1
Gwyn ei fyd y sawl2
ond sy'n cael ei hyfrydwch yng nghyfraith yr ARGLWYDD
ac yn myfyrio yn ei gyfraith ef ddydd a nos.
3
Y mae fel pren
wedi ei blannu wrth ffrydiau dŵr
ac yn rhoi ffrwyth yn ei dymor,
a'i ddeilen heb fod yn gwywo.
Beth bynnag a wna, fe lwydda.
4
Nid felly y bydd y drygionus,
ond fel us yn cael ei yrru gan wynt.
5
Am hynny, ni saif y drygionus yn y farn
na phechaduriaid yng nghynulleidfa'r cyfiawn.
6
Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio ffordd y cyfiawn,
ond y mae ffordd y drygionus yn darfod.
1
Pam y mae'r cenhedloedd yn terfysgu2
Y mae brenhinoedd y ddaear yn barod,
a'r llywodraethwyr yn ymgynghori â'i gilydd
yn erbyn yr ARGLWYDD a'i eneiniog:
3
“Gadewch inni ddryllio eu rhwymau,
a thaflu ymaith eu rheffynnau.”
4
Fe chwardd yr un sy'n eistedd yn y nefoedd;
y mae'r Arglwydd yn eu gwatwar.
5
Yna fe lefara wrthynt yn ei lid
a'u dychryn yn ei ddicter:
6
“Yr wyf fi wedi gosod fy mrenin
ar Seion, fy mynydd sanctaidd.”
7
Adroddaf am ddatganiad yr ARGLWYDD.
Dywedodd wrthyf, “Fy mab wyt ti,
myfi a'th genhedlodd di heddiw;
8
gofyn, a rhoddaf iti'r cenhedloedd yn etifeddiaeth,
ac eithafoedd daear yn eiddo iti;
9
fe'u drylli â gwialen haearn
a'u malurio fel llestr pridd.”
10
Yn awr, frenhinoedd, byddwch ddoeth;
farnwyr y ddaear, cymerwch gyngor;
11
gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn ofn,
mewn cryndod cusanwch ei draed,
12
rhag iddo ffromi ac i chwi gael eich difetha;
oherwydd fe gyneua ei lid mewn dim.
1
Salm. I Ddafydd, pan ffodd rhag ei fab Absalom. ARGLWYDD, mor lluosog yw fy ngwrthwynebwyr!2
a llawer yn dweud amdanaf,
“Ni chaiff waredigaeth yn Nuw.”
3
Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn darian i mi,
yn ogoniant i mi ac yn fy nyrchafu.
4
Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD,
ac etyb fi o'i fynydd sanctaidd.
5
Yr wyf yn gorwedd ac yn cysgu,
ac yna'n deffro am fod yr ARGLWYDD yn fy nghynnal.
6
Nid ofnwn pe bai myrddiwn o bobl
yn ymosod arnaf o bob tu.
7
Cyfod, ARGLWYDD; gwareda fi, O fy Nuw.
Byddi'n taro fy holl elynion yn eu hwyneb,
ac yn torri dannedd y drygionus.
8
I'r ARGLWYDD y perthyn gwaredigaeth;
bydded dy fendith ar dy bobl.
1
I'r Cyfarwyddwr: ag offerynnau llinynnol. Salm. I Ddafydd. Ateb fi pan alwaf, O Dduw fy nghyfiawnder!2
Bobl, am ba hyd y bydd fy ngogoniant yn warth,
ac y byddwch yn caru gwagedd ac yn ceisio celwydd?
3
Deallwch fod yr ARGLWYDD wedi neilltuo'r ffyddlon iddo'i hun;
y mae'r ARGLWYDD yn gwrando pan alwaf arno.
4
Er i chwi gynddeiriogi, peidiwch â phechu;
er i chwi ymson ar eich gwely, byddwch ddistaw.
5
Offrymwch aberthau cywir,
ac ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD.
6
Y mae llawer yn dweud, “Pwy a ddengys i ni ddaioni?”
Cyfoded llewyrch dy wyneb arnom, ARGLWYDD.
7
Rhoddaist fwy o lawenydd yn fy nghalon
na'r eiddo hwy pan oedd llawer o ŷd a gwin.
8
Yn awr gorweddaf mewn heddwch a chysgu,
oherwydd ti yn unig, ARGLWYDD, sy'n peri imi fyw'n ddiogel.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar ffliwtiau. Salm. I Ddafydd. Gwrando ar fy ngeiriau, ARGLWYDD,2
clyw fy nghri am gymorth,
fy Mrenin a'm Duw.
3
Arnat ti y gweddïaf, ARGLWYDD;
yn y bore fe glywi fy llais.
Yn y bore paratoaf ar dy gyfer,
ac fe ddisgwyliaf.
4
Oherwydd nid wyt Dduw sy'n hoffi drygioni,
ni chaiff y drwg aros gyda thi,
5
ni all y trahaus sefyll o'th flaen.
Yr wyt yn casáu'r holl wneuthurwyr drygioni
6
ac yn difetha'r rhai sy'n dweud celwydd;
ffieiddia'r ARGLWYDD un gwaedlyd a thwyllodrus.
7
Ond oherwydd dy gariad mawr, dof fi i'th dŷ,
plygaf yn dy deml sanctaidd mewn parch i ti.
8
ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder oherwydd fy ngelynion,
gwna dy ffordd yn union o'm blaen.
9
Oherwydd nid oes coel ar eu geiriau ,
y mae dinistr o'u mewn;
bedd agored yw eu llwnc,
a'u tafod yn llawn gweniaith.
10
Dwg gosb arnynt, O Dduw,
bydded iddynt syrthio trwy eu cynllwynion;
bwrw hwy ymaith yn eu holl bechodau
am iddynt wrthryfela yn dy erbyn.
11
Ond bydded i bawb sy'n llochesu ynot ti lawenhau,
a chanu mewn llawenydd yn wastad;
bydd yn amddiffyn dros y rhai sy'n caru dy enw,
fel y bydd iddynt orfoleddu ynot ti.
12
Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn bendithio'r cyfiawn,
ac y mae dy ffafr yn ei amddiffyn fel tarian.
1
I'r Cyfarwyddwr: ag offerynnau llinynnol, ar Seminith. Salm. I Ddafydd. ARGLWYDD, paid â'm ceryddu yn dy ddig,2
Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, oherwydd yr wyf yn llesg;
iachâ fi, ARGLWYDD, oherwydd brawychwyd fy esgyrn,
3
y mae fy enaid mewn arswyd mawr.
Tithau, ARGLWYDD, am ba hyd?
4
Dychwel, ARGLWYDD, gwared fy enaid;
achub fi er mwyn dy ffyddlondeb.
5
Oherwydd nid oes cofio amdanat ti yn angau;
pwy sy'n dy foli di yn Sheol?
6
Yr wyf wedi diffygio gan fy nghwynfan;
bob nos y mae fy ngwely'n foddfa,
trochaf fy ngobennydd â'm dagrau.
7
Pylodd fy llygaid gan ofid,
a phallu oherwydd fy holl elynion.
8
Ewch ymaith oddi wrthyf, holl wneuthurwyr drygioni,
oherwydd clywodd yr ARGLWYDD fi'n wylo.
9
Gwrandawodd yr ARGLWYDD ar fy neisyfiad,
ac y mae'r ARGLWYDD yn derbyn fy ngweddi.
10
Bydded cywilydd a dryswch i'm holl elynion;
trônt yn ôl a'u cywilyddio'n sydyn.
1
Siggaion. I Ddafydd, a ganodd i'r ARGLWYDD ynglŷn â Cus o Benjamin. O ARGLWYDD fy Nuw, ynot ti y llochesaf;2
rhag iddynt fy llarpio fel llew,
a'm darnio heb neb i'm gwaredu.
3
O ARGLWYDD fy Nuw, os gwneuthum hyn—
os oes twyll ar fy nwylo,
4
os telais ddrwg am dda i'm cyfaill,
ac ysbeilio fy ngwrthwynebwr heb achos—
5
bydded i'm gelyn fy erlid a'm dal,
bydded iddo sathru fy einioes i'r ddaear,
a gosod f'anrhydedd yn y llwch.
6
Saf i fyny, O ARGLWYDD, yn dy ddig;
cyfod yn erbyn llid fy ngelynion;
deffro, fy Nuw, i drefnu barn.
7
Bydded i'r bobloedd ymgynnull o'th amgylch;
eistedd dithau'n oruchel uwch eu pennau.
8
O ARGLWYDD, sy'n barnu pobloedd,
barna fi yn ôl fy nghyfiawnder, O ARGLWYDD,
ac yn ôl y cywirdeb sydd ynof.
9
Bydded diwedd ar ddrygioni'r drygionus,
ond cadarnha di y cyfiawn,
ti sy'n profi meddyliau a chalonnau,
ti Dduw cyfiawn.
10
Duw yw fy nharian,
ef sy'n gwaredu'r cywir o galon.
11
Duw sydd farnwr cyfiawn,
a Duw sy'n dedfrydu bob amser.
12
Yn wir, y mae'r drygionus yn hogi ei gleddyf eto,
yn plygu ei fwa ac yn ei wneud yn barod;
13
y mae'n darparu ei arfau marwol,
ac yn gwneud ei saethau'n danllyd.
14
Y mae'n feichiog o ddrygioni,
yn cenhedlu niwed ac yn geni twyll.
15
Y mae'n cloddio pwll ac yn ei geibio,
ac yn syrthio i'r twll a wnaeth.
16
Fe ddychwel ei niwed arno ef ei hun,
ac ar ei ben ef y disgyn ei drais.
17
Diolchaf i'r ARGLWYDD am ei gyfiawnder,
a chanaf fawl i enw'r ARGLWYDD Goruchaf.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar y Gittith. Salm. I Ddafydd. O ARGLWYDD, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!2
codaist amddiffyn rhag dy elynion
o enau babanod a phlant sugno,
a thawelu'r gelyn a'r dialydd.
3
Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd,
y lloer a'r sêr, a roddaist yn eu lle,
4
beth yw meidrolyn, iti ei gofio,
a'r teulu dynol, iti ofalu amdano?
5
Eto gwnaethost ef ychydig islaw duw
a'i goroni â gogoniant ac anrhydedd.
6
Rhoist iddo awdurdod ar waith dy ddwylo,
a gosod popeth dan ei draed:
7
defaid ac ychen i gyd,
yr anifeiliaid gwylltion hefyd,
8
adar y nefoedd, a physgod y môr,
a phopeth sy'n tramwyo llwybrau'r dyfroedd.
9
O ARGLWYDD, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!
1
I'r Cyfarwyddwr: ar Muth-labben. Salm. I Ddafydd. Diolchaf i ti, ARGLWYDD, â'm holl galon,2
Llawenhaf a gorfoleddaf ynot ti,
canaf fawl i'th enw, y Goruchaf.
3
Pan dry fy ngelynion yn eu holau,
baglant a threngi o'th flaen.
4
Gwnaethost yn deg â mi yn fy achos,
ac eistedd ar dy orsedd yn farnwr cyfiawn.
5
Ceryddaist y cenhedloedd a difetha'r drygionus,
a dileaist eu henw am byth.
6
Darfu am y gelyn mewn adfeilion bythol;
yr wyt wedi chwalu eu dinasoedd,
a diflannodd y cof amdanynt.
7
Ond y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu am byth,
ac wedi paratoi ei orsedd i farn.
8
Fe farna'r byd mewn cyfiawnder,
a gwrando achos y bobloedd yn deg.
9
Bydded yr ARGLWYDD yn amddiffynfa i'r gorthrymedig,
yn amddiffynfa yn amser cyfyngder,
10
fel y bydd i'r rhai sy'n cydnabod dy enw ymddiried ynot;
oherwydd ni adewaist, ARGLWYDD, y rhai sy'n dy geisio.
11
Canwch fawl i'r ARGLWYDD sy'n trigo yn Seion,
cyhoeddwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd.
12
Fe gofia'r dialydd gwaed amdanynt;
nid yw'n anghofio gwaedd yr anghenus.
13
Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, sy'n fy nyrchafu o byrth angau;
edrych ar fy adfyd oddi ar law y rhai sy'n fy nghasáu,
14
imi gael adrodd dy holl fawl
a llawenhau yn dy waredigaeth ym mhyrth merch Seion.
15
Suddodd y cenhedloedd i'r pwll a wnaethant eu hunain,
daliwyd eu traed yn y rhwyd yr oeddent hwy wedi ei chuddio.
16
Datguddiodd yr ARGLWYDD ei hun, gwnaeth farn;
maglwyd y drygionus gan waith ei ddwylo'i hun.
17
Bydded i'r drygionus ddychwelyd i Sheol,
a'r holl genhedloedd sy'n anghofio Duw.
18
Oherwydd nid anghofir y tlawd am byth,
ac ni ddryllir gobaith yr anghenus yn barhaus.
19
Cyfod, ARGLWYDD; na threched meidrolion,
ond doed y cenhedloedd i farn o'th flaen.
20
Rho arswyd ynddynt, ARGLWYDD,
a bydded i'r cenhedloedd wybod mai meidrol ydynt.
1
Pam, ARGLWYDD, y sefi draw,2
Y mae'r drygionus yn ei falchder yn ymlid yr anghenus;
dalier ef yn y cynlluniau a ddyfeisiodd.
3
Oherwydd ymffrostia'r drygionus yn ei chwant ei hun,
ac y mae'r barus yn melltithio ac yn dirmygu'r ARGLWYDD.
4
Nid yw'r drygionus ffroenuchel yn ei geisio,
nid oes lle i Dduw yn ei holl gynlluniau.
5
Troellog yw ei ffyrdd bob amser,
y mae dy farnau di y tu hwnt iddo;
ac am ei holl elynion, fe'u dirmyga.
6
Fe ddywed ynddo'i hun, “Ni'm symudir;
trwy'r cenedlaethau ni ddaw niwed ataf.”
7
Y mae ei enau'n llawn melltith, twyll a thrais;
y mae cynnen a drygioni dan ei dafod.
8
Y mae'n aros mewn cynllwyn yn y pentrefi,
ac yn lladd y diniwed yn y dirgel;
gwylia ei lygaid am yr anffodus.
9
Llecha'n ddirgel fel llew yn ei ffau;
llecha er mwyn llarpio'r truan,
ac fe'i deil trwy ei dynnu i'w rwyd;
10
caiff ei ysigo a'i ddarostwng ganddo,
ac fe syrthia'r anffodus i'w grafangau.
11
Dywed yntau ynddo'i hun, “Anghofiodd Duw,
cuddiodd ei wyneb ac ni wêl ddim.”
12
Cyfod, ARGLWYDD; O Dduw, cod dy law;
nac anghofia'r anghenus.
13
Pam y mae'r drygionus yn dy ddirmygu, O Dduw,
ac yn tybio ynddo'i hun nad wyt yn galw i gyfrif?
14
Ond yn wir, yr wyt yn edrych ar helynt a gofid,
ac yn sylwi er mwyn ei gymryd yn dy law;
arnat ti y dibynna'r anffodus,
ti sydd wedi cynorthwyo'r amddifad.
15
Dryllia nerth y drygionus a'r anfad;
chwilia am ei ddrygioni nes ei ddihysbyddu.
16
Y mae'r ARGLWYDD yn frenin byth bythoedd;
difethir y cenhedloedd o'i dir.
17
Clywaist, O ARGLWYDD, ddyhead yr anghenus;
yr wyt yn cryfhau eu calon wrth wrando arnynt,
18
yn gweinyddu barn i'r amddifad a'r gorthrymedig,
rhag i feidrolion beri ofn mwyach.
1
I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Yn yr ARGLWYDD y cefais loches;2
oherwydd y mae'r drygionus yn plygu'r bwa
ac yn gosod eu saethau yn y llinyn
i saethu yn y tywyllwch at yr uniawn”?
3
Os dinistrir y sylfeini,
beth a wna'r cyfiawn?
4
Y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd,
a gorsedd yr ARGLWYDD yn y nefoedd;
y mae ei lygaid yn edrych ar y ddynolryw,
a'i olygon yn ei phrofi.
5
Profa'r ARGLWYDD y cyfiawn a'r drygionus,
a chas ganddo'r sawl sy'n caru trais.
6
Y mae'n glawio marwor tanllyd a brwmstan ar y drygionus;
gwynt deifiol fydd eu rhan.
7
Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn ac yn caru cyfiawnder,
a'r uniawn sy'n gweld ei wyneb.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar Seminith. Salm. I Ddafydd. Arbed, O ARGLWYDD; oherwydd nid oes un teyrngar ar ôl,2
Y mae pob un yn dweud celwydd wrth ei gymydog,
y maent yn gwenieithio wrth siarad â'i gilydd.
3
Bydded i'r ARGLWYDD dorri ymaith bob gwefus wenieithus
a'r tafod sy'n siarad yn ymffrostgar,
4
y rhai sy'n dweud, “Yn ein tafod y mae ein nerth;
y mae ein gwefusau o'n tu; pwy sy'n feistr arnom?”
5
“Oherwydd anrhaith yr anghenus a chri'r tlawd,
codaf yn awr,” meddai'r ARGLWYDD,
“rhoddaf iddo'r diogelwch yr hiraetha amdano.”
6
Y mae geiriau'r ARGLWYDD yn eiriau pur:
arian wedi ei goethi mewn ffwrnais,
aur wedi ei buro seithwaith.
7
Tithau, ARGLWYDD, cadw ni ,
gwared ni am byth oddi wrth y genhedlaeth hon,
8
am fod y drygionus yn prowla ar bob llaw,
a llygredd yn uchaf ymysg pobl.
1
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd. Am ba hyd, ARGLWYDD, yr anghofi fi'n llwyr?2
Am ba hyd y dygaf loes yn fy enaid,
a gofid yn fy nghalon ddydd ar ôl dydd?
Am ba hyd y bydd fy ngelyn yn drech na mi?
3
Edrych arnaf ac ateb fi, O ARGLWYDD fy Nuw;
goleua fy llygaid rhag imi gysgu hun marwolaeth,
4
rhag i'm gelyn ddweud, “Gorchfygais ef”,
ac i'm gwrthwynebwyr lawenhau pan gwympaf.
5
Ond yr wyf fi'n ymddiried yn dy ffyddlondeb,
a chaiff fy nghalon lawenhau yn dy waredigaeth;
canaf i'r ARGLWYDD,
am iddo fod mor hael wrthyf.
1
I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Dywed yr ynfyd yn ei galon,2
Edrychodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd
ar ddynolryw,
i weld a oes rhywun yn gwneud yn ddoeth
ac yn ceisio Duw.
3
Ond y mae pawb ar gyfeiliorn,
ac mor llygredig â'i gilydd;
nid oes un a wna ddaioni,
nac oes, dim un.
4
Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygioni
sy'n llyncu fy mhobl fel llyncu bwyd,
ac sydd heb alw ar yr ARGLWYDD?
5
Yno y byddant mewn dychryn mawr,
am fod Duw yng nghanol y rhai cyfiawn.
6
Er i chwi watwar cyngor yr anghenus,
yr ARGLWYDD yw ei noddfa.
7
O na ddôi gwaredigaeth i Israel o Seion!
Pan adfer yr ARGLWYDD lwyddiant i'w bobl,
fe lawenha Jacob, fe orfoledda Israel.
1
Salm. I Ddafydd. ARGLWYDD, pwy a gaiff aros yn dy babell?2
Yr un sy'n byw yn gywir, yn gwneud cyfiawnder,
ac yn dweud gwir yn ei galon;
3
un nad oes malais ar ei dafod,
nad yw'n gwneud niwed i'w gyfaill,
nac yn goddef enllib am ei gymydog;
4
un sy'n edrych yn ddirmygus ar yr ysgymun,
ond yn parchu'r rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD;
un sy'n tyngu i'w niwed ei hun, a heb dynnu'n ôl;
5
un nad yw'n rhoi ei arian am log,
nac yn derbyn cildwrn yn erbyn y diniwed.
Pwy bynnag a wna hyn, nis symudir byth.
1
Michtam. I Ddafydd. Cadw fi, O Dduw, oherwydd llochesaf ynot ti.2
Dywedais wrth yr ARGLWYDD, “Ti yw f'arglwydd,
nid oes imi ddaioni ond ynot ti.”
3
Ac am y duwiau sanctaidd sydd yn y wlad,
melltith ar bob un sy'n ymhyfrydu ynddynt.
4
Amlhau gofidiau y mae'r un sy'n blysio duwiau eraill;
ni chynigiaf fi waed iddynt yn ddiodoffrwm,
na chymryd eu henwau ar fy ngwefusau.
5
Ti, ARGLWYDD, yw fy nghyfran a'm cwpan,
ti sy'n diogelu fy rhan;
6
syrthiodd y llinynnau i mi mewn mannau dymunol,
ac y mae gennyf etifeddiaeth ragorol.
7
Bendithiaf yr ARGLWYDD a roddodd gyngor i mi;
yn y nos y mae fy meddyliau'n fy hyfforddi.
8
Gosodais yr ARGLWYDD o'm blaen yn wastad;
am ei fod ar fy neheulaw, ni'm symudir.
9
Am hynny, llawenha fy nghalon a gorfoledda f'ysbryd,
a chaiff fy nghnawd fyw'n ddiogel;
10
oherwydd ni fyddi'n gadael fy enaid i Sheol,
ac ni chaiff yr un teyrngar i ti weld Pwll Distryw.
11
Dangosi i mi lwybr bywyd;
yn dy bresenoldeb di y mae digonedd o lawenydd,
ac yn dy ddeheulaw fwyniant bythol.
1
Gweddi. I Ddafydd. Gwrando, ARGLWYDD, gri am gyfiawnder;2
Doed fy marn oddi wrthyt ti,
edryched dy lygaid ar yr hyn sy'n iawn.
3
Profaist fy nghalon a'm gwylio yn y nos,
chwiliaist fi ond heb gael drygioni ynof.
4
Ni throseddodd fy ngenau fel y gwna eraill,
ond fe gedwais eiriau dy wefusau.
5
Ar lwybrau'r anufudd byddai fy nghamau'n pallu,
ond ar dy lwybrau di nid yw fy nhraed yn methu.
6
Gwaeddaf arnat ti am dy fod yn f'ateb, O Dduw;
tro dy glust ataf, gwrando fy ngeiriau.
7
Dangos dy ffyddlondeb rhyfeddol,
ti, sy'n gwaredu â'th ddeheulaw
y rhai sy'n llochesu ynot rhag eu gwrthwynebwyr.
8
Cadw fi fel cannwyll dy lygad,
cuddia fi dan gysgod dy adenydd
9
rhag y drygionus sy'n fy nistrywio,
y gelynion sydd yn eu gwanc yn f'amgylchu.
10
Maent wedi mygu tosturi,
y mae eu genau'n llefaru balchder;
11
y maent ar fy sodlau ac ar gau amdanaf,
wedi gosod eu bryd ar fy mwrw i'r llawr;
12
y maent fel llew yn barod i larpio,
fel llew ifanc yn llechu yn ei guddfan.
13
Cyfod, ARGLWYDD, saf yn eu herbyn a'u bwrw i lawr!
Â'th gleddyf gwared fy mywyd rhag y drygionus;
14
â'th law, ARGLWYDD, gwna ddiwedd arnynt,
difa hwy o'u rhan yng nghanol bywyd.
Llanwer eu bol â'r hyn sydd gennyt ar eu cyfer,
bydded i'w plant gael digon,
a chadw gweddill i'w babanod!
15
Ond byddaf fi yn fy nghyfiawnder yn gweld dy wyneb;
pan ddeffroaf, digonir fi o weld dy wedd.
1
I'r Cyfarwyddwr: I Ddafydd, gwas yr ARGLWYDD, a lefarodd eiriau'r gerdd hon wrth yr ARGLWYDD y diwrnod y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei elynion ac o law Saul. A dywedodd: Caraf di, O ARGLWYDD, fy nghryfder.2
Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd;
fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf,
fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer.
3
Gwaeddaf ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu mawl,
ac fe'm gwaredir rhag fy ngelynion.
4
Pan oedd clymau angau'n tynhau amdanaf
a llifeiriant distryw yn fy nal,
5
pan oedd clymau Sheol yn f'amgylchu
a maglau angau o'm blaen,
6
gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder,
ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo;
clywodd fy llef o'i deml,
a daeth fy ngwaedd i'w glustiau.
7
Crynodd y ddaear a gwegian,
ysgydwodd sylfeini'r mynyddoedd,
a siglo oherwydd ei ddicter ef.
8
Cododd mwg o'i ffroenau,
yr oedd tân yn ysu o'i enau,
a marwor yn cynnau o'i gwmpas.
9
Fe agorodd y ffurfafen a disgyn,
ac yr oedd tywyllwch o dan ei draed.
10
Marchogodd ar gerwb a hedfan,
gwibiodd ar adenydd y gwynt.
11
Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn guddfan,
a chymylau duon yn orchudd.
12
O'r disgleirdeb o'i flaen daeth allan gymylau,
a chenllysg a cherrig tân.
13
Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd,
a llefarodd llais y Goruchaf.
14
Bwriodd allan ei saethau yma ac acw,
saethodd fellt a gwneud iddynt atsain.
15
Daeth gwaelodion y môr i'r golwg,
a dinoethwyd sylfeini'r byd,
oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD,
a chwythiad anadl dy ffroenau.
16
Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd,
tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.
17
Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol,
rhag y rhai sy'n fy nghasáu pan oeddent yn gryfach na mi.
18
Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng,
ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.
19
Dygodd fi allan i le agored,
a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi.
20
Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder,
a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo.
21
Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD,
heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;
22
yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen,
ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu.
23
Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg,
a chedwais fy hun rhag troseddu.
24
Talodd yr ARGLWYDD i mi yn ôl fy nghyfiawnder,
ac yn ôl glendid fy nwylo yn ei olwg.
25
Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon,
yn ddifeius i'r difeius,
26
ac yn bur i'r rhai pur;
ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam.
27
Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig,
ac yn darostwng y beilchion.
28
Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD;
fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair.
29
Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu;
trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur.
30
Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd,
ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur;
y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.
31
Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD?
A phwy sydd graig ond ein Duw ni,
32
y Duw sy'n fy ngwregysu â nerth,
ac yn gwneud fy ffordd yn ddifeius?
33
Gwna fy nhraed fel rhai ewig,
a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd.
34
Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela,
i'm breichiau dynnu bwa pres.
35
Rhoist imi dy darian i'm gwaredu,
a'm cynnal â'th ddeheulaw,
a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal.
36
Rhoist imi le llydan i'm camau,
ac ni lithrodd fy nhraed.
37
Yr wyf yn ymlid fy ngelynion ac yn eu dal;
ni ddychwelaf nes eu difetha.
38
Yr wyf yn eu trywanu fel na allant godi,
ac y maent yn syrthio o dan fy nhraed.
39
Yr wyt wedi fy ngwregysu â nerth i'r frwydr,
a darostwng fy ngelynion odanaf.
40
Gosodaist fy nhroed ar eu gwddf,
a gwneud imi ddifetha'r rhai sy'n fy nghasáu.
41
Y maent yn gweiddi, ond nid oes gwaredydd,
yn galw ar yr ARGLWYDD, ond nid yw'n eu hateb.
42
Fe'u maluriaf cyn faned â llwch o flaen y gwynt,
a'u sathru fel llaid ar y strydoedd.
43
Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl,
ac yn fy ngwneud yn ben ar y cenhedloedd;
pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi.
44
Pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi,
ac estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen.
45
Y mae estroniaid yn gwangalonni,
ac yn dyfod dan grynu o'u lloches.
46
Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig;
dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu,
47
y Duw sy'n rhoi imi ddialedd,
ac yn darostwng pobloedd odanaf,
48
sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion,
yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr,
ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr.
49
Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd,
a chanaf fawl i'th enw.
50
Y mae'n gwaredu ei frenin yn helaeth,
ac yn cadw'n ffyddlon i'w eneiniog,
i Ddafydd ac i'w had am byth.
1
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd. Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw,2
Y mae dydd yn llefaru wrth ddydd,
a nos yn cyhoeddi gwybodaeth wrth nos.
3
Nid oes iaith na geiriau ganddynt,
ni chlywir eu llais;
4
eto fe â eu sain allan drwy'r holl ddaear
a'u lleferydd hyd eithafoedd byd.
Ynddynt gosododd babell i'r haul,
5
sy'n dod allan fel priodfab o'i ystafell,
yn llon fel campwr yn barod i redeg cwrs.
6
O eithaf y nefoedd y mae'n codi,
a'i gylch hyd yr eithaf arall;
ac nid oes dim yn cuddio rhag ei wres.
7
Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith,
yn adfywio'r enaid;
y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr,
yn gwneud y syml yn ddoeth;
8
y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir,
yn llawenhau'r galon;
y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur,
yn goleuo'r llygaid;
9
y mae ofn yr ARGLWYDD yn lân,
yn para am byth;
y mae barnau'r ARGLWYDD yn wir,
yn gyfiawn bob un.
10
Mwy dymunol ydynt nag aur,
na llawer o aur coeth,
a melysach na mêl,
ac na diferion diliau mêl.
11
Trwyddynt hwy hefyd rhybuddir fi,
ac o'u cadw y mae gwobr fawr.
12
Pwy sy'n dirnad ei gamgymeriadau?
Glanha fi oddi wrth fy meiau cudd.
13
Cadw dy was oddi wrth bechodau beiddgar,
rhag iddynt gael y llaw uchaf arnaf.
Yna byddaf yn ddifeius,
ac yn ddieuog o bechod mawr.
14
Bydded geiriau fy ngenau'n dderbyniol gennyt,
a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy i ti,
O ARGLWYDD, fy nghraig a'm prynwr.
1
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd. Bydded i'r ARGLWYDD dy ateb yn nydd cyfyngder,2
Bydded iddo anfon cymorth i ti o'r cysegr,
a'th gynnal o Seion.
3
Bydded iddo gofio dy holl offrymau,
ac edrych yn ffafriol ar dy boethoffrymau.
4
Bydded iddo roi i ti dy ddymuniad,
a chyflawni dy holl gynlluniau.
5
Bydded inni orfoleddu yn dy waredigaeth,
a chodi banerau yn enw ein Duw.
Bydded i'r ARGLWYDD roi iti'r cyfan a ddeisyfi.
6
Yn awr fe wn
fod yr ARGLWYDD yn gwaredu ei eneiniog;
y mae'n ei ateb o'i nefoedd sanctaidd
trwy waredu'n nerthol â'i ddeheulaw.
7
Ymffrostia rhai mewn cerbydau ac eraill mewn meirch,
ond fe ymffrostiwn ni yn enw'r ARGLWYDD ein Duw.
8
Y maent hwy'n crynu ac yn syrthio,
ond yr ydym ni'n codi ac yn sefyll i fyny.
9
O ARGLWYDD, gwareda'r brenin;
ateb ni pan fyddwn yn galw.
1
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd. O ARGLWYDD, fe lawenycha'r brenin yn dy nerth;2
Rhoddaist iddo ddymuniad ei galon,
ac ni wrthodaist iddo ddeisyfiad ei wefusau.
3
Daethost i'w gyfarfod â bendithion daionus,
a rhoi coron o aur coeth ar ei ben.
4
Am fywyd y gofynnodd iti, ac fe'i rhoddaist iddo—
hir ddyddiau byth bythoedd.
5
Mawr yw ei ogoniant oherwydd dy waredigaeth;
yr wyt yn rhoi iddo ysblander ac anrhydedd,
6
yr wyt yn rhoi bendithion iddo dros byth
ac yn ei lawenhau â gorfoledd dy bresenoldeb.
7
Y mae'r brenin yn ymddiried yn yr ARGLWYDD,
ac oherwydd ffyddlondeb y Goruchaf nis symudir.
8
Caiff dy law afael ar dy holl elynion,
a'th ddeheulaw ar y rhai sy'n dy gasáu.
9
Byddi'n eu gwneud fel ffwrnais danllyd pan ymddangosi;
bydd yr ARGLWYDD yn eu difa yn ei lid,
a'r tân yn eu hysu.
10
Byddi'n dinistrio'u hepil oddi ar y ddaear,
a'u plant o blith y ddynolryw.
11
Yr oeddent yn bwriadu drwg yn d'erbyn,
ac yn cynllunio niwed heb lwyddo;
12
oherwydd byddi di'n gwneud iddynt ffoi,
ac yn anelu at eu hwynebau â'th fwa.
13
Dyrchafa, ARGLWYDD, yn dy nerth!
Cawn ganu a'th ganmol am dy gryfder!
1
I'r Cyfarwyddwr: ar Ewig y Wawr. Salm. I Ddafydd. Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael,2
O fy Nuw, gwaeddaf arnat liw dydd, ond nid wyt yn ateb,
a'r nos, ond ni chaf lonyddwch.
3
Eto, yr wyt ti, y Sanctaidd, wedi dy orseddu
yn foliant i Israel.
4
Ynot ti yr oedd ein hynafiaid yn ymddiried,
yn ymddiried a thithau'n eu gwaredu.
5
Arnat ti yr oeddent yn gweiddi ac achubwyd hwy,
ynot ti yr oeddent yn ymddiried ac ni chywilyddiwyd hwy.
6
Pryfyn wyf fi ac nid dyn,
gwawd a dirmyg i bobl.
7
Y mae pawb sy'n fy ngweld yn fy ngwatwar,
yn gwneud ystumiau arnaf ac yn ysgwyd pen:
8
“Rhoes ei achos i'r ARGLWYDD, bydded iddo ef ei achub!
Bydded iddo ef ei waredu, oherwydd y mae'n ei hoffi!”
9
Ond ti a'm tynnodd allan o'r groth,
a'm rhoi ar fronnau fy mam;
10
arnat ti y bwriwyd fi ar fy ngenedigaeth,
ac o groth fy mam ti yw fy Nuw.
11
Paid â phellhau oddi wrthyf,
oherwydd y mae fy argyfwng yn agos
ac nid oes neb i'm cynorthwyo.
12
Y mae gyr o deirw o'm cwmpas,
rhai cryfion o Basan yn cau amdanaf;
13
y maent yn agor eu safn amdanaf
fel llew yn rheibio a rhuo.
14
Yr wyf wedi fy nihysbyddu fel dŵr,
a'm holl esgyrn yn ymddatod;
y mae fy nghalon fel cwyr,
ac yn toddi o'm mewn;
15
y mae fy ngheg yn sych fel cragen
a'm tafod yn glynu wrth daflod fy ngenau;
yr wyt wedi fy mwrw i lwch marwolaeth.
16
Y mae cŵn o'm hamgylch,
haid o ddihirod yn cau amdanaf;
y maent yn trywanu fy nwylo a'm traed.
17
Gallaf gyfrif pob un o'm hesgyrn,
ac y maent hwythau'n edrych ac yn rhythu arnaf.
18
Y maent yn rhannu fy nillad yn eu mysg,
ac yn bwrw coelbren ar fy ngwisg.
19
Ond ti, ARGLWYDD, paid â sefyll draw;
O fy nerth, brysia i'm cynorthwyo.
20
Gwared fi rhag y cleddyf,
a'm hunig fywyd o afael y cŵn.
21
Achub fi o safn y llew,
a'm bywyd tlawd rhag cyrn yr ychen gwyllt.
22
Fe gyhoeddaf dy enw i'm cydnabod,
a'th foli yng nghanol y gynulleidfa:
23
“Molwch ef, chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD;
rhowch anrhydedd iddo, holl dylwyth Jacob;
ofnwch ef, holl dylwyth Israel.
24
Oherwydd ni ddirmygodd na diystyru
gorthrwm y gorthrymedig;
ni chuddiodd ei wyneb oddi wrtho,
ond gwrando arno pan lefodd.”
25
Oddi wrthyt ti y daw fy mawl yn y gynulleidfa fawr,
a thalaf fy addunedau yng ngŵydd y rhai sy'n ei ofni.
26
Bydd yr anghenus yn bwyta, ac yn cael digon,
a'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn ei foli.
Bydded i'w calonnau fyw byth!
27
Bydd holl gyrrau'r ddaear yn cofio
ac yn dychwelyd at yr ARGLWYDD,
a holl dylwythau'r cenhedloedd
yn ymgrymu o'i flaen.
28
Oherwydd i'r ARGLWYDD y perthyn brenhiniaeth,
ac ef sy'n llywodraethu dros y cenhedloedd.
29
Sut y gall y rhai sy'n cysgu yn y ddaear blygu iddo ef,
a'r rhai sy'n disgyn i'r llwch ymgrymu o'i flaen?
Ond byddaf fi fyw iddo ef,
30
a bydd fy mhlant yn ei wasanaethu;
dywedir am yr ARGLWYDD wrth genedlaethau i ddod,
31
a chyhoeddi ei gyfiawnder wrth bobl heb eu geni,
mai ef a fu'n gweithredu.
1
Salm. I Ddafydd. Yr ARGLWYDD yw fy mugail, ni bydd eisiau arnaf.2
Gwna imi orwedd mewn porfeydd breision,
a thywys fi gerllaw dyfroedd tawel,
3
ac y mae ef yn fy adfywio.
Fe'm harwain ar hyd llwybrau cyfiawnder
er mwyn ei enw.
4
Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du,
nid ofnaf unrhyw niwed,
oherwydd yr wyt ti gyda mi,
a'th wialen a'th ffon
yn fy nghysuro.
5
Yr wyt yn arlwyo bwrdd o'm blaen
yng ngŵydd fy ngelynion;
yr wyt yn eneinio fy mhen ag olew;
y mae fy nghwpan yn llawn.
6
Yn sicr, bydd daioni a thrugaredd yn fy nilyn
bob dydd o'm bywyd,
a byddaf yn byw yn nhŷ'r ARGLWYDD
weddill fy nyddiau.
1
Salm. I Ddafydd. Eiddo'r ARGLWYDD yw'r ddaear a'i llawnder,2
oherwydd ef a'i sylfaenodd ar y moroedd
a'i sefydlu ar yr afonydd.
3
Pwy a esgyn i fynydd yr ARGLWYDD
a phwy a saif yn ei le sanctaidd?
4
Y glân ei ddwylo a'r pur o galon,
yr un sydd heb osod ei feddwl ar dwyll
a heb dyngu'n gelwyddog.
5
Fe dderbyn fendith gan yr ARGLWYDD
a chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth.
6
Dyma'r genhedlaeth sy'n ei geisio,
sy'n ceisio wyneb Duw Jacob.
7
Codwch eich pennau, O byrth!
Ymddyrchefwch, O ddrysau tragwyddol!
i frenin y gogoniant ddod i mewn.
8
Pwy yw'r brenin gogoniant hwn?
Yr ARGLWYDD, cryf a chadarn,
yr ARGLWYDD, cadarn mewn rhyfel.
9
Codwch eich pennau, O byrth!
Ymddyrchefwch, O ddrysau tragwyddol!
i frenin y gogoniant ddod i mewn.
10
Pwy yw'r brenin gogoniant hwn?
ARGLWYDD y Lluoedd,
ef yw brenin y gogoniant.
1
I Ddafydd. Atat ti, ARGLWYDD, y dyrchafaf fy enaid;2
O fy Nuw, ynot ti yr wyf yn ymddiried;
paid â dwyn cywilydd arnaf,
paid â gadael i'm gelynion orfoleddu o'm hachos.
3
Ni ddaw cywilydd i'r rhai sy'n gobeithio ynot ti,
ond fe ddaw i'r rhai sy'n llawn brad heb achos.
4
Gwna imi wybod dy ffyrdd, O ARGLWYDD,
hyffordda fi yn dy lwybrau.
5
Arwain fi yn dy wirionedd a dysg fi,
oherwydd ti yw Duw fy iachawdwriaeth;
wrthyt ti y bûm yn disgwyl trwy'r dydd.
6
O ARGLWYDD, cofia dy drugaredd a'th ffyddlondeb,
oherwydd y maent erioed.
7
Paid â chofio pechodau fy ieuenctid na'm gwrthryfel,
ond yn dy gariad cofia fi,
er mwyn dy ddaioni, O ARGLWYDD.
8
Y mae'r ARGLWYDD yn dda ac uniawn,
am hynny fe ddysg y ffordd i bechaduriaid.
9
Fe arwain y gostyngedig yn yr hyn sy'n iawn,
a dysgu ei ffordd i'r gostyngedig.
10
Y mae holl lwybrau'r ARGLWYDD yn llawn cariad a gwirionedd
i'r rhai sy'n cadw ei gyfamod a'i gyngor.
11
Er mwyn dy enw, ARGLWYDD,
maddau fy nghamwedd, oherwydd y mae'n fawr.
12
Pwy bynnag sy'n ofni'r ARGLWYDD,
fe'i dysg pa ffordd i'w dewis;
13
fe gaiff fyw'n ffyniannus,
a bydd ei blant yn etifeddu'r tir.
14
Caiff y rhai sy'n ei ofni gyfeillach yr ARGLWYDD
a hefyd ei gyfamod i'w dysgu.
15
Y mae fy llygaid yn wastad ar yr ARGLWYDD,
oherwydd y mae'n rhyddhau fy nhraed o'r rhwyd.
16
Tro ataf, a bydd drugarog wrthyf,
oherwydd unig ac anghenus wyf fi.
17
Esmwythâ gyfyngder fy nghalon,
a dwg fi allan o'm hadfyd.
18
Edrych ar fy nhrueni a'm gofid,
a maddau fy holl bechodau.
19
Gwêl mor niferus yw fy ngelynion
ac fel y maent yn fy nghasáu â chas perffaith.
20
Cadw fi a gwared fi,
na ddoed cywilydd arnaf,
oherwydd ynot ti yr wyf yn llochesu.
21
Bydd cywirdeb ac uniondeb yn fy niogelu,
oherwydd gobeithiais ynot ti.
22
O Dduw, gwareda Israel
o'i holl gyfyngderau.
1
I Ddafydd. Barna fi, O ARGLWYDD, oherwydd rhodiais yn gywir2
Chwilia fi, ARGLWYDD, a phrofa fi,
rho brawf ar fy nghalon a'm meddwl.
3
Oherwydd y mae dy ffyddlondeb o flaen fy llygaid,
ac yr wyf yn rhodio yn dy wirionedd.
4
Ni fûm yn eistedd gyda rhai diwerth,
nac yn cyfeillachu gyda rhagrithwyr.
5
Yr wyf yn casáu cwmni'r rhai drwg,
ac nid wyf yn eistedd gyda'r drygionus.
6
Golchaf fy nwylo am fy mod yn ddieuog,
ac amgylchaf dy allor, O ARGLWYDD,
7
a chanu'n uchel mewn diolchgarwch
ac adrodd dy holl ryfeddodau.
8
O ARGLWYDD, yr wyf yn caru'r tŷ lle'r wyt yn trigo,
y man lle mae dy ogoniant yn aros.
9
Paid â'm rhoi gyda phechaduriaid,
na'm bywyd gyda rhai gwaedlyd,
10
rhai sydd â chamwri ar eu dwylo
a'u deheulaw'n llawn o lwgrwobrwyon.
11
Ond amdanaf fi, yr wyf yn rhodio'n gywir;
gwareda fi a bydd drugarog wrthyf.
12
Y mae fy nhraed yn gadarn mewn uniondeb;
bendithiaf yr ARGLWYDD yn y gynulleidfa.
1
I Ddafydd. Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth,2
Pan fydd rhai drwg yn cau amdanaf
i'm hysu i'r byw,
hwy, fy ngwrthwynebwyr a'm gelynion,
fydd yn baglu ac yn syrthio.
3
Pe bai byddin yn gwersyllu i'm herbyn,
nid ofnai fy nghalon;
pe dôi rhyfel ar fy ngwarthaf,
eto, fe fyddwn yn hyderus.
4
Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD,
dyma'r wyf yn ei geisio:
cael byw yn nhŷ'r ARGLWYDD
holl ddyddiau fy mywyd,
i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDD
ac i ymofyn yn ei deml.
5
Oherwydd fe'm ceidw yn ei gysgod yn nydd adfyd,
a'm cuddio i mewn yn ei babell, a'm codi ar graig.
6
Ac yn awr, fe gyfyd fy mhen
goruwch fy ngelynion o'm hamgylch;
ac offrymaf finnau yn ei deml
aberthau llawn gorfoledd;
canaf, canmolaf yr ARGLWYDD.
7
Gwrando arnaf, ARGLWYDD, pan lefaf;
bydd drugarog wrthyf, ac ateb fi.
8
Dywedodd fy nghalon amdanat,
“Ceisia ei wyneb ”;
am hynny ceisiaf dy wyneb, O ARGLWYDD.
9
Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf,
na throi ymaith dy was mewn dicter,
oherwydd buost yn gymorth i mi;
paid â'm gwrthod na'm gadael,
O Dduw, fy Ngwaredwr.
10
Pe bai fy nhad a'm mam yn cefnu arnaf,
byddai'r ARGLWYDD yn fy nerbyn.
11
Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD,
arwain fi ar hyd llwybr union,
oherwydd fy ngwrthwynebwyr.
12
Paid â'm gadael i fympwy fy ngelynion,
oherwydd cododd yn f'erbyn dystion celwyddog
sy'n bygwth trais.
13
Yr wyf yn sicr y caf weld daioni'r ARGLWYDD
yn nhir y rhai byw.
14
Disgwyl wrth yr ARGLWYDD,
bydd gryf a gwrol dy galon
a disgwyl wrth yr ARGLWYDD.
1
I Ddafydd. Arnat ti, ARGLWYDD, y gwaeddaf;2
Gwrando ar lef fy ngweddi
pan waeddaf arnat am gymorth,
pan godaf fy nwylo
tua'th gysegr sanctaidd.
3
Paid â'm cipio ymaith gyda'r drygionus
a chyda gwneuthurwyr drygioni,
rhai sy'n siarad yn deg â'u cymdogion
ond sydd â chynnen yn eu calon.
4
Tâl iddynt am eu gweithredoedd
ac am ddrygioni eu gwaith;
tâl iddynt am yr hyn a wnaeth eu dwylo,
rho eu haeddiant iddynt.
5
Am nad ydynt yn ystyried gweithredoedd yr ARGLWYDD
na gwaith ei ddwylo ef,
bydded iddo'u dinistrio a pheidio â'u hailadeiladu.
6
Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD
am iddo wrando ar lef fy ngweddi.
7
Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm tarian;
ynddo yr ymddiried fy nghalon;
yn sicr caf gymorth, a llawenycha fy nghalon,
a rhof foliant iddo ar gân.
8
Y mae'r ARGLWYDD yn nerth i'w bobl
ac yn gaer gwaredigaeth i'w eneiniog.
9
Gwareda dy bobl, a bendithia dy etifeddiaeth;
bugeilia hwy a'u cario am byth.
1
Salm. I Ddafydd. Rhowch i'r ARGLWYDD, fodau nefol ,2
Rhowch i'r ARGLWYDD ogoniant ei enw;
ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.
3
Y mae llais yr ARGLWYDD yn uwch na'r dyfroedd;
Duw'r gogoniant sy'n taranu;
y mae'r ARGLWYDD yn uwch na'r dyfroedd cryfion!
4
Y mae llais yr ARGLWYDD yn nerthol,
y mae llais yr ARGLWYDD yn ogoneddus.
5
Y mae llais yr ARGLWYDD yn dryllio cedrwydd;
dryllia'r ARGLWYDD gedrwydd Lebanon.
6
Gwna i Lebanon lamu fel llo,
a Sirion fel ych ifanc.
7
Y mae llais yr ARGLWYDD yn fflachio'n fflamau tân.
8
Y mae llais yr ARGLWYDD yn gwneud i'r anialwch grynu;
gwna'r ARGLWYDD i anialwch Cades grynu.
9
Y mae llais yr ARGLWYDD yn gwneud i'r ewigod lydnu,
ac yn prysuro geni'r llwdn;
yn ei deml dywed pawb, “Gogoniant.”
10
Y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu uwch y llifeiriant,
y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu'n frenin byth.
11
Rhodded yr ARGLWYDD nerth i'w bobl!
Bendithied yr ARGLWYDD ei bobl â heddwch!
1
Salm. Cân i gysegru'r deml. I Ddafydd. Dyrchafaf di, O ARGLWYDD, am iti fy ngwaredu,2
O ARGLWYDD fy Nuw, gwaeddais arnat, a bu iti fy iacháu.
3
O ARGLWYDD, dygaist fi i fyny o Sheol,
a'm hadfywio o blith y rhai sy'n disgyn i'r pwll.
4
Canwch fawl i'r ARGLWYDD, ei ffyddloniaid,
a rhowch ddiolch i'w enw sanctaidd.
5
Am ennyd y mae ei ddig, ond ei ffafr am oes;
os erys dagrau gyda'r hwyr, daw llawenydd yn y bore.
6
Yn fy hawddfyd fe ddywedwn,
“Ni'm symudir byth.”
7
Yn dy ffafr, ARGLWYDD, gosodaist fi ar fynydd cadarn,
ond pan guddiaist dy wyneb, brawychwyd fi.
8
Gelwais arnat ti, ARGLWYDD,
ac ymbiliais ar fy Arglwydd am drugaredd:
9
“Pa les a geir o'm marw os disgynnaf i'r pwll?
A fydd y llwch yn dy foli ac yn cyhoeddi dy wirionedd?
10
Gwrando, ARGLWYDD, a bydd drugarog wrthyf;
ARGLWYDD, bydd yn gynorthwywr i mi.”
11
Yr wyt wedi troi fy ngalar yn ddawns,
wedi datod fy sachliain a'm gwisgo â llawenydd,
12
er mwyn imi dy foliannu'n ddi-baid.
O ARGLWYDD fy Nuw, diolchaf i ti hyd byth!
1
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd. Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches,2
tro dy glust ataf,
a brysia i'm gwaredu;
bydd i mi'n graig noddfa,
yn amddiffynfa i'm cadw.
3
Yr wyt ti'n graig ac yn amddiffynfa i mi;
er mwyn dy enw, arwain a thywys fi.
4
Tyn fi o'r rhwyd a guddiwyd ar fy nghyfer,
oherwydd ti yw fy noddfa.
5
Cyflwynaf fy ysbryd i'th law di;
gwaredaist fi, ARGLWYDD, y Duw ffyddlon.
6
Yr wyf yn casáu'r rhai sy'n glynu wrth eilunod gwag,
ac ymddiriedaf fi yn yr ARGLWYDD.
7
Llawenychaf a gorfoleddaf yn dy ffyddlondeb,
oherwydd iti edrych ar fy adfyd
a rhoi sylw imi yn fy nghyfyngder.
8
Ni roddaist fi yn llaw fy ngelyn,
ond gosodaist fy nhraed mewn lle agored.
9
Bydd drugarog wrthyf, ARGLWYDD, oherwydd y mae'n gyfyng arnaf;
y mae fy llygaid yn pylu gan ofid,
fy enaid a'm corff hefyd;
10
y mae fy mywyd yn darfod gan dristwch
a'm blynyddoedd gan gwynfan;
fe sigir fy nerth gan drallod ,
ac y mae fy esgyrn yn darfod.
11
I'm holl elynion yr wyf yn ddirmyg,
i'm cymdogion yn watwar ,
ac i'm cyfeillion yn arswyd;
y mae'r rhai sy'n fy ngweld ar y stryd yn ffoi oddi wrthyf.
12
Anghofiwyd fi, fel un marw wedi mynd dros gof;
yr wyf fel llestr wedi torri.
13
Oherwydd clywaf lawer yn sibrwd,
y mae dychryn ar bob llaw;
pan ddônt at ei gilydd yn f'erbyn
y maent yn cynllwyn i gymryd fy mywyd.
14
Ond yr wyf yn ymddiried ynot ti, ARGLWYDD,
ac yn dweud, “Ti yw fy Nuw.”
15
Y mae fy amserau yn dy law di;
gwared fi rhag fy ngelynion a'm herlidwyr.
16
Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was;
achub fi yn dy ffyddlondeb.
17
ARGLWYDD, na fydded cywilydd arnaf pan alwaf arnat;
doed cywilydd ar y drygionus,
rhodder taw arnynt yn Sheol.
18
Trawer yn fud y gwefusau celwyddog,
sy'n siarad yn drahaus yn erbyn y cyfiawn
mewn balchder a sarhad.
19
Mor helaeth yw dy ddaioni
sydd ynghadw gennyt i'r rhai sy'n dy ofni,
ac wedi ei amlygu i'r rhai sy'n cysgodi ynot,
a hynny yng ngŵydd pawb!
20
Fe'u cuddi dan orchudd dy bresenoldeb
rhag y rhai sy'n cynllwyn;
fe'u cedwi dan dy gysgod
rhag ymryson tafodau.
21
Bendigedig yw'r ARGLWYDD
a ddangosodd ei ffyddlondeb rhyfeddol ataf
yn nydd cyfyngder.
22
Yn fy nychryn fe ddywedais,
“Torrwyd fi allan o'th olwg.”
Ond clywaist lef fy ngweddi
pan waeddais arnat am gymorth.
23
Carwch yr ARGLWYDD, ei holl ffyddloniaid.
Y mae'r ARGLWYDD yn cadw'r rhai ffyddlon,
ond yn talu'n llawn i'r rhai balch.
24
Byddwch gryf a gwrol eich calon,
yr holl rai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD.
1
I Ddafydd. Mascîl. Gwyn ei fyd y sawl y maddeuwyd ei drosedd,2
Gwyn ei fyd y sawl nad yw'r ARGLWYDD
yn cyfrif ei fai yn ei erbyn,
ac nad oes dichell yn ei ysbryd.
3
Tra oeddwn yn ymatal, yr oedd fy esgyrn yn darfod,
a minnau'n cwyno ar hyd y dydd.
4
Yr oedd dy law yn drwm arnaf ddydd a nos;
sychwyd fy nerth fel gan wres haf.
5
Yna, bu imi gydnabod fy mhechod wrthyt,
a pheidio â chuddio fy nrygioni;
dywedais, “Yr wyf yn cyffesu fy mhechodau i'r ARGLWYDD”;
a bu i tithau faddau euogrwydd fy mhechod.
6
Am hynny fe weddïa pob un ffyddlon arnat ti
yn nydd cyfyngder ,
a phan ddaw llifeiriant o ddyfroedd mawr,
ni fyddant yn cyrraedd ato ef.
7
Yr wyt ti'n gysgod i mi; cedwi fi rhag cyfyngder;
amgylchi fi â chaneuon gwaredigaeth.
8
Hyfforddaf di a'th ddysgu yn y ffordd a gymeri;
fe gadwaf fy ngolwg arnat.
9
Paid â bod fel march neu ful direswm
y mae'n rhaid wrth ffrwyn a genfa i'w dofi cyn y dônt atat.
10
Daw poenau lawer i'r drygionus;
ond am y sawl sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD,
bydd ffyddlondeb yn ei amgylchu.
11
Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, a gorfoleddwch, rai cyfiawn;
canwch yn uchel, pob un o galon gywir.
1
Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, chwi rai cyfiawn;2
Molwch yr ARGLWYDD â'r delyn,
canwch salmau iddo â'r offeryn dectant;
3
canwch iddo gân newydd,
tynnwch y tannau'n dda, rhowch floedd.
4
Oherwydd gwir yw gair yr ARGLWYDD,
ac y mae ffyddlondeb yn ei holl weithredoedd.
5
Y mae'n caru cyfiawnder a barn;
y mae'r ddaear yn llawn o ffyddlondeb yr ARGLWYDD.
6
Trwy air yr ARGLWYDD y gwnaed y nefoedd,
a'i holl lu trwy anadl ei enau.
7
Casglodd y môr fel dŵr mewn potel,
a rhoi'r dyfnderoedd mewn ystordai.
8
Bydded i'r holl ddaear ofni'r ARGLWYDD,
ac i holl drigolion y byd arswydo rhagddo.
9
Oherwydd llefarodd ef, ac felly y bu;
gorchmynnodd ef, a dyna a safodd.
10
Gwna'r ARGLWYDD gyngor y cenhedloedd yn ddim,
a difetha gynlluniau pobloedd.
11
Ond saif cyngor yr ARGLWYDD am byth,
a'i gynlluniau dros yr holl genedlaethau.
12
Gwyn ei byd y genedl y mae'r ARGLWYDD yn Dduw iddi,
y bobl a ddewisodd yn eiddo iddo'i hun.
13
Y mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd,
ac yn gweld pawb oll;
14
o'r lle y triga y mae'n gwylio
holl drigolion y ddaear.
15
Ef sy'n llunio meddwl pob un ohonynt,
y mae'n deall popeth a wnânt.
16
Nid gan fyddin gref y gwaredir brenin,
ac nid â nerth mawr yr achubir rhyfelwr.
17
Ofer ymddiried mewn march am waredigaeth;
er ei holl gryfder ni all roi ymwared.
18
Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y rhai a'i hofna,
ar y rhai sy'n disgwyl wrth ei ffyddlondeb,
19
i'w gwaredu rhag marwolaeth
a'u cadw'n fyw yng nghanol newyn.
20
Yr ydym yn disgwyl am yr ARGLWYDD;
ef yw ein cymorth a'n tarian.
21
Y mae ein calon yn llawenychu ynddo
am inni ymddiried yn ei enw sanctaidd.
22
O ARGLWYDD, dangos dy ffyddlondeb tuag atom,
fel yr ydym wedi gobeithio ynot.
1
I Ddafydd, pan newidiodd ei wedd o flaen Abimelech, a chael ei yrru ymaith a mynd. Bendithiaf yr ARGLWYDD bob amser;2
Yn yr ARGLWYDD yr ymhyfrydaf;
bydded i'r gostyngedig glywed a llawenychu.
3
Mawrygwch yr ARGLWYDD gyda mi,
a dyrchafwn ei enw gyda'n gilydd.
4
Ceisiais yr ARGLWYDD, ac atebodd fi
a'm gwaredu o'm holl ofnau.
5
Y mae'r rhai sy'n edrych arno'n gloywi,
ac ni ddaw cywilydd i'w hwynebau.
6
Dyma un isel a waeddodd, a'r ARGLWYDD yn ei glywed
ac yn ei waredu o'i holl gyfyngderau.
7
Gwersylla angel yr ARGLWYDD o amgylch y rhai sy'n ei ofni,
ac y mae'n eu gwaredu.
8
Profwch, a gwelwch mai da yw'r ARGLWYDD.
Gwyn ei fyd y sawl sy'n llochesu ynddo.
9
Ofnwch yr ARGLWYDD, ei saint ef,
oherwydd nid oes eisiau ar y rhai a'i hofna.
10
Y mae'r anffyddwyr yn dioddef angen ac yn newynu,
ond nid yw'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn brin o ddim da.
11
Dewch, blant, gwrandewch arnaf,
dysgaf ichwi ofn yr ARGLWYDD.
12
Pwy ohonoch sy'n dymuno bywyd
ac a garai fyw'n hir i fwynhau daioni?
13
Cadw dy dafod rhag drygioni
a'th wefusau rhag llefaru celwydd.
14
Tro oddi wrth ddrygioni a gwna dda,
ceisia heddwch a'i ddilyn.
15
Y mae llygaid yr ARGLWYDD ar y cyfiawn,
a'i glustiau'n agored i'w cri.
16
Y mae wyneb yr ARGLWYDD yn erbyn y rhai sy'n gwneud drwg,
i ddileu eu coffa o'r ddaear.
17
Pan waedda'r cyfiawn am gymorth, fe glyw'r ARGLWYDD
a'u gwaredu o'u holl gyfyngderau.
18
Y mae'r ARGLWYDD yn agos at y drylliedig o galon
ac yn gwaredu'r briwedig o ysbryd.
19
Llawer o adfyd a gaiff y cyfiawn,
ond gwareda'r ARGLWYDD ef o'r cyfan.
20
Ceidw ei holl esgyrn,
ac ni thorrir yr un ohonynt.
21
Y mae adfyd yn lladd y drygionus,
a chosbir y rhai sy'n casáu'r cyfiawn.
22
Y mae'r ARGLWYDD yn gwaredu ei weision,
ac ni chosbir y rhai sy'n llochesu ynddo.
1
I Ddafydd. Ymryson, O ARGLWYDD, yn erbyn y rhai sy'n ymryson â mi,2
Cydia mewn tarian a bwcled,
a chyfod i'm cynorthwyo.
3
Tyn allan y waywffon a'r bicell
yn erbyn y rhai sy'n fy erlid;
dywed wrthyf, “Myfi yw dy waredigaeth.”
4
Doed cywilydd a gwarth
ar y rhai sy'n ceisio fy mywyd;
bydded i'r rhai sy'n darparu drwg i mi
droi yn eu holau mewn arswyd.
5
Byddant fel us o flaen gwynt,
ac angel yr ARGLWYDD ar eu holau.
6
Bydded eu ffordd yn dywyll a llithrig,
ac angel yr ARGLWYDD yn eu hymlid.
7
Oherwydd heb achos y maent wedi gosod rhwyd i mi,
ac wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.
8
Doed distryw yn ddiarwybod arnynt ,
dalier hwy yn y rhwyd a osodwyd ganddynt,
a bydded iddynt hwy eu hunain syrthio i'w distryw.
9
Ond llawenhaf fi yn yr ARGLWYDD,
a gorfoleddu yn ei waredigaeth.
10
Bydd fy holl esgyrn yn gweiddi,
“Pwy, ARGLWYDD, sydd fel tydi,
yn gwaredu'r tlawd rhag un cryfach nag ef,
y tlawd a'r anghenus rhag un sy'n ei ysbeilio?”
11
Fe gyfyd tystion maleisus
i'm holi am bethau nas gwn.
12
Talant imi ddrwg am dda,
a gwneud ymgais am fy mywyd.
13
A minnau, pan oeddent hwy yn glaf,
oeddwn yn gwisgo sachliain,
yn ymddarostwng mewn ympryd,
yn plygu pen mewn gweddi,
14
fel pe dros gyfaill neu frawd imi;
yn mynd o amgylch fel un yn galaru am ei fam,
wedi fy narostwng ac mewn galar.
15
Ond pan gwympais i, yr oeddent hwy yn llawen
ac yn tyrru at ei gilydd i'm herbyn—
poenydwyr nad oeddwn yn eu hadnabod
yn fy enllibio heb arbed.
16
Pan gloffais i, yr oeddent yn fy ngwatwar,
ac yn ysgyrnygu eu dannedd arnaf.
17
O Arglwydd, am ba hyd yr wyt am edrych?
Gwared fi rhag eu dinistr,
a'm hunig fywyd rhag anffyddwyr.
18
Yna, diolchaf i ti gerbron y gynulleidfa fawr,
a'th foliannu gerbron tyrfa gref.
19
Na fydded i'm gelynion twyllodrus lawenychu o'm hachos,
nac i'r rhai sy'n fy nghasáu heb achos wincio â'u llygaid.
20
Oherwydd nid ydynt yn sôn am heddwch;
ond yn erbyn rhai tawel y wlad
y maent yn cynllwyn dichellion.
21
Y maent yn agor eu cegau yn f'erbyn
ac yn dweud, “Aha, aha,
yr ydym wedi gweld â'n llygaid!”
22
Gwelaist tithau, ARGLWYDD; paid â thewi;
fy Arglwydd, paid â phellhau oddi wrthyf.
23
Ymysgwyd a deffro i wneud barn â mi,
i roi dedfryd ar fy achos, fy Nuw a'm Harglwydd.
24
Barna fi yn ôl dy gyfiawnder, O ARGLWYDD, fy Nuw,
ac na fydded iddynt lawenhau o'm hachos.
25
Na fydded iddynt ddweud ynddynt eu hunain,
“Aha, cawsom ein dymuniad!”
Na fydded iddynt ddweud, “Yr ydym wedi ei lyncu.”
26
Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd,
ar y rhai sy'n llawenhau yn fy adfyd;
bydded gwarth ac amarch yn gorchuddio
y rhai sy'n ymddyrchafu yn f'erbyn.
27
Bydded i'r rhai sy'n dymuno gweld fy nghyfiawnhau
orfoleddu a llawenhau;
bydded iddynt ddweud yn wastad,
“Mawr yw yr ARGLWYDD sy'n dymuno llwyddiant ei was.”
28
Yna, bydd fy nhafod yn cyhoeddi dy gyfiawnder
a'th foliant ar hyd y dydd.
1
I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd, gwas yr ARGLWYDD. Llefara pechod wrth y drygionus yn nyfnder ei galon ;2
Llwydda i'w dwyllo ei hun
na ellir canfod ei ddrygioni i'w gasáu.
3
Niwed a thwyll yw ei holl eiriau;
peidiodd ag ymddwyn yn ddoeth ac yn dda.
4
Cynllunia ddrygioni yn ei wely;
y mae wedi ymsefydlu yn y ffordd anghywir,
ac nid yw'n gwrthod y drwg.
5
Ymestyn dy gariad, ARGLWYDD, hyd y nefoedd,
a'th ffyddlondeb hyd y cymylau;
6
y mae dy gyfiawnder fel y mynyddoedd uchel
a'th farnau fel y dyfnder mawr;
cedwi ddyn ac anifail, O ARGLWYDD.
7
Mor werthfawr yw dy gariad, O Dduw!
Llochesa pobl dan gysgod dy adenydd.
8
Fe'u digonir â llawnder dy dŷ,
a diodi hwy o afon dy gysuron;
9
oherwydd gyda thi y mae ffynnon bywyd,
ac yn d'oleuni di y gwelwn oleuni.
10
Parha dy gariad at y rhai sy'n d'adnabod
a'th gyfiawnder at y rhai uniawn o galon.
11
Na fydded i'r troed balch fy sathru,
nac i'r llaw ddrygionus fy nhroi allan.
12
Dyna'r gwneuthurwyr drygioni wedi cwympo,
wedi eu bwrw i'r llawr a heb allu codi!
1
I Ddafydd. Na fydd yn ddig wrth y rhai drygionus,2
Oherwydd fe wywant yn sydyn fel glaswellt,
a chrino fel glesni gwanwyn.
3
Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni,
iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel.
4
Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD,
a rhydd iti ddeisyfiad dy galon.
5
Rho dy ffyrdd i'r ARGLWYDD;
ymddiried ynddo, ac fe weithreda.
6
Fe wna i'th gywirdeb ddisgleirio fel goleuni
a'th uniondeb fel haul canol dydd.
7
Disgwyl yn dawel am yr ARGLWYDD,
aros yn amyneddgar amdano;
paid â bod yn ddig wrth yr un sy'n llwyddo,
y gŵr sy'n gwneud cynllwynion.
8
Paid â digio; rho'r gorau i lid;
paid â bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny.
9
Oherwydd dinistrir y rhai drwg,
ond bydd y rhai sy'n gobeithio yn yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir.
10
Ymhen ychydig eto, ni fydd y drygionus;
er iti edrych yn ddyfal am ei le, ni fydd ar gael.
11
Ond bydd y gostyngedig yn meddiannu'r tir
ac yn mwynhau heddwch llawn.
12
Y mae'r drygionus yn cynllwyn yn erbyn y cyfiawn,
ac yn ysgyrnygu ei ddannedd arno;
13
ond y mae'r Arglwydd yn chwerthin am ei ben,
oherwydd gŵyr fod ei amser yn dyfod.
14
Y mae'r drygionus yn chwifio cleddyf
ac yn plygu eu bwa,
i ddarostwng y tlawd a'r anghenus,
ac i ladd yr union ei gerddediad;
15
ond fe drywana eu cleddyf i'w calon eu hunain,
a thorrir eu bwâu.
16
Gwell yw'r ychydig sydd gan y cyfiawn
na chyfoeth mawr y drygionus;
17
oherwydd torrir nerth y drygionus,
ond bydd yr ARGLWYDD yn cynnal y cyfiawn.
18
Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros ddyddiau'r difeius,
ac fe bery eu hetifeddiaeth am byth.
19
Ni ddaw cywilydd arnynt mewn cyfnod drwg,
a bydd ganddynt ddigon mewn dyddiau o newyn.
20
Oherwydd fe dderfydd am y drygionus;
bydd gelynion yr ARGLWYDD fel cynnud mewn tân ,
pob un ohonynt yn diflannu mewn mwg.
21
Y mae'r drygionus yn benthyca heb dalu'n ôl,
ond y cyfiawn yn rhoddwr trugarog.
22
Bydd y rhai a fendithiwyd gan yr ARGLWYDD yn etifeddu'r tir,
ond fe dorrir ymaith y rhai a felltithiwyd ganddo.
23
Yr ARGLWYDD sy'n cyfeirio camau'r difeius ,
y mae'n ei gynnal ac yn ymhyfrydu yn ei gerddediad;
24
er iddo syrthio, nis bwrir i'r llawr,
oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ei gynnal â'i law.
25
Bûm ifanc, ac yn awr yr wyf yn hen,
ond ni welais y cyfiawn wedi ei adael,
na'i blant yn cardota am fara;
26
y mae bob amser yn drugarog ac yn rhoi benthyg,
a'i blant yn fendith.
27
Tro oddi wrth ddrwg a gwna dda,
a chei gartref diogel am byth,
28
oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn caru barn,
ac nid yw'n gadael ei ffyddloniaid;
ond difethir yr anghyfiawn am byth,
a thorrir ymaith blant y drygionus.
29
Y mae'r cyfiawn yn etifeddu'r tir,
ac yn cartrefu ynddo am byth.
30
Y mae genau'r cyfiawn yn llefaru doethineb,
a'i dafod yn mynegi barn;
31
y mae cyfraith ei Dduw yn ei galon,
ac nid yw ei gamau'n methu.
32
Y mae'r drygionus yn gwylio'r cyfiawn
ac yn ceisio cyfle i'w ladd;
33
ond nid yw'r ARGLWYDD yn ei adael yn ei law,
nac yn caniatáu ei gondemnio pan fernir ef.
34
Disgwyl wrth yr ARGLWYDD a glŷn wrth ei ffordd,
ac fe'th ddyrchafa i etifeddu'r tir,
a chei weld y drygionus yn cael eu torri ymaith.
35
Gwelais y drygionus yn ddidostur,
yn taflu fel blaguryn iraidd;
36
ond pan euthum heibio, nid oedd dim ohono;
er imi chwilio amdano, nid oedd i'w gael.
37
Sylwa ar y difeius, ac edrych ar yr uniawn;
oherwydd y mae disgynyddion gan yr heddychlon.
38
Difethir y gwrthryfelwyr i gyd,
a dinistrir disgynyddion y drygionus.
39
Ond daw gwaredigaeth y cyfiawn oddi wrth yr ARGLWYDD;
ef yw eu hamddiffyn yn amser adfyd.
40
Bydd yr ARGLWYDD yn eu cynorthwyo ac yn eu harbed;
bydd yn eu harbed rhag y drygionus ac yn eu hachub,
am iddynt lochesu ynddo.
1
Salm. I Ddafydd, er coffadwriaeth. ARGLWYDD, na cherydda fi yn dy lid,2
Suddodd dy saethau ynof,
y mae dy law yn drwm arnaf.
3
Nid oes rhan o'm cnawd yn gyfan gan dy ddicllonedd,
nid oes iechyd yn fy esgyrn oherwydd fy mhechod.
4
Aeth fy nghamweddau dros fy mhen,
y maent yn faich rhy drwm imi ei gynnal.
5
Aeth fy mriwiau'n ffiaidd a chrawni
oherwydd fy ffolineb.
6
Yr wyf wedi fy mhlygu a'm darostwng yn llwyr,
ac yn mynd o amgylch yn galaru drwy'r dydd.
7
Y mae fy llwynau'n llosgi gan dwymyn,
ac nid oes iechyd yn fy nghnawd.
8
Yr wyf wedi fy mharlysu a'm llethu'n llwyr,
ac yn gweiddi oherwydd griddfan fy nghalon.
9
O Arglwydd, y mae fy nyhead yn amlwg i ti,
ac nid yw fy ochenaid yn guddiedig oddi wrthyt.
10
Y mae fy nghalon yn curo'n gyflym, fy nerth yn pallu,
a'r golau yn fy llygaid hefyd wedi mynd.
11
Cilia fy nghyfeillion a'm cymdogion rhag fy mhla,
ac y mae fy mherthnasau'n cadw draw.
12
Y mae'r rhai sydd am fy einioes wedi gosod maglau,
a'r rhai sydd am fy nrygu yn sôn am ddinistr
ac yn myfyrio am ddichellion drwy'r dydd.
13
Ond yr wyf fi fel un byddar, heb fod yn clywed,
ac fel mudan, heb fod yn agor ei enau.
14
Bûm fel un heb fod yn clywed,
a heb ddadl o'i enau.
15
Ond amdanat ti, O ARGLWYDD, y disgwyliais;
ti sydd i ateb, O Arglwydd, fy Nuw.
16
Oherwydd dywedais, “Na fydded llawenydd o'm plegid
i'r rhai sy'n ymffrostio pan lithra fy nhroed.”
17
Yn wir, yr wyf ar fedr syrthio,
ac y mae fy mhoen gyda mi bob amser.
18
Yr wyf yn cyffesu fy nghamwedd,
ac yn pryderu am fy mhechod.
19
Cryf yw'r rhai sy'n elynion imi heb achos ,
a llawer yw'r rhai sy'n fy nghasáu ar gam,
20
yn talu imi ddrwg am dda
ac yn fy ngwrthwynebu am fy mod yn dilyn daioni.
21
Paid â'm gadael, O ARGLWYDD;
paid â mynd yn bell oddi wrthyf, O fy Nuw.
22
Brysia i'm cynorthwyo,
O Arglwydd, fy iachawdwriaeth.
1
I'r Cyfarwyddwr: i Jeduthun. Salm. I Ddafydd. Dywedais, “Gwyliaf fy ffyrdd,2
Bûm yn fud a distaw,
cedwais yn dawel, ond i ddim diben;
gwaethygodd fy mhoen,
3
llosgodd fy nghalon o'm mewn;
wrth imi fyfyrio, cyneuodd tân
a thorrais allan i ddweud,
4
“ARGLWYDD, pâr imi wybod fy niwedd,
a beth yw nifer fy nyddiau;
dangos imi mor feidrol ydwyf.
5
Wele, yr wyt wedi gwneud fy nyddiau fel dyrnfedd,
ac y mae fy oes fel dim yn dy olwg;
yn wir, chwa o wynt yw pob un byw,
6
“ac y mae'n mynd a dod fel cysgod;
yn wir, ofer yw'r holl gyfoeth a bentyrra ,
ac ni ŵyr pwy fydd yn ei gasglu.
7
“Ac yn awr, Arglwydd, am beth y disgwyliaf?
Y mae fy ngobaith ynot ti.
8
Gwared fi o'm holl droseddau,
paid â'm gwneud yn wawd i'r ynfyd.
9
Bûm yn fud, ac nid agoraf fy ngheg,
oherwydd ti sydd wedi gwneud hyn.
10
Tro ymaith dy bla oddi wrthyf;
yr wyf yn darfod gan drawiad dy law.
11
Pan gosbi rywun â cherydd am ddrygioni,
yr wyt yn dinistrio'i ogoniant fel gwyfyn;
yn wir, chwa o wynt yw pawb.
12
“Gwrando fy ngweddi, O ARGLWYDD,
a rho glust i'm cri;
paid â diystyru fy nagrau.
Oherwydd ymdeithydd gyda thi ydwyf,
a phererin fel fy holl hynafiaid.
13
Tro draw oddi wrthyf, rho imi lawenydd
cyn imi fynd ymaith a darfod yn llwyr.”
1
I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm. Bûm yn disgwyl a disgwyl wrth yr ARGLWYDD,2
Cododd fi i fyny o'r pwll lleidiog,
allan o'r mwd a'r baw;
gosododd fy nhraed ar graig,
a gwneud fy nghamau'n ddiogel.
3
Rhoddodd yn fy ngenau gân newydd,
cân o foliant i'n Duw;
bydd llawer, pan welant hyn, yn ofni
ac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
4
Gwyn ei fyd y sawl
sy'n rhoi ei ymddiriedaeth yn yr ARGLWYDD,
ac nad yw'n troi at y beilchion,
nac at y rhai sy'n dilyn twyll.
5
Mor niferus, O ARGLWYDD, fy Nuw,
yw'r rhyfeddodau a wnaethost,
a'th fwriadau ar ein cyfer;
nid oes tebyg i ti!
Dymunwn eu cyhoeddi a'u hadrodd,
ond maent yn rhy niferus i'w rhifo.
6
Nid wyt yn dymuno aberth ac offrwm—
rhoddaist imi glustiau agored—
ac nid wyt yn gofyn poethoffrwm ac aberth dros bechod.
7
Felly dywedais, “Dyma fi'n dod;
y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf
8
fy mod yn hoffi gwneud ewyllys fy Nuw,
a bod dy gyfraith yn fy nghalon.”
9
Bûm yn cyhoeddi cyfiawnder yn y gynulleidfa fawr;
nid wyf wedi atal fy ngwefusau,
fel y gwyddost, O ARGLWYDD.
10
Ni chuddiais dy gyfiawnder yn fy nghalon,
ond dywedais am dy gadernid a'th waredigaeth;
ni chelais dy gariad a'th wirionedd
rhag y gynulleidfa fawr.
11
Paid tithau, ARGLWYDD, ag atal
dy dosturi oddi wrthyf;
bydded dy gariad a'th wirionedd
yn fy nghadw bob amser.
12
Oherwydd y mae drygau dirifedi
wedi cau amdanaf;
y mae fy nghamweddau wedi fy nal
fel na allaf weld;
y maent yn fwy niferus na gwallt fy mhen,
ac y mae fy nghalon yn suddo.
13
Bydd fodlon i'm gwaredu, ARGLWYDD;
O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo.
14
Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd,
ar y rhai sy'n ceisio difa fy mywyd;
bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imi
gael eu troi yn eu holau mewn dryswch.
15
Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, “Aha! Aha!” arnaf
gael eu syfrdanu gan eu gwaradwydd.
16
Ond bydded i bawb sy'n dy geisio di
lawenhau a gorfoleddu ynot;
bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaeth
ddweud yn wastad, “Mawr yw'r ARGLWYDD.”
17
Un tlawd ac anghenus wyf fi,
ond y mae'r Arglwydd yn meddwl amdanaf.
Ti yw fy nghymorth a'm gwaredydd;
fy Nuw, paid ag oedi!
1
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd. Gwyn ei fyd y sawl sy'n ystyried y tlawd.2
bydd yr ARGLWYDD yn ei warchod ac yn ei gadw'n fyw;
bydd yn rhoi iddo ddedwyddwch yn y tir,
ac ni rydd mohono i fympwy ei elynion.
3
Bydd yr ARGLWYDD yn ei gynnal ar ei wely cystudd,
ac yn cyweirio'i wely pan fo'n glaf.
4
Dywedais innau, “O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf;
iachâ fi, oherwydd pechais yn d'erbyn.”
5
Fe ddywed fy ngelynion yn faleisus amdanaf,
“Pa bryd y bydd farw ac y derfydd ei enw?”
6
Pan ddaw un i'm gweld, y mae'n siarad yn rhagrithiol,
ond yn ei galon yn casglu newydd drwg amdanaf,
ac yn mynd allan i'w daenu ar led.
7
Y mae'r holl rai sy'n fy nghasáu yn sisial â'i gilydd,
yn meddwl y gwaethaf amdanaf,
8
ac yn dweud, “Y mae rhywbeth marwol wedi cydio ynddo;
y mae'n orweiddiog, ac ni chyfyd eto.”
9
Y mae hyd yn oed fy nghyfaill agos, y bûm yn ymddiried ynddo,
ac a fu'n bwyta wrth fy mwrdd,
yn codi ei sawdl yn f'erbyn.
10
O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthyf ac adfer fi,
imi gael talu'n ôl iddynt.
11
Wrth hyn y gwn dy fod yn fy hoffi:
na fydd fy ngelyn yn cael gorfoledd o'm plegid.
12
Ond byddi di'n fy nghynnal yn fy nghywirdeb,
ac yn fy nghadw yn dy bresenoldeb byth.
13
Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel,
o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.
Amen ac Amen.
1
I'r Cyfarwyddwr: Mascîl. I feibion Cora. Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog,2
Y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw;
pa bryd y dof ac ymddangos ger ei fron?
3
Bu fy nagrau'n fwyd imi ddydd a nos,
pan ofynnent imi drwy'r dydd, “Ple mae dy Dduw?”
4
Tywalltaf fy enaid mewn gofid wrth gofio hyn—
fel yr awn gyda thyrfa'r mawrion i dŷ Dduw
yng nghanol banllefau a moliant, torf yn cadw gŵyl.
5
Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid,
ac mor gythryblus o'm mewn!
Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef,
fy Ngwaredydd a'm Duw .
6
Y mae fy enaid yn ddarostyngedig ynof;
am hynny, meddyliaf amdanat ti
o dir yr Iorddonen a Hermon
ac o Fynydd Misar.
7
Geilw dyfnder ar ddyfnder
yn sŵn dy raeadrau;
y mae dy fôr a'th donnau
wedi llifo trosof.
8
Liw dydd y mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn ei ffyddlondeb,
a liw nos y mae ei gân gyda mi,
gweddi ar Dduw fy mywyd.
9
Dywedaf wrth Dduw, fy nghraig,
“Pam yr anghofiaist fi?
Pam y rhodiaf mewn galar,
wedi fy ngorthrymu gan y gelyn?”
10
Fel pe'n dryllio fy esgyrn,
y mae fy ngelynion yn fy ngwawdio,
ac yn dweud wrthyf trwy'r dydd,
“Ple mae dy Dduw?”
11
Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid,
ac mor gythryblus o'm mewn!
Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef,
fy Ngwaredydd a'm Duw.
1
Cymer fy mhlaid, O Dduw,2
oherwydd ti, O Dduw, yw fy amddiffyn.
Pam y gwrthodaist fi?
Pam y rhodiaf mewn galar,
wedi fy ngorthrymu gan y gelyn?
3
Anfon dy oleuni a'th wirionedd,
bydded iddynt fy arwain,
bydded iddynt fy nwyn i'th fynydd sanctaidd
ac i'th drigfan.
4
Yna dof at allor Duw,
at Dduw fy llawenydd;
llawenychaf a'th foliannu â'r delyn,
O Dduw, fy Nuw.
5
Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid,
ac mor gythryblus o'm mewn!
Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef,
fy Ngwaredydd a'm Duw.
1
I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Mascîl. O Dduw, clywsom â'n clustiau,2
Gyrraist genhedloedd allan,
ond eu plannu hwy;
difethaist bobloedd,
ond eu llwyddo hwy;
3
oherwydd nid â'u cleddyf y cawsant y tir,
ac nid â'u braich y cawsant fuddugoliaeth,
ond trwy dy ddeheulaw a'th fraich di,
a llewyrch dy wyneb, am dy fod yn eu hoffi.
4
Ti yw fy Mrenin a'm Duw,
ti sy'n rhoi buddugoliaeth i Jacob.
5
Trwot ti y darostyngwn ein gelynion,
trwy dy enw y sathrwn ein gwrthwynebwyr.
6
Oherwydd nid yn fy mwa yr ymddiriedaf,
ac nid fy nghleddyf a'm gwareda.
7
Ond ti a'n gwaredodd rhag ein gelynion
a chywilyddio'r rhai sy'n ein casáu.
8
Yn Nuw yr ydym erioed wedi ymffrostio,
a chlodforwn dy enw am byth.
9
Ond yr wyt wedi'n gwrthod a'n darostwng,
ac nid ei allan mwyach gyda'n byddinoedd.
10
Gwnei inni gilio o flaen y gelyn,
a chymerodd y rhai sy'n ein casáu yr ysbail.
11
Gwnaethost ni fel defaid i'w lladd,
a'n gwasgaru ymysg y cenhedloedd.
12
Gwerthaist dy bobl am y nesaf peth i ddim,
ac ni chefaist elw o'r gwerthiant.
13
Gwnaethost ni'n warth i'n cymdogion,
yn destun gwawd a dirmyg i'r rhai o'n hamgylch.
14
Gwnaethost ni'n ddihareb ymysg y cenhedloedd,
ac y mae'r bobloedd yn ysgwyd eu pennau o'n plegid.
15
Y mae fy ngwarth yn fy wynebu beunydd,
ac yr wyf wedi fy ngorchuddio â chywilydd
16
o achos llais y rhai sy'n fy ngwawdio a'm difrïo,
ac oherwydd y gelyn a'r dialydd.
17
Daeth hyn i gyd arnom, a ninnau heb dy anghofio
na bod yn anffyddlon i'th gyfamod.
18
Ni throdd ein calon oddi wrthyt,
ac ni chamodd ein traed o'th lwybrau,
19
i beri iti ein hysigo yn nhrigfa'r siacal
a'n gorchuddio â thywyllwch dudew.
20
Pe baem wedi anghofio enw ein Duw
ac estyn ein dwylo at dduw estron,
21
oni fyddai Duw wedi canfod hyn?
Oherwydd gŵyr ef gyfrinachau'r galon.
22
Ond er dy fwyn di fe'n lleddir drwy'r dydd,
a'n trin fel defaid i'w lladd.
23
Ymysgwyd! Pam y cysgi, O Arglwydd?
Deffro! Paid â'n gwrthod am byth.
24
Pam yr wyt yn cuddio dy wyneb
ac yn anghofio'n hadfyd a'n gorthrwm?
25
Y mae ein henaid yn ymostwng i'r llwch,
a'n cyrff yn wastad â'r ddaear.
26
Cyfod i'n cynorthwyo.
Gwareda ni er mwyn dy ffyddlondeb.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar Lilïau. I feibion Cora. Mascîl. Cân Serch. Symbylwyd fy nghalon gan neges dda;2
Yr wyt yn decach na phawb;
tywalltwyd gras ar dy wefusau
am i Dduw dy fendithio am byth.
3
Gwisg dy gleddyf ar dy glun, O ryfelwr;
â mawredd a gogoniant addurna dy forddwyd.
4
Marchoga o blaid gwirionedd, ac o achos cyfiawnder,
a bydded i'th ddeheulaw ddysgu iti bethau ofnadwy.
5
Y mae dy saethau'n llym yng nghalon gelynion y brenin;
syrth pobloedd odanat.
6
Y mae dy orsedd fel gorsedd Duw , yn dragwyddol,
a'th deyrnwialen yn wialen cyfiawnder.
7
Ceraist gyfiawnder a chasáu drygioni;
am hynny bu i Dduw, dy Dduw di, dy eneinio
ag olew llawenydd uwchlaw dy gyfoedion.
8
Y mae dy ddillad i gyd yn fyrr, aloes a chasia,
ac offerynnau llinynnol o balasau ifori yn dy ddifyrru.
9
Y mae tywysogesau ymhlith merched dy lys;
saif y frenhines ar dy ddeheulaw, mewn aur Offir.
10
Gwrando di, ferch, rho sylw a gogwydda dy glust:
anghofia dy bobl dy hun a thŷ dy dad;
11
yna bydd y brenin yn chwenychu dy brydferthwch,
oherwydd ef yw dy arglwydd.
12
Ymostwng iddo ag anrhegion, O ferch Tyrus,
a bydd cyfoethogion y bobl yn ceisio dy ffafr.
13
Cwbl ogoneddus yw merch y brenin,
cwrel wedi ei osod mewn aur sydd ar ei gwisg,
14
ac mewn brodwaith yr arweinir hi at y brenin;
Ar ei hôl daw ei chyfeillesau, y morynion;
15
dônt atat yn llawen a hapus,
dônt i mewn i balas y brenin.
16
Yn lle dy dadau daw dy feibion,
a gwnei hwy'n dywysogion dros yr holl ddaear.
17
Mynegaf dy glod dros y cenedlaethau,
nes bod pobl yn dy ganmol hyd byth.
1
I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora, ar Alamoth. Cân. Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni,2
Felly, nid ofnwn er i'r ddaear symud
ac i'r mynyddoedd ddisgyn i ganol y môr,
3
er i'r dyfroedd ruo a therfysgu
ac i'r mynyddoedd ysgwyd gan eu hymchwydd.
4
Y mae afon a'i ffrydiau'n llawenhau dinas Duw,
preswylfa sanctaidd y Goruchaf.
5
Y mae Duw yn ei chanol, nid ysgogir hi;
cynorthwya Duw hi ar doriad dydd.
6
Y mae'r cenhedloedd yn terfysgu a'r teyrnasoedd yn gwegian;
pan gwyd ef ei lais, todda'r ddaear.
7
Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni,
Duw Jacob yn gaer i ni.
8
Dewch i weld gweithredoedd yr ARGLWYDD,
fel y dygodd ddifrod ar y ddaear;
9
gwna i ryfeloedd beidio trwy'r holl ddaear,
dryllia'r bwa, tyr y waywffon,
a llosgi'r darian â thân.
10
Ymlonyddwch, a deallwch mai myfi sydd Dduw,
yn ddyrchafedig ymysg y cenhedloedd,
yn ddyrchafedig ar y ddaear.
11
Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni,
Duw Jacob yn gaer i ni.
1
I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Salm. Curwch ddwylo, yr holl bobloedd;2
Oherwydd y mae'r ARGLWYDD, y Goruchaf, yn ofnadwy,
yn frenin mawr dros yr holl ddaear.
3
Fe ddarostwng bobloedd odanom,
a chenhedloedd o dan ein traed.
4
Dewisodd ein hetifeddiaeth i ni,
balchder Jacob, yr hwn a garodd.
5
Esgynnodd Duw gyda bloedd,
yr ARGLWYDD gyda sain utgorn.
6
Canwch fawl i Dduw, canwch fawl;
canwch fawl i'n brenin, canwch fawl.
7
Y mae Duw yn frenin ar yr holl ddaear;
canwch fawl yn gelfydd.
8
Y mae Duw yn frenin ar y cenhedloedd,
y mae'n eistedd ar ei orsedd sanctaidd.
9
Y mae tywysogion y bobl wedi ymgynnull
gyda phobl Duw Abraham;
oherwydd eiddo Duw yw mawrion y ddaear—
fe'i dyrchafwyd yn uchel iawn.
1
Cân. Salm. I feibion Cora. Mawr yw'r ARGLWYDD a theilwng iawn o fawl2
Teg o uchder, llawenydd yr holl ddaear,
yw Mynydd Seion, ar lechweddau'r Gogledd,
dinas y Brenin Mawr.
3
Oddi mewn i'w cheyrydd y mae Duw
wedi ei ddangos ei hun yn amddiffynfa.
4
Wele'r brenhinoedd wedi ymgynnull
ac wedi dyfod at ei gilydd;
5
ond pan welsant, fe'u synnwyd,
fe'u brawychwyd nes peri iddynt ffoi;
6
daeth dychryn arnynt yno,
a gwewyr, fel gwraig yn esgor,
7
fel pan fo gwynt y dwyrain
yn dryllio llongau Tarsis.
8
Fel y clywsom, felly hefyd y gwelsom
yn ninas ARGLWYDD y Lluoedd,
yn ninas ein Duw ni
a gynhelir gan Dduw am byth.
9
O Dduw, yr ydym wedi portreadu dy ffyddlondeb
yng nghanol dy deml.
10
Fel y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawl
yn ymestyn hyd derfynau'r ddaear.
Y mae dy ddeheulaw'n llawn o gyfiawnder;
11
bydded i Fynydd Seion lawenhau.
Bydded i drefi Jwda orfoleddu
oherwydd dy farnedigaethau.
12
Ymdeithiwch o gwmpas Jerwsalem, ewch o'i hamgylch,
rhifwch ei thyrau,
13
sylwch ar ei magwyrydd,
ewch trwy ei chaerau,
fel y galloch ddweud wrth yr oes sy'n codi,
14
“Dyma Dduw!
Y mae ein Duw ni hyd byth bythoedd,
fe'n harwain yn dragywydd.”
1
I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Salm. Clywch hyn, yr holl bobloedd,2
yn wreng a bonedd,
yn gyfoethog a thlawd.
3
Llefara fy ngenau ddoethineb,
a bydd myfyrdod fy nghalon yn ddeallus.
4
Gogwyddaf fy nghlust at ddihareb,
a datgelaf fy nychymyg â'r delyn.
5
Pam yr ofnaf yn nyddiau adfyd,
pan yw drygioni fy nisodlwyr o'm cwmpas,
6
rhai sy'n ymddiried yn eu golud
ac yn ymffrostio yn nigonedd eu cyfoeth?
7
Yn wir, ni all neb ei waredu ei hun
na thalu iawn i Dduw—
8
oherwydd rhy uchel yw pris ei fywyd,
ac ni all byth ei gyrraedd—
9
iddo gael byw am byth
a pheidio â gweld Pwll Distryw.
10
Ond gwêl fod y doethion yn marw,
fod yr ynfyd a'r dwl yn trengi,
ac yn gadael eu cyfoeth i eraill.
11
Eu bedd yw eu cartref bythol,
eu trigfan dros y cenedlaethau,
er iddynt gael tiroedd i'w henwau.
12
Ni all neb aros mewn rhwysg;
y mae fel yr anifeiliaid sy'n darfod.
13
Dyma yw tynged yr ynfyd,
a diwedd y rhai sy'n cymeradwyo eu geiriau.
14
Fel defaid y tynghedir hwy i Sheol;
angau fydd yn eu bugeilio;
disgynnant yn syth i'r bedd,
a bydd eu ffurf yn darfod;
Sheol fydd eu cartref.
15
Ond bydd Duw'n gwaredu fy mywyd
ac yn fy nghymryd o afael Sheol.
16
Paid ag ofni pan ddaw rhywun yn gyfoethog
a phan gynydda golud ei dŷ,
17
oherwydd ni chymer ddim pan fo'n marw,
ac nid â ei gyfoeth i lawr i'w ganlyn.
18
Er iddo yn ei fywyd ei ystyried ei hun yn ddedwydd,
a bod pobl yn ei ganmol am iddo wneud yn dda,
19
fe â at genhedlaeth ei hynafiaid,
ac ni wêl oleuni byth mwy.
20
Ni all neb aros mewn rhwysg;
y mae fel yr anifeiliaid sy'n darfod.
1
Salm. I Asaff. Duw y duwiau, yr ARGLWYDD, a lefarodd;2
O Seion, berffaith ei phrydferthwch,
y llewyrcha Duw.
3
Fe ddaw ein Duw, ac ni fydd ddistaw;
bydd tân yn ysu o'i flaen,
a thymestl fawr o'i gwmpas.
4
Y mae'n galw ar y nefoedd uchod,
ac ar y ddaear, er mwyn barnu ei bobl:
5
“Casglwch ataf fy ffyddloniaid,
a wnaeth gyfamod â mi trwy aberth.”
6
Bydd y nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder,
oherwydd Duw ei hun sydd farnwr.
7
“Gwrandewch, fy mhobl, a llefaraf;
dygaf dystiolaeth yn dy erbyn, O Israel;
myfi yw Duw, dy Dduw di.
8
Ni cheryddaf di am dy aberthau,
oherwydd y mae dy boethoffrymau'n wastad ger fy mron.
9
Ni chymeraf fustach o'th dŷ,
na bychod geifr o'th gorlannau;
10
oherwydd eiddof fi holl fwystfilod y goedwig,
a'r gwartheg ar fil o fryniau.
11
Yr wyf yn adnabod holl adar yr awyr ,
ac eiddof fi holl greaduriaid y maes.
12
Pe bawn yn newynu, ni ddywedwn wrthyt ti,
oherwydd eiddof fi'r byd a'r hyn sydd ynddo.
13
A fwytâf fi gig eich teirw,
neu yfed gwaed eich bychod geifr?
14
Rhowch i Dduw offrymau diolch,
a thalwch eich addunedau i'r Goruchaf.
15
Os gelwi arnaf yn nydd cyfyngder
fe'th waredaf, a byddi'n fy anrhydeddu.”
16
Ond wrth y drygionus fe ddywed Duw,
“Pa hawl sydd gennyt i adrodd fy neddfau,
ac i gymryd fy nghyfamod ar dy wefusau?
17
Yr wyt yn casáu disgyblaeth
ac yn bwrw fy ngeiriau o'th ôl.
18
Os gweli leidr, fe ei i'w ganlyn,
a bwrw dy goel gyda godinebwyr.
19
Y mae dy enau'n ymollwng i ddrygioni,
a'th dafod yn nyddu twyll.
20
Yr wyt yn parhau i dystio yn erbyn dy frawd,
ac yn enllibio mab dy fam.
21
Gwnaethost y pethau hyn, bûm innau ddistaw;
tybiaist dithau fy mod fel ti dy hun,
ond ceryddaf di, a dwyn achos yn dy erbyn.
22
“Ystyriwch hyn, chwi sy'n anghofio Duw,
rhag imi eich darnio heb neb i arbed.
23
Y sawl sy'n cyflwyno offrymau diolch sy'n fy anrhydeddu,
ac i'r sawl sy'n dilyn fy ffordd y dangosaf iachawdwriaeth Duw.”
1
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd, pan ddaeth y proffwyd Nathan ato wedi iddo fynd at Bathseba. Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb;2
golch fi'n lân o'm drygioni,
a glanha fi o'm pechod.
3
Oherwydd gwn am fy nhroseddau,
ac y mae fy mhechod yn wastad gyda mi.
4
Yn dy erbyn di, ti yn unig, y pechais
a gwneud yr hyn a ystyri'n ddrwg,
fel dy fod yn gyfiawn yn dy ddedfryd,
ac yn gywir yn dy farn.
5
Wele, mewn drygioni y'm ganwyd,
ac mewn pechod y beichiogodd fy mam.
6
Wele, yr wyt yn dymuno gwirionedd oddi mewn;
felly dysg imi ddoethineb yn y galon.
7
Pura fi ag isop fel y byddaf lân;
golch fi fel y byddaf wynnach nag eira.
8
Pâr imi glywed gorfoledd a llawenydd,
fel y bo i'r esgyrn a ddrylliaist lawenhau.
9
Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau,
a dilea fy holl euogrwydd.
10
Crea galon lân ynof, O Dduw,
rho ysbryd newydd cadarn ynof.
11
Paid â'm bwrw ymaith oddi wrthyt,
na chymryd dy ysbryd sanctaidd oddi arnaf.
12
Dyro imi eto orfoledd dy iachawdwriaeth,
a chynysgaedda fi ag ysbryd ufudd.
13
Dysgaf dy ffyrdd i droseddwyr,
fel y dychwelo'r pechaduriaid atat.
14
Gwared fi rhag gwaed, O Dduw,
Duw fy iachawdwriaeth,
ac fe gân fy nhafod am dy gyfiawnder.
15
Arglwydd, agor fy ngwefusau,
a bydd fy ngenau yn mynegi dy foliant.
16
Oherwydd nid wyt yn ymhyfrydu mewn aberth;
pe dygwn boethoffrymau, ni fyddit fodlon.
17
Aberthau Duw yw ysbryd drylliedig;
calon ddrylliedig a churiedig
ni ddirmygi, O Dduw.
18
Gwna ddaioni i Seion yn dy ras;
adeilada furiau Jerwsalem.
19
Yna fe ymhyfrydi mewn aberthau cywir—
poethoffrwm ac aberth llosg—
yna fe aberthir bustych ar dy allor.
1
I'r Cyfarwyddwr: Mascîl. I Ddafydd, pan ddaeth Doeg yr Edomiad a dweud wrth Saul fod Dafydd wedi dod i dŷ Ahimelech. O ŵr grymus, pam yr ymffrosti yn dy ddrygioni2
Yr wyt yn cynllwyn distryw;
y mae dy dafod fel ellyn miniog,
ti dwyllwr.
3
Yr wyt yn caru drygioni'n fwy na daioni,
a chelwydd yn fwy na dweud y gwir.
4
Yr wyt yn caru pob gair difaol
ac iaith dwyllodrus.
5
Bydd Duw'n dy dynnu i lawr am byth,
bydd yn dy gipio ac yn dy dynnu o'th babell,
ac yn dy ddadwreiddio o dir y byw.
6
Bydd y cyfiawn yn gweld ac yn ofni,
yn chwerthin am ei ben ac yn dweud,
7
“Dyma'r un na wnaeth Dduw yn noddfa,
ond a ymddiriedodd yn nigonedd ei drysorau,
a cheisio noddfa yn ei gyfoeth ei hun.”
8
Ond yr wyf fi fel olewydden iraidd yn nhŷ Dduw;
ymddiriedaf yn ffyddlondeb Duw byth bythoedd.
9
Diolchaf iti hyd byth am yr hyn a wnaethost;
cyhoeddaf dy enw—oherwydd da yw—ymysg dy ffyddloniaid.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar Mahalath. Mascîl. I Ddafydd. Dywed yr ynfyd yn ei galon,2
Edrychodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd
ar ddynolryw,
i weld a oes rhywun yn gwneud yn ddoeth
ac yn ceisio Duw.
3
Ond y mae pawb ar gyfeiliorn,
ac mor llygredig â'i gilydd;
nid oes un a wna ddaioni,
nac oes, dim un.
4
Oni ddarostyngir y gwneuthurwyr drygioni
sy'n llyncu fy mhobl fel llyncu bwyd,
ac sydd heb alw ar yr ARGLWYDD?
5
Yno y byddant mewn dychryn mawr,
dychryn na fu ei debyg.
Y mae Duw yn gwasgaru esgyrn yr annuwiol ;
daw cywilydd arnynt am i Dduw eu gwrthod.
6
O na ddôi gwaredigaeth i Israel o Seion!
Pan adfer yr ARGLWYDD lwyddiant i'w bobl,
fe lawenha Jacob, fe orfoledda Israel.
1
I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol. Mascîl. I Ddafydd, pan ddaeth y Siffiaid at Saul a dweud, “Y mae Dafydd yn cuddio yn ein mysg.” O Dduw, gwareda fi trwy dy enw,2
O Dduw, gwrando fy ngweddi,
rho glust i eiriau fy ngenau.
3
Oherwydd cododd gwŷr trahaus yn fy erbyn,
ac y mae gwŷr didostur yn ceisio fy mywyd;
nid ydynt yn meddwl am Dduw.
4
Wele, Duw yw fy nghynorthwywr,
fy Arglwydd yw cynhaliwr fy mywyd.
5
Bydded i ddrygioni ddychwelyd ar fy ngelynion!
Trwy dy wirionedd diddyma hwy.
6
Aberthaf yn ewyllysgar i ti;
clodforaf dy enw, O ARGLWYDD, oherwydd da yw;
7
oherwydd gwaredodd fi o bob cyfyngder,
a gwneud imi orfoleddu dros fy ngelynion.
1
I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol. Mascîl. I Ddafydd. Gwrando, O Dduw, ar fy ngweddi;2
Gwrando arnaf ac ateb fi;
yr wyf wedi fy llethu gan fy nghwyn.
3
Yr wyf bron â drysu gan sŵn y gelyn,
gan grochlefain y drygionus;
oherwydd pentyrrant ddrygioni arnaf,
ac ymosod arnaf yn eu llid.
4
Y mae fy nghalon mewn gwewyr,
a daeth ofn angau ar fy ngwarthaf.
5
Daeth arnaf ofn ac arswyd,
ac fe'm meddiannwyd gan ddychryn.
6
A dywedais, “O na fyddai gennyf adenydd colomen,
imi gael ehedeg ymaith a gorffwyso!
7
Yna byddwn yn crwydro ymhell
ac yn aros yn yr anialwch;
8
“brysiwn i gael cysgod
rhag y gwynt stormus a'r dymestl.”
9
O Dduw, cymysga a rhanna'u hiaith,
oherwydd gwelais drais a chynnen yn y ddinas;
10
ddydd a nos y maent yn ei hamgylchu ar y muriau,
ac y mae drygioni a thrybini o'i mewn,
11
dinistr yn ei chanol;
ac nid yw twyll a gorthrwm
yn ymadael o'i marchnadfa.
12
“Ond nid gelyn a'm gwawdiodd—
gallwn oddef hynny;
nid un o'm caseion a'm bychanodd—
gallwn guddio rhag hwnnw;
13
ond ti, fy nghydradd,
fy nghydymaith, fy nghydnabod—
14
buom mewn cyfeillach felys â'n gilydd
wrth gerdded gyda'r dyrfa yn nhŷ Dduw.
15
“Doed marwolaeth arnynt;
bydded iddynt fynd yn fyw i Sheol,
am fod drygioni'n cartrefu yn eu mysg.
16
Ond gwaeddaf fi ar Dduw,
a bydd yr ARGLWYDD yn fy achub.
17
Hwyr a bore a chanol dydd
fe gwynaf a griddfan,
a chlyw ef fy llais.
18
Gwareda fy mywyd yn ddiogel
o'r rhyfel yr wyf ynddo,
oherwydd y mae llawer i'm herbyn.
19
Gwrendy Duw a'u darostwng—
y mae ef wedi ei orseddu erioed—
20
“Estynnodd fy nghydymaith ei law yn erbyn ei gyfeillion,
torrodd ei gyfamod.
21
Yr oedd ei leferydd yn esmwythach na menyn,
ond yr oedd rhyfel yn ei galon;
yr oedd ei eiriau'n llyfnach nag olew,
ond yr oeddent yn gleddyfau noeth.
22
“Bwrw dy faich ar yr ARGLWYDD,
ac fe'th gynnal di;
ni ad i'r cyfiawn gael ei ysgwyd byth.
23
Ti, O Dduw, a'u bwria i'r pwll isaf—
rhai gwaedlyd a thwyllodrus—
ni chânt fyw hanner eu dyddiau.
Ond ymddiriedaf fi ynot ti.”
1
I'r Cyfarwyddwr: ar Golomen y Derw Pell. Michtam. I Ddafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath. Bydd drugarog wrthyf, O Dduw,2
y mae fy ngelynion yn gwasgu arnaf drwy'r dydd,
a llawer yw'r rhai sy'n ymladd yn f'erbyn.
3
Cod fi i fyny yn nydd fy ofn;
yr wyf yn ymddiried ynot ti.
4
Yn Nuw, yr un y molaf ei air,
yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni;
beth a all pobl ei wneud imi?
5
Trwy'r dydd y maent yn ystumio fy ngeiriau,
ac y mae eu holl fwriadau i'm drygu.
6
Ymgasglant at ei gilydd a llechu,
ac y maent yn gwylio fy nghamre.
7
Fel y disgwyliant am fy mywyd,
tâl iddynt am eu trosedd;
yn dy ddig, O Dduw, darostwng bobloedd.
8
Yr wyt ti wedi cofnodi fy ocheneidiau,
ac wedi costrelu fy nagrau—
onid ydynt yn dy lyfr?
9
Yna troir fy ngelynion yn eu hôl
yn y dydd y galwaf arnat.
Hyn a wn: fod Duw o'm tu.
10
Yn Nuw, yr un y molaf ei air,
yn yr ARGLWYDD, y molaf ei air,
11
yn Nuw yr wyf yn ymddiried heb ofni;
beth a all pobl ei wneud imi?
12
Gwneuthum addunedau i ti, O Dduw;
fe'u talaf i ti ag offrymau diolch.
13
Oherwydd gwaredaist fy mywyd rhag angau,
a'm camau, yn wir, rhag llithro,
er mwyn imi rodio gerbron Duw
yng ngoleuni'r bywyd.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. Michtam. I Ddafydd, pan ddihangodd rhag Saul yn yr ogof. Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, bydd drugarog wrthyf,2
Galwaf ar y Duw Goruchaf,
ar y Duw sy'n gweithredu drosof.
3
Bydd yn anfon o'r nefoedd i'm gwaredu;
bydd yn cywilyddio'r rhai sy'n gwasgu arnaf;
4
Yr wyf yn byw yng nghanol llewod,
rhai sy'n traflyncu pobl,
a'u dannedd yn bicellau a saethau,
a'u tafod yn gleddyf miniog.
5
Ymddyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw,
a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.
6
Y maent wedi gosod rhwyd i'm traed,
ac wedi darostwng fy mywyd;
y maent wedi cloddio pwll ar fy nghyfer,
ond hwy eu hunain fydd yn syrthio iddo.
7
Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw,
y mae fy nghalon yn gadarn;
fe ganaf a rhoi mawl.
8
Deffro, fy enaid,
deffro di, nabl a thelyn.
Fe ddeffroaf ar doriad gwawr.
9
Rhof ddiolch i ti, O Arglwydd, ymysg y bobloedd,
a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd,
10
oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd,
a'th wirionedd hyd y cymylau.
11
Ymddyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw,
a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. I Ddafydd. Michtam. Chwi gedyrn , a ydych mewn difri'n dedfrydu'n gyfiawn?2
Na! Yr ydych â'ch calonnau'n dyfeisio drygioni,
ac â'ch dwylo'n gwasgaru trais dros y ddaear.
3
Y mae'r drygionus yn wrthryfelgar o'r groth,
a'r rhai sy'n llefaru celwydd yn cyfeiliorni o'r bru.
4
Y mae eu gwenwyn fel gwenwyn sarff,
fel asb fyddar sy'n cau ei chlustiau,
5
a heb wrando ar sain y swynwr
sy'n taenu ei hudoliaeth ryfedd.
6
O Dduw, dryllia'r dannedd yn eu genau,
diwreiddia gilddannedd y llewod, O ARGLWYDD.
7
Bydded iddynt ddiflannu fel dŵr a mynd ymaith,
a chrino fel gwellt a sethrir;
8
byddant fel erthyl sy'n diflannu,
ac fel marw-anedig na wêl olau dydd.
9
Cyn iddynt wybod bydd yn eu diwreiddio ;
yn ei ddig bydd yn eu sgubo ymaith fel chwyn.
10
Bydd y cyfiawn yn llawenhau am iddo weld dialedd,
ac yn golchi ei draed yng ngwaed y drygionus.
11
A dywed pobl, “Yn ddios y mae gwobr i'r cyfiawn;
oes, y mae Duw sy'n gwneud barn ar y ddaear.”
1
I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. Michtam. I Ddafydd, pan anfonodd Saul rai i wylio ei gartref er mwyn ei ladd. Gwared fi oddi wrth fy ngelynion, O fy Nuw;2
Gwared fi oddi wrth wneuthurwyr drygioni,
ac achub fi rhag rhai gwaedlyd.
3
Oherwydd wele, gosodant gynllwyn am fy einioes;
y mae rhai cryfion yn ymosod arnaf.
Heb fod trosedd na phechod ynof fi, ARGLWYDD,
4
heb fod drygioni ynof fi, rhedant i baratoi i'm herbyn.
Cyfod, tyrd ataf ac edrych.
5
Ti, ARGLWYDD Dduw y lluoedd, yw Duw Israel;
deffro a chosba'r holl genhedloedd;
paid â thrugarhau wrth y drygionus dichellgar.
6
Dychwelant gyda'r nos, yn cyfarth fel cŵn
ac yn prowla trwy'r ddinas.
7
Wele, y mae eu genau'n glafoerio,
y mae cleddyf rhwng eu gweflau.
“Pwy,” meddant, “sy'n clywed?”
8
Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn chwerthin am eu pennau
ac yn gwawdio'r holl genhedloedd.
9
O fy Nerth , disgwyliaf wrthyt,
oherwydd Duw yw f'amddiffynfa.
10
Bydd fy Nuw trugarog yn sefyll o'm plaid;
O Dduw, rho imi orfoleddu dros fy ngelynion.
11
Paid â'u lladd rhag i'm pobl anghofio;
gwasgar hwy â'th nerth a darostwng hwy,
O Arglwydd, ein tarian.
12
Am bechod eu genau a gair eu gwefusau,
dalier hwy gan eu balchder eu hunain.
Am y melltithion a'r celwyddau a lefarant,
13
difa hwy yn dy lid, difa hwy'n llwyr,
fel y bydd yn wybyddus hyd derfynau'r ddaear
mai Duw sy'n llywodraethu yn Jacob.
14
Dychwelant gyda'r nos, yn cyfarth fel cŵn
ac yn prowla trwy'r ddinas.
15
Crwydrant gan chwilio am fwyd,
a grwgnach onis digonir.
16
Ond canaf fi am dy nerth,
a gorfoleddu yn y bore am dy ffyddlondeb;
oherwydd buost yn amddiffynfa i mi
ac yn noddfa yn nydd fy nghyfyngder.
17
O fy Nerth, canaf fawl i ti,
oherwydd Duw yw f'amddiffynfa,
fy Nuw trugarog.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar Susan Eduth. Michtam, i hyfforddi. I Ddafydd, pan oedd yn ymladd yn erbyn Aram-naharaim ac Aram-soba, a Joab yn dychwelyd ac yn lladd deuddeng mil o Edom yn Nyffryn yr Halen. O Dduw, gwrthodaist ni a'n bylchu;2
Gwnaethost i'r ddaear grynu ac fe'i holltaist;
trwsia ei rhwygiadau, oherwydd y mae'n gwegian.
3
Gwnaethost i'th bobl yfed peth chwerw,
a rhoist inni win a'n gwna'n simsan.
4
Rhoist faner i'r rhai sy'n dy ofni,
iddynt ffoi ati rhag y bwa.
5
Er mwyn gwaredu dy anwyliaid,
achub â'th ddeheulaw, ac ateb ni.
6
Llefarodd Duw yn ei gysegr,
“Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem
7
a mesur dyffryn Succoth yn rhannau;
eiddof fi yw Gilead a Manasse,
Effraim yw fy helm,
a Jwda yw fy nheyrnwialen;
8
Moab yw fy nysgl ymolchi,
ac at Edom y taflaf fy esgid;
ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf.”
9
Pwy a'm dwg i'r ddinas gaerog?
Pwy a'm harwain i Edom?
10
Onid ti, O Dduw, er iti'n gwrthod,
a pheidio â mynd allan gyda'n byddinoedd?
11
Rho inni gymorth rhag y gelyn,
oherwydd ofer yw ymwared dynol.
12
Gyda Duw fe wnawn wrhydri;
ef fydd yn sathru ein gelynion.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar offerynnau llinynnol. I Ddafydd. Clyw fy nghri, O Dduw,2
o eithaf y ddaear yr wyf yn galw arnat,
pan yw fy nghalon ar suddo.
Arwain fi at graig sy'n uwch na mi;
3
oherwydd buost ti'n gysgod imi,
yn dŵr cadarn rhag y gelyn.
4
Gad imi aros yn dy babell am byth,
a llochesu dan gysgod dy adenydd.
5
Oherwydd clywaist ti, O Dduw, fy addunedau,
a gwnaethost ddymuniad y rhai sy'n ofni dy enw.
6
Estyn ddyddiau lawer at oes y brenin,
a bydded ei flynyddoedd fel cenedlaethau;
7
bydded wedi ei orseddu gerbron Duw am byth;
bydded cariad a gwirionedd yn gwylio drosto.
8
Felly y canmolaf dy enw byth,
a thalu fy addunedau ddydd ar ôl dydd.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar Jeduthun. Salm. I Ddafydd. Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid;2
Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth,
fy amddiffynfa, fel na'm symudir.
3
Am ba hyd yr ymosodwch ar ddyn,
bob un ohonoch, a'i falurio,
fel mur wedi gogwyddo
a chlawdd ar syrthio?
4
Yn wir, cynlluniant i'w dynnu i lawr o'i safle,
ac y maent yn ymhyfrydu mewn twyll;
y maent yn bendithio â'u genau,
ond ynddynt eu hunain yn melltithio.
5
Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid;
oddi wrtho ef y daw fy ngobaith.
6
Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth,
fy amddiffynfa, fel na'm symudir.
7
Ar Dduw y dibynna fy ngwaredigaeth a'm hanrhydedd;
fy nghraig gadarn, fy noddfa yw Duw.
8
Ymddiriedwch ynddo bob amser, O bobl,
tywalltwch allan eich calon iddo;
Duw yw ein noddfa.
9
Yn wir, nid yw gwrêng ond anadl,
nid yw bonedd ond rhith;
pan roddir hwy mewn clorian, codant—
y maent i gyd yn ysgafnach nag anadl.
10
Peidiwch ag ymddiried mewn gormes,
na gobeithio'n ofer mewn lladrad;
er i gyfoeth amlhau,
peidiwch â gosod eich bryd arno.
11
Unwaith y llefarodd Duw,
dwywaith y clywais hyn:
I Dduw y perthyn nerth,
12
i ti, O Arglwydd, y perthyn ffyddlondeb;
yr wyt yn talu i bob un yn ôl ei weithredoedd.
1
Salm. I Ddafydd, pan oedd yn anialwch Jwda. O Dduw, ti yw fy Nuw, fe'th geisiaf di;2
Fel hyn y syllais arnat yn y cysegr,
a gweld dy rym a'th ogoniant.
3
Y mae dy ffyddlondeb yn well na bywyd;
am hynny bydd fy ngwefusau'n dy foliannu.
4
Fel hyn y byddaf yn dy fendithio trwy fy oes,
ac yn codi fy nwylo mewn gweddi yn dy enw.
5
Caf fy nigoni, fel pe ar fêr a braster,
a moliannaf di â gwefusau llawen.
6
Pan gofiaf di ar fy ngwely,
a myfyrio amdanat yng ngwyliadwriaethau'r nos—
7
fel y buost yn gymorth imi,
ac fel yr arhosais yng nghysgod dy adenydd—
8
bydd fy enaid yn glynu wrthyt;
a bydd dy ddeheulaw yn fy nghynnal.
9
Ond am y rhai sy'n ceisio difetha fy mywyd,
byddant hwy'n suddo i ddyfnderau'r ddaear;
10
fe'u tynghedir i fin y cleddyf,
a byddant yn ysglyfaeth i lwynogod.
11
Ond bydd y brenin yn llawenhau yn Nuw,
a bydd pawb sy'n tyngu iddo ef yn gorfoleddu,
oherwydd caeir safnau'r rhai celwyddog.
1
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd. Clyw fy llais, O Dduw, wrth imi gwyno;2
cuddia fi rhag cynllwyn rhai drygionus
a rhag dichell gwneuthurwyr drygioni—
3
rhai sy'n hogi eu tafod fel cleddyf,
ac yn anelu eu geiriau chwerw fel saethau,
4
i saethu'r dieuog o'r dirgel,
i saethu'n sydyn a di-ofn.
5
Y maent yn glynu wrth eu bwriad drwg,
ac yn sôn am osod maglau o'r golwg,
a dweud, “Pwy all ein gweld?”
6
Y maent yn dyfeisio drygioni,
ac yn cuddio'u dyfeisiadau;
y mae'r galon a'r meddwl dynol yn ddwfn!
7
Ond bydd Duw'n eu saethu â'i saeth;
yn sydyn y daw eu cwymp.
8
Bydd yn eu dymchwel oherwydd eu tafod,
a bydd pawb sy'n eu gweld yn ysgwyd eu pennau.
9
Daw ofn ar bawb,
a byddant yn adrodd am waith Duw,
ac yn deall yr hyn a wnaeth.
10
Bydded i'r cyfiawn lawenhau yn yr ARGLWYDD,
a llochesu ynddo,
a bydded i'r holl rai uniawn orfoleddu.
1
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd. Cân. Mawl sy'n ddyledus i ti, O Dduw, yn Seion;2
ac i ti, sy'n gwrando gweddi, y telir adduned.
3
Atat ti y daw pob un â'i gyffes o bechod:
“Y mae ein troseddau'n drech na ni,
ond yr wyt ti'n eu maddau.”
4
Gwyn ei fyd y sawl a ddewisi ac a ddygi'n agos,
iddo gael preswylio yn dy gynteddau;
digoner ninnau â daioni dy dŷ,
dy deml sanctaidd.
5
Mewn gweithredoedd ofnadwy yr atebi ni â buddugoliaeth,
O Dduw ein hiachawdwriaeth;
ynot yr ymddiried holl gyrion y ddaear
a phellafoedd y môr;
6
gosodi'r mynyddoedd yn eu lle â'th nerth,
yr wyt wedi dy wregysu â chryfder;
7
yr wyt yn tawelu rhu'r moroedd,
rhu eu tonnau,
a therfysg pobloedd.
8
Y mae trigolion cyrion y byd
yn ofni dy arwyddion;
gwnei i diroedd bore a hwyr lawenhau.
9
Rwyt yn gofalu am y ddaear ac yn ei dyfrhau,
gwnaethost hi'n doreithiog iawn;
y mae afon Duw'n llawn o ddŵr;
darperaist iddynt ŷd.
Fel hyn yr wyt yn trefnu ar ei chyfer:
10
dyfrhau ei rhychau, gwastatáu ei chefnau,
ei mwydo â chawodydd a bendithio'i chnwd.
11
Yr wyt yn coroni'r flwyddyn â'th ddaioni,
ac y mae dy lwybrau'n diferu gan fraster.
12
Y mae porfeydd yr anialdir yn diferu,
a'r bryniau wedi eu gwregysu â llawenydd;
13
y mae'r dolydd wedi eu gwisgo â defaid,
a'r dyffrynnoedd wedi eu gorchuddio ag ŷd.
Y maent yn bloeddio ac yn gorfoleddu.
1
I'r Cyfarwyddwr: Cân. Salm. Bloeddiwch mewn gorfoledd i Dduw, yr holl ddaear;2
canwch i ogoniant ei enw;
rhowch iddo foliant gogoneddus.
3
Dywedwch wrth Dduw, “Mor ofnadwy yw dy weithredoedd!
Gan faint dy nerth ymgreinia dy elynion o'th flaen;
4
y mae'r holl ddaear yn ymgrymu o'th flaen,
ac yn canu mawl i ti,
yn canu mawl i'th enw.”
5
Dewch i weld yr hyn a wnaeth Duw—
y mae'n ofnadwy yn ei weithredoedd tuag at bobl—
6
trodd y môr yn sychdir,
aethant ar droed trwy'r afon;
yno y llawenychwn ynddo.
7
Y mae ef yn llywodraethu â'i nerth am byth,
a'i lygaid yn gwylio dros y cenhedloedd;
na fydded i'r gwrthryfelwyr godi yn ei erbyn!
8
Bendithiwch ein Duw, O bobloedd,
a seiniwch ei fawl yn glywadwy.
9
Ef a roes le i ni ymysg y byw,
ac ni adawodd i'n troed lithro.
10
Oherwydd buost yn ein profi, O Dduw,
ac yn ein coethi fel arian.
11
Dygaist ni i'r rhwyd,
rhoist rwymau amdanom,
12
gadewaist i ddynion farchogaeth dros ein pennau,
aethom trwy dân a dyfroedd;
ond dygaist ni allan i ryddid .
13
Dof i'th deml â phoethoffrymau,
talaf i ti fy addunedau,
14
a wneuthum â'm gwefusau
ac a lefarodd fy ngenau pan oedd yn gyfyng arnaf.
15
Aberthaf i ti basgedigion yn boethoffrymau,
a hefyd hyrddod yn arogldarth;
darparaf ychen a bychod geifr.
16
Dewch i wrando, chwi oll sy'n ofni Duw,
ac adroddaf yr hyn a wnaeth Duw i mi.
17
Gwaeddais arno â'm genau,
ac yr oedd moliant ar fy nhafod.
18
Pe bawn wedi coleddu drygioni yn fy nghalon,
ni fuasai'r Arglwydd wedi gwrando;
19
ond yn wir, gwrandawodd Duw,
a rhoes sylw i lef fy ngweddi.
20
Bendigedig fyddo Duw
am na throdd fy ngweddi oddi wrtho,
na'i ffyddlondeb oddi wrthyf.
1
I'r Cyfarwyddwr: ag offerynnau llinynnol. Salm. Cân. Bydded Duw yn drugarog wrthym a'n bendithio,2
er mwyn i'w ffyrdd fod yn wybyddus ar y ddaear,
a'i waredigaeth ymysg yr holl genhedloedd.
3
Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw,
bydded i'r holl bobloedd dy foli di.
4
Bydded i'r cenhedloedd lawenhau a gorfoleddu,
oherwydd yr wyt ti'n barnu pobloedd yn gywir,
ac yn arwain cenhedloedd ar y ddaear.
5
Bydded i'r bobloedd dy foli, O Dduw,
bydded i'r holl bobloedd dy foli di.
6
Rhoes y ddaear ei chnwd;
Duw, ein Duw ni, a'n bendithiodd.
7
Bendithiodd Duw ni;
bydded holl gyrrau'r ddaear yn ei ofni.
1
I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm. Cân. Bydded i Dduw godi, ac i'w elynion wasgaru,2
Fel y chwelir mwg, chwâl hwy;
fel cwyr yn toddi o flaen tân,
bydded i'r drygionus ddarfod o flaen Duw.
3
Ond y mae'r cyfiawn yn llawenhau;
y maent yn gorfoleddu gerbron Duw
ac yn ymhyfrydu mewn llawenydd.
4
Canwch i Dduw, molwch ei enw,
paratowch ffordd i'r un sy'n marchogaeth trwy'r anialdir;
yr ARGLWYDD yw ei enw, gorfoleddwch o'i flaen.
5
Tad yr amddifaid ac amddiffynnydd y gweddwon
yw Duw yn ei drigfan sanctaidd.
6
Mae Duw yn gosod yr unig mewn cartref,
ac yn arwain allan garcharorion mewn llawenydd;
ond y mae'r gwrthryfelwyr yn byw mewn diffeithwch.
7
O Dduw, pan aethost ti allan o flaen dy bobl,
a gorymdeithio ar draws yr anialwch,
8
crynodd y ddaear a glawiodd y nefoedd
o flaen Duw, Duw Sinai,
o flaen Duw, Duw Israel.
9
Tywelltaist ddigonedd o law, O Dduw,
ac adfer dy etifeddiaeth pan oedd ar ddiffygio;
10
cafodd dy braidd le i fyw ynddi,
ac yn dy ddaioni darperaist i'r anghenus, O Dduw.
11
Y mae'r Arglwydd yn datgan y gair,
ac y mae llu mawr yn cyhoeddi'r newydd da
12
fod brenhinoedd y byddinoedd yn ffoi ar frys;
y mae'r merched gartref yn rhannu ysbail—
13
er eu bod wedi aros ymysg y corlannau—
y mae adenydd colomen wedi eu gorchuddio ag arian,
a'i hesgyll yn aur melyn.
14
Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd yno,
yr oedd yn eira ar Fynydd Salmon.
15
Mynydd cadarn yw Mynydd Basan,
mynydd o gopaon yw Mynydd Basan.
16
O fynydd y copaon, pam yr edrychi'n eiddigeddus
ar y mynydd lle dewisodd Duw drigo,
lle bydd yr ARGLWYDD yn trigo am byth?
17
Yr oedd cerbydau Duw yn ugain mil,
yn filoedd ar filoedd,
pan ddaeth yr Arglwydd o Sinai mewn sancteiddrwydd.
18
Aethost i fyny i'r uchelder gyda chaethion ar dy ôl,
a derbyniaist anrhegion gan bobl,
hyd yn oed gwrthryfelwyr,
er mwyn i'r ARGLWYDD Dduw drigo yno.
19
Bendigedig yw'r Arglwydd,
sy'n ein cario ddydd ar ôl dydd;
Duw yw ein hiachawdwriaeth.
20
Duw sy'n gwaredu yw ein Duw ni;
gan yr ARGLWYDD Dduw y mae dihangfa rhag marwolaeth.
21
Yn wir, bydd Duw'n dryllio pennau ei elynion,
pob copa gwalltog, pob un sy'n rhodio mewn euogrwydd.
22
Dywedodd yr Arglwydd, “Dof â hwy'n ôl o Basan,
dof â hwy'n ôl o waelodion y môr,
23
er mwyn iti drochi dy droed mewn gwaed,
ac i dafodau dy gŵn gael eu cyfran o'r gelynion.”
24
Gwelir dy orymdeithiau, O Dduw,
gorymdeithiau fy Nuw, fy Mrenin, i'r cysegr—
25
y cantorion ar y blaen a'r offerynwyr yn dilyn,
a rhyngddynt forynion yn canu tympanau.
26
Yn y gynulleidfa y maent yn bendithio Duw,
a'r ARGLWYDD yng nghynulliad Israel.
27
Yno y mae Benjamin fychan yn eu harwain,
a thyrfa tywysogion Jwda,
tywysogion Sabulon a thywysogion Nafftali.
28
O Dduw, dangos dy rym,
y grym, O Dduw, y buost yn ei weithredu drosom.
29
O achos dy deml yn Jerwsalem
daw brenhinoedd ag anrhegion i ti.
30
Cerydda anifeiliaid gwyllt y corsydd,
y gyr o deirw gyda'u lloi o bobl;
sathra i lawr y rhai sy'n dyheu am arian,
gwasgara'r bobl sy'n ymhyfrydu mewn rhyfel.
31
Bydded iddynt ddod â phres o'r Aifft;
brysied Ethiopia i estyn ei dwylo at Dduw.
32
Canwch i Dduw, deyrnasoedd y ddaear;
rhowch foliant i'r Arglwydd,
33
i'r un sy'n marchogaeth yn y nefoedd, y nefoedd a fu erioed.
Clywch! Y mae'n llefaru â'i lais nerthol.
34
Cydnabyddwch nerth Duw;
y mae ei ogoniant uwchben Israel
a'i rym yn y ffurfafen.
35
Y mae Duw yn arswydus yn ei gysegr;
y mae Duw Israel yn rhoi ynni a nerth i'w bobl.
Bendigedig fyddo Duw.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar Lilïau. I Ddafydd. Gwareda fi, O Dduw,2
Yr wyf yn suddo mewn llaid dwfn,
a heb le i sefyll arno;
yr wyf wedi mynd i ddyfroedd dyfnion,
ac y mae'r llifogydd yn fy sgubo ymaith.
3
Yr wyf wedi diffygio'n gweiddi, a'm gwddw'n sych;
y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am fy Nuw.
4
Mwy niferus na gwallt fy mhen
yw'r rhai sy'n fy nghasáu heb achos;
lluosocach na'm hesgyrn
yw fy ngelynion twyllodrus.
Sut y dychwelaf yr hyn nas cymerais?
5
O Dduw, gwyddost ti fy ffolineb,
ac nid yw fy nhroseddau'n guddiedig oddi wrthyt.
6
Na fydded i'r rhai sy'n gobeithio ynot gael eu cywilyddio o'm plegid,
O Arglwydd DDUW y Lluoedd,
nac i'r rhai sy'n dy geisio gael eu gwaradwyddo o'm hachos,
O Dduw Israel.
7
Oherwydd er dy fwyn di y dygais warth,
ac y mae fy wyneb wedi ei orchuddio â chywilydd.
8
Euthum yn ddieithryn i'm brodyr,
ac yn estron i blant fy mam.
9
Y mae sêl dy dŷ di wedi fy ysu,
a daeth gwaradwydd y rhai sy'n dy waradwyddo di arnaf finnau.
10
Pan wylaf wrth ymprydio,
fe'i hystyrir yn waradwydd i mi;
11
pan wisgaf sachliain amdanaf,
fe'm gwneir yn ddihareb iddynt.
12
Y mae'r rhai sy'n eistedd wrth y porth yn siarad amdanaf,
ac yr wyf yn destun i watwar y meddwon.
13
Ond daw fy ngweddi i atat, O ARGLWYDD.
Ar yr amser priodol, O Dduw,
ateb fi yn dy gariad mawr
gyda'th waredigaeth sicr.
14
Gwared fi o'r llaid rhag imi suddo,
achuber fi o'r mwd ac o'r dyfroedd dyfnion.
15
Na fydded i'r llifogydd fy sgubo ymaith,
na'r dyfnder fy llyncu,
na'r pwll gau ei safn amdanaf.
16
Ateb fi, ARGLWYDD, oherwydd da yw dy gariad;
yn dy drugaredd mawr, tro ataf.
17
Paid â chuddio dy wyneb oddi wrth dy was;
y mae'n gyfyng arnaf, brysia i'm hateb.
18
Tyrd yn nes ataf i'm gwaredu;
rhyddha fi o achos fy ngelynion.
19
Fe wyddost ti fy ngwaradwydd,
fy ngwarth a'm cywilydd;
yr wyt yn gyfarwydd â'm holl elynion.
20
Y mae gwarth wedi torri fy nghalon,
ac yr wyf mewn anobaith;
disgwyliais am dosturi, ond heb ei gael,
ac am rai i'm cysuro, ond nis cefais.
21
Rhoesant wenwyn yn fy mwyd,
a gwneud imi yfed finegr at fy syched.
22
Bydded eu bwrdd eu hunain yn rhwyd iddynt,
yn fagl i'w cyfeillion.
23
Tywyller eu llygaid rhag iddynt weld,
a gwna i'w cluniau grynu'n barhaus.
24
Tywallt dy ddicter arnynt,
a doed dy lid mawr ar eu gwarthaf.
25
Bydded eu gwersyll yn anghyfannedd,
heb neb yn byw yn eu pebyll,
26
oherwydd erlidiant yr un a drewaist ti,
a lluosogant friwiau'r rhai a archollaist.
27
Rho iddynt gosb ar ben cosb;
na chyfiawnhaer hwy gennyt ti.
28
Dileer hwy o lyfr y rhai byw,
ac na restrer hwy gyda'r cyfiawn.
29
Yr wyf fi mewn gofid a phoen;
trwy dy waredigaeth, O Dduw, cod fi i fyny.
30
Moliannaf enw Duw ar gân,
mawrygaf ef â diolchgarwch.
31
Bydd hyn yn well gan yr ARGLWYDD nag ych,
neu fustach ifanc â chyrn a charnau.
32
Bydded i'r darostyngedig weld hyn a llawenhau;
chwi sy'n ceisio Duw, bydded i'ch calonnau adfywio;
33
oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gwrando'r anghenus,
ac nid yw'n diystyru ei eiddo sy'n gaethion.
34
Bydded i'r nefoedd a'r ddaear ei foliannu,
y môr hefyd a phopeth byw sydd ynddo.
35
Oherwydd bydd Duw yn gwaredu Seion,
ac yn ailadeiladu dinasoedd Jwda;
byddant yn byw yno ac yn ei meddiannu,
36
bydd plant ei weision yn ei hetifeddu,
a'r rhai sy'n caru ei enw'n byw yno.
1
I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd, er coffadwriaeth. Bydd fodlon i'm gwaredu, O Dduw;2
Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd,
ar y rhai sy'n ceisio fy mywyd;
bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imi
gael eu troi yn eu holau mewn dryswch.
3
Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, “Aha! Aha!” arnaf
droi yn eu holau o achos eu gwaradwydd.
4
Ond bydded i bawb sy'n dy geisio di
lawenhau a gorfoleddu ynot;
bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaeth
ddweud yn wastad, “Mawr yw Duw.”
5
Un tlawd ac anghenus wyf fi;
O Dduw, brysia ataf.
Ti yw fy nghymorth a'm gwaredydd;
O ARGLWYDD, paid ag oedi.
1
Ynot ti, ARGLWYDD, y ceisiais loches;2
Yn dy gyfiawnder gwared ac achub fi,
tro dy glust ataf ac arbed fi.
3
Bydd yn graig noddfa i mi,
yn amddiffynfa i'm cadw,
oherwydd ti yw fy nghraig a'm hamddiffynfa.
4
O fy Nuw, gwared fi o law'r drygionus,
o afael yr anghyfiawn a'r creulon.
5
Oherwydd ti, Arglwydd, yw fy ngobaith,
fy ymddiriedaeth o'm hieuenctid, O ARGLWYDD.
6
Arnat ti y bûm yn pwyso o'm genedigaeth;
ti a'm tynnodd allan o groth fy mam.
Amdanat ti y bydd fy mawl yn wastad.
7
Bûm fel pe'n rhybudd i lawer;
ond ti yw fy noddfa gadarn.
8
Y mae fy ngenau'n llawn o'th foliant
ac o'th ogoniant bob amser.
9
Paid â'm bwrw ymaith yn amser henaint;
paid â'm gadael pan fydd fy nerth yn pallu.
10
Oherwydd y mae fy ngelynion yn siarad amdanaf,
a'r rhai sy'n gwylio am fy einioes yn trafod gyda'i gilydd,
11
ac yn dweud, “Y mae Duw wedi ei adael;
ewch ar ei ôl a'i ddal, oherwydd nid oes gwaredydd.”
12
O Dduw, paid â phellhau oddi wrthyf;
O fy Nuw, brysia i'm cynorthwyo.
13
Doed cywilydd a gwarth ar fy ngwrthwynebwyr,
a gwaradwydd yn orchudd dros y rhai sy'n ceisio fy nrygu.
14
Ond byddaf fi'n disgwyl yn wastad,
ac yn dy foli'n fwy ac yn fwy.
15
Bydd fy ngenau'n mynegi dy gyfiawnder
a'th weithredoedd achubol trwy'r amser,
oherwydd ni wn eu nifer.
16
Dechreuaf gyda'r gweithredoedd grymus, O Arglwydd DDUW;
soniaf am dy gyfiawnder di yn unig.
17
O Dduw, dysgaist fi o'm hieuenctid,
ac yr wyf yn dal i gyhoeddi dy ryfeddodau;
18
a hyd yn oed pan wyf yn hen a phenwyn,
O Dduw, paid â'm gadael,
nes imi fynegi dy rym
i'r cenedlaethau sy'n codi.
19
Y mae dy gryfder a'th gyfiawnder, O Dduw,
yn cyrraedd i'r uchelder,
oherwydd iti wneud pethau mawr.
O Dduw, pwy sydd fel tydi?
20
Ti, a wnaeth imi weld cyfyngderau mawr a chwerw,
fydd yn fy adfywio drachefn;
ac o ddyfnderau'r ddaear
fe'm dygi i fyny unwaith eto.
21
Byddi'n ychwanegu at fy anrhydedd,
ac yn troi i'm cysuro.
22
Byddaf finnau'n dy foliannu â'r nabl
am dy ffyddlondeb, O fy Nuw;
byddaf yn canu i ti â'r delyn,
O Sanct Israel.
23
Bydd fy ngwefusau'n gweiddi'n llawen—
oherwydd canaf i ti—
a hefyd yr enaid a waredaist.
24
Bydd fy nhafod beunydd
yn sôn am dy gyfiawnder;
oherwydd daeth cywilydd a gwaradwydd
ar y rhai a fu'n ceisio fy nrygu.
1
I Solomon. O Dduw, rho dy farnedigaeth i'r brenin,2
Bydded iddo farnu dy bobl yn gyfiawn,
a'th rai anghenus yn gywir.
3
Doed y mynyddoedd â heddwch i'r bobl,
a'r bryniau â chyfiawnder.
4
Bydded iddo amddiffyn achos tlodion y bobl,
a gwaredu'r rhai anghenus,
a dryllio'r gorthrymwr.
5
Bydded iddo fyw tra bo haul
a chyhyd â'r lleuad, o genhedlaeth i genhedlaeth.
6
Bydded fel glaw yn disgyn ar gnwd,
ac fel cawodydd yn dyfrhau'r ddaear.
7
Bydded cyfiawnder yn llwyddo yn ei ddyddiau,
a heddwch yn ffynnu tra bo lleuad.
8
Bydded iddo lywodraethu o fôr i fôr,
ac o'r Ewffrates hyd derfynau'r ddaear.
9
Bydded i'w wrthwynebwyr blygu o'i flaen,
ac i'w elynion lyfu'r llwch.
10
Bydded i frenhinoedd Tarsis a'r ynysoedd
ddod ag anrhegion iddo,
ac i frenhinoedd Sheba a Seba
gyflwyno eu teyrnged.
11
Bydded i'r holl frenhinoedd ymostwng o'i flaen,
ac i'r holl genhedloedd ei wasanaethu.
12
Oherwydd y mae'n gwaredu'r anghenus pan lefa,
a'r tlawd pan yw heb gynorthwywr.
13
Y mae'n tosturio wrth y gwan a'r anghenus,
ac yn gwaredu bywyd y tlodion.
14
Y mae'n achub eu bywyd rhag trais a gorthrwm,
ac y mae eu gwaed yn werthfawr yn ei olwg.
15
Hir oes fo iddo,
a rhodder iddo aur o Sheba;
aed gweddi i fyny ar ei ran yn wastad,
a chaffed ei fendithio bob amser.
16
Bydded digonedd o ŷd yn y wlad,
yn tyfu hyd at bennau'r mynyddoedd;
a bydded ei gnwd yn cynyddu fel Lebanon,
a'i rawn fel gwellt y maes.
17
Bydded ei enw'n aros hyd byth,
ac yn para cyhyd â'r haul;
a'r holl genhedloedd yn cael bendith ynddo
ac yn ei alw'n fendigedig.
18
Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD , Duw Israel;
ef yn unig sy'n gwneud rhyfeddodau.
19
Bendigedig fyddo'i enw gogoneddus hyd byth,
a bydded yr holl ddaear yn llawn o'i ogoniant.
Amen ac Amen.
20
Diwedd gweddïau Dafydd fab Jesse.
1
Salm. I Asaff. Yn sicr, da yw Duw i'r uniawn ,2
Yr oedd fy nhraed bron â baglu,
a bu ond y dim i'm gwadnau lithro,
3
am fy mod yn cenfigennu wrth y trahaus
ac yn eiddigeddus o lwyddiant y drygionus.
4
Oherwydd nid oes ganddynt hwy ofidiau;
y mae eu cyrff yn iach a graenus.
5
Nid ydynt hwy mewn helynt fel pobl eraill,
ac nid ydynt hwy'n cael eu poenydio fel eraill.
6
Am hynny, y mae balchder yn gadwyn am eu gyddfau,
a thrais yn wisg amdanynt.
7
Y mae eu llygaid yn disgleirio o fraster,
a'u calonnau'n gorlifo o ffolineb.
8
Y maent yn gwawdio ac yn siarad yn ddichellgar,
yn sôn yn ffroenuchel am ormes.
9
Gosodant eu genau yn erbyn y nefoedd,
ac y mae eu tafod yn tramwyo'r ddaear.
10
Am hynny, y mae'r bobl yn troi atynt ,
ac ni chânt unrhyw fai ynddynt.
11
Dywedant, “Sut y mae Duw'n gwybod?
A oes gwybodaeth gan y Goruchaf?”
12
Edrych, dyma hwy y rhai drygionus—
bob amser mewn esmwythyd ac yn casglu cyfoeth.
13
Yn gwbl ofer y cedwais fy nghalon yn lân,
a golchi fy nwylo am fy mod yn ddieuog;
14
ar hyd y dydd yr wyf wedi fy mhoenydio,
ac fe'm cosbir bob bore.
15
Pe buaswn wedi dweud, “Fel hyn y siaradaf”,
buaswn wedi bradychu cenhedlaeth dy blant.
16
Ond pan geisiais ddeall hyn,
yr oedd yn rhy anodd i mi,
17
nes imi fynd i gysegr Duw;
yno y gwelais eu diwedd.
18
Yn sicr, yr wyt yn eu gosod ar fannau llithrig,
ac yn gwneud iddynt syrthio i ddistryw.
19
Fe ânt i ddinistr ar amrantiad,
fe'u cipir yn llwyr gan ddychrynfeydd.
20
Fel breuddwyd ar ôl ymysgwyd, y maent wedi mynd ;
wrth ddeffro fe'u diystyrir fel hunllef.
21
Pan oedd fy nghalon yn chwerw
a'm coluddion wedi eu trywanu,
22
yr oeddwn yn ddwl a diddeall,
ac yn ymddwyn fel anifail tuag atat.
23
Er hynny, yr wyf gyda thi bob amser;
yr wyt yn cydio yn fy neheulaw.
24
Yr wyt yn fy arwain â'th gyngor,
ac yna'n fy nerbyn mewn gogoniant.
25
Pwy sydd gennyf yn y nefoedd ond ti?
Ac nid wyf yn dymuno ond tydi ar y ddaear.
26
Er i'm calon a'm cnawd ballu,
eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth.
27
Yn wir, fe ddifethir y rhai sy'n bell oddi wrthyt,
a byddi'n dinistrio'r rhai sy'n anffyddlon i ti.
28
Ond da i mi yw bod yn agos at Dduw;
yr wyf wedi gwneud yr Arglwydd DDUW yn gysgod i mi,
er mwyn imi fynegi dy ryfeddodau.
1
Mascîl. I Asaff. Pam, Dduw, y bwriaist ni ymaith am byth?2
Cofia dy gynulleidfa a brynaist gynt,
y llwyth a waredaist yn etifeddiaeth iti,
a Mynydd Seion lle'r oeddit yn trigo.
3
Cyfeiria dy draed at yr adfeilion bythol;
dinistriodd y gelyn bopeth yn y cysegr.
4
Rhuodd dy elynion yng nghanol dy gysegr,
a gosod eu harwyddion eu hunain yn arwyddion yno.
5
Y maent wedi malurio , fel coedwigwyr
yn chwifio'u bwyeill mewn llwyn o goed.
6
Rhwygasant yr holl waith cerfiedig
a'i falu â bwyeill a morthwylion.
7
Rhoesant dy gysegr ar dân,
a halogi'n llwyr breswylfod dy enw.
8
Dywedasant ynddynt eu hunain, “Difodwn hwy i gyd”;
llosgasant holl gysegrau Duw trwy'r tir.
9
Ni welwn arwyddion i ni, nid oes proffwyd mwyach;
ac nid oes yn ein plith un a ŵyr am ba hyd.
10
Am ba hyd, O Dduw, y gwawdia'r gwrthwynebwr?
A yw'r gelyn i ddifrïo dy enw am byth?
11
Pam yr wyt yn atal dy law,
ac yn cuddio dy ddeheulaw yn dy fynwes ?
12
Ond ti, O Dduw, yw fy mrenin erioed,
yn gweithio iachawdwriaeth ar y ddaear.
13
Ti, â'th nerth, a rannodd y môr,
torraist bennau'r dreigiau yn y dyfroedd.
14
Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan,
a'i roi'n fwyd i fwystfilod y môr .
15
Ti a agorodd ffynhonnau ac afonydd, a sychu'r dyfroedd di-baid.
16
Eiddot ti yw dydd a nos,
ti a sefydlodd oleuni a haul.
17
Ti a osododd holl derfynau daear,
ti a drefnodd haf a gaeaf.
18
Cofia, O ARGLWYDD, fel y mae'r gelyn yn gwawdio,
a phobl ynfyd yn difrïo dy enw.
19
Paid â rhoi dy golomen i'r bwystfilod,
nac anghofio bywyd dy drueiniaid am byth.
20
Rho sylw i'th gyfamod,
oherwydd y mae cuddfannau'r ddaear yn llawn
ac yn gartref i drais.
21
Paid â gadael i'r gorthrymedig droi ymaith yn ddryslyd;
bydded i'r tlawd a'r anghenus glodfori dy enw.
22
Cyfod, O Dduw, i ddadlau dy achos;
cofia fel y mae'r ynfyd yn dy wawdio'n wastad.
23
Paid ag anghofio crechwen dy elynion,
a chrochlefain cynyddol dy wrthwynebwyr.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. Salm. I Asaff. Cân. Diolchwn i ti, O Dduw, diolchwn i ti;2
Manteisiaf ar yr amser penodedig,
ac yna barnaf yn gywir.
3
Pan fo'r ddaear yn gwegian, a'i holl drigolion,
myfi sy'n cynnal ei cholofnau.
4
Dywedaf wrth yr ymffrostgar, “Peidiwch ag ymffrostio”,
ac wrth y drygionus, “Peidiwch â chodi'ch corn;
5
peidiwch â chodi'ch corn yn uchel
na siarad yn haerllug wrth eich Craig .”
6
Nid o'r dwyrain na'r gorllewin
nac o'r anialwch y bydd dyrchafu,
7
ond Duw fydd yn barnu—
yn darostwng y naill ac yn codi'r llall.
8
Oherwydd y mae cwpan yn llaw'r ARGLWYDD,
a'r gwin yn ewynnu ac wedi ei gymysgu;
fe dywallt ddiod ohono,
a bydd holl rai drygionus y ddaear
yn ei yfed i'r gwaelod.
9
Ond clodforaf fi am byth,
a chanaf fawl i Dduw Jacob,
10
am ei fod yn torri ymaith holl gyrn y drygionus,
a chyrn y cyfiawn yn cael eu dyrchafu.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar offerynnau llinynnol. Salm. I Asaff. Cân. Y mae Duw'n adnabyddus yn Jwda,2
y mae ei babell wedi ei gosod yn Salem,
a'i gartref yn Seion.
3
Yno fe faluriodd y saethau tanllyd,
y darian, y cleddyf a'r arfau rhyfel.
4
Ofnadwy wyt ti, a chryfach
na'r mynyddoedd tragwyddol .
5
Ysbeiliwyd y rhai cryf o galon,
y maent wedi suddo i gwsg,
a phallodd nerth yr holl ryfelwyr.
6
Gan dy gerydd di, O Dduw Jacob,
syfrdanwyd y marchog a'r march.
7
Ofnadwy wyt ti. Pwy a all sefyll o'th flaen
pan fyddi'n ddig?
8
Yr wyt wedi cyhoeddi dedfryd o'r nefoedd;
ofnodd y ddaear a distewi
9
pan gododd Duw i farnu,
ac i waredu holl drueiniaid y ddaear.
10
Bydd Edom, er ei ddig, yn dy foliannu,
a gweddill Hamath yn cadw gŵyl i ti .
11
Gwnewch eich addunedau i'r ARGLWYDD eich Duw, a'u talu;
bydded i bawb o'i amgylch ddod â rhoddion i'r un ofnadwy.
12
Y mae'n dryllio ysbryd tywysogion,
ac yn arswyd i frenhinoedd y ddaear.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar Jeduthun. I Asaff. Salm. Gwaeddais yn uchel ar Dduw,2
Yn nydd fy nghyfyngder ceisiais yr Arglwydd,
ac yn y nos estyn fy nwylo'n ddiflino;
nid oedd cysuro ar fy enaid.
3
Pan feddyliaf am Dduw, yr wyf yn cwyno;
pan fyfyriaf, fe balla f'ysbryd.
4
Cedwaist fy llygaid rhag cau;
fe'm syfrdanwyd, ac ni allaf siarad.
5
Af yn ôl i'r dyddiau gynt
a chofio am y blynyddoedd a fu;
6
meddyliaf ynof fy hun yn y nos,
myfyriaf, a'm holi fy hunan,
7
“A wrthyd yr Arglwydd am byth,
a pheidio â gwneud ffafr mwyach?
8
A yw ei ffyddlondeb wedi darfod yn llwyr,
a'i addewid wedi ei hatal am genedlaethau?
9
A yw Duw wedi anghofio trugarhau?
A yw yn ei lid wedi cloi ei dosturi?”
10
Yna dywedais, “Hyn yw fy ngofid:
A yw deheulaw'r Goruchaf wedi pallu?”
11
“Galwaf i gof weithredoedd yr ARGLWYDD,
a chofio am dy ryfeddodau gynt.
12
Meddyliaf am dy holl waith,
a myfyriaf am dy weithredoedd.
13
O Dduw, sanctaidd yw dy ffordd;
pa dduw sydd fawr fel ein Duw ni?
14
Ti yw'r Duw sy'n gwneud pethau rhyfeddol;
dangosaist dy rym ymhlith y bobloedd.
15
Â'th fraich gwaredaist dy bobl,
disgynyddion Jacob a Joseff.
16
“Gwelodd y dyfroedd di, O Dduw,
gwelodd y dyfroedd di ac arswydo;
yn wir, yr oedd y dyfnder yn crynu.
17
Tywalltodd y cymylau ddŵr,
ac yr oedd y ffurfafen yn taranu;
fflachiodd dy saethau ar bob llaw.
18
Yr oedd sŵn dy daranau yn y corwynt,
goleuodd dy fellt y byd;
ysgydwodd y ddaear a chrynu.
19
Aeth dy ffordd drwy'r môr,
a'th lwybr trwy ddyfroedd nerthol;
ond ni welwyd ôl dy gamau.
20
Arweiniaist dy bobl fel praidd,
trwy law Moses ac Aaron.”
1
Mascîl. I Asaff. Gwrandewch fy nysgeidiaeth, fy mhobl,2
Agoraf fy ngenau mewn dihareb,
a llefaraf ddamhegion o'r dyddiau gynt,
3
pethau a glywsom ac a wyddom,
ac a adroddodd ein hynafiaid wrthym.
4
Ni chuddiwn hwy oddi wrth eu disgynyddion,
ond adroddwn wrth y genhedlaeth sy'n dod
weithredoedd gogoneddus yr ARGLWYDD, a'i rym,
a'r pethau rhyfeddol a wnaeth.
5
Fe roes ddyletswydd ar Jacob,
a gosod cyfraith yn Israel,
a rhoi gorchymyn i'n hynafiaid,
i'w dysgu i'w plant;
6
er mwyn i'r to sy'n codi wybod,
ac i'r plant sydd heb eu geni eto
ddod ac adrodd wrth eu plant;
7
er mwyn iddynt roi eu ffydd yn Nuw,
a pheidio ag anghofio gweithredoedd Duw,
ond cadw ei orchmynion;
8
rhag iddynt fod fel eu tadau
yn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar,
yn genhedlaeth â'i chalon heb fod yn gadarn
a'i hysbryd heb fod yn ffyddlon i Dduw.
9
Bu i feibion Effraim, gwŷr arfog a saethwyr bwa,
droi yn eu holau yn nydd brwydr,
10
am iddynt beidio â chadw cyfamod Duw,
a gwrthod rhodio yn ei gyfraith;
11
am iddynt anghofio ei weithredoedd
a'r rhyfeddodau a ddangosodd iddynt.
12
Gwnaeth bethau rhyfeddol yng ngŵydd eu hynafiaid
yng ngwlad yr Aifft, yn nhir Soan;
13
rhannodd y môr a'u dwyn trwyddo,
a gwneud i'r dŵr sefyll fel argae.
14
Arweiniodd hwy â chwmwl y dydd,
a thrwy'r nos â thân disglair.
15
Holltodd greigiau yn yr anialwch,
a gwneud iddynt yfed o'r dyfroedd di-baid;
16
dygodd ffrydiau allan o graig,
a pheri i ddŵr lifo fel afonydd.
17
Ond yr oeddent yn dal i bechu yn ei erbyn,
ac i herio'r Goruchaf yn yr anialwch,
18
a rhoi prawf ar Dduw yn eu calonnau
trwy ofyn bwyd yn ôl eu blys.
19
Bu iddynt lefaru yn erbyn Duw a dweud,
“A all Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
20
Y mae'n wir iddo daro'r graig ac i ddŵr bistyllio,
ac i afonydd lifo,
ond a yw'n medru rhoi bara hefyd,
ac yn medru paratoi cig i'w bobl?”
21
Felly, pan glywodd yr ARGLWYDD hyn, digiodd;
cyneuwyd tân yn erbyn Jacob,
a chododd llid yn erbyn Israel,
22
am nad oeddent yn credu yn Nuw,
nac yn ymddiried yn ei waredigaeth.
23
Yna, rhoes orchymyn i'r ffurfafen uchod,
ac agorodd ddrysau'r nefoedd;
24
glawiodd arnynt fanna i'w fwyta,
a rhoi iddynt ŷd y nefoedd;
25
yr oedd pobl yn bwyta bara angylion,
a rhoes iddynt fwyd mewn llawnder.
26
Gwnaeth i ddwyreinwynt chwythu yn y nefoedd,
ac â'i nerth dygodd allan ddeheuwynt;
27
glawiodd arnynt gig fel llwch,
ac adar hedegog fel tywod ar lan y môr;
28
parodd iddynt ddisgyn yng nghanol eu gwersyll,
o gwmpas eu pebyll ym mhobman.
29
Bwytasant hwythau a chawsant ddigon,
oherwydd rhoes iddynt eu dymuniad.
30
Ond cyn iddynt ddiwallu eu chwant,
a'r bwyd yn dal yn eu genau,
31
cododd dig Duw yn eu herbyn,
a lladdodd y rhai mwyaf graenus ohonynt,
a darostwng rhai dewisol Israel.
32
Er hyn, yr oeddent yn dal i bechu,
ac nid oeddent yn credu yn ei ryfeddodau.
33
Felly gwnaeth i'w hoes ddarfod ar amrantiad,
a'u blynyddoedd mewn dychryn.
34
Pan oedd yn eu taro, yr oeddent yn ei geisio;
yr oeddent yn edifarhau ac yn chwilio am Dduw.
35
Yr oeddent yn cofio mai Duw oedd eu craig,
ac mai'r Duw Goruchaf oedd eu gwaredydd.
36
Ond yr oeddent yn rhagrithio â'u genau,
ac yn dweud celwydd â'u tafodau;
37
nid oedd eu calon yn glynu wrtho,
ac nid oeddent yn ffyddlon i'w gyfamod.
38
Eto, bu ef yn drugarog, maddeuodd eu trosedd,
ac ni ddistrywiodd hwy;
dro ar ôl tro ataliodd ei ddig,
a chadw ei lid rhag codi.
39
Cofiodd mai cnawd oeddent,
gwynt sy'n mynd heibio heb ddychwelyd.
40
Mor aml y bu iddynt wrthryfela yn ei erbyn yn yr anialwch,
a pheri gofid iddo yn y diffeithwch!
41
Dro ar ôl tro rhoesant brawf ar Dduw,
a blino Sanct Israel.
42
Nid oeddent yn cofio ei rym
y dydd y gwaredodd hwy rhag y gelyn,
43
pan roes ei arwyddion yn yr Aifft
a'i ryfeddodau ym meysydd Soan.
44
Fe drodd eu hafonydd yn waed,
ac ni allent yfed o'u ffrydiau.
45
Anfonodd bryfetach arnynt a'r rheini'n eu hysu,
a llyffaint a oedd yn eu difa.
46
Rhoes eu cnwd i'r lindys,
a ffrwyth eu llafur i'r locust.
47
Dinistriodd eu gwinwydd â chenllysg,
a'u sycamorwydd â glawogydd.
48
Rhoes eu gwartheg i'r haint ,
a'u diadell i'r plâu.
49
Anfonodd ei lid mawr arnynt,
a hefyd ddicter, cynddaredd a gofid—
cwmni o negeswyr gwae—
50
a rhoes ryddid i'w lidiowgrwydd.
Nid arbedodd hwy rhag marwolaeth
ond rhoi eu bywyd i'r haint.
51
Trawodd holl rai cyntafanedig yr Aifft,
blaenffrwyth eu nerth ym mhebyll Ham.
52
Yna dygodd allan ei bobl fel defaid,
a'u harwain fel praidd trwy'r anialwch;
53
arweiniodd hwy'n ddiogel heb fod arnynt ofn,
ond gorchuddiodd y môr eu gelynion.
54
Dygodd hwy i'w dir sanctaidd,
i'r mynydd a goncrodd â'i ddeheulaw.
55
Gyrrodd allan genhedloedd o'u blaenau;
rhannodd eu tir yn etifeddiaeth,
a gwneud i lwythau Israel fyw yn eu pebyll.
56
Eto, profasant y Duw Goruchaf a gwrthryfela yn ei erbyn,
ac nid oeddent yn cadw ei ofynion.
57
Troesant a mynd yn fradwrus fel eu hynafiaid;
yr oeddent mor dwyllodrus â bwa llac.
58
Digiasant ef â'u huchelfeydd,
a'i wneud yn eiddigeddus â'u heilunod.
59
Pan glywodd Duw, fe ddigiodd,
a gwrthod Israel yn llwyr;
60
gadawodd ei drigfan yn Seilo,
y babell lle'r oedd yn byw ymysg pobl;
61
gadawodd i'w gadernid fynd i gaethglud,
a'i ogoniant i ddwylo gelynion;
62
rhoes ei bobl i'r cleddyf,
a thywallt ei lid ar ei etifeddiaeth.
63
Ysodd tân eu gwŷr ifainc,
ac nid oedd gân briodas i'w morynion;
64
syrthiodd eu hoffeiriaid trwy'r cleddyf,
ac ni allai eu gweddwon alaru.
65
Yna, cododd yr Arglwydd, fel o gwsg,
fel rhyfelwr yn cael ei symbylu gan win.
66
Trawodd ei elynion yn eu holau,
a dwyn arnynt warth tragwyddol.
67
Gwrthododd babell Joseff,
ac ni ddewisodd lwyth Effraim;
68
ond dewisodd lwyth Jwda,
a Mynydd Seion y mae'n ei garu.
69
Cododd ei gysegr cyn uched â'r nefoedd,
a'i sylfeini, fel y ddaear, am byth.
70
Dewisodd Ddafydd yn was iddo,
a'i gymryd o'r corlannau defaid;
71
o fod yn gofalu am y mamogiaid
daeth ag ef i fugeilio'i bobl Jacob,
ac Israel ei etifeddiaeth.
72
Bugeiliodd hwy â chalon gywir,
a'u harwain â llaw ddeheuig.
1
Salm. I Asaff. O Dduw, daeth y cenhedloedd i'th etifeddiaeth,2
Rhoesant gyrff dy weision
yn fwyd i adar yr awyr,
a chnawd dy ffyddloniaid i'r bwystfilod.
3
Y maent wedi tywallt gwaed fel dŵr
o amgylch Jerwsalem,
ac nid oes neb i'w claddu.
4
Aethom yn watwar i'n cymdogion,
yn wawd a dirmyg i'r rhai o'n cwmpas.
5
Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ddig am byth?
A yw dy eiddigedd i losgi fel tân?
6
Tywallt dy lid ar y cenhedloedd
nad ydynt yn dy adnabod,
ac ar y teyrnasoedd
nad ydynt yn galw ar dy enw,
7
am iddynt ysu Jacob
a difetha ei drigfan.
8
Paid â dal yn ein herbyn ni ddrygioni ein hynafiaid,
ond doed dy dosturi atom ar frys,
oherwydd fe'n darostyngwyd yn llwyr.
9
Cymorth ni, O Dduw ein hiachawdwriaeth,
oherwydd anrhydedd dy enw;
gwared ni, a maddau ein pechodau
er mwyn dy enw.
10
Pam y caiff y cenhedloedd ddweud,
“Ple mae eu Duw?”
Dysger y cenhedloedd yn ein gŵydd
beth yw dy ddialedd am waed tywalltedig dy weision.
11
Doed ochneidio'r carcharorion hyd atat,
ac yn dy nerth mawr arbed y rhai oedd i farw.
12
Taro'n ôl seithwaith i'n cymdogion, a hynny i'r byw,
y gwatwar a wnânt wrth dy ddifrïo, O Arglwydd.
13
Yna, byddwn ni, dy bobl a phraidd dy borfa,
yn dy foliannu am byth,
ac yn adrodd dy foliant dros y cenedlaethau.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar Lilïau. Tystiolaeth. I Asaff. Salm. Gwrando, O fugail Israel,2
Ti sydd wedi dy orseddu ar y cerwbiaid,
disgleiria i Effraim, Benjamin a Manasse.
Gwna i'th nerth gyffroi,
a thyrd i'n gwaredu.
3
Adfer ni, O Dduw;
bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.
4
O ARGLWYDD Dduw y Lluoedd,
am ba hyd y byddi'n ddig wrth weddïau dy bobl?
5
Yr wyt wedi eu bwydo â bara dagrau,
a'u diodi â mesur llawn o ddagrau.
6
Gwnaethost ni'n ddirmyg i'n cymdogion,
ac y mae ein gelynion yn ein gwawdio.
7
O Dduw'r Lluoedd, adfer ni;
bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.
8
Daethost â gwinwydden o'r Aifft;
gyrraist allan genhedloedd er mwyn ei phlannu;
9
cliriaist y tir iddi;
magodd hithau wreiddiau a llenwi'r tir.
10
Yr oedd ei chysgod yn gorchuddio'r mynyddoedd,
a'i changau fel y cedrwydd cryfion;
11
estynnodd ei brigau at y môr,
a'i blagur at yr afon.
12
Pam felly y bylchaist ei chloddiau,
fel bod y rhai sy'n mynd heibio yn tynnu ei ffrwyth?
13
Y mae baedd y goedwig yn ei thyrchu,
ac anifeiliaid gwyllt yn ei phori.
14
O Dduw'r Lluoedd, tro eto,
edrych i lawr o'r nefoedd a gwêl,
gofala am y winwydden hon,
15
y planhigyn a blennaist â'th ddeheulaw,
y gainc yr wyt yn ei chyfnerthu.
16
Bydded i'r rhai sy'n ei llosgi â thân ac yn ei thorri i lawr
gael eu difetha gan gerydd dy wynepryd.
17
Ond bydded dy law ar y sawl sydd ar dy ddeheulaw,
ar yr un yr wyt ti'n ei gyfnerthu.
18
Ni thrown oddi wrthyt mwyach;
adfywia ni, ac fe alwn ar dy enw.
19
ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, adfer ni;
bydded llewyrch dy wyneb arnom, a gwareder ni.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar y Gittith. I Asaff. Canwch fawl i Dduw, ein nerth;2
Rhowch gân a chanu'r tympan,
y delyn fwyn a'r nabl.
3
Canwch utgorn ar y lleuad newydd,
ar y lleuad lawn, ar ddydd ein gŵyl.
4
Oherwydd y mae hyn yn ddeddf yn Israel,
yn rheol gan Dduw Jacob,
5
wedi ei roi'n orchymyn i Joseff
pan ddaeth allan o wlad yr Aifft.
6
Ysgafnheais y baich ar dy ysgwydd,
a rhyddhau dy ddwylo oddi wrth y basgedi.
7
Pan waeddaist mewn cyfyngder, gwaredais di,
ac atebais di yn ddirgel yn y taranau;
profais di wrth ddyfroedd Meriba.
8
Gwrando, fy mhobl, a dygaf dystiolaeth yn dy erbyn.
O na fyddit yn gwrando arnaf fi, Israel!
9
Na fydded gennyt dduw estron,
a phaid ag ymostwng i dduw dieithr.
10
Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,
a'th ddygodd i fyny o'r Aifft;
agor dy geg, ac fe'i llanwaf.
11
Ond ni wrandawodd fy mhobl ar fy llais,
ac nid oedd Israel yn fodlon arnaf;
12
felly anfonais hwy ymaith yn eu cyndynrwydd
i wneud fel yr oeddent yn dymuno.
13
“O na fyddai fy mhobl yn gwrando arnaf,
ac na fyddai Israel yn rhodio yn fy ffyrdd!
14
Byddwn ar fyrder yn darostwng eu gelynion,
ac yn troi fy llaw yn erbyn eu gwrthwynebwyr.”
15
Byddai'r rhai sy'n casáu'r ARGLWYDD yn ymgreinio o'i flaen,
a dyna eu tynged am byth.
16
Byddwn yn dy fwydo â'r ŷd gorau,
ac yn dy ddigoni â mêl o'r graig.
1
Salm. I Asaff. Y mae Duw yn ei le yn y cyngor dwyfol;2
“Am ba hyd y barnwch yn anghyfiawn,
ac y dangoswch ffafr at y drygionus?
3
“Rhowch ddedfryd o blaid y gwan a'r amddifad,
gwnewch gyfiawnder â'r truenus a'r diymgeledd.
4
Gwaredwch y gwan a'r anghenus,
achubwch hwy o law'r drygionus.
5
“Nid ydynt yn gwybod nac yn deall,
ond y maent yn cerdded mewn tywyllwch,
a holl sylfeini'r ddaear yn ysgwyd.
6
Fe ddywedais i, ‘Duwiau ydych,
a meibion i'r Goruchaf bob un ohonoch.’
7
Eto, byddwch farw fel meidrolion,
a syrthio fel unrhyw dywysog.”
8
Cyfod, O Dduw, i farnu'r ddaear,
oherwydd eiddot ti yw'r holl genhedloedd.
1
Cân. Salm. I Asaff. O Dduw, paid â bod yn ddistaw;2
Edrych fel y mae dy elynion yn terfysgu,
a'r rhai sy'n dy gasáu yn codi eu pennau.
3
Gwnânt gynlluniau cyfrwys yn erbyn dy bobl,
a gosod cynllwyn yn erbyn y rhai a amddiffynni,
4
a dweud, “Dewch, inni eu difetha fel cenedl,
fel na chofir enw Israel mwyach.”
5
Cytunasant yn unfryd â'i gilydd,
a gwneud cynghrair i'th erbyn—
6
pebyll Edom a'r Ismaeliaid,
Moab a'r Hagariaid,
7
Gebal, Ammon ac Amalec,
Philistia a thrigolion Tyrus;
8
Asyria hefyd a unodd gyda hwy,
a chynnal breichiau tylwyth Lot.
9
Gwna iddynt fel y gwnaethost i Sisera,
ac i Jabin wrth nant Cison,
10
ac i Midian , a ddinistriwyd wrth ffynnon Harod
a mynd yn dom ar y ddaear.
11
Gwna eu mawrion fel Oreb a Seeb
a'u holl dywysogion fel Seba a Salmunna,
12
y rhai a ddywedodd, “Meddiannwn i ni ein hunain
holl borfeydd Duw.”
13
O fy Nuw, gwna hwy fel hadau hedegog,
fel us o flaen gwynt.
14
Fel tân yn difa coedwig,
fel fflamau'n llosgi mynydd,
15
felly yr ymlidi hwy â'th storm,
a'u brawychu â'th gorwynt.
16
Gwna eu hwynebau'n llawn cywilydd,
er mwyn iddynt geisio dy enw, O ARGLWYDD.
17
Bydded iddynt aros mewn gwarth a chywilydd am byth,
ac mewn gwaradwydd difether hwy.
18
Bydded iddynt wybod mai ti yn unig, a'th enw'n ARGLWYDD,
yw'r Goruchaf dros yr holl ddaear.
1
I'r Cyfarwyddwr: ar y Gittith. I feibion Cora. Salm. Mor brydferth yw dy breswylfod,2
Yr wyf yn hiraethu, yn dyheu hyd at lewyg
am gynteddau'r ARGLWYDD;
y mae'r cyfan ohonof yn gweiddi'n llawen
ar y Duw byw.
3
Cafodd hyd yn oed aderyn y to gartref,
a'r wennol nyth iddi ei hun,
lle mae'n magu ei chywion, wrth dy allorau di,
O ARGLWYDD y Lluoedd, fy Mrenin a'm Duw.
4
Gwyn eu byd y rhai sy'n trigo yn dy dŷ,
yn canu mawl i ti'n wastadol.
5
Gwyn eu byd y rhai yr wyt ti'n noddfa iddynt,
a ffordd y pererinion yn eu calon.
6
Wrth iddynt fynd trwy ddyffryn Baca
fe'i cânt yn ffynnon;
bydd y glaw cynnar yn ei orchuddio â bendith.
7
Ânt o nerth i nerth,
a bydd Duw y duwiau yn ymddangos yn Seion.
8
O ARGLWYDD Dduw'r Lluoedd, clyw fy ngweddi;
gwrando arnaf, O Dduw Jacob.
9
Edrych ar ein tarian, O Dduw;
rho ffafr i'th eneiniog.
10
Gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di
na mil gartref ;
gwell sefyll wrth y drws yn nhŷ fy Nuw
na thrigo ym mhebyll drygioni.
11
Oherwydd haul a tharian yw'r ARGLWYDD Dduw;
rhydd ras ac anrhydedd.
Nid atal yr ARGLWYDD unrhyw ddaioni
oddi wrth y rhai sy'n rhodio'n gywir.
12
O ARGLWYDD y Lluoedd,
gwyn ei fyd y sawl sy'n ymddiried ynot.
1
I'r Cyfarwyddwr: i feibion Cora. Salm. O Arglwydd, buost drugarog wrth dy dir;2
Maddeuaist gamwedd dy bobl,
a dileu eu holl bechod.
3
Tynnaist dy holl ddigofaint yn ôl,
a throi oddi wrth dy lid mawr.
4
Adfer ni eto, O Dduw ein hiachawdwriaeth,
a rho heibio dy ddicter tuag atom.
5
A fyddi'n digio wrthym am byth,
ac yn dal dig atom am genedlaethau?
6
Oni fyddi'n ein hadfywio eto,
er mwyn i'th bobl lawenhau ynot?
7
Dangos i ni dy ffyddlondeb, O ARGLWYDD,
a rho dy waredigaeth inni.
8
Bydded imi glywed yr hyn a lefara'r Arglwydd DDUW,
oherwydd bydd yn cyhoeddi heddwch
i'w bobl ac i'w ffyddloniaid,
rhag iddynt droi drachefn at ffolineb.
9
Yn wir, y mae ei waredigaeth yn agos at y rhai sy'n ei ofni,
fel bod gogoniant yn aros yn ein tir.
10
Bydd cariad a gwirionedd yn cyfarfod,
a chyfiawnder a heddwch yn cusanu ei gilydd.
11
Bydd ffyddlondeb yn tarddu o'r ddaear,
a chyfiawnder yn edrych i lawr o'r nefoedd.
12
Bydd yr ARGLWYDD yn rhoi daioni,
a'n tir yn rhoi ei gnwd.
13
Bydd cyfiawnder yn mynd o'i flaen,
a heddwch yn dilyn yn ôl ei droed.
1
Gweddi. I Ddafydd. Tro dy glust ataf, ARGLWYDD, ac ateb fi,2
Arbed fy mywyd, oherwydd teyrngar wyf fi;
gwared dy was sy'n ymddiried ynot.
3
Ti yw fy Nuw; bydd drugarog wrthyf, O Arglwydd,
oherwydd arnat ti y gwaeddaf trwy'r dydd.
4
Llawenha enaid dy was,
oherwydd atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid.
5
Yr wyt ti, Arglwydd, yn dda a maddeugar,
ac yn llawn trugaredd i bawb sy'n galw arnat.
6
Clyw, O ARGLWYDD, fy ngweddi,
a gwrando ar fy ymbil.
7
Yn nydd fy nghyfyngder galwaf arnat,
oherwydd yr wyt ti yn fy ateb.
8
Nid oes neb fel ti ymhlith y duwiau, O Arglwydd,
ac nid oes gweithredoedd fel dy rai di.
9
Bydd yr holl genhedloedd a wnaethost yn dod
ac yn ymgrymu o'th flaen, O Arglwydd,
ac yn anrhydeddu dy enw.
10
Oherwydd yr wyt ti yn fawr ac yn gwneud rhyfeddodau;
ti yn unig sydd Dduw.
11
O ARGLWYDD, dysg i mi dy ffordd,
imi rodio yn dy wirionedd;
rho imi galon unplyg i ofni dy enw.
12
Clodforaf di â'm holl galon, O Arglwydd fy Nuw,
ac anrhydeddaf dy enw hyd byth.
13
Oherwydd mawr yw dy ffyddlondeb tuag ataf,
a gwaredaist fy mywyd o Sheol isod.
14
O Dduw, cododd gwŷr trahaus yn f'erbyn,
ac y mae criw didostur yn ceisio fy mywyd,
ac nid ydynt yn meddwl amdanat ti.
15
Ond yr wyt ti, O Arglwydd, yn Dduw trugarog a graslon,
araf i ddigio, a llawn cariad a gwirionedd.
16
Tro ataf, a bydd drugarog,
rho dy nerth i'th was,
a gwared un o hil dy weision.
17
Rho imi arwydd o'th ddaioni,
a bydded i'r rhai sy'n fy nghasáu weld a chywilyddio,
am i ti, ARGLWYDD, fy nghynorthwyo a'm cysuro.
1
I feibion Cora. Salm. Cân. Ar fynyddoedd sanctaidd y sylfaenodd hi;2
y mae'r ARGLWYDD yn caru pyrth Seion
yn fwy na holl drigfannau Jacob.
3
Dywedir pethau gogoneddus amdanat ti,
O ddinas Duw.
4
“Yr wyf yn enwi Rahab a Babilon
ymysg y rhai sy'n fy nghydnabod;
am Philistia, Tyrus ac Ethiopia
fe ddywedir, ‘Ganwyd hwy yno’.”
5
Ac fe ddywedir am Seion,
“Ganwyd hwn-a-hwn ynddi;
y Goruchaf ei hun sy'n ei sefydlu hi.”
6
Bydd yr ARGLWYDD, wrth restru'r bobl, yn ysgrifennu,
“Ganwyd hwy yno.”
7
Bydd cantorion a dawnswyr yn dweud,
“Y mae fy holl darddiadau ynot ti.”
1
Cân. Salm. I feibion Cora. I'r Cyfarwyddwr: ar Mahalath Leannoth. Mascîl. I Heman yr Esrahead. O ARGLWYDD, Duw fy iachawdwriaeth,2
Doed fy ngweddi hyd atat,
tro dy glust at fy llef.
3
Yr wyf yn llawn helbulon,
ac y mae fy mywyd yn ymyl Sheol.
4
Ystyriwyd fi gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll,
ac euthum fel un heb nerth,
5
fel un wedi ei adael gyda'r meirw,
fel y lladdedigion sy'n gorffwys mewn bedd—
rhai nad wyt yn eu cofio bellach
am eu bod wedi eu torri ymaith o'th afael.
6
Gosodaist fi yn y pwll isod,
yn y mannau tywyll a'r dyfnderau.
7
Daeth dy ddigofaint yn drwm arnaf,
a llethaist fi â'th holl donnau.
8
Gwnaethost i'm cydnabod bellhau oddi wrthyf,
a'm gwneud yn ffiaidd iddynt.
Yr wyf wedi fy nghaethiwo ac ni allaf ddianc;
9
y mae fy llygaid yn pylu gan gystudd.
Galwaf arnat ti bob dydd, O ARGLWYDD,
ac y mae fy nwylo'n ymestyn atat.
10
A wnei di ryfeddodau i'r meirw?
A yw'r cysgodion yn codi i'th foliannu?
11
A fynegir dy gariad yn y bedd,
a'th wirionedd yn nhir Abadon?
12
A yw dy ryfeddodau'n wybyddus yn y tywyllwch,
a'th fuddugoliaethau yn nhir angof?
13
Ond yr wyf fi yn llefain arnat ti am gymorth, O ARGLWYDD,
ac yn y bore daw fy ngweddi atat.
14
O ARGLWYDD, pam yr wyt yn fy ngwrthod,
ac yn cuddio dy wyneb oddi wrthyf?
15
Anghenus wyf, ac ar drengi o'm hieuenctid;
dioddefais dy ddychrynfeydd, ac yr wyf mewn dryswch.
16
Aeth dy ddigofaint drosof,
ac y mae dy ymosodiadau yn fy nifetha.
17
Y maent yn f'amgylchu fel llif trwy'r dydd,
ac yn cau'n gyfan gwbl amdanaf.
18
Gwnaethost i gâr a chyfaill bellhau oddi wrthyf,
a thywyllwch yw fy nghydnabod.
1
Mascîl. I Ethan yr Esrahead. Canaf byth am dy gariad, O ARGLWYDD,2
oherwydd y mae dy gariad wedi ei sefydlu dros byth,
a'th ffyddlondeb mor sicr â'r nefoedd.
3
Dywedaist , “Gwneuthum gyfamod â'm hetholedig,
a thyngu wrth Ddafydd fy ngwas,
4
‘Gwnaf dy had yn sefydlog am byth,
a sicrhau dy orsedd dros y cenedlaethau.’ ”
5
Bydded i'r nefoedd foliannu dy ryfeddodau, O ARGLWYDD,
a'th ffyddlondeb yng nghynulliad y rhai sanctaidd.
6
Oherwydd pwy yn y nefoedd a gymherir â'r ARGLWYDD?
Pwy ymysg y duwiau sy'n debyg i'r ARGLWYDD,
7
yn Dduw a ofnir yng nghyngor y rhai sanctaidd,
yn fawr ac ofnadwy goruwch pawb o'i amgylch?
8
O ARGLWYDD Dduw y lluoedd,
pwy sydd nerthol fel tydi, O ARGLWYDD,
gyda'th ffyddlondeb o'th amgylch?
9
Ti sy'n llywodraethu ymchwydd y môr;
pan gyfyd ei donnau, yr wyt ti'n eu gostegu.
10
Ti a ddrylliodd Rahab yn gelain;
gwasgeraist dy elynion â nerth dy fraich.
11
Eiddot ti yw'r nefoedd, a'r ddaear hefyd;
ti a seiliodd y byd a'r cyfan sydd ynddo.
12
Ti a greodd ogledd a de;
y mae Tabor a Hermon yn moliannu dy enw.
13
Y mae gennyt ti fraich nerthol;
y mae dy law yn gref, dy ddeheulaw wedi ei chodi.
14
Cyfiawnder a barn yw sylfaen dy orsedd;
y mae cariad a gwirionedd yn mynd o'th flaen.
15
Gwyn eu byd y bobl sydd wedi dysgu dy glodfori,
sy'n rhodio, ARGLWYDD, yng ngoleuni dy wyneb,
16
sy'n gorfoleddu bob amser yn dy enw,
ac yn llawenhau yn dy gyfiawnder.
17
Oherwydd ti yw gogoniant eu nerth,
a thrwy dy ffafr di y dyrchefir ein corn.
18
Oherwydd y mae ein tarian yn eiddo i'r ARGLWYDD,
a'n brenin i Sanct Israel.
19
Gynt lleferaist mewn gweledigaeth
wrth dy ffyddloniaid a dweud,
“Gosodais goron ar un grymus,
a dyrchafu un a ddewiswyd o blith y bobl.
20
Cefais Ddafydd, fy ngwas,
a'i eneinio â'm holew sanctaidd;
21
bydd fy llaw yn gadarn gydag ef,
a'm braich yn ei gryfhau.
22
Ni fydd gelyn yn drech nag ef,
na'r drygionus yn ei ddarostwng.
23
Drylliaf ei elynion o'i flaen,
a thrawaf y rhai sy'n ei gasáu.
24
Bydd fy ffyddlondeb a'm cariad gydag ef,
ac yn fy enw i y dyrchefir ei gorn.
25
Gosodaf ei law ar y môr,
a'i ddeheulaw ar yr afonydd.
26
Bydd yntau'n galw arnaf, ‘Fy nhad wyt ti,
fy Nuw a chraig fy iachawdwriaeth.’
27
A gwnaf finnau ef yn gyntafanedig,
yn uchaf o frenhinoedd y ddaear.
28
Cadwaf fy ffyddlondeb iddo hyd byth,
a bydd fy nghyfamod ag ef yn sefydlog.
29
Rhof iddo linach am byth,
a'i orsedd fel dyddiau'r nefoedd.
30
Os bydd ei feibion yn gadael fy nghyfraith,
a heb rodio yn fy marnau,
31
os byddant yn torri fy ordeiniadau,
a heb gadw fy ngorchmynion,
32
fe gosbaf eu pechodau â gwialen,
a'u camweddau â fflangellau;
33
ond ni throf fy nghariad oddi wrtho,
na phallu yn fy ffyddlondeb.
34
Ni thorraf fy nghyfamod,
na newid gair a aeth o'm genau.
35
Unwaith am byth y tyngais i'm sancteiddrwydd,
ac ni fyddaf yn twyllo Dafydd.
36
Fe barha ei linach am byth,
a'i orsedd cyhyd â'r haul o'm blaen.
37
Bydd wedi ei sefydlu am byth fel y lleuad,
yn dyst ffyddlon yn y nef.”
38
Ond eto yr wyt wedi gwrthod, a throi heibio,
a digio wrth dy eneiniog.
39
Yr wyt wedi dileu'r cyfamod â'th was,
wedi halogi ei goron a'i thaflu i'r llawr.
40
Yr wyt wedi dryllio ei holl furiau,
a gwneud ei geyrydd yn adfeilion.
41
Y mae pawb sy'n mynd heibio yn ei ysbeilio;
aeth yn warth i'w gymdogion.
42
Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr,
a gwneud i'w holl elynion lawenhau.
43
Yn wir, troist yn ôl fin ei gleddyf,
a pheidio â'i gynnal yn y frwydr.
44
Drylliaist ei deyrnwialen o'i law ,
a bwrw ei orsedd i'r llawr.
45
Yr wyt wedi byrhau dyddiau ei ieuenctid,
ac wedi ei orchuddio â chywilydd.
46
Am ba hyd, ARGLWYDD? A fyddi'n ymguddio am byth,
a'th eiddigedd yn llosgi fel tân?
47
Cofia mor feidrol ydwyf fi;
ai yn ofer y creaist yr holl bobloedd?
48
Pwy fydd byw heb weld marwolaeth?
Pwy a arbed ei fywyd o afael Sheol?
49
O Arglwydd, ple mae dy gariad gynt,
a dyngaist yn dy ffyddlondeb i Ddafydd?
50
Cofia, O Arglwydd, ddirmyg dy was ,
fel yr wyf yn cario yn fy mynwes sarhad y bobloedd,
51
fel y bu i'th elynion, ARGLWYDD, ddirmygu
a gwawdio camre dy eneiniog.
52
Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD am byth!
Amen ac Amen.
1
Gweddi. I Moses, gŵr Duw. Arglwydd, buost yn amddiffynfa i ni2
Cyn geni'r mynyddoedd,
a chyn esgor ar y ddaear a'r byd,
o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw.
3
Yr wyt yn troi pobl yn ôl i'r llwch,
ac yn dweud, “Trowch yn ôl, chwi feidrolion.”
4
Oherwydd y mae mil o flynyddoedd yn dy olwg
fel doe sydd wedi mynd heibio,
ac fel gwyliadwriaeth yn y nos.
5
Yr wyt yn eu sgubo ymaith fel breuddwyd;
y maent fel gwellt yn adfywio yn y bore—
6
yn tyfu ac yn adfywio yn y bore,
ond erbyn yr hwyr yn gwywo ac yn crino.
7
Oherwydd yr ydym ni yn darfod gan dy ddig,
ac wedi'n brawychu gan dy gynddaredd.
8
Gosodaist ein camweddau o'th flaen,
ein pechodau dirgel yng ngoleuni dy wyneb.
9
Y mae ein holl ddyddiau'n mynd heibio dan dy ddig,
a'n blynyddoedd yn darfod fel ochenaid.
10
Deng mlynedd a thrigain yw blynyddoedd ein heinioes,
neu efallai bedwar ugain trwy gryfder,
ond y mae eu hyd yn faich ac yn flinder;
ânt heibio yn fuan, ac ehedwn ymaith.
11
Pwy sy'n gwybod grym dy ddicter,
a'th ddigofaint, fel y rhai sy'n dy ofni?
12
Felly dysg ni i gyfrif ein dyddiau,
inni gael calon ddoeth.
13
Dychwel, O ARGLWYDD. Am ba hyd?
Trugarha wrth dy weision.
14
Digona ni yn y bore â'th gariad,
inni gael gorfoleddu a llawenhau ein holl ddyddiau.
15
Rho inni lawenydd gynifer o ddyddiau ag y blinaist ni,
gynifer o flynyddoedd ag y gwelsom ddrygfyd.
16
Bydded dy weithredoedd yn amlwg i'th weision,
a'th ogoniant i'w plant.
17
Bydded trugaredd yr Arglwydd ein Duw arnom;
llwydda waith ein dwylo inni,
llwydda waith ein dwylo.
1
Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf,2
yn dweud wrth yr ARGLWYDD, “Fy noddfa a'm caer,
fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo.”
3
Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr,
ac oddi wrth bla difaol;
4
bydd yn cysgodi drosot â'i esgyll,
a chei nodded dan ei adenydd;
bydd ei wirionedd yn darian a bwcled.
5
Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos,
na rhag saeth yn hedfan yn y dydd,
6
rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch,
na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd.
7
Er i fil syrthio wrth dy ochr,
a deng mil ar dy ddeheulaw,
eto ni chyffyrddir â thi.
8
Ni fyddi ond yn edrych â'th lygaid
ac yn gweld tâl y drygionus.
9
Ond i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa;
gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa ;
10
ni ddigwydd niwed i ti,
ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.
11
Oherwydd rhydd orchymyn i'w angylion
i'th gadw yn dy holl ffyrdd;
12
byddant yn dy godi ar eu dwylo
rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.
13
Byddi'n troedio ar y llew a'r asb,
ac yn sathru'r llew ifanc a'r sarff.
14
“Am iddo lynu wrthyf, fe'i gwaredaf;
fe'i diogelaf am ei fod yn adnabod fy enw.
15
Pan fydd yn galw arnaf, fe'i hatebaf;
byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder,
gwaredaf ef a'i anrhydeddu.
16
Digonaf ef â hir ddyddiau,
a gwnaf iddo fwynhau fy iachawdwriaeth.”
1
Salm. Cân. Ar gyfer y Saboth. Da yw moliannu'r ARGLWYDD,2
a chyhoeddi dy gariad yn y bore
a'th ffyddlondeb bob nos,
3
gyda'r dectant a'r nabl
a chyda chordiau'r delyn.
4
Oherwydd yr wyt ti, O ARGLWYDD, wedi fy llawenychu â'th waith;
yr wyf yn gorfoleddu yng ngweithgarwch dy ddwylo.
5
Mor fawr yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD,
a dwfn iawn dy feddyliau!
6
Un dwl yw'r sawl sydd heb wybod,
a ffŵl yw'r un sydd heb ddeall hyn:
7
er i'r annuwiol dyfu fel glaswellt
ac i'r holl wneuthurwyr drygioni lwyddo,
eu bod i'w dinistrio am byth,
8
ond dy fod ti, ARGLWYDD, yn dragwyddol ddyrchafedig.
9
Oherwydd wele, dy elynion, ARGLWYDD,
wele, dy elynion a ddifethir,
a'r holl wneuthurwyr drygioni a wasgerir.
10
Codaist i fyny fy nghorn fel corn ych,
ac eneiniaist fi ag olew croyw.
11
Ymhyfrydodd fy llygaid yng nghwymp fy ngelynion ,
a'm clustiau wrth glywed am y rhai drygionus a gododd yn f'erbyn.
12
Y mae'r cyfiawn yn blodeuo fel palmwydd,
ac yn tyfu fel cedrwydd Lebanon.
13
Y maent wedi eu plannu yn nhŷ'r ARGLWYDD,
ac yn blodeuo yng nghynteddau ein Duw.
14
Rhônt ffrwyth hyd yn oed mewn henaint,
a pharhânt yn wyrdd ac iraidd.
15
Cyhoeddant fod yr ARGLWYDD yn uniawn,
ac am fy nghraig, nad oes anghyfiawnder ynddo.
1
Y mae'r ARGLWYDD yn frenin; y mae wedi ei wisgo â mawredd,2
y mae dy orsedd wedi ei sefydlu erioed;
yr wyt ti er tragwyddoldeb.
3
Cododd y dyfroedd, O ARGLWYDD,
cododd y dyfroedd eu llais,
cododd y dyfroedd eu rhu.
4
Cryfach na sŵn dyfroedd mawrion,
cryfach na thonnau'r môr,
yw'r ARGLWYDD yn yr uchelder.
5
Y mae dy dystiolaethau'n sicr iawn;
sancteiddrwydd sy'n gweddu i'th dŷ,
O ARGLWYDD, hyd byth.
1
O ARGLWYDD, Dduw dial,2
Cyfod, O farnwr y ddaear,
rho eu haeddiant i'r balch.
3
Am ba hyd y bydd y drygionus, ARGLWYDD,
y bydd y drygionus yn gorfoleddu?
4
Y maent yn tywallt eu parabl trahaus;
y mae'r holl wneuthurwyr drygioni'n ymfalchïo.
5
Y maent yn sigo dy bobl, O ARGLWYDD,
ac yn poenydio dy etifeddiaeth.
6
Lladdant y weddw a'r estron,
a llofruddio'r amddifad,
7
a dweud, “Nid yw'r ARGLWYDD yn gweld,
ac nid yw Duw Jacob yn sylwi.”
8
Deallwch hyn, chwi'r dylaf o bobl!
Ffyliaid, pa bryd y byddwch ddoeth?
9
Onid yw'r un a blannodd glust yn clywed,
a'r un a luniodd lygad yn gweld?
10
Onid oes gan yr un sy'n disgyblu cenhedloedd gerydd,
a'r un sy'n dysgu pobl wybodaeth?
11
Y mae'r ARGLWYDD yn gwybod meddyliau pobl,
mai gwynt ydynt.
12
Gwyn ei fyd y sawl a ddisgybli, O ARGLWYDD,
ac a ddysgi allan o'th gyfraith,
13
i roi iddo lonyddwch rhag dyddiau adfyd,
nes agor pwll i'r drygionus.
14
Oherwydd nid yw'r ARGLWYDD yn gwrthod ei bobl,
nac yn gadael ei etifeddiaeth;
15
oherwydd dychwel barn at y rhai cyfiawn,
a bydd yr holl rai uniawn yn ei dilyn.
16
Pwy a saif drosof yn erbyn y drygionus,
a sefyll o'm plaid yn erbyn gwneuthurwyr drygioni?
17
Oni bai i'r ARGLWYDD fy nghynorthwyo
byddwn yn fuan wedi mynd i dir distawrwydd.
18
Pan oeddwn yn meddwl bod fy nhroed yn llithro,
yr oedd dy ffyddlondeb di, O ARGLWYDD, yn fy nghynnal.
19
Er bod pryderon fy nghalon yn niferus,
y mae dy gysuron di'n fy llawenhau.
20
A fydd cynghrair rhyngot ti a llywodraeth distryw,
sy'n cynllunio niwed trwy gyfraith?
21
Cytunant â'i gilydd am fywyd y cyfiawn,
a chondemnio'r dieuog i farw.
22
Ond y mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn i mi,
a'm Duw yn graig i'm llochesu.
23
Daw â'u camweddau eu hunain yn ôl arnynt,
ac fe'u diddyma am eu drygioni.
Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn eu diddymu.
1
Dewch, canwn yn llawen i'r ARGLWYDD,2
Down i'w bresenoldeb â diolch,
gorfoleddwn ynddo â chaneuon mawl.
3
Oherwydd Duw mawr yw'r ARGLWYDD,
a brenin mawr goruwch yr holl dduwiau.
4
Yn ei law ef y mae dyfnderau'r ddaear,
ac eiddo ef yw uchelderau'r mynyddoedd.
5
Eiddo ef yw'r môr, ac ef a'i gwnaeth;
ei ddwylo ef a greodd y sychdir.
6
Dewch, addolwn ac ymgrymwn,
plygwn ein gliniau gerbron yr ARGLWYDD a'n gwnaeth.
7
Oherwydd ef yw ein Duw,
a ninnau'n bobl iddo a defaid ei borfa ;
heddiw cewch wybod ei rym,
os gwrandewch ar ei lais.
8
Peidiwch â chaledu'ch calonnau, fel yn Meriba,
fel ar ddiwrnod Massa yn yr anialwch,
9
pan fu i'ch hynafiaid fy herio
a'm profi, er iddynt weld fy ngwaith.
10
Am ddeugain mlynedd y ffieiddiais y genhedlaeth honno,
a dweud, “Pobl â'u calonnau'n cyfeiliorni ydynt,
ac nid ydynt yn gwybod fy ffyrdd.”
11
Felly tyngais yn fy nig
na chaent ddyfod i'm gorffwysfa.
1
Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,2
Canwch i'r ARGLWYDD, bendithiwch ei enw,
cyhoeddwch ei iachawdwriaeth o ddydd i ddydd.
3
Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd,
ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.
4
Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl;
y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.
5
Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd,
ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
6
Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen,
nerth a gogoniant yn ei gysegr.
7
Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd,
rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth;
8
rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw,
dygwch offrwm a dewch i'w gynteddoedd.
9
Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd;
crynwch o'i flaen, yr holl ddaear.
10
Dywedwch ymhlith y cenhedloedd, “Y mae'r ARGLWYDD yn frenin”;
yn wir, y mae'r byd yn sicr ac nis symudir;
bydd ef yn barnu'r bobloedd yn uniawn.
11
Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear;
rhued y môr a'r cyfan sydd ynddo,
12
llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo.
Yna bydd holl brennau'r goedwig yn canu'n llawen
13
o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dod,
oherwydd y mae'n dod i farnu'r ddaear.
Bydd yn barnu'r byd â chyfiawnder,
a'r bobloedd â'i wirionedd.
1
Y mae'r ARGLWYDD yn frenin; gorfoledded y ddaear,2
Y mae cymylau a thywyllwch o'i amgylch,
cyfiawnder a barn yn sylfaen i'w orsedd.
3
Y mae tân yn mynd o'i flaen,
ac yn llosgi ei elynion oddi amgylch.
4
Y mae ei fellt yn goleuo'r byd,
a'r ddaear yn gweld ac yn crynu.
5
Y mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD,
o flaen Arglwydd yr holl ddaear.
6
Y mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder,
a'r holl bobloedd yn gweld ei ogoniant.
7
Bydded cywilydd ar yr holl addolwyr delwau
sy'n ymffrostio mewn eilunod;
ymgrymwch iddo ef, yr holl dduwiau.
8
Clywodd Seion a llawenhau,
ac yr oedd trefi Jwda yn gorfoleddu
o achos dy farnedigaethau, O ARGLWYDD.
9
Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn oruchaf dros yr holl ddaear;
yr wyt wedi dy ddyrchafu'n uwch o lawer na'r holl dduwiau.
10
Y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n casáu drygioni,
y mae'n cadw bywydau ei ffyddloniaid,
ac yn eu gwaredu o ddwylo'r drygionus.
11
Heuwyd goleuni ar y cyfiawn,
a llawenydd ar yr uniawn o galon.
12
Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, rai cyfiawn,
a moliannwch ei enw sanctaidd.
1
Salm. Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,2
Gwnaeth yr ARGLWYDD ei fuddugoliaeth yn hysbys,
datguddiodd ei gyfiawnder o flaen y cenhedloedd.
3
Cofiodd ei gariad a'i ffyddlondeb
tuag at dŷ Israel;
gwelodd holl gyrrau'r ddaear
fuddugoliaeth ein Duw.
4
Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear,
canwch mewn llawenydd a rhowch fawl.
5
Canwch fawl i'r ARGLWYDD â'r delyn,
â'r delyn ac â sain cân.
6
 thrwmpedau ac â sain utgorn
bloeddiwch o flaen y Brenin, yr ARGLWYDD.
7
Rhued y môr a'r cyfan sydd ynddo,
y byd a phawb sy'n byw ynddo.
8
Bydded i'r dyfroedd guro dwylo;
bydded i'r mynyddoedd ganu'n llawen gyda'i gilydd
9
o flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dyfod i farnu'r ddaear;
bydd yn barnu'r byd â chyfiawnder,
a'r bobloedd ag uniondeb.
1
Y mae'r ARGLWYDD yn frenin, cryna'r bobloedd;2
Y mae'r ARGLWYDD yn fawr yn Seion,
y mae'n ddyrchafedig uwch yr holl bobloedd.
3
Bydded iddynt foli dy enw mawr ac ofnadwy—
sanctaidd yw ef.
4
Un cryf sydd frenin; y mae'n caru cyfiawnder.
Ti sydd wedi sefydlu uniondeb;
gwnaethost farn a chyfiawnder yn Jacob.
5
Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw;
ymgrymwch o flaen ei droedfainc—
sanctaidd yw ef.
6
Yr oedd Moses ac Aaron ymhlith ei offeiriaid,
a Samuel ymhlith y rhai a alwodd ar ei enw;
galwasant ar yr ARGLWYDD, ac atebodd hwy.
7
Llefarodd wrthynt mewn colofn gwmwl;
cadwasant ei dystiolaethau a'r ddeddf a roddodd iddynt.
8
O ARGLWYDD, ein Duw, atebaist hwy;
Duw yn maddau fuost iddynt,
ond yn dial eu camweddau.
9
Dyrchafwch yr ARGLWYDD ein Duw,
ymgrymwch yn ei fynydd sanctaidd—
sanctaidd yw'r ARGLWYDD ein Duw.
1
Salm. I ddiolch. Bloeddiwch mewn gorfoledd i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear.2
Addolwch yr ARGLWYDD mewn llawenydd,
dewch o'i flaen â chân.
3
Gwybyddwch mai'r ARGLWYDD sydd Dduw;
ef a'n gwnaeth, a'i eiddo ef ydym,
ei bobl a defaid ei borfa.
4
Dewch i mewn i'w byrth â diolch,
ac i'w gynteddau â mawl.
Diolchwch iddo, bendithiwch ei enw.
5
Oherwydd da yw'r ARGLWYDD;
y mae ei gariad hyd byth,
a'i ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
1
I Ddafydd. Salm. Canaf am ffyddlondeb a chyfiawnder;2
Rhof sylw i'r ffordd berffaith;
pa bryd y deui ataf?
Rhodiaf â chalon gywir
ymysg fy nhylwyth;
3
ni osodaf fy llygaid
ar ddim annheilwng.
Cas gennyf yr un sy'n twyllo;
nid oes a wnelwyf ddim ag ef.
4
Bydd y gwyrgam o galon yn troi oddi wrthyf,
ac ni fyddaf yn cymdeithasu â'r drwg.
5
Pwy bynnag sy'n enllibio'i gymydog yn ddirgel,
rhof daw arno;
y ffroenuchel a'r balch,
ni allaf ei oddef.
6
Ond y mae fy llygaid ar ffyddloniaid y tir,
iddynt gael trigo gyda mi;
y sawl a rodia yn y ffordd berffaith
a fydd yn fy ngwasanaethu.
7
Ni chaiff unrhyw un sy'n twyllo
drigo yn fy nhŷ,
nac unrhyw un sy'n dweud celwydd
aros yn fy ngŵydd.
8
Fore ar ôl bore rhof daw
ar holl rai drygionus y wlad,
a thorraf ymaith o ddinas yr ARGLWYDD
yr holl wneuthurwyr drygioni.
1
Gweddi'r gostyngedig, pan yw'n wan ac yn bwrw ei gŵyn o flaen yr ARGLWYDD. ARGLWYDD, clyw fy ngweddi,2
Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf
yn nydd fy nghyfyngder;
tro dy glust ataf,
brysia i'm hateb yn y dydd y galwaf.
3
Oherwydd y mae fy nyddiau'n darfod fel mwg,
a'm hesgyrn yn llosgi fel ffwrn.
4
Yr wyf wedi fy nharo, ac yn gwywo fel glaswellt;
yr wyf yn darfod o beidio â bwyta.
5
Oherwydd sŵn fy ochneidio
y mae fy esgyrn yn glynu wrth fy nghnawd.
6
Yr wyf fel pelican mewn anialwch,
ac fel tylluan mewn adfeilion.
7
Yr wyf yn methu cysgu,
ac fel aderyn unig ar do.
8
Y mae fy ngelynion yn fy ngwawdio trwy'r amser,
a'm gwatwarwyr yn defnyddio fy enw fel melltith.
9
Yr wyf yn bwyta lludw fel bara,
ac yn cymysgu fy niod â dagrau,
10
o achos dy lid a'th ddigofaint,
oherwydd cydiaist ynof a'm bwrw o'r neilltu.
11
Y mae fy mywyd fel cysgod hwyrddydd;
yr wyf yn gwywo fel glaswelltyn.
12
Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, wedi dy orseddu am byth,
a phery dy enw dros y cenedlaethau.
13
Byddi'n codi ac yn trugarhau wrth Seion;
y mae'n adeg i dosturio wrthi,
oherwydd fe ddaeth yr amser.
14
Y mae dy weision yn hoffi ei meini,
ac yn tosturio wrth ei llwch.
15
Bydd y cenhedloedd yn ofni enw'r ARGLWYDD,
a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant.
16
Oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn adeiladu Seion,
bydd yn ymddangos yn ei ogoniant;
17
bydd yn gwrando ar weddi'r gorthrymedig,
ac ni fydd yn diystyru eu herfyniad.
18
Bydded hyn yn ysgrifenedig i'r genhedlaeth i ddod,
fel bod pobl sydd eto heb eu geni yn moli'r ARGLWYDD:
19
ddarfod iddo edrych i lawr o'i uchelder sanctaidd,
i'r ARGLWYDD edrych o'r nefoedd ar y ddaear,
20
i wrando ocheneidiau carcharorion
a rhyddhau'r rhai oedd i farw,
21
fel bod cyhoeddi enw'r ARGLWYDD yn Seion,
a'i foliant yn Jerwsalem,
22
pan fo pobloedd a theyrnasoedd
yn ymgynnull ynghyd i addoli'r ARGLWYDD.
23
Y mae wedi sigo fy nerth ar y daith,
ac wedi byrhau fy nyddiau.
24
Dywedaf, “O fy Nuw, paid â'm cymryd yng nghanol fy nyddiau,
oherwydd y mae dy flynyddoedd di dros yr holl genedlaethau.
25
“Gynt fe osodaist sylfeini'r ddaear,
a gwaith dy ddwylo yw'r nefoedd.
26
Y maent hwy yn darfod, ond yr wyt ti yn aros;
y maent i gyd yn treulio fel dilledyn.
Yr wyt yn eu newid fel gwisg,
ac y maent yn diflannu;
27
ond yr wyt ti yr un,
a'th flynyddoedd heb ddiwedd.
28
Bydd plant dy weision yn byw'n ddiogel,
a'u disgynyddion yn sicr o'th flaen.”
1
I Ddafydd. Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD,2
Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD,
a phaid ag anghofio'i holl ddoniau:
3
ef sy'n maddau fy holl gamweddau,
yn iacháu fy holl afiechyd;
4
ef sy'n gwaredu fy mywyd o'r pwll,
ac yn fy nghoroni â chariad a thrugaredd;
5
ef sy'n fy nigoni â daioni dros fy holl ddyddiau
i adnewyddu fy ieuenctid fel eryr.
6
Y mae'r ARGLWYDD yn gweithredu cyfiawnder
a barn i'r holl rai gorthrymedig.
7
Dysgodd ei ffyrdd i Moses,
a'i weithredoedd i blant Israel.
8
Trugarog a graslon yw'r ARGLWYDD,
araf i ddigio a llawn ffyddlondeb.
9
Nid yw'n ceryddu'n ddiddiwedd,
nac yn meithrin ei ddicter am byth.
10
Ni wnaeth â ni yn ôl ein pechodau,
ac ni thalodd i ni yn ôl ein camweddau.
11
Oherwydd fel y mae'r nefoedd uwchben y ddaear,
y mae ei gariad ef dros y rhai sy'n ei ofni;
12
cyn belled ag y mae'r dwyrain o'r gorllewin
y pellhaodd ein pechodau oddi wrthym.
13
Fel y mae tad yn tosturio wrth ei blant,
felly y tosturia'r ARGLWYDD wrth y rhai sy'n ei ofni.
14
Oherwydd y mae ef yn gwybod ein deunydd,
yn cofio mai llwch ydym.
15
Y mae dyddiau dyn fel glaswelltyn;
y mae'n blodeuo fel blodeuyn y maes—
16
pan â'r gwynt drosto fe ddiflanna,
ac nid yw ei le'n ei adnabod mwyach.
17
Ond y mae ffyddlondeb yr ARGLWYDD o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb
ar y rhai sy'n ei ofni,
a'i gyfiawnder i blant eu plant,
18
i'r rhai sy'n cadw ei gyfamod,
yn cofio'i orchmynion ac yn ufuddhau.
19
Gosododd yr ARGLWYDD ei orsedd yn y nefoedd,
ac y mae ei frenhiniaeth ef yn rheoli pob peth.
20
Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei angylion,
y rhai cedyrn sy'n gwneud ei air,
ac yn ufuddhau i'w eiriau.
21
Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl luoedd,
ei weision sy'n gwneud ei ewyllys.
22
Bendithiwch yr ARGLWYDD, ei holl weithredoedd,
ym mhob man o dan ei lywodraeth.
Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD.
1
Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD.2
a'th orchuddio â goleuni fel mantell.
Yr wyt yn taenu'r nefoedd fel pabell,
3
yn gosod tulathau dy balas ar y dyfroedd,
yn cymryd y cymylau'n gerbyd,
yn marchogaeth ar adenydd y gwynt,
4
yn gwneud y gwyntoedd yn negeswyr,
a'r fflamau tân yn weision.
5
Gosodaist y ddaear ar ei sylfeini,
fel na fydd yn symud byth bythoedd;
6
gwnaethost i'r dyfnder ei gorchuddio fel dilledyn,
ac y mae dyfroedd yn sefyll goruwch y mynyddoedd.
7
Gan dy gerydd di fe ffoesant,
gan sŵn dy daranau ciliasant draw,
8
a chodi dros fynyddoedd a disgyn i'r dyffrynnoedd,
i'r lle a bennaist ti iddynt;
9
rhoist iddynt derfyn nad ydynt i'w groesi,
rhag iddynt ddychwelyd a gorchuddio'r ddaear.
10
Yr wyt yn gwneud i ffynhonnau darddu mewn hafnau,
yn gwneud iddynt lifo rhwng y mynyddoedd;
11
rhônt ddiod i holl fwystfilod y maes,
a chaiff asynnod gwyllt eu disychedu;
12
y mae adar y nefoedd yn nythu yn eu hymyl,
ac yn trydar ymysg y canghennau.
13
Yr wyt yn dyfrhau'r mynyddoedd o'th balas;
digonir y ddaear trwy dy ddarpariaeth.
14
Yr wyt yn gwneud i'r gwellt dyfu i'r gwartheg,
a phlanhigion at wasanaeth pobl,
i ddwyn allan fwyd o'r ddaear,
15
a gwin i lonni calonnau pobl,
olew i ddisgleirio'u hwynebau,
a bara i gynnal eu calonnau.
16
Digonir y coedydd cryfion ,
y cedrwydd Lebanon a blannwyd,
17
lle mae'r adar yn nythu,
a'r ciconia yn cartrefu yn eu brigau.
18
Y mae'r mynyddoedd uchel ar gyfer geifr,
ac y mae'r clogwyni yn lloches i'r brochod.
19
Yr wyt yn gwneud i'r lleuad nodi'r tymhorau,
ac i'r haul wybod pryd i fachlud.
20
Trefnaist dywyllwch, fel bod nos,
a holl anifeiliaid y goedwig yn ymlusgo allan,
21
gyda'r llewod ifanc yn rhuo am ysglyfaeth,
ac yn ceisio eu bwyd oddi wrth Dduw.
22
Ond pan gyfyd yr haul, y maent yn mynd ymaith,
ac yn gorffwyso yn eu ffeuau.
23
A daw pobl allan i weithio,
ac at eu llafur hyd yr hwyrnos.
24
Mor niferus yw dy weithredoedd, O ARGLWYDD!
Gwnaethost y cyfan mewn doethineb;
y mae'r ddaear yn llawn o'th greaduriaid.
25
Dyma'r môr mawr a llydan,
gydag ymlusgiaid dirifedi
a chreaduriaid bach a mawr.
26
Arno y mae'r llongau yn tramwyo,
a Lefiathan, a greaist i chwarae ynddo.
27
Y mae'r cyfan ohonynt yn dibynnu arnat ti
i roi iddynt eu bwyd yn ei bryd.
28
Pan roddi iddynt, y maent yn ei gasglu ynghyd;
pan agori dy law, cânt eu diwallu'n llwyr.
29
Ond pan guddi dy wyneb, fe'u drysir;
pan gymeri eu hanadl, fe ddarfyddant,
a dychwelyd i'r llwch.
30
Pan anfoni dy anadl, cânt eu creu,
ac yr wyt yn adnewyddu wyneb y ddaear.
31
Bydded gogoniant yr ARGLWYDD dros byth,
a bydded iddo lawenhau yn ei weithredoedd.
32
Pan yw'n edrych ar y ddaear, y mae'n crynu;
pan yw'n cyffwrdd â'r mynyddoedd, y maent yn mygu.
33
Canaf i'r ARGLWYDD tra byddaf byw,
rhof foliant i Dduw tra byddaf.
34
Bydded fy myfyrdod yn gymeradwy ganddo;
yr wyf yn llawenhau yn yr ARGLWYDD.
35
Bydded i'r pechaduriaid ddarfod o'r tir,
ac na fydded y drygionus mwyach.
Fy enaid, bendithia'r ARGLWYDD.
Molwch yr ARGLWYDD.
1
Diolchwch i'r ARGLWYDD. Galwch ar ei enw,2
Canwch iddo, moliannwch ef,
dywedwch am ei holl ryfeddodau.
3
Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd;
llawenhaed calon y rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD.
4
Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth,
ceisiwch ei wyneb bob amser.
5
Cofiwch y rhyfeddodau a wnaeth,
ei wyrthiau a'r barnedigaethau a gyhoeddodd,
6
chwi ddisgynyddion Abraham, ei was,
disgynyddion Jacob, ei etholedig.
7
Ef yw'r ARGLWYDD ein Duw,
ac y mae ei farnedigaethau dros yr holl ddaear.
8
Y mae'n cofio ei gyfamod dros byth,
gair ei orchymyn hyd fil o genedlaethau,
9
sef y cyfamod a wnaeth ag Abraham,
a'i lw i Isaac—
10
yr hyn a osododd yn ddeddf i Jacob,
ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
11
a dweud, “I chwi y rhoddaf wlad Canaan
yn gyfran eich etifeddiaeth.”
12
Pan oeddent yn fychan o rif,
yn ychydig, ac yn grwydriaid yn y wlad,
13
yn crwydro o genedl i genedl,
ac o un deyrnas at bobl eraill,
14
ni adawodd i neb eu darostwng,
ond ceryddodd frenhinoedd o'u hachos,
15
a dweud, “Peidiwch â chyffwrdd â'm heneiniog,
na gwneud niwed i'm proffwydi.”
16
Pan alwodd am newyn dros y wlad,
a thorri ymaith eu cynhaliaeth o fara,
17
yr oedd wedi anfon gŵr o'u blaenau,
Joseff, a werthwyd yn gaethwas.
18
Doluriwyd ei draed yn y cyffion,
a rhoesant haearn am ei wddf,
19
nes i'r hyn a ddywedodd ef ddod yn wir,
ac i air yr ARGLWYDD ei brofi'n gywir.
20
Anfonodd y brenin i'w ryddhau—
brenin y cenhedloedd yn ei wneud yn rhydd;
21
gwnaeth ef yn feistr ar ei dŷ,
ac yn llywodraethwr ar ei holl eiddo,
22
i hyfforddi ei dywysogion yn ôl ei ddymuniad,
ac i ddysgu doethineb i'w henuriaid.
23
Yna daeth Israel hefyd i'r Aifft,
a Jacob i grwydro yn nhir Ham.
24
A gwnaeth yr Arglwydd ei bobl yn ffrwythlon iawn,
ac aethant yn gryfach na'u gelynion.
25
Trodd yntau eu calon i gasáu ei bobl,
ac i ymddwyn yn ddichellgar at ei weision.
26
Yna anfonodd ei was Moses,
ac Aaron, yr un yr oedd wedi ei ddewis,
27
a thrwy eu geiriau hwy gwnaeth arwyddion
a gwyrthiau yn nhir Ham.
28
Anfonodd dywyllwch, ac aeth yn dywyll,
eto yr oeddent yn gwrthryfela yn erbyn ei eiriau.
29
Trodd eu dyfroedd yn waed,
a lladdodd eu pysgod.
30
Llanwyd eu tir â llyffaint,
hyd yn oed ystafelloedd eu brenhinoedd.
31
Pan lefarodd ef, daeth haid o bryfed
a llau trwy'r holl wlad.
32
Rhoes iddynt genllysg yn lle glaw,
a mellt yn fflachio trwy eu gwlad.
33
Trawodd y gwinwydd a'r ffigyswydd,
a malurio'r coed trwy'r wlad.
34
Pan lefarodd ef, daeth locustiaid
a lindys heb rifedi,
35
nes iddynt fwyta'r holl laswellt trwy'r wlad,
a difa holl gynnyrch y ddaear.
36
A thrawodd bob cyntafanedig yn y wlad,
blaenffrwyth eu holl nerth.
37
Yna dygodd hwy allan gydag arian ac aur,
ac nid oedd un yn baglu ymysg y llwythau.
38
Llawenhaodd yr Eifftiaid pan aethant allan,
oherwydd bod arnynt eu hofn hwy.
39
Lledaenodd gwmwl i'w gorchuddio,
a thân i oleuo iddynt yn y nos.
40
Pan fu iddynt ofyn, anfonodd soflieir iddynt,
a digonodd hwy â bara'r nefoedd.
41
Holltodd graig nes bod dŵr yn pistyllio,
ac yn llifo fel afon trwy'r diffeithwch.
42
Oherwydd yr oedd yn cofio ei addewid sanctaidd
i Abraham ei was.
43
Dygodd ei bobl allan mewn llawenydd,
ei rai etholedig mewn gorfoledd.
44
Rhoes iddynt diroedd y cenhedloedd,
a chymerasant feddiant o ffrwyth llafur pobloedd,
45
er mwyn iddynt gadw ei ddeddfau,
ac ufuddhau i'w gyfreithiau.
Molwch yr ARGLWYDD.
1
Molwch yr ARGLWYDD.2
Pwy all draethu gweithredoedd nerthol yr ARGLWYDD,
neu gyhoeddi ei holl foliant?
3
Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw barn,
ac yn gwneud cyfiawnder bob amser.
4
Cofia fi, ARGLWYDD, pan wnei ffafr â'th bobl;
ymwêl â mi, pan fyddi'n gwaredu,
5
imi gael gweld llwyddiant y rhai a ddewisi,
a llawenhau yn llawenydd dy genedl,
a gorfoleddu gyda'th etifeddiaeth di.
6
Yr ydym ni, fel ein hynafiaid, wedi pechu;
yr ydym wedi troseddu a gwneud drygioni.
7
Pan oedd ein hynafiaid yn yr Aifft
ni wnaethant sylw o'th ryfeddodau,
na chofio maint dy ffyddlondeb,
ond gwrthryfela yn erbyn y Goruchaf ger y Môr Coch.
8
Ond gwaredodd ef hwy er mwyn ei enw,
er mwyn dangos ei rym.
9
Ceryddodd y Môr Coch ac fe sychodd,
ac arweiniodd hwy trwy'r dyfnder fel pe trwy'r anialwch.
10
Gwaredodd hwy o law'r rhai oedd yn eu casáu,
a'u harbed o law'r gelyn.
11
Caeodd y dyfroedd am eu gwrthwynebwyr,
ac nid arbedwyd yr un ohonynt.
12
Yna credasant ei eiriau,
a chanu mawl iddo.
13
Ond yn fuan yr oeddent wedi anghofio ei weithredoedd,
ac nid oeddent yn aros am ei gyngor.
14
Daeth eu blys drostynt yn yr anialwch,
ac yr oeddent yn profi Duw yn y diffeithwch.
15
Rhoes yntau iddynt yr hyn yr oeddent yn ei ofyn,
ond anfonodd nychdod i'w mysg.
16
Yr oeddent yn cenfigennu yn y gwersyll wrth Moses,
a hefyd wrth Aaron, un sanctaidd yr ARGLWYDD.
17
Yna agorodd y ddaear a llyncu Dathan,
a gorchuddio cwmni Abiram.
18
Torrodd tân allan ymhlith y cwmni,
a llosgwyd y drygionus yn y fflamau.
19
Gwnaethant lo yn Horeb,
ac ymgrymu i'r ddelw,
20
gan newid yr un oedd yn ogoniant iddynt
am ddelw o ych yn pori gwellt.
21
Yr oeddent wedi anghofio Duw, eu Gwaredydd,
a oedd wedi gwneud pethau mawrion yn yr Aifft,
22
pethau rhyfeddol yng ngwlad Ham,
a phethau ofnadwy ger y Môr Coch.
23
Felly dywedodd ef y byddai'n eu dinistrio,
oni bai i Moses, yr un a ddewisodd,
sefyll yn y bwlch o'i flaen,
i droi'n ôl ei ddigofaint rhag eu dinistrio.
24
Yna bu iddynt ddilorni'r wlad hyfryd,
ac nid oeddent yn credu ei air;
25
yr oeddent yn grwgnach yn eu pebyll,
a heb wrando ar lais yr ARGLWYDD.
26
Cododd yntau ei law a thyngu
y byddai'n peri iddynt syrthio yn yr anialwch,
27
ac yn gwasgaru eu disgynyddion i blith y cenhedloedd,
a'u chwalu trwy'r gwledydd.
28
Yna aethant i gyfathrach â Baal-peor,
a bwyta ebyrth y meirw;
29
yr oeddent wedi cythruddo'r ARGLWYDD â'u gweithredoedd,
a thorrodd pla allan yn eu mysg.
30
Ond cododd Phinees a'u barnu,
ac ataliwyd y pla.
31
A chyfrifwyd hyn yn gyfiawnder iddo
dros y cenedlaethau am byth.
32
Bu iddynt gythruddo'r Arglwydd hefyd wrth ddyfroedd Meriba,
a bu'n ddrwg ar Moses o'u plegid,
33
oherwydd gwnaethant ei ysbryd yn chwerw,
ac fe lefarodd yntau yn fyrbwyll.
34
Ni fu iddynt ddinistrio'r bobloedd
y dywedodd yr ARGLWYDD amdanynt,
35
ond cymysgu gyda'r cenhedloedd,
a dysgu gwneud fel hwythau.
36
Yr oeddent yn addoli eu delwau,
a bu hynny'n fagl iddynt.
37
Yr oeddent yn aberthu eu meibion
a'u merched i'r demoniaid.
38
Yr oeddent yn tywallt gwaed dieuog,
gwaed eu meibion a'u merched
yr oeddent yn eu haberthu i ddelwau Canaan;
a halogwyd y ddaear â'u gwaed.
39
Felly aethant yn aflan trwy'r hyn a wnaent,
ac yn buteiniaid trwy eu gweithredoedd.
40
Yna cythruddodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl,
a ffieiddiodd ei etifeddiaeth;
41
rhoddodd hwy yn llaw'r cenhedloedd,
a llywodraethwyd hwy gan y rhai oedd yn eu casáu;
42
fe'u gorthrymwyd gan eu gelynion,
a'u darostwng dan eu hawdurdod.
43
Lawer gwaith y gwaredodd hwy,
ond yr oeddent hwy yn wrthryfelgar eu bwriad,
ac yn cael eu darostwng oherwydd eu drygioni.
44
Er hynny, cymerodd sylw o'u cyfyngder
pan glywodd eu cri am gymorth;
45
cofiodd ei gyfamod â hwy,
ac edifarhau oherwydd ei gariad mawr;
46
parodd iddynt gael trugaredd
gan bawb oedd yn eu caethiwo.
47
Gwareda ni, O ARGLWYDD ein Duw,
a chynnull ni o blith y cenhedloedd,
inni gael rhoi diolch i'th enw sanctaidd,
ac ymhyfrydu yn dy fawl.
48
Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel,
o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb;
dyweded yr holl bobl, “Amen.”
Molwch yr ARGLWYDD.
1
Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw,2
Fel yna dyweded y rhai a waredwyd gan yr ARGLWYDD,
y rhai a waredodd ef o law'r gelyn,
3
a'u cynnull ynghyd o'r gwledydd,
o'r dwyrain a'r gorllewin,
o'r gogledd a'r de.
4
Aeth rhai ar goll mewn anialdir a diffeithwch,
heb gael ffordd at ddinas i fyw ynddi;
5
yr oeddent yn newynog ac yn sychedig,
ac yr oedd eu nerth yn pallu.
6
Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,
a gwaredodd hwy o'u hadfyd;
7
arweiniodd hwy ar hyd ffordd union
i fynd i ddinas i fyw ynddi.
8
Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,
ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
9
Oherwydd rhoes eu digon i'r sychedig,
a llenwi'r newynog â phethau daionus.
10
Yr oedd rhai yn eistedd mewn tywyllwch dudew,
yn gaethion mewn gofid a haearn,
11
am iddynt wrthryfela yn erbyn geiriau Duw,
a dirmygu cyngor y Goruchaf.
12
Llethwyd eu calon gan flinder;
syrthiasant heb neb i'w hachub.
13
Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,
a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;
14
daeth â hwy allan o'r tywyllwch dudew,
a drylliodd eu gefynnau.
15
Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,
ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
16
Oherwydd torrodd byrth pres,
a drylliodd farrau heyrn.
17
Yr oedd rhai yn ynfyd; oherwydd eu ffyrdd pechadurus
a'u camwedd fe'u cystuddiwyd;
18
aethant i gasáu pob math o fwyd,
a daethant yn agos at byrth angau.
19
Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,
a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;
20
anfonodd ei air ac iachaodd hwy,
a gwaredodd hwy o ddistryw.
21
Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,
ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
22
Bydded iddynt ddod ag offrymau diolch,
a dweud am ei weithredoedd mewn gorfoledd.
23
Aeth rhai i'r môr mewn llongau,
a gwneud eu gorchwylion ar ddyfroedd mawr;
24
gwelsant hwy weithredoedd yr ARGLWYDD,
a'i ryfeddodau yn y dyfnder.
25
Pan lefarai ef, deuai gwynt stormus,
a pheri i'r tonnau godi'n uchel.
26
Cawsant eu codi i'r nefoedd a'u bwrw i'r dyfnder,
a phallodd eu dewrder yn y trybini;
27
yr oeddent yn troi yn simsan fel meddwyn,
ac wedi colli eu holl fedr.
28
Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,
a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;
29
gwnaeth i'r storm dawelu,
ac aeth y tonnau'n ddistaw;
30
yr oeddent yn llawen am iddi lonyddu,
ac arweiniodd hwy i'r hafan a ddymunent.
31
Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,
ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.
32
Bydded iddynt ei ddyrchafu yng nghynulleidfa'r bobl,
a'i foliannu yng nghyngor yr henuriaid.
33
Y mae ef yn troi afonydd yn ddiffeithwch,
a ffynhonnau dyfroedd yn sychdir;
34
y mae ef yn troi tir ffrwythlon yn grastir,
oherwydd drygioni'r rhai sy'n byw yno.
35
Y mae ef yn troi diffeithwch yn llynnau dŵr,
a thir sych yn ffynhonnau.
36
Gwna i'r newynog fyw yno,
a sefydlant ddinas i fyw ynddi;
37
heuant feysydd a phlannu gwinwydd,
a chânt gnydau toreithiog.
38
Bydd ef yn eu bendithio ac yn eu hamlhau,
ac ni fydd yn gadael i'w gwartheg leihau.
39
Pan fyddant yn lleihau ac wedi eu darostwng
trwy orthrwm, helbul a gofid,
40
bydd ef yn tywallt gwarth ar dywysogion,
ac yn peri iddynt grwydro trwy'r anialwch diarffordd.
41
Ond bydd yn codi'r tlawd o'i ofid,
ac yn gwneud ei deulu fel praidd.
42
Bydd yr uniawn yn gweld ac yn llawenhau,
ond pob un drygionus yn atal ei dafod.
43
Pwy bynnag sydd ddoeth, rhoed sylw i'r pethau hyn;
bydded iddynt ystyried ffyddlondeb yr ARGLWYDD.
1
Cân. Salm. I Ddafydd. Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw;2
Deffro di, nabl a thelyn.
Fe ddeffroaf ar doriad gwawr.
3
Rhof ddiolch i ti, O ARGLWYDD, ymysg y bobloedd,
a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd,
4
oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd,
a'th wirionedd hyd y cymylau.
5
Dyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw,
a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.
6
Er mwyn gwaredu dy anwyliaid,
achub â'th ddeheulaw, ac ateb ni.
7
Llefarodd Duw yn ei gysegr,
“Yr wyf yn gorfoleddu wrth rannu Sichem,
a mesur dyffryn Succoth yn rhannau;
8
eiddof fi yw Gilead a Manasse;
Effraim yw fy helm,
a Jwda yw fy nheyrnwialen;
9
Moab yw fy nysgl ymolchi,
ac at Edom y taflaf fy esgid;
ac yn erbyn Philistia y gorfoleddaf.”
10
Pwy a'm dwg i'r ddinas gaerog?
Pwy a'm harwain i Edom?
11
Onid ti, O Dduw, er iti'n gwrthod,
a pheidio â mynd allan gyda'n byddinoedd?
12
Rho inni gymorth rhag y gelyn,
oherwydd ofer yw ymwared dynol.
13
Gyda Duw fe wnawn wrhydri;
ef fydd yn sathru ein gelynion.
1
I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm. O Dduw fy moliant, paid â thewi.2
Oherwydd agorasant eu genau drygionus a thwyllodrus yn fy erbyn,
a llefaru wrthyf â thafod celwyddog,
3
a'm hamgylchu â geiriau casineb,
ac ymosod arnaf heb achos.
4
Am fy ngharedigrwydd y'm cyhuddant,
a minnau'n gweddïo drostynt.
5
Talasant imi ddrwg am dda,
a chasineb am gariad.
6
Apwyntier un drwg yn ei erbyn,
a chyhuddwr i sefyll ar ei dde.
7
Pan fernir ef, caffer ef yn euog,
ac ystyrier ei weddi'n bechod.
8
Bydded ei ddyddiau'n ychydig,
a chymered arall ei swydd;
9
bydded ei blant yn amddifad
a'i wraig yn weddw.
10
Crwydred ei blant i gardota—
wedi eu troi allan o'u hadfeilion.
11
Cymered y benthyciwr bopeth sydd ganddo,
a dyged estroniaid ei enillion.
12
Na fydded i neb drugarhau wrtho,
na gwneud ffafr â'i blant amddifad.
13
Torrer ymaith ei linach,
a'i henw wedi ei ddileu o fewn cenhedlaeth.
14
Dyger i gof ddrygioni ei hynafiaid gerbron yr ARGLWYDD,
ac na ddileer pechodau ei fam.
15
Bydded hyn mewn cof gan yr ARGLWYDD yn wastad,
a bydded iddo dorri ymaith eu coffa o'r tir.
16
Oherwydd ni chofiodd hwn fod yn ffyddlon,
ond erlidiodd y gorthrymedig a'r tlawd,
a'r drylliedig o galon hyd angau.
17
Carodd felltithio: doed melltith arno yntau.
Ni hoffai fendithio; pell y bo bendith oddi wrtho yntau.
18
Gwisgodd felltith amdano fel dilledyn;
suddodd i'w gnawd fel dŵr,
ac fel olew i'w esgyrn.
19
Bydded fel y dillad a wisga,
ac fel y gwregys sydd amdano bob amser.
20
Hyn fyddo tâl yr ARGLWYDD i'm cyhuddwyr,
sy'n llefaru drygioni yn fy erbyn.
21
Ond tydi, fy ARGLWYDD Dduw,
gweithreda drosof er mwyn dy enw;
oherwydd daioni dy gariad, gwareda fi.
22
Yr wyf yn druan a thlawd,
a'm calon mewn gwewyr ynof.
23
Yr wyf yn darfod fel cysgod hwyrddydd;
fe'm gyrrir ymaith fel locust.
24
Y mae fy ngliniau'n wan gan ympryd,
a'm corff yn denau o ddiffyg braster.
25
Deuthum yn gyff gwawd iddynt;
pan welant fi, ysgydwant eu pennau.
26
Cynorthwya fi, O ARGLWYDD fy Nuw,
achub fi yn ôl dy drugaredd,
27
a gad iddynt wybod mai dy law di ydyw,
mai ti, ARGLWYDD, a'i gwnaeth.
28
Pan fônt hwy'n melltithio, bendithia di;
cywilyddier fy ngwrthwynebwyr, a bydded dy was yn llawen.
29
Gwisger fy nghyhuddwyr â gwarth;
bydded eu cywilydd fel mantell amdanynt.
30
Clodforaf fi yr ARGLWYDD â'm genau,
a moliannaf ef yng ngŵydd cynulleidfa.
31
Oherwydd saif ef ar ddeheulaw'r tlawd,
i'w achub rhag ei gyhuddwyr.
1
I Ddafydd. Salm. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth fy Arglwydd:2
Y mae'r ARGLWYDD yn estyn i ti o Seion deyrnwialen awdurdod;
llywodraetha dithau yng nghanol dy elynion.
3
Y mae dy bobl yn deyrngar iti ar ddydd dy eni
mewn gogoniant sanctaidd o groth y wawr;
fel gwlith y'th genhedlais di.
4
Tyngodd yr ARGLWYDD, ac ni newidia,
“Yr wyt yn offeiriad am byth
yn ôl urdd Melchisedec.”
5
Y mae'r Arglwydd ar dy ddeheulaw
yn dinistrio brenhinoedd yn nydd ei ddicter.
6
Fe weinydda farn ymysg y cenhedloedd,
a'u llenwi â chelanedd;
dinistria benaethiaid
dros ddaear lydan.
7
Fe yf o'r nant ar y ffordd,
ac am hynny y cwyd ei ben.
1
Molwch yr ARGLWYDD.2
Mawr yw gweithredoedd yr ARGLWYDD,
fe'u harchwilir gan bawb sy'n ymhyfrydu ynddynt.
3
Llawn anrhydedd a mawredd yw ei waith,
a saif ei gyfiawnder am byth.
4
Gwnaeth inni gofio ei ryfeddodau;
graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD.
5
Mae'n rhoi bwyd i'r rhai sy'n ei ofni,
ac yn cofio ei gyfamod am byth.
6
Dangosodd i'w bobl rym ei weithredoedd
trwy roi iddynt etifeddiaeth y cenhedloedd.
7
Y mae gwaith ei ddwylo yn gywir a chyfiawn,
a'i holl orchmynion yn ddibynadwy;
8
y maent wedi eu sefydlu hyd byth,
ac wedi eu llunio o wirionedd ac uniondeb.
9
Rhoes waredigaeth i'w bobl,
a gorchymyn ei gyfamod dros byth.
Sanctaidd ac ofnadwy yw ei enw.
10
Dechrau doethineb yw ofn yr ARGLWYDD;
y mae deall da gan bawb sy'n ufudd.
Y mae ei foliant yn para byth.
1
Molwch yr ARGLWYDD.2
Bydd ei ddisgynyddion yn gedyrn ar y ddaear,
yn genhedlaeth uniawn wedi ei bendithio.
3
Bydd golud a chyfoeth yn ei dŷ,
a bydd ei gyfiawnder yn para am byth.
4
Fe lewyrcha goleuni mewn tywyllwch i'r uniawn;
y mae'r cyfiawn yn raslon a thrugarog.
5
Da yw i bob un drugarhau a rhoi benthyg,
a threfnu ei orchwylion yn onest;
6
oherwydd ni symudir ef o gwbl,
a chofir y cyfiawn dros byth.
7
Nid yw'n ofni newyddion drwg;
y mae ei galon yn ddi-gryn, yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.
8
Y mae ei galon yn ddisigl, ac nid ofna
nes iddo weld diwedd ar ei elynion.
9
Y mae wedi rhoi'n hael i'r tlodion;
y mae ei gyfiawnder yn para am byth,
a'i gorn wedi ei ddyrchafu mewn anrhydedd.
10
Gwêl y drygionus hyn ac y mae'n ddig;
ysgyrnyga'i ddannedd a diffygia;
derfydd am obaith y drygionus.
1
Molwch yr ARGLWYDD.2
Bendigedig fyddo enw'r ARGLWYDD
o hyn allan a hyd byth.
3
O godiad haul hyd ei fachlud
bydded enw'r ARGLWYDD yn foliannus.
4
Uchel yw'r ARGLWYDD goruwch yr holl genhedloedd,
a'i ogoniant goruwch y nefoedd.
5
Pwy sydd fel yr ARGLWYDD ein Duw
yn y nefoedd neu ar y ddaear,
6
yn gosod ei orseddfainc yn uchel
a hefyd yn ymostwng i edrych yn isel?
7
Y mae ef yn codi'r gwan o'r llwch
ac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen,
8
i'w gosod gyda phendefigion,
gyda phendefigion ei bobl.
9
Rhydd deulu i'r wraig ddi-blant;
daw hi'n fam lawen i blant.
Molwch yr ARGLWYDD.
1
Pan ddaeth Israel allan o'r Aifft,2
daeth Jwda yn gysegr iddo,
ac Israel yn arglwyddiaeth iddo.
3
Edrychodd y môr a chilio,
a throdd yr Iorddonen yn ei hôl.
4
Neidiodd y mynyddoedd fel hyrddod,
a'r bryniau fel ŵyn.
5
Beth sydd arnat, fôr, dy fod yn cilio,
a'r Iorddonen, dy fod yn troi'n ôl?
6
Pam, fynyddoedd, yr ydych yn neidio fel hyrddod,
a chwithau'r bryniau, fel ŵyn?
7
Cryna, O ddaear, ym mhresenoldeb yr Arglwydd,
ym mhresenoldeb Duw Jacob,
8
sy'n troi'r graig yn llyn dŵr
a'r callestr yn ffynhonnau.
1
Nid i ni, O ARGLWYDD, nid i ni,2
Pam y mae'r cenhedloedd yn dweud,
“Ple mae eu Duw?”
3
Y mae ein Duw ni yn y nefoedd;
fe wna beth bynnag a ddymuna.
4
Arian ac aur yw eu delwau hwy,
ac wedi eu gwneud â dwylo dynol.
5
Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad,
a llygaid nad ydynt yn gweld;
6
y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed,
a ffroenau nad ydynt yn arogli;
7
y mae ganddynt ddwylo nad ydynt yn teimlo,
a thraed nad ydynt yn cerdded;
ac ni ddaw sŵn o'u gyddfau.
8
Y mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt,
ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt.
9
O Israel, ymddirieda yn yr ARGLWYDD.
Ef yw eu cymorth a'u tarian.
10
O dŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD.
Ef yw eu cymorth a'u tarian.
11
Chwi sy'n ofni'r ARGLWYDD, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD.
Ef yw eu cymorth a'u tarian.
12
Y mae'r ARGLWYDD yn ein cofio ac yn ein bendithio;
fe fendithia dŷ Israel,
fe fendithia dŷ Aaron,
13
fe fendithia'r rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD,
y bychan a'r mawr fel ei gilydd.
14
Bydded yr ARGLWYDD yn eich amlhau,
chwi a'ch plant hefyd.
15
Bydded ichwi gael bendith gan yr ARGLWYDD
a wnaeth nefoedd a daear.
16
Y nefoedd, eiddo'r ARGLWYDD yw,
ond fe roes y ddaear i ddynolryw.
17
Nid yw'r meirw yn moliannu'r ARGLWYDD,
na'r holl rai sy'n mynd i lawr i dawelwch.
18
Ond yr ydym ni'n bendithio'r ARGLWYDD
yn awr a hyd byth.
Molwch yr ARGLWYDD.
1
Yr wyf yn caru'r ARGLWYDD, am iddo wrando2
am iddo droi ei glust ataf
y dydd y gwaeddais arno.
3
Yr oedd clymau angau wedi tynhau amdanaf,
a gefynnau Sheol wedi fy nal,
a minnau'n dioddef adfyd ac ing.
4
Yna gelwais ar enw'r ARGLWYDD:
“Yr wyf yn erfyn, ARGLWYDD, gwared fi.”
5
Graslon yw'r ARGLWYDD, a chyfiawn,
ac y mae ein Duw ni'n tosturio.
6
Ceidw'r ARGLWYDD y rhai syml;
pan ddarostyngwyd fi, fe'm gwaredodd.
7
Gorffwysa unwaith eto, fy enaid,
oherwydd bu'r ARGLWYDD yn hael wrthyt;
8
oherwydd gwaredodd fy enaid rhag angau,
fy llygaid rhag dagrau,
fy nhraed rhag baglu.
9
Rhodiaf gerbron yr ARGLWYDD
yn nhir y rhai byw.
10
Yr oeddwn yn credu y byddwn wedi fy narostwng;
cefais fy nghystuddio'n drwm;
11
yn fy nghyni dywedais,
“Y mae pawb yn dwyllodrus.”
12
Sut y gallaf dalu i'r ARGLWYDD
am ei holl haelioni tuag ataf?
13
Dyrchafaf gwpan iachawdwriaeth,
a galw ar enw'r ARGLWYDD.
14
Talaf fy addunedau i'r ARGLWYDD
ym mhresenoldeb ei holl bobl.
15
Gwerthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD
yw marwolaeth ei ffyddloniaid.
16
O ARGLWYDD, dy was yn wir wyf fi,
gwas o hil gweision;
yr wyt wedi datod fy rhwymau.
17
Rhof i ti offrwm diolch,
a galw ar enw'r ARGLWYDD.
18
Talaf fy addunedau i'r ARGLWYDD
ym mhresenoldeb ei holl bobl,
19
yng nghynteddau tŷ'r ARGLWYDD
yn dy ganol di, O Jerwsalem.
Molwch yr ARGLWYDD.
1
Molwch yr ARGLWYDD, yr holl genhedloedd;2
Oherwydd mae ei gariad yn gryf tuag atom,
ac y mae ffyddlondeb yr ARGLWYDD dros byth.
Molwch yr ARGLWYDD.
1
Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw,2
Dyweded Israel yn awr,
“Y mae ei gariad hyd byth.”
3
Dyweded tŷ Aaron yn awr,
“Y mae ei gariad hyd byth.”
4
Dyweded y rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD,
“Y mae ei gariad hyd byth.”
5
O'm cyfyngder gwaeddais ar yr ARGLWYDD;
atebodd yntau fi a'm rhyddhau.
6
Y mae'r ARGLWYDD o'm tu, nid ofnaf;
beth a wna pobl i mi?
7
Y mae'r ARGLWYDD o'm tu i'm cynorthwyo,
a gwelaf ddiwedd ar y rhai sy'n fy nghasáu.
8
Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDD
nag ymddiried yn neb meidrol.
9
Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDD
nag ymddiried mewn tywysogion.
10
Daeth yr holl genhedloedd i'm hamgylchu;
yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.
11
Daethant i'm hamgylchu ar bob tu;
yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.
12
Daethant i'm hamgylchu fel gwenyn,
a llosgi fel tân mewn drain;
yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.
13
Gwthiwyd fi'n galed nes fy mod ar syrthio,
ond cynorthwyodd yr ARGLWYDD fi.
14
Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân,
ac ef yw'r un a'm hachubodd.
15
Clywch gân gwaredigaeth
ym mhebyll y rhai cyfiawn:
“Y mae deheulaw'r ARGLWYDD yn gweithredu'n rymus;
16
y mae deheulaw'r ARGLWYDD wedi ei chodi;
y mae deheulaw'r ARGLWYDD yn gweithredu'n rymus.”
17
Nid marw ond byw fyddaf,
ac adroddaf am weithredoedd yr ARGLWYDD.
18
Disgyblodd yr ARGLWYDD fi'n llym,
ond ni roddodd fi yn nwylo marwolaeth.
19
Agorwch byrth cyfiawnder i mi;
dof finnau i mewn a diolch i'r ARGLWYDD.
20
Dyma borth yr ARGLWYDD;
y cyfiawn a ddaw i mewn drwyddo.
21
Diolchaf i ti am fy ngwrando
a dod yn waredigaeth i mi.
22
Y maen a wrthododd yr adeiladwyr
a ddaeth yn brif gonglfaen.
23
Gwaith yr ARGLWYDD yw hyn,
ac y mae'n rhyfeddod yn ein golwg.
24
Dyma'r dydd y gweithredodd yr ARGLWYDD;
gorfoleddwn a llawenhawn ynddo.
25
Yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, achub ni;
yr ydym yn erfyn, ARGLWYDD, rho lwyddiant.
26
Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r ARGLWYDD.
Bendithiwn chwi o dŷ'r ARGLWYDD.
27
Yr ARGLWYDD sydd Dduw, rhoes oleuni i mi.
 changau ymunwch yn yr orymdaith
hyd at gyrn yr allor.
28
Ti yw fy Nuw, a rhoddaf ddiolch i ti;
fy Nuw, fe'th ddyrchafaf di.
29
Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw,
ac y mae ei gariad hyd byth.
1
Gwyn eu byd y rhai perffaith eu ffordd,2
Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw ei farnedigaethau,
ac yn ei geisio ef â'u holl galon,
3
y rhai nad ydynt wedi gwneud unrhyw ddrwg,
ond sy'n rhodio yn ei ffyrdd ef.
4
Yr wyt ti wedi gwneud dy ofynion yn ddeddfau
i'w cadw'n ddyfal.
5
O na allwn gerdded yn unionsyth
a chadw dy ddeddfau!
6
Yna ni'm cywilyddir os cadwaf fy llygaid
ar dy holl orchmynion.
7
Fe'th glodforaf di â chalon gywir
wrth imi ddysgu am dy farnau cyfiawn.
8
Fe gadwaf dy ddeddfau;
paid â'm gadael yn llwyr.
9
Sut y ceidw'r ifanc ei lwybr yn lân?
Trwy gadw dy air di.
10
Fe'th geisiais di â'm holl galon;
paid â gadael imi wyro oddi wrth dy orchmynion.
11
Trysorais dy eiriau yn fy nghalon
rhag imi bechu yn dy erbyn.
12
Bendigedig wyt ti, O ARGLWYDD;
dysg i mi dy ddeddfau.
13
Bûm yn ailadrodd â'm gwefusau
holl farnau dy enau.
14
Ar hyd ffordd dy farnedigaethau cefais lawenydd
sydd uwchlaw pob cyfoeth.
15
Byddaf yn myfyrio ar dy ofynion di,
ac yn cadw dy lwybrau o flaen fy llygaid.
16
Byddaf yn ymhyfrydu yn dy ddeddfau,
ac nid anghofiaf dy air.
17
Bydd dda wrth dy was; gad imi fyw,
ac fe gadwaf dy air.
18
Agor fy llygaid imi weld
rhyfeddodau dy gyfraith.
19
Ymdeithydd wyf fi ar y ddaear;
paid â chuddio dy orchmynion oddi wrthyf.
20
Y mae fy nghalon yn dihoeni o hiraeth
am dy farnau di bob amser.
21
Fe geryddaist y trahaus, y rhai melltigedig
sy'n gwyro oddi wrth dy orchmynion.
22
Tyn ymaith oddi wrthyf eu gwaradwydd a'u sarhad,
oherwydd bûm ufudd i'th farnedigaethau.
23
Er i dywysogion eistedd mewn cynllwyn yn f'erbyn,
bydd dy was yn myfyrio ar dy ddeddfau;
24
y mae dy farnedigaethau'n hyfrydwch i mi,
a hefyd yn gynghorwyr imi.
25
Y mae fy enaid yn glynu wrth y llwch;
adfywia fi yn ôl dy air.
26
Adroddais am fy hynt ac atebaist fi;
dysg i mi dy ddeddfau.
27
Gwna imi ddeall ffordd dy ofynion,
ac fe fyfyriaf ar dy ryfeddodau.
28
Y mae fy enaid yn anniddig gan ofid,
cryfha fi yn ôl dy air.
29
Gosod ffordd twyll ymhell oddi wrthyf,
a rho imi ras dy gyfraith.
30
Dewisais ffordd ffyddlondeb,
a gosod dy farnau o'm blaen.
31
Glynais wrth dy farnedigaethau.
O ARGLWYDD, paid â'm cywilyddio.
32
Dilynaf ffordd dy orchmynion,
oherwydd ehangaist fy neall.
33
O ARGLWYDD, dysg fi yn ffordd dy ddeddfau,
ac o'i chadw fe gaf wobr.
34
Rho imi ddeall, er mwyn imi ufuddhau i'th gyfraith
a'i chadw â'm holl galon;
35
gwna imi gerdded yn llwybr dy orchmynion,
oherwydd yr wyf yn ymhyfrydu ynddo.
36
Tro fy nghalon at dy farnedigaethau
yn hytrach nag at elw;
37
tro ymaith fy llygaid rhag gweld gwagedd;
adfywia fi â'th air .
38
Cyflawna i'th was yr addewid
a roddaist i'r rhai sy'n dy ofni.
39
Tro ymaith y gwaradwydd yr wyf yn ei ofni,
oherwydd y mae dy farnau'n dda.
40
Yr wyf yn dyheu am dy ofynion;
adfywia fi â'th gyfiawnder.
41
Pâr i'th gariad ddod ataf, O ARGLWYDD,
a'th iachawdwriaeth yn ôl dy addewid;
42
yna rhoddaf ateb i'r rhai sy'n fy ngwatwar,
oherwydd ymddiriedais yn dy air.
43
Paid â chymryd gair y gwirionedd o'm genau,
oherwydd fe obeithiais yn dy farnau.
44
Cadwaf dy gyfraith bob amser,
hyd byth bythoedd.
45
Rhodiaf oddi amgylch yn rhydd,
oherwydd ceisiais dy ofynion.
46
Siaradaf am dy farnedigaethau gerbron brenhinoedd,
ac ni fydd arnaf gywilydd;
47
ymhyfrydaf yn dy orchmynion
am fy mod yn eu caru.
48
Parchaf dy orchmynion
am fy mod yn eu caru,
a myfyriaf ar dy ddeddfau.
49
Cofia dy air i'th was,
y gair y gwnaethost imi ymddiried ynddo.
50
Hyn fu fy nghysur mewn adfyd,
fod dy addewid di yn fy adfywio.
51
Y mae'r trahaus yn fy ngwawdio o hyd,
ond ni throis oddi wrth dy gyfraith.
52
Yr wyf yn cofio dy farnau erioed,
ac yn cael cysur ynddynt, O ARGLWYDD.
53
Cydia digofaint ynof oherwydd y rhai drygionus
sy'n gwrthod dy gyfraith.
54
Daeth dy ddeddfau'n gân i mi
ymhle bynnag y bûm yn byw.
55
Yr wyf yn cofio dy enw yn y nos, O ARGLWYDD,
ac fe gadwaf dy gyfraith.
56
Hyn sydd wir amdanaf,
imi ufuddhau i'th ofynion.
57
Ti yw fy rhan, O ARGLWYDD;
addewais gadw dy air.
58
Yr wyf yn erfyn arnat â'm holl galon,
bydd drugarog wrthyf yn ôl dy addewid.
59
Pan feddyliaf am fy ffyrdd,
trof fy nghamre'n ôl at dy farnedigaethau;
60
brysiaf, heb oedi,
i gadw dy orchmynion.
61
Er i glymau'r drygionus dynhau amdanaf,
eto nid anghofiais dy gyfraith.
62
Codaf ganol nos i'th foliannu di
am dy farnau cyfiawn.
63
Yr wyf yn gymar i bawb sy'n dy ofni,
i'r rhai sy'n ufuddhau i'th ofynion.
64
Y mae'r ddaear, O ARGLWYDD, yn llawn o'th ffyddlondeb;
dysg i mi dy ddeddfau.
65
Gwnaethost ddaioni i'th was,
yn unol â'th air, O ARGLWYDD.
66
Dysg imi ddirnadaeth a gwybodaeth,
oherwydd yr wyf yn ymddiried yn dy orchmynion.
67
Cyn imi gael fy ngheryddu euthum ar gyfeiliorn,
ond yn awr yr wyf yn cadw dy air.
68
Yr wyt ti yn dda, ac yn gwneud daioni;
dysg i mi dy ddeddfau.
69
Y mae'r trahaus yn fy mhardduo â chelwydd,
ond yr wyf fi'n ufuddhau i'th ofynion â'm holl galon;
70
y mae eu calon hwy'n drwm gan fraster,
ond yr wyf fi'n ymhyfrydu yn dy gyfraith.
71
Mor dda yw imi gael fy ngheryddu,
er mwyn imi gael dysgu dy ddeddfau!
72
Y mae cyfraith dy enau yn well i mi
na miloedd o aur ac arian.
73
Dy ddwylo di a'm gwnaeth ac a'm lluniodd;
rho imi ddeall i ddysgu dy orchmynion.
74
Pan fydd y rhai sy'n dy ofni yn fy ngweld, fe lawenychant
am fy mod yn gobeithio yn dy air.
75
Gwn, O ARGLWYDD, fod dy farnau'n gyfiawn,
ac mai mewn ffyddlondeb yr wyt wedi fy ngheryddu.
76
Bydded dy gariad yn gysur i mi,
yn unol â'th addewid i'th was.
77
Pâr i'th drugaredd ddod ataf, fel y byddaf fyw,
oherwydd y mae dy gyfraith yn hyfrydwch i mi.
78
Cywilyddier y trahaus oherwydd i'w celwydd fy niweidio,
ond byddaf fi'n myfyrio ar dy ofynion.
79
Bydded i'r rhai sy'n dy ofni droi ataf fi,
iddynt gael gwybod dy farnedigaethau.
80
Bydded fy nghalon bob amser yn dy ddeddfau,
rhag imi gael fy nghywilyddio.
81
Y mae fy enaid yn dyheu am dy iachawdwriaeth,
ac yn gobeithio yn dy air;
82
y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy addewid;
dywedaf, “Pa bryd y byddi'n fy nghysuro?”
83
Er imi grebachu fel costrel groen mewn mwg,
eto nid anghofiaf dy ddeddfau.
84
Am ba hyd y disgwyl dy was
cyn iti roi barn ar fy erlidwyr?
85
Y mae gwŷr trahaus, rhai sy'n anwybyddu dy gyfraith,
wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.
86
Y mae dy holl orchmynion yn sicr;
pan fyddant yn fy erlid â chelwydd, cynorthwya fi.
87
Bu ond y dim iddynt fy nifetha oddi ar y ddaear,
ond eto ni throis fy nghefn ar dy ofynion.
88
Yn ôl dy gariad adfywia fi,
ac fe gadwaf farnedigaethau dy enau.
89
Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol,
wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd.
90
Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth;
seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll.
91
Yn ôl dy ordeiniadau y maent yn sefyll hyd heddiw,
oherwydd gweision i ti yw'r cyfan.
92
Oni bai i'th gyfraith fod yn hyfrydwch i mi,
byddai wedi darfod amdanaf yn fy adfyd;
93
nid anghofiaf dy ofynion hyd byth,
oherwydd trwyddynt hwy adfywiaist fi.
94
Eiddot ti ydwyf; gwareda fi,
oherwydd ceisiais dy ofynion.
95
Y mae'r drygionus yn gwylio amdanaf i'm dinistrio,
ond fe ystyriaf fi dy farnedigaethau.
96
Gwelaf fod popeth yn dod i ben,
ond nid oes terfyn i'th orchymyn di.
97
O fel yr wyf yn caru dy gyfraith!
Hi yw fy myfyrdod drwy'r dydd.
98
Y mae dy orchymyn yn fy ngwneud yn ddoethach na'm gelynion,
oherwydd y mae gyda mi bob amser.
99
Yr wyf yn fwy deallus na'm holl athrawon,
oherwydd bod dy farnedigaethau'n fyfyrdod i mi.
100
Yr wyf yn deall yn well na'r rhai hen,
oherwydd imi ufuddhau i'th ofynion.
101
Cedwais fy nhraed rhag pob llwybr drwg,
er mwyn imi gadw dy air.
102
Nid wyf wedi troi oddi wrth dy farnau,
oherwydd ti fu'n fy nghyfarwyddo.
103
Mor felys yw dy addewid i'm genau,
melysach na mêl i'm gwefusau.
104
O'th ofynion di y caf ddeall;
dyna pam yr wyf yn casáu llwybrau twyll.
105
Y mae dy air yn llusern i'm troed,
ac yn oleuni i'm llwybr.
106
Tyngais lw, a gwneud adduned
i gadw dy farnau cyfiawn.
107
Yr wyf mewn gofid mawr;
O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy air.
108
Derbyn deyrnged fy ngenau, O ARGLWYDD,
a dysg i mi dy farnedigaethau.
109
Bob dydd y mae fy mywyd yn fy nwylo,
ond nid wyf yn anghofio dy gyfraith.
110
Gosododd y drygionus rwyd i mi,
ond nid wyf wedi gwyro oddi wrth dy ofynion.
111
Y mae dy farnedigaethau yn etifeddiaeth imi am byth,
oherwydd y maent yn llonder i'm calon.
112
Yr wyf wedi gosod fy mryd ar ufuddhau i'th ddeddfau;
y mae eu gwobr yn dragwyddol.
113
Yr wyf yn casáu rhai anwadal,
ond yn caru dy gyfraith.
114
Ti yw fy lloches a'm tarian;
yr wyf yn gobeithio yn dy air.
115
Trowch ymaith oddi wrthyf, chwi rai drwg,
er mwyn imi gadw gorchmynion fy Nuw.
116
Cynnal fi yn ôl dy addewid, fel y byddaf fyw,
ac na chywilyddier fi yn fy hyder.
117
Dal fi i fyny, fel y caf waredigaeth,
imi barchu dy ddeddfau yn wastad.
118
Yr wyt yn gwrthod pawb sy'n gwyro oddi wrth dy ddeddfau,
oherwydd mae eu twyll yn ofer.
119
Yn sothach yr ystyri holl rai drygionus y ddaear;
am hynny yr wyf yn caru dy farnedigaethau.
120
Y mae fy nghnawd yn crynu gan dy arswyd,
ac yr wyf yn ofni dy farnau.
121
Gwneuthum farn a chyfiawnder;
paid â'm gadael i'm gorthrymwyr.
122
Bydd yn feichiau er lles dy was;
paid â gadael i'r trahaus fy ngorthrymu.
123
Y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy iachawdwriaeth,
ac am dy addewid o fuddugoliaeth.
124
Gwna â'th was yn ôl dy gariad,
a dysg i mi dy ddeddfau.
125
Dy was wyf fi; rho imi ddeall
i wybod dy farnedigaethau.
126
Y mae'n amser i'r ARGLWYDD weithredu,
oherwydd torrwyd dy gyfraith.
127
Er hynny yr wyf yn caru dy orchmynion
yn fwy nag aur, nag aur coeth.
128
Am hyn cerddaf yn union yn ôl dy holl ofynion,
a chasâf lwybrau twyll.
129
Y mae dy farnedigaethau'n rhyfeddol;
am hynny yr wyf yn eu cadw.
130
Pan ddatguddir dy air, bydd yn goleuo
ac yn rhoi deall i'r syml.
131
Yr wyf yn agor fy ngheg mewn blys,
oherwydd yr wyf yn dyheu am dy orchmynion.
132
Tro ataf a bydd drugarog,
yn ôl dy arfer i'r rhai sy'n caru dy enw.
133
Cadw fy ngham yn sicr fel yr addewaist,
a phaid â gadael i ddrygioni fy meistroli.
134
Rhyddha fi oddi wrth ormes dynol,
er mwyn imi ufuddhau i'th ofynion di.
135
Bydded llewyrch dy wyneb ar dy was,
a dysg i mi dy ddeddfau.
136
Y mae fy llygaid yn ffrydio dagrau
am nad yw pobl yn cadw dy gyfraith.
137
Cyfiawn wyt ti, O ARGLWYDD,
a chywir yw dy farnau.
138
Y mae'r barnedigaethau a roddi yn gyfiawn
ac yn gwbl ffyddlon.
139
Y mae fy nghynddaredd yn fy ysu
am fod fy ngelynion yn anghofio dy eiriau.
140
Y mae dy addewid wedi ei phrofi'n llwyr,
ac y mae dy was yn ei charu.
141
Er fy mod i yn fychan ac yn ddinod,
nid wyf yn anghofio dy ofynion.
142
Y mae dy gyfiawnder di yn gyfiawnder tragwyddol,
ac y mae dy gyfraith yn wirionedd.
143
Daeth cyfyngder a gofid ar fy ngwarthaf,
ond yr wyf yn ymhyfrydu yn dy orchmynion.
144
Y mae dy farnedigaethau di'n gyfiawn byth;
rho imi ddeall, fel y byddaf fyw.
145
Gwaeddaf â'm holl galon; ateb fi, ARGLWYDD,
ac fe fyddaf ufudd i'th ddeddfau.
146
Gwaeddaf arnat ti; gwareda fi,
ac fe gadwaf dy farnedigaethau.
147
Codaf cyn y wawr a gofyn am gymorth,
a gobeithiaf yn dy eiriau.
148
Y mae fy llygaid yn effro yng ngwyliadwriaethau'r nos,
i fyfyrio ar dy addewid.
149
Gwrando fy llef yn ôl dy gariad;
O ARGLWYDD, yn ôl dy farnau adfywia fi.
150
Y mae fy erlidwyr dichellgar yn agosáu,
ond y maent yn bell oddi wrth dy gyfraith.
151
Yr wyt ti yn agos, O ARGLWYDD,
ac y mae dy holl orchmynion yn wirionedd.
152
Gwn erioed am dy farnedigaethau,
i ti eu sefydlu am byth.
153
Edrych ar fy adfyd a gwared fi,
oherwydd nid anghofiais dy gyfraith.
154
Amddiffyn fy achos ac achub fi;
adfywia fi yn ôl dy addewid.
155
Y mae iachawdwriaeth ymhell oddi wrth y drygionus,
oherwydd nid ydynt yn ceisio dy ddeddfau.
156
Mawr yw dy drugaredd, O ARGLWYDD;
adfywia fi yn ôl dy farn.
157
Y mae fy erlidwyr a'm gelynion yn niferus,
ond eto ni wyrais oddi wrth dy farnedigaethau.
158
Gwelais y rhai twyllodrus, a ffieiddiais
am nad ydynt yn cadw dy air.
159
Gwêl fel yr wyf yn caru dy ofynion;
O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy gariad.
160
Hanfod dy air yw gwirionedd,
ac y mae dy holl farnau cyfiawn yn dragwyddol.
161
Y mae tywysogion yn fy erlid yn ddiachos,
ond dy air di yw arswyd fy nghalon.
162
Yr wyf yn llawenhau o achos dy addewid,
fel un sy'n cael ysbail fawr.
163
Yr wyf yn casáu ac yn ffieiddio twyll,
ond yn caru dy gyfraith di.
164
Seithwaith y dydd yr wyf yn dy foli
oherwydd dy farnau cyfiawn.
165
Caiff y rhai sy'n caru dy gyfraith wir heddwch,
ac nid oes dim yn peri iddynt faglu.
166
Yr wyf yn disgwyl am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD,
ac yn ufuddhau i'th orchmynion.
167
Yr wyf yn cadw dy farnedigaethau
ac yn eu caru'n fawr.
168
Yr wyf yn ufudd i'th ofynion a'th farnedigaethau,
oherwydd y mae fy holl ffyrdd o'th flaen.
169
Doed fy llef atat, O ARGLWYDD;
rho imi ddeall yn ôl dy air.
170
Doed fy neisyfiad atat;
gwared fi yn ôl dy addewid.
171
Bydd fy ngwefusau'n tywallt moliant
am iti ddysgu i mi dy ddeddfau.
172
Bydd fy nhafod yn canu am dy addewid,
oherwydd y mae dy holl orchmynion yn gyfiawn.
173
Bydded dy law yn barod i'm cynorthwyo,
oherwydd yr wyf wedi dewis dy ofynion.
174
Yr wyf yn dyheu am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD,
ac yn ymhyfrydu yn dy gyfraith.
175
Gad imi fyw i'th foliannu di,
a bydded i'th farnau fy nghynorthwyo.
176
Euthum ar gyfeiliorn fel dafad ar goll;
chwilia am dy was,
oherwydd nid anghofiais dy orchmynion.
1
Cân Esgyniad. Gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder,2
“O ARGLWYDD, gwared fi rhag genau twyllodrus,
a rhag tafod enllibus.”
3
Beth a roddir i ti,
a beth yn ychwaneg a wneir, O dafod enllibus?
4
Saethau llymion rhyfelwr,
a marwor eirias!
5
Gwae fi fy mod yn ymdeithio yn Mesech,
ac yn byw ymysg pebyll Cedar.
6
Yn rhy hir y bûm yn byw
gyda'r rhai sy'n casáu heddwch.
7
Yr wyf fi am heddwch,
ond pan soniaf am hynny,
y maent hwy am ryfel.
1
Cân Esgyniad. Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd;2
Daw fy nghymorth oddi wrth yr ARGLWYDD,
creawdwr nefoedd a daear.
3
Nid yw'n gadael i'th droed lithro,
ac nid yw dy geidwad yn cysgu.
4
Nid yw ceidwad Israel
yn cysgu nac yn huno.
5
Yr ARGLWYDD yw dy geidwad,
yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw;
6
ni fydd yr haul yn dy daro yn y dydd,
na'r lleuad yn y nos.
7
Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw rhag pob drwg,
bydd yn cadw dy einioes.
8
Bydd yr ARGLWYDD yn gwylio dy fynd a'th ddod
yn awr a hyd byth.
1
Cân Esgyniad. I Ddafydd. Yr oeddwn yn llawen pan ddywedasant wrthyf,2
Y mae ein traed bellach yn sefyll
o fewn dy byrth, O Jerwsalem.
3
Adeiladwyd Jerwsalem yn ddinas
lle'r unir y bobl â'i gilydd.
4
Yno yr esgyn y llwythau,
llwythau'r ARGLWYDD,
fel y gorchmynnwyd i Israel,
i roi diolch i enw'r ARGLWYDD.
5
Yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn,
gorseddfeinciau tŷ Dafydd.
6
Gweddïwch am heddwch i Jerwsalem,
“Bydded llwyddiant i'r rhai sy'n dy garu;
7
bydded heddwch o fewn dy furiau,
a diogelwch o fewn dy geyrydd.”
8
Er mwyn fy nghydnabod a'm cyfeillion,
dywedaf, “Bydded heddwch i ti.”
9
Er mwyn tŷ yr ARGLWYDD ein Duw,
ceisiaf ddaioni i ti.
1
Cân Esgyniad. Yr wyf yn codi fy llygaid atat ti2
Fel y mae llygaid gweision yn gwylio llaw eu meistr,
a llygaid caethferch yn gwylio llaw ei meistres,
felly y mae ein llygaid ninnau yn gwylio'r ARGLWYDD ein Duw
nes iddo drugarhau wrthym.
3
Bydd drugarog wrthym, O ARGLWYDD, bydd drugarog wrthym,
oherwydd fe gawsom ddigon o sarhad.
4
Yn rhy hir y cawsom ddigon ar wawd y trahaus
ac ar sarhad y beilchion.
1
Cân Esgyniad. I Ddafydd. Oni bai i'r ARGLWYDD fod o'n tu—2
oni bai i'r ARGLWYDD fod o'n tu
pan gododd rhai yn ein herbyn,
3
byddent wedi'n llyncu'n fyw
wrth i'w llid losgi tuag atom;
4
byddai'r dyfroedd wedi'n cario ymaith
a'r llif wedi mynd dros ein pennau;
5
ie, drosom yr âi
dygyfor y tonnau.
6
Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD
am iddo beidio â'n rhoi
yn ysglyfaeth i'w dannedd.
7
Yr ydym wedi dianc fel aderyn
o fagl yr heliwr;
torrodd y fagl,
yr ydym ninnau'n rhydd.
8
Ein cymorth sydd yn enw'r ARGLWYDD,
creawdwr nefoedd a daear.
1
Cân Esgyniad. Y mae'r rhai sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD fel Mynydd Seion,2
Fel y mae'r mynyddoedd o amgylch Jerwsalem,
felly y mae'r ARGLWYDD o amgylch ei bobl yn awr a hyd byth.
3
Ni chaiff teyrnwialen y drygionus orffwys
ar y tir sy'n rhan i'r rhai cyfiawn,
rhag i'r cyfiawn estyn eu llaw at anghyfiawnder.
4
Gwna ddaioni, O ARGLWYDD, i'r rhai da
ac i'r rhai uniawn o galon.
5
Ond am y rhai sy'n gwyro i'w ffyrdd troellog,
bydded i'r ARGLWYDD eu dinistrio gyda'r gwneuthurwyr drygioni.
Bydded heddwch ar Israel!
1
Cân Esgyniad. Pan adferodd yr ARGLWYDD lwyddiant Seion,2
yr oedd ein genau yn llawn chwerthin
a'n tafodau yn bloeddio canu.
Yna fe ddywedid ymysg y cenhedloedd,
“Gwnaeth yr ARGLWYDD bethau mawr iddynt hwy.”
3
Yn wir, gwnaeth yr ARGLWYDD bethau mawr i ni,
a bu i ninnau lawenhau.
4
O ARGLWYDD, adfer ein llwyddiant
fel ffrydiau yn y Negef;
5
bydded i'r rhai sy'n hau mewn dagrau
fedi mewn gorfoledd.
6
Bydd yr un sy'n mynd allan dan wylo,
ac yn cario ei sach o hadyd,
yn dychwelyd drachefn mewn gorfoledd,
ac yn cario ei ysgubau.
1
Cân Esgyniad. I Solomon. Os nad yw'r ARGLWYDD yn adeiladu'r tŷ,2
Yn ofer y codwch yn fore,
a mynd yn hwyr i orffwyso,
a llafurio am y bwyd a fwytewch;
oherwydd mae ef yn rhoi i'w anwylyd pan yw'n cysgu.
3
Wele, etifeddiaeth oddi wrth yr ARGLWYDD yw meibion,
a gwobr yw ffrwyth y groth.
4
Fel saethau yn llaw rhyfelwr
yw meibion ieuenctid dyn.
5
Gwyn ei fyd y sawl
sydd â chawell llawn ohonynt;
ni chywilyddir ef
pan ddadleua â'i elynion yn y porth.
1
Cân Esgyniad. Gwyn ei fyd pob un sy'n ofni'r ARGLWYDD2
Cei fwyta o ffrwyth dy lafur;
byddi'n hapus ac yn wyn dy fyd.
3
Bydd dy wraig yng nghanol dy dŷ
fel gwinwydden ffrwythlon,
a'th blant o amgylch dy fwrdd
fel blagur olewydd.
4
Wele, fel hyn y bendithir y sawl
sy'n ofni'r ARGLWYDD.
5
Bydded i'r ARGLWYDD dy fendithio o Seion,
iti gael gweld llwyddiant Jerwsalem
holl ddyddiau dy fywyd,
6
ac iti gael gweld plant dy blant.
Bydded heddwch ar Israel!
1
Cân Esgyniad. Lawer gwaith o'm hieuenctid buont yn ymosod arnaf—2
lawer gwaith o'm hieuenctid buont yn ymosod arnaf,
ond heb erioed fod yn drech na mi.
3
Y mae'r arddwyr wedi aredig fy nghefn
gan dynnu cwysau hirion.
4
Ond y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn;
torrodd raffau'r rhai drygionus.
5
Bydded i'r holl rai sy'n casáu Seion
gywilyddio a chilio'n ôl;
6
byddant fel glaswellt pen to,
sy'n crino cyn iddo flaguro—
7
ni leinw byth law'r medelwr,
na gwneud coflaid i'r rhwymwr,
8
ac ni ddywed neb wrth fynd heibio,
“Bendith yr ARGLWYDD arnoch!
Bendithiwn chwi yn enw'r ARGLWYDD.”
1
Cân Esgyniad. O'r dyfnderau y gwaeddais arnat, O ARGLWYDD.2
Arglwydd, clyw fy llef;
bydded dy glustiau'n agored
i lef fy ngweddi.
3
Os wyt ti, ARGLWYDD, yn cadw cyfrif o gamweddau,
pwy, O Arglwydd, a all sefyll?
4
Ond y mae gyda thi faddeuant,
fel y cei dy ofni.
5
Disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD; y mae fy enaid yn disgwyl,
a gobeithiaf yn ei air;
6
y mae fy enaid yn disgwyl wrth yr Arglwydd
yn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore,
yn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore.
7
O Israel, gobeithia yn yr ARGLWYDD,
oherwydd gyda'r ARGLWYDD y mae ffyddlondeb,
a chydag ef y mae gwaredigaeth helaeth.
8
Ef sydd yn gwaredu Israel
oddi wrth ei holl gamweddau.
1
Cân Esgyniad. I Ddafydd. O ARGLWYDD, nid yw fy nghalon yn drahaus,2
Ond yr wyf wedi tawelu a distewi fy enaid,
fel plentyn ar fron ei fam;
fel plentyn y mae fy enaid.
3
O Israel, gobeithia yn yr ARGLWYDD
yn awr a hyd byth.
1
Cân Esgyniad. O ARGLWYDD, cofia am Ddafydd2
fel y bu iddo dyngu i'r ARGLWYDD
ac addunedu i Un Cadarn Jacob,
3
“Nid af i mewn i'r babell y trigaf ynddi,
nac esgyn i'r gwely y gorffwysaf arno;
4
ni roddaf gwsg i'm llygaid
na hun i'm hamrannau,
5
nes imi gael lle i'r ARGLWYDD
a thrigfan i Un Cadarn Jacob.”
6
Wele, clywsom amdani yn Effrata,
a chawsom hi ym meysydd y coed.
7
“Awn i mewn i'w drigfan
a phlygwn wrth ei droedfainc.
8
Cyfod, ARGLWYDD, a thyrd i'th orffwysfa,
ti ac arch dy nerth.
9
Bydded dy offeiriaid wedi eu gwisgo â chyfiawnder,
a bydded i'th ffyddloniaid orfoleddu.”
10
Er mwyn Dafydd dy was,
paid â throi oddi wrth wyneb dy eneiniog.
11
Tyngodd yr ARGLWYDD i Ddafydd
adduned sicr na thry oddi wrthi:
“O ffrwyth dy gorff
y gosodaf un ar dy orsedd.
12
Os ceidw dy feibion fy nghyfamod,
a'r tystiolaethau a ddysgaf iddynt,
bydd eu meibion hwythau hyd byth
yn eistedd ar dy orsedd.”
13
Oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD Seion,
a'i chwennych yn drigfan iddo:
14
“Dyma fy ngorffwysfa am byth;
yma y trigaf am imi ei dewis.
15
Bendithiaf hi â digonedd o ymborth,
a digonaf ei thlodion â bara.
16
Gwisgaf ei hoffeiriaid ag iachawdwriaeth,
a bydd ei ffyddloniaid yn gorfoleddu.
17
Yno y gwnaf i gorn dyfu i Ddafydd;
darperais lamp i'm heneiniog.
18
Gwisgaf ei elynion â chywilydd,
ond ar ei ben ef y bydd coron ddisglair.”
1
Cân Esgyniad. I Ddafydd. Mor dda ac mor ddymunol yw2
Y mae fel olew gwerthfawr ar y pen,
yn llifo i lawr dros y farf,
dros farf Aaron,
yn llifo i lawr dros goler ei wisgoedd.
3
Y mae fel gwlith Hermon
yn disgyn i lawr ar fryniau Seion.
Oherwydd yno y gorchmynnodd yr ARGLWYDD ei fendith,
bywyd hyd byth.
1
Cân Esgyniad. Dewch, bendithiwch yr ARGLWYDD,2
Codwch eich dwylo yn y cysegr,
a bendithiwch yr ARGLWYDD.
3
Bydded i'r ARGLWYDD eich bendithio o Seion—
creawdwr nefoedd a daear!
1
Molwch yr ARGLWYDD.2
sy'n sefyll yn nhŷ'r ARGLWYDD,
yng nghynteddoedd ein Duw.
3
Molwch yr ARGLWYDD, oherwydd da yw ef;
canwch i'w enw, oherwydd y mae'n ddymunol.
4
Dewisodd yr ARGLWYDD Jacob iddo'i hunan,
ac Israel yn drysor arbennig iddo.
5
Oherwydd fe wn i fod yr ARGLWYDD yn fawr,
a bod ein Harglwydd ni yn rhagori ar yr holl dduwiau.
6
Fe wna'r ARGLWYDD beth bynnag a ddymuna,
yn y nefoedd ac ar y ddaear,
yn y moroedd a'r holl ddyfnderau.
7
Pâr i gymylau godi o derfynau'r ddaear;
fe wna fellt ar gyfer y glaw,
a daw gwynt allan o'i ystordai.
8
Fe drawodd rai cyntafanedig yr Aifft,
yn ddyn ac anifail;
9
anfonodd arwyddion a rhybuddion trwy ganol yr Aifft,
yn erbyn Pharo a'i holl ddeiliaid.
10
Fe drawodd genhedloedd mawrion,
a lladd brenhinoedd cryfion—
11
Sihon brenin yr Amoriaid,
Og brenin Basan,
a holl dywysogion Canaan;
12
rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth,
yn etifeddiaeth i'w bobl Israel.
13
Y mae dy enw, O ARGLWYDD, am byth,
a'th enwogrwydd o genhedlaeth i genhedlaeth.
14
Oherwydd fe rydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobl,
a bydd yn trugarhau wrth ei weision.
15
Arian ac aur yw delwau'r cenhedloedd,
ac wedi eu gwneud â dwylo dynol.
16
Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad,
a llygaid nad ydynt yn gweld;
17
y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed,
ac nid oes anadl yn eu ffroenau.
18
Y mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt,
ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt.
19
Dylwyth Israel, bendithiwch yr ARGLWYDD;
Dylwyth Aaron, bendithiwch yr ARGLWYDD.
20
Dylwyth Lefi, bendithiwch yr ARGLWYDD;
pob un sy'n ofni'r ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD.
21
Bendigedig yn Seion fyddo'r ARGLWYDD
sydd yn trigo yn Jerwsalem.
Molwch yr ARGLWYDD.
1
Diolchwch i'r ARGLWYDD am mai da yw,2
Diolchwch i Dduw y duwiau,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
3
Diolchwch i Arglwydd yr arglwyddi,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
4
Y mae'n gwneud rhyfeddodau mawrion ei hunan,
oherwydd mae ei gariad hyd byth;
5
gwnaeth y nefoedd mewn doethineb,
oherwydd mae ei gariad hyd byth;
6
taenodd y ddaear dros y dyfroedd,
oherwydd mae ei gariad hyd byth;
7
gwnaeth oleuadau mawrion,
oherwydd mae ei gariad hyd byth;
8
yr haul i reoli'r dydd,
oherwydd mae ei gariad hyd byth,
9
y lleuad a'r sêr i reoli'r nos,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
10
Trawodd rai cyntafanedig yr Aifft,
oherwydd mae ei gariad hyd byth,
11
a daeth ag Israel allan o'u canol,
oherwydd mae ei gariad hyd byth;
12
â llaw gref ac â braich estynedig,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
13
Holltodd y Môr Coch yn ddau,
oherwydd mae ei gariad hyd byth,
14
a dygodd Israel trwy ei ganol,
oherwydd mae ei gariad hyd byth,
15
ond taflodd Pharo a'i lu i'r Môr Coch,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
16
Arweiniodd ei bobl trwy'r anialwch,
oherwydd mae ei gariad hyd byth,
17
a tharo brenhinoedd mawrion,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
18
Lladdodd frenhinoedd cryfion,
oherwydd mae ei gariad hyd byth;
19
Sihon brenin yr Amoriaid,
oherwydd mae ei gariad hyd byth,
20
Og brenin Basan,
oherwydd mae ei gariad hyd byth;
21
rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth,
oherwydd mae ei gariad hyd byth,
22
yn etifeddiaeth i'w was Israel,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
23
Pan oeddem wedi'n darostwng, fe'n cofiodd,
oherwydd mae ei gariad hyd byth,
24
a'n gwaredu oddi wrth ein gelynion,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
25
Ef sy'n rhoi bwyd i bob creadur,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
26
Diolchwch i Dduw y nefoedd,
oherwydd mae ei gariad hyd byth.
1
Ger afonydd Babilon yr oeddem yn eistedd ac yn wylo2
Ar yr helyg yno
bu inni grogi ein telynau,
3
oherwydd yno gofynnodd y rhai a'n caethiwai am gân,
a'r rhai a'n hanrheithiai am ddifyrrwch.
“Canwch inni,” meddent, “rai o ganeuon Seion.”
4
Sut y medrwn ganu cân yr ARGLWYDD
mewn tir estron?
5
Os anghofiaf di, Jerwsalem,
bydded fy neheulaw'n ddiffrwyth;
6
bydded i'm tafod lynu wrth daflod fy ngenau
os na chofiaf di,
os na osodaf Jerwsalem
yn uwch na'm llawenydd pennaf.
7
O ARGLWYDD, dal yn erbyn pobl Edom
ddydd gofid Jerwsalem,
am iddynt ddweud, “I lawr â hi, i lawr â hi
hyd at ei sylfeini.”
8
O ferch Babilon, a ddistrywir,
gwyn ei fyd y sawl sy'n talu'n ôl i ti
am y cyfan a wnaethost i ni.
9
Gwyn ei fyd y sawl sy'n cipio dy blant
ac yn eu dryllio yn erbyn y graig.
1
I Ddafydd. Clodforaf di â'm holl galon,2
Ymgrymaf tuag at dy deml sanctaidd,
a chlodforaf dy enw am dy gariad a'th ffyddlondeb,
oherwydd dyrchefaist dy enw a'th air uwchlaw popeth.
3
Pan elwais arnat, atebaist fi,
a chynyddaist fy nerth ynof.
4
Bydded i holl frenhinoedd y ddaear dy glodfori, O ARGLWYDD,
am iddynt glywed geiriau dy enau;
5
bydded iddynt ganu am ffyrdd yr ARGLWYDD,
oherwydd mawr yw gogoniant yr ARGLWYDD.
6
Er bod yr ARGLWYDD yn uchel, fe gymer sylw o'r isel,
ac fe ddarostwng y balch o bell.
7
Er imi fynd trwy ganol cyfyngder, adfywiaist fi;
estynnaist dy law yn erbyn llid fy ngelynion,
a gwaredaist fi â'th ddeheulaw.
8
Bydd yr ARGLWYDD yn gweithredu ar fy rhan.
O ARGLWYDD, y mae dy gariad hyd byth;
paid â gadael gwaith dy ddwylo.
1
I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd. Salm. ARGLWYDD, yr wyt wedi fy chwilio a'm hadnabod.2
Gwyddost ti pa bryd y byddaf yn eistedd ac yn codi;
yr wyt wedi deall fy meddwl o bell;
3
yr wyt wedi mesur fy ngherdded a'm gorffwys,
ac yr wyt yn gyfarwydd â'm holl ffyrdd.
4
Oherwydd nid oes air ar fy nhafod
heb i ti, ARGLWYDD, ei wybod i gyd.
5
Yr wyt wedi cau amdanaf yn ôl ac ymlaen,
ac wedi gosod dy law drosof.
6
Y mae'r wybodaeth hon yn rhy ryfedd i mi;
y mae'n rhy uchel i mi ei chyrraedd.
7
I ble yr af oddi wrth dy ysbryd?
I ble y ffoaf o'th bresenoldeb?
8
Os dringaf i'r nefoedd, yr wyt yno;
os cyweiriaf wely yn Sheol, yr wyt yno hefyd.
9
Os cymeraf adenydd y wawr
a thrigo ym mhellafoedd y môr,
10
yno hefyd fe fydd dy law yn fy arwain,
a'th ddeheulaw yn fy nghynnal.
11
Os dywedaf, “Yn sicr bydd y tywyllwch yn fy nghuddio ,
a'r nos yn cau amdanaf”,
12
eto nid yw tywyllwch yn dywyllwch i ti;
y mae'r nos yn goleuo fel dydd,
a'r un yw tywyllwch a goleuni.
13
Ti a greodd fy ymysgaroedd,
a'm llunio yng nghroth fy mam.
14
Clodforaf di, oherwydd yr wyt yn ofnadwy a rhyfeddol,
ac y mae dy weithredoedd yn rhyfeddol.
Yr wyt yn fy adnabod mor dda;
15
ni chuddiwyd fy ngwneuthuriad oddi wrthyt
pan oeddwn yn cael fy ngwneud yn y dirgel,
ac yn cael fy llunio yn nyfnderoedd y ddaear.
16
Gwelodd dy lygaid fy nefnydd di-lun;
y mae'r cyfan wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr;
cafodd fy nyddiau eu ffurfio
pan nad oedd yr un ohonynt.
17
Mor ddwfn i mi yw dy feddyliau, O Dduw,
ac mor lluosog eu nifer!
18
Os cyfrifaf hwy, y maent yn amlach na'r tywod,
a phe gorffennwn hynny, byddit ti'n parhau gyda mi.
19
Fy Nuw, O na fyddit ti'n lladd y drygionus,
fel y byddai rhai gwaedlyd yn troi oddi wrthyf—
20
y rhai sy'n dy herio di yn ddichellgar,
ac yn gwrthryfela'n ofer yn dy erbyn.
21
Onid wyf yn casáu, O ARGLWYDD, y rhai sy'n dy gasáu di,
ac yn ffieiddio'r rhai sy'n codi yn dy erbyn?
22
Yr wyf yn eu casáu â chas perffaith,
ac y maent fel gelynion i mi.
23
Chwilia fi, O Dduw, iti adnabod fy nghalon;
profa fi, iti ddeall fy meddyliau.
24
Edrych a wyf ar ffordd a fydd yn loes i mi,
ac arwain fi yn y ffordd dragwyddol.
1
I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd. O ARGLWYDD, gwared fi rhag pobl ddrygionus;2
rhai sy'n cynllunio drygioni yn eu calon,
a phob amser yn codi cythrwfl.
3
Y mae eu tafod yn finiog fel sarff,
ac y mae gwenwyn gwiber dan eu gwefusau.
4
O ARGLWYDD, arbed fi rhag dwylo'r drygionus;
cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu,
rhai sy'n cynllunio i faglu fy nhraed.
5
Bu rhai trahaus yn cuddio magl i mi,
a rhai dinistriol yn taenu rhwyd,
ac yn gosod maglau ar ymyl y ffordd.
6
Dywedais wrth yr ARGLWYDD, “Fy Nuw wyt ti”;
gwrando, O ARGLWYDD, ar lef fy ngweddi.
7
O ARGLWYDD Dduw, fy iachawdwriaeth gadarn,
cuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.
8
O ARGLWYDD, paid â rhoi eu dymuniad i'r drygionus,
paid â llwyddo eu bwriad.
9
Y mae rhai o'm hamgylch yn codi eu pen,
ond bydded i ddrygioni eu gwefusau eu llethu.
10
Bydded i farwor tanllyd syrthio arnynt;
bwrier hwy i ffosydd dyfnion heb allu codi.
11
Na fydded lle i'r enllibus yn y wlad;
bydded i ddrygioni ymlid y gorthrymwr yn ddiarbed.
12
Gwn y gwna'r ARGLWYDD gyfiawnder â'r truan,
ac y rhydd farn i'r anghenus.
13
Yn sicr bydd y cyfiawn yn clodfori dy enw;
bydd yr uniawn yn byw yn dy bresenoldeb.
1
Salm. I Ddafydd. O ARGLWYDD, gwaeddaf arnat, brysia ataf;2
Bydded fy ngweddi fel arogldarth o'th flaen,
ac estyniad fy nwylo fel offrwm hwyrol.
3
O ARGLWYDD, gosod warchod ar fy ngenau,
gwylia dros ddrws fy ngwefusau.
4
Paid â throi fy nghalon at bethau drwg,
i fod yn brysur wrth weithredoedd drygionus
gyda rhai sy'n wneuthurwyr drygioni;
paid â gadael imi fwyta o'u danteithion.
5
Bydded i'r cyfiawn fy nharo mewn cariad a'm ceryddu,
ond na fydded i olew'r drygionus eneinio fy mhen,
oherwydd y mae fy ngweddi yn wastad yn erbyn eu drygioni.
6
Pan fwrir eu barnwyr yn erbyn craig,
byddant yn gwybod mor ddymunol oedd fy ngeiriau.
7
Fel darnau o bren neu o graig ar y llawr,
bydd eu hesgyrn wedi eu gwasgaru yng ngenau Sheol.
8
Y mae fy llygaid arnat ti, O ARGLWYDD Dduw;
ynot ti y llochesaf; paid â'm gadael heb amddiffyn.
9
Cadw fi o'r rhwyd a osodwyd imi,
ac o fagl y gwneuthurwyr drygioni.
10
Bydded i'r drygionus syrthio i'w rhwydau eu hunain,
a myfi fy hun yn mynd heibio.
1
Mascîl. I Ddafydd, pan oedd yn yr ogof. Gweddi. Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD,2
Arllwysaf fy nghwyn o'i flaen,
a mynegaf fy nghyfyngder yn ei bresenoldeb.
3
Pan yw fy ysbryd yn pallu,
yr wyt ti'n gwybod fy llwybr.
4
Edrychaf i'r dde, a gweld
nad oes neb yn gyfaill imi;
nid oes dihangfa imi,
na neb yn malio amdanaf.
5
Gwaeddais arnat ti, O ARGLWYDD;
dywedais, “Ti yw fy noddfa,
a'm rhan yn nhir y rhai byw.”
6
Gwrando ar fy nghri,
oherwydd fe'm darostyngwyd yn isel;
gwared fi oddi wrth fy erlidwyr,
oherwydd y maent yn gryfach na mi.
7
Dwg fi allan o'm caethiwed,
er mwyn imi glodfori dy enw.
Bydd y rhai cyfiawn yn tyrru ataf
pan fyddi di yn dda wrthyf.
1
Salm. I Ddafydd. ARGLWYDD, clyw fy ngweddi,2
Paid â mynd i farn â'th was,
oherwydd nid oes neb byw yn gyfiawn o'th flaen di.
3
Y mae'r gelyn wedi fy ymlid,
ac wedi sathru fy mywyd i'r llawr;
gwnaeth imi eistedd mewn tywyllwch,
fel rhai wedi hen farw.
4
Y mae fy ysbryd yn pallu ynof,
a'm calon wedi ei dal gan arswyd.
5
Yr wyf yn cofio am y dyddiau gynt,
yn myfyrio ar y cyfan a wnaethost,
ac yn meddwl am waith dy ddwylo.
6
Yr wyf yn estyn fy nwylo atat ti,
ac yn sychedu amdanat fel tir sych.
7
Brysia i'm hateb, O ARGLWYDD,
y mae fy ysbryd yn pallu;
paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf,
neu byddaf fel y rhai sy'n disgyn i'r pwll.
8
Pâr imi glywed yn y bore am dy gariad,
oherwydd yr wyf wedi ymddiried ynot ti;
gwna imi wybod pa ffordd i'w cherdded,
oherwydd yr wyf wedi dyrchafu fy enaid atat ti.
9
O ARGLWYDD, gwareda fi oddi wrth fy ngelynion,
oherwydd atat ti yr wyf wedi ffoi am gysgod.
10
Dysg imi wneud dy ewyllys,
oherwydd ti yw fy Nuw;
bydded i'th ysbryd daionus fy arwain
ar hyd tir gwastad.
11
Er mwyn dy enw, O ARGLWYDD, cadw fy einioes;
yn dy gyfiawnder dwg fi o'm cyfyngder,
12
ac yn dy gariad difetha fy ngelynion;
dinistria'r holl rai sydd yn fy ngorthrymu,
oherwydd dy was wyf fi.
1
I Ddafydd. Bendigedig yw yr ARGLWYDD, fy nghraig;2
fy nghâr a'm cadernid,
fy nghaer a'm gwaredydd,
fy nharian a'm lloches,
sy'n darostwng pobloedd odanaf.
3
O ARGLWYDD, beth yw meidrolyn, i ti ofalu amdano,
a'r teulu dynol, i ti ei ystyried?
4
Y mae'r meidrol yn union fel anadl,
a'i ddyddiau fel cysgod yn mynd heibio.
5
ARGLWYDD, agor y nefoedd a thyrd i lawr,
cyffwrdd â'r mynyddoedd nes eu bod yn mygu;
6
saetha allan fellt nes eu gwasgaru,
anfon dy saethau nes peri iddynt arswydo.
7
Estyn allan dy law o'r uchelder,
i'm hachub ac i'm gwaredu
o ddyfroedd lawer, ac o law estroniaid
8
sy'n dweud celwydd â'u genau,
a'u deheulaw'n llawn ffalster.
9
Canaf gân newydd i ti, O Dduw,
canaf gyda'r offeryn dectant i ti,
10
ti sy'n rhoi gwaredigaeth i frenhinoedd,
ac yn achub Dafydd ei was.
11
Achub fi oddi wrth y cleddyf creulon ;
gwared fi o law estroniaid,
sy'n dweud celwydd â'u genau,
a'u deheulaw'n llawn ffalster.
12
Bydded ein meibion fel planhigion
yn tyfu'n gryf yn eu hieuenctid,
a'n merched fel pileri cerfiedig
mewn adeiladwaith palas.
13
Bydded ein hysguboriau yn llawn
o luniaeth o bob math;
bydded ein defaid yn filoedd
ac yn fyrddiynau yn ein meysydd;
14
bydded ein gwartheg yn drymion,
heb anap nac erthyliad;
ac na fydded gwaedd ar ein strydoedd.
15
Gwyn eu byd y bobl sydd fel hyn.
Gwyn eu byd y bobl y mae'r ARGLWYDD yn Dduw iddynt.
1
Emyn Mawl. I Ddafydd. Dyrchafaf di, fy Nuw, O Frenin,2
Bob dydd bendithiaf di,
a moliannu dy enw byth bythoedd.
3
Mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl,
ac y mae ei fawredd yn anchwiliadwy.
4
Molianna'r naill genhedlaeth dy waith wrth y llall,
a mynegi dy weithredoedd nerthol.
5
Am ysblander gogoneddus dy fawredd y dywedant,
a myfyrio ar dy ryfeddodau.
6
Cyhoeddant rym dy weithredoedd ofnadwy,
ac adrodd am dy fawredd.
7
Dygant i gof dy ddaioni helaeth,
a chanu am dy gyfiawnder.
8
Graslon a thrugarog yw'r ARGLWYDD,
araf i ddigio, a llawn ffyddlondeb.
9
Y mae'r ARGLWYDD yn dda wrth bawb,
ac y mae ei drugaredd tuag at ei holl waith.
10
Y mae dy holl waith yn dy foli, ARGLWYDD,
a'th saint yn dy fendithio.
11
Dywedant am ogoniant dy deyrnas,
a sôn am dy nerth,
12
er mwyn dangos i bobl dy weithredoedd nerthol
ac ysblander gogoneddus dy deyrnas.
13
Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas,
a saif dy lywodraeth byth bythoedd.
Y mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon yn ei holl eiriau,
ac yn drugarog yn ei holl weithredoedd.
14
Fe gynnal yr ARGLWYDD bawb sy'n syrthio,
a chodi pawb sydd wedi eu darostwng.
15
Try llygaid pawb mewn gobaith atat ti,
ac fe roi iddynt eu bwyd yn ei bryd;
16
y mae dy law yn agored,
ac yr wyt yn diwallu popeth byw yn ôl d'ewyllys.
17
Y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn yn ei holl ffyrdd
ac yn ffyddlon yn ei holl weithredoedd.
18
Y mae'r ARGLWYDD yn agos at bawb sy'n galw arno,
at bawb sy'n galw arno mewn gwirionedd.
19
Gwna ddymuniad y rhai sy'n ei ofni;
gwrendy ar eu cri, a gwareda hwy.
20
Gofala'r ARGLWYDD am bawb sy'n ei garu,
ond y mae'n distrywio'r holl rai drygionus.
21
Llefara fy ngenau foliant yr ARGLWYDD,
a bydd pob creadur yn bendithio'i enw sanctaidd
byth bythoedd.
1
Molwch yr ARGLWYDD.2
Molaf yr ARGLWYDD tra byddaf byw,
canaf fawl i'm Duw tra byddaf.
3
Peidiwch ag ymddiried mewn tywysogion,
mewn unrhyw un na all waredu;
4
bydd ei anadl yn darfod ac yntau'n dychwelyd i'r ddaear,
a'r diwrnod hwnnw derfydd am ei gynlluniau.
5
Gwyn ei fyd y sawl y mae Duw Jacob yn ei gynorthwyo,
ac y mae ei obaith yn yr ARGLWYDD ei Dduw,
6
creawdwr nefoedd a daear a'r môr,
a'r cyfan sydd ynddynt.
Y mae ef yn cadw'n ffyddlon hyd byth,
7
ac yn gwneud barn â'r gorthrymedig;
y mae'n rhoi bara i'r newynog.
Y mae'r ARGLWYDD yn rhyddhau carcharorion;
8
y mae'r ARGLWYDD yn rhoi golwg i'r deillion,
ac yn codi pawb sydd wedi eu darostwng;
y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai cyfiawn.
9
Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros y dieithriaid,
ac yn cynnal y weddw a'r amddifad;
y mae'n difetha ffordd y drygionus.
10
Bydd yr ARGLWYDD yn teyrnasu hyd byth,
a'th Dduw di, O Seion, dros y cenedlaethau.
Molwch yr ARGLWYDD.
1
Molwch yr ARGLWYDD.2
Y mae'r ARGLWYDD yn adeiladu Jerwsalem,
y mae'n casglu rhai gwasgaredig Israel.
3
Y mae'n iacháu'r rhai drylliedig o galon,
ac yn rhwymo eu doluriau.
4
Y mae'n pennu nifer y sêr,
ac yn rhoi enwau arnynt i gyd.
5
Mawr yw ein Harglwydd ni, a chryf o nerth;
y mae ei ddoethineb yn ddifesur.
6
Y mae'r ARGLWYDD yn codi'r rhai gostyngedig,
ond yn bwrw'r drygionus i'r llawr.
7
Canwch i'r ARGLWYDD mewn diolch,
canwch fawl i'n Duw â'r delyn.
8
Y mae ef yn gorchuddio'r nefoedd â chymylau,
ac yn darparu glaw i'r ddaear;
y mae'n gwisgo'r mynyddoedd â glaswellt,
a phlanhigion at wasanaeth pobl .
9
Y mae'n rhoi eu porthiant i'r anifeiliaid,
a'r hyn a ofynnant i gywion y gigfran.
10
Nid yw'n ymhyfrydu yn nerth march,
nac yn cael pleser yng nghyhyrau gŵr;
11
ond pleser yr ARGLWYDD yw'r rhai sy'n ei ofni,
y rhai sy'n gobeithio yn ei gariad.
12
Molianna yr ARGLWYDD, O Jerwsalem;
mola dy Dduw, O Seion,
13
oherwydd cryfhaodd farrau dy byrth,
a bendithiodd dy blant o'th fewn.
14
Y mae'n rhoi heddwch i'th derfynau,
ac yn dy ddigoni â'r ŷd gorau.
15
Y mae'n anfon ei orchymyn i'r ddaear,
ac y mae ei air yn rhedeg yn gyflym.
16
Y mae'n rhoi eira fel gwlân,
yn taenu barrug fel lludw,
17
ac yn gwasgaru ei rew fel briwsion;
pwy a all ddal ei oerni ef?
18
Y mae'n anfon ei air, ac yn eu toddi;
gwna i'w wynt chwythu, ac fe lifa'r dyfroedd.
19
Y mae'n mynegi ei air i Jacob,
ei ddeddfau a'i farnau i Israel;
20
ni wnaeth fel hyn ag unrhyw genedl,
na dysgu iddynt ei farnau.
Molwch yr ARGLWYDD.
1
Molwch yr ARGLWYDD.2
Molwch ef, ei holl angylion;
molwch ef, ei holl luoedd.
3
Molwch ef, haul a lleuad;
molwch ef, yr holl sêr disglair.
4
Molwch ef, nef y nefoedd,
a'r dyfroedd sydd uwch y nefoedd.
5
Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD,
oherwydd ef a orchmynnodd, a chrewyd hwy;
6
fe'u gwnaeth yn sicr fyth bythoedd;
rhoes iddynt ddeddf nas torrir.
7
Molwch yr ARGLWYDD o'r ddaear,
chwi ddreigiau a'r holl ddyfnderau,
8
tân a chenllysg, eira a mwg,
y gwynt stormus sy'n ufudd i'w air;
9
y mynyddoedd a'r holl fryniau,
y coed ffrwythau a'r holl gedrwydd;
10
anifeiliaid gwyllt a'r holl rai dof,
ymlusgiaid ac adar hedegog;
11
brenhinoedd y ddaear a'r holl bobloedd,
tywysogion a holl farnwyr y ddaear;
12
gwŷr ifainc a gwyryfon,
hynafgwyr a llanciau hefyd.
13
Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD,
oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafedig,
ac y mae ei ogoniant ef uwchlaw daear a nefoedd.
14
Y mae wedi dyrchafu corn ei bobl,
ac ef yw moliant ei holl ffyddloniaid,
pobl Israel, sy'n agos ato.
Molwch yr ARGLWYDD.
1
Molwch yr ARGLWYDD.2
Bydded i Israel lawenhau yn ei chreawdwr,
ac i blant Seion orfoleddu yn eu brenin.
3
Molwch ei enw â dawns,
canwch fawl iddo â thympan a thelyn.
4
Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ymhyfrydu yn ei bobl;
y mae'n rhoi gwaredigaeth yn goron i'r gostyngedig.
5
Bydded i'r ffyddloniaid orfoleddu mewn gogoniant,
a llawenhau ar eu clustogau.
6
Bydded uchel-foliant Duw yn eu genau,
a chleddyf daufiniog yn eu llaw
7
i weithredu dial ar y cenhedloedd
a cherydd ar y bobloedd;
8
i rwymo eu brenhinoedd mewn cadwynau,
a'u pendefigion â gefynnau haearn;
9
i weithredu'r farn a nodwyd ar eu cyfer.
Ef yw gogoniant ei holl ffyddloniaid.
Molwch yr ARGLWYDD.
1
Molwch yr ARGLWYDD.2
Molwch ef am ei weithredoedd nerthol,
molwch ef am ei holl fawredd.
3
Molwch ef â sain utgorn,
molwch ef â nabl a thelyn.
4
Molwch ef â thympan a dawns,
molwch ef â llinynnau a phibau.
5
Molwch ef â sŵn symbalau,
molwch ef â symbalau uchel.
6
Bydded i bopeth byw foliannu'r ARGLWYDD.
Molwch yr ARGLWYDD.