gryf â marwolaeth,
a nwyd mor greulon â'r bedd;
y mae'n llosgi fel ffaglau tanllyd,
fel fflam angerddol.

7
Ni all dyfroedd lawer ddiffodd cariad,
ac ni all afonydd ei foddi.
Pe byddai rhywun yn cynnig holl gyfoeth ei dŷ am gariad,
byddai hynny yn cael ei ddirmygu'n llwyr.


8
Y mae gennym chwaer fach
sydd heb fagu bronnau.
Beth a wnawn i'n chwaer
pan ofynnir amdani?

9
Os mur yw hi,
byddwn yn adeiladu caer arian arno;
os drws,
byddwn yn ei gau ag astell gedrwydd.


10
Mur wyf fi,
a'm bronnau fel tyrau;
yn ei olwg ef yr wyf
fel un yn rhoi boddhad.

11
Yr oedd gan Solomon winllan yn Baal-hamon;
pan osododd ei winllan yng ngofal gwylwyr,
yr oedd pob un i roi mil o ddarnau arian am ei ffrwyth.

12
Ond y mae fy ngwinllan i yn eiddo i mi fy hun;
fe gei di, Solomon, y mil o ddarnau arian,
a chaiff y rhai sy'n gwylio'i ffrwyth ddau gant.


13
Ti sy'n eistedd yn yr ardd,
a chyfeillion yn gwrando ar dy lais,
gad i mi dy glywed.


14
Brysia allan, fy nghariad,
a bydd yn debyg i afrewig,
neu'r hydd ifanc
ar fynyddoedd y perlysiau.