1
Diarhebion Solomon fab Dafydd, brenin Israel—2
i gael doethineb ac addysg,
i ddeall geiriau deallus,
3
i dderbyn addysg fuddiol,
cyfiawnder, barn, ac uniondeb,
4
i roi craffter i'r gwirion,
a gwybodaeth a synnwyr i'r ifanc.
5
Y mae'r doeth yn gwrando ac yn cynyddu mewn dysg,
a'r deallus yn ennill medrusrwydd,
6
i ddeall dameg a'i dehongliad,
dywediadau'r doeth a'u posau.
7
Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth,
ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth.
8
Fy mab, gwrando ar addysg dy dad,
paid â gwrthod cyfarwyddyd dy fam;
9
bydd yn dorch brydferth ar dy ben,
ac yn gadwyn am dy wddf.
10
Fy mab, os hudir di gan bechaduriaid,
paid â chytuno â hwy.
11
Fe ddywedant, “Tyrd gyda ni,
inni gynllwynio i dywallt gwaed,
a llechu'n ddiachos yn erbyn y diniwed;
12
fel Sheol, llyncwn hwy'n fyw
ac yn gyfan, fel rhai'n disgyn i'r pwll;
13
fe gymerwn bob math ar gyfoeth,
a llenwi ein tai ag ysbail;
14
bwrw dy goelbren gyda ni,
a bydd un pwrs rhyngom i gyd.”
15
Fy mab, paid â mynd yr un ffordd â hwy;
cadw dy droed oddi ar eu llwybr.
16
Oherwydd y mae eu traed yn rhuthro at ddrwg,
ac yn prysuro i dywallt gwaed.
17
Yn sicr, ofer yw gosod rhwyd
yng ngolwg unrhyw aderyn hedegog.
18
Am eu gwaed eu hunain y maent yn cynllwynio,
ac yn llechu yn eu herbyn eu hunain.
19
Dyma dynged pob un awchus am elw;
y mae'n cymryd einioes y sawl a'i piau.
20
Y mae doethineb yn galw'n uchel yn y stryd,
yn codi ei llais yn y sgwâr,
21
yn gweiddi ar ben y muriau,
yn traethu ei geiriau ym mynedfa pyrth y ddinas.
22
Chwi'r rhai gwirion, pa hyd y bodlonwch ar fod yn wirion,
ac yr ymhyfryda'r gwatwarwyr mewn gwatwar,
ac y casâ ffyliaid wybodaeth?
23
Os newidiwch eich ffyrdd dan fy ngherydd,
tywalltaf fy ysbryd arnoch,
a gwneud i chwi ddeall fy ngeiriau.
24
Ond am i mi alw, a chwithau heb ymateb,
ac imi estyn fy llaw, heb neb yn gwrando;
25
am i chwi ddiystyru fy holl gyngor,
a gwrthod fy ngherydd—
26
am hynny, chwarddaf ar eich dinistr,
a gwawdio pan ddaw dychryn arnoch,
27
pan ddaw dychryn arnoch fel corwynt,
a dinistr yn taro fel storm,
pan ddaw adfyd a gwasgfa arnoch.
28
Yna galwant arnaf, ond nid atebaf;
fe'm ceisiant yn ddyfal, ond heb fy nghael.
29
Oherwydd iddynt gasáu gwybodaeth,
a throi oddi wrth ofn yr ARGLWYDD,
30
a gwrthod fy nghyngor,
ac anwybyddu fy holl gerydd,
31
cânt fwyta o ffrwyth eu ffyrdd,
a syrffedu ar eu cynlluniau.
32
Oherwydd bydd anufudd-dod y gwirion yn eu lladd,
a difrawder y ffyliaid yn eu difa.
33
Ond bydd yr un a wrendy arnaf yn byw'n ddiogel,
yn dawel heb ofni drwg.
1
Fy mab, os derbynni fy ngeiriau,2
a gwrando'n astud ar ddoethineb,
a rhoi dy feddwl ar ddeall;
3
os gelwi am ddeall,
a chodi dy lais am wybodaeth,
4
a chwilio amdani fel am arian,
a chloddio amdani fel am drysor—
5
yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD,
a chael gwybodaeth o Dduw.
6
Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb,
ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall.
7
Y mae'n trysori craffter i'r uniawn;
y mae'n darian i'r rhai a rodia'n gywir.
8
Y mae'n diogelu llwybrau cyfiawnder,
ac yn gwarchod ffordd ei ffyddloniaid.
9
Yna byddi'n deall cyfiawnder a barn,
ac uniondeb a phob ffordd dda;
10
oherwydd bydd doethineb yn dod i'th feddwl,
a deall yn rhoi pleser iti.
11
Bydd pwyll yn dy amddiffyn,
a deall yn dy warchod,
12
ac yn dy gadw rhag ffordd drygioni,
a rhag y rhai sy'n siarad yn dwyllodrus—
13
y rhai sy'n gadael y ffordd iawn
i rodio yn llwybrau tywyllwch,
14
sy'n cael pleser mewn gwneud drwg
a mwynhad mewn twyll,
15
y rhai y mae eu ffordd yn gam
a'u llwybrau'n droellog.
16
Fe'th geidw oddi wrth y wraig ddieithr,
a rhag y ddynes estron a'i geiriau dengar,
17
sydd wedi gadael cymar ei hieuenctid,
ac wedi anghofio cyfamod ei Duw.
18
Oherwydd y mae ei thŷ yn gwyro at angau,
a'i llwybrau at y cysgodion.
19
Ni ddaw neb sy'n mynd ati yn ei ôl,
ac ni chaiff ailafael ar lwybrau bywyd.
20
Felly gofala di rodio yn ffyrdd y da,
a chadw at lwybrau'r cyfiawn.
21
Oherwydd y rhai cyfiawn a drig yn y tir,
a'r rhai cywir a gaiff aros ynddo;
22
ond torrir y rhai drwg o'r tir,
a diwreiddir y twyllwyr ohono.
1
Fy mab, paid ag anghofio fy nghyfarwyddyd;2
Oherwydd ychwanegant at nifer dy ddyddiau
a rhoi blynyddoedd o fywyd a llwyddiant.
3
Paid â gollwng gafael ar deyrngarwch a ffyddlondeb;
rhwym hwy am dy wddf,
ysgrifenna hwy ar lech dy galon;
4
a byddi'n ennill ffafr ac enw da
yng ngolwg Duw a dynion.
5
Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD,
a phaid â dibynnu ar dy ddeall dy hun.
6
Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd,
bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.
7
Paid â bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun;
ofna'r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg.
8
Bydd hyn yn iechyd i'th gorff,
ac yn faeth i'th esgyrn.
9
Anrhydedda'r ARGLWYDD â'th gyfoeth,
ac â blaenffrwyth dy holl gynnyrch.
10
Yna bydd dy ysguboriau'n orlawn,
a'th gafnau'n gorlifo gan win.
11
Fy mab, paid â diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD,
a phaid â digio wrth ei gerydd;
12
oherwydd ceryddu'r un a gâr y mae'r ARGLWYDD,
fel tad sy'n hoff o'i blentyn.
13
Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb,
a'r un sy'n berchen deall.
14
Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian,
a'i chynnyrch yn well nag aur.
15
Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau,
ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.
16
Yn ei llaw dde y mae hir oes,
a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.
17
Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd,
a heddwch sydd ar ei holl lwybrau.
18
Y mae'n bren bywyd i'r neb a gydia ynddi,
a dedwydd yw'r rhai sy'n glynu wrthi.
19
Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear,
ac â deall y sicrhaodd y nefoedd;
20
trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau,
ac y defnynna'r cymylau wlith.
21
Fy mab, dal d'afael ar graffter a phwyll;
paid â'u gollwng o'th olwg;
22
byddant yn iechyd i'th enaid,
ac yn addurn am dy wddf.
23
Yna cei gerdded ymlaen heb bryder,
ac ni fagla dy droed.
24
Pan eisteddi , ni fyddi'n ofni,
a phan orweddi, bydd dy gwsg yn felys.
25
Paid ag ofni rhag unrhyw ddychryn disymwth,
na dinistr y drygionus pan ddaw;
26
oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn hyder iti,
ac yn cadw dy droed rhag y fagl.
27
Paid â gwrthod cymwynas i'r sawl sy'n ei haeddu,
os yw yn dy allu i'w gwneud.
28
Paid â dweud wrth dy gymydog, “Tyrd yn d'ôl eto,
ac fe'i rhoddaf iti yfory”,
er ei fod gennyt yn awr.
29
Paid â chynllunio drwg yn erbyn dy gymydog,
ac yntau'n ymddiried ynot.
30
Paid â chweryla'n ddiachos ag unrhyw un,
ac yntau heb wneud cam â thi.
31
Paid â chenfigennu wrth ormeswr,
na dewis yr un o'i ffyrdd.
32
Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ffieiddio'r cyfeiliornus,
ond yn rhannu ei gyfrinach â'r uniawn.
33
Y mae melltith yr ARGLWYDD ar dŷ'r drygionus,
ond y mae'n bendithio trigfa'r cyfiawn.
34
Er iddo ddirmygu'r dirmygwyr,
eto fe rydd ffafr i'r gostyngedig.
35
Etifedda'r doeth anrhydedd,
ond y ffyliaid bentwr o warth.
1
Gwrandewch, blant, ar gyfarwyddyd tad,2
Oherwydd yr wyf yn rhoi i chwi hyfforddiant da;
peidiwch â gwrthod fy nysgeidiaeth.
3
Bûm innau hefyd yn fab i'm tad,
yn annwyl, ac yn unig blentyn fy mam.
4
Dysgodd yntau fi, a dweud wrthyf,
“Gosod dy feddwl ar fy ngeiriau;
cadw fy ngorchmynion iti gael byw.
5
Paid ag anghofio na chilio oddi wrth fy ngeiriau.
Cais ddoethineb, cais ddeall;
6
paid â'i gadael, a bydd hithau'n dy gadw;
câr hi, a bydd yn d'amddiffyn.
7
Doethineb yw'r pennaf peth; cais ddoethineb;
â'r cyfan sydd gennyt, cais ddeall.
8
Meddwl yn uchel ohoni, ac fe'th ddyrchefir ganddi;
fe'th anrhydedda, os cofleidi hi.
9
Gesyd dorch brydferth ar dy ben,
a rhoi coron anrhydedd iti.”
10
Fy mab, gwrando, a dal ar fy ngeiriau,
ac fe ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd.
11
Hyfforddais di yn ffordd doethineb;
dysgais iti gerdded llwybrau union.
12
Pan gerddi, ni rwystrir dy gam,
a phan redi, ni fyddi'n baglu.
13
Glŷn wrth addysg, a hynny'n ddiollwng;
dal d'afael ynddi, oherwydd hi yw dy fywyd.
14
Paid â dilyn llwybr y drygionus,
na cherdded ffordd pobl ddrwg;
15
gochel hi, paid â'i throedio,
tro oddi wrthi a dos yn dy flaen.
16
Oherwydd ni allant hwy gysgu os na fyddant wedi gwneud drwg;
collant gwsg os na fyddant wedi baglu rhywun.
17
Y maent yn bwyta bara a gafwyd trwy dwyll,
ac yn yfed gwin gormes.
18
Y mae llwybr y cyfiawn fel golau'r wawr,
sy'n cynyddu yn ei lewyrch hyd ganol dydd.
19
Ond y mae ffordd y drygionus fel tywyllwch dudew;
ni wyddant beth sy'n eu baglu.
20
Fy mab, rho sylw i'm geiriau,
a gwrando ar fy ymadrodd.
21
Paid â'u gollwng o'th olwg;
cadw hwy yn dy feddwl;
22
oherwydd y maent yn fywyd i'r un sy'n eu cael,
ac yn iechyd i'w holl gorff.
23
Yn fwy na dim, edrych ar ôl dy feddwl,
oherwydd oddi yno y tardd bywyd.
24
Gofala osgoi geiriau twyllodrus,
a chadw draw oddi wrth siarad dichellgar.
25
Cadw dy lygaid yn unionsyth,
ac edrych yn syth o'th flaen.
26
Rho sylw i lwybr dy droed,
i'th holl ffyrdd fod yn ddiogel.
27
Paid â throi i'r dde nac i'r chwith,
a chadw dy droed rhag y drwg.
1
Fy mab, rho sylw i'm doethineb,2
er mwyn iti ddal ar synnwyr
ac i'th wefusau ddiogelu deall.
3
Y mae gwefusau'r wraig ddieithr yn diferu mêl,
a'i geiriau yn llyfnach nag olew,
4
ond yn y diwedd y mae'n chwerwach na wermod,
yn llymach na chleddyf daufiniog.
5
Prysura ei thraed at farwolaeth,
ac arwain ei chamre i Sheol.
6
Nid yw hi'n ystyried llwybr bywyd;
y mae ei ffyrdd yn anwadal, a hithau'n ddi-hid.
7
Ond yn awr, blant, gwrandewch arnaf,
a pheidiwch â throi oddi wrth fy ymadroddion.
8
Cadw draw oddi wrth ei ffordd;
paid â mynd yn agos at ddrws ei thŷ;
9
rhag iti roi dy enw da i eraill
a'th urddas i estroniaid,
10
a rhag i ddieithriaid ymborthi ar dy gyfoeth
ac i'th lafur fynd i dŷ estron;
11
rhag iti gael gofid pan ddaw dy ddiwedd,
pan fydd dy gorff a'th gnawd yn darfod,
12
a dweud, “Pam y bu imi gasáu disgyblaeth,
ac anwybyddu cerydd?
13
Nid oeddwn yn gwrando ar lais fy athrawon,
nac yn rhoi sylw i'r rhai a'm dysgai.
14
Yr oeddwn ar fin bod yn gwbl ddrwg
yng ngolwg y gynulleidfa gyfan.”
15
Yf ddŵr o'th bydew dy hun,
dŵr sy'n tarddu o'th ffynnon di.
16
Paid â gadael i'th ffynhonnau orlifo i'r ffordd,
na'th ffrydiau dŵr i'r stryd.
17
Byddant i ti dy hun yn unig,
ac nid i'r dieithriaid o'th gwmpas.
18
Bydded bendith ar dy ffynnon,
a llawenha yng ngwraig dy ieuenctid,
19
ewig hoffus, iyrches ddymunol;
bydded i'w bronnau dy foddhau bob amser,
a chymer bleser o'i chariad yn gyson.
20
Fy mab, pam y ceisi bleser gyda gwraig ddieithr,
a chofleidio estrones?
21
Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gwylio ffyrdd pob un,
ac yn chwilio ei holl lwybrau.
22
Delir y drygionus gan ei gamwedd ei hun,
ac fe'i caethiwir yng nghadwynau ei bechod;
23
bydd farw o ddiffyg disgyblaeth,
ar goll oherwydd ei ffolineb mawr.
1
Fy mab, os rhoddaist wystl i'th gymydog,2
a chael dy rwymo gan dy eiriau dy hun,
a'th ddal gan eiriau dy enau,
3
yna gweithreda fel hyn, fy mab, ac achub dy hun:
gan dy fod yn llaw dy gymydog,
dos ar frys ac ymbil â'th gymydog;
4
paid â rhoi cwsg i'th lygaid
na gorffwys i'th amrannau;
5
achub dy hun fel ewig o afael yr heliwr ,
neu aderyn o law yr adarwr.
6
Ti ddiogyn, dos at y morgrugyn,
a sylwa ar ei ffordd a bydd ddoeth.
7
Er nad oes ganddo arweinydd
na rheolwr na llywodraethwr,
8
y mae'n darparu ei gynhaliaeth yn yr haf,
yn casglu ei fwyd amser cynhaeaf.
9
O ddiogyn, am ba hyd y byddi'n gorweddian?
Pa bryd y codi o'th gwsg?
10
Ychydig gwsg, ychydig hepian,
ychydig blethu dwylo i orffwys,
11
a daw tlodi arnat fel dieithryn creulon,
ac angen fel gŵr arfog.
12
Un dieflig, un drwg,
sy'n taenu geiriau dichellgar,
13
yn wincio â'i lygad, yn pwnio â'i droed,
ac yn gwneud arwyddion â'i fysedd.
14
Ei fwriad yw gwyrdroi, cynllunio drwg yn wastad,
a chreu cynnen.
15
Am hynny daw dinistr arno yn ddisymwth;
fe'i dryllir yn sydyn heb fodd i'w arbed.
16
Chwe pheth sy'n gas gan yr ARGLWYDD,
saith peth sy'n ffiaidd ganddo:
17
llygaid balch, tafod ffals,
dwylo'n tywallt gwaed dieuog,
18
calon yn cynllunio oferedd,
traed yn prysuro i wneud drwg,
19
gau dyst yn dweud celwydd,
ac un sy'n codi cynnen rhwng perthnasau.
20
Fy mab, cadw orchymyn dy dad;
paid ag anwybyddu cyfarwyddyd dy fam;
21
clyma hwy'n wastad yn dy galon,
rhwym hwy am dy wddf.
22
Fe'th arweiniant ple bynnag yr ei,
a gwylio drosot pan orffwysi,
ac ymddiddan â thi pan gyfodi.
23
Oherwydd y mae gorchymyn yn llusern, a chyfarwyddyd yn oleuni,
a cherydd disgyblaeth yn arwain i fywyd,
24
ac yn dy gadw rhag gwraig cymydog
a rhag gweniaith y ddynes estron.
25
Paid â chwennych ei phrydferthwch,
a phaid â gadael i'w chiledrychiad dy ddal;
26
oherwydd gellir cael putain am bris torth,
ond y mae gwraig rhywun arall yn chwilio am fywyd brasach.
27
A all dyn gofleidio tân yn ei fynwes
heb losgi ei ddillad?
28
A all dyn gerdded ar farwor
heb losgi ei draed?
29
Felly y bydd yr un sy'n mynd at wraig ei gymydog;
ni all unrhyw un gyffwrdd â hi heb gosb.
30
Oni ddirmygir lleidr pan fo'n dwyn
i foddhau ei chwant, er ei fod yn newynog?
31
Pan ddelir ef, rhaid iddo dalu'n ôl seithwaith,
a rhoi'r cyfan sydd ganddo.
32
Felly, y mae'r godinebwr yn un disynnwyr,
ac yn ei ddifetha'i hun wrth wneud hynny;
33
caiff niwed ac amarch,
ac ni ddilëir ei warth.
34
Oherwydd y mae eiddigedd yn cynddeiriogi gŵr priod,
ac nid yw'n arbed pan ddaw cyfle i ddial;
35
ni fyn dderbyn iawndal,
ac nis bodlonir, er cymaint a roddi.
1
Fy mab, cadw fy ngeiriau,2
Cadw fy ngorchmynion, iti gael byw,
a boed fy nghyfarwyddyd fel cannwyll dy lygad.
3
Rhwym hwy am dy fysedd,
ysgrifenna hwy ar lech dy galon.
4
Dywed wrth ddoethineb, “Fy chwaer wyt ti”,
a chyfarch ddeall fel câr,
5
i'th gadw dy hun rhag y wraig ddieithr,
a rhag yr estrones a'i geiriau gwenieithus.
6
Yr oeddwn yn ffenestr fy nhŷ,
yn edrych allan trwy'r dellt
7
ac yn gwylio'r rhai ifainc gwirion;
a gwelais yn eu plith un disynnwyr
8
yn mynd heibio i gornel y stryd,
ac yn troi i gyfeiriad ei thŷ
9
yn y cyfnos, yn hwyr y dydd,
pan oedd yn dechrau nosi a thywyllu.
10
Daeth dynes i'w gyfarfod,
wedi ei gwisgo fel putain, ac yn llawn ystryw—
11
un benchwiban a gwamal,
nad yw byth yn aros gartref,
12
weithiau ar y stryd, weithiau yn y sgwâr,
yn llercian ym mhob cornel—
13
y mae'n cydio ynddo ac yn ei gusanu,
ac yn ddigon wynebgaled i ddweud wrtho,
14
“Roedd yn rhaid imi offrymu heddoffrymau,
ac rwyf newydd gyflawni f'addewid;
15
am hynny y deuthum allan i'th gyfarfod
ac i chwilio amdanat, a dyma fi wedi dy gael.
16
Taenais ar fy ngwely gwrlid
o frethyn lliwgar yr Aifft;
17
ac rwyf wedi persawru fy ngwely
â myrr, aloes a sinamon.
18
Tyrd, gad inni ymgolli mewn cariad tan y bore,
a chael mwynhad wrth garu.
19
Oherwydd nid yw'r gŵr gartref;
fe aeth ar daith bell.
20
Cymerodd god o arian gydag ef,
ac ni fydd yn ôl nes y bydd y lleuad yn llawn.”
21
Y mae'n ei ddenu â'i pherswâd,
ac yn ei hudo â'i geiriau gwenieithus.
22
Y mae yntau'n ei dilyn heb oedi,
fel ych yn mynd i'r lladd-dy,
fel carw yn neidio i'r rhwyd
23
cyn i'r saeth ei drywanu i'r byw,
fel aderyn yn hedeg yn syth i'r fagl
heb wybod fod ei einioes mewn perygl.
24
Yn awr, blant, gwrandewch arnaf,
a rhowch sylw i'm geiriau.
25
Paid â gadael i'th galon dy ddenu i'w ffyrdd,
a phaid â chrwydro i'w llwybrau;
26
oherwydd y mae wedi taro llawer yn gelain,
a lladdwyd nifer mawr ganddi.
27
Ffordd i Sheol yw ei thŷ,
yn arwain i lawr i neuaddau marwolaeth.
1
Onid yw doethineb yn galw,2
Y mae'n sefyll ar y mannau uchel ar fin y ffordd,
ac yn ymyl y croesffyrdd;
3
Y mae'n galw gerllaw'r pyrth sy'n arwain i'r dref,
wrth y fynedfa at y pyrth:
4
“Arnoch chwi, bobl, yr wyf yn galw,
ac atoch chwi, ddynolryw, y daw fy llais.
5
Chwi, y rhai gwirion, dysgwch graffter,
a chwithau, ffyliaid, ceisiwch synnwyr.
6
Gwrandewch, oherwydd traethaf bethau gwerthfawr,
a daw geiriau gonest o'm genau.
7
Traetha fy nhafod y gwir,
ac y mae anwiredd yn ffiaidd gan fy ngenau.
8
Y mae fy holl eiriau yn gywir;
nid yw'r un ohonynt yn ŵyr na thraws.
9
Y mae'r cyfan yn eglur i'r deallus,
ac yn uniawn i'r un sy'n ceisio gwybodaeth.
10
Derbyniwch fy nghyfarwyddyd yn hytrach nag arian,
oherwydd gwell yw nag aur.
11
Yn wir, y mae doethineb yn well na gemau,
ac ni all yr holl bethau dymunol gystadlu â hi.
12
Yr wyf fi, doethineb, yn byw gyda chraffter,
ac wedi cael gwybodaeth a synnwyr.
13
Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni;
yr wyf yn ffieiddio balchder ac uchelgais,
ffordd drygioni a geiriau traws.
14
Fy eiddo i yw cyngor a chraffter,
a chennyf fi y mae deall a gallu.
15
Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd,
ac y llunia llywodraethwyr ddeddfau cyfiawn.
16
Trwof fi y caiff tywysogion awdurdod,
ac y barna penaethiaid yn gyfiawn.
17
Yr wyf yn caru pob un sy'n fy ngharu i,
ac y mae'r rhai sy'n fy ngheisio'n ddyfal yn fy nghael.
18
Gennyf fi y mae cyfoeth ac anrhydedd,
digonedd o olud a chyfiawnder.
19
Y mae fy ffrwythau'n well nag aur, aur coeth,
a'm cynnyrch yn well nag arian pur.
20
Rhodiaf ar hyd ffordd cyfiawnder,
ar ganol llwybrau barn,
21
a rhoddaf gyfoeth i'r rhai a'm câr,
a llenwi eu trysordai.
22
“Lluniodd yr ARGLWYDD fi ar ddechrau ei waith,
yn gyntaf o'i weithredoedd gynt.
23
Fe'm sefydlwyd yn y gorffennol pell,
yn y dechrau, cyn bod daear.
24
Ganwyd fi cyn bod dyfnderau,
cyn bod ffynhonnau yn llawn dŵr.
25
Cyn gosod sylfeini'r mynyddoedd,
cyn bod y bryniau, y ganwyd fi,
26
cyn iddo greu tir a meysydd,
ac o flaen pridd y ddaear.
27
Yr oeddwn i yno pan oedd yn gosod y nefoedd yn ei lle
ac yn rhoi cylch dros y dyfnder,
28
pan oedd yn cadarnhau'r cymylau uwchben
ac yn sicrhau ffynhonnau'r dyfnder,
29
pan oedd yn gosod terfyn i'r môr,
rhag i'r dyfroedd anufuddhau i'w air,
a phan oedd yn cynllunio sylfeini'r ddaear.
30
Yr oeddwn i wrth ei ochr yn gyson,
yn hyfrydwch iddo beunydd,
yn ddifyrrwch o'i flaen yn wastad,
31
yn ymddifyrru yn y byd a greodd,
ac yn ymhyfrydu mewn pobl.
32
“Yn awr, blant, gwrandewch arnaf;
gwyn eu byd y rhai sy'n cadw fy ffyrdd.
33
Gwrandewch ar gyfarwyddyd, a byddwch ddoeth;
peidiwch â'i anwybyddu.
34
Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwrando arnaf,
sy'n disgwyl yn wastad wrth fy nrws,
ac yn gwylio wrth fynedfa fy nhŷ.
35
Yn wir, y mae'r un sy'n fy nghael i yn cael bywyd,
ac yn ennill ffafr yr ARGLWYDD;
36
ond y mae'r un sy'n methu fy nghael yn ei ddinistrio'i hun,
a phawb sy'n fy nghasáu yn caru marwolaeth.”
1
Y mae doethineb wedi adeiladu ei thŷ,2
y mae wedi paratoi ei chig a chymysgu ei gwin
a hulio ei bwrdd.
3
Anfonodd allan ei llancesau,
ac ar uchelfannau'r ddinas y mae'n galw,
4
“Dewch yma, bob un sy'n wirion.”
Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,
5
“Dewch, bwytewch gyda mi,
ac yfwch y gwin a gymysgais.
6
Gadewch eich gwiriondeb, ichwi gael byw;
rhodiwch yn ffordd deall.”
7
Dirmyg a gaiff yr un sy'n disgyblu gwatwarwr,
a'i feio a gaiff yr un sy'n ceryddu'r drygionus.
8
Paid â cheryddu gwatwarwr, rhag iddo dy gasáu;
cerydda'r doeth, ac fe'th gâr di.
9
Rho gyngor i'r doeth, ac fe â'n ddoethach;
dysga'r cyfiawn, ac fe gynydda mewn dysg.
10
Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau doethineb,
ac adnabod y Sanctaidd yw deall.
11
Oherwydd trwof fi y cynydda dy ddyddiau,
ac yr ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd.
12
Os wyt yn ddoeth, byddi ar dy elw;
ond os wyt yn gwawdio, ti dy hun fydd yn dioddef.
13
Y mae gwraig ffôl yn benchwiban,
yn ddiddeall, heb wybod dim.
14
Y mae'n eistedd wrth ddrws ei thŷ,
ar fainc yn uchelfannau'r ddinas,
15
yn galw ar y rhai sy'n mynd heibio
ac yn dilyn eu gorchwylion eu hunain:
16
“Dewch yma, bob un sy'n wirion.”
Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,
17
“Y mae dŵr lladrad yn felys,
a bara wedi ei ddwyn yn flasus.”
18
Ond ni wyddant hwy mai meirwon yw'r rhai sydd yno,
ac mai yn nyfnder Sheol y mae ei gwahoddedigion.
1
Dyma ddiarhebion Solomon: Y mae mab doeth yn gwneud ei dad yn llawen,2
Nid oes elw o drysorau a gaed mewn drygioni,
ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag marwolaeth.
3
Nid yw'r ARGLWYDD yn gadael i'r cyfiawn newynu,
ond y mae'n siomi chwant y rhai drwg.
4
Y mae llaw segur yn dwyn tlodi,
ond llaw ddiwyd yn peri cyfoeth.
5
Y mae mab sy'n cywain yn yr haf yn ddeallus,
ond un sy'n cysgu trwy'r cynhaeaf yn dod â chywilydd.
6
Bendithion sy'n disgyn ar y cyfiawn,
ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais.
7
Y mae cofio'r cyfiawn yn dwyn bendith,
ond y mae enw'r drwg yn diflannu.
8
Y mae'r doeth yn derbyn gorchymyn,
ond y ffôl ei siarad yn cael ei ddifetha.
9
Y mae'r un sy'n byw'n uniawn yn cerdded yn ddiogel,
ond darostyngir yr un sy'n gwyrdroi ei ffyrdd.
10
Y mae wincio â'r llygad yn achosi helbul,
ond cerydd agored yn peri heddwch.
11
Ffynnon bywyd yw geiriau'r cyfiawn,
ond y mae genau'r drwg yn cuddio trais.
12
Y mae casineb yn achosi cynnen,
ond y mae cariad yn cuddio pob trosedd.
13
Ar wefusau'r deallus ceir doethineb,
ond rhoddir gwialen ar gefn y disynnwyr.
14
Y mae'r doeth yn trysori deall,
ond dwyn dinistr yn agos a wna siarad ffôl.
15
Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn,
ond dinistr y tlawd yw ei dlodi.
16
Cyflog y cyfiawn yw bywyd,
ond cynnyrch y drwg yw pechod.
17
Y mae derbyn disgyblaeth yn arwain i fywyd,
ond gwrthod cerydd yn arwain ar ddisberod.
18
Y mae gwefusau twyllodrus yn anwesu casineb,
a ffôl yw'r un sy'n enllibio.
19
Pan amlheir geiriau nid oes ball ar dramgwyddo,
ond y mae'r deallus yn atal ei eiriau.
20
Y mae tafod y cyfiawn fel arian dethol,
ond diwerth yw calon yr un drwg.
21
Y mae geiriau'r cyfiawn yn cynnal llawer,
ond y mae ffyliaid yn marw o ddiffyg synnwyr.
22
Bendith yr ARGLWYDD sy'n rhoi cyfoeth,
ac nid yw'n ychwanegu gofid gyda hi.
23
Gwneud anlladrwydd sy'n ddifyrrwch i'r ffôl,
ond doethineb yw hyfrydwch y deallus.
24
Yr hyn a ofna a ddaw ar y drygionus,
ond caiff y cyfiawn ei ddymuniad.
25
Ar ôl y storm, ni bydd sôn am y drygionus,
ond y mae sylfaen y cyfiawn yn dragwyddol.
26
Fel finegr i'r dannedd, neu fwg i'r llygaid,
felly y mae'r diogyn i'w feistr.
27
Y mae ofn yr ARGLWYDD yn estyn dyddiau,
ond mae blynyddoedd y rhai drygionus yn cael eu byrhau.
28
Y mae gobaith y cyfiawn yn troi'n llawenydd,
ond derfydd gobaith y drygionus.
29
Y mae ffordd yr ARGLWYDD yn noddfa i'r uniawn,
ond yn ddinistr i'r rhai a wna ddrwg.
30
Ni symudir y cyfiawn byth,
ond nid erys y drygionus ar y ddaear.
31
Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb,
ond torrir ymaith y tafod twyllodrus.
32
Gŵyr gwefusau'r cyfiawn beth sy'n gymeradwy,
ond twyllodrus yw genau'r drygionus.
1
Y mae cloriannau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,2
Yn dilyn balchder fe ddaw amarch,
ond gyda'r rhai gwylaidd y mae doethineb.
3
Y mae eu gonestrwydd yn arwain yr uniawn,
ond eu gwyrni eu hunain yn difa'r twyllwyr.
4
Nid oes gwerth mewn cyfoeth yn nydd dicter,
ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag angau.
5
Y mae cyfiawnder y cywir yn ei gadw ar y ffordd union,
ond cwympa'r drygionus trwy ei ddrygioni.
6
Y mae eu cyfiawnder yn gwaredu'r uniawn,
ond eu trachwant yn fagl i'r twyllwyr.
7
Pan fydd farw'r drygionus, derfydd gobaith,
a daw terfyn ar hyder mewn cyfoeth.
8
Gwaredir y cyfiawn rhag adfyd,
ond fe â'r drygionus dros ei ben iddo.
9
Y mae'r annuwiol yn dinistrio'i gymydog â'i eiriau,
ond gwaredir y cyfiawn trwy ddeall.
10
Ymhyfryda dinas yn llwyddiant y cyfiawn,
a cheir gorfoledd pan ddinistrir y drygionus.
11
Dyrchefir dinas gan fendith yr uniawn,
ond dinistrir hi trwy eiriau'r drygionus.
12
Y mae'r disynnwyr yn dilorni ei gymydog,
ond cadw'n dawel a wna'r deallus.
13
Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach,
ond y mae'r teyrngar yn ei chadw.
14
Heb ei chyfarwyddo, methu a wna cenedl,
ond y mae diogelwch mewn llawer o gynghorwyr.
15
Daw helbul o fynd yn feichiau dros ddieithryn,
ond y mae'r un sy'n casáu mechnïaeth yn ddiogel.
16
Y mae gwraig raslon yn cael clod,
ond pobl ddidostur sy'n ennill cyfoeth.
17
Dwyn elw iddo'i hun y mae'r trugarog,
ond ei niweidio'i hun y mae'r creulon.
18
Gwneud elw twyllodrus y mae'r drygionus,
ond caiff yr un sy'n hau cyfiawnder gyflog teg.
19
I'r un sy'n glynu wrth gyfiawnder daw bywyd,
ond i'r sawl sy'n dilyn drygioni marwolaeth.
20
Y mae'r rhai gwrthnysig yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,
ond y mae'r rhai cywir wrth ei fodd.
21
Y mae'n sicr na chaiff un drwg osgoi cosb,
ond caiff plant y cyfiawn fynd yn rhydd.
22
Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch,
felly y mae gwraig brydferth heb synnwyr.
23
Dymuno'r hyn sydd dda a wna'r cyfiawn,
ond diflanna gobaith y drygionus.
24
Y mae un yn hael, ac eto'n ennill cyfoeth,
ond arall yn grintach, a phob amser mewn angen.
25
Llwydda'r un a wasgar fendithion,
a diwellir yr un a ddiwalla eraill.
26
Y mae pobl yn melltithio'r un sy'n cronni ŷd,
ond yn bendithio'r sawl sy'n ei werthu.
27
Y mae'r un sy'n ceisio daioni yn ennill ffafr,
ond syrth drygioni ar y sawl sy'n ei ddilyn.
28
Cwympa'r un sy'n ymddiried yn ei gyfoeth,
ond ffynna'r cyfiawn fel deilen werdd.
29
Y mae'r un sy'n peri helbul i'w deulu'n etifeddu'r gwynt,
a bydd y ffôl yn was i'r doeth.
30
Ffrwyth cyfiawnder yw pren y bywyd,
ond y mae trais yn difa bywydau.
31
Os caiff y cyfiawn ei dalu ar y ddaear,
pa faint mwy y drygionus a'r pechadur?
1
Y mae'r sawl sy'n caru disgyblaeth yn caru gwybodaeth,2
Y mae'r daionus yn ennill ffafr yr ARGLWYDD,
ond condemnir y dichellgar.
3
Ni ddiogelir neb trwy ddrygioni,
ac ni ddiwreiddir y cyfiawn.
4
Y mae gwraig fedrus yn goron i'w gŵr,
ond un ddigywilydd fel pydredd yn ei esgyrn.
5
Y mae bwriadau'r cyfiawn yn gywir,
ond cynlluniau'r drygionus yn dwyllodrus.
6
Cynllwyn i dywallt gwaed yw geiriau'r drygionus,
ond y mae ymadroddion y cyfiawn yn eu gwaredu.
7
Dymchwelir y drygionus, a derfydd amdanynt,
ond saif tŷ'r cyfiawn yn gadarn.
8
Canmolir rhywun ar sail ei ddeall,
ond gwawdir y meddwl troëdig.
9
Gwell bod yn ddiymhongar ac yn ennill tamaid,
na bod yn ymffrostgar a heb fwyd.
10
Y mae'r cyfiawn yn ystyriol o'i anifail,
ond y mae'r drygionus yn ddidostur.
11
Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,
ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn ddisynnwyr.
12
Blysia'r drygionus am ysbail drygioni,
ond y mae gwreiddyn y cyfiawn yn sicr.
13
Meglir y drwg gan dramgwydd ei eiriau,
ond dianc y cyfiawn rhag adfyd.
14
Trwy ffrwyth ei eiriau y digonir pob un â daioni,
a thelir iddo yn ôl yr hyn a wnaeth.
15
Y mae ffordd y ffôl yn iawn yn ei olwg,
ond gwrendy'r doeth ar gyngor.
16
Buan y dengys y ffôl ei fod wedi ei gythruddo,
ond y mae'r call yn anwybyddu sarhad.
17
Y mae tyst gonest yn dweud y gwir,
ond celwydd a draetha'r gau dyst.
18
Y mae geiriau'r straegar fel brath cleddyf,
ond y mae tafod y doeth yn iacháu.
19
Erys geiriau gwir am byth,
ond ymadrodd celwyddog am eiliad.
20
Dichell sydd ym meddwl y rhai sy'n cynllwynio drwg,
ond daw llawenydd i'r rhai sy'n cynllunio heddwch.
21
Ni ddaw unrhyw niwed i'r cyfiawn,
ond bydd y drygionus yn llawn helbul.
22
Y mae geiriau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD,
ond y mae'r rhai sy'n gweithredu'n gywir wrth ei fodd.
23
Y mae'r call yn cuddio'i wybodaeth,
ond ffyliaid yn cyhoeddi eu ffolineb.
24
Yn llaw y rhai diwyd y mae'r awdurdod,
ond y mae diogi yn arwain i gaethiwed.
25
Y mae pryder meddwl yn llethu rhywun,
ond llawenheir ef gan air caredig.
26
Y mae'r cyfiawn yn cilio oddi wrth ddrwg ,
ond y mae ffordd y drygionus yn eu camarwain.
27
Ni fydd y diogyn yn rhostio'i helfa,
ond gan y diwyd bydd golud mawr.
28
Ar ffordd cyfiawnder y mae bywyd,
ac nid oes marwolaeth yn ei llwybrau.
1
Y mae mab doeth yn derbyn disgyblaeth tad,2
Trwy ffrwyth ei enau y digonir pob un â daioni,
ond awchu am drais y mae twyllwyr.
3
Y mae'r un sy'n gwylio'i eiriau yn diogelu ei fywyd,
ond ei ddinistrio'i hun y mae'r un sy'n siarad gormod.
4
Y mae'r diogyn yn awchu, ac eto heb gael dim,
ond y mae'r diwyd yn ffynnu.
5
Y mae'r cyfiawn yn casáu twyll,
ond y mae'r drygionus yn gweithredu'n ffiaidd a gwarthus.
6
Y mae cyfiawnder yn amddiffyn ffordd y cywir,
ond drygioni yn dymchwel y pechadur.
7
Rhydd ambell un yr argraff ei fod yn gyfoethog, a heb ddim ganddo;
ymddengys arall yn dlawd, ac yntau'n gyfoethog iawn.
8
Y pridwerth am fywyd pob un yw ei gyfoeth,
ond ni chlyw'r tlawd fygythion.
9
Disgleiria goleuni'r cyfiawn,
ond diffydd lamp y drygionus.
10
Y mae'r disynnwyr yn codi cynnen trwy ymffrostio,
ond y mae doethineb gan y rhai sy'n derbyn cyngor.
11
Derfydd cyfoeth a gafwyd yn ddiymdrech,
ond o'i gasglu bob yn dipyn fe gynydda.
12
Y mae'r gobaith a oedir yn clafychu'r galon,
ond y dymuniad a gyflawnir yn bren bywiol.
13
Ei niweidio'i hun y mae'r un sy'n dirmygu cyngor,
ond gwobrwyir yr un sy'n parchu gorchymyn.
14
Y mae cyfarwyddyd y doeth yn ffynnon fywiol
i arbed rhag maglau marwolaeth.
15
Y mae deall da yn ennill ffafr,
ond garw yw ffordd y twyllwyr.
16
Y mae pawb call yn gweithredu'n ddeallus,
ond y mae'r ffôl yn amlygu ffolineb.
17
Y mae negesydd drwg yn achosi dinistr,
ond cennad cywir yn dwyn lles.
18
Tlodi a gwarth sydd i'r un sy'n anwybyddu disgyblaeth,
ond anrhydeddir y sawl sy'n derbyn cerydd.
19
Y mae dymuniad a gyflawnir yn felys ei flas,
ond cas gan ffyliaid droi oddi wrth ddrwg.
20
Trwy rodio gyda'r doeth ceir doethineb,
ond daw niwed o aros yng nghwmni ffyliaid.
21
Y mae dinistr yn dilyn pechaduriaid,
ond daioni yw gwobr y cyfiawn.
22
Gedy'r daionus etifeddiaeth i'w blant,
ond rhoddir cyfoeth pechadur i'r cyfiawn.
23
Ceir digon o fwyd ym mraenar y tlodion,
ond heb gyfiawnder fe ddiflanna.
24
Casáu ei fab a wna'r un sy'n arbed y wialen,
ond ei garu y mae'r sawl a rydd gerydd cyson.
25
Y mae'r cyfiawn yn bwyta hyd ddigon,
ond gwag fydd bol y drygionus.
1
Y mae gwraig ddoeth yn adeiladu ei thŷ,2
Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ofni'r ARGLWYDD,
ond y cyfeiliornus ei ffyrdd yn ei ddirmygu.
3
Yng ngeiriau'r ffôl y mae gwialen i'w gefn,
ond y mae ymadroddion y doeth yn ei amddiffyn.
4
Heb ychen y mae'r preseb yn wag,
ond trwy nerth ych ceir cynnyrch llawn.
5
Nid yw tyst gonest yn dweud celwydd,
ond y mae gau dyst yn pentyrru anwireddau.
6
Chwilia'r gwatwarwr am ddoethineb heb ei chael,
ond daw gwybodaeth yn rhwydd i'r deallus.
7
Cilia oddi wrth yr un ffôl,
oherwydd ni chei eiriau deallus ganddo.
8
Y mae doethineb y call yn peri iddo ddeall ei ffordd,
ond ffolineb y ffyliaid yn camarwain.
9
Y mae ffyliaid yn gwawdio euogrwydd,
ond yr uniawn yn deall beth sy'n dderbyniol.
10
Gŵyr y galon am ei chwerwder ei hun,
ac ni all dieithryn gyfranogi o'i llawenydd.
11
Dinistrir tŷ'r drygionus,
ond ffynna pabell yr uniawn.
12
Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union,
ond sy'n arwain i farwolaeth yn ei diwedd.
13
Hyd yn oed wrth chwerthin gall fod y galon yn ofidus,
a llawenydd yn troi'n dristwch yn y diwedd.
14
Digonir y gwrthnysig gan ei ffyrdd ei hun,
a'r daionus gan ei weithredoedd yntau.
15
Y mae'r gwirion yn credu pob gair,
ond y mae'r call yn ystyried pob cam.
16
Y mae'r doeth yn ofalus ac yn cilio oddi wrth ddrwg,
ond y mae'r ffôl yn ddiofal a gorhyderus.
17
Y mae'r diamynedd yn gweithredu'n ffôl,
a chaseir yr un dichellgar.
18
Ffolineb yw rhan y rhai gwirion,
ond gwybodaeth yw coron y rhai call.
19
Ymgryma'r rhai drwg o flaen pobl dda,
a'r drygionus wrth byrth y cyfiawn.
20
Caseir y tlawd hyd yn oed gan ei gydnabod,
ond y mae digon o gyfeillion gan y cyfoethog.
21
Y mae'r un a ddirmyga'i gymydog yn pechu,
ond dedwydd yw'r un sy'n garedig wrth yr anghenus.
22
Onid yw'r rhai sy'n cynllwynio drwg yn cyfeiliorni,
ond y rhai sy'n cynllunio da yn deyrngar a ffyddlon?
23
Ym mhob llafur y mae elw,
ond y mae gwag-siarad yn arwain i angen.
24
Eu craffter yw coron y doeth,
ond ffolineb yw addurn y ffyliaid.
25
Y mae tyst geirwir yn achub bywydau,
ond y mae'r twyllwr yn pentyrru celwyddau.
26
Yn ofn yr ARGLWYDD y mae sicrwydd y cadarn,
a bydd yn noddfa i'w blant.
27
Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ffynnon fywiol
i arbed rhag maglau marwolaeth.
28
Yn amlder pobl y mae anrhydedd brenin;
ond heb bobl, dinistrir llywodraethwr.
29
Y mae digon o ddeall gan yr amyneddgar,
ond dyrchafu ffolineb a wna'r byr ei dymer.
30
Meddwl iach yw iechyd y corff,
ond cancr i'r esgyrn yw cenfigen.
31
Y mae'r un sy'n gorthrymu'r tlawd yn amharchu ei Greawdwr,
ond y sawl sy'n trugarhau wrth yr anghenus yn ei anrhydeddu.
32
Dymchwelir y drygionus gan ei ddrygioni ei hun,
ond caiff y cyfiawn loches hyd yn oed wrth farw.
33
Trig doethineb ym meddwl y deallus,
ond dirmygir hi ymysg ffyliaid.
34
Y mae cyfiawnder yn dyrchafu cenedl,
ond pechod yn warth ar bobloedd.
35
Rhydd brenin ffafr i was deallus,
ond digia wrth yr un a'i sarha.
1
Y mae ateb llednais yn dofi dig,2
Y mae tafod y doeth yn clodfori deall,
ond genau ffyliaid yn parablu ffolineb.
3
Y mae llygaid yr ARGLWYDD ym mhob man,
yn gwylio'r drwg a'r da.
4
Y mae tafod tyner yn bren bywiol,
ond tafod garw yn dryllio'r ysbryd.
5
Diystyra'r ffôl ddisgyblaeth ei dad,
ond deallus yw'r un a rydd sylw i gerydd.
6
Y mae llawer o gyfoeth yn nhŷ'r cyfiawn,
ond trallod sydd yn enillion y drygionus.
7
Gwasgaru gwybodaeth y mae genau'r doeth,
ond nid felly feddwl y ffyliaid.
8
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw aberth y drygionus,
ond y mae gweddi'r uniawn wrth ei fodd.
9
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw ffordd y drygionus,
ond y mae'n caru'r rhai sy'n dilyn cyfiawnder.
10
Bydd disgyblaeth lem ar yr un sy'n gadael y ffordd,
a bydd y sawl sy'n casáu cerydd yn trengi.
11
Y mae Sheol ac Abadon dan lygad yr ARGLWYDD;
pa faint mwy feddyliau pobl?
12
Nid yw'r gwatwarwr yn hoffi cerydd;
nid yw'n cyfeillachu â'r doethion.
13
Y mae calon lawen yn sirioli'r wyneb,
ond dryllir yr ysbryd gan boen meddwl.
14
Y mae calon ddeallus yn ceisio gwybodaeth,
ond y mae genau'r ffyliaid yn ymborthi ar ffolineb.
15
I'r cystuddiol, y mae pob diwrnod yn flinderus,
ond y mae calon hapus yn wledd wastadol.
16
Gwell ychydig gydag ofn yr ARGLWYDD
na chyfoeth mawr a thrallod gydag ef.
17
Gwell yw pryd o lysiau lle mae cariad,
nag ych pasgedig a chasineb gydag ef.
18
Y mae un drwg ei dymer yn codi cynnen,
ond y mae'r amyneddgar yn tawelu cweryl.
19
Y mae ffordd y diog fel llwyn mieri,
ond llwybr yr uniawn fel priffordd wastad.
20
Rhydd mab doeth lawenydd i'w dad,
ond y mae'r ffôl yn dilorni ei fam.
21
Y mae ffolineb yn ddifyrrwch i'r disynnwyr,
ond y mae'r deallus yn cadw ffordd union.
22
Drysir cynlluniau pan nad oes ymgynghori,
ond daw llwyddiant pan geir llawer o gynghorwyr.
23
Caiff rhywun foddhad pan fydd ganddo ateb,
a beth sy'n well na gair yn ei bryd?
24
Y mae ffordd y bywyd yn dyrchafu'r deallus,
i'w droi oddi wrth Sheol isod.
25
Y mae'r ARGLWYDD yn dymchwel tŷ'r balch,
ond yn diogelu terfynau'r weddw.
26
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw bwriadau drwg,
ond y mae geiriau pur yn hyfrydwch iddo.
27
Y mae'r un sy'n awchu am elw yn creu anghydfod yn ei dŷ,
ond y sawl sy'n casáu cildwrn yn cael bywyd.
28
Y mae'r cyfiawn yn ystyried cyn rhoi ateb,
ond y mae genau'r drygionus yn parablu drwg.
29
Pell yw'r ARGLWYDD oddi wrth y drygionus,
ond gwrendy ar weddi'r cyfiawn.
30
Y mae llygaid sy'n gloywi yn llawenhau'r galon,
a newydd da yn adfywio'r corff.
31
Y mae'r glust sy'n gwrando ar wersi bywyd
yn aros yng nghwmni'r doeth.
32
Y mae'r un sy'n gwrthod disgyblaeth yn ei gasáu ei hun,
ond y sawl sy'n gwrando ar gerydd yn berchen deall.
33
Y mae ofn yr ARGLWYDD yn ddisgyblaeth mewn doethineb,
a gostyngeiddrwydd yn arwain i anrhydedd.
1
Pobl biau trefnu eu meddyliau,2
Y mae holl ffyrdd rhywun yn bur yn ei olwg ei hun,
ond y mae'r ARGLWYDD yn pwyso'r cymhellion.
3
Cyflwyna dy weithredoedd i'r ARGLWYDD,
a chyflawnir dy gynlluniau.
4
Gwnaeth yr ARGLWYDD bob peth i bwrpas,
hyd yn oed y drygionus ar gyfer dydd adfyd.
5
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw pob un balch;
y mae'n sicr na chaiff osgoi cosb.
6
Trwy deyrngarwch a ffyddlondeb y maddeuir camwedd,
a thrwy ofn yr ARGLWYDD y troir oddi wrth ddrwg.
7
Pan yw'r ARGLWYDD yn hoffi ffyrdd rhywun,
gwna hyd yn oed i'w elynion fyw mewn heddwch ag ef.
8
Gwell ychydig gyda chyfiawnder
nag enillion mawr heb farn.
9
Y mae meddwl rhywun yn cynllunio'i ffordd,
ond yr ARGLWYDD sy'n trefnu ei gamre.
10
Ceir dyfarniad oddi ar wefusau'r brenin;
nid yw ei enau yn bradychu cyfiawnder.
11
Mater i'r ARGLWYDD yw mantol a chloriannau cyfiawn;
a'i waith ef yw'r holl bwysau yn y god.
12
Ffiaidd gan frenhinoedd yw gwneud drwg,
oherwydd trwy gyfiawnder y sicrheir gorsedd.
13
Hyfrydwch brenin yw genau cyfiawn,
a hoffa'r sawl sy'n llefaru'n uniawn.
14
Y mae llid brenin yn gennad angau,
ond fe'i dofir gan yr un doeth.
15
Yn llewyrch wyneb brenin y ceir bywyd,
ac y mae ei ffafr fel cwmwl glaw yn y gwanwyn.
16
Gwell nag aur yw ennill doethineb,
a gwell dewis deall nag arian.
17
Y mae priffordd yr uniawn yn troi oddi wrth ddrygioni,
a chadw ei fywyd y mae'r un sy'n gwylio'i ffordd.
18
Daw balchder o flaen dinistr,
ac ymffrost o flaen cwymp.
19
Gwell bod yn ddistadl gyda'r anghenus
na rhannu ysbail gyda'r balch.
20
Y mae'r medrus yn ei fater yn llwyddo,
a'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn ddedwydd.
21
Y doeth o galon a ystyrir yn ddeallus,
a geiriau deniadol sy'n ychwanegu dysg.
22
Y mae deall yn ffynnon bywyd i'w berchennog,
ond ffolineb yn ddisgyblaeth i ffyliaid.
23
Y mae meddwl y doeth yn gwneud ei eiriau'n ddeallus,
ac yn ychwanegu dysg at ei ymadroddion.
24
Y mae geiriau teg fel diliau mêl,
yn felys i'r blas ac yn iechyd i'r corff.
25
Y mae ffordd sy'n ymddangos yn union,
ond sy'n arwain i farwolaeth.
26
Angen llafurwr sy'n gwneud iddo lafurio,
a'i enau sy'n ei annog ymlaen.
27
Y mae dihiryn yn cynllunio drwg;
y mae fel tân poeth ar ei wefusau.
28
Y mae rhywun croes yn creu cynnen,
a'r straegar yn gwahanu cyfeillion.
29
Y mae rhywun traws yn denu ei gyfaill,
ac yn ei arwain ar ffordd wael.
30
Y mae'r un sy'n wincio llygad yn cynllunio trawster,
a'r sawl sy'n crychu ei wefusau yn gwneud drygioni.
31
Y mae gwallt sy'n britho yn goron anrhydedd;
fe'i ceir wrth rodio'n gyfiawn.
32
Gwell bod yn amyneddgar nag yn rhyfelwr,
a rheoli tymer na chipio dinas.
33
Er bwrw'r coelbren i'r arffed,
oddi wrth yr ARGLWYDD y daw pob dyfarniad.
1
Gwell yw tamaid sych, a llonyddwch gydag ef,2
Y mae gwas deallus yn feistr ar fab gwarthus,
ac yn rhannu'r etifeddiaeth gyda'r brodyr.
3
Y mae tawddlestr i arian a ffwrnais i aur,
ond yr ARGLWYDD sy'n profi calonnau.
4
Y mae'r drwgweithredwr yn gwrando ar eiriau anwir,
a'r celwyddog yn rhoi sylw i dafod maleisus.
5
Y mae'r un sy'n gwatwar y tlawd yn amharchu ei Greawdwr,
ac ni chaiff y sawl sy'n ymhyfrydu mewn trychineb osgoi cosb.
6
Coron yr hen yw plant eu plant,
a balchder plant yw eu rhieni.
7
Nid yw geiriau gwych yn gweddu i ynfytyn,
nac ychwaith eiriau celwyddog i bendefig.
8
Carreg hud yw llwgrwobr i'r sawl a'i defnyddia;
fe lwydda ple bynnag y try.
9
Y mae'r un sy'n cuddio tramgwydd yn ceisio cyfeillgarwch,
ond y mae'r sawl sy'n ailadrodd stori yn gwahanu cyfeillion.
10
Y mae cerydd yn peri mwy o loes i'r deallus
na chan cernod i ynfytyn.
11
Ar wrthryfela y mae bryd y drygionus,
ond fe anfonir cennad creulon yn ei erbyn.
12
Gwell yw cyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon
na chyfarfod ag ynfytyn yn ei ffolineb.
13
Os bydd i neb dalu drwg am dda,
nid ymedy dinistr â'i dŷ.
14
Y mae dechrau cweryl fel diferiad dŵr;
ymatal di cyn i'r gynnen lifo allan.
15
Cyfiawnhau'r drygionus a chondemnio'r cyfiawn—
y mae'r ddau fel ei gilydd yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
16
Pa werth sydd i arian yn llaw ynfytyn?
Ai i brynu doethineb, ac yntau heb ddeall?
17
Y mae cyfaill yn gyfaill bob amser;
ar gyfer adfyd y genir brawd.
18
Un disynnwyr sy'n rhoi gwystl,
ac yn mynd yn feichiau dros ei gyfaill.
19
Y mae'r un sy'n hoffi tramgwyddo yn hoffi cynnen,
a'r sawl sy'n ehangu ei borth yn gofyn am ddinistr.
20
Nid yw'r meddwl cyfeiliornus yn cael daioni,
a disgyn i ddinistr a wna'r troellog ei dafod.
21
Y mae'r un sy'n cenhedlu ffŵl yn wynebu gofid,
ac nid oes llawenydd i dad ynfytyn.
22
Y mae calon lawen yn rhoi iechyd,
ond ysbryd isel yn sychu'r esgyrn.
23
Cymer y drygionus lwgrwobr o'i fynwes
i wyrdroi llwybrau barn.
24
Ceidw'r deallus ei olwg ar ddoethineb,
ond ar gyrrau'r ddaear y mae llygaid ynfytyn.
25
Y mae mab ynfyd yn flinder i'w dad,
ac yn achos chwerwder i'w fam.
26
Yn wir nid da cosbi'r cyfiawn,
ac nid iawn curo'r bonheddig.
27
Y mae'r prin ei eiriau yn meddu gwybodaeth,
a thawel ei ysbryd yw'r deallus.
28
Tra tawa'r ffŵl, fe'i hystyrir yn ddoeth,
a'r un sy'n cau ei geg yn ddeallus.
1
Y mae'r un sy'n cadw ar wahân yn ceisio cweryl ,2
Nid yw'r ynfyd yn ymhyfrydu mewn deall,
dim ond mewn mynegi ei feddwl ei hun.
3
Yn dilyn drygioni fe ddaw dirmyg,
a gwarth ar ôl amarch.
4
Y mae geiriau yn ddyfroedd dyfnion,
yn ffrwd yn byrlymu, yn ffynnon doethineb.
5
Nid da yw dangos ffafr tuag at y drygionus,
i amddifadu'r cyfiawn o farn.
6
Y mae genau'r ynfyd yn arwain at gynnen,
a'i eiriau yn gofyn am gurfa.
7
Genau'r ynfyd yw ei ddinistr,
ac y mae ei eiriau yn fagl iddo'i hun.
8
Y mae geiriau'r straegar fel danteithion
sy'n mynd i lawr i'r cylla.
9
Y mae'r diog yn ei waith
yn frawd i'r un sy'n dwyn dinistr.
10
Y mae enw'r ARGLWYDD yn dŵr cadarn;
rhed y cyfiawn ato ac y mae'n ddiogel.
11
Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn,
ac y mae fel mur cryf yn ei dyb ei hun.
12
Cyn dyfod dinistr, y mae'r galon yn falch,
ond daw gostyngeiddrwydd o flaen anrhydedd.
13
Y mae'r un sy'n ateb cyn gwrando
yn dangos ffolineb ac amarch.
14
Gall ysbryd rhywun ei gynnal yn ei afiechyd,
ond os yw'r ysbryd yn isel, pwy a'i cwyd?
15
Y mae meddwl deallus yn ennill gwybodaeth,
a chlust y doeth yn chwilio am ddeall.
16
Y mae rhodd rhywun yn agor drysau iddo,
ac yn ei arwain at y mawrion.
17
Y mae'r cyntaf i ddadlau ei achos yn ymddangos yn gyfiawn,
nes y daw ei wrthwynebwr a'i groesholi.
18
Rhydd y coelbren derfyn ar gwerylon,
ac y mae'n dyfarnu rhwng y cedyrn.
19
Y mae brawd a dramgwyddwyd fel caer gadarn,
a chwerylon fel bollt castell.
20
O ffrwyth ei enau y digonir cylla pob un,
a chynnyrch ei wefusau sy'n ei ddiwallu.
21
Y mae'r tafod yn gallu rhoi marwolaeth neu fywyd,
ac y mae'r rhai sy'n ei hoffi yn bwyta'i ffrwyth.
22
Y sawl sy'n cael gwraig sy'n cael daioni
ac yn ennill ffafr gan yr ARGLWYDD.
23
Y mae'r tlawd yn siarad yn ymbilgar,
ond y cyfoethog yn ateb yn arw.
24
Honni eu bod yn gyfeillion a wna rhai;
ond ceir hefyd gyfaill sy'n glynu'n well na brawd.
1
Gwell yw'r tlawd sy'n byw'n onest2
Nid oes gwerth mewn brwdfrydedd heb ddeall;
y mae'r chwim ei droed yn colli'r ffordd.
3
Ffolineb rhywun sy'n difetha'i ffordd,
ond yn erbyn yr ARGLWYDD y mae'n dal dig.
4
Y mae cyfoeth yn amlhau cyfeillion,
ond colli ei gyfaill y mae'r tlawd.
5
Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb,
ac ni ddianc yr un sy'n dweud celwydd.
6
Y mae llawer yn ceisio ffafr pendefig,
a phawb yn gyfaill i'r sawl sy'n rhoi.
7
Y mae holl frodyr y tlawd yn ei gasáu;
gymaint mwy y pellha'i gyfeillion oddi wrtho!
Y mae'n eu dilyn â geiriau, ond nid ydynt yno.
8
Y mae'r synhwyrol yn caru ei fywyd,
a'r un sy'n diogelu gwybodaeth yn cael daioni.
9
Ni chaiff tyst celwyddog osgoi cosb,
a difethir yr un sy'n dweud celwydd.
10
Nid yw moethusrwydd yn gweddu i'r ynfyd,
na rheoli tywysogion i gaethwas.
11
Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar,
a'i anrhydedd yw maddau tramgwydd.
12
Y mae llid brenin fel rhuad llew ifanc,
ond ei ffafr fel gwlith ar laswellt.
13
Y mae mab ynfyd yn ddinistr i'w dad,
a checru gwraig fel diferion parhaus.
14
Oddi wrth rieni yr etifeddir tŷ a chyfoeth,
ond gan yr ARGLWYDD y ceir gwraig ddeallus.
15
Y mae segurdod yn dwyn trymgwsg,
ac i'r diogyn daw newyn.
16
Y mae'r un sy'n cadw gorchymyn yn ei ddiogelu ei hun,
ond bydd y sawl sy'n diystyru ei ffyrdd yn marw.
17
Y mae'r un sy'n trugarhau wrth y tlawd yn rhoi benthyg i'r ARGLWYDD,
ac fe dâl ef yn ôl iddo am ei weithred.
18
Cerydda dy fab tra bo gobaith iddo,
ond gofala beidio â'i ladd.
19
Daw cosb ar y gwyllt ei dymer;
er iti ei helpu, rhaid gwneud hynny eto.
20
Gwrando ar gyngor, a derbyn ddisgyblaeth,
er mwyn iti fod yn ddoeth yn y diwedd.
21
Niferus yw bwriadau meddwl pobl,
ond cyngor yr ARGLWYDD sy'n sefyll.
22
Peth dymunol mewn pobl yw eu teyrngarwch,
a gwell yw tlotyn na rhywun celwyddog.
23
Y mae ofn yr ARGLWYDD yn arwain i fywyd,
a'r sawl a'i medd yn gorffwyso heb berygl niwed.
24
Er i'r diogyn wthio'i law i'r ddysgl,
eto nid yw'n ei chodi at ei enau.
25
Os curi'r gwatwarwr, bydd y gwirion yn dysgu gwers;
os ceryddi'r deallus, ef ei hun sy'n ennill gwybodaeth.
26
Y mae'r sawl sy'n cam-drin ei dad ac yn diarddel ei fam
yn fab gwaradwyddus ac amharchus.
27
Fy mab, os gwrthodi wrando ar gerydd,
byddi'n troi oddi wrth eiriau gwybodaeth.
28
Y mae tyst anonest yn gwatwar barn,
a genau'r drygionus yn parablu camwedd.
29
Trefnwyd cosb ar gyfer gwatwarwyr,
a chernodiau i gefn ynfydion.
1
Gwatwarwr yw gwin, a therfysgwr yw diod gadarn;2
Y mae bygythiad brenin fel rhuad llew ifanc;
y mae'r sawl a'i cynhyrfa'n peryglu ei fywyd.
3
Clod i bob un yw gwrthod cweryla,
ond rhuthro i ymryson a wna pob ynfytyn.
4
Nid yw'r diog yn aredig yn yr hydref;
eto y mae'n disgwyl yn amser cynhaeaf, heb ddim i'w gael.
5
Y mae cyngor yn y meddwl fel dyfroedd dyfnion,
ond gall dyn deallus ei dynnu allan.
6
Y mae llawer un yn honni bod yn deyrngar,
ond pwy a all gael dyn ffyddlon?
7
Y mae'r cyfiawn yn rhodio'n gywir;
gwyn eu byd ei blant ar ei ôl!
8
Y mae brenin sy'n eistedd ar orsedd barn
yn gallu nithio pob drwg â'i lygaid.
9
Pwy a all ddweud, “Yr wyf wedi puro fy meddwl;
yr wyf yn lân o'm pechod”?
10
Pan geir amrywiaeth mewn pwysau neu fesurau,
y mae'r naill a'r llall yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD.
11
Trwy ei weithredoedd y dengys yr ifanc
a yw ei waith yn bur ac yn uniawn.
12
Y glust sy'n clywed a'r llygad sy'n gweld,
yr ARGLWYDD a'u gwnaeth ill dau.
13
Paid â bod yn hoff o gysgu, rhag iti fynd yn dlawd;
cadw dy lygad yn agored, a chei ddigon o fwyd.
14
“Gwael iawn,” meddai'r prynwr;
ond wrth fynd ymaith, y mae'n canmol ei fargen.
15
Y mae digonedd o aur ac o emau,
ond geiriau deallus yw'r trysor gwerthfawrocaf.
16
Cymer wisg y sawl sy'n mechnïo dros estron,
a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn.
17
Melys i rywun yw bara a gafwyd trwy dwyll,
ond yn y diwedd llenwir ei geg â graean.
18
Sicrheir cynlluniau trwy gyngor;
rhaid trefnu'n ofalus ar gyfer rhyfel.
19
Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach;
paid â chyfeillachu â'r llac ei dafod.
20
Os bydd rhywun yn melltithio ei dad a'i fam,
diffoddir ei oleuni mewn tywyllwch dudew.
21
Os ceir etifeddiaeth sydyn yn y dechrau,
ni bydd bendith ar ei diwedd.
22
Paid â dweud, “Talaf y pwyth yn ôl”;
disgwyl wrth yr ARGLWYDD i achub dy gam.
23
Ffiaidd gan yr ARGLWYDD yw amrywiaeth mewn pwysau,
ac nid da ganddo gloriannau twyllodrus.
24
Yr ARGLWYDD sy'n rheoli camre pobl;
sut y gall neb ddeall ei ffordd?
25
Gall rhywun fynd i fagl wrth gysegru'n fyrbwyll,
ac yna dechrau ystyried ar ôl gwneud addunedau.
26
Y mae brenin doeth yn nithio'r drygionus,
ac yn troi'r rhod yn eu herbyn.
27
Llewyrcha'r ARGLWYDD ar ysbryd pobl,
i chwilio i ddyfnderau eu bod.
28
Y mae teyrngarwch a chywirdeb yn gwarchod y brenin,
a diogelir ei orsedd gan deyrngarwch.
29
Gogoniant yr ifainc yw eu nerth,
ac addurn i'r hen yw penwynni.
30
Y mae taro i'r byw yn gwella drwg,
a dyrnodiau yn iacháu rhywun drwyddo.
1
Y mae calon brenin yn llaw'r ARGLWYDD fel ffrwd o ddŵr;2
Y mae ffyrdd pob un i gyd yn uniawn yn ei olwg ei hun,
ond y mae'r ARGLWYDD yn cloriannu'r galon.
3
Y mae gwneud cyfiawnder a barn
yn fwy derbyniol gan yr ARGLWYDD nag aberth.
4
Llygaid balch a chalon ymffrostgar,
dyma nodau'r drygionus, ac y maent yn bechod.
5
Y mae cynlluniau'r diwyd yn sicr o arwain i ddigonedd,
ond daw angen ar bob un sydd mewn brys.
6
Y mae trysorau wedi eu hennill trwy gelwydd
fel tarth yn diflannu neu fagl marwolaeth.
7
Rhwydir y rhai drygionus gan eu trais,
am iddynt wrthod gwneud yr hyn sydd uniawn.
8
Troellog yw ffordd y troseddwr,
ond uniawn yw gweithred y didwyll.
9
Gwell yw byw mewn congl ar ben tŷ
na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
10
Y mae'r drygionus yn awchu am wneud drwg;
nid yw'n edrych yn drugarog ar ei gymydog.
11
Pan gosbir gwatwarwr, daw'r gwirion yn ddoeth;
ond pan ddysgir gwers i'r doeth, daw ef ei hun i ddeall.
12
Y mae'r Un Cyfiawn yn sylwi ar dŷ'r drygionus;
y mae'n bwrw'r rhai drwg i ddinistr.
13
Os bydd rhywun yn fyddar i gri'r tlawd,
ni chaiff ei ateb pan fydd yntau'n galw.
14
Y mae rhodd ddirgel yn lliniaru dig, a childwrn dan glogyn yn tawelu llid mawr.
15
Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder,
ond daw dinistr ar y rhai sy'n gwneud drwg.
16
Bydd rhywun sy'n troi oddi ar ffordd deall
yn gorffwys yng nghwmni'r meirw.
17
Mewn angen y bydd y sawl sy'n caru pleser,
ac ni ddaw'r sawl sy'n hoffi gwin ac olew yn gyfoethog.
18
Y mae'r drygionus yn bridwerth dros y cyfiawn,
a'r twyllwr dros y rhai uniawn.
19
Gwell byw mewn anialwch
na chyda gwraig gecrus a dicllon.
20
Yn nhŷ'r doeth y mae trysor dymunol ac olew,
ond y mae'r ffôl yn eu difa.
21
Y mae'r sawl sy'n dilyn cyfiawnder a theyrngarwch
yn cael bywyd llwyddiannus ac anrhydedd.
22
Y mae'r doeth yn gallu mynd i ddinas gadarn
a bwrw i lawr y gaer yr ymddiriedir ynddi.
23
Y sawl sy'n gwylio ei enau a'i dafod,
fe'i ceidw ei hun rhag gofidiau.
24
Y mae'r balch yn ffroenuchel; gwatwarwr yw ei enw,
gweithreda yn gwbl drahaus.
25
Y mae blys y diog yn ei ladd,
am fod ei ddwylo'n gwrthod gweithio.
26
Trachwantu y mae'r annuwiol bob amser ,
ond y mae'r cyfiawn yn rhoi heb arbed.
27
Ffiaidd yw aberth y drygionus,
yn enwedig pan offrymir ef mewn dichell.
28
Difethir y tyst celwyddog,
ond y mae'r tyst cywir yn cael llefaru.
29
Y mae'r drygionus yn caledu ei wyneb,
ond yr uniawn yn trefnu ei ffyrdd.
30
Nid yw doethineb na deall na chyngor
yn ddim o flaen yr ARGLWYDD.
31
Er paratoi march ar gyfer dydd brwydr,
eto eiddo'r ARGLWYDD yw'r fuddugoliaeth.
1
Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer,2
Y mae un peth yn gyffredin i gyfoethog a thlawd:
yr ARGLWYDD a'u creodd ill dau.
3
Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi,
ond y gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.
4
Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDD
yw cyfoeth, anrhydedd a bywyd.
5
Y mae drain a maglau ar ffordd y gwrthnysig,
ond y mae'r un gwyliadwrus yn cadw draw oddi wrthynt.
6
Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith,
ac ni thry oddi wrthi pan heneiddia.
7
Y mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd,
ac y mae'r benthyciwr yn was i'r echwynnwr.
8
Y mae'r un sy'n hau anghyfiawnder yn medi gofid,
a bydd gwialen ei ymffrost yn methu.
9
Bendithir yr un hael
am ei fod yn rhannu ei fara i'r tlawd.
10
Bwrw allan y gwatwarwr, a cheir terfyn ar ymryson,
a diwedd ar ddadlau a gwawd.
11
Yr un sy'n hoffi purdeb meddwl
a geiriau grasol, y mae ef yn gyfaill i frenin.
12
Y mae llygaid yr ARGLWYDD yn gwarchod deall,
ond y mae ef yn dymchwel geiriau twyllwr.
13
Dywed y diog, “Y mae llew y tu allan;
fe'm lleddir yn y stryd.”
14
Y mae genau'r wraig ddieithr fel pwll dwfn;
y mae'r un a ddigiodd yr ARGLWYDD yn syrthio iddo.
15
Y mae ffolineb ynghlwm wrth feddwl plentyn,
ond y mae gwialen disgyblaeth yn ei yrru oddi wrtho.
16
Y sawl sy'n gorthrymu'r tlawd i geisio elw iddo'i hun,
ac yn rhoi i'r cyfoethog, bydd hwnnw'n diweddu mewn angen.
17
Rho sylw, a gwrando ar eiriau'r doethion,
a gosod dy feddwl ar fy neall;
18
oherwydd y mae'n werth iti eu cadw yn dy galon,
ac iddynt oll gael eu sicrhau ar dy wefusau.
19
Er mwyn i ti roi dy hyder yn yr ARGLWYDD
yr wyf yn eu dysgu iti heddiw—ie, i ti!
20
Onid wyf wedi ysgrifennu iti ddeg ar hugain o ddywediadau,
yn llawn cyngor a deall,
21
i ddysgu iti wirionedd geiriau cywir,
fel y gelli roi ateb cywir i'r rhai a'th anfonodd?
22
Paid ag ysbeilio'r tlawd am ei fod yn dlawd,
a phaid â sathru'r anghenus yn y porth;
23
oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn dadlau eu hachos,
ac yn difetha'r rhai sy'n eu difetha hwy.
24
Paid â chyfeillachu â neb a chanddo dymer ddrwg,
nac aros yng nghwmni'r dicllon,
25
rhag iti ddysgu ei ffordd,
a'th gael dy hun mewn magl.
26
Paid â rhoi gwystl,
a mynd yn feichiau am ddyledion;
27
os na fydd gennyt ddim i dalu,
oni chymerir dy wely oddi arnat?
28
Paid â symud yr hen derfynau
a osodwyd gan dy hynafiaid.
29
Gwelaist un medrus yn ei waith;
bydd yn gwasanaethu brenhinoedd,
ond ni fydd yn gwasanaethu pobl ddibwys.
1
Pan eisteddi i fwyta gyda llywodraethwr,2
a gosod gyllell at dy wddf
os wyt yn un blysig.
3
Paid â chwennych ei ddanteithion,
oherwydd bwyd sy'n twyllo ydyw.
4
Paid â'th flino dy hun i ennill cyfoeth;
bydd yn ddigon synhwyrol i ymatal.
5
Os tynni dy lygaid oddi arno, y mae'n diflannu,
oherwydd y mae'n magu adenydd,
fel eryr yn hedfan i'r awyr.
6
Paid â bwyta gyda neb cybyddlyd,
na chwennych ei ddanteithion,
7
oherwydd bydd hynny fel blewyn yn ei lwnc;
bydd yn dweud wrthyt, “Bwyta ac yf”,
ond ni fydd yn meddwl hynny.
8
Byddi'n chwydu'r tameidiau a fwyteaist,
ac yn gwastraffu dy ganmoliaeth.
9
Paid â llefaru yng nghlyw'r ffŵl,
oherwydd bydd yn dirmygu synnwyr dy eiriau.
10
Paid â symud yr hen derfynau,
na chymryd meddiant o diroedd yr amddifaid;
11
oherwydd y mae eu Gwaredwr yn gryf,
a bydd yn amddiffyn eu hachos yn dy erbyn.
12
Gosod dy feddwl ar gyfarwyddyd,
a'th glust ar eiriau deall.
13
Paid ag atal disgyblaeth oddi wrth blentyn;
os byddi'n ei guro â gwialen, ni fydd yn marw.
14
Os byddi'n ei guro â gwialen,
byddi'n achub ei fywyd o Sheol.
15
Fy mab, os bydd dy galon yn ddoeth,
bydd fy nghalon innau yn llawen.
16
Byddaf yn llawenhau drwof i gyd
pan fydd dy enau yn llefaru'n uniawn.
17
Paid â chenfigennu wrth bechaduriaid,
ond wrth y rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD bob amser;
18
os felly, bydd dyfodol iti,
ac ni thorrir ymaith dy obaith.
19
Fy mab, gwrando a bydd ddoeth,
a gosod dy feddwl ar y ffordd iawn.
20
Paid â chyfathrachu â'r rhai sy'n yfed gwin,
nac ychwaith â'r rhai glwth;
21
oherwydd bydd y diotwr a'r glwth yn mynd yn dlawd,
a bydd syrthni'n eu gwisgo mewn carpiau.
22
Gwrando ar dy dad, a'th genhedlodd,
a phaid â dirmygu dy fam pan fydd yn hen.
23
Pryn wirionedd, a phaid â'i werthu;
pryn ddoethineb, cyfarwyddyd a deall.
24
Bydd rhieni'r cyfiawn yn llawen iawn,
a'r rhai a genhedlodd y doeth yn ymhyfrydu ynddo.
25
Bydded i'th dad a'th fam gael llawenydd,
ac i'r un a esgorodd arnat gael hyfrydwch.
26
Fy mab, dal sylw arnaf,
a bydded i'th lygaid ymhyfrydu yn fy ffyrdd.
27
Y mae'r butain fel pwll dwfn,
a'r ddynes estron fel pydew cul;
28
y mae'n llercian fel lleidr,
ac yn amlhau'r godinebwyr ymysg dynion.
29
Pwy sy'n cael gwae? Pwy sy'n cael gofid?
Pwy sy'n cael ymryson a chŵyn?
Pwy sy'n cael poen yn ddiachos,
a chochni llygaid?
30
Y rhai sy'n oedi uwchben gwin,
ac yn dod i brofi gwin wedi ei gymysgu.
31
Paid ag edrych ar win pan yw'n goch,
pan yw'n pefrio yn y cwpan,
ac yn mynd i lawr yn esmwyth.
32
Yn y diwedd bydd yn brathu fel sarff,
ac yn pigo fel gwiber.
33
Bydd dy lygaid yn gweld pethau rhyfedd,
a'th feddwl yn mynegi pethau cymysg.
34
Byddi fel un yn mynd i'w wely yng nghanol y môr,
fel un yn gorwedd ar ben yr hwylbren.
35
Byddi'n dweud , “Y maent yn fy nharo, ond nid wyf yn teimlo briw;
y maent yn fy nghernodio, ond ni wn hynny.
Pa bryd y deffroaf, imi geisio cael diod eto?”
1
Paid â chenfigennu wrth bobl ddrwg,2
oherwydd y maent hwy'n meddwl am drais,
a'u genau'n sôn am drybini.
3
Fe adeiledir tŷ trwy ddoethineb,
a'i sicrhau trwy wybodaeth.
4
Trwy ddeall y llenwir ystafelloedd
â phob eiddo gwerthfawr a dymunol.
5
Y mae'r doeth yn fwy grymus na'r cryf,
a'r un deallus na'r un nerthol;
6
oherwydd gelli drefnu dy frwydr â medrusrwydd,
a chael buddugoliaeth â llawer o gynghorwyr.
7
Y mae doethineb allan o gyrraedd y ffŵl;
nid yw'n agor ei geg yn y porth.
8
Bydd yr un sy'n cynllunio i wneud drwg
yn cael ei alw yn ddichellgar.
9
Y mae dichell y ffŵl yn bechod,
ac y mae pobl yn ffieiddio'r gwatwarwr.
10
Os torri dy galon yn nydd cyfyngder,
yna y mae dy nerth yn wan.
11
Achub y rhai a ddygir i farwolaeth;
rho gymorth i'r rhai a lusgir i'w lladd.
12
Os dywedi, “Ni wyddem ni am hyn”,
onid yw'r un sy'n pwyso'r galon yn deall?
Y mae'r un sy'n dy wylio yn gwybod,
ac yn talu i bob un yn ôl ei waith.
13
Fy mab, bwyta fêl, oherwydd y mae'n dda,
ac y mae diliau mêl yn felys i'th enau.
14
Felly y mae deall a doethineb i'th fywyd;
os cei hwy, yna y mae iti ddyfodol,
ac ni thorrir ymaith dy obaith.
15
Paid â llechu fel drwgweithredwr wrth drigfan y cyfiawn,
a phaid ag ymosod ar ei gartref.
16
Er i'r cyfiawn syrthio seithwaith, eto fe gyfyd;
ond fe feglir y drygionus gan adfyd.
17
Paid â llawenhau pan syrth dy elyn,
nac ymfalchïo pan feglir ef,
18
rhag i'r ARGLWYDD weld, a bod yn anfodlon,
a throi ei ddig oddi wrtho.
19
Na fydd ddig wrth y rhai drygionus,
na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg.
20
Oherwydd nid oes dyfodol i neb drwg,
a diffoddir goleuni'r drygionus.
21
Fy mab, ofna'r ARGLWYDD a'r brenin;
paid â bod yn anufudd iddynt,
22
oherwydd fe ddaw dinistr sydyn oddi wrthynt,
a phwy a ŵyr y distryw a achosant ill dau?
23
Dyma hefyd eiriau'r doethion: Nid yw'n iawn dangos ffafr mewn barn.24
Pwy bynnag a ddywed wrth yr euog, “Yr wyt yn ddieuog”,
fe'i melltithir gan bobloedd a'i gollfarnu gan genhedloedd.
25
Ond caiff y rhai sy'n eu ceryddu foddhad,
a daw gwir fendith arnynt.
26
Y mae rhoi ateb gonest
fel rhoi cusan ar wefusau.
27
Rho drefn ar dy waith y tu allan,
a threfna'r hyn sydd yn dy gae,
ac yna adeilada dy dŷ.
28
Paid â thystio yn erbyn dy gymydog yn ddiachos,
na thwyllo â'th eiriau.
29
Paid â dweud, “Gwnaf iddo fel y gwnaeth ef i mi;
talaf iddo yn ôl ei weithred.”
30
Euthum heibio i faes un diog,
ac i winllan un disynnwyr,
31
a sylwais eu bod yn llawn drain,
a danadl drostynt i gyd,
a'u mur o gerrig wedi ei chwalu.
32
Edrychais arnynt ac ystyried;
sylwais a dysgu gwers:
33
ychydig gwsg, ychydig hepian,
ychydig blethu dwylo i orffwys,
34
a daw tlodi atat fel dieithryn creulon,
ac angen fel gŵr arfog.
1
Dyma hefyd ddiarhebion Solomon, a gofnodwyd gan wŷr Heseceia brenin Jwda:2
Gogoniant Duw yw cadw pethau'n guddiedig,3
Fel y mae'r nefoedd yn uchel a'r ddaear yn ddwfn,
felly ni ellir chwilio calonnau brenhinoedd.
4
Symud yr amhuredd o'r arian,
a daw'n llestr yn llaw'r gof.
5
Symud y drygionus o ŵydd y brenin,
a sefydlir ei orsedd mewn cyfiawnder.
6
Paid ag ymddyrchafu yng ngŵydd y brenin,
na sefyll yn lle'r mawrion,
7
oherwydd gwell yw cael dweud wrthyt am symud i fyny,
na'th symud i lawr i wneud lle i bendefig.
8
Paid â brysio i wneud achos o'r hyn a welaist ,
rhag, wedi iti orffen gwneud hynny,
i'th gymydog ddwyn gwarth arnat.
9
Dadlau dy achos â'th gymydog,
ond paid â dadlennu cyfrinach rhywun arall,
10
rhag iddo dy sarhau pan glyw,
a thithau'n methu galw dy annoethineb yn ôl.
11
Fel afalau aur ar addurniadau o arian,
felly y mae gair a leferir yn ei bryd.
12
Fel modrwy aur neu addurn o aur gwerthfawr,
felly y mae cerydd y doeth i glust sy'n gwrando.
13
Fel oerni eira yn amser cynhaeaf,
felly y mae negesydd ffyddlon i'r rhai sy'n ei anfon;
y mae'n adfywio ysbryd ei feistri.
14
Fel cymylau a gwynt, na roddant law,
felly y mae'r un sy'n brolio rhodd heb ei rhoi.
15
Ag amynedd gellir darbwyllo llywodraethwr,
a gall tafod tyner dorri asgwrn.
16
Os cei fêl, bwyta'r hyn y mae ei angen arnat,
rhag iti gymryd gormod, a'i daflu i fyny.
17
Paid â mynd yn rhy aml i dŷ dy gymydog,
rhag iddo gael digon arnat, a'th gasáu.
18
Fel pastwn, neu gleddyf, neu saeth loyw,
felly y mae tyst yn dweud celwydd yn erbyn ei gymydog.
19
Fel dant drwg, neu droed yn llithro,
felly y mae ymddiried mewn twyllwr yn amser adfyd.
20
Fel diosg gwisg ar ddiwrnod oer,
neu roi finegr ar friw,
felly y mae canu caneuon i galon drist.
21
Os yw dy elyn yn newynu, rho iddo fara i'w fwyta,
ac os yw'n sychedig, rho iddo ddŵr i'w yfed;
22
byddi felly'n pentyrru marwor ar ei ben,
ac fe dâl yr ARGLWYDD iti.
23
Y mae gwynt y gogledd yn dod â glaw,
a thafod enllibus yn dod â chilwg.
24
Y mae'n well byw mewn congl ar ben tŷ
na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
25
Fel dŵr oer i lwnc sychedig,
felly y mae newydd da o wlad bell.
26
Fel ffynnon wedi ei difwyno, neu bydew wedi ei lygru,
felly y mae'r cyfiawn yn gwegian o flaen y drygionus.
27
Nid yw'n dda bwyta gormod o fêl,
a rhaid wrth ofal gyda chanmoliaeth.
28
Fel dinas wedi ei bylchu a heb fur,
felly y mae'r sawl sy'n methu rheoli ei dymer.
1
Fel eira yn yr haf, neu law yn ystod y cynhaeaf,2
Fel aderyn y to yn hedfan, neu wennol yn gwibio,
felly ni chyflawnir melltith ddiachos.
3
Chwip i geffyl, ffrwyn i asyn,
a gwialen i gefn ffyliaid!
4
Paid ag ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb,
rhag i ti fynd yn debyg iddo.
5
Ateb y ffŵl yn ôl ei ffolineb,
rhag iddo fynd yn ddoeth yn ei olwg ei hun.
6
Y mae'r sawl sy'n anfon neges yn llaw ffŵl
yn torri ymaith ei draed ei hun ac yn profi trais.
7
Fel coesau'r cloff yn honcian,
felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid.
8
Fel gosod carreg mewn ffon dafl,
felly y mae rhoi anrhydedd i ffŵl.
9
Fel draenen yn mynd i law meddwyn,
felly y mae dihareb yng ngenau ffyliaid.
10
Fel saethwr yn clwyfo pawb sy'n mynd heibio,
felly y mae'r un sy'n cyflogi ffŵl neu feddwyn.
11
Fel ci yn troi'n ôl at ei gyfog,
felly y mae'r ffŵl sy'n ailadrodd ei ffolineb.
12
Fe welaist un sy'n ddoeth yn ei olwg ei hun;
y mae mwy o obaith i ffŵl nag iddo ef.
13
Dywed y diog, “Y mae llew ar y ffordd,
llew yn rhydd yn y strydoedd!”
14
Fel y mae drws yn troi ar ei golyn,
felly y mae'r diog yn ei wely.
15
Y mae'r diog yn gwthio'i law i'r ddysgl,
ond yn rhy ddiog i'w chodi i'w geg.
16
Y mae'r diog yn ddoethach yn ei olwg ei hun
na saith o rai sy'n ateb yn synhwyrol.
17
Fel cydio yng nghlustiau ci sy'n mynd heibio,
felly y mae ymyrryd yng nghweryl rhywun arall.
18
Fel rhywun gwallgof yn saethu
pentewynion â saethau marwol,
19
felly y mae'r un sy'n twyllo'i gymydog,
ac yn dweud, “Dim ond cellwair yr oeddwn.”
20
Heb goed fe ddiffydd tân,
a heb y straegar fe dderfydd am gynnen.
21
Fel glo i farwor, a choed i dân,
felly y mae'r cwerylgar yn creu cynnen.
22
Y mae geiriau'r straegar fel danteithion
sy'n mynd i lawr i'r cylla.
23
Fel golchiad arian ar lestr pridd,
felly y mae geiriau esmwyth a chalon ddrygionus.
24
Y mae gelyn yn rhagrithio â'i eiriau,
ac yn cynllunio twyll yn ei galon;
25
pan yw'n llefaru'n deg, paid ag ymddiried ynddo,
oherwydd y mae saith peth ffiaidd yn ei feddwl;
26
er iddo guddio'i gasineb â rhagrith,
datguddir ei ddrygioni yn y gynulleidfa.
27
Y mae'r un sy'n cloddio pwll yn syrthio iddo,
a daw carreg yn ôl ar yr un sy'n ei threiglo.
28
Y mae tafod celwyddog yn casáu purdeb,
a genau gwenieithus yn dwyn dinistr.
1
Paid ag ymffrostio ynglŷn ag yfory,2
Gad i ddieithryn dy ganmol, ac nid dy enau dy hun;
un sy'n estron, ac nid dy wefusau dy hun.
3
Y mae pwysau mewn carreg, a thywod yn drwm,
ond y mae casineb y ffŵl yn drymach na'r ddau.
4
Y mae dicter yn greulon, a digofaint fel llifeiriant,
ond pwy a all sefyll o flaen cenfigen?
5
Y mae cerydd agored
yn well na chariad a guddir.
6
Y mae dyrnodiau cyfaill yn ddidwyll,
ond cusanau gelyn yn dwyllodrus.
7
Y mae un wedi ei ddigoni yn gwrthod mêl,
ond i'r newynog, melys yw popeth chwerw.
8
Fel aderyn yn crwydro o'i nyth,
felly y mae rhywun sy'n crwydro o'i gynefin.
9
Y mae olew a phersawr yn llawenhau'r galon,
a mwynder cyfaill yn cyfarwyddo'r enaid.
10
Paid â chefnu ar dy gyfaill a chyfaill dy rieni,
a phaid â mynd i dŷ dy frawd yn nydd dy adfyd.
Y mae cyfaill agos yn well na brawd ymhell.
11
Fy mab, bydd ddoeth, a llawenha fy nghalon;
yna gallaf roi ateb i'r rhai sy'n fy amharchu.
12
Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi,
ond y mae'r gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.
13
Cymer wisg y sawl sy'n mynd yn feichiau dros ddyn dieithr,
a chadw hi'n ernes o'i addewid ar ran dieithryn.
14
Y mae'r un sy'n bendithio'i gyfaill â llef uchel,
ac yn codi'n fore i wneud hynny,
yn cael ei ystyried yn un sy'n ei felltithio.
15
Diferion parhaus ar ddiwrnod glawog,
tebyg i hynny yw gwraig yn cecru;
16
y mae ei hatal fel ceisio atal y gwynt,
neu fel un yn ceisio dal olew yn ei law.
17
Y mae haearn yn hogi haearn,
ac y mae pob un yn hogi meddwl ei gyfaill.
18
Yr un sy'n gofalu am ffigysbren sy'n bwyta'i ffrwyth,
a'r sawl sy'n gwylio tros ei feistr sy'n cael anrhydedd.
19
Fel yr adlewyrchir wyneb mewn dŵr,
felly y mae'r galon yn ddrych o'r unigolyn.
20
Ni ddigonir Sheol nac Abadon,
ac ni ddiwellir llygaid neb ychwaith.
21
Y mae tawddlestr i'r arian, a ffwrnais i'r aur,
felly y profir cymeriad gan ganmoliaeth.
22
Er iti bwyo'r ffôl â phestl mewn morter
yn gymysg â'r grawn mân,
eto ni elli yrru ei ffolineb allan ohono.
23
Gofala'n gyson am dy braidd,
a rho sylw manwl i'r ddiadell;
24
oherwydd nid yw cyfoeth yn para am byth,
na choron o genhedlaeth i genhedlaeth.
25
Ar ôl cario'r gwair, ac i'r adladd ymddangos,
a chasglu gwair y mynydd,
26
yna cei ddillad o'r ŵyn,
a phris y tir o'r bychod geifr,
27
a bydd digon o laeth geifr yn ymborth i ti a'th deulu,
ac yn gynhaliaeth i'th forynion.
1
Y mae'r drygionus yn ffoi heb i neb ei erlid,2
Pan fydd gwlad mewn gwrthryfel bydd nifer o arweinwyr,
ond trwy bobl synhwyrol a deallus y sefydlir trefn.
3
Y mae un tlawd yn gorthrymu tlodion,
fel glaw yn curo cnwd heb adael cynnyrch.
4
Y mae'r rhai sy'n cefnu ar y gyfraith yn canmol y drygionus,
ond y mae'r rhai sy'n cadw'r gyfraith yn ymladd yn eu herbyn.
5
Nid yw pobl ddrwg yn deall beth yw cyfiawnder,
ond y mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn deall y cyfan.
6
Y mae'n well bod yn dlawd, a rhodio'n gywir,
na bod yn gyfoethog ac yn droellog ei ffyrdd.
7
Y mae plentyn deallus yn cadw'r gyfraith,
ond y mae'r un sy'n cyfeillachu â'r glwth yn dwyn anfri ar ei rieni.
8
Y mae'r un sy'n cynyddu ei gyfoeth trwy log ac usuriaeth
yn ei gasglu i'r un sy'n garedig wrth y tlawd.
9
Pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar y gyfraith,
bydd ei weddi ef yn ffieidd-dra.
10
Bydd yr un sy'n camarwain yr uniawn i ffordd ddrwg
yn syrthio ei hun i'r pwll a wnaeth;
ond caiff y cywir etifeddiaeth dda.
11
Y mae'r cyfoethog yn ddoeth yn ei olwg ei hun,
ond y mae'r tlawd deallus yn gweld trwyddo.
12
Pan yw'r cyfiawn yn llywodraethu , ceir urddas mawr;
ond pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio.
13
Ni lwydda'r un sy'n cuddio'i droseddau,
ond y mae'r un sy'n eu cyffesu ac yn cefnu arnynt yn cael trugaredd.
14
Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD yn wastad;
ond y mae'r un sy'n caledu ei galon yn disgyn i ddinistr.
15
Fel llew yn rhuo, neu arth yn rhuthro,
felly y mae un drygionus yn llywodraethu pobl dlawd.
16
Y mae llywodraethwr heb ddeall yn pentyrru trawster,
ond y mae'r un sy'n casáu llwgrwobr yn estyn ei ddyddiau.
17
Y mae un sy'n euog o dywallt gwaed
yn ffoi i gyfeiriad y pwll;
peidied neb â'i atal.
18
Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ddiogel,
ond y mae'r sawl sy'n droellog ei ffyrdd yn syrthio i'r pwll .
19
Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd,
ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn llawn tlodi.
20
Caiff y ffyddlon lawer o fendithion,
ond ni fydd yr un sydd ar frys i ymgyfoethogi heb ei gosb.
21
Nid yw'n iawn dangos ffafr,
ac eto fe drosedda rhywun am damaid o fara.
22
Y mae un cybyddlyd yn rhuthro am gyfoeth;
nid yw'n ystyried y daw arno angen.
23
Caiff y sawl sy'n ceryddu fwy o barch yn y diwedd
na'r un sy'n gwenieithio.
24
Y mae'r un sy'n lladrata oddi ar ei dad neu ei fam,
ac yn dweud nad yw'n drosedd,
yn gymar i'r un sy'n dinistrio.
25
Y mae'r trachwantus yn creu cynnen,
ond y mae'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn cael llawnder.
26
Y mae'r un sy'n ymddiried ynddo'i hun yn ynfyd,
ond fe waredir y sawl sy'n dilyn doethineb.
27
Ni ddaw angen ar yr un sy'n rhoi i'r tlawd,
ond daw llawer o felltithion ar yr un sy'n cau ei lygaid.
28
Pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio,
ond ar ôl eu difa, bydd y cyfiawn yn amlhau.
1
Bydd un sy'n ystyfnigo trwy ei geryddu'n fynych2
Pan fydd y cyfiawn yn llywodraethu , llawenha'r bobl,
ond pan fydd y drygionus yn rheoli, bydd y bobl yn griddfan.
3
Y mae'r un sy'n caru doethineb yn rhoi llawenydd i'w dad,
ond y mae'r un sy'n cyfeillachu â phuteiniaid yn gwastraffu ei eiddo.
4
Y mae brenin yn rhoi cadernid i wlad trwy gyfiawnder,
ond y mae'r un sy'n codi trethi yn ei difa.
5
Y mae'r sawl sy'n gwenieithio wrth ei gyfaill
yn taenu rhwyd i'w draed.
6
Rhwydir y drygionus gan gamwedd,
ond y mae'r cyfiawn yn canu'n llawen.
7
Y mae'r cyfiawn yn gwybod hawliau'r tlodion,
ond nid yw'r drygionus yn ystyried deall.
8
Y mae'r gwatwarwyr yn creu cyffro mewn dinas,
ond y mae'r doethion yn tawelu dicter.
9
Os â un doeth i gyfraith â ffŵl,
bydd y ffŵl yn cythruddo ac yn gwawdio,
ac ni cheir llonyddwch.
10
Y mae rhai gwaedlyd yn casáu'r un cywir,
ond y mae'r rhai cyfiawn yn diogelu ei fywyd.
11
Y mae'r ffŵl yn arllwys ei holl ddig,
ond y mae'r doeth yn ei gadw dan reolaeth.
12
Os yw llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd,
bydd ei holl weision yn ddrygionus.
13
Y mae hyn yn gyffredin i'r tlawd a'r gormeswr:
yr ARGLWYDD sy'n goleuo llygaid y ddau.
14
Os yw brenin yn barnu'r tlodion yn gywir,
yna fe sefydlir ei orsedd am byth.
15
Y mae gwialen a cherydd yn rhoi doethineb,
ond y mae plentyn afreolus yn dwyn gwarth ar ei fam.
16
Pan amlha'r drygionus, bydd camwedd yn cynyddu,
ond bydd y cyfiawn yn edrych ar eu cwymp.
17
Disgybla dy fab, a daw â chysur iti,
a rhydd lawenydd iti yn dy fywyd.
18
Lle na cheir gweledigaeth, bydd y bobl ar chwâl;
ond gwyn ei fyd y sawl sy'n cadw'r gyfraith.
19
Nid â geiriau yn unig y disgyblir gwas;
er iddo ddeall, nid yw'n ymateb.
20
Fe welaist un sy'n eiddgar i siarad;
y mae mwy o obaith i'r ffŵl nag iddo ef.
21
Wrth faldodi gwas o'i lencyndod,
bydd yn troi'n anniolchgar yn y diwedd.
22
Codi cynnen y mae rhywun cas,
ac un dicllon yn ychwanegu camwedd.
23
Y mae balchder unrhyw un yn ei ddarostwng,
ond y mae'r gostyngedig yn cael anrhydedd.
24
Gelyn iddo'i hun yw'r sawl sy'n rhannu â lleidr;
y mae'n clywed y felltith, ond heb ddweud dim.
25
Magl yw ofni pobl,
ond diogel yw'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD.
26
Y mae llawer yn ceisio ffafr llywodraethwr,
ond oddi wrth yr ARGLWYDD y daw cyfiawnder.
27
Y mae'r cyfiawn yn ffieiddio'r anghyfiawn,
a'r drygionus yn ffieiddio'r uniawn ei ffordd.
1
Geiriau Agur fab Jaceh o Massa. Dyma'i eiriau i Ithiel, i Ithiel ac Ucal:2
Yr wyf yn fwy anwar na neb;3
Ni ddysgais ddoethineb,
ac nid wyf yn dirnad deall yr Un Sanctaidd.
4
Pwy a esgynnodd i'r nefoedd, ac yna disgyn?
Pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddwrn?
Pwy a rwymodd y dyfroedd mewn gwisg?
Pwy a sefydlodd holl derfynau'r ddaear?
Beth yw ei enw, neu enw ei fab, os wyt yn gwybod?
5
Y mae pob un o eiriau Duw wedi ei brofi;
y mae ef yn darian i'r rhai sy'n ymddiried ynddo.
6
Paid ag ychwanegu dim at ei eiriau,
rhag iddo dy geryddu, a'th gael yn gelwyddog.
7
Gofynnaf am ddau beth gennyt;
paid â'u gwrthod cyn imi farw:
8
symud wagedd a chelwydd ymhell oddi wrthyf;
paid â rhoi imi dlodi na chyfoeth;
portha fi â'm dogn o fwyd,
9
rhag imi deimlo ar ben fy nigon, a'th wadu,
a dweud, “Pwy yw'r ARGLWYDD?”
Neu rhag imi fynd yn dlawd, a throi'n lleidr,
a gwneud drwg i enw fy Nuw.
10
Paid â difrïo gwas wrth ei feistr,
rhag iddo dy felltithio, a'th gael yn euog.
11
Y mae rhai yn melltithio'u tad,
ac yn amharchu eu mam.
12
Y mae rhai yn bur yn eu golwg eu hunain,
ond heb eu glanhau o'u haflendid.
13
Y mae rhai yn ymddwyn yn falch,
a'u golygon yn uchel.
14
Y mae rhai â'u dannedd fel cleddyfau,
a'u genau fel cyllyll,
yn difa'r tlawd o'r tir,
a'r anghenus o blith pobl.
15
Y mae gan y gele ddwy ferch
sy'n dweud, “Dyro, dyro.”
Y mae tri pheth na ellir eu digoni,
ie, pedwar nad ydynt byth yn dweud, “Digon”:
16
Sheol, a'r groth amhlantadwy,
a'r tir sydd heb ddigon o ddŵr,
a'r tân nad yw byth yn dweud, “Digon”.
17
Y llygad sy'n gwatwar tad,
ac yn dirmygu ufudd-dod i fam,
fe'i tynnir allan gan gigfrain y dyffryn,
ac fe'i bwyteir gan y fwltur.
18
Y mae tri pheth yn rhyfeddol imi,
pedwar na allaf eu deall:
19
ffordd yr eryr yn yr awyr,
ffordd neidr ar graig,
ffordd llong ar y cefnfor,
a ffordd dyn gyda merch.
20
Dyma ymddygiad y wraig odinebus:
y mae'n bwyta, yn sychu ei cheg,
ac yn dweud, “Nid wyf wedi gwneud drwg.”
21
Y mae tri pheth sy'n cynhyrfu'r ddaear,
pedwar na all hi eu dioddef:
22
gwas pan ddaw'n frenin,
ffŵl pan gaiff ormod o fwyd,
23
dynes atgas yn cael gŵr,
a morwyn yn disodli ei meistres.
24
Y mae pedwar peth ar y ddaear sy'n fach,
ond yn eithriadol ddoeth:
25
y morgrug, creaduriaid sydd heb gryfder,
ond sy'n casglu eu bwyd yn yr haf;
26
y cwningod, creaduriaid sydd heb nerth,
ond sy'n codi eu tai yn y creigiau;
27
y locustiaid, nad oes ganddynt frenin,
ond sydd i gyd yn mynd allan yn rhengoedd;
28
a'r fadfall, y gelli ei dal yn dy law,
ond sydd i'w chael ym mhalas brenhinoedd.
29
Y mae tri pheth sy'n hardd eu cerddediad,
pedwar sy'n rhodio'n urddasol:
30
llew, gwron ymhlith yr anifeiliaid,
nad yw'n cilio oddi wrth yr un ohonynt;
31
ceiliog yn torsythu; bwch gafr;
a brenin yn arwain ei bobl.
32
Os bu iti ymddwyn yn ffôl trwy ymffrostio,
neu gynllwynio drwg, rho dy law ar dy enau.
33
Oherwydd o gorddi llaeth ceir ymenyn,
o wasgu'r trwyn ceir gwaed,
ac o fegino llid ceir cynnen.
1
Geiriau Lemuel brenin Massa, y rhai a ddysgodd ei fam iddo:2
Beth yw hyn, fy mab, mab fy nghroth?3
Paid â threulio dy nerth gyda merched,
na'th fywyd gyda'r rhai sy'n dinistrio brenhinoedd.
4
Nid gweddus i frenhinoedd, O Lemuel,
nid gweddus i frenhinoedd yfed gwin,
ac nid gweddus i reolwyr flysio diod gadarn,
5
rhag iddynt yfed, ac anghofio'r hyn a ddeddfwyd,
a gwyrdroi achos y rhai gorthrymedig i gyd.
6
Rhowch ddiod gadarn i'r un sydd ar ddarfod,
a gwin i'r chwerw ei ysbryd;
7
cânt hwy yfed ac anghofio'u tlodi,
a pheidio â chofio'u gofid byth mwy.
8
Dadlau o blaid y mud,
a thros achos yr holl rai diobaith.
9
Siarad yn eglur, a rho farn gyfiawn;
cefnoga achos yr anghenus a'r tlawd.
10
Pwy a all ddod o hyd i wraig fedrus?
Y mae hi'n fwy gwerthfawr na gemau.
11
Y mae calon ei gŵr yn ymddiried ynddi,
ac ni fydd pall ar ei henillion.
12
Y mae'n gwneud daioni iddo yn hytrach na cholled,
a hynny ar hyd ei hoes.
13
Y mae'n ceisio gwlân a llin,
ac yn cael pleser o weithio â'i dwylo.
14
Y mae, fel llongau masnachwr,
yn dwyn ei hymborth o bell.
15
Y mae'n codi cyn iddi ddyddio,
yn darparu bwyd i'w thylwyth,
ac yn trefnu gorchwylion ei morynion.
16
Ar ôl ystyried yn fanwl, y mae'n prynu maes,
ac yn plannu gwinllan â'i henillion.
17
Y mae'n gwregysu ei llwynau â nerth,
ac yn dangos mor gryf yw ei breichiau.
18
Y mae'n sicrhau bod ei busnes yn broffidiol,
ac ni fydd ei lamp yn diffodd trwy'r nos.
19
Y mae'n gosod ei llaw ar y cogail,
a'i dwylo'n gafael yn y werthyd.
20
Y mae'n estyn ei llaw i'r anghenus,
a'i dwylo i'r tlawd.
21
Nid yw'n pryderu am ei thylwyth pan ddaw eira,
oherwydd byddant i gyd wedi eu dilladu'n glyd.
22
Y mae'n gwneud cwrlidau iddi ei hun,
ac y mae ei gwisg o liain main a phorffor.
23
Y mae ei gŵr yn adnabyddus yn y pyrth,
pan yw'n eistedd gyda henuriaid yr ardal.
24
Y mae'n gwneud gwisgoedd o liain ac yn eu gwerthu,
ac yn darparu gwregysau i'r masnachwr.
25
Y mae wedi ei gwisgo â nerth ac anrhydedd,
ac yn wynebu'r dyfodol dan chwerthin.
26
Y mae'n siarad yn ddoeth,
a cheir cyfarwyddyd caredig ar ei thafod.
27
Y mae'n cadw golwg ar yr hyn sy'n digwydd i'w theulu,
ac nid yw'n bwyta bara segurdod.
28
Y mae ei phlant yn tyfu ac yn ei bendithio;
a bydd ei gŵr yn ei chanmol:
29
“Y mae llawer o ferched wedi gweithio'n fedrus,
ond yr wyt ti'n rhagori arnynt i gyd.”
30
Y mae tegwch yn twyllo, a phrydferthwch yn darfod,
ond y wraig sy'n ofni'r ARGLWYDD, y mae hon i'w chanmol.
31
Rhowch iddi o ffrwyth ei dwylo,
a bydded i'w gwaith ei chanmol yn y pyrth.