1

1

Yr oedd gŵr yng ngwlad Us o'r enw Job, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg.

2 Ganwyd iddo saith mab a thair merch,

3 ac yr oedd ganddo saith mil o ddefaid, tair mil o gamelod, pum can iau o ychen, pum cant o asennod, a llawer iawn o weision. Y gŵr hwn oedd y mwyaf o holl bobl y Dwyrain.

4

Arferai ei feibion fynd i gartrefi ei gilydd i gynnal gwledd, pob un yn ei dro, ac anfonent wahoddiad i'w tair chwaer i fwyta ac yfed gyda hwy.

5 Yna pan ddôi cylch y gwledda i ben, anfonai Job amdanynt i'w puro; codai'n fore i offrymu poethoffrymau, un dros bob un ohonynt, oherwydd meddyliai, “Efallai fod fy meibion wedi pechu a melltithio Duw yn eu calonnau.” Fel hyn y gwnâi Job yn gyson.

6

Daeth y dydd i'r bodau nefol ymddangos o flaen yr ARGLWYDD, a daeth Satan hefyd gyda hwy.

7 Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “O ble y daethost ti?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “O fynd yma ac acw hyd y ddaear a thramwyo drosti.”

8 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “A sylwaist ar fy ngwas Job? Nid oes neb tebyg iddo ar y ddaear, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg.”

9 Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “Ai'n ddiachos y mae Job yn ofni Duw?

10 Oni warchodaist drosto ef a'i deulu a'i holl eiddo? Bendithiaist ei waith, a chynyddodd ei dda yn y tir.

11 Ond estyn di dy law i gyffwrdd â dim o'i eiddo; yna'n sicr fe'th felltithia yn dy wyneb.”

12 Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “Wele'r cyfan sydd ganddo yn dy law di, ond iti beidio â chyffwrdd ag ef ei hun.” Ac aeth Satan allan o ŵydd yr ARGLWYDD.

13

Un diwrnod, pan oedd ei feibion a'i ferched yn bwyta ac yn yfed yn nhŷ eu brawd hynaf,

14 daeth cennad at Job a dweud, “Pan oedd yr ychen yn aredig a'r asennod yn pori gerllaw,

15 daeth y Sabeaid ar eu gwarthaf a'u cipio, a tharo'r gweision â chleddyf; a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.”

16 Tra oedd hwn yn llefaru, daeth un arall a dweud, “Disgynnodd tân mawr o'r nefoedd ac ysu'r defaid a'r gweision a'u difa'n llwyr, a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.”

17 Tra oedd hwn yn llefaru, daeth un arall a dweud, “Daeth y Caldeaid yn dair mintai, ac ymosod ar y camelod a'u cipio, a tharo'r gweision â chleddyf, a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.”

18 Tra oedd hwn yn llefaru, daeth un arall a dweud, “Yr oedd dy feibion a'th ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf,

19 a daeth gwynt nerthol dros yr anialwch a tharo pedair congl y tŷ, a syrthiodd ar y bobl ifainc, a buont farw; a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.”

20

Yna cododd Job a rhwygodd ei fantell, eilliodd ei ben, a syrthiodd ar y ddaear ac ymgrymu

21 a dweud,

“Yn noeth y deuthum o groth fy mam, ac yn noeth y dychwelaf yno.
Yr ARGLWYDD a roddodd, a'r ARGLWYDD a ddygodd ymaith.
Bendigedig fyddo enw'r ARGLWYDD.”

22

Yn hyn i gyd ni phechodd Job, na gweld bai ar Dduw.

2

1

Unwaith eto daeth y dydd i'r bodau nefol ymddangos o flaen yr ARGLWYDD, a daeth Satan hefyd gyda hwy.

2 Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “O ble y daethost ti?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “O fynd yma ac acw hyd y ddaear a thramwyo drosti.”

3 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “A sylwaist ti ar fy ngwas Job? Nid oes neb tebyg iddo ar y ddaear, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg. Y mae'n dal i lynu wrth ei uniondeb, er i ti fy annog i'w ddifetha'n ddiachos.”

4 Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “Croen am groen! Fe rydd dyn y cyfan sydd ganddo am ei einioes.

5 Ond estyn di dy law a chyffwrdd â'i esgyrn a'i gnawd; yna'n sicr fe'th felltithia yn dy wyneb.”

6 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “Wele ef yn dy law; yn unig arbed ei einioes.”

7 Ac aeth Satan allan o ŵydd yr ARGLWYDD.

Trawyd Job â chornwydydd blin o wadn ei droed i'w gorun,

8 a chymerodd ddarn o lestr pridd i'w grafu ei hun, ac eisteddodd ar y domen ludw.

9 Dywedodd ei wraig wrtho, “A wyt am barhau i lynu wrth d'uniondeb? Melltithia Dduw a bydd farw.”

10 Ond dywedodd ef wrthi, “Yr wyt yn llefaru fel dynes ffôl; os derbyniwn dda gan Dduw, oni dderbyniwn ddrwg hefyd?” Yn hyn i gyd ni phechodd Job â gair o'i enau.

11

Yna clywodd tri chyfaill Job am y cystudd trwm a ddaeth arno. Daeth Eliffas y Temaniad, Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, pob un o'i le ei hun, a chytuno â'i gilydd i ddod i gydymdeimlo ag ef a'i gysuro.

12 Pan welsant ef o'r pellter, nid oeddent yn ei adnabod; yna wylasant yn uchel a rhwygo'u dillad a thaflu llwch dros eu pennau i'r awyr.

13 Eisteddasant ar y llawr gydag ef am saith diwrnod a saith nos. Ni ddywedodd yr un ohonynt air wrtho, am eu bod yn gweld fod ei boen yn fawr.

3

1

Wedi hyn dechreuodd Job siarad a melltithio dydd ei eni.

2 Meddai Job:

3

“Difoder y dydd y'm ganwyd,
a'r nos y dywedwyd, ‘Cenhedlwyd bachgen’.

4
Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch;
na chyfrifer ef gan Dduw oddi uchod,
ac na lewyrched goleuni arno.

5
Cuddier ef gan dywyllwch a'r fagddu;
arhosed cwmwl arno a gorlether ef gan ddüwch y dydd.

6
Cymered y gwyll feddiant o'r nos honno;
na chyfrifer hi ymhlith dyddiau'r flwyddyn,
ac na ddoed i blith nifer y misoedd.

7
Wele'r nos honno, bydded ddiffrwyth,
heb sŵn gorfoledd ynddi.

8
Melltithier hi gan y rhai sy'n melltithio'r dyddiau,
y rhai sy'n medru cyffroi'r lefiathan.

9
Tywylled sêr ei chyfddydd,
disgwylied am oleuni heb ei gael,
ac na weled doriad gwawr,

10
am na chaeodd ddrysau croth fy mam,
na chuddio gofid o'm golwg.

11
Pam na fûm farw yn y groth,
neu drengi pan ddeuthum allan o'r bru?

12
Pam y derbyniodd gliniau fi,
ac y rhoddodd bronnau sugn i mi?

13
Yna, byddwn yn awr yn gorwedd yn llonydd,
yn cysgu'n dawel ac yn cael gorffwys,

14
gyda brenhinoedd a chynghorwyr daear,
a fu'n adfer adfeilion iddynt eu hunain,

15
neu gyda thywysogion goludog,
a lanwodd eu tai ag arian,

16
neu heb fyw, fel erthyl a guddiwyd,
fel babanod na welsant oleuni.

17
Yno, peidia'r drygionus â therfysgu,
a chaiff y lluddedig orffwys.

18
Hefyd caiff y carcharorion lonyddwch;
ni chlywant lais y meistri gwaith.

19
Bychan a mawr sydd yno,
a'r caethwas yn rhydd oddi wrth ei feistr.

20
Pam y rhoddir goleuni i'r gorthrymedig
a bywyd i'r chwerw ei ysbryd,

21
sy'n dyheu am farwolaeth, heb iddi ddod,
sy'n cloddio amdani yn fwy nag am drysor cudd,

22
sy'n llawenychu pan gaiff feddrod,
ac yn gorfoleddu pan gaiff fedd?


23
“Ond am ddyn, cuddiwyd ei ffordd,
a chaeodd Duw amdano.

24
Daw fy ochenaid o flaen fy mwyd,
a thywelltir fy ngriddfan fel dyfroedd.

25
Y peth a ofnaf a ddaw arnaf,
a'r hyn yr arswydaf rhagddo a ddaw imi.

26
Nid oes imi dawelwch na llonyddwch;
ni chaf orffwys, canys daw dychryn.”

4

1

Yna atebodd Eliffas y Temaniad:

2

“Os mentra rhywun lefaru wrthyt, a golli di dy amynedd?
Eto pwy a all atal geiriau?

3
Wele, buost yn cynghori llawer
ac yn nerthu'r llesg eu dwylo;

4
cynhaliodd dy eiriau'r rhai sigledig,
a chadarnhau'r gliniau gwan.

5
Ond yn awr daeth adfyd arnat ti, a chymeraist dramgwydd;
cyffyrddodd â thi, ac yr wyt mewn helbul.

6
Onid yw dy dduwioldeb yn hyder i ti,
ac uniondeb dy fywyd yn obaith?

7
Ystyria'n awr, pwy sydd wedi ei ddifetha ac yntau'n ddieuog,
a phwy o'r uniawn sydd wedi ei dorri i lawr?

8
Fel hyn y gwelais i: y rhai sy'n aredig helbul
ac yn hau gorthrymder, hwy sy'n ei fedi.

9
Difethir hwy gan anadl Duw,
a darfyddant wrth chwythiad ei ffroenau.

10
Peidia rhu'r llew a llais y llew cryf;
pydra dannedd y llewod ifanc.

11
Bydd farw'r hen lew o eisiau ysglyfaeth,
a gwneir yn amddifad genawon y llewes.

12
‘Daeth gair ataf fi yn ddirgel;
daliodd fy nghlust sibrwd ohono

13
yn y cynnwrf a ddaw gyda gweledigaethau'r nos,
pan ddaw trymgwsg ar bawb.’

14
Daeth dychryn a chryndod arnaf,
a chynhyrfu fy holl esgyrn.

15
Llithrodd awel heibio i'm hwyneb,
a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll.

16
Safodd yn llonydd, ond ni allwn ddirnad beth oedd;
yr oedd ffurf o flaen fy llygaid;
bu distawrwydd, yna clywais lais:

17
‘A yw meidrol yn fwy cyfiawn na Duw,
ac yn burach na'i Wneuthurwr?

18
Os nad yw Duw'n ymddiried yn ei weision,
ac os yw'n cyhuddo'i angylion o gamwedd,

19
beth, ynteu, am y rhai sy'n trigo mewn tai o glai,
a'u sylfeini mewn pridd,
y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?

20
Torrir hwy i lawr rhwng bore a hwyr,
llwyr ddifethir hwy, heb neb yn sylwi.

21
Pan ddatodir llinyn eu pabell,
oni fyddant farw heb ddoethineb?’ ”

5

1

“Galw'n awr; a oes rhywun a'th etyb?
At ba un o'r rhai sanctaidd y gelli droi?

2
Y mae dicter yn lladd yr ynfyd,
a chenfigen yn dwyn angau i'r ffôl.

3
Gwelais yr ynfyd yn magu gwraidd,
ond ar fyrder melltithiwyd ei drigfan;

4
ac aeth ei blant y tu hwnt i ymwared,
wedi eu sathru yn y porth, heb neb i'w hachub.

5
Y mae'r newynog yn bwyta'i gynhaeaf ef,
ac yn ei gymryd hyd yn oed o blith y drain;
ac y mae'r sychedig yn dyheu am eu cyfoeth.

6
Canys nid o'r pridd y daw gofid,
nac o'r ddaear orthrymder;

7
ond genir dynion i orthrymder,
cyn sicred ag y tasga'r gwreichion.


8
“Ond myfi, ceisio Duw a wnawn i,
a gosod fy achos o'i flaen ef,

9
yr un a gyflawna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy,
rhyfeddodau dirifedi.

10
Ef sy'n tywallt y glaw ar y ddaear,
a'r dyfroedd ar y meysydd.

11
Y mae'n codi'r rhai isel i fyny,
a dyrchefir y galarwyr i ddiogelwch.

12
Y mae'n diddymu cynllwynion y cyfrwys;
ni all eu dwylo wneud dim o fudd.

13
Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra,
a buan y diflanna cynllun y dichellgar.

14
Brwydrant â thywyllwch hyd yn oed liw dydd,
ac ymbalfalant ganol dydd fel yn y nos.

15
Ond gwared ef yr anghenus o'u gafael,
a'r truan o afael y cryf.

16
Am hynny y mae gobaith i'r tlawd,
ac anghyfiawnder yn cau ei safn.


17
“Dedwydd y sawl a gerydda Duw,
ac na wrthyd ddisgyblaeth yr Hollalluog.

18
Ef a ddoluria, ac ef hefyd a rwyma'r dolur;
ef a archolla, ond rhydd ei ddwylo feddyginiaeth.

19
Fe'th wared di rhag chwe chyfyngder;
ac mewn saith, ni ddaw drwg arnat.

20
Fe'th achub di rhag marw mewn newyn,
a rhag y cleddyf mewn brwydr.

21
Cei loches rhag ffrewyll y tafod,
ac nid ofni'r dinistr pan ddaw.

22
Chwerddi ar ddinistr a newyn,
ac ni'th ddychrynir gan fwystfil gwyllt.

23
Byddi mewn cynghrair â cherrig y tir,
a bydd y bwystfil gwyllt mewn heddwch â thi.

24
Yna gweli fod dy babell yn ddiogel,
a phan rifi dy ddiadell, ni bydd un ar goll.

25
Canfyddi hefyd mai niferus yw dy dylwyth,
a'th epil fel gwellt y maes.

26
Ei i'r bedd mewn henaint teg,
fel y cesglir ysgub yn ei phryd.

27
Chwiliasom hyn yn ddyfal, ac y mae'n wir;
gwrando dithau arno, a deall drosot dy hun.”

6

1

Atebodd Job:

2

“O na ellid pwyso fy nhrallod,
a gosod fy aflwydd i gyd mewn clorian!

3
Yna byddai'n drymach na thywod y môr;
am hyn y bu fy ngeiriau yn fyrbwyll.

4
Y mae saethau'r Hollalluog ynof;
yfodd fy ysbryd eu gwenwyn;
dychryn Duw sy'n gwarchae amdanaf.

5
A yw'r asyn gwyllt yn nadu uwchben glaswellt?
A yw'r ych yn brefu uwchben ei borthiant?

6
A fwyteir yr hyn sydd ddi-flas heb halen?
A oes blas ar sudd y malws?

7
Y mae fy stumog yn eu gwrthod;
y maent fel pydredd fy nghnawd.


8
“O na ddôi fy nymuniad i ben,
ac na chyflawnai Duw fy ngobaith!

9
O na ryngai fodd i Dduw fy nharo,
ac estyn ei law i'm torri i lawr!

10
Byddai o hyd yn gysur imi,
a llawenhawn yn yr ing diarbed
(nid wyf yn gwadu geiriau'r Sanct).

11
Pa nerth sydd gennyf i obeithio,
a beth fydd fy niwedd, fel y byddwn yn amyneddgar?

12
Ai nerth cerrig yw fy nerth?
Ai pres yw fy nghnawd?

13
Wele, nid oes imi gymorth ynof,
a gyrrwyd llwyddiant oddi wrthyf.

14
Daw teyrngarwch ei gyfaill i'r claf,
er iddo gefnu ar ofn yr Hollalluog.

15
Twyllodd fy mrodyr fi fel ffrwd ysbeidiol;
fel nentydd sy'n gorlifo,

16
yn dywyll gan rew,
ac eira yn cuddio ynddynt.

17
Ond pan ddaw poethder fe beidiant,
ac yn y gwres diflannant o'u lle.

18
Troella'r carafanau yn eu ffyrdd,
crwydrant i'r diffeithle, a chollir hwy.

19
Y mae carafanau Tema yn edrych amdanynt,
a marsiandïwyr Sheba yn disgwyl wrthynt.

20
Cywilyddir hwy yn eu hyder;
dônt atynt, ac fe'u siomir.

21
Felly yr ydych chwithau i mi ;
gwelwch drychineb, a dychrynwch.

22
A ddywedais o gwbl, ‘Rhowch imi,
ac estynnwch rodd drosof o'ch cyfoeth;

23
achubwch fi o afael y gelyn,
a rhyddhewch fi o afael gormeswyr’?


24
“Hyfforddwch fi, a thawaf;
a dangoswch imi sut y cyfeiliornais.

25
Mor ddi-flas yw geiriau uniawn!
Pa gerydd sydd yng ngherydd un ohonoch chwi?

26
A ydych yn credu y gallwch geryddu geiriau,
gan fod ymadroddion y diobaith yn wynt?

27
A fwriech goelbren am yr amddifad,
a tharo bargen am un o'ch cyfeillion?

28
Ond yn awr, bodlonwch i droi ataf;
ai celwydd a ddywedaf yn eich gŵydd?

29
Trowch; na foed anghyfiawnder.
Trowch eto; ar hyn y saif fy nghyfiawnhad.

30
A oes anghyfiawnder ar fy nhafod?
Onid yw taflod fy ngenau yn adnabod cam flas?”

7

1

“Onid llafur caled sydd i ddyn ar y ddaear,
a'i ddyddiau fel dyddiau gwas cyflog?

2
Fel caethwas yn dyheu am gysgod,
a gwas yn disgwyl am ei dâl,

3
felly y daeth misoedd ofer i'm rhan innau,
a threfnwyd imi nosweithiau gofidus.

4
Pan orweddaf, dywedaf, ‘Pa bryd y caf godi?’
Y mae'r nos yn hir, a byddaf yn blino yn troi a throsi hyd doriad gwawr.

5
Gorchuddiwyd fy nghnawd gan bryfed a budreddi;
crawniodd fy nghroen, ac yna torri allan.

6
Y mae fy nyddiau'n gyflymach na gwennol gwehydd;
darfyddant fel edafedd yn dirwyn i ben.


7
“Cofia mai awel o wynt yw fy hoedl;
ni wêl fy llygaid ddaioni eto.

8
Y llygad sy'n edrych arnaf, ni'm gwêl;
ar amrantiad ni fyddaf ar gael iti.

9
Fel y cili'r cwmwl a diflannu,
felly'r sawl sy'n mynd i Sheol, ni ddychwel oddi yno;

10
ni ddaw eto i'w gartref,
ac nid edwyn ei le mohono mwy.


11
“Ond myfi, nid ataliaf fy ngeiriau;
llefaraf yng nghyfyngder fy ysbryd,
cwynaf yn chwerwder fy enaid.

12
Ai'r môr ydwyf, neu'r ddraig,
gan dy fod yn gosod gwyliwr arnaf?


13
“Pan ddywedaf, ‘Fy ngwely a rydd gysur imi;
fy ngorweddfa a liniara fy nghwyn’,

14
yr wyt yn fy nychryn â breuddwydion,
ac yn f'arswydo â gweledigaethau.

15
Gwell fyddai gennyf fy nhagu,
a marw yn hytrach na goddef fy mhoen.

16
Rwy'n ddiobaith; ni ddymunaf fyw am amser maith.
Gad lonydd imi, canys y mae fy nyddiau fel anadl.

17
Beth yw meidrolyn i ti ei ystyried,
ac iti roi cymaint o sylw iddo?

18
Yr wyt yn ymweld ag ef bob bore,
ac yn ei brofi bob eiliad.

19
Pa bryd y peidi ag edrych arnaf,
ac y rhoi lonydd imi lyncu fy mhoeri?

20
Os pechais, beth a wneuthum i ti, O wyliwr dynolryw?
Pam y cymeraist fi'n nod,
nes fy mod yn faich i mi fy hun?

21
Pam na faddeui fy nhrosedd
a symud fy mai?
Yn awr rwy'n gorwedd yn y llwch,
ac er i ti chwilio amdanaf, ni fyddaf ar gael.”

8

1

Yna atebodd Bildad y Suhiad:

2

“Am ba hyd y lleferi fel hyn,
a chymaint o ymffrost yn dy eiriau?

3
A yw Duw yn gwyrdroi barn?
A yw'r Hollalluog yn gwyro cyfiawnder?

4
Pan bechodd dy feibion yn ei erbyn,
fe'u trosglwyddodd i afael eu trosedd.

5
Os ceisi di Dduw yn ddyfal,
ac ymbil ar yr Hollalluog,

6
ac os wyt yn bur ac uniawn,
yna fe wylia ef drosot,
a'th adfer i'th safle o gyfiawnder.

7
Pe byddai dy ddechreuad yn fychan,
byddai dy ddiwedd yn fawr.


8
“Yn awr gofyn i'r oes a fu,
ac ystyria'r hyn a ganfu'r hynafiaid.

9
Canys nid ydym ni ond er doe, ac anwybodus ŷm,
a chysgod yw ein dyddiau ar y ddaear.

10
Oni fyddant hwy'n dy hyfforddi, a mynegi wrthyt,
a rhoi atebion deallus?

11
A dyf brwyn lle nad oes cors?
A ffynna hesg heb ddŵr?

12
Er eu bod yn ir a heb eu torri,
eto gwywant yn gynt na'r holl blanhigion.

13
Felly y mae tynged yr holl rai sy'n anghofio Duw,
ac y derfydd gobaith yr annuwiol.

14
Edau frau yw ei hyder,
a'i ymffrost fel gwe'r pryf copyn.

15
Pwysa ar ei dŷ, ond ni saif;
cydia ynddo, ond ni ddeil.

16
Bydd yn ir yn llygad yr haul,
yn estyn ei frigau dros yr ardd;

17
ymbletha'i wraidd dros y pentwr cerrig,
a daw i'r golwg rhwng y meini.

18
Ond os diwreiddir ef o'i le,
fe'i gwedir: ‘Ni welais di’.

19
Gwywo felly yw ei natur;
ac yna tyf un arall o'r pridd.


20
“Wele, ni wrthyd Duw yr uniawn,
ac ni chydia yn llaw y drygionus.

21
Lleinw eto dy enau â chwerthin,
a'th wefusau â gorfoledd.

22
Gwisgir dy elynion â gwarth,
a diflanna pabell y drygionus.”

9

1

Atebodd Job:

2

“Gwn yn sicr fod hyn yn wir,
na all neb ei gyfiawnhau ei hun gyda Duw.

3
Os myn ymryson ag ef,
nid etyb ef unwaith mewn mil.

4
Y mae'n ddoeth a chryf;
pwy a ystyfnigodd yn ei erbyn yn llwyddiannus?

5
Y mae'n symud mynyddoedd heb iddynt wybod,
ac yn eu dymchwel yn ei lid.

6
Y mae'n ysgwyd y ddaear o'i lle,
a chryna'i cholofnau.

7
Y mae'n gorchymyn i'r haul beidio â chodi,
ac yn gosod sêl ar y sêr.

8
Taenodd y nefoedd ei hunan,
a sathrodd grib y môr.

9
Creodd yr Arth ac Orion,
Pleiades a chylch Sêr y De.

10
Gwna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy,
a rhyfeddodau dirifedi.


11
“Pan â heibio imi, nis gwelaf,
a diflanna heb i mi ddirnad.

12
Os cipia, pwy a'i rhwystra?
Pwy a ddywed wrtho, ‘Beth a wnei?’?

13
Ni thry Duw ei lid ymaith;
ymgreinia cynorthwywyr Rahab wrth ei draed.

14
Pa faint llai yr atebwn i ef,
a dadlau gair am air ag ef?

15
Hyd yn oed pe byddwn gyfiawn, ni'm hatebid ,
dim ond ymbil am drugaredd gan fy marnwr.

16
Pe gwysiwn ef ac yntau'n ateb,
ni chredwn y gwrandawai arnaf.

17
Canys heb reswm y mae'n fy nryllio,
ac yn amlhau f'archollion yn ddiachos.

18
Nid yw'n rhoi cyfle imi gymryd fy anadl,
ond y mae'n fy llenwi â chwerwder.


19
“Os cryfder a geisir, wele ef yn gryf;
os barn, pwy a'i geilw i drefn ?

20
Pe bawn gyfiawn, condemniai fi â'm geiriau fy hun;
pe bawn ddi-fai, dangosai imi gyfeiliorni.

21
Di-fai wyf, ond nid wyf yn malio amdanaf fy hun;
yr wyf yn ffieiddio fy mywyd.

22
Yr un dynged sydd i bawb; am hynny dywedaf
ei fod ef yn difetha'r di-fai a'r drygionus.

23
Os dinistr a ladd yn ddisymwth,
fe chwardd am drallod y diniwed.

24
Os rhoddir gwlad yng ngafael y drygionus,
fe daena orchudd tros wyneb ei barnwyr.
Os nad ef, pwy yw?


25
“Y mae fy nyddiau'n gyflymach na rhedwr;
y maent yn diflannu heb weld daioni.

26
Y maent yn gwibio fel llongau o frwyn,
fel eryr yn disgyn ar gelain.

27
Os dywedaf, ‘Anghofiaf fy nghwyn,
newidiaf fy mhryd a byddaf lawen’,

28
eto arswydaf rhag fy holl ofidiau;
gwn na'm hystyri'n ddieuog.

29
A bwrw fy mod yn euog,
pam y llafuriaf yn ofer?

30
Os ymolchaf â sebon,
a golchi fy nwylo â soda,

31
yna tefli fi i'r ffos,
a gwna fy nillad fi'n ffiaidd.


32
“Nid dyn yw ef fel fi, fel y gallaf ei ateb,
ac y gallwn ddod ynghyd i ymgyfreithio.

33
O na fyddai un i dorri'r ddadl rhyngom,
ac i osod ei law arnom ein dau,

34
fel y symudai ei wialen oddi arnaf,
ac fel na'm dychrynid gan ei arswyd!

35
Yna llefarwn yn eofn.
Ond nid felly y caf fy hun.”

10

1

“Yr wyf wedi alaru ar fy mywyd;
rhoddaf ryddid i'm cwyn,
llefaraf o chwerwedd fy ysbryd.

2
Dywedaf wrth Dduw, ‘Paid â'm collfarnu i;
dangos imi pam y dadleui â mi.

3
Ai da yw i ti orthrymu,
a throi heibio lafur dy ddwylo,
a ffafrio cyngor y drygionus?

4
Ai llygaid o gnawd sydd gennyt,
neu a weli di fel y gwêl y meidrol?

5
A yw dy ddyddiau fel dyddiau dyn,
a'th flynyddoedd fel blynyddoedd gŵr?

6
Oherwydd yr wyt ti'n ceisio fy nghamwedd,
ac yn chwilio am fy mhechod,

7
a thithau'n gwybod nad wyf yn euog,
ac nad oes a'm gwared o'th law.


8
“ ‘Dy ddwylo a'm lluniodd ac a'm creodd,
ond yn awr yr wyt yn troi i'm difetha.

9
Cofia iti fy llunio fel clai,
ac eto i'r pridd y'm dychweli.

10
Oni thywelltaist fi fel llaeth,
a'm ceulo fel caws?

11
Rhoist imi groen a chnawd,
a phlethaist fi o esgyrn a gïau.

12
Rhoist imi fywyd a daioni,
a diogelodd dy ofal fy einioes.

13
Ond cuddiaist y rhain yn dy galon;
gwn mai dyna dy fwriad.

14
Os pechaf, byddi'n sylwi arnaf,
ac ni'm rhyddhei o'm camwedd.

15
Os wyf yn euog, gwae fi,
ac os wyf yn ddieuog, ni chaf godi fy mhen.
Yr wyf yn llawn o warth ac yn llwythog gan flinder.

16
Os ymffrostiaf, yr wyt fel llew yn fy hela,
ac yn parhau dy orchestion yn f'erbyn.

17
Yr wyt yn dwyn cyrch ar gyrch arnaf,
ac yn cynyddu dy lid ataf,
ac yn gosod dy luoedd yn f'erbyn.


18
“ ‘Pam y dygaist fi allan o'r groth?
O na fuaswn farw cyn i lygad fy ngweld!

19
O na fyddwn fel un heb fod,
yn cael fy nwyn o'r groth i'r bedd!

20
Onid prin yw dyddiau fy rhawd?
Tro oddi wrthyf, imi gael ychydig lawenydd

21
cyn imi fynd i'r lle na ddychwelaf ohono,
i dir tywyllwch a'r fagddu,

22
tir y tywyllwch dudew, y gwyll a'r fagddu, goleuni fel y tywyllwch.’ ”

11

1

Atebodd Soffar y Naamathiad:

2

“Oni ddylid ateb y pentyrru hwn ar eiriau?
A gyfiawnheir rhywun siaradus?

3
A wneir pawb yn fud gan dy faldorddi?
A gei di watwar heb neb i'th geryddu?

4
Dywedaist, ‘Y mae f'athrawiaeth yn bur,
a dilychwin wyf yn d'olwg.’

5
O na lefarai Duw,
ac agor ei wefusau i siarad â thi,

6
a hysbysu iti gyfrinachau doethineb,
a bod dwy ochr i ddeall!
Yna gwybydd fod Duw yn anghofio peth o'th gamwedd.

7
A elli di ddarganfod dirgelwch Duw,
neu gyrraedd at gyflawnder yr Hollalluog?

8
Y mae'n uwch na'r nefoedd. Beth a wnei di?
Y mae'n is na Sheol. Beth a wyddost ti?

9
Y mae ei fesur yn hwy na'r ddaear,
ac yn ehangach na'r môr.


10
“Os daw ef heibio, i garcharu neu i alw llys barn,
pwy a'i rhwystra?

11
Oherwydd y mae ef yn adnabod pobl dwyllodrus,
a phan wêl ddrygioni, onid yw'n sylwi arno?

12
A ddaw'r dwl yn ddeallus—
asyn gwyllt yn cael ei eni'n ddyn?


13
“Os cyfeiri dy feddwl yn iawn,
fe estynni dy ddwylo tuag ato;

14
ac os oes drygioni ynot, bwrw ef ymhell oddi wrthyt,
ac na thriged anghyfiawnder yn dy bebyll;

15
yna gelli godi dy olwg heb gywilydd,
a byddi'n gadarn a di-ofn.

16
Fe anghofi orthrymder;
fel dŵr a giliodd y cofi amdano.

17
Bydd gyrfa bywyd yn oleuach na chanol dydd,
a'r gwyll fel boreddydd.

18
Byddi'n hyderus am fod gobaith,
ac wedi edrych o'th gwmpas, fe orweddi'n ddiogel.

19
Fe orffwysi heb neb i'th ddychryn;
a bydd llawer yn ceisio dy ffafr.

20
Palla llygaid y drygionus,
diflanna ymwared oddi wrthynt,
a'u gobaith yw'r anadl olaf.”

12

1

Atebodd Job:

2

“Yn wir, chwi yw'r bobl,
a chyda chwi y derfydd doethineb!

3
Ond y mae gennyf finnau ddeall fel chwithau,
ac nid wyf yn salach na chwi;
yn wir, pwy sydd heb wybod hyn?


4
“Yr wyf yn gyff gwawd i'm cyfeillion,
er imi alw ar Dduw ac iddo yntau ateb;
y cyfiawn a'r perffaith yn gyff gwawd!

5
Dirmygir dinistr gan y rhai sydd mewn esmwythyd,
a sefydlogrwydd gan y rhai y mae eu traed yn llithro.

6
Llwyddiant sydd ym mhebyll yr anrheithwyr,
a diogelwch i'r rhai sy'n blino Duw—
rhai wedi cael Duw dan eu bawd!


7
“Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu,
ac i adar y nefoedd fynegi i ti,

8
neu i blanhigion y tir dy hyfforddi,
ac i bysgod y môr dy gyfarwyddo.

9
Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gyd
mai llaw'r ARGLWYDD a'u gwnaeth?

10
Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw,
ac anadl pob un meidrol.

11
Onid yw'r glust yn profi geiriau,
fel y mae taflod y genau yn blasu bwyd?


12
“Ai ymhlith yr oedrannus y ceir doethineb,
a deall gyda'r rhai sydd ymlaen mewn dyddiau?

13
Gan Dduw y mae doethineb a chryfder,
a chyngor a deall sydd eiddo iddo.

14
Os dinistria, nid adeiledir:
os carchara neb, nid oes rhyddhad.

15
Os atal ef y dyfroedd, yna y mae sychder;
a phan ollwng hwy, yna gorlifant y ddaear.

16
Ganddo ef y mae nerth a gwir ddoethineb;
ef biau'r sawl a dwyllir a'r sawl sy'n twyllo.

17
Gwna i gynghorwyr gerdded yn droednoeth,
a gwawdia farnwyr.

18
Y mae'n datod gwregys brenhinoedd,
ac yn rhwymo carpiau am eu llwynau.

19
Gwna i offeiriaid gerdded yn droednoeth,
a lloria'r rhai sefydledig.

20
Diddyma ymadrodd y rhai y credir ynddynt,
a chymer graffter yr henuriaid oddi wrthynt.

21
Fe dywallt ddirmyg ar bendefigion,
a gwanhau nerth y cryfion.

22
Y mae'n datguddio cyfrinachau o'r tywyllwch,
ac yn troi'r fagddu yn oleuni.

23
Fe amlha genhedloedd, ac yna fe'u dinistria;
fe ehanga genhedloedd, ac yna fe'u dwg ymaith.

24
Diddyma farn penaethiaid y ddaear,
a pheri iddynt grwydro mewn diffeithwch di-ffordd;

25
ymbalfalant yn y tywyllwch heb oleuni;
fe wna iddynt simsanu fel meddwon.”

13

1

“Gwelodd fy llygad hyn i gyd;
clywodd fy nghlust ef, a'i ddeall.

2
Rwyf finnau'n deall gystal â chwithau;
nid wyf yn ddim salach na chwi.

3
Eto â'r Hollalluog y dymunaf siarad,
a dadlau fy achos gyda Duw;

4
ond yr ydych chwi'n palu celwydd,
a'r cwbl ohonoch yn plethu anwiredd.

5
O na fyddech yn cadw'n ddistaw!
Hynny a fyddai'n ddoeth i chwi.

6
Gwrandewch yn awr ar fy achos,
a rhowch ystyriaeth i'm dadl.

7
A ddywedwch gelwydd dros Dduw,
a thwyll er ei fwyn?

8
A gymerwch chwi ei blaid,
a dadlau dros Dduw?

9
A fydd yn dda arnoch pan chwilia ef chwi?
A ellwch ei dwyllo ef fel y twyllir meidrolyn?

10
Bydd ef yn sicr o'ch ceryddu
os cymerwch ffafriaeth yn y dirgel.

11
Onid yw ei fawredd yn eich dychryn?
Oni ddisgyn ei arswyd arnoch?

12
Geiriau lludw yw eich gwirebau,
a chlai yw eich amddiffyniad.


13
“Byddwch ddistaw, a gadewch i mi lefaru,
a doed a ddelo arnaf.

14
Cymeraf fy nghnawd rhwng fy nannedd,
a'm heinioes yn fy nwylo.

15
Yn sicr, fe'm lladd; nid oes gobaith imi;
eto amddiffynnaf fy muchedd o'i flaen.

16
A hyn sy'n rhoi hyder i mi,
na all neb annuwiol fynd ato.

17
Gwrandewch yn astud ar fy ngeiriau,
a rhowch glust i'm tystiolaeth.

18
Dyma fi wedi trefnu f'achos;
gwn y caf fy nghyfiawnhau.

19
Pwy sydd i ddadlau â mi,
i wneud imi dewi a rhoi i fyny'r ysbryd?

20
Gwna ddau beth yn unig imi,
ac nid ymguddiaf oddi wrthyt:

21
symud dy law oddi arnaf,
fel na'm dychryner gan dy arswyd;

22
yna galw arnaf ac atebaf finnau,
neu gad i mi siarad a rho di ateb.

23
Beth yw nifer fy meiau a'm pechodau?
Dangos imi fy nhrosedd a'm pechod.

24
Pam yr wyt yn cuddio dy wyneb,
ac yn f'ystyried yn elyn iti?

25
A ddychryni di ddeilen grin,
ac ymlid soflyn sych?

26
Oherwydd dygaist bethau chwerw yn f'erbyn,
a gwneud imi etifeddu drygioni fy ieuenctid.

27
Gosodaist fy nhraed mewn cyffion
(yr wyt yn gwylio fy holl ffyrdd),
a rhoist nod ar wadnau fy nhraed.

28
Ond derfydd dyn fel costrel groen ,
fel dilledyn wedi ei ysu gan wyfyn.”

14

1

“Y mae pob un a anwyd o wraig
yn fyr ei oes ac yn llawn helbul.

2
Y mae fel blodeuyn yn tyfu ac yna'n gwywo;
diflanna fel cysgod ac nid erys.

3
A roi di sylw i un fel hyn,
a'i ddwyn ef i farn gyda thi?

4
Pwy a gaiff lendid allan o aflendid? Neb!

5
Gan fod terfyn i'w ddyddiau,
a chan iti rifo'i fisoedd,
a gosod iddo ffin nas croesir,

6
yna tro oddi wrtho fel y caiff lonydd,
fel gwas cyflog yn mwynhau ei ddiwrnod gwaith.


7
“Er i goeden gael ei thorri,
y mae gobaith iddi ailflaguro,
ac ni pheidia ei blagur â thyfu.

8
Er i'w gwraidd heneiddio yn y ddaear,
ac i'w boncyff farweiddio yn y pridd,

9
pan synhwyra ddŵr fe adfywia,
ac fe flagura fel planhigyn ifanc.

10
Ond pan fydd rhywun farw, â'n ddinerth,
a phan rydd ei anadl olaf, nid yw'n bod mwyach .

11
Derfydd y dŵr o'r llyn;
disbyddir a sychir yr afon;

12
felly'r meidrol, fe orwedd ac ni chyfyd,
ni ddeffry tra pery'r nefoedd,
ac nis cynhyrfir o'i gwsg.

13
O na bait yn fy nghuddio yn Sheol,
ac yn fy nghadw o'r golwg nes i'th lid gilio,
a phennu amser arbennig imi, a'm dwyn i gof!

14
(Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?)
Yna fe obeithiwn holl ddyddiau fy llafur,
hyd nes i'm rhyddhad ddod.

15
Gelwit arnaf, ac atebwn innau;
hiraethit am waith dy ddwylo.

16
Yna cedwit gyfrif o'm camre,
heb wylio fy mhechod;

17
selid fy nhrosedd mewn cod,
a chuddid fy nghamwedd.


18
“Ond, fel y diflanna'r mynydd sy'n llithro,
ac fel y symud y graig o'i lle,

19
ac fel y treulir y cerrig gan ddyfroedd,
ac y golchir ymaith bridd y ddaear gan lifogydd,
felly y gwnei i obaith meidrolyn ddiflannu.

20
Parhei i'w orthrymu nes derfydd;
newidi ei wedd, a'i ollwng.

21
Pan anrhydeddir ei blant, ni ŵyr;
pan ddarostyngir hwy, ni sylwa.

22
Ei gnawd ei hun yn unig sy'n ei boeni,
a'i fywyd ei hun sy'n ei ofidio.”

15

1

Yna atebodd Eliffas y Temaniad:

2

“Ai ateb â gwybodaeth nad yw'n ddim ond gwynt a wna'r doeth,
a llenwi ei fol â'r dwyreinwynt?

3
A ddadleua ef â gair di-fudd,
ac â geiriau di-les?

4
Ond yr wyt ti'n diddymu duwioldeb,
ac yn rhwystro defosiwn gerbron Duw.

5
Oherwydd dy gamwedd sy'n hyfforddi dy enau,
ac ymadrodd y cyfrwys a ddewisi.

6
Dy enau dy hun sy'n dy gondemnio, nid myfi,
a'th wefusau di sy'n tystio yn dy erbyn.


7
“Ai ti a anwyd y cyntaf o bawb?
A ddygwyd di i'r byd cyn y bryniau?

8
A wyt ti'n gwrando ar gyfrinach Duw,
ac yn cyfyngu doethineb i ti dy hun?

9
Beth a wyddost ti na wyddom ni?
Pa grebwyll sydd gennyt nad yw gennym ninnau?

10
Y mae yn ein mysg rai penwyn a rhai oedrannus,
rhai sy'n hŷn na'th dad.

11
Ai dibris yn d'olwg yw diddanwch Duw,
a'r gair a ddaw'n ddistaw atat?

12
Beth a ddaeth dros dy feddwl?
Pam y mae dy lygaid yn fflachio

13
fel yr wyt yn gosod dy ysbryd yn erbyn Duw,
ac yn arllwys y geiriau hyn?

14
Sut y gall neb fod yn ddieuog,
ac un a anwyd o wraig fod yn gyfiawn?

15
Os nad ymddiried Duw yn ei rai sanctaidd,
os nad yw'r nefoedd yn lân yn ei olwg,

16
beth ynteu am feidrolyn, sy'n ffiaidd a llwgr,
ac yn yfed anghyfiawnder fel dŵr?


17
“Dangosaf iti; gwrando dithau arnaf.
Mynegaf i ti yr hyn a welais

18
(yr hyn y mae'r doethion wedi ei ddweud,
ac nad yw wedi ei guddio oddi wrth eu hynafiaid;

19
iddynt hwy yn unig y rhoddwyd y ddaear,
ac ni thramwyodd dieithryn yn eu plith):

20
bydd yr annuwiol mewn helbul holl ddyddiau ei oes,
trwy gydol y blynyddoedd a bennwyd i'r creulon.

21
Sŵn dychryniadau sydd yn ei glustiau,
a daw'r dinistriwr arno yn awr ei lwyddiant.

22
Nid oes iddo obaith dychwelyd o'r tywyllwch;
y mae wedi ei dynghedu i'r cleddyf.

23
Crwydryn yw, ac ysglyfaeth i'r fwltur;
gŵyr mai diwrnod tywyll sydd wedi ei bennu iddo.

24
Brawychir ef gan ofid a chyfyngder;
llethir ef fel brenin parod i ymosod.

25
Oherwydd iddo estyn ei law yn erbyn Duw,
ac ymffrostio yn erbyn yr Hollalluog,

26
a rhuthro arno'n haerllug,
a both ei darian yn drwchus;

27
oherwydd i'w wyneb chwyddo gan fraster,
ac i'w lwynau dewychu â bloneg,

28
fe drig mewn dinasoedd diffaith,
mewn tai heb neb yn byw ynddynt,
lleoedd sydd ar fin adfeilio.

29
Ni ddaw'n gyfoethog, ac ni phery ei gyfoeth,
ac ni chynydda'i olud yn y tir.

30
Ni ddianc rhag y tywyllwch.
Deifir ei frig gan y fflam,
a syrth ei flagur yn y gwynt.

31
Peidied ag ymddiried mewn gwagedd a'i dwyllo'i hun,
canys gwagedd fydd ei dâl.

32
Bydd yn gwywo cyn ei amser,
ac ni lasa'i gangen.

33
Dihidla'i rawnwin anaeddfed fel gwinwydden,
a bwrw ei flodau fel olewydden.

34
Diffrwyth yw cwmni'r annuwiol,
ac fe ysa'r tân drigfannau breibwyr.

35
Beichiogant ar flinder ac ymddŵyn drwg,
ac ar dwyll yr esgor eu croth.”

16

1

Atebodd Job:

2

“Yr wyf wedi clywed llawer o bethau fel hyn;
cysurwyr sy'n peri blinder ydych chwi i gyd.

3
A oes terfyn i eiriau gwyntog?
Neu beth sy'n dy gythruddo i ddadlau?

4
Gallwn innau siarad fel chwithau,
pe baech chwi yn fy safle i;
gallwn blethu geiriau yn eich erbyn,
ac ysgwyd fy mhen arnoch.

5
Gallwn eich calonogi â'm genau,
a'ch esmwytháu â geiriau fy ngwefusau.


6
“Os llefaraf, ni phaid fy mhoen,
ac os tawaf, ni chilia oddi wrthyf.

7
Ond yn awr gosodwyd blinder arnaf;
anrheithiaist fy holl gydnabod.

8
Crychaist fy nghroen, a thystia hyn yn f'erbyn;
saif fy nheneuwch i'm cyhuddo.

9
Yn ei gynddaredd rhwygodd fi mewn casineb,
ac ysgyrnygu ei ddannedd arnaf;
llygadrytha fy ngelynion arnaf.

10
Cegant yn wawdlyd arnaf,
trawant fy ngrudd mewn dirmyg,
unant yn dyrfa yn f'erbyn.

11
Rhydd Duw fi yng ngafael yr annuwiol,
a'm taflu i ddwylo'r anwir.

12
Yr oeddwn mewn esmwythyd, ond drylliodd fi;
cydiodd yn fy ngwar a'm llarpio;
gosododd fi yn nod iddo anelu ato.

13
Yr oedd ei saethwyr o'm hamgylch;
trywanodd i'm harennau'n ddidrugaredd,
a thywalltwyd fy mustl ar y llawr.

14
Gwnaeth rwyg ar ôl rhwyg ynof;
rhuthrodd arnaf fel ymladdwr.


15
“Gwnïais sachliain am fy nghroen,
a chuddiais fy nghorun yn y llwch.

16
Cochodd fy wyneb gan ddagrau,
daeth düwch ar fy amrannau,

17
er nad oes trais ar fy nwylo,
ac er bod fy ngweddi'n ddilys.


18
“O ddaear, na chuddia fy ngwaed,
ac na fydded gorffwys i'm cri.

19
Oherwydd wele, yn y nefoedd y mae fy nhyst,
ac yn yr uchelder y mae'r Un a dystia drosof.

20
Er bod fy nghyfeillion yn fy ngwawdio,
difera fy llygad ddagrau gerbron Duw,

21
fel y bo barn gyfiawn rhwng pob un a Duw,
fel sydd rhwng rhywun a'i gymydog.

22
Ychydig flynyddoedd sydd i ddod
cyn imi fynd ar hyd llwybr na ddychwelaf arno.”

17

1

“Llesgaodd fy ysbryd, ciliodd fy nyddiau;
beddrod fydd fy rhan.

2
Yn wir y mae gwatwarwyr o'm cwmpas;
pyla fy llygaid wrth iddynt wawdio.


3
“Gosod dy hun yn feichiau drosof;
pwy arall a rydd wystl ar fy rhan?

4
Oherwydd iti gadw eu calon rhag deall,
ni fydd i ti eu dyrchafu.

5
Pan fydd rhywun yn gwenieithu ei gyfeillion,
bydd llygaid ei blant yn pylu.


6
“Gwnaeth fi'n ddihareb i'r bobl;
yr wyf yn un y maent yn poeri arno.

7
Pylodd fy llygaid o achos gofid;
aeth fy nghorff i gyd fel cysgod.

8
Synna'r cyfiawn at y fath beth,
a ffyrniga'r uniawn yn erbyn yr annuwiol.

9
Fe geidw'r cyfiawn at ei ffordd,
a bydd y glân ei ddwylo yn ychwanegu nerth.

10
Pe baech i gyd yn rhoi ailgynnig,
eto ni chawn neb doeth yn eich plith.


11
“Ciliodd fy nyddiau; methodd f'amcanion
a dyhead fy nghalon.

12
Gwnânt y nos yn ddydd—
dewisant weld goleuni er gwaethaf y tywyllwch.

13
Pa obaith sydd gennyf? Sheol fydd fy nghartref;
cyweiriaf fy ngwely yn y tywyllwch;

14
dywedaf wrth y pwll, ‘Ti yw fy nhad’,
ac wrth lyngyr, ‘Fy mam a'm chwaer’.

15
Ble, felly, y mae fy ngobaith?
A phwy a wêl obaith imi?

16
Oni ddisgyn y rhai hyn i Sheol?
Onid awn i gyd i'r llwch?”

18

1

Yna atebodd Bildad y Suhiad:

2

“Pa bryd y rhowch derfyn ar eiriau?
Ystyriwch yn bwyllog, yna gallwn siarad.

3
Pam yr ystyrir ni fel anifeiliaid,
ac y cyfrifir ni'n hurt yn eich golwg?

4
Un yn ei rwygo'i hun yn ei lid!
A wneir y ddaear yn ddiffaith er dy fwyn di?
A symudir y graig o'i lle?


5
“Fe ddiffydd goleuni'r drygionus,
ac ni chynnau fflam ei dân.

6
Fe dywylla'r goleuni yn ei babell,
a diffydd ei lamp uwch ei ben.

7
Byrhau a wna'i gamau cryfion,
a'i gyngor ei hun a wna iddo syrthio.

8
Fe'i gyrrir ef i'r rhwyd gan ei draed ei hun;
y mae'n sangu ar y rhwydwaith.

9
Cydia'r trap yn ei sawdl,
ac fe'i delir yn y groglath.

10
Cuddiwyd cortyn iddo ar y ddaear,
ac y mae magl ar ei lwybr.

11
Y mae ofnau o bob tu yn ei ddychryn,
ac yn ymlid ar ei ôl.

12
Pan ddaw pall ar ei gryfder,
yna y mae dinistr yn barod am ei gwymp.

13
Ysir ei groen gan glefyd,
a llyncir ei aelodau gan Gyntafanedig Angau;

14
yna cipir ef o'r babell yr ymddiriedai ef ynddi,
a'i ddwyn at Frenin Braw.

15
Bydd estron yn trigo yn ei babell,
a gwasgerir brwmstan ar ei annedd.


16
“Crina'i wraidd oddi tanodd,
a gwywa'i ganghennau uwchben.

17
Derfydd y cof amdano o'r tir,
ac nid erys ei enw yn y wlad.

18
Fe'i gwthir o oleuni i dywyllwch,
ac erlidir ef o'r byd.

19
Ni bydd disgynnydd na hil iddo ymysg ei bobl,
nac olynydd iddo yn ei drigfan.

20
Synnant yn y Gorllewin o achos ei dynged,
ac arswydant yn y Dwyrain.

21
Yn wir dyma drigfannau'r anghyfiawn;
hwn yw lle'r un nad yw'n adnabod Duw.”

19

1

Atebodd Job:

2

“Am ba hyd y blinwch fi,
a'm dryllio â geiriau?

3
Yr ydych wedi fy ngwawdio ddengwaith,
ac nid oes arnoch gywilydd fy mhoeni.

4
Os yw'n wir imi gyfeiliorni,
onid arnaf fi fy hun y mae'r bai?

5
Os ydych yn wir yn eich gwneud eich hunain yn well na mi,
ac yn fy nghondemnio o achos fy ngwarth,

6
ystyriwch yn awr mai Duw sydd wedi gwneud cam â mi,
ac wedi taflu ei rwyd o'm hamgylch.

7
Os gwaeddaf, ‘Trais’, ni chaf ateb;
os ceisiaf help, ni chaf farn deg.

8
Caeodd fy ffordd fel na allaf ddianc,
a gwnaeth fy llwybr yn dywyll o'm blaen.

9
Cipiodd f'anrhydedd oddi arnaf,
a symudodd y goron oddi ar fy mhen.

10
Bwriodd fi i lawr yn llwyr, a darfu amdanaf;
diwreiddiodd fy ngobaith fel coeden.

11
Enynnodd ei lid yn f'erbyn,
ac fe'm cyfrif fel un o'i elynion.

12
Daeth ei fyddinoedd ynghyd;
gosodasant sarn hyd ataf,
ac yna gwersyllu o amgylch fy mhabell.


13
“Cadwodd fy mherthnasau draw oddi wrthyf,
ac aeth fy nghyfeillion yn ddieithr.

14
Gwadwyd fi gan fy nghymdogion a'm cydnabod,
ac anwybyddwyd fi gan fy ngweision.

15
Fel dieithryn y meddylia fy morynion amdanaf;
estron wyf yn eu golwg.

16
Galwaf ar fy ngwas, ond nid yw'n fy ateb,
er i mi erfyn yn daer arno.

17
Aeth fy anadl yn atgas i'm gwraig,
ac yn ddrewdod i'm plant fy hun.

18
Dirmygir fi hyd yn oed gan blantos;
pan godaf ar fy nhraed, y maent yn troi cefn arnaf .

19
Ffieiddir fi gan fy nghyfeillion pennaf;
trodd fy ffrindiau agosaf yn f'erbyn.

20
Y mae fy nghnawd yn glynu wrth fy esgyrn,
a dihengais â chroen fy nannedd.


21
“Cymerwch drugaredd arnaf, fy nghyfeillion,
oherwydd cyffyrddodd llaw Duw â mi.

22
Pam yr erlidiwch fi fel y gwna Duw?
Oni chawsoch ddigon ar ddifa fy nghnawd?

23
O na fyddai fy ngeiriau wedi eu hysgrifennu!
O na chofnodid hwy mewn llyfr,

24
wedi eu hysgrifennu â phin haearn a phlwm,
a'u naddu ar garreg am byth!

25
Oherwydd gwn fod fy amddiffynnwr yn fyw,
ac y saif o'm plaid yn y diwedd;

26
ac wedi i'm croen ddifa fel hyn,
eto o'm cnawd caf weld Duw .

27
Fe'i gwelaf ef o'm plaid;
ie, fy llygaid fy hun a'i gwêl, ac nid yw'n ddieithr.
Y mae fy nghalon yn dyheu o'm mewn.


28
“Os dywedwch, ‘Y fath erlid a fydd arno,
gan fod gwreiddyn y drwg ynddo,’

29
yna arswydwch rhag y cleddyf,
oherwydd daw cynddaredd â chosb y cleddyf,
ac yna y cewch wybod fod barn.”

20

1

Yna atebodd Soffar y Naamathiad:

2

“Yn awr, fe'm cynhyrfir i ateb;
am hynny atebaf ar frys.

3
Clywais gerydd sy'n fy nifrïo;
y mae cynnwrf fy meddwl yn fy ngorfodi i ateb.

4
Onid wyt yn gwybod hyn? o'r dechrau,
er pan osodwyd pobl ar y ddaear,

5
byr yw gorfoledd y drygionus,
ac am gyfnod yn unig y pery llawenydd yr annuwiol.

6
Er i'w falchder esgyn i'r uchelder,
ac i'w ben gyffwrdd â'r cymylau,

7
eto derfydd am byth fel ei dom ei hun,
a dywed y rhai a'i gwelodd, ‘Ple mae ef?’

8
Eheda ymaith fel breuddwyd, ac ni fydd yn bod;
fe'i hymlidir fel gweledigaeth nos.

9
Y llygad a'i gwelodd, ni wêl mohono mwy,
ac nid edrych arno yn ei le.

10
Cais ei blant ffafr y tlawd,
a dychwel ei ddwylo ei gyfoeth.

11
Y mae ei esgyrn sy'n llawn egni
yn gorwedd gydag ef yn y llwch.


12
“Er i ddrygioni droi'n felys yn ei enau,
a'i fod yntau am ei gadw dan ei dafod,

13
ac yn anfodlon ei ollwng,
ond yn ei ddal dan daflod ei enau,

14
eto y mae ei fwyd yn ei gylla
yn troi'n wenwyn asb iddo.

15
Llynca gyfoeth, ac yna'i chwydu;
bydd Duw'n ei dynnu allan o'i fol.

16
Sugna wenwyn yr asb,
ac yna fe'i lleddir gan golyn gwiber.

17
Ni chaiff weld ffrydiau o olew ,
nac afonydd o fêl a llaeth.

18
Dychwel ffrwyth ei lafur heb iddo elwa arno;
er cymaint ei enillion, ni chaiff eu mwynhau.

19
Oherwydd gorthrymodd y tlawd a'i adael yn ddiymgeledd;
cipiodd dŷ nas adeiladodd.

20
Ni ŵyr sut i dawelu ei chwant,
ac ni ddianc dim rhag ei wanc.

21
Nid oes gweddill iddo'i fwyta,
ac felly nid oes parhad i'w ffyniant.

22
Wedi digoni ei chwant, â'n gyfyng arno;
daw holl rym gofid arno.

23
Pan fydd ar fedr llenwi ei fol,
gyrrir arno angerdd llid,
a'i dywallt i lawr i'w berfedd.


24
“Fe ffy rhag arfau haearn,
ond fe'i trywenir gan y saeth bres.

25
Tynnir hi allan o'i gorff,
y blaen gloyw allan o'i fustl;
daw dychrynfeydd arno.

26
Tywyllwch llwyr a gadwyd ar gyfer ei drysorau;
ysir ef gan dân nad oes raid ei chwythu;
difethir yr hyn a adawyd yn ei babell.

27
Dadlenna'r nefoedd ei gamwedd,
a chyfyd y ddaear yn ei erbyn.

28
Bydd i'r dilyw ddwyn ymaith ei dŷ,
a llifogydd, yn nydd ei lid.

29
Dyma dynged yr annuwiol oddi wrth Dduw,
a'r etifeddiaeth a osododd iddo.”

21

1

Atebodd Job:

2

“Gwrandewch eto ar fy ngeiriau;
felly y rhowch gysur imi.

3
Goddefwch i mi lefaru,
ac wedi imi lefaru, cewch watwar.

4
Oni chaf ddweud fy nghwyn wrth rywun?
a pham na chaf fod yn ddiamynedd?

5
Edrychwch arnaf, a synnwch,
a rhowch eich llaw ar eich genau.

6
Pan ystyriaf hyn, rwy'n arswydo,
a daw cryndod i'm cnawd.


7
“Pam y caiff yr annuwiol fyw,
a heneiddio'n gadarnach eu nerth?

8
Y mae eu plant yn byw o'u cwmpas,
a'u teulu yn eu hymyl.

9
Y mae eu tylwyth yn ddiogel oddi wrth ddychryn,
ac ni ddaw dyrnod Duw arnynt.

10
Y mae eu tarw'n cyfloi yn ddi-feth,
a'u buwch yn bwrw lloi heb erthylu.

11
Caiff eu plantos grwydro'n rhydd fel defaid,
a dawnsia'u plant yn hapus.

12
Canant gyda'r dympan a'r delyn,
a byddant lawen wrth sŵn y pibau.

13
Treuliant eu dyddiau mewn esmwythyd,
a disgynnant i Sheol mewn heddwch.

14
Dywedant wrth Dduw, ‘Cilia oddi wrthym;
ni fynnwn wybod dy ffyrdd.

15
Pwy yw'r Hollalluog i ni ei wasanaethu,
a pha fantais sydd inni os gweddïwn arno?’


16
“Ai yn eu dwylo'u hunain y mae eu ffyniant?
Pell yw cyngor y drygionus oddi wrth Dduw .


17
“Pa mor aml y diffoddir lamp yr annuwiol,
ac y daw eu dinistr arnynt hwy,
ac y tynghedir hwy i boen gan ei lid?

18
A ydynt hwy fel gwelltyn o flaen y gwynt,
neu fel us a ddygir ymaith gan y storm?

19
A geidw Duw ddinistr rhiant i'w blant?
Na, taled iddo ef ei hun, a'i ddarostwng.

20
Bydded i'w lygaid ei hun weld ei ddinistr,
ac yfed o lid yr Hollalluog.

21
Pa ddiddordeb fydd ganddo yn ei deulu ar ei ôl,
pan fydd nifer ei fisoedd wedi darfod?


22
“A ellir dysgu gwybodaeth i Dduw?
Onid ef sy'n barnu'r beilchion?


23
“Bydd un farw yn ei lwyddiant,
mewn llonyddwch a thawelwch,

24
ei lwynau yn llawn braster,
a mêr ei esgyrn yn iraidd.

25
Bydd arall farw yn chwerw ei ysbryd,
heb brofi daioni.

26
Ond gorweddant gyda'i gilydd yn y pridd,
a'r pryfed yn amdo drostynt.


27
“Yn awr gwn eich meddyliau,
a'r bwriadau sydd gennych i'm drygu;

28
oherwydd dywedwch, ‘Ble'r aeth tŷ'r pendefig?
a phle mae trigfannau'r annuwiol?’

29
Oni ofynnwch i'r rhai sy'n teithio'r ffordd?
Onid ydych yn adnabod yr arwyddion,

30
yr arbedir y drygionus rhag dydd dinistr,
ac y gwaredir ef rhag dydd digofaint?

31
Pwy a'i cyhudda yn ei wyneb?
Pwy a dâl yn ôl iddo am yr hyn a wnaeth?

32
Pan ddygir ef i'r bedd,
cedwir gwyliadwriaeth ar ei feddrod.

33
Y mae tywyrch y fynwent yn dyner arno;
bydd gorymdaith yn dilyn ar ei ôl,
a thyrfa niferus yn cerdded o'i flaen.

34
Sut, felly, y mae eich gwagedd yn gysur i mi?
Nid oes ond twyll yn eich atebion.”

22

1

Yna atebodd Eliffas y Temaniad:

2

“A yw unrhyw un o werth i Dduw?
Onid iddo'i hun y mae'r doeth o werth?

3
A oes boddhad i'r Hollalluog pan wyt yn gyfiawn,
neu elw iddo pan wyt yn rhodio'n gywir?

4
Ai am dy dduwioldeb y mae'n dy geryddu,
ac yn dy ddwyn i farn?

5
Onid yw dy ddrygioni'n fawr,
a'th gamwedd yn ddiderfyn?

6
Cymeri wystl gan dy gymrodyr yn ddiachos,
a dygi ymaith ddillad y tlawd.

7
Ni roddi ddŵr i'r lluddedig i'w yfed,
a gwrthodi fara i'r newynog.

8
Y cryf sy'n meddiannu'r tir,
a'r ffefryn a drig ynddo.

9
Gyrri'r weddw ymaith yn waglaw,
ac ysigi freichiau'r amddifad.

10
Am hyn y mae maglau o'th gwmpas,
a daw ofn disymwth i'th lethu,

11
a thywyllwch fel na elli weld,
a bydd dyfroedd yn dy orchuddio.


12
“Onid yw Duw yn uchder y nefoedd
yn edrych i lawr ar y sêr sy mor uchel?

13
Felly dywedi, ‘Beth a ŵyr Duw?
A all ef farnu trwy'r tywyllwch?

14
Cymylau na wêl trwyddynt sy'n ei guddio,
ac ar gylch y nefoedd y mae'n rhodio.’

15
A gedwi di at yr hen ffordd
y rhodiodd y drygionus ynddi?

16
Cipiwyd hwy ymaith cyn pryd,
pan ysgubwyd ymaith eu sylfaen gan lif afon.

17
Dyma'r rhai a ddywedodd wrth Dduw, ‘Cilia oddi wrthym’.
Beth a wnaeth yr Hollalluog iddynt hwy?

18
Er iddo lenwi eu tai â daioni,
pell yw cyngor y drygionus oddi wrtho .

19
Gwêl y cyfiawn hyn, a llawenha;
a gwatwerir hwy gan y dieuog.

20
Yn wir, dinistriwyd eu cynhaeaf,
ac ysodd y tân eu llawnder.


21
“Cytuna ag ef, a chei lwyddiant;
trwy hyn y daw daioni i ti.

22
Derbyn gyfarwyddyd o'i enau,
a chadw ei eiriau yn dy galon.

23
Os dychweli at yr Hollalluog mewn gwirionedd,
a gyrru anghyfiawnder ymhell o'th babell,

24
os ystyri aur fel pridd,
aur Offir fel cerrig y nentydd,

25
yna bydd yr Hollalluog yn aur iti,
ac yn arian pur.

26
Yna cei ymhyfrydu yn yr Hollalluog,
a dyrchafu dy wyneb at Dduw.

27
Cei weddïo arno, ac fe'th wrendy,
a byddi'n cyflawni dy addunedau.

28
Pan wnei gynllun, fe lwydda iti,
a llewyrcha goleuni ar dy ffyrdd.

29
Fe ddarostyngir y rhai a ystyri'n falch;
yr isel ei fryd a wareda ef.

30
Fe achub ef y dieuog ;
achubir ef am fod ei ddwylo'n lân.”

23

1

Atebodd Job:

2

“Heddiw eto y mae fy nghwyn yn chwerw ,
a'i law sy'n drwm er gwaethaf f'ochenaid.

3
O na wyddwn ble y cawn ef,
a pha fodd i ddod at ei drigfan!

4
Yna gosodwn fy achos o'i flaen,
a llenwi fy ngenau â dadleuon.

5
Mynnwn wybod sut yr atebai fi,
a deall beth a ddywedai wrthyf.

6
Ai gyda'i holl nerth y dadleuai â mi?
Na, ond fe roddai sylw imi.

7
Sylwai mai un uniawn a ymresymai ag ef,
a chawn fy rhyddhau am byth gan fy marnwr.


8
“Os af i'r dwyrain, nid yw ef yno;
ac os i'r gorllewin, ni chanfyddaf ef.

9
Pan weithreda yn y gogledd, ni sylwaf;
os try i'r de, nis gwelaf.

10
Ond y mae ef yn deall fy ffordd;
wedi iddo fy mhrofi, dof allan fel aur.

11
Dilyn fy nhroed ei lwybr;
cadwaf ei ffordd heb wyro.

12
Ni chiliaf oddi wrth orchmynion ei enau;
cadwaf ei eiriau yn fy mynwes.

13
Erys ef yr un, a phwy a'i try?
Fe wna beth bynnag a ddymuna.

14
Yn wir fe ddwg fy nedfryd i ben,
fel llawer o rai eraill sydd ganddo.

15
Am hyn yr arswydaf rhagddo;
pan ystyriaf, fe'i hofnaf.

16
Duw sy'n gwanychu fy nghalon;
yr Hollalluog sy'n fy nychryn;

17
nid y tywyllwch sy'n cyfyngu arnaf,
na'r fagddu'n fy nghuddio.”

24

1

“Ni chedwir yr amseroedd gan yr Hollalluog,
ond nid yw'r rhai sy'n ei adnabod yn eu gwybod.

2
Y mae'r annuwiol yn symud terfynau,
ac yn lladrata'r praidd i'w bugeilio.

3
Dygant asyn yr amddifad i ffwrdd,
a thywysant ymaith ych y weddw.

4
Gwthiant y tlawd o'r ffordd,
a chwilia rhai anghenus y wlad am le i ymguddio.

5
Ânt i'w gorchwyl fel asynnod gwyllt yn yr anialwch;
chwiliant am ysglyfaeth yn y diffeithwch, yn fwyd i'w plant.

6
Medant faes nad yw'n eiddo iddynt,
a lloffant winllan yr anghyfiawn.

7
Gorweddant drwy'r nos yn noeth, heb ddillad,
heb gysgod rhag yr oerni.

8
Fe'u gwlychir gan law trwm y mynyddoedd;
am eu bod heb loches, ymwthiant at graig.


9
“Tynnir yr amddifad oddi ar y fron,
a chymryd plentyn y tlawd yn wystl.


10
“Cerddant o gwmpas yn noeth heb ddillad,
a newynant wrth gasglu ysgubau.

11
Gwasgant yr olew rhwng y meini;
sathrant y cafnau gwin, ond y maent yn sychedig.

12
O'r ddinas clywir griddfan y rhai sy'n marw,
ac ochain y rhai clwyfedig yn gweiddi am gymorth;
ond ni rydd Duw sylw i'w cri.


13
“Dyma'r rhai sy'n gwrthryfela yn erbyn y goleuni,
y rhai nad ydynt yn adnabod ei ffyrdd,
nac yn aros yn ei lwybrau.

14
Cyn i'r dydd wawrio daw'r llofrudd
i ladd yr anghenus a'r tlawd.
Yn y nos y gweithia'r lleidr;
y mae'n torri i mewn i dai yn y tywyllwch.

15
Y mae'r godinebwr yn gwylio'i gyfle yn y cyfnos,
gan ddweud, ‘Nid oes neb yn fy ngweld’,
ac yn gosod gorchudd ar ei wyneb.

16
Cuddiant eu hunain yn ystod y dydd—
y rhain na wyddant beth yw goleuni.

17
Y mae'r bore yr un fath â'r fagddu iddynt;
eu cynefin yw dychrynfeydd y fagddu.


18
“Llysnafedd ar wyneb dyfroedd ydynt;
melltithiwyd eu cyfran yn y tir;
ni thry neb i gyfeiriad eu gwinllannoedd.

19
Fel y mae sychder a gwres yn cipio'r dyfroedd ar ôl eira,
felly y gwna Sheol i'r rhai a bechodd.

20
Anghofir hwy gan y groth, fe'u hysir gan y llyngyryn,
ac ni chofir hwy mwyach;
torrir ymaith anghyfiawnder fel coeden.

21
Drygant yr un na ddygodd blant,
ac ni wnânt dda i'r weddw.


22
“Y mae ef yn meddiannu'r cryf trwy ei nerth,
a phan gyfyd, nid oes gan neb hyder yn ei einioes.

23
Gwna iddynt gredu y cynhelir hwy;
eto y mae ei lygaid ar eu ffyrdd.

24
Dyrchefir hwy dros dro, yna diflannant;
gwywant a chiliant fel hocys ;
gwywant fel brig y dywysen.

25
Os nad felly y mae, pwy all fy ngwrthbrofi
a gwneud fy ngeiriau'n ddim?”

25

1

Yna atebodd Bildad y Suhiad:

2

“Y mae awdurdod a dychryn gyda Duw
sy'n peri heddwch yn yr uchelder.

3
A ellir rhifo ei fyddinoedd?
Ac ar bwy ni chyfyd ei oleuni?

4
Sut y gall unrhyw un fod yn gyfiawn gerbron Duw?
A pha fodd y gwneir yn lân un a anwyd o wraig?

5
Gwêl, nid yw'r lleuad yn rhoi goleuni pur,
ac nid yw'r sêr yn lân yn ei olwg.

6
Beth, ynteu, am feidrolyn, y llyngyryn,
ac un dynol, y pryfyn?”

26

1

Yna atebodd Job:

2

“O fel yr wyt ti wedi cynorthwyo'r di-rym,
a chynnal braich y di-nerth,

3
a rhoi cyngor i'r diddeall,
a mynegi digonedd o wir ddoethineb!

4
I bwy yr oeddit yn traethu geiriau,
a pha ysbryd a ddaeth allan ohonot?

5
Cryna'r cysgodion yn y dyfnder,
a'r dyfroedd hefyd, a'r rhai sy'n trigo ynddynt.

6
Y mae Sheol yn noeth ger ei fron,
ac nid oes gorchudd dros Abadon.

7
Taena'r gogledd ar y gwagle,
a gesyd y ddaear ar ddim.

8
Rhwyma'r dyfroedd yn ei gymylau,
ac ni rwygir y cwmwl odanynt.

9
Taena orchudd dros wyneb y lloer,
a thyn ei gwmwl drosto.

10
Gesyd gylch ar wyneb y dyfroedd,
yn derfyn rhwng goleuni a thywyllwch.

11
Sigla colofnau'r nefoedd,
a dychrynant pan gerydda.

12
Tawelodd y môr â'i nerth,
a thrawodd Rahab trwy ei ddoethineb.

13
Cliriodd y nefoedd â'i wynt;
trywanodd ei law y sarff wibiog.

14
Eto nid yw hyn ond ymylon ei ffyrdd;
prin sibrwd a glywsom am yr hyn a wnaeth.
Ond pwy a ddirnad drawiad ei nerth?”

27

1

Aeth Job ymlaen â'i ddadl, gan ddweud:

2

“Cyn wired â bod Duw yn fyw, a droes o'r neilltu fy achos,
a'r Hollalluog, a wnaeth fy einioes yn chwerw,

3
tra bydd anadl ynof,
ac ysbryd Duw yn fy ffroenau,

4
ni chaiff fy ngenau lefaru twyll,
na'm tafod ddweud celwydd!

5
Pell y bo imi ddweud eich bod chwi'n iawn!
Ni chefnaf ar fy nghywirdeb hyd fy marw.

6
Daliaf yn ddiysgog at fy nghyfiawnder,
ac nid yw fy nghalon yn fy ngheryddu am fy muchedd.


7
“Bydded fy ngelyn fel y drygionus,
a'm gwrthwynebwr fel y twyllodrus.

8
Oherwydd pa obaith sydd i'r annuwiol pan dorrir ef i lawr,
a phan gymer Duw ei einioes oddi arno?

9
A wrendy Duw ar ei gri
pan ddaw gofid iddo?

10
A yw ef yn ymhyfrydu yn yr Hollalluog?
A eilw ef ar Dduw yn gyson?

11
Dysgaf chwi am allu Duw,
ac ni chuddiaf ddim o'r hyn sydd gan yr Hollalluog.

12
Yn wir yr ydych chwi i gyd wedi ei weld eich hunain;
pam, felly, yr ydych mor gwbl ynfyd?


13
“Dyma dynged y drygionus oddi wrth Dduw,
ac etifeddiaeth y gormeswr gan yr Hollalluog:

14
os yw ei blant yn niferus, y cleddyf fydd eu rhan,
ac ni ddigonir ei hiliogaeth â bwyd.

15
Y rhai a edy ar ei ôl, fe'u cleddir o bla,
ac ni wyla'u gweddwon amdanynt.

16
Er iddo bentyrru arian fel llwch
a darparu dillad fel clai,

17
er iddo ef eu darparu, fe'u gwisgir gan y cyfiawn,
a'r diniwed a ranna'r arian.

18
Y mae'n adeiladu ei dŷ fel y pryf copyn,
ac fel y bwth a wna'r gwyliwr.

19
Pan â i gysgu, y mae ganddo gyfoeth,
ond ni all ei gadw;
pan yw'n agor ei lygaid, nid oes ganddo ddim.

20
Daw ofnau drosto fel llifogydd,
a chipia'r storm ef ymaith yn y nos.

21
Cipia gwynt y dwyrain ef, a diflanna;
fe'i hysguba o'i le.

22
Hyrddia arno'n ddidrugaredd,
er iddo ymdrechu i ffoi o'i afael.

23
Cura'i ddwylo arno,
a'i hysio o'i le.”

28

1

Y mae gwythïen i arian,
a gwely i'r aur a burir.

2
Tynnir yr haearn o'r ddaear,
a thoddir y garreg yn gopr.

3
Rhydd dyn derfyn ar dywyllwch,
a chwilio hyd yr eithaf
am y mwyn yn y tywyllwch dudew.

4
Agorir pyllau yn y cymoedd ymhell oddi wrth bawb;
fe'u hanghofiwyd gan y teithwyr.
Y maent yn hongian ymhell o olwg pobl,
gan siglo'n ôl ac ymlaen.

5
Ceir bwyd o'r ddaear,
eto oddi tani y mae wedi ei chynhyrfu fel gan dân.

6
Y mae ei cherrig yn ffynhonnell y saffir,
a llwch aur sydd ynddi.


7
Y mae llwybr na ŵyr hebog amdano,
ac nas gwelwyd gan lygad barcud,

8
ac nas troediwyd gan anifeiliaid rhodresgar,
ac na theithiodd y llew arno.


9
Estyn dyn ei law am y gallestr,
a thry'r mynyddoedd yn bendramwnwgl.

10
Egyr dwnelau yn y creigiau,
a gwêl ei lygaid bopeth gwerthfawr.

11
Gesyd argae i rwystro lli'r afonydd,
a dwg i oleuni yr hyn a guddiwyd ynddynt.


12
Ond pa le y ceir doethineb?
a pha le y mae trigfan deall?

13
Ni ŵyr neb ble mae ei chartref,
ac nis ceir yn nhir y byw.

14
Dywed y dyfnder, “Nid yw gyda mi”;
dywed y môr yntau, “Nid yw ynof fi.”

15
Ni ellir rhoi aur yn dâl amdani,
na phwyso'i gwerth mewn arian.

16
Ni ellir mesur ei gwerth ag aur Offir,
nac ychwaith â'r onyx gwerthfawr na'r saffir.

17
Ni ellir cymharu ei gwerth ag aur neu risial,
na'i chyfnewid am unrhyw lestr aur.

18
Ni bydd sôn am gwrel a grisial;
y mae meddu doethineb yn well na gemau.

19
Ni ellir cymharu ei gwerth â'r topas o Ethiopia,
ac nid ag aur coeth y prisir hi.


20
O ble y daw doethineb?
a phle mae trigfan deall?

21
Cuddiwyd hi oddi wrth lygaid popeth byw,
a hefyd oddi wrth adar y nefoedd.

22
Dywedodd Abadon a marwolaeth,
“Clywsom â'n clustiau sôn amdani.”


23
Duw sy'n deall ei ffordd;
y mae ef yn gwybod ei lle.

24
Oherwydd gall ef edrych i derfynau'r ddaear,
a gweld popeth sy dan y nefoedd.

25
Pan roddodd ef ei bwysau i'r gwynt,
a rhannu'r dyfroedd â mesur,

26
a gosod terfyn i'r glaw,
a ffordd i'r mellt a'r taranau,

27
yna fe'i gwelodd hi a'i mynegi,
fe'i sefydlodd hi a'i chwilio allan.

28
A dywedodd wrth ddynolryw,
“Ofn yr ARGLWYDD yw doethineb,
a chilio oddi wrth ddrwg yw deall.”

29

1

Aeth Job ymlaen â'i ddadl, gan ddweud:

2

“O na byddwn fel yn yr amser gynt,
yn y dyddiau pan oedd Duw yn fy ngwarchod,

3
pan wnâi i'w lamp oleuo uwch fy mhen,
a minnau'n rhodio wrth ei goleuni trwy'r tywyllwch;

4
pan oeddwn yn nyddiau f'anterth,
a Duw'n cysgodi dros fy nhrigfan;

5
pan oedd yr Hollalluog yn parhau gyda mi,
a'm plant o'm cwmpas.

6
Gallwn olchi fy nghamau mewn llaeth,
ac yr oedd y graig yn tywallt ffrydiau o olew imi.


7
“Awn allan i borth y ddinas,
ac eisteddwn yn fy sedd ar y sgwâr;

8
a phan welai'r llanciau fi, cilient,
a chodai'r hynafgwyr ar eu traed;

9
peidiai'r arweinwyr â llefaru,
a rhoddent eu llaw ar eu genau;

10
tawai siarad y pendefigion,
a glynai eu tafod wrth daflod eu genau.


11
“Pan glywai clust, galwai fi'n ddedwydd,
a phan welai llygad, canmolai fi;

12
oherwydd gwaredwn y tlawd a lefai,
a'r amddifad a'r diymgeledd.

13
Bendith yr un ar ddarfod amdano a ddôi arnaf,
a gwnawn i galon y weddw lawenhau.

14
Gwisgwn gyfiawnder fel dillad amdanaf;
yr oedd fy marn fel mantell a thwrban.

15
Yr oeddwn yn llygaid i'r dall,
ac yn draed i'r cloff.

16
Yr oeddwn yn dad i'r tlawd,
a chwiliwn i achos y sawl nad adwaenwn.

17
Drylliwn gilddannedd yr anghyfiawn,
a pheri iddo ollwng yr ysglyfaeth o'i enau.

18
Yna dywedais, ‘Byddaf farw yn f'anterth,
a'm dyddiau mor niferus â'r tywod,

19
a'm gwreiddiau yn ymestyn at y dyfroedd,
a'r gwlith yn aros drwy'r nos ar fy mrigau,

20
a'm hanrhydedd o hyd yn iraidd,
a'm bwa yn adnewyddu yn fy llaw.’


21
“Gwrandawai pobl arnaf,
a disgwylient yn ddistaw am fy nghyngor.

22
Wedi imi lefaru, ni ddywedent air;
diferai fy ngeiriau arnynt.

23
Disgwylient wrthyf fel am y glaw,
ac agorent eu genau fel am law y gwanwyn.

24
Pan wenwn arnynt, oni chaent hyder?
A phan lewyrchai fy wyneb, ni fyddent brudd.

25
Dewiswn eu ffordd iddynt, ac eistedd yn ben arnynt;
eisteddwn fel brenin yng nghanol ei lu,
fel un yn cysuro'r galarus.”

30

1

“Ond yn awr y maent yn chwerthin am fy mhen,
ie, rhai sy'n iau na mi,
rhai na buaswn yn ystyried eu tadau
i'w gosod gyda'm cŵn defaid.

2
Pa werth yw cryfder eu dwylo i mi,
gan fod eu hegni wedi diflannu?

3
Yn amser angen a newyn y maent yn ddifywyd,
yn crafu yn y tir sych a diffaith.

4
Casglant yr hocys a dail y prysglwyn
a gwraidd y banadl i'w cadw eu hunain yn gynnes.

5
Erlidir hwy o blith pobl,
a chodir llais yn eu herbyn fel yn erbyn lleidr.

6
Gwneir iddynt drigo yn agennau'r nentydd,
ac mewn tyllau yn y ddaear a'r creigiau.

7
Y maent yn nadu o ganol y perthi;
closiant at ei gilydd o dan y llwyni.

8
Pobl ynfyd a dienw ydynt;
fe'u gyrrwyd allan o'r tir.


9
“Ond yn awr myfi yw testun eu gwatwargerdd;
yr wyf yn destun gwawd iddynt.

10
Ffieiddiant fi a chadw draw oddi wrthyf,
ac nid yw'n ddim ganddynt boeri yn fy wyneb.

11
Pan ryddha ef raff a'm cystuddio,
taflant hwythau'r enfa yn fy ngŵydd.

12
Cyfyd y dihirod yn f'erbyn ar y dde;
gorfodant fi i gerdded ymlaen,
ac yna codant rwystrau imi ar y ffyrdd.

13
Maluriant fy llwybrau,
ychwanegant at f'anffawd,
ac nid oes neb yn eu rhwystro .

14
Dônt arnaf fel trwy fwlch llydan;
rhuthrant trwy ganol y dinistr.

15
Daeth dychryniadau arnaf;
gwasgerir fy urddas fel gan wynt;
diflannodd fy llwyddiant fel cwmwl.


16
“Yn awr llewygodd fy ysbryd,
cydiodd dyddiau cystudd ynof.

17
Dirboenir f'esgyrn drwy'r nos,
ac ni lonydda fy nghnofeydd.

18
Cydiant yn nerthol yn fy nillad,
a gafael ynof wrth goler fy mantell.

19
Taflwyd fi i'r llaid,
ac ystyrir fi fel llwch a lludw.

20
Gwaeddaf arnat am gymorth, ond nid wyt yn f'ateb;
safaf o'th flaen, ond ni chymeri sylw ohonof.

21
Yr wyt wedi troi'n greulon tuag ataf,
ac yr wyt yn ymosod arnaf â'th holl nerth.

22
Fe'm codi i fyny i farchogaeth y gwynt,
a'm bwrw yma ac acw i ddannedd y storm.

23
Gwn yn sicr mai i farwolaeth y'm dygi,
i'r lle a dynghedwyd i bob un byw.


24
“Onid yw un dan adfeilion yn estyn allan ei law
ac yn gweiddi am ymwared yn ei ddinistr?

25
Oni wylais dros yr un yr oedd yn galed arno,
a gofidio dros y tlawd?

26
Eto pan obeithiais i am ddaioni, daeth drwg;
pan ddisgwyliais am oleuni, dyna dywyllwch.

27
Y mae cyffro o'm mewn; ni chaf lonydd,
daeth dyddiau gofid arnaf.

28
Af o gwmpas yn groenddu, ond nid gan wres haul;
codaf i fyny yn y gynulleidfa i ymbil am gymorth.

29
Yr wyf yn frawd i'r siacal,
ac yn gyfaill i'r estrys.

30
Duodd fy nghroen,
a llosgodd f'esgyrn gan wres.

31
Aeth fy nhelyn i'r cywair lleddf,
a'm ffliwt i seinio galar.”

31

1

“Gwneuthum gytundeb â'm llygaid
i beidio â llygadu merch.

2
Beth yw fy nhynged gan Dduw oddi uchod,
a'm cyfran gan yr Hollalluog o'r uchelder?

3
Oni ddaw dinistr ar y twyllodrus,
ac aflwydd i'r drygionus?

4
Onid yw ef yn sylwi ar fy ffyrdd,
ac yn cyfrif fy nghamau?


5
“A euthum ar ôl oferedd,
a phrysuro fy ngherddediad i dwyllo?

6
Pwyser fi mewn cloriannau cywir
i Dduw gael gweld fy nghywirdeb.

7
Os gwyrodd fy ngham oddi ar y ffordd,
a'm calon yn dilyn fy llygaid,
neu os glynodd unrhyw aflendid wrth fy nwylo,

8
yna caiff arall fwyta'r hyn a heuais,
a diwreiddir yr hyn a blennais.


9
“Os denwyd fy nghalon gan ddynes,
ac os bûm yn llercian wrth ddrws fy nghymydog,

10
yna caiff fy ngwraig innau falu blawd i arall,
a chaiff dieithryn orwedd gyda hi.

11
Oherwydd byddai hynny'n anllad,
ac yn drosedd i'r barnwyr;

12
byddai fel tân yn difa'n llwyr,
ac yn dinistrio fy holl gynnyrch.


13
“Os diystyrais achos fy ngwas neu fy morwyn
pan oedd ganddynt gŵyn yn fy erbyn,

14
beth a wnaf pan gyfyd Duw?
Beth a atebaf pan ddaw i'm cyhuddo?

15
Onid ef a'n gwnaeth ni'n dau yn y groth,
a'n creu yn y bru?


16
“Os rhwystrais y tlawd rhag cael ei ddymuniad,
neu siomi disgwyliad y weddw;

17
os bwyteais fy mwyd ar fy mhen fy hun,
a gwrthod ei rannu â'r amddifad—

18
yn wir bûm fel tad yn ei fagu o'i ieuenctid,
ac yn ei arwain o adeg ei eni—

19
os gwelais grwydryn heb ddillad,
neu dlotyn heb wisg,

20
a'i lwynau heb fy mendithio
am na chynheswyd ef gan gnu fy ŵyn;

21
os codais fy llaw yn erbyn yr amddifad
am fy mod yn gweld cefnogaeth imi yn y porth;

22
yna disgynned f'ysgwydd o'i lle,
a thorrer fy mraich o'i chyswllt.

23
Yn wir y mae ofn dinistr Duw arnaf,
ac ni allaf wynebu ei fawredd.


24
“Os rhoddais fy hyder ar aur,
a meddwl am ddiogelwch mewn aur coeth;

25
os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr,
a bod cymaint yn fy meddiant;

26
os edrychais ar yr haul yn tywynnu,
a'r lleuad tra parhâi'n ddisglair,

27
ac os cafodd fy nghalon ei hudo'n ddirgel,
a chusanu fy llaw mewn gwrogaeth;

28
byddai hyn hefyd yn drosedd i'm barnwr,
oherwydd imi wadu Duw uchod.


29
“A lawenychais am drychineb fy ngelyn,
ac ymffrostio pan ddaeth drwg arno?

30
Ni adewais i'm tafod bechu
trwy osod ei einioes dan felltith.

31
Oni ddywedodd y dynion yn fy mhabell,
‘Pwy sydd na ddigonwyd ganddo â bwyd?’?

32
Ni chafodd y dieithryn gysgu allan;
agorais fy nrws i'r crwydryn.

33
A guddiais fy nhroseddau fel y gwna eraill,
trwy gadw fy nghamwedd yn fy mynwes,

34
am fy mod yn ofni'r dyrfa,
a bod dirmyg cymdeithas yn fy nychryn,
a minnau'n cadw'n dawel heb fynd allan?

35
O na fyddai rhywun yn gwrando arnaf!
Deuthum i'r terfyn; caiff yr Hollalluog yn awr fy ateb,
a chaiff fy ngwrthwynebwr ysgrifennu'r wŷs.

36
Yn wir dygaf hi ar f'ysgwyddau,
a'i gwisgo fel coron ar fy mhen.

37
Rhof gyfrif iddo o'm camau,
a nesáu ato fel tywysog.

38
Os gwaeddodd fy nhir yn f'erbyn,
a'i gwysi i gyd yn wylo;

39
os bwyteais ei gynnyrch heb dalu amdano,
ac ennyn atgasedd ei berchenogion;

40
yna tyfed mieri yn lle gwenith,
a chwyn yn lle haidd.”

Dyma derfyn geiriau Job.

32

1

Peidiodd y tri gŵr â dadlau rhagor â Job, am fod Job yn ei ystyried ei hun yn fwy cyfiawn na Duw.

2 Ond yr oedd Elihu fab Barachel y Busiad, o dylwyth Ram, wedi ei gythruddo yn erbyn Job. Yr oedd yn ddig am ei fod yn ei ystyried ei hun yn gyfiawn gerbron Duw,

3 a'r un mor ddig wrth ei dri chyfaill am eu bod yn methu ateb Job er iddynt ei gondemnio.

4 Tra oeddent hwy'n llefaru wrth Job, yr oedd Elihu wedi cadw'n dawel am eu bod yn hŷn nag ef.

5 Ond digiodd pan welodd nad oedd gan y tri gŵr ateb i Job.

6 Yna dywedodd Elihu fab Barachel y Busiad:

“Dyn ifanc wyf fi,
a chwithau'n hen;
am hyn yr oeddwn yn ymatal,
ac yn swil i ddweud fy marn wrthych.

7
Dywedais, ‘Caiff profiad maith siarad,
ac amlder blynyddoedd draethu doethineb.’

8
Ond yr ysbryd oddi mewn i rywun,
ac anadl yr Hollalluog, sy'n ei wneud yn ddeallus.

9
Nid yr oedrannus yn unig sydd ddoeth,
ac nid yr hen yn unig sy'n deall beth sydd iawn.

10
Am hyn yr wyf yn dweud, ‘Gwrando arnaf;
gad i minnau ddweud fy marn.’


11
“Bûm yn disgwyl am eich geiriau,
ac yn gwrando am eich deallusrwydd;
tra oeddech yn dewis eich geiriau,

12
sylwais yn fanwl arnoch,
ond nid oedd yr un ohonoch yn gallu gwrthbrofi Job,
nac ateb ei ddadleuon.

13
Peidiwch â dweud, ‘Fe gawsom ni ddoethineb’;
Duw ac nid dyn a'i trecha.

14
Nid yn f'erbyn i y trefnodd ei ddadleuon;
ac nid â'ch geiriau chwi yr atebaf fi ef.


15
“Y maent hwy wedi eu syfrdanu, ac yn methu ateb mwyach;
pallodd geiriau ganddynt.

16
A oedaf fi am na lefarant hwy,
ac am eu bod hwy wedi peidio ag ateb?

17
Gwnaf finnau fy rhan trwy ateb,
a dywedaf fy marn.

18
Yr wyf yn llawn o eiriau,
ac ysbryd ynof sy'n fy nghymell.

19
O'm mewn yr wyf fel petai gwin yn methu arllwys allan,
a minnau fel costrelau newydd ar fin rhwygo.

20
Rhaid i mi lefaru er mwyn cael gollyngdod,
rhaid i mi agor fy ngenau i ateb.

21
Ni ddangosaf ffafr at neb,
ac ni wenieithiaf i neb;

22
oherwydd ni wn i sut i wenieithio;
pe gwnawn hynny, byddai fy nghreawdwr ar fyr dro yn fy symud.”

33

1

“Ond yn awr, Job, gwrando arnaf,
a chlustfeinia ar fy ngeiriau i gyd.

2
Dyma fi'n agor fy ngwefusau,
a'm tafod yn llefaru yn fy ngenau.

3
Y mae fy ngeiriau'n mynegi fy meddwl yn onest,
a'm gwefusau wybodaeth yn ddiffuant.

4
Ysbryd Duw a'm lluniodd,
ac anadl yr Hollalluog a'm ceidw'n fyw.

5
Ateb fi, os medri;
trefna dy achos, a saf o'm blaen.

6
Ystyria, o flaen Duw yr wyf finnau yr un fath â thithau;
o glai y'm lluniwyd innau hefyd.

7
Ni ddylai arswyd rhagof fi dy barlysu;
ni fyddaf yn llawdrwm arnat.


8
“Yn wir, dywedaist yn fy nghlyw,
a chlywais innau dy eiriau'n glir:

9
‘Rwy'n lân, heb drosedd;
rwy'n bur heb gamwedd.

10
Ond y mae Duw yn codi cwynion yn fy erbyn,
ac yn f'ystyried yn elyn iddo,

11
yn gosod fy nhraed mewn cyffion,
ac yn gwylio fy holl ffyrdd.’


12
“Nid wyt yn iawn yn hyn, a dyma f'ateb iti:
Y mae Duw yn fwy na meidrolyn.

13
Pam yr wyt yn ymgecru ag ef,
oherwydd nid oes ateb i'r un o'i eiriau?

14
Mae Duw yn llefaru unwaith ac eilwaith,
ond nid oes neb yn cymryd sylw.

15
Mewn breuddwyd, mewn gweledigaeth nos,
pan ddaw trymgwsg ar bobl,
pan gysgant yn eu gwelyau,

16
yna fe wna iddynt wrando,
a'u dychryn â rhybuddion,

17
i droi rhywun oddi wrth ei weithred,
a chymryd ymaith ei falchder oddi wrtho,

18
a gwaredu ei einioes rhag y pwll,
a'i fywyd rhag croesi afon angau.


19
“Fe'i disgyblir ar ei orwedd
â chryndod di-baid yn ei esgyrn;

20
y mae bwyd yn ffiaidd ganddo,
ac nid oes arno chwant am damaid blasus;

21
nycha'i gnawd o flaen fy llygad,
a daw'r esgyrn, na welid gynt, i'r amlwg;

22
y mae ei einioes ar ymyl y pwll,
a'i fywyd ger mangre'r meirw.

23
Os oes angel i sefyll drosto—
un o blith mil i gyfryngu
ac i ddadlau ei hawl drosto,

24
a thrugarhau wrtho gan ddweud,
‘Achub ef rhag mynd i'r pwll;
y mae pris ei ryddid gennyf fi’—

25
yna bydd ei gnawd yn iachach nag erioed,
wedi ei adfer fel yr oedd yn nyddiau ei ieuenctid.

26
Bydd yn gweddïo ar Dduw, ac yntau'n ei wrando;
bydd yn edrych ar ei wyneb mewn llawenydd,
gan ddweud wrth eraill am ei gyfiawnhad

27
a chanu yn eu gŵydd, a dweud,
‘Pechais, gan droi oddi wrth uniondeb,
ond ni chyfrifwyd hyn yn f'erbyn;

28
gwaredodd f'einioes rhag mynd i'r pwll,
ac fe wêl fy mywyd oleuni.’


29
“Gwna Duw hyn i gyd i feidrolyn
ddwywaith, ie deirgwaith;

30
fe adfer ei einioes o'r pwll,
er mwyn iddo gael gweld goleuni bywyd.

31
Ystyria, Job, a gwrando arnaf;
bydd dawel ac mi lefaraf.

32
Os oes gennyt ddadl, ateb fi;
llefara, oherwydd fy nymuniad yw dy gyfiawnhau.

33
Ond os nad oes gennyt ddim i'w ddweud, gwrando arnaf;
bydd dawel, a dysgaf ddoethineb i ti.”

34

1

Dywedodd Elihu:

2

“Gwrandewch ar fy ngeiriau, chwi ddoethion;
clustfeiniwch arnaf, chwi rai deallus.

3
Oherwydd y glust sydd yn profi geiriau,
fel y profir bwyd gan daflod y genau.

4
Gadewch i ni ddewis yr hyn sy'n iawn,
a phenderfynu gyda'n gilydd beth sy'n dda.

5
Dywedodd Job, ‘Yr wyf yn gyfiawn,
ond trodd Duw farn oddi wrthyf.

6
Er fy mod yn iawn, fe'm gwneir yn gelwyddog;
y mae fy archoll yn ffyrnig, a minnau heb droseddu.’

7
Pwy sydd fel Job,
yn drachtio dirmyg fel dŵr,

8
yn cadw cwmni â rhai ofer,
ac yn gwag-symera gyda'r drygionus?

9
Oherwydd dywedodd, ‘Nid yw o werth i neb
ymhyfrydu yn Nuw.’


10
“Am hyn, chwi bobl ddeallus, gwrandewch arnaf.
Pell y bo oddi wrth Dduw wneud drygioni,
ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu'n anghyfiawn.

11
Oherwydd fe dâl ef i bob un yn ôl ei weithred,
a'i wobrwyo yn ôl ei ffordd o fyw.

12
Yn wir, nid yw Duw byth yn gwneud drwg,
ac nid yw'r Hollalluog yn gwyrdroi barn.

13
Pwy a'i gosododd ef mewn awdurdod ar y ddaear,
a rhoi'r byd cyfan iddo?

14
Pe byddai ef yn rhoi ei fryd
ar ddwyn ei ysbryd a'i anadl yn ôl ato'i hun,

15
yna byddai pob cnawd yn marw,
a phawb yn dychwelyd i'r pridd.


16
“Os oes gennyt ti ddeall, gwrando hyn,
a rho sylw i'm geiriau.

17
A all un sy'n casáu barn lywodraethu?
A gondemni di'r un cyfiawn cadarn?

18
Gall ef ddweud wrth frenin, ‘Y dihiryn’,
ac wrth lywodraethwyr, ‘Y cnafon’;

19
nid yw'n dangos ffafr at swyddogion,
nac yn rhoi'r cyfoethog o flaen y tlawd,
oherwydd gwaith ei ddwylo yw pob un ohonynt.

20
Mewn moment byddant farw, yng nghanol nos;
trenga'r cyfoethog, a diflannu ;
symudir ymaith y cryf heb ymdrech.


21
“Y mae ei lygaid yn gwylio ffyrdd pob un,
a gwêl ei holl gamau.

22
Nid oes tywyllwch na chaddug
lle y gall drwgweithredwyr guddio.

23
Nid oes amser wedi ei drefnu
i neb ddod i farn o flaen Duw;

24
y mae ef yn dryllio'r cryfion heb eu profi,
ac yn gosod eraill yn eu lle.

25
Y mae'n adnabod eu gweithredoedd,
ac yn eu dymchwel a'u dryllio mewn noson.

26
Y mae'n eu taro o achos eu drygioni,
a hynny yng ngŵydd pawb,

27
am eu bod yn troi oddi wrtho,
ac yn gwrthod ystyried yr un o'i ffyrdd.

28
Gwnânt i gri'r tlawd ddod ato,
ac iddo glywed gwaedd yr anghenus.

29
Ond y mae ef yn dawel, pwy bynnag a wna ddrwg;
y mae'n cuddio'i wyneb, pwy bynnag a'i cais—
boed genedl neu unigolyn—

30
rhag i neb annuwiol lywodraethu,
a maglu pobl.


31
“Os dywed un wrth Dduw,
‘Euthum ar gyfeiliorn, ni wnaf ddrwg eto;

32
am na allaf fi weld, hyffordda di fi;
os gwneuthum ddrygioni, ni chwanegaf ato’—

33
a wyt ti, sydd wedi ei wrthod, yn tybio
y bydd ef yn fodlon ar hynny?
Ti sydd i ddewis, nid fi;
traetha yr hyn a wyddost.

34
Y mae pobl ddeallus yn siarad â mi,
a rhai doeth yn gwrando arnaf.

35
Ond y mae Job yn llefaru heb ystyried,
ac nid yw ei eiriau yn ddeallus.

36
O na phrofid Job i'r eithaf,
gan fod ei atebion fel rhai pobl ddrwg!

37
Y mae'n ychwanegu gwrthryfel at ei bechod,
yn codi amheuaeth ynghylch ei drosedd yn ein plith,
ac yn amlhau geiriau yn erbyn Duw.”

35

1

Dywedodd Elihu:

2

“A gredi di fod hyn yn iawn?
A wyt ti'n honni bod yn gyfiawn o flaen Duw,

3
a thithau'n dweud, ‘Pa werth ydyw i ti,
neu pa fantais i mi fy hun fod heb bechu?’

4
Fe roddaf fi'r ateb iti,
a hefyd i'th gyfeillion.

5
Edrych ar yr awyr, ac ystyria,
a sylwa ar y cymylau sydd uwch dy ben.

6
Os pechaist, pa wahaniaeth yw iddo ef?
Ac os amlha dy droseddau, beth a wna hynny iddo ef?

7
Os wyt yn gyfiawn, beth yw'r fantais iddo ef,
neu beth a dderbyn ef o'th law?

8
 meidrolion fel ti y mae a wnelo dy ddrygioni,
ac â phobl y mae a wnelo dy gyfiawnder.


9
“Pan waedda pobl dan faich gorthrwm,
a llefain am waredigaeth o afael y mawrion,

10
ni ddywed neb, ‘Ble mae Duw, fy ngwneuthurwr,
a rydd destun cân yn y nos,

11
ac a'n gwna'n fwy deallus na'r anifeiliaid gwylltion,
ac yn fwy doeth nag adar yr awyr?’

12
Felly, er iddynt weiddi, nid etyb ef,
o achos balchder y drygionus.

13
Ofer yn wir! Nid yw Duw'n gwrando arno,
ac nid yw'r Hollalluog yn cymryd sylw ohono.

14
Nac ychwaith ohonot tithau pan ddywedi nad wyt yn ei weld,
a bod yr achos o'i flaen, a'th fod yn dal i ddisgwyl wrtho.

15
Ond yn awr, am nad yw ef yn cosbi yn ei ddig,
ac nad yw'n sylwi'n fanwl ar gamwedd,

16
fe lefarodd Job yn ynfyd,
ac amlhau geiriau heb ddeall.”

36

1

Aeth Elihu ymlaen i ddweud:

2

“Aros ychydig, imi gael dangos iti
fod eto eiriau i'w dweud dros Dduw.

3
Yr wyf yn tynnu fy ngwybodaeth o bell,
i dystio bod fy Ngwneuthurwr yn gyfiawn.

4
Yn wir nid yw fy ngeiriau'n gelwydd;
un diogel ei wybodaeth sydd o'th flaen.

5
Edrych yma, Duw yw'r Un Cadarn;
nid yw'n anystyriol, eithr mawr a chadarn yw mewn deall.

6
Nid yw'n gadael i'r drygionus gael byw,
ond fe gynnal achos y gwan.

7
Ni thry ei olwg oddi ar y cyfiawn,
ond gyda brenhinoedd ar orsedd
cânt eistedd am byth, a llwyddo.

8
Os rhwymir hwy mewn cadwynau,
a'u dal mewn gefynnau gofid,

9
yna fe ddengys iddynt eu gweithred
a'u trosedd, am iddynt fod yn ffroenuchel.

10
Rhydd rybudd iddynt am ddisgyblaeth,
a dywed wrthynt am droi oddi wrth eu drygioni.

11
Os gwrandawant, a bod yn ufudd,
fe gânt dreulio'u dyddiau mewn llwyddiant,
a'u blynyddoedd mewn hyfrydwch.

12
Os gwrthodant wrando, difethir hwy gan gleddyf,
a darfyddant heb ddysgu dim.


13
“Y mae'r rhai annuwiol yn ennyn dig,
ac ni cheisiant gymorth mewn caethiwed.

14
Y maent yn marw'n ifanc,
wedi treulio'u bywyd gyda phuteinwyr cysegr.

15
Fe wareda ef y rhai trallodus trwy eu gofid,
a'u dysgu trwy orthrymder.


16
“Er iddo geisio dy ddenu oddi wrth ofid,
a'th ddwyn o le cyfyng i ehangder,
a hulio dy fwrdd â phob braster,

17
yr wyt yn llawn o farn ar y drygionus,
wedi dy feddiannu gan farn a chyfiawnder.

18
Gwylia rhag cael dy hudo gan ddigonedd,
a phaid â gadael i faint y rhodd dy ddenu.

19
A fydd dy gyfoeth yn dy helpu mewn cyfyngder,
neu holl adnoddau dy nerth?

20
Paid â dyheu am y nos,
pan symudir pobloedd o'u lle.

21
Gwylia rhag troi at ddrygioni,
oherwydd dewisi hyn yn hytrach na gofid.

22
Sylwa mor aruchel yw Duw yn ei nerth;
pwy sydd yn dysgu fel y gwna ef?

23
Pwy a wylia arno yn ei ffordd?
a phwy a ddywed, ‘Yr wyt yn gwneud yn anghyfiawn’?


24
“Cofia di ganmol ei waith,
y gwaith y canodd pobl amdano.

25
Y mae pawb yn edrych arno,
ac yn ei weld o bell.

26
Cofia fod Duw yn fawr, y tu hwnt i ddeall,
a'i flynyddoedd yn ddirifedi.

27
Y mae'n cronni'r defnynnau dŵr,
ac yn eu dihidlo'n law mân fel tarth;

28
fe'u tywelltir o'r cymylau,
i ddisgyn yn gawodydd ar bobl.

29
A ddeall neb daeniad y cwmwl,
a'r tyrfau sydd yn ei babell?

30
Edrych fel y taena'i darth o'i gwmpas,
ac y cuddia waelodion y môr.

31
Â'r rhain y diwalla ef y bobloedd,
a rhoi iddynt ddigonedd o fwyd.

32
Deil y mellt yn ei ddwylo,
a'u hanelu i gyrraedd eu nod.

33
Dywed ei drwst amdano,
fod angerdd ei lid yn erbyn drygioni.”

37

1

“Am hyn hefyd y mae fy nghalon
yn cynhyrfu,
ac yn llamu o'i lle.

2
Gwrandewch ar daran ei lais,
a'r atsain a ddaw o'i enau.

3
Y mae'n ei yrru ar draws yr wybren,
ac yn gyrru ei fellt i gilfachau'r byd.

4
Ar eu hôl fe rua;
tarana â'i lais mawr,
ac nid yw'n eu hatal
pan glywir ei lais.

5
Tarana Duw yn rhyfeddol â'i lais;
gwna wyrthiau, y tu hwnt i'n deall.

6
Fe ddywed wrth yr eira, ‘Disgyn ar y ddaear’,
ac wrth y glaw a'r cawodydd, ‘Trymhewch’.

7
Y mae pob un yn cael ei gau i mewn,
a phopeth a wnânt yn cael ei atal.

8
Â'r anifeiliaid i'w ffeuau,
ac aros yn eu gwâl.

9
Daw'r corwynt allan o'i ystafell,
ac oerni o'r tymhestloedd.

10
Daw anadl Duw â'r rhew,
a rhewa'r llynnoedd yn galed.

11
Lleinw'r cwmwl hefyd â gwlybaniaeth,
a gwasgara'r cwmwl ei fellt.

12
Gwibiant yma ac acw ar ei orchymyn,
i wneud y cyfan a ddywed wrthynt,
dros wyneb daear gyfan.


13
“Gwna hyn naill ai fel cosb,
neu er mwyn ei dir, neu mewn trugaredd.


14
“Gwrando ar hyn, Job;
aros ac ystyria ryfeddodau Duw.

15
A wyt ti'n deall sut y mae Duw yn trefnu,
ac yn gwneud i'r mellt fflachio yn ei gwmwl?

16
A wyt ti'n deall symudiadau'r cymylau,
rhyfeddodau un perffaith ei wybodaeth?

17
Ti, sy'n chwysu yn dy ddillad
pan fydd y ddaear yn swrth dan wynt y de,

18
a fedrit ti, fel ef, daenu'r wybren,
sy'n galed fel drych o fetel tawdd?

19
Dywed wrthym beth i'w ddweud wrtho;
oherwydd y tywyllwch ni allwn ni drefnu'n hachos.

20
A ellir dweud wrtho, ‘Yr wyf fi am lefaru’,
neu fynegi iddo, ‘Y mae hwn am siarad’?


21
“Ond yn awr, ni all neb edrych ar y goleuni
pan yw'n ddisglair yn yr awyr,
a'r gwynt wedi dod a'i chlirio.

22
Disgleiria o'r gogledd fel aur;
o gwmpas Duw y mae ysblander ofnadwy.

23
Ni allwn ni ganfod yr Hollalluog,
y mae'n fawr ei nerth;
yn ei farn a'i gyfiawnder ni wna gam.

24
Am hyn, y mae pawb yn ei ofni,
a phob un doeth yn edrych ato .”

38

1

Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt:

2

“Pwy yw hwn sy'n tywyllu cyngor
â geiriau diwybod?

3
Gwna dy hun yn barod i'r ornest;
fe holaf fi di, a chei dithau ateb.


4
“Ble'r oeddit ti pan osodais i sylfaen i'r ddaear?
Ateb, os gwyddost.

5
Pwy a benderfynodd ei mesurau? Mae'n siŵr dy fod yn gwybod!
Pwy a estynnodd linyn mesur arni?

6
Ar beth y seiliwyd ei sylfeini,
a phwy a osododd ei chonglfaen?

7
Ble'r oeddit ti pan oedd sêr y bore i gyd yn llawenhau,
a'r holl angylion yn gorfoleddu,

8
pan gaewyd ar y môr â dorau,
pan lamai allan o'r groth,

9
pan osodais gwmwl yn wisg amdano,
a'r caddug yn rhwymyn iddo,

10
a phan drefnais derfyn iddo,
a gosod barrau a dorau,

11
a dweud, ‘Hyd yma yr ei, a dim pellach,
ac yma y gosodais derfyn i ymchwydd dy donnau’?


12
“A wyt ti, yn ystod dy fywyd, wedi gorchymyn y bore
a dangos ei lle i'r wawr,

13
er mwyn iddi gydio yng nghonglau'r ddaear,
i ysgwyd y drygionus ohoni?

14
Y mae'n newid ffurf fel clai dan y sêl,
ac yn sefyll allan fel plyg dilledyn.

15
Atelir eu goleuni oddi wrth y drygionus,
a thorrir y fraich ddyrchafedig.


16
“A fedri di fynd at ffynhonnell y môr,
neu gerdded yng nghuddfa'r dyfnder?

17
A agorwyd pyrth angau i ti,
neu a welaist ti byrth y fagddu?

18
A fedri di ddirnad maint y ddaear?
Dywed, os wyt ti'n deall hyn i gyd.


19
“Prun yw'r ffordd i drigfan goleuni,
ac i le tywyllwch,

20
fel y gelli di ei chymryd i'w therfyn,
a gwybod y llwybr i'w thŷ?

21
Fe wyddost, am dy fod wedi dy eni yr adeg honno,
a bod nifer dy ddyddiau yn fawr!


22
“A fuost ti yn ystordai'r eira,
neu'n gweld cistiau'r cesair?

23
Dyma'r pethau a gedwais at gyfnod trallod,
at ddydd brwydr a rhyfel.

24
Prun yw'r ffordd i'r fan lle y rhennir goleuni,
ac y gwasgerir gwynt y dwyrain ar y ddaear?


25
“Pwy a wnaeth sianel i'r cenllif glaw,
a llwybr i'r daranfollt,

26
i lawio ar dir heb neb ynddo,
a diffeithwch heb unrhyw un yn byw ynddo,

27
i ddigoni'r tir diffaith ac anial,
a pheri i laswellt dyfu yno?


28
“A oes tad i'r glaw?
Pwy a genhedlodd y defnynnau gwlith?

29
O groth pwy y daw'r rhew?
A phwy a genhedlodd y llwydrew,

30
i galedu'r dyfroedd fel carreg,
a rhewi wyneb y dyfnder?

31
A fedri di gau cadwynau Pleiades,
neu ddatod rhwymau Orion?

32
A fedri di ddwyn Masaroth allan yn ei bryd,
a thywys yr Arth gyda'i phlant?

33
A wyddost ti reolau'r awyr?
A fedri di gymhwyso i'r ddaear ei threfn?


34
“A fedri di alw ar y cwmwl
i beri i ddyfroedd lifo drosot?

35
A fedri di roi gorchymyn i'r mellt,
iddynt ddod atat a dweud, ‘Dyma ni’?

36
Pwy a rydd ddoethineb i'r cymylau,
a deall i'r niwl?

37
Gan bwy y mae digon o ddoethineb i gyfrif y cymylau?
A phwy a wna i gostrelau'r nefoedd arllwys,

38
nes bod llwch yn mynd yn llaid,
a'r tywyrch yn glynu wrth ei gilydd?


39
“Ai ti sydd yn hela ysglyfaeth i'r llew,
a diwallu angen y llewod ifanc,

40
pan grymant yn eu gwâl,
ac aros dan lwyn am helfa?

41
Pwy sy'n trefnu bwyd i'r frân,
pan waedda'r cywion ar Dduw,
a hedfan o amgylch heb fwyd?”

39

1

“A wyddost ti amser llydnu y
geifr gwylltion?
A fuost ti'n gwylio'r ewigod yn esgor,

2
yn cyfrif y misoedd a gyflawnant
ac yn gwybod amser eu llydnu?

3
Y maent yn crymu i eni eu llydnod,
ac yn bwrw eu brych.

4
Y mae eu llydnod yn cryfhau ac yn prifio yn y maes,
yn mynd ymaith, ac ni ddônt yn ôl.


5
“Pwy sy'n rhoi ei ryddid i'r asyn gwyllt,
ac yn datod rhwymau'r asyn cyflym

6
y rhoddais yr anialdir yn gynefin iddo,
a thir diffaith yn lle iddo fyw?

7
Y mae'n gas ganddo sŵn y dref;
y mae'n fyddar i floeddiadau gyrrwr.

8
Crwydra'r mynyddoedd am borfa,
a chwilia am bob blewyn glas.


9
“A yw'r ych gwyllt yn fodlon bod yn dy wasanaeth,
a threulio'r nos wrth dy breseb?

10
A wyt yn gallu ei rwymo i gerdded yn y rhych,
neu a fydd iddo lyfnu'r dolydd ar dy ôl?

11
A wyt ti'n dibynnu arno am ei fod yn gryf?
A adewi dy lafur iddo?

12
A ymddiriedi ynddo i ddod â'th rawn yn ôl,
a'i gasglu i'th lawr dyrnu?


13
“Ysgwyd yn brysur a wna adenydd yr estrys,
ond heb fedru hedfan fel adenydd y garan;

14
y mae'n gadael ei hwyau ar y ddaear,
i ddeor yn y pridd,

15
gan anghofio y gellir eu sathru dan draed,
neu y gall anifail gwyllt eu mathru.

16
Y mae'n esgeulus o'i chywion,
ac yn eu trin fel pe na baent yn perthyn iddi,
heb ofni y gallai ei llafur fod yn ofer.

17
Oherwydd gadawodd Duw hi heb ddoethineb,
ac nid oes ganddi ronyn o ddeall.

18
Ond pan gyfyd a rhedeg,
gall chwerthin am ben march a'i farchog.


19
“Ai ti sy'n rhoi nerth i'r march,
ac yn gwisgo'i war â mwng?

20
Ai ti sy'n gwneud iddo ruglo fel locust,
a gweryru nes creu dychryn?

21
Cura'r llawr â'i droed, ac ymffrostia yn ei nerth
pan â allan i wynebu'r frwydr.

22
Y mae'n ddi-hid ac yn ddi-fraw;
ni thry'n ôl rhag y cleddyf.

23
O'i gwmpas y mae clep y cawell saethau,
fflach y cleddyf a'r waywffon.

24
Yn aflonydd a chynhyrfus y mae'n difa'r ddaear;
ni all aros yn llonydd pan glyw sain utgorn.

25
Pan glyw'r utgorn, dywed, ‘Aha!’
Fe synhwyra frwydr o bell,
trwst y capteiniaid a'u bloedd.


26
“Ai dy ddeall di sy'n gwneud i'r hebog hedfan
a lledu ei adenydd tua'r De?

27
Ai d'orchymyn di a wna i'r eryr hedfan
a gosod ei nyth yn uchel?

28
Fe drig ar y graig, ac aros yno
yng nghilfach y graig a'i diogelwch.

29
Oddi yno y chwilia am fwyd,
gan edrych i'r pellter.

30
Y mae ei gywion yn llowcio gwaed;
a phle bynnag y ceir ysgerbwd, y mae ef yno.”

40

1

Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Job:

2

“A ddylai un sy'n dadlau â'r Hollalluog fod yn ystyfnig?
Caiff yr un sy'n ymryson â Duw ateb am hynny.”

3

Yna atebodd Job:

4

“Un dibwys wyf fi; beth allaf ei ddweud?
Rhof fy llaw ar fy ngheg.

5
Yr wyf wedi llefaru unwaith, ac nid atebaf eto;
do ddwywaith, ac ni chwanegaf.”

6

Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt:

7

“Gwna dy hun yn barod i'r ornest;
fe holaf fi di, a chei dithau ateb.

8
A wyt ti'n gwadu fy mod yn iawn,
ac yn fy nghondemnio, i'th gyfiawnhau dy hun?

9
A oes gennyt nerth fel sydd gan Dduw?
A fedri daranu â'th lais fel y gwna ef?


10
“Addurna dy hun â balchder ac urddas,
a gwisga ogoniant a harddwch.

11
Gollwng yn rhydd angerdd dy ddig;
edrych ar bob balch, i'w daflu i'r llawr.

12
Sylwa ar bob balchder, i'w ddiraddio;
sathra'r rhai drygionus yn eu lle.

13
Cuddia hwy i gyd yn y llwch;
cuddia'u hwynebau o'r golwg.

14
Yna fe'th ganmolaf
am fod dy law dde'n dy waredu.


15
“Edrych ar Behemoth, a greais yr un adeg â thi;
y mae'n bwyta glaswellt fel yr ych.

16
Y mae ei nerth yn ei lwynau,
a'i gryfder yng nghyhyrau ei fol.

17
Y mae ei gynffon yn syth fel cedrwydden,
a gewynnau ei gluniau wedi eu clymu i'w gilydd.

18
Y mae ei esgyrn fel pibellau pres,
a'i goesau fel barrau haearn.


19
“Ef yw'r cyntaf o'r pethau a wnaeth Duw;
gwnaed ef yn deyrn dros ei gymrodyr.

20
Y mae'r mynyddoedd yn darparu ysglyfaeth iddo;
yr holl anifeiliaid sy'n chwarae yno.

21
Fe orwedd dan y lotus,
a chuddio yn y brwyn a'r corsydd.

22
Y mae'r lotus yn gysgod drosto,
a helyg yn y nant yn ei guddio.

23
Os cyfyd yr afon drosto, ni chynhyrfa;
byddai'n ddi-fraw pe bai'r Iorddonen yn llifo i'w geg.

24
A ellir ei fachu yn ei lygaid,
a gwthio tryfer i'w drwyn?”

41

1

“A fedri di dynnu Lefiathan
allan â bach,
neu ddolennu rhaff am ei dafod?

2
A fedri di roi cortyn am ei drwyn,
neu wthio bach i'w ên?

3
A wna ef ymbil yn daer arnat,
neu siarad yn addfwyn â thi?

4
A wna gytundeb â thi,
i'w gymryd yn was iti am byth?

5
A gei di chwarae ag ef fel ag aderyn,
neu ei rwymo wrth dennyn i'th ferched?

6
A fydd masnachwyr yn bargeinio amdano,
i'w rannu rhwng y gwerthwyr?

7
A osodi di bigau haearn yn ei groen,
a bachau pysgota yn ei geg?

8
Os gosodi dy law arno,
fe gofi am yr ysgarmes, ac ni wnei hyn eto.

9
Yn wir twyllodrus yw ei lonyddwch;
onid yw ei olwg yn peri arswyd?

10
Nid oes neb yn ddigon eofn i'w gynhyrfu;
a phwy a all sefyll o'i flaen?

11
Pwy a ddaw ag ef ataf, imi gael rhoi gwobr iddo
o'r cyfan sydd gennyf dan y nef?

12
Ni pheidiaf â sôn am ei aelodau,
ei gryfder a'i ffurf gytbwys.

13
Pwy a all agor ei wisg uchaf,
neu drywanu ei groen dauddyblyg?

14
Pwy a all agor dorau ei geg,
a'r dannedd o'i chwmpas yn codi arswyd?

15
Y mae ei gefn fel rhesi o darianau
wedi eu cau'n dynn â sêl.

16
Y maent yn glòs wrth ei gilydd,
heb fwlch o gwbl rhyngddynt.

17
Y mae'r naill yn cydio mor dynn wrth y llall,
fel na ellir eu gwahanu.

18
Y mae ei disian yn gwasgaru mellt,
a'i lygaid yn pefrio fel y wawr.

19
Daw fflachiadau allan o'i geg,
a thasga gwreichion ohoni.

20
Daw mwg o'i ffroenau,
fel o grochan yn berwi ar danllwyth.

21
Y mae ei anadl yn tanio cynnud,
a daw fflam allan o'i geg.

22
Y mae cryfder yn ei wddf,
ac arswyd yn rhedeg o'i flaen.

23
Y mae plygion ei gnawd yn glynu wrth ei gilydd,
ac mor galed amdano fel na ellir eu symud.

24
Y mae ei galon yn gadarn fel craig,
mor gadarn â maen melin.

25
Pan symuda, fe ofna'r cryfion;
ânt o'u pwyll oherwydd sŵn y rhwygo.

26
Os ceisir ei drywanu â'r cleddyf, ni lwyddir,
nac ychwaith â'r waywffon, dagr, na'r bicell.

27
Y mae'n trafod haearn fel gwellt,
a phres fel pren wedi pydru.

28
Ni all saeth wneud iddo ffoi,
ac y mae'n trafod cerrig tafl fel us.

29
Fel sofl yr ystyria'r pastwn,
ac y mae'n chwerthin pan chwibana'r bicell.

30
Oddi tano y mae fel darnau miniog o lestri,
a gwna rychau fel og ar y llaid.

31
Gwna i'r dyfnder ferwi fel crochan;
gwna'r môr fel eli wedi ei gymysgu.

32
Gedy lwybr gwyn ar ei ôl,
a gwna i'r dyfnder ymddangos yn benwyn.

33
Nid oes tebyg iddo ar y ddaear,
creadur heb ofn dim arno.

34
Y mae'n edrych i lawr ar bopeth uchel;
ef yw brenin yr holl anifeiliaid balch.”

42

1

Dywedodd Job wrth yr ARGLWYDD:

2

“Gwn dy fod yn gallu gwneud popeth,
ac nad oes dim yn amhosibl i ti.

3
Meddi, ‘Pwy yw hwn sy'n cuddio deall â geiriau diwybod?’
Yn wir, rwyf wedi mynegi pethau nad oeddwn yn eu deall,
pethau rhyfeddol, tu hwnt i'm dirnad.

4
Yn awr gwrando, a gad i mi lefaru;
fe holaf fi di, a chei dithau f'ateb.

5
Trwy glywed yn unig y gwyddwn amdanat,
ond yn awr rwyf wedi dy weld â'm llygaid fy hun.

6
Am hynny rwyf yn fy ffieiddio fy hunan,
ac yn edifarhau mewn llwch a lludw.”

7

Ar ôl i'r ARGLWYDD lefaru'r geiriau hyn wrth Job, dywedodd yr ARGLWYDD wrth Eliffas y Temaniad, “Yr wyf yn ddig iawn wrthyt ti a'th ddau gyfaill am nad ydych wedi dweud yr hyn sy'n iawn amdanaf, fel y gwnaeth fy ngwas Job.

8 Yn awr cymerwch saith ych a saith hwrdd, ac ewch at fy ngwas Job, i offrymu poethoffrwm drosoch eich hunain. Fe weddïa fy ngwas Job drosoch; gwrandawaf finnau arno, ac ni ddialaf arnoch am eich ffolineb, am ichwi beidio â llefaru yn iawn amdanaf, fel y gwnaeth fy ngwas Job.”

9 Yna aeth Eliffas y Temaniad, Bildad y Suhiad a Soffar y Naamathiad, a gwneud fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddynt; a gwrandawodd yr ARGLWYDD ar Job.

10

Wedi i Job weddïo dros ei gyfeillion, adferodd yr ARGLWYDD iddo ei lwyddiant, a rhoi'n ôl i Job ddwywaith yr hyn oedd ganddo o'r blaen.

11 Yna aeth ei frodyr a'i chwiorydd i gyd, a'r holl gyfeillion oedd ganddo gynt, i fwyta gydag ef yn ei dŷ, ac i'w gysuro a'i ddiddanu am y drwg a ddygodd yr ARGLWYDD arno. A rhoddodd pob un ohonynt ddarn arian a modrwy aur iddo.

12 Bendithiodd yr ARGLWYDD ddiwedd oes Job yn fwy na'i dechrau: yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, chwe mil o gamelod, mil o fustych a mil o asennod.

13 Hefyd yr oedd ganddo saith mab a thair merch.

14 Enwodd yr hynaf ohonynt yn Jemima, yr ail yn Cesia, a'r drydedd yn Cerenhapuch.

15 Nid oedd merched prydferthach na merched Job drwy'r holl wlad, a rhoes Job etifeddiaeth iddynt hwy yn ogystal ag i'w brodyr.

16 Bu Job fyw gant a deugain o flynyddoedd ar ôl hyn, a chafodd weld ei blant a phlant ei blant hyd at bedair cenhedlaeth.

17 Bu farw Job yn hen iawn, mewn gwth o oedran.