1

1

Dyma wynebni y psalmau: yn dangos tycciant y duwiol ac aflwydd y rhai anuwiol.

Y sawl ni rodia, dedwydd yw,
yn ol drwg ystryw gynghor;
Ni saif ar ffordd troseddwyr ffol,
nid eiste’n stol y gwatwor.


2
Ond ei holl serch ef fydd yn rhwydd,
ar ddeddf yr Arglwydd uchod:
Ac ar ei ddeddf, rhydd ddydd a nos,
yn ddiddos ei fyfyrdod.


3
Ef fydd fel pren plan ar lan dol,
dwg ffrwyth amserol arno:
Ni chrina’i ddalen, a’i holl waith,
a lwydda’n berffaith iddo.


4
Nid felly bydd y drwg di-rus,
ond fel yr us ar gorwynt:
Yr hwn o’r tir â’i chwyth a’i chwal,
anwadal fydd ei helynt.


5
Am hyn y drwg ni saif mewn barn,
o flaen y cadarn uniawn:
Na’r pechaduriaid mawr eu bar,
ynghynulleidfa’r cyfiawn.


6
Canys yr Arglwydd Dduw, fel hyn,
a edwyn ffyrdd gwirioniaid:
Ac ef ni ad byth i barhau,
’mo lwybrau pechaduriaid.

2

1

Mae’r prophwyd Dafydd yn yr yspryd glan yn rhagweled gwrthwyneb mawr i eglwys Christ. Lle y mae efe yn newid personau yn yr ymadrodd, mae’r yspryd yn gryfach na rheswm dyn.

Paham y terfysc gwyr y byd,
a pham y cyfyd rhodres?
Pam y mae’r bobloedd yn cyd-wau,
yn eu bwriadau diles?


2
Codi y mae brenhinoedd byd,
a’u bryd yn gydgynghorol:
Yn erbyn Duw a’i Christ (ein plaid)
y mae pennaethiaid bydol.


3
Drylliwn eu rhwymau, meddau hwy;
ni wnawn ni mwy ufydd-dod:
Ac ymaith taflwn eu trom iau,
ni chant yn frau mo’n gorfod.


4
Ond Duw’r hwn sydd uwch wybrol len
a chwardd am ben eu geiriau:
Yr Arglwydd nef a wel eu bar,
efe a’i gwatwar hwythau.


5
Yna y dywaid yn ei lid,
a hyn fydd rhy brid iddyn:
O’i eiriau ef y cyfyd braw,
a’i ddig a ddaw yn ddychryn.

6

Gosodais innau (meddai ef)

â llaw gref yn dragywydd:
Fy Mrenin i, yn Llywydd llon,
ar sanctaidd Sion fynydd.


7
Dyma’r ddeddf a ddwedai yn rhwydd,
hon gan yr Arglwydd clywais:
Ti yw fy mab (o’m perffaith ryw)
a heddyw i’th genhedlais.


8
Gofyn ym, a mi yt’ a’i rhydd,
holl wledydd i’w ’tifeddu:
Y cenedlaethau dros y byd,
i gyd a gai meddiannu.

9

Ti a’i briwi hwynt, yn dy farn,

â gwialen haiarn hayach:
Ti a’i maluri, hwythau ân,
mor fân a llestri priddach.


10
Am hyn yn awr frenhinoedd coeth,
byddwch ddoeth a synhwyrol:
A chwithau farnwyr cymrwch ddysg,
i ostwng terfysg fydol.


11
Gwasnaethwch chwi yr Arglwydd nef,
ac ofnwch ef drwy oglud:
A byddwch lawen yn Nuw cu,
etto drwy grynu hefyd.


12
Cusenwch y Mab rhag ei ddig,
a’ch bwrw yn ffyrnig heibio:
A gwyn ei fyd pob calon lân,
a ymddiriedan yntho.

3

1

Achwyn Dafydd wrth Dduw rhag Absalon ei fab, a’i blaid: a chysuri’r eglwys.

O Arglwydd, amled ydyw’r gwyr,
y sydd drallodwyr imi:
A llawer iawn i’m herbyn sydd,
o ddydd i ddydd yn codi.

2
Dwedai lawer o’r gwrthgyrch blaid
yn drwm am f’enaid eisoes:
Nid oes iddo yn ei Dduw Ior,
chwaith mawr ystor o’r einiois.


3
Tithau O Arglwydd ymhob man,
ydwyd yn darian ymy:
Fy ngogoniant wyt: tu a’r nen,
y codi ’ymhen i fyny,

4
Ar Dduw yr Arglwydd a’m holl lais,
y gelwais yn dosturaidd.
Ac ef a’m clybu i ar frys,
o’i uchel freinllys sanctaidd.


5
Mi orweddais, ac a gysgais,
ac mi a godais gwedi:
Canys yr Arglwydd oedd i’m dal,
i’m cynnal, ac i’m codi.

6
Nid ofnaf fi, o’r achos hwn,
’mo fyrddiwn sydd yn barod:
O bobloedd, o’m amgylch yn dyn,
i’m herbyn wedi dyfod.


7
Cyfod ti Arglwydd, achub fi,
drwy gosbi fy ngelynion:
Trewaist yr eu torraist eu daint,
er maint yr annuwiolion.

8
I’r Arglwydd byth (o achos hyn)
y perthyn iechydwriaeth:
Ac ar ei bobl y disgyn gwlith
ei fendith yn dra helaeth.

4

1

Dafydd yn achwyn wrth Dduw rhag ei elynion.

Duw fy nghyfiownder clywaist fi,
i’m cyni pan i’th elwais:
Rhyddheaist fi, dod y’m un wedd,
drugaredd, clyw fy oerlais.

2
O feibion dynion hyd ba hyd
y trowch trwy gyd ymgabledd,
Fy mharch yn warth? a hynny sydd
drwy gelwydd a thrwy wagedd.


3
Gwybyddwch ethol o Dduw cun,
iddo’i hun y duwiolaf:
A phan alwyf arno yn hy,
efe a wrendy arnaf.

4
Ofnwch, a thewch, ac na phechwch,
meddyliwch ar eich gwely,

5

Aberthwch, gobeithiwch Dduw ner,

rhodd cyfiownder yw hynny.


6
Pwy (medd llaweroedd) y pryd hyn,
a ddengys yn’ ddaioni?
O Arglwydd, dercha d’wyneb pryd,
daw digon iechyd ini.

7
Rhoist i’n calon lawenydd mwy,
(a hynny trwy dy fendith:)
Nag a fyddai gan rai yn trin,
amlder o’i gwin a’i gwenith.


8
Mi orweddaf ac a hunaf,
a hynny fydd mewn heddwch:
Cans ti Arglwydd o’th unic air,
a bair y’m ddiogelwch.

5

1

Gweddi yn erbyn ei elynion, gan ddangos ei ymddygiad ei hun tuag at Dduw, heb wneuthur cam â’i elynion.

Arglwydd clyw ’ngweddi yn ddiball,
Duw deall fy myfyrdod:

2
Erglyw fy llais a’m gweddi flin,
Fy Nuw, a’m brenin hyglod.


3
Yn forau gwrando fi fy Naf,
yn forau galwaf arnad:

4
Cans nid wyd Dduw i garu drwg,
ni thrig i’th olwg anfad.


5
Ni saif ynfydion yn dy flaen,
na’r rhai a wnaen anwiredd:
Y rhai hyn sydd gennyt yn gâs,
sef diflas yt bob gwagedd.

6
Y rhai a ddwedant ffug a hud,
a phob gwyr gwaedlud creulon,
Ti a’i tynni hwyntwy o’r gwraidd,
fel ffiaidd annuwiolion.


7
Dof finnau tu a’th dy mewn hedd,
am dy drugaredd galwaf:
Trwy ofn, a pharch, a goglud dwys,
i’th sanctaidd eglwys treiglaf.

8
I’th gyfiownder arwain fi: Ner
rhag blinder a chasineb.
Duw gwna dy ffordd rhag ofn eu brâd,
yn wastad rhag fy wyneb.


9
Cans iw genau nid oes dim iawn,
mae llygredd llawn iw ceudod:
Eu gyddfau fel ceulannau bedd,
a gwagedd ar eu tafod.

10
Distrywia hwynt iw camwedd,
Ion, o’i holl gynghorion cwympant,
Hwnt a hwy, a’i holl ddrygioni,
i’th erbyn di rhyfelant.


11
A’r rhai a’ mddiried ynot ti,
am yt’ gysgodi drostynt:
(Llawen a fydd pob rhai a’th gâr)
cei fawl yn llafar ganthynt.

12
Cans ti (Arglwydd) anfoni wlith
dy fendith ar y cyfion:
A’th gywir serch fel tarian gref,
rhoi drosto ef yn goron.

6

1

Gweddi o drymder am ei bechodau: a phan gafas obaith, y mae yn dibrissio ei elyn, gan foli Duw.

O Arglwydd na cherydda fi,
ymhoethni dy gynddaredd:
Ac na chosba fi yn dy lid,
o blegid fy enwiredd.


2
O Arglwydd dy drugaredd dod,
wyf lesg mewn nychdod rhybrudd:
O Arglwydd dyrd, iacha fi’n chwyrn,
mae f’esgyrn i mewn cystudd.


3
A’m henaid i or llesgedd hyn,
y sydd mewn dychryn sceler:
Tithau O Arglwydd, paryw hyd?
rhoi arnaf ddybryd brudd-der.

4
Duw gwared f’enaid, dychwel di,
iacha fi a’th drugaredd:

5
Nid oes yn angau gof na hawl,
a phwy ath fawl o’r pridd-fedd.


6
Diffygiais gan ochain bob nos,
mewn gwal anniddos foddfa:
Rwy’n gwlychu drwy y cystudd mau,
a’m dagrau fy ngorweddfa.

7
O ddig i’m cas a goddef drwg,
fy ngolwg sy’n tywyllu:
A chan y dwfr a red yn rhaff,
ynt angraff ac yn pylu.


8
Pob un a wnelo, aed ymhell,
na dichell nac enwiredd:
Cans clybu yr Arglwydd fy llais,
pan lefais am drugaredd.

9
Yr Arglwydd clybu ef fy arch,
rhof finnau barch a moliant:
Fe dderbyn fy ngweddi, a’m gwaedd,
am hyn yr haedd ogoniant.


10
Fe wradwyddir, fe drallodir
yn ddir fy ngelynion:
Ac fo’i dychwelir drwy fefl glwth,
Hwynt yn ddisymwth ddigon.

7

1

Erfyn ar Dduw ei gadw rhag cam gyhuddiad, a’i gydwybod yn lân.

O Achub fi fy Nuw, fy Ner,
cans mae fy hyder ynod:
Rhag fy erlidwyr gwared fi,
cans mae o’r rheini ormod.

2
Rhag llarpio f’enaid fel y llew,
heb un dyn glew a’m gweryd:
A’m rhwygo i yn ddrylliau mân,
fal dyna amcan gwaedlyd.


3
O Arglwydd Dduw, os gwneuthym hyn,
os drwg y sy’n fy nwylaw:

4
Na thrwy ymddiried, dwyll i neb,
pe bawn wrthwyneb iddaw:

5
I erlid f’oes y gelyn doed,
dalied, a rhoed fi’n isaf,
A sathred f’urddas yn y llwch,
drwy’r diystyrwch eithaf.


6
Cyfod o Dduw, cyfod i’th ddig,
a gostwng big pob gelyn:
A deffro drosof yn y farn,
sef cadarn yw d’orchymyn.

7
Pan ddringych, yr holl bobl yn llu,
a ddaw o’th ddeutu attad:
Duw dychwel i’th farn er eu mwyn,
a gwrando’n cwyn yn wastad.


8
Duw dyro i’r bobl y farn dau,
a barn di finnau Arglwydd:
Ac fel yr haeddais dod farn iawn,
yn ol fy llawn berffeithrwydd.

9
Derfid anwiredd y rhai drwg,
gwna’n amlwg ffordd y cyfion:
Cans union wyd, a chraff, Duw cu,
yn chwilio deutu’r galon.


10
Ac am fod Duw yn canfod hyn,
Duw yw f’amddiffyn innau:
Duw sydd iachawdur i bob rhai,
sydd lân ddifai’i calonnau.

11
Felly mae Duw byth ar yr iawn,
a Duw yw’r cyfiawn farnydd:
Wrth yr annuwiol ar bob tro
mae Duw yn digio beunydd.


12
Ac oni thry’r annuwiol câs,
fo lifa’i loywlas gleddau:
Ar ynnyl y mae bwa’r Ion,
a’i barod lymion saethau.

13
Sef arfau angau at y nod,
y maent yn barod ddigon:
Ac ni saetha ef ergyd byrr
at yr erlidwyr poethion.


14
Wele hanes y gelyn drwg,
efe a ymddwg ar draha:
O chwydd ar gamwedd, beichiog fydd,
ar gelwydd yr esgora.

15
Cloddiodd ef bwll hyd eigion llawr,
o fwriad mawr i’r truan:
Ac ef a syrthiodd ymron bawdd,
i’r dyfn i’w glawdd ei hunan.


16
Ei holl enwiredd ar ei ben,
o uchder nen a ddisgyn:
A Duw a ddymchwyl yr un wedd,
ei gamwedd ar ei goryn.

17
Im harglwydd Duw rhof finnau glod,
câf ganfod ei gyfiownder.
A chanmolaf ei enw yn rhwydd,
yr Arglwydd o’r uchelder.

8

1

Clod i Dduw, gan ryfeddu a diolch am gyflwr dyn.

Arglwydd ein Ior ni a’n nerth,
mor brydferth wyd drwy’r hollfyd!
Dy enw, a’th barch, a roist uwchben
dayar a wybren hefyd.


2
Peraist yt nerth o enau plant,
a rhai a sugnant beunydd,
Rhag d’elynion: tawed am hyn,
y gelyn a’r dialydd.


3
Wrth edrych ar y nefoedd faith,
a gweld gwaith dy fysedd:
Y lloer, y ser, a threfn y rhod,
a’i gosod mor gyfannedd.

4
Pa beth yw dyn yt’ iw goffau,
o ddoniau ac anwylfraint?
A pheth yw mâb dyn yr un wedd,
lle rhoi ymgeledd cymaint?


5
Ti a wnaethost ddyn o fraint a phris,
ychydig is Angylion:
Mewn mawr ogoniant, parch, a nerth,
rhoist arno brydferth goron.

6
Ar waith dy ddwylo is y nef,
y gwnaethost ef yn bennaeth:
Gan osod pob peth dan ei draed,
iddo y gwnaed llywodraeth.


7
Defaid, gwartheg, a holl dda maes,
a’r adar llaes eu hesgyll:
Ehediaid nef, a’r pysg o’r don,
sy’n tramwy’r eigion erchyll.

8
O Arglwydd ein Ior ni a’n nerth,
mor brydferth wyd drwy’r hollfyd,
Dy enw a’th barch a roist uwchben,
daiar ac wybren hefyd.

9

1

Diolch am orfoledd, a deisyf ar Dduw ei ymddiffyn rhag llaw.

Clodforaf fi fy Arglwydd Ion,
o’m calon, ac yn hollawl:
Ei ryfeddodau rhof ar led,
ac mae’n ddyled eu canmawl.

2
Byddaf fi lawen yn dy glod,
ac ynod gorfoleddaf:
I’th enw (o Dduw) y canaf glod,
wyd hynod, y Goruchaf.


3
Tra y dychwelir draw’n ei hol,
fy holl elynol luoedd,
Llithrant o’th flaen, difethir hwy,
ni ddon hwy mwy iw lleoedd.

4
Cans rhoist fy marn yn fatter da,
gwnaethost eisteddfa union:
Eisteddaist ar y gwir, yn siwr,
tydi yw’r barnwr cyfion.


5
Ceryddaist, a distrywiaist di
y cenhedlaethi cyndyn:
Diwreiddiaist ynfyd yn y bon,
ni bydd byth son am danyn.

6
Distrywiaist dithau (elyn glâs)
do lawer dinas hyfryd:
Darfu dy nerth byth, darfu hyn,
a’r cof o honyn hefyd.


7
Ond yr Arglwydd iw nerth a fydd,
ac yn dragywydd pery:
A pharod fydd ei faingc i farn,
a chadarn ydyw hynny.

8
Cans efe a farna y byd,
a’r bobl i gyd sydd yntho:
Trwy gyfiownder, heb ofni neb,
a thrwy uniondeb rhagddo.


9
Gwna’r Arglwydd hefyd hyn wrth raid,
trueiniaid fo’i hymddiffyn:
Noddfa a fydd i’r rhai’n mewn pryd,
pan fo caledfyd arnyn.

10
A phawb a’th edwyn rhon eu cred,
a’i holl ymddiried arnad:
Cans ni adewaist (Arglwydd) neb,
a geisio’i wyneb attad.


11
Molwch chwi’r Arglwydd, yr hwn sydd
yn sanctaidd fynydd Seion:
A dwedwch i’r bobl fal yr oedd
ei holl weithredoedd mowrion.

12
Pan chwilio efe am waed neu drais,
fe gofia lais y truain:
Pan eisteddo a’r faingc y frawd
fe glyw y tlawd yn germain.


13
Dy nawdd Arglwydd, dydi ym’ sydd
dderchafydd o byrth angau,
A gwel fy mlinder gan fy nghâs,
y sydd o’m cwmpas innau.

14
Fel y mynegwyf dy holl wyrth,
a hyn ymhyrth merch Seion:
Ac fel y bwyf lawen a ffraeth,
i’th iechydwriaeth dirion.


15
Y cenhedloedd cloddiasent ffos
lle’i suddent, agos boddi:
I arall lle cuddiasant rwyd,
eu traed a faglwyd ynthi.

16
Yr Arglwydd nef fal hyn yn wir,
adwaenir wrth ei farnau:
A’r annuwiol a wnaethai’r rhwyd,
yn hon y daliwyd yntau.


17
Yr annuwiol i uffern aed,
ac yno gwnaed ei wely:
A’r rhai ollyngant Duw dros gof,
bydd yno fyth eu lletty.

18
Cans byth y gwirion a’r dyn tlawd
hyd dyddbrawd nis anghofir:
Y gweiniaid a’r trueiniad, hwy,
eu gobaith mwy ni chollir.


19
O cyfod Arglwydd yn dy wyn,
na âd i ddyn mo’th orfod:
Barna’r cenhedloedd gar dy fron,
a’th farn yn union gosod.

20
Gyrr arnynt Arglwydd ofn dy rym,
yn awchlym i’th elynion.
Fel y gwybyddont, pe baent mwy,
nad ydynt hwy ond dynion.

10

1

Achwyn rhag trais cedyrn bydol.

Arglwydd pa’m y sefi di,
oddi wrthym ni cyn belled?
Pa’m yr ymguddi di i’th rym,
pam ydym mewn caethiwed?

2

Y drygrai sydd yn blino’r tlawd,

gan drallawd, a chan falchder:
Yn y dichellion a wnai’ rhai’n,
hwynt hwy eu hunain dalier.


3
Hoff gan ddyn drwg ei chwant ei hun,
pawb yn gytun â’i bechod:
Bendithio mael ydyw eu swydd,
a’r Arglwydd maent iw wrthod.

4
Yr annuwiol ni chais Dduw ner,
(mae ef iw falchder cyfuwch:)
Ni chred ef, ac ni feddwl fod,
un fâth awdurdod goruwch.


5
Am fod ei ffyrdd mewn lwyddiant hir,
ni wyl mo’th wir gyfammod:
Bydd dordyn wrth elynion mân,
fel chwythu tân mewn sorod.

6
Fe ddwedodd hyn â’i feddwl syth,
ni ddigwydd byth i’m adfyd:
Ni’m symudir o oes i oes,
ni chaf na gloes, na drygfyd.


7
Yn ddichellgar, yn dwyllgar iawn,
a’i safn yn llawn melldithion:
Tan ei dafod y mae camwedd,
a thraws enwiredd creulon.

8
Mewn cilfechydd y disgwyl fan
i lâdd y truan gwirion:
Ac ar y tlawd â llygad llym
yn dangos grym ei galon.


9
Fe orwedd fel y llew iw ffau,
i fwrw ei faglau trowsion:
y gwan a’r tlawd a dynn iw rwyd,
ac yno y daliwyd gwirion.

10
Fe duchan, fe a ’mgrymma ei hun,
fel un ar farw o wendid,
Ac ef yn grym â fel yn wael,
ar wan i gael ei ergyd.


11
Yn ei galon, dwedodd am Dduw,
nad ydyw yn gofiadur:
Cuddiodd ei wyneb, ac ni wel
pa beth a wnel creadur.

12
Cyfod Arglwydd, dercha dy law,
dy fod i’n cofiaw dangos:
Ac nag anghofia, pan fo rhaid,
dy weiniaid a’th werinos.


13
Paham y cablant hwy wir Dduw,
yr enwir annuw lledffrom?
Pam’ y meddyliant arnat ti
nad ymofynni am danom?

14
Gwelaist hyn:
cans canfyddi drais,
a chospi falais anfad:
Tydi yw gobaith tlawd, a’i borth,
a chymorth yr ymddifad.


15
Tor ymaith yr annuwiol rym
yn gyflym, a’r maleisus,
Cais allan eu hanwiredd hwy,
ni chai di mwy’n ddrygionus.

16
Yr Arglwydd sydd yn frenin byth,
ef yw’r gwehelyth lywydd:
Distrywiwyd pob cenhedlaeth gref
o’i dir ef, yn dragywydd.


17
Duw, gweddi’r gwan a glywaist di,
ac a gysuri’r galon:
Tro eilwaith attom’ y glust dau,
a chlyw weddiau ffyddlon.

18
Tros yr ymddifaid y rhoi farn,
a’r gwan fydd cadarn bellach:
Megis nas gall daiarol ddyn
mo’r pwyso arnyn mwyach.

11

1

Aml brofedigaethau. Duw yn gwared allan o honynt, ac yn llywodraethu y da a’r drwg.

Credaf i’r Arglwydd yn ddi-nam:
paham y dwedwch weithian
Wrth f’enaid, hwnt, a hed i’th fryn,
fel wrth aderyn bychan?

2
Wele’r annuwiol a’i bwâu,
a’i cawell saethau’n barod,
Am wirioniaid yn llechu’n fain,
i saethu’r rhai’n o gysgod.


3
Y seilfain oll i lygredd aeth:
ond beth a wnaeth y gwirion?

4
Mae’r Arglwydd yn ei ddinas gref,
fe weryd ef y cyfion.
Yr Arglwydd o’i orseddfa fry
at y tlawd try ei olwg,
Gweithredoedd holl hiliogaeth dyn,
iw lygaid ydyn amlwg.


5
Mae’r Arglwydd o’r naturiaeth hon,
prawf gyfion er ymgeledd,
Ond câs yw gan ei enaid fo
ddyn drwg a hoffo wagedd.

6
Ar bechaduriaid marwor, tân,
a brwmstan a ddaw’n gawod,
A gwynt tymestlog uchel iawn,
fal dyna iawn wialennod.


7
Cans cyfion ydyw’r Arglwydd ner,
cyfiownder mae’n ei garu:
A'i wyneb at yr union try,
a hynny iw ymgleddu.

12

1

Wrth weled anllywodraeth, y mae efe yn prophwydo, pan addfedo drygioni, y daw tro gwell.

O achub bellach Arglwydd cu,
fe ddarfu’r trugarogion:
A’r holl wirionedd a’r ball aeth
o blith hiliogaeth dynion.


2
A gwefus gweniaith dwedant ffug,
er twyll a hug i’r eiddyn:
A chalon ddyblyg yr un wedd
y cair oferedd ganthyn.


3
Yr Arglwydd torred o’i farn faith
wefusau’r gweniaith diles:
A’r holl dafodau ffrostus iawn
a fytho llawn o rodres.


4
Gallwn orfod o nerth tafod,
dwy wefus y sydd eiddom:
Fal hyn y dwedant hwy yn rhwydd,
a phwy sydd Arglwydd arnom?


5
Yntau ein Duw a ddwedodd hyn,
rhag llethu’r gwaelddyn codaf:
Y dyn gofidus, tlawd, a’r caeth,
mewn iechydwriaeth dodaf.

6
Pur iawn yw geiriau’r Arglwydd nef
a’i ’ddewid ef sydd berffaith,
Fel arian o ffwrn, drwy aml dro
wed’i goeth buro seithwaith.


7
Ti Arglwydd, yn ol dy air di,
a’i cedwi mewn hyfrydwch
Byth rhag y ddrwg genhedlaeth hon,
dy weision i gael heddwch.

8
Pan dderchafer y trowsion blin,
da ganthyn drin anwiredd:
Felly daw dynion o bob parth
i fwyfwy gwarth o’r diwedd.

13

1

Ymresymmu â Duw, drwy boethni yr Yspryd, a thrwy weddi cael gobaith.

Pa hyd fy Arglwydd, Dduw dilyth?
a’i byth yr wyf mewn angof?
Pa guddio r’wyd, (o Dduw) pa hyd?
dy lân wynebpryd rhagof?

2
Ba hyd y rhed meddyliau tro
bob awr i flino ’nghalon?
Pa hyd y goddefaf y dir?
dra codir fy nghaseion.


3
O Arglwydd edrych arnaf fi,
a chlyw fy ngweddi ffyddlon.
Egor fy llygaid, rhag eu cau
ynghysgfa angau ddigllon.

4
Pe llithrwn ddim, (rhag maint yw’r llid)
fo ddwedid fy ngorchfygu:
A llawen fyddai fy holl gâs:
dal fi o’th râs i fynu.


5
Minnau’n dy nawdd a rois fy ffydd,
a’m holl lawenydd eithaf:
Canaf i’m Duw am helpodd i,
gwnaf gerddi i’r Goruchaf.

14

1

Yn erbyn traha ar Dduw, a dynion.

Fe ddwedai’r ynfyd nad oes Duw,
ac felly byw drwy goegni,
Ymlygru’n ffiaidd, ni chais gel:
nid oes a wnel ddaioni.

2
O’r nef yr edrychodd yr Ion
ar holl drigolion daear,
A roddai neb ei goel a’r Dduw,
a cheisio byw’u ddeallgar.


3
Fe giliodd pawb at lygredd byd,
ymdroent i gyd mewn brynti:
Nid oes un a wnel well nâ hyn,
nac un a fyn ddaioni.

4
Eu gwddf sy fedd agored cau
maent â thafodau ’strywgar.
A gwenwyn lindis sy’n parhau
dan eu gwefusau twyllgar.


5
A’i genau llawn (fel gwenwyn llith)
o felldith, ac o fustledd:
Ac anian esgud yw eu traed
i dywallt gwaed a dialedd.

6
Distryw ac anhap sy’n eu ffyrdd
ni’ dwaenant briffyrdd heddwch:
Nid oes ofn Duw’n eu golwg hwy,
ni cheisiant mwy ’difeirwch.


7
Pam? oni wyddant hwy eu bod
drwy bechod, y modd yma,
Yn ysu fy mhobl a’i cildroi,
un wedd a chnoi y bara?

8
Gweddio’r Arglwydd hwy ni wnânt,
yn hyn dychrynant luoedd:
Am fod Duw’n dala gydâ’r iawn,
yn un a’r cyfiawn bobloedd.


9
Gwradwyddech gynt gyngor y tlawd
fal y gwnewch drallawd etto:
Am i’r tlawd gredu y doe llwydd
oddiwrth yr Arglwydd iddo.

10
Pwy a all roi i Israel,
o Sion uchel iechyd?
Pwy ond ein Duw? yr hyn pan wnel,
bydd Iago ac Israel hyfryd.

15

1

Dull a chyflog buchedd da.

Dywaid i mi pa ddyn a drig,
i’th lys barchedig: Arglwydd?
A phwy a erys ac a fydd
ym mynydd dy sancteiddrwydd?

2
Yr hwn a rodia’n berffaith dda,
yr hwn a wna gyfiownder:
A’r hwn a draetha o’i galon wir,
a drig ar dir uchelder.


3
Yr hwn ni ddywaid, ac ni wna,
ddim ond o’r da bigilydd:
Ac ni chynnwys y rhai a ron
iw cymdogion gwilydd.

4

Y’r hwn sydd isel yn ei fryd,

yn caru’i gyd gristnogion,
Yr hwn sy’n ofni’r Arglwydd Dduw,
ac sydd yn byw yn ffyddlon.


5
Yr hwn ni thyng ddim ond y gwir,
er dir neu niwed iddo:
Ac ni ro ei arian yn llog,
er dwyn cymydog dano.

6

Na gobr, na rhodd, yr hwn ni fyn,

er dal yn erbyn gwirion.

7
A wnelo hyn ni lithra fyth,
fe gaiff y ddilyth goron.

16

1

Mae Dafydd yn enw’r eglwys yn ymroi i Dduw, yn coffau ei ddaioni, ac yn cydnabod fod ein holl ddedwyddwch ni yntho ef, drwy Ghrist, a’i gyfodiad.

Cadw fi Duw, cans rhois fy mhwys
a’m coel yn dradwys arnad:

2
Fy Arglwydd wyd: mae dan fy mron,
y gyffes hon yn wastad:
Nad lles yt yw na’m da, na’m rhin:

3
ond i drin sanct daiarol,
Llesu’r rhai’n fy ’wyllys yw,
y rhai sy’n byw’n rhinweddol.


4
I’r rhai a redant at Dduw gau,
y daw gofidiau amlder:
Eu diod offrwm o waed, ni
offrymaf fi un amser.

5
Ni henwaf chwaith, yr Arglwydd yw
fy modd i fyw, a’m phiol:
A thydi Ior sy’n rhoi ’mi ran,
a chyfran yn ddigonol.


6
A thrwy Dduw syrthiodd i mi ran
o fewn y fan hyfrydaf:
Digwyddodd ymy, er fy maeth,
yr etifeddiaeth lanaf.

7
Bendithiaf finnau Dduw fy Ior,
hwn a roes gyngor ymmy,
F’arennau hefyd ddydd a nos,
sydd ym yn dangos hynny.


8
Rhois fy Ner (bob awr) gar fy mron,
o’r achos hon ni lithraf,
Cans mae ef ar fy nehau law,
yma na thraw ni syflaf.

9
O herwydd hyn, llawen a llon
yw fy nghalon: ac eilwaith
Hyfryd yw fy mharch a di ddig,
a’m cnawd a drig mewn gobaith.


10
Cans yn uffern ni edi di
mo’m henaid i, i aros:
Na'th anwyl sanct (drwy naws y bedd)
i weled llygredd ceuffos.

11
Dangosi ym lwybr i fyw’n iawn,
dy fron yw’r llawn llawenydd,
Cans yn dy nerth, nid yn y llwch,
mae digrifwch tragywydd.

17

1

Achwyn rhag brenin Saul, a dangos ei deilyngdod yn yr achos.

O clyw gyfiownder Arglwydd mâd,
ystyr fy nâd i’th grybwyll,
Clust ymwrando a’r weddi fau
sydd o wefusau didwyll.

2
Disgwilia’ marn oddiwrthyt ti,
cans da y gweli’r union:
Profaist a gwyddost ganol nos
mor ddiddos ydyw ’nghalon.


3
Ban chwiliaist fi (da yw dy gof)
ni chefaist ynof gamwedd,
Fy myfyr mâd na’m meddwl llaes,
na ddoed ymaes o’m dannedd.

4
I ochel cydwaith dynion drwg,
drwy d’air a’th amlwg cyngor,
Fordd y dyn trawsgryf haerllyd llym,
fe ddysgwyd ym ei hepgor.


5
Ond yn dy union lwybrau di,
Duw, cynal fi yn wastad,
Rhag llithro allan o’th iawn hwyl,
Duw disgwyl fy ngherddediad.

6
Galw yr wyf arnad, am dy fod
yn Dduw parod i wrando,
Gostwng dy glust, a chlyw yn rhodd
fy holl ymadrodd etto.


7
Cyfranna dy ddaionus râd,
(ti rhwn wyt geidwad ffyddlon)
I’r rhai sy’n ymroi dan dy law,
rhag broch, a braw y trawsion.

8
Cadw fi’n anwyl rhag eu twyll,
os anwyl canwyll llygad:
Ynghysgod dy adenydd di,
o cadw fi yn wastad.


9
Rhag yr annuwiol a’i mawr bwys,
a rhag fy nghyfrwys elyn,
Y rhai a gais fy enaid i,
gan godi yn fy erbyn.

10
Maent hwy mor dordyn ac mor frâs,
ac yn rhy gâs eu geiriau:
Ac yn rhoi allan ffrost ar lled,
gan falched eu parablau.


11
Maent hwy yn amgylchu yn flin
y lle ym ni’n cyniwer,
Ac â’i golygon tua’r llawr
mewn gwg a thramawr hyder.

12
Maent hwy fel llew, dan godi gwrych,
a fai’n chwennych ysglyfaeth:
Neu fel llew ifangc (er i les)
a geisiai loches hyfaeth.


13
Cyfod Arglwydd, o’i flaen ef saf,
dy help a gaf i’m henaid,
A tharo’i lawr â’th gleddyf noeth
yr enwir fflamboeth tanbaid.

14
Rhag gwyr dy law, rhag gwyr y byd,
sy’ ai rhan i gyd oddiymma,
Gan lenwi eu boliau, a rhoi iw plant
yn fawr eu chwant a’i traha.


15
Minnau mewn myfyr, fel mewn hun,
a welaf lun d’wynebpryd,
A phan ddihunwyf o’r hun hon
y byddaf ddigon hyfryd.

18

1

Dafydd yn diolch i Dduw, am ei orfoledd a’i frenhiniaeth, gan ddatgan gwrthiau Duw, yn rheoli hinon: y mae yn prophwydo am Grist.

O Ior fy ngrym caraf di’n fawr
fy nghreiglawr, twr f’ymwared,

2
Fy Nâf, fy nerth, fy nawdd, fy Nuw,
hwn yw fy holl ymddiried.

3
Pan alwyf ar fy Ior hynod,
i’r hwn mae clod yn gyfion,
Yna i’m cedwir yn ddiau
rhag drygau fy nghaseion.


4
Gofidion angau o bob tu
oeddynt yn cyrchu i’m herbyn,
A llifodd afonydd y fall
yn ddiball, er fy nychryn.

5
Pan ydoedd fwyaf ofn y bedd,
a gwaedlyd ddiwedd arnaf,
Ag arfau angau o bob tu,
am câs yn nesu attaf.


6
Yna y gelwais ar fy Ner,
ef o’r uchelder clywodd,
A’m gwaedd a ddaeth hyd gar ei fron,
a thirion y croesafodd.

7
Pan ddigiodd Duw, daeth daeargryn,
a sail pob bryn a siglodd:
A chyffro drwy’r wlad ar ei hyd,
a’r hollfyd a gynhyrfodd.


8
O’i enau tan o’i ffroenau tarth,
yn nynnu pobparth wybren:

9

A chan gymylu dan ei draed,

du y gwnaed y ffurfafen.

10
Ac fal yr oedd ein Ior fel hyn,
uwch Cherubyn yn hedeg:
Ac uwch law adenydd y gwynt,
Mewn nefol helynt hoywdeg.


11
Mewn dyfroedd a chymylau fry,
mae’ i wely heb ei weled.

12
Ac yn eu gyrru’n genllysg mân,
a marwor tân i wared.

13
Gyrrodd daranau, dyna’i lef,
gyrrodd o’r nef gennadon.

14
Cenllysg, marwar tân, mellt yn gwau,
fal dyna’i saethau poethion.


15
Distrywiwyd dy gas: felly gynt
gan chwythiad gwynt o’th enau:
Gwasgeraist di y moroedd mawr,
gwelwyd y llawr yn olau.

16
Felly gwnaeth Duw a mi’r un modd
anfonodd o’r uchelder,
Ac a’m tynnodd, o’r lle yr oedd
i’m hamgylch ddyfroedd lawer.


17
Fe a’m gwaredodd Duw fal hyn,
o ddiwrth fy ngelyn cadarn:
Yn rhydrwm imi am ei fod,
rhof finnau glod hyd dyddfarn.

18
Safent o’m blaen ni chawn ffordd rydd
tra fum yn nydd fy ngofid:
Ond yr Arglwydd ef oedd i’m dal,
a’m cynal yn fy ngwendid.


19
Fy naf ei hun a’m rhoes yn rhydd,
fe fu waredydd ymy:
Ac o dra serch i mi y gwnaeth:
na bawn i gaeth ond hynny.

20
Yr Arglwydd am gobrwya’n ol,
fy ngwastadol gyfiownder:
Ac yn ol gwendid fy nwy law,
tal i’m a ddaw mewn amser.


21
Cans ceisiais ffyrdd fy Arglwydd ner,
ni wneuthym hyder ormod,
Na dim sceler erbyn fy Nuw,
gochelais gyfryw bechod.

22
Cans ei ddeddfau, maen ger fy mron
a’i hollawl gyfion farnau:
Ac ni rois heibio’r un or rhai’n,
hwy ynt fynghoelfain innau.


23
Bum berffaith hefyd o’i flaen, ac
ymgedwais rhag byw’n rhyddrwg:

24
A’r Arglwydd gobrwyodd fi’n llawn
yr hyn fu’n iawn iw olwg.

25
I’r trugarog trugaredd rhoi,
i’r perffaith troi berffeithrwydd:

26
A’r glan gwnei lendid, ac i’r tyn,
y byddi gyndyn Arglwydd.


27
Cans mawr yw dy drugaredd di,
gwaredi’r truan tawel:
Ac a ostyngi gar dy fron,
rai a golygon uchel.

28
Ti a oleui’ nghanwyll i,
am hynny ti a garaf,
Tydi a droi fy nos yn ddydd,
a’m tywyll fydd goleuaf.


29
Oblegid ynot ti, fy Naf,
y torraf trwy y fyddin:
Ie yn fy Nuw y neidia’n llwyr,
be tros y fagwyr feinin.

30
Ys perffaith ydyw ffordd Duw nef,
a’i air ef fydd buredig:
Ac i bob dyn yntho a gred
Mae’n fwccled bendigedig.


31
Cans pwy sydd Dduw? dwedwch yn rhwydd,
pwy ond yr Arglwydd nefol?
A phwy sydd graig onid ein Duw?
sef, disigl yw’n dragwyddol.

32
Duw a’m gwregysodd i a nerth,
a rhoes ym brydferth lwybrau.

33
Fo roes fy nrhaed ar hy-llwybr da,
gorseddfa’r uchelfannau.


34
Efe sy’n dysgu rhyfel ym’
gan roi grym i’m pawennau:
Fel y torrir bwa o ddur
yn brysur rhwng fy mreichiau.

35
Daeth o’th ddaioni hyn i gyd,
rhoist darian iechyd ymy:
A’th law ddeau yr wyd im’ dwyn,
o’th swynder yr wy’n tyfy.


36
Ehengaist ymy lwybrau teg,
i redeg buan gamrau:
Nid oes ynof un cymal gwan,
ni weggian fy mynyglau.

37
Erlidiais i fy nghas yn llym,
a daethym iw goddiwedd:
Ac ni throis un cam i’m hol mwy
nes eu bod hwy’n gelanedd.


38
Gwnaethym arnynt archollion hyll
fel sefyll nas gallasant:
Ond trwy amarch iw cig, a’i gwaed,
i lawr dan draed syrthiasant.

39
Gwregysaist fi a gwregys nerth,
at wres ac angerth rhyfel:
A’r rhai a ddaeth i’m herbyn i,
a gwympaist di’n ddiogel.


40
Fal hyn y gwnaethost imi gau
ar warrau fy ngelynion:
A’m holl gas a ddifethais i,
rhois hwynt i weiddi digon.

41
Ac er gweiddi drwy gydol dydd
ni ddoe achubydd attynt,
Er galw’r Arglwydd:
ni ddoe neb a roddi atteb iddynt.


42
Maluriais hwy fel llwch mewn gwynt,
fal dyna helynt efrydd:
Ac mi a’i sethrais hwynt yn ffrom,
fel pridd neu dom heolydd.

43
Gwaredaist fi o law fy nghas,
rhoist bawb o’m cwmpas danaf:
Doe rai ni welsent fi erioed
a llaw, a throed, hyd attaf.


44
Addaw ufydd-dod, ond fo gaid
gan blant estroniaid gelwydd:

45
A phlant estroniaid twyll a wnant,
ond crynant iw stafellydd

46
Eithr byw yw yr Arglwydd ar fy mhlaid,
fy nghraig fendigaid hefyd,
Derchafer Duw: yntho ef trig
fy nerth a’m unig Iechyd.


47
Fy Nuw tra fo a’i nerth i’m dal,
rhoi dial hawdd y gallaf.
A rholi pobloedd: cans efo
sydd yn eu twyso attaf.

48
Fy ngwaredydd, a’m derchafydd,
o chyfyd rhai i’m herbyn,
Wyt ti o Dduw: a’m dug ar gais
rhag drwg a thrais y gelyn.


49
Am hyn canmolaf di yn rhwydd
o Arglwydd, Dduw y lluoedd:
Canaf dy glod: o hyn fydd dysg,
ymysg yr holl genhedloedd.

50
Duw sydd yn gwneuthyr (o’i fawr rad)
fawrhad i frenin Dafydd,
Ac iw eneiniog ei wellad,
Ac iw had yn dragywydd.

19

1

Dangos gogoniant Duw yn eu greaduriaid, a’i gyfraith, a’i râs.

Datgan y nefoedd fowredd Duw,
yr unrhyw gwna’r ffurfafen.

2
Y dydd i ddydd, a’r nos i nos,
sy’n dangos cwrs yr wybren.

3
Er nad oes ganthynt air nac iaith,
da y dywaid gwaith Duw lywydd,
Diau nad oes na mor, na thir,
na chlywir eu lleferydd.


4
Aeth eu sain hwy drwy yr holl fyd,
a’i geiriau hyd eithafoedd.
Yr haul teg a’i gwmpas sydd bell,
a’i babell yn y nefoedd.

5
O’r hon y cyfyd ef yn rhod,
fel priod o’i orweddfa.
Iw gwrs cyrch drwy lawenydd mawr
fel cawr yn rhedeg gyrfa.


6
O eithaf hyd eithafoedd nef,
y mae ef a’i amgylchiad,
Ac ni all dim (lle rhydd ei dro)
ymguddio o’i oleuad.

7
Dysg yr Arglwydd sydd berffaith ddawn
a dry i’r iawn yr enaid,
Felly rhydd ei wir dystiolaeth
wybodaeth i’r ffyddloniaid.


8
Deddfau Duw Ion ydynt union,
llawenant galon ddiddrwg,
A’i orchymyn sydd bur diau
a rydd olau i’r golwg.

9
Ofn yr Arglwydd sydd lân:
ac byth y pery’n ddilyth hyfryd,
Barnau’r Arglwydd ynt yn wir llawn
i gyd, a chyfiawn hefyd.


10
Mwy deisyfedig ynt nac aur,
ie na choethaur lawer,
Melysach hefyd ynt na’r mel,
sef dagrau terfel tyner.

11
Cans ynthynt dysgir fi, dy wâs
ar addas a’r unionder:
A’r holl gamp sy o’i cadw nhwy,
felly cair gobrwy lawer.


12
Er hynny i gyd, pwy a all
iawn ddeall ei gamweddau?
O gwna fi’n lân, (a bydd ddiddig)
o’m holl guddiedig feiau.

13
Duw attal feiau rhyfig, chwant,
na thyfant ar fy ngwarthaf:
Yno byddaf wedi ’nglanhau
o’m holl bechodau mwyaf.


14
O Arglwydd, fy mhrynwr a’m nerth,
bydded yn brydferth gennyd.
Fy ’madrodd, pan ddel gar dy fron,
a’m myfyr calon hefyd.

20

1

Y bobl yn bendithio eu brenin, ac yn gweddio yn erbyn eu gelynion, wrth fynd allan i ryfel.

Gwrandawed di yr Arglwydd Ner
pan ddel cyfyngder arnad,
Enw Duw Jacob, ein Duw ni,
a’th gadwo di yn wastad.

2
O’i gysegr rhoed yt help a nerth,
a braich o brydferth Seion:

3
Cofied dy offrwm poeth a’th rodd,
bo’rhai’n wrth fodd ei galon.


4
Rhoed ytty wrth dy fodd dy hun,
Dy ddymun a’th adduned:
Dy fwriad iach a’th arfaeth tau,
a’th weddiau gwrandawed.

5
Yn enw ein Duw gorfoleddwn
yn hyf, a chodwn faner:
A’th ddeisyfiadau gwnaed yn rhwydd,
yr Arglwydd o’r uchelder.


6
Yr Arglwydd gweryd (felly gwn)
o’i gysegr drwn ei ’neiniog:
Gwrendy ei arch, gyrr iddo rym,
yn gyflym ac yn gefnog.

7
Rhai ar gerbydau rhont eu pwys,
rhai ar feirch ddwys ymddiried:
Minnau ar enw’r Arglwydd Ddyw,
mai hwnnw yw’n ymwared.


8
Hwy a ’mroesant a syrthiasant,
yn un nerth eisoes yno:
Codasom a safasom ni,
O Dduw, a thi i’n lwyddo.

9
Cadw ni Arglwydd a’th law gref,
boed brenin y nef drosom:
Gwrandawed hwnnw arnom ni:
A’n gweddi pan y llefom.

21

1

Gorfoledd dros y brenin am orchfygu amryw dyrnasoedd a chenhedloedd.

O Arglwydd, yn dy nerth a’th rin,
mae’r brenin mewn llawenydd:
Ac yn dy iechyd, yr un wedd,
mae ei orfoledd beunydd.

2
Holl ddeisyfiad ei galon lân,
iddo yn gyfan dodaist:
Cael pob dymuniad wrth ei fodd,
ac o un rhodd ni phellaist.


3
Cans da’r achubaist ei flaen ef,
a doniau nef yn gyntaf:
Ac ar ei ben, (ddaionus Ion,)
rhoist goron aur o’r puraf.

4
Ef a ofynnodd gennyd oes,
a rhoddaist hiroes iddo:
A hon dy rodd, dros byth y bydd,
nid a’n dragywydd heibio.


5
I’th iechydwriaeth y mae’n byw,
a mawr yw ei ogoniant:
Gosodaist arno barch a nerth,
a phrydferth yw ei llwyddiant.

6
Rhoist dy fendithion uwch pob tawl,
yn rhodd dragwyddawl iddo:
A llewych d’wyneb byth a fydd,
yn fawr lawenydd arno.


7
Am fod y brenin yn rhoi’i gred,
a’i ’mddiried yn yr Arglwydd:
Dan nawdd y Goruchaf tra fo,
gwn na ddaw iddo dramgwydd.

8
A thydi Arglwydd a’th law lan,
cei allan dy elynion:
Rhag dy ddeheulaw (er a wnant)
Ni ddiangant dy gaseion.


9
Di a’i gosodi’n nydd dy ddig,
fel ffwrnais ffyrnig danllyd:
Yr Arglwydd iw lid a’i difa,
a’r tân a’i hysa’n enbyd.

10
Diwreiddi dieu ffrwyth o’r tir,
a’i had yn wir ni thyccian:

11
Am fwriadu yt ddrwg ddilen,
heb ddwyn i ben mo’i hamcan.


12
Ti a’i gosodi hwy’r naill du,
a thi a’th lu iw herbyn:
Ac a lefeli dy fwau,
at eu hwynebau cyndyn.

13
Ymddercha dithau f’Arglwydd, gun,
i’th nerth dy hun a’th erfid:
Ninnau a ganwn, o’n rhan ni,
i foli dy gadernid.

22

1

Prophwydoliaeth o ddioddefaint Christ, a’i weddi dros yr eglwys, a’i swyddau tragwyddol, yn brophwyd, yn offeiriad, yn frenin.

Dangos fy Nuw, fy Nuw, a’m grym,
ba achos ym gadewaist.
Pell wyd o’m iechyd, ac o nâd
fy ’mloeddiad, llwyr i’m pellaist.

2
Fy Nuw ’rwy’n llefain, tithau heb
roi ym’ mor atteb etto,
Bob dydd a nos mae ’nghri’n diffael,
a heb gael mo’m dihuddo.


3
A thi wyd sanct, sanct i barhau,
lle daw gweddiau’n wastad:
A holl dy Israel a’i clod,
a’i pwys a’i hystod attad.

4
Yno’t gobeithiai’n tadau ni,
a thydi oedd eu bwccled:
Ymddiried ynot: Arglwydd hael,
ac felly cael ymwared.


5
Llefasant drwy ymddiried gynt,
da fuost iddynt: Arglwydd:
Eu hachub hwynt a wnaethost di
rhag cyni a rhag gwradwydd.

6
Fo’m rhifir innau megis pryf,
nid fel gwr cryf ei arfod:
Fel dirmyg dynion, a gwarth gwael
A thybiant gael eu hystod.


7
Pawb a’m gwelent, a’m gwatworent,
ac a’m min-gamment hefyd,
Ysgwyd eu pennau yn dra hy,
a chwedi hynny dwedyd,

8
Ar yr Arglwydd rhoes bwys a chred,
doed ef iw wared allan,
Os myn ei ollwng ef ar led,
cymered iddo ei hunan.


9
Duw tynnaist fi o groth fy mam,
rhoist ynof ddinam obaith,
Pan oeddwn i yn sugno hon,
ac o’i dwy fron am harchwaith.

10
Arnat ti bwriwyd fi o’r bru,
arnat ti bu fy ’mddiried:
Fy Nuw wyt ti o groth fy mam,
ffyddiais yt am fy ngwared.


11
Oddiwrthif fi yn bell na ddos,
tra fo yn agos flinder,
I’m cymorth i, gan nad oes neb
a drotho’i wyneb tyner.

12
Bustych lawer, a chryfion iawn,
daethant yn llawn i’m gogylch.
A theirw Basan o bob parth,
yn codi tarth o’m hamgylch.


13
Egorant arnaf enau rhwth
i’m bygwth, fel y llewod,
A faent yn rhuo eisiau maeth,
o raib ysclyfaeth barod.

14
Fel dwfr rwyfi yn diferu’n chwyrn,
a’m hesgyrn, sigla’r rhei’ni:
Fy nghalon o’m mewn darfu’n llwyr,
fel cwyr a fai yn toddi.


15
Fel priddlestr mae fy nerth mor swrth,
ynglyn wrth fy ngorchfanau
Mae fy nhafod, yr wyf mor drwch,
fy nghyfle yw llwch angau.

16
Cans cwn cylchasant fi, fy Ner,
a chadfa sceler ddiffaith:
Cloddiasant fy nwy law a’m traed,
Ac felly gwnaed fy artaith.


17
A rhifo fy holl esgyrn i,
gan gulni hawdd y gallaf,
Maent hwythau’n gweled hynny’n wych,
bob tro yn edrych arnaf.

18
Rhyngthynt iw mysg y dillad mau
yn rhannau dosbarthasant,
A hefyd ar fy mrhif-wisc i
coelbrenni a fwriasant.


19
Tithau fy nerth a’m harglwydd da,
nac ymbellâ oddiwrthy,
O bryssia, tydi yw fy mhorth,
a thyr’d a chymorth ymy.

20
O dyr’d, ac achub yr oes fau
rhag ofn y cleddau ffyrnig,
A gwared o feddiant y ci
fy enaid i sy’n unig.


21
Ymddiffyn fi rhag y llew glwth,
dwg o’i safn rhwth fy enaid,
Achub a gwrando fi yn chwyrn
rhag cyrn yr unicorniaid.

22
Mynegaf finnau d’enw yn bur
i’m brodur yn yr orsedd,
Lle mwya’r gynulleidfa lân,
dy glod a wna’n gyfannedd.


23
Hâd Iaco ac Israel, chwychwi
rhai ych yn ofni’r Arglwydd,
Drwy ofn y rhowch iddo foliant,
a rhowch ogoniant ebrwydd.

24
Cans ni’ch llysodd, ni’ch dirmygodd,
ni chuddiodd ei wynebpryd,
Eithr gwrandawodd weddi y gwan,
a’i duchan yn ei adfyd.


25
Honot ti bydd, ac i ti gwedd
mewn aml orsedd fy moliant.
I Dduw rhof f’addunedau’n llon
gar bron y rhai a’i hofnant.

26
Diwellir y tlodion:
a’r rhai a geisiai yr Arglwydd
A’i molant ef, fo gaiff (gwir yw)
eich enaid fyw’n dragywydd.


27
Trigolion byd a dront yn rhwydd
at yr Arglwydd pan gofiant:
A holl dylwythau’r ddaear hon
dônt gar ei fron, ymgrymant.

28
Cans yr Arglwydd biau’r dyrnas,
a holl gwmpas y bydoedd:
Ac uwch eu llaw, ef unig sydd
ben llywydd y cenhedloedd.


29
Y cyfoethogion a fwytânt,
addolant yn eu gwynfyd:
Rhai a ânt i’r llwch gar ei fron,
a rhai, braint meirwon hefyd.

30
Y rhai’n oll a’i hâd, yn un fryd
gwnânt iddo gyd wasanaeth:
A’r rhai’n i’r Arglwydd drwy’r holl dir
a rifir yn genhedlaeth.


31
Dont, dangosant ei uniondeb
y rhai sydd heb eu geni:
Hyn a addawodd, ef a’i gwnaeth,
hynny a ddaeth o ddifri.

23

1

Gobaith yn naioni Duw.

Yr Arglwydd yw fy ’mugail clau,
ni âd byth eisiau arnaf:

2
Mi a gâf orwedd mewn porfa frâs,
ar lan dwfr gloywlas araf.

3
Fe goledd f’enaid, ac a’m dwg
rhyd llwybrau diddrwg cyfion,
Er mwyn ei enw mawr dilys
Fo’m tywys ar yr union.


4
Pe rhodiwn (nid ofnwn am hyn)
yn nyffryn cysgod angau,
Wyd gyda mi, a’th nerth, a’th ffon,
ond tirion ydyw’r arfau:

5
Gosodaist fy mwrdd i yn frâs,
lle’r oedd fy nghâs yn gweled:
Olew i’m pen, a chwppan llawn,
daionus iawn fu’r weithred.


6
O’th nawdd y daw y doniau hyn
i’m canlyn byth yn hylwydd:
A minnau a breswyliaf byth
a’m nyth yn nhy yr Arglwydd.

24

1

Clod i’r tabernacl, a dangos fod eglwys Dduw yma yn gyffelyb i’r eglwys nefol, a phrophwydo am Ierusalem: cyneddfau y rhai a fydd cyfranogion o’r ddwy.

Yr Arglwydd piau’r ddaiar lawr,
a’i llownder mawr sy’n eiddo:
Yr Arglwydd biau yr holl fyd,
a’r bobl i gyd sydd ynddo.

2
Cans fo roes ei sail hi a’i gwedd
yn rhyfedd uwch y moroedd:
Ac a’i gosododd hi yn lân
yn drigfan uwch llif-ddyfroedd.


3
Er hyn: pwy a ddringa yn hy
i gyssegr fry yr Arglwydd?
A phwy a saif, a theilwng wedd,
yngorsedd ei sancteiddrwydd?

4
Dyn a llaw lân, a meddwl da,
ac yn ddidraha ei enaid,
Diorwag, ac ni roes un tro
er twyllo’i gyfneseifiaid.


5
Gan yr Arglwydd y caiff hwn wlith
ei raslawn fendith helaeth,
A chyfiawnder i bob cyfryw
gan Dduw yr iechydwriaeth.

6
Hon sy gan Dduw’n genhedlaeth gref,
a’i ceisiant ef yn effro,
A geisiant d’wyneb, dyma eu maeth,
sef gwir genhedlaeth Iago.


7
Derchefwch chwi byrth eich pennau,
a chwithau ddorau bythol,
Cans brenin mawr daw i’ch mewn chwi,
sef pen bri gogoneddol.

8
Pwy yw’r brenin hwn gogonedd?
Arglwydd rhyfedd ei allu:
Yr Arglwydd yw, cyfion ei farn,
a chadarn i ryfelu.


9
Derchefwch chwi byrth ych pennau,
ehengwch ddorau bythol:
Cans brenin mawr daw i’ch mewn chwi,
teyrn o fri gogonol.

10
Pwy meddwch ydyw’r brenin hwn,
a gofiwn ei ogoniant?
Ior y lluoedd yw, brenin hedd,
a gogonedd, a ffyniant.

25

1

Dafydd yn ei drallod yn cydnabod ei fai, a’i fod yn haeddu cospedigaeth: a thrwy amryw fyfyrdod ysprydol, yn cael edifeirwch, a gobaith; ac yn rhoi diolch.

F’Arglwydd derchefais f’enaid i
hyd attad ti yn union.

2
Fy Nuw, fy ngobaith, gwarth ni châ,
na lawenhâ ’ngelynion:

3
Sawl a obeithiant ynot ti,
y rhei’ni ni wradwyddir,
Gwarth i’r rhai a wnel am i ham
ryw dwyll neu gam yn ddihir.


4
Arglwydd dangos ym’ dy ffordd di,
a phâr i mi ei deall:
Dysg ac arwain fi yr un wedd
yn dy wirionedd diball.

5
Cans tydi ydwyd Dduw fy maeth,
a’m iechydwriaeth unig.
Dy ddisgwyl yr wyf rhyd y dydd,
a hynny fydd i’m diddig.


6
O cofia dy nawdd a’th serch di,
o’th fawr dosturi Arglwydd,
Cofia fod ynot ti erioed,
lawn ddioed drugarogrwydd.

7
Na chofia yr enwiredd mau,
na llwybrau fy ieuenctyd:
Ond Arglwydd, cofia fy nghur i
er dy ddaioni hyfryd.


8
Yr Arglwydd sydd union a da,
a’i ffrwyth ym noddfa ydynt:
Fe arwain, (fel y mae yn rhaid)
y pechaduriaid ynthynt.

9
Fe ddysg ei lwybrau mewn barn iawn,
i’r rhai ufyddiawn yssig,
Hyddysg yw ei ffyrdd i bob rhai
a fyddai ostyngedig.


10
I’r sawl a gatwo ddeddfau’r Ion,
a’i union dystiolaethau,
Gwirionedd, a thrugaredd fydd
ei lywydd yn ei lwybrau.

11
Er mwyn dy enw (o Arglwydd mau)
Duw maddau fy enwiredd,
Cans fy nrhoseddiad i mawr yw,
Mwy ydyw dy drugaredd.


12
Mae, pa ryw wr yn ein mysg ni
sydd yn pur ofni’r Arglwydd?
Fe ddengys y ffordd iddaw fo,
hon a ddewiso’n ebrwydd.

13
O hyn y caiff fy enaid cu
le i letteu’n esmwyth:
A’r holl ddaear hon a’i gwellâd,
a gânt ei hâd a’i dylwyth.


14
Ei holl ddirgelwch a ddysg fo,
i’r sawl a ofno’r Arglwydd:
Ac oi’ holl gyfanneddau glân,
efe a’i gwna’n gyfarwydd.

15
Tueddu’r wyf fy Arglwydd mâd,
yn wastad â’m golygon:
Cans ef yn unic, (yn ddi oed)
rhydd fy nau droed yn rhyddion.


16
Tro attaf, dod y’m nawdd diddig,
cans unic wyf, a rhydlawd.

17
Gofidiau ’nghalon ynt ar led,
Duw gwared fi o’m nychdawd.

18
Duw, gwel fy mlinder, a’m poen fawr,
a madde’n awr fy mhechod:

19
Gwel fy ngelynion a amlhânt,
ac a’m casânt yn ormod.


20
Cadw f’enaid, ac achub fi,
na wnelo’r rheini ’m wradwydd:
Rhois fy mhwys arnat ti fy Nâf,
a rhodiaf mewn perffeithrwydd.

21
Cadwed fi fy uniondeb maith,
cans rhois fy ngobaith ynod.

22
Duw, cadw di holl Israel,
gwared, a gwel ei drallod.

26

1

Y mae Dafydd yn dangos ei ddiniweidrwydd: ac i ddangos nâd ffug yw ei weddi, mae fe yn crio yn erbyn y rhai sydd yn arfer ffug sancteiddrwydd, sef ei elynion.

Barn fi (o Dduw) a chlyw fy llais,
mi a rodiais mewn perffeithrwydd:
Ac ni lithraf, am ym’ roi ’mhwys,
yn llownddwys ar yr Arglwydd.

2
Prawf di fy muchedd Arglwydd da,
a hola dull fy mywyd:
A manwl chwilia’r galon fau:
A phrawf f’arennau hefyd.


3
O flaen fy llygaid, wyf ar led
yn gweled dy drugaredd:
Gwnaeth da ar hynny ar bob tro,
y’m rodio i’th wirionedd.

4
Nid cyd eistedd gydâ gwagedd,
neu goegwyr yn llawn malais:

5
Câs gennif bob annuwiol rith,
ac yn eu plith ni ’steddais.


6
Mi olchaf fy nwy law yn lân,
cans felly byddan, f’Arglwydd,
Ac a dueddaf tua’th gor,
ac allor dy sancteiddrwydd.

7
Y modd hyn teilwng yw i mi,
luosogi dy foliant:
Sef, addas i mi fod yn lân,
i ddatcan dy ogoniant.


8
Arglwydd ceraist drigfan dy dy,
lle’r ery’ dy anrhydedd:

9

N’âd f’enaid i a’m hoes ynghyd

â’r gwaedlyd llawn enwiredd.

10
Eu dwylaw hwynt sy sceler iawn,
y maent yn llawn maleisiau.
A dehaulaw yr holl rai hyn,
sy’n arfer derbyn gwobrau.


11
Minnau’n ddiniwed, (felly gwedd)
ac mewn gwirionedd rhodiaf:
Gwared fi drwy dy ymgeledd,
cymer drugaredd arnaf.

12
Fe saif fy nrhoed i ar yr iawn,
ni syfl o’r uniawn droedfedd:
Mi a’th glodforaf: Arglwydd da,
lle bytho mwya’r orsedd.

27

1

Ffydd Dafydd tuag at Dduw, tra orfu arno fod allan o’r orsedd: a’i gysur i bawb yn eu blinder.

Yr Arglwydd yw fy ngolau’ gyd,
a’m iechyd: rhag pwy’r ofnaf?
Yr Arglwydd yw nerth fo’es: am hyn,
rhag pwy doe ddychryn arnaf?

2
Pan ddaeth rhai anfad, sef fy nghas,
o’m cwmpas er fy llyngcu,
Llithrasant a chwympasant hwy,
ni ddaethant mwy i fynu.


3
Ni ddoe ofn ar fy nghalon gu,
pe cyrchai llu i’m herbyn,
Neu pe codai gâd y modd hwn,
mi ni wanffyddiwn ronyn.

4
Un arch a erchais ar Dduw nâf,
a hynny a archaf etto:
Cael dyfod i dy’r Arglwydd glân,
a bod a’m trigfan ynddo.

I gael ymweled a’i Deml deg,
a hyfryd osteg ynthi
Holl ddyddiau f’einioes: sef wyf gaeth
o fawr hiraeth amdani.

5
Cans y dydd drwg fo’m cudd efe
iw Babell neu ddirgelfa:
Iw breswylfod, fel mewn craig gref,
caf gantho ef orphwysfa.


6
Bellach fo’m codir uwch fy nghâs,
sydd mewn galanas ymy:
Aberthaf, caraf, mola’r Ion
yn ffyddlon byth am hynny.

7
Gwrando arnaf fy Arglwydd byw,
bryssia a chlyw fy oernad:
Trugarhâ wrthif, gwyl fy nghlwyf,
y pryd y galwyf arnad.


8
Fel hyn mae ’nghalon o’m mewn i
yn holi ac yn atteb,
Ceisiwch fy wyneb ar bob tro:
fy Nuw rwy’n ceisio d’wyneb.

9
Na chudd d’wyneb, na lys dy wâs,
fy mhorth a’m urddas fuost:
Duw fy iechyd na wrthod fi,
o paid a sorri’n rhydost.


10
O gwrthyd fi fy nhâd a’m mam
a’m dinam gyfneseifiaid:
Gweddia’r Arglwydd, ef er hyn
o’i râs a derbyn f’enaid.

11
Duw dysg i mi dy ffordd yn rhwydd,
oherwydd fy ngelynion,
Ac arwain fi o’th nawddol râd
yn wastad ar yr union.


12
Ac na ddyro fi, er dy râs,
wrth fodd yr atcas elyn,
Cans ceisiodd fy’nghaseion mau
dystion gau yn fy erbyn.

13
Oni bai gredu honof fi,
bum wrth fron torri ’nghalon,
Y cawn i weld da Duw’n rhâd
o fewn gwlâd y rhai bywion.


14
Disgwyl di ar yr Arglwydd da,
ymwrola dy galon:
Ef a rydd nerth i’th galon di,
os iddo credi’n ffyddlon.

28

1

Gweddi trosto ei hun, yn erbyn rhai trahaus ar Dduw a dyn: a bendithio’r eglwys.

Attad (Ion fy nerth) y rhof lef,
Duw nef na fydd di fyddar:
Os tewi, rhag fy mynd mor drist,
a bod mewn cist dan ddaiar.

2
O Arglwydd, erglyw fy llais i,
a derbyn weddi bruddaidd:
Pan gottwyf fy nwy law o bell,
Duw, tua’th gafell sanctaidd.


3
Ac na ddarostwng fi, fy Ior,
dan ddwylo’r annuwiolion
Y rhai sy’n arwain minau mel,
a rhyfel yn eu calon.

4
Yn ol bwriad eu calon gau,
a’r twyll ddyfeisiau eiddynt,
Yn ol eu drwg weithredoedd hwy,
Duw tâl eu gobrwy iddynt.


5
Am na ’styriant weithredoedd Duw,
ef a wna ddistryw arnynt:
Ac na welent ei wyrth a’i râd,
ni wna adeilad honynt.

6
Bendigaid fyddo’r Arglwydd nef,
fe glybu lef fy ngweddi.

7
Yr Arglwydd yw fy nerth, a’m rhan,
a’m tarian, a’m daioni.

Ymddiriedais iddo am borth,
a chefais gymorth gantho.
Minnau o’m calon, drwy fawr chwant,
a ganaf foliant iddo.

8
Yr Arglwydd sydd nerth i bob rhai
a ymddiriedai’n hylyn:
A’i eneiniog ef fydd maeth,
ac iechydwriaeth iddyn.


9
Gwared dy bobl dy hun yn dda,
bendithia d’etifeddiaeth.
Bwyda, cyfod hwy, am ben hyn
dod iddyn dragwyddolfaeth.

29

1

Erchi i gedyrn gydnabod a’r Arglwydd ei fod yn hollalluog: a dwyn y tarannau a’i nerthoedd eraill, i arwyddo hynny.

Rhowch i’r Arglwydd, a rhowch yn chwyrn,
chwi blant y cedyrn, foliant:
Cydnabyddwch ei barch, a’i nerth,
mor brydferth, a’i ogoniant.

2
Rhowch i enw yr Arglwydd glod,
heb orfod mwy mo’ch cymmell,
Addolwch Arglwydd yr holl fyd:
mor hyfryd yw ei Babell!

3

Llais yr Arglwydd sydd uwch dyfroedd,

Duw cryf pair floedd y daran.
Uwch dyfroedd lawer mae ei drwn,
nid yw ei swn ef fychan.

4
Llais yr Arglwydd, pan fytho llym,
a ddengys rym a chyffro:
A llais yr Arglwydd a fydd dwys,
fel y bo cymwys gantho.


5
Llais yr Arglwydd a dyr yn fân
y Cedrwydd hirlân union,
Yr Arglwydd a dyr, yn uswydd,
y Cedrwydd o Libânon.

6
Fel llwdn unicorn neu lo llon
fe wna’i Libanon lammu,

7

A Sirion oll: llais ein Ior glân

a wna’i fflam dân wasgaru.


8
Llais yr Arglwydd, drwy ddyrys lyn,
a godai ddychryn eres:
Yr Arglwydd a wna ddychryn fflwch
drwy holl anialwch Cades.

9
Llais yr Arglwydd y piau’r glod,
pair i’r ewigod lydnu:
Dinoetha goed: iw deml iawn yw
i bob rhyw ei foliannu.


10
Yr Arglwydd gynt yn bennaeth oedd,
ar y llif-ddyfroedd cethrin:
Yr Arglwydd fu, ef etto sydd,
ac byth a fydd yn frenin.

11
Yr Arglwydd a rydd iw bobl nerth,
drwy brydferth gyfanneddwch.
Yr Arglwydd a rydd ei bobl ymhlith
ei fendith, a hir heddwch.

30

1

Dafydd cyn gysegru ei dy i Dduw a aeth yn glaf, ac wedi mynd yn iach mae fe yn diolch i Dduw, gan ddangos i eraill faint trugaredd Duw: adduned i fod yn ddiolchgar.

F’Arglwydd mi a’th fawrygaf di,
cans myfi a ddyrchefaist,
A’m gelynion i yn llawen
uwchlaw fy mhen ni pheraist.

2
Fy Nuw, pan lefais arnat ti
y rhoddaist i mi iechyd,

3
Cedwaist fy enaid rhag y bedd,
a rhag diwedd anhyfryd.


4
Cenwch i’r Ion chwi ei holl saint,
a maint yw gwyrthiau’r Arglwydd:
A chlodforwch ef gar ei fron:
drwy gofion o’i sancteiddrwydd.

5
Ennyd fechan y sai’n ei ddig,
o gael ei fodd trig bywyd:
Heno brydnawn wylofain fydd,
y borau ddydd daw iechyd.


6
Dywedais yn fy llwyddiant hir,
nim’ syflir yn dragywydd:
O’th ddaioni dodaist, Dduw Ner,
sail cryfder yn fy mynydd.

7
Cuddiaist dy wyneb ennyd awr,
a blinder mawr a gefais.

8
Arnad (o Arglwydd) drwy lef ddir,
fy Arglwydd, i’r ymbiliais.


9
Pa fudd (o Dduw) sydd yn fy ngwaed,
pan rwyf dan draed yn gorwedd?
A phwy a gân yt’ yn y llawr,
dy glod a’th fawr wirionedd?

10
Clyw fi Arglwydd, a thrugarhâ,
dod gymorth da i’m bywyd,

11
Canys yn rhâd y troist fy mâr,
a’m galar, yn llawenfyd:

Am ytty ddattod fy sâch grys,
rhoist wregys o lawenydd:

12
Molaf a chanaf â’m tafod,
i’m Arglwydd glod dragywydd.

31

1

Dafydd gwedi diangc o beryglon, yn dangos beth oedd ei fyfyrdod ef a’i ffydd pan oedd gaethaf arno: parod ddaioni Duw i’r sawl a’i hofnant. Cyngor i’r ffyddloniaid i ymddiried yn Nuw eu hymwaredydd.

Mi a ’mddiriedais ynod Ner,
fel na’m gwaradwydder bythoedd:
Duw o’th gyfiownder gwared fi,
a chlyw fy nghri hyd nefoedd.

2
Gogwydd dy glust attaf ar frys,
o’th nefol lys i wared,

3
A bydd ym’ yn graig gadarn siwr,
yn dŷ a thwr i’m gwared.


4
Sef fy nghraig wyd, a’m castell cryf,
wyf finnau hyf o’th fowredd.
Er mwyn dy enw tywys fi,
ac arwain i drugaredd.

5
A thynn fy fi o’r rhwyd i’r lann,
a roesan er fy maglu:
Cans fy holl nerth sydd ynot ti,
da gelli fy ngwaredu.


6
Dodaf fy yspryd yn dy law,
ac âf gar llaw i orwedd,
Da y gwaredaist fi yn fyw:
(o Arglwydd Dduw’r gwirionedd)

7
Llwyr y caseis y neb a fâg,
iw galon orwag aflwydd,
Ac mi a osodais yn llwyr faith
fy ngobaith yn yr Arglwydd.


8
Mi a ’mhyfrydaf ynot ti,
canfuost fi mewn amser,
Ac adnabuost, wrth fy rhaid,
fy enaid mewn cyfyngder.

9
Llawen fyddaf finnau am hyn,
i’m gelyn ni’m gwarcheaist:
Eithr fy nrhaed i yn eang rydd
da beunydd y sefydlaist.


10
O dangos dy drugaredd Dduw,
cans cyfyng ydyw arnaf,
Fy llygaid, f’enaid, a’m bol sydd
yn dioddef cystydd gwaelaf.

11
Fy mywyd ym’ gwir ofid oedd,
fy holl flynyddoedd, blinion,

12
Fy nerth a ballodd o’m drwg cynt,
a’m esgyrn ydynt bydron.


13
A gwatwor im’ gelynion wyf,
fy nghydblwyf a’m gwatworent:
Fy holl gym’dogion, a phob dyn,
gan ddychryn a’m gochelent.


14
Fe a’m gollyngwyd ’i dros gof,
fal marw a fo esgeulus:
A hawdd yw hepgor y llestr hwn,
o byddi hwn drwgflasus.

15
Cans clywais ogan llawer dyn
o’m dautu, dychryn oerloes:
Hwy a ’mgynghorent a’r bob twyn,
bwriadent ddwyn fy einioes.


16
Ond yn fy ngobaith (Arglwydd byw)
y dwedais fy Nuw ydwyd,
Y mae f’amseroedd a’r dy law,
nid oes na braw nac arswyd.

17
Dyred a gwared fi dy wâs,
oddiwrth fy nghâs a’m herlid.

18
A dangos d’wyneb ym’ oth râd,
rhag brâd y rhai sy’m hymlid.


19
O Arglwydd, na wradwydder fi
a rois fy ngweddi arnad:
Ond i’r annuwiol gwarth a wedd,
yn fud i’r bedd o lygriad.

20
Cae gelwyddog wefusau y rhai’n
y sydd yn darstain crasder,
O ddiystyrwch, a thor tynn,
yn erbyn y cyfiawnder.


21
O mor fawr yw dy râd di-drai,
a roist i’r rhai a’th ofnant!
Cai o flaen meibion dynion glod,
ac ynod ymddiriedant.

22
Oddiwrth sythfeilchion (o’th flaen di)
y cuddi hwynt yn ddirgel:
Cuddi yn dda i’r babell dau
rhag senn tafodau uchel.


23
Mi a fendigaf Dduw yn hawdd:
dangosawdd y’m ei gariad:
A gwnaeth ryfeddod dros ei was,
mewn cadarn ddinas gaead.

24
Ofnais i gynt o’m gobaith drwg
fy nrhoi o’th olwg allan:

25
Eithyr pan lefais arnat ti
y clywaist fi yn fuan.


26
O cerwch Dduw ei holl sainct ef,
da y clyw lef ffyddloniaid:
Ac ef a dâl yn helaeth iawn,
i’r beilch anghyfiawn tanbaid.

27
Cymerwch gysur yn Nuw Ion,
ef a rydd galon ynoch:
Ac os gobeithiwch ynddo ef,
ei law yn gref bydd drosoch.

32

1

Dedwyddwch y sawl y maddeuwyd eu pechodau: cyfaddef ei bechodau y mae, a chael maddeuant: cyngor i’r annuwiol i wellau, ac i’r duwiol i orfoleddu.

Y sawl sy deilwng, gwyn ei fyd,
drwy fadde’i gyd ei drosedd,
Ac y cysgodwyd ei holl fai,
a’i bechod, a’i anwiredd.

2
A’r dyn (a gwnfyd Duw a’i llwydd)
ni chyfri’r Arglwydd iddo
Mo’i gamweddau: yw hwn ni châd
dim twyll dichellfrâd yntho.


3
Minnau, tra celwn i fy mai,
yn hen yr ai ’mhibellion:
A thrwy fy rhuad i bob dydd,
cystuddio y bydd fy nghalon.

4
Dy law dithau, y dydd a’r nos,
sydd drom drwy achos arnaf:
Troi ireidd-dra fy esgyrn mer
fel sychder y gorphennaf.


5
Yna y trois innau ar gais,
addefais fy anwiredd:

6
Tyst yn fy erbyn fy hun fum,
maddeuaist y’m fy nghamwedd,

7

Amserol weddiau am hyn,

a rydd pob glanddyn arnad:
Rhag ofn mewn ffrydau dyfroedd maith,
na chaer mo’r daith hyd attad.


8
Rhyw loches gadarn wyd i mi,
rhag ing i’m cedwi’n ffyddlon:
Amgylchyni fy fi ar led,
â cherdd ymwared gyson.

9
Dithau (o ddyn) dysg geni fi
y ffordd y rhodi’n wastad,
Mi a’th gynghoraf di rhag drwg,
y mae fy ngolwg arnad.


10
Fel y march neu y ful na fydd,
y rhai y sydd heb ddeall:
Mae yn rhaid genfa neu ffrwyn den,
i ddal eu pen yn wastad:

11
Caiff annuwolion, a wnant gam,
fawr ofid am eu traha:
A ffyddloniaid Duw, da y gwedd,
trugaredd a’i cylchyna.


12
Chwithau’r cyfion yn dirion ewch,
a llawenhewch yn hylwydd:
A phob calon sydd union syth,
clodforwch fyth yr Arglwydd.

33

1

Mae yn annog y duwiol i fod yn ddiolchgar i Dduw am ei amryw ddaioni; gan ddangos na eill un creadur gadw dyn, ond daioni Duw.

Pa rai bynnag, yn Nuw yr Ion,
sy gyfion, llawenychwch:
I bawb ysydd yn iawn yn byw
gweddus yw diolchgarwch.

2
A thannau telyn molwch ef,
rhowch hyd y nef ogoniant:
Ar y nabyl gywair ei thon,
ac ar y gyson ddectant.


3
Cenwch i’r Ion fawl a mawrhâd,
wiw gerdd o ganiad newydd:
Cenwch iddo yn llafar glod,
bid parod eich lleferydd.

4
Am mai union ydyw ei air,
ffyddlon y cair ei weithred.

5
Cyfiownder a barn ef a’i câr,
a’r ddaiar llawn o’i nodded.


6
Gair yr Arglwydd a wnaeth y nef,
a’i Yspryd ef eu lluoedd:

7
Casclai efe ynghyd y mor,
a’i drysor yw’r dyfnderoedd.

8
Yr holl ddaiar ofned ein Duw,
a phob dyn byw a’i preswyl:

9

Ei arch a saif, a’i air a fydd,

a hynny sydd i’w ddisgwyl.


10
Ef a ddirymmodd, (fy Nuw Ior)
holl gyngor y cenhedloedd:
A thrwy lysiant gwnai yn ddi rym,
amcanion llym y bobloedd.

11
Ond ei gyngor ef oddi fry,
a bery’n dragwyddoliaeth:
A'i galonfryd efe ei hun,
uwch para un genhedlaeth.


12
A phob cenhedloedd, dedwydd ynt,
os Duw iddynt sydd Arglwydd:
A'i etholion, efe a’i gwnaeth
yn etifeddiaeth hylwydd.

13
O’r nefoedd fry yr edrych Duw,
ar llwybrau pob rhyw ddynion,
Ac o’i breswylfa edrych ar,
y ddaiar a’i thrigolion.


14
Yr hwn a luniodd galon dyn,
a edwyn ei weithredoedd:

15
Ac ni chedwir un bydol gun,
o’i nerth ei hun na’i luoedd.

16
A pheth palledig ydyw march,
i gael parch ac ymwared:
Ac ni all achub o law’r Ner,
mo’i farchog er ei gryfed.


17
Wele lawn olwg Duw, a’i wawl,
maent ar y sawl a’i hofno:
A'i drugaredd ef sydd ar lled,
i’r sawl a ’mddiried yntho.

18
Er mwyn gwared, pan fo yn rhaid,
rhag angau enaid adyn:
Ac i borthi y tlawd yn glau,
rhag eisiau, a rhag newyn.


19
Ein henaid gan yr Arglwydd hael,
sy’n disgwyl cael ei bywyd:
Efe a byrth ein henaid gwan,
efe yw’n tarian hefyd.

20
Sef yn unig yn Nuw yr Ion,
mae’n calon yn llawenu:
Ac yn ei Enw sanctaidd ef,
mae hon yn gref yn credu.


21
Duw dy drugaredd dod i ni
sef ynot ti y credwn:
Dy drugaredd a’th nawdd i’n dod,
Cans ynod ymddiriedwn.

34

1

Dafydd wedi diangc rhag Achis, yn moli Duw, drwy roi addysg i ymddiried yn Nuw.

Diolchaf fi â chalon rwydd,
i’r Arglwydd bob amserau:
Ei foliant ef, a’i wir fawrhâd,
sy’n wastad yn fy ngenau.

2
Fy enaid sydd yn bostio’n rhwydd,
o’m Harglwydd, ac o’m perchen:
A phob difalch hynny a glyw,
ac a fydd byw yn llawen.


3
Molwch fy Arglwydd gyd â mi,
cydfolwn ni ei enw ef:

4
Criais arno yn fy ofn caeth,
a gwrando wnaeth fy ynglef,

5
Y sawl a edrych arno ef,
â llewych nef eglurir:
Ni wradwyddir o honynt neb,
a’i hwyneb ni chwilyddir.


6
Wele, y truan a roes lef,
a Duw o’r nef yn gwrando
A’i gwaredodd ef o’i holl ddrwg,
a’i waedd oedd amlwg iddo.

7
Angel ein Duw a dry yn gylch,
o amgylch pawb a’i hofnant:
Ceidw ef hwynt: a llawer gwell
na chastell yw eu gwarant.


8
O profwch, gwelwch, ddaed yw,
yr Arglwydd byw i’r eiddo:
A gwyn ei fyd pob dyn a gred,
roi ei ymddiried yntho.

9
Ofnwch Dduw ei holl sainct (heb gel)
a’i gwnel ni bydd pall arnyn:

10
Nag eisiau dim sydd dda: er bod,
ar gnawon llewod newyn.


11
Chwychwi feibion deuwch yn nes,
gwrandewch hanes ystyriol.
Dowch a dysgaf i chwi yn rhwydd,
ofni yr Arglwydd nefol.

12
Y sawl a chwennych fywyd hir,
a gweled gwir ddaioni:
Cae dy enau rhag drwg di bwyll,
a’th safn rhag twyll a gwegi.


13
Gwrthod ddrwg, gwna dda: a chais hedd,
hon hyd y diwedd dylyn:
A chadw’r heddwch wedi ei chael,
fal dyna ddiwael destyn.

14
Y mae yr Arglwydd a’i olwg
ar y dyn diddrwg cyfion:
A'i glustiau ef o’i lawn wir fodd,
egorodd i’r rhai gwirion.


15
Wyneb yr Ion a’i guwch sy dynn,
yn erbyn gweithwyr diffaith:
Y coffa o honynt ef a’i tyrr,
ar fyrr o’r ddaiar ymaith,

16
Hawdd y clybu fy Naf o’r nef,
leferydd llef y cyfion:
A thra buan (o’i râd a’i rodd)
y tynnodd o’i trallodion.


17
Agos iawn yw ein Duw at gur
y galon bur ddrylliedig:
A da y ceidw ef bob pryd
yr yspryd cystuddiedig.

18
Trwch, ie ac aflwyddiannus iawn,
a fydd gwr cyfiawn weithian:
Ei ddrygau oll, Duw oddi fry a i tyn,
a’i try i’r gorau.


19
Ceidw ei esgyrn ef ei hun,
o honynt un ni ddryllir:
A drwg a laddo y drwg was,
â ffrwyth ei gas y lleddir.

20
Eithr holl wasnaethwyr Duw ei hun,
yr Arglwydd gun a’i gwared:
I’r sawl a’mddiried yntho ef,
ni all llaw gref mo’r niwed.

35

1

Dafydd yn gweddio am ddial ar weinieithwyr Saul, y rhai a’i herlidient, a thros ei gyfeillion ef. Ac yn addaw moli Duw yn dragywydd.

Pleidia (o Arglwydd) yn fy hawl,
â’r sawl a dery’n ferbyn:
Lle’r ymrysonant â myfi,
ymwana di â’r gelyn.

2
Mae dy gymorth: o moes ei gael,
ymafael yn y tarian:
O cyfod cais dy astalch gron,
a dwg dy waywffon allan.


3
Argaua ar y rhai sy ar gam,
i’m herlid am fy mywyd:
Wrth fy enaid, dywaid fel hyn,
fy fi a fynn yt’ iechyd.

4
Gwarth, a gwradwydd a fo i bob gradd,
a geisio ladd fy enaid:
A thrwy gywilydd troed iw hol
y ffals niweidiol gablaid.


5
Fel yr us o flaen gwynt y bon’:
Angel yr Ion i’w chwalu:

6
A rhyd ffordd dywyll lithrig lefn,
a hwn wrth gefn iw gyrru.

7
Cloddio pwll, a chuddio y rhwyd,
a wnaethbwyd ym heb achos:
Heb achlysur, maglau a wnaid
i’m henaid yn y cyfnos.


8
O deued, cwymped yn ei rwyd,
yr hon a guddiwd allan:
Syrthied a glyned iw delm rwyll,
a’i drapp o’i dwyll ei hunan.

9
Eithr am fy enaid i (Amen)
bid llawen yn yr Arglwydd:
Fe a fydd hyfryd gantho hyn,
lle daw i’r gelyn aflwydd.


10
O Arglwydd dywaid f’esgyrn i,
pwy sydd a thi un gyflwr?
Rhag ei drech yn gwared y gwan,
a’r truan rhag ei ’speiliwr.

11
Tystion gau a godent yn llym,
a holent ym’ beth anfad:

12
Drwg ym’ dros dda talent heb raid,
a’m henaid braint ymddifad.


13
Ond fi, tra fyddent hwy yn glaf,
rhown i’m nesaf liein-sach:
Drwy hir ymostwng ac ympryd,
cymrais fy myd yn bruddach,
Yr un dosturiol weddi fau,
a ddaeth o’m genau allan,
A droes eilwaith (er fy lles)
i’m mynwes i fy hunan.


14
Mi a ymddygais mor brudd dlawd,
fel am fy mrawd neu ’nghymar:
Neu fel arwyl dyn dros ei fam,
ni cherdda’i gam heb alar.

15
Hwythau yn llawen doent ynghyd,
pan bwysodd adfyd attaf:
Ofer ddynion, ac echrys lu
fyth ym mingammu arnaf.


16
Rhai’n rhagrithwyr, rhai’n watworwyr,
torrent hwy eiriau mwysaidd:
Hwy a ’sgyrnygent arnaf fi,
bob daint, a’r rheini’n giaidd.

17
Arglwydd edrych, ow pa ryw hyd
yw’r pryd y dof o’i harfod?
Gwared fy enaid rhag y bedd,
f’oes o ewinedd llewod.


18
Minnau a ganaf i ti glod,
lle bo cyfarfod lluoedd:
Ac a folaf dy enw a’th ddawn,
wrth lawer iawn o bobloedd.

19
Na fydded lawen fy nghâs ddyn,
i’m herbyn heb achossion:
Ac na throed (er bwriadu ’mrâd)
mo gwr ei lygad digllon.


20
Nid ymddiriedant dim mewn hedd,
dychmygant ryfedd gelwydd:
Dirwyn dichell, a gosod cryw
i’r rhai sy’n byw yn llonydd.

21
Lledu safnau, taeru yn dyn,
a dwedyd hyn yn unblaid,
Fei ffei ohonot, hwnt a thi,
ni a’th welsom ni â’n llygaid.


22
Tithau (o Arglwydd) gwelaist hyn,
mor daer yn f’erbyn fuon:
Ac na ddos oddiwrthif ymhell,
rhag dichell fy nghaseion.

23
Cyfod, deffro, fy Nuw i’m barn,
yn gadarn gydâ’m gofid:

24
Dydi a fynni’r uniondeb,
ni watwar neb o’m pledig.


25
Na âd i’r gelyn calon wael
ddiweddu cael i wynfyd:
Na rhodresu fy llyncu’n grwn,
llyncaswn hwn yn ddybryd.


26
Gwarth a gwradwydd iddynt a ddel
sy’n codi uchel chwerthin:
Gwisger hwynt â mefl ac â chas,
sydd ym alanas ryflin.

27
Llawen fo’r llaill a llawn o glod,
sy’n coelio ’mod yn gyfion.
Dwedant, bid i’n Duw ni fawrhânt,
am roi llwyddiant iw weision.


28
Minnau fy Arglwydd gyda’r rhai’n,
myfyriaf arwain beunydd
Dy gyfiownder di, a’th fawr glod,
â’m tafod yn dragywydd.

36

1

Cwyno rhag y drygionus, eithr (drwy gydnabod daioni Duw) y mae efe yn ymgysuro.

Wrth gamwedd dyn annuwiol sur
mae’n eglur yn fy nghalon,
Nad oes ofn Duw, na’i farn,
na’i ddrwg
o flaen ei olwg trowsion.

2
Mae yn cyd ddwyn â’i fai ei hun,
ni wyl mo’i wrthun drosedd:
Nes cael yn eglur i’r holl fyd
ei gâs wyd, a’i anwiredd.


3
Os ei ymadrodd, mae heb wir,
ei enau dihir hydwyll,
Ni fyn wneuthur dim da ychwaith,
yr adyn diffaith dibwyll.

4
Ef yn ei wely ni chais hun,
ond gosod llun ar gelwydd:
Os yn effro, neu yn ei waith,
ni ochel daith annedwydd.


5
Dy drugaredd (fy Arglwydd Ion)
sydd hyd eithafon nefoedd:
A'th wirionedd di sydd yn gwau,
hyd y cymylau dyfroedd.

6
Dy uniondeb fel mynydd mawr,
dy farn fel llawr yr eigion.
Dy nerth fyth felly a barhâ,
i gadw da, a dynion.


7
O mor werth fawr (fy Arglwydd Dduw)
i bawb yw dy drugaredd!
I blant dynion da iawn yw bod
ynghysgod dy adanedd.

8
Cyflawn o frasder yw’r ty tau,
lle lenwir hwythau hefyd.
Lle y cânt ddiod gennyt Ion,
o flasus afon hyfryd.


9
Gyda thi mae y loywffrwd hon,
a dardd o ffynnon einioes:
A'th deg oleuni, ac â’th râd,
y cawn oleuad eisoes.

10
O ystyn etto i barhau,
dy drugareddau tirion:
Ni a’th adwaenom di, a’th ddawn,
i’r rhai sydd uniawn galon.


11
O Dduw im’ herbyn i na ddoed,
na ffyrdd, na throed y balchffol,
A llestair attaf, fel na ddaw na gwaith,
na llaw’r annuwiol.

12
Felly y syrthiodd gynt, yn wir,
y rhai enwir a’r drygwaith,
Felly gwthiwyd i lawr hwyntwy,
heb godi mwy yr eilwaith.

37

1

Pob peth a roddir i’r nêb a garo ac a ofno Dduw, ond er i’r annuwiol lwyddo dros amser, etto hwy a ddarfyddant.

Na ddala ddrygdyb yn dy ben,
nac o gynfigen ronyn,
Er llwyddo’r enwir, a wnai gam:
cai weled llam yn canlyn.

2
Sef hwy a dorrir fel gwellt glâs,
neu lysiau diflas gwywon:
A hwy a grinant yn ddilwydd,
a hynny’n ebrwydd ddigon.


3
Cred yn yr Arglwydd, a gwna dda,
gobeithia yr hyn gorau:
Bydd ymarhous yn y tir,
di a borthir yn ddiau.

4
Bydd di gysurus yn dy Dduw,
di a gei bob gwiw ddymuniad:

5
Dy ffyrdd cred iddo, yn ddilys
fe rydd d’ewyllys attad.


6
Cred yntho ef, fo’th ddwg i’r lann,
myn allan dy gyfiownder:
Mor olau a’r haul hanner dydd,
fal hynny bydd d’eglurder.

7
Ymddiried i Dduw, disgwyl, taw,
a heb ymddigiaw gronyn:
Er llwyddo’i ddrygddyn ei fawr fai,
yr hwn a wnai yn gyndyn.


8
Paid â’th ddig, na ofidia chwaith:
gad ymaith wyllt gynddaredd:
Rhag i hynny dyfu i fod,
yn bechod yn y diwedd.

9
Oherwydd hyn, disgwyl yr Ion,
gwyl ddiwedd dynion diffaith:
A disgwyl ef: meddianna’r tir,
a’r drwg f’oi torrir ymaith.


10
Goddef y drygddyn dros dro bâch,
ni welir mwyach honaw,
Ti a gai weled y lle y bu,
heb ddim yn ffynnu ganthaw.

11
Ond y rhai ufydd a hawddgâr,
y ddaiar a feddiannant:
Ar rhei’ni a thagnhefedd hir,
diddenir yn eu meddiant.


12
Bwriada’r drygddyn o’i chwerw ddaint,
ar ddrygu braint cyfiownddyn:

13
Duw yn ei watwar yntau a fydd,
sy’n gweled dydd ei derfyn:

14
Ynnylu bwa, tynnu cledd,
yw trowsedd yr annuwiol,
Er llâdd y truan: fel dydd brawd,
i’r tlawd a’r defosionol.


15
Ei fwa torrir yn ddellt mân,
a’i gledd a â’n ei galon:

16
Mawr yw golud yr ysceler,
ond gwell prinder y cyfion.

17
Yr Arglwydd a farn bob rhyw fai,
tyr freichiau’r rhai annuwiol,
Ac ef a gynnail yn ddi ddig,
y cyfion, ystig, gweddol.


18
Sef ef edwyn Duw ddyddiau,
a gwaith pob rhai o berffaith helynt:
Ac yn dragywydd Duw a wnaeth,
deg etifeddiaeth iddynt.

19
Efe a’i ceidw hwynt i gyd,
na chânt ar ddrygfyd wradwydd:
Amser newyn hwyntwy a gânt,
o borthiant ddigonolrwydd.


20
Y rhai traws enwir, heb ddim cwyn,
fel brasder wyn a doddant:
Caseion Duw fydd dynion drwg,
hwy gyda’r mwg diflannant.


21
Y gwr annuwiol a fyn ddwyn
yn echwyn, byth ni thalai:
A’r gwr cyfion trugarog fydd,
ac a rydd, nis gommeddai.

22
Sawl a fendigo Duw (yn wir)
y tir a etifeddan:
A’r rhai a felldithio, o’r tir
i gyd a fwrir allan.


23
Duw a fforddia, ac a hoffa,
hyffordd y gwr calonnog:

24
Er ei gwympo efe ni friw,
fo’i deil llaw Dduw ’n sefydlog.

25
Aethym i bellach yn wr hen,
bum fachgen ’rwy’n cydnabod:
Ni welais adu hâd gwr da,
na cheisio’i bara ’ngherdod.


26
Echwyn a benthyg cair bob dydd,
trugarog fydd y cyfion:
A'i hâd ef drwy y nefol wlith,
a gaiff o’i fendith ddigon.

27
Arswyda ddrwg, a gwna di dda,
a chyfanedda rhag llaw:

28
Cans Duw a gâr y farn ddidwn,
ninnau a roddwn arnaw.

Nid ymedy efe â’i Saint,
ceidw heb haint y rhei’ni:
Ond hâd yr annuwiolion gau
a ddont i angau difri.

29
Y ddaear caiff y cyfion gwyl,
lle y preswyl byth mewn iawndeb:

30
A’i enau mynaig wybodaeth,
a’i dafod traeth ’ddoethineb.


31
Deddf ei Dduw y sydd yn ei fron,
a’i draed (gan hon) ni lithrant:

32
Dyn drwg a ddisgwyl lâdd y da,
ond ni chaiff yna ffyniant.

33
Ni âd yr Arglwydd (er ei gais,
nac er ei falais lidiog:)
Y gwirion yn ei waedlyd law,
i hwn ni ddaw barn euog.


34
Gobeithia yn yr Arglwydd tau,
a chadw ei llwybrau’n gywir:
Cei feddiannu, cei uwch o radd,
a gweled lladd yr enwir.

35
Gwelais enwir yn llym ei big,
a’i frig fel gwyrddbren lawri:

36
Chwilais, a cheifiais yr ail tro,
’r oedd efo wedi colli.


37
Ystyria hefyd y gwr pur,
ac edrych du’r cyfiownedd:
Di a gei weled cyfryw ddyn,
ma’i derfyn sydd tangnhefedd.

38
A gwyl y rhai drwy drais sy’n byw,
ynghyd i ddistryw cwympant:
Fe a ddiwreiddir plant y fall,
i ddiwedd gwall, a methiant.


39
Iechyd y cyfion sy o Dduw Ner,
a’i nerth mewn amser cyffro:

40
Cymorth, ceidw, o ddrwg y tynn,
a hyn am gredu yntho.

38

1

Dafydd yn glaf yn cydnabod mai oddiwrth yr Arglwydd y mae hynny yn dyfod iddo am ei bechodau, ac yn dymuno ar Dduw droi ei law, ac yno drwy ffydd, ac ymroi i Dduw, y mae yn gobeithio iechyd.

Fy Arglwydd, na cherydda fi,
ym mhoethni dy gynddaredd:
Ac na chosba fi yn dy lid
oblegid fy enwiredd.

2
Cans glyn dy saethau ynof fi,
a phennau’r rheini’n llymion:
A dodaist arnaf y llaw dau,
a rhoist ddyrnodiau trymion.


3
Nid oes mo’r iechyd gan dy lid,
i’m cnawd, ond gofid creulon:
Ac nid oes (gan fy mhechod chwyrn)
mor hedd i’m hesgyrn sychion.

4
Cans fy nghamweddau aent i’r nen,
a thros fy mhen tyfasant:
Un wedd a baich rhy drwm o bwys
fal hyn mor ddwys i’m llethant.


5
Fy nglheisiau sydd fal yn bwdr ddu
yn llygru gan f’ynfydrwydd:

6
Crymais, a phellais beth bob dydd,
sef galar sydd ac aflwydd.

7
Cans mae fy llwynau’n llawn o wres,
a’m cnawd heb les nac iechyd.

8
Llesg wan ac ysig, yw fy mron,
lle gwaedda calon nychlyd.


9
Clyw Arglwydd fi, herwydd o’th flaen
yn hollawl mae ’nymuniad,
Ni chuddiwyd mo’m ochenaid i,
oddiwrthit di fy ngheidwad.

10
Llamma ’nghalon, palla fy nerth,
a’m golwg prydferth hefyd,

11
Cyfnesaf, cyfaill, câr, nid gwell,
hwy aent ym mhell i’m hadfyd.


12
A’m caseion i yn nessau,
a’i maglau ffug a’i dichell,
Safai fy ngheraint i yn synn,
i edrych hyn o hirbell.

13
Minnau fel dyn byddar a awn
megis pe bawn heb glywed:
Neu fel y mudan (dan dristau)
heb enau yn egored.


14
Yn fud fel hyn y gwn fy mod,
fel un a thafod efrydd:
Neb ddwedyd unwaith air o’m pen,
i dalu sen a cherydd.

15
Gan ym’ gredu i ti yn rhwydd,
o Arglwydd Dduw goruchaf,
Rhwydd a hysbys iawn gennif fi
yw y gwrandewi arnaf.


16
Mi a ddymunais arnat hyn,
rhag bod i’m gelyn wowdio,
O lithrai fy nrhoed ronyn bach,
fo fydd llawenach gantho.

17
Cloffi yn barod rwyf yn wir,
a dolur hir sy’n poeni:

18
Addef yr wyf mai iawn ym’ fod,
fy mhechod sy’n ei beri.


19
A’m gelynion i sydd yn fyw
yn aml ei rhyw, a chryfion:
Sydd yn dwyn câs i mi ar gam,
sef am fy mod yn gyfion.

20
Y rhai a dalant ddrwg dros dda
a’m gwrthwyneba’n efrydd:
A hyn am ddylyn honof i
y pur ddaioni beunydd.


21
Duw, nac ymâd, na fydd ym’mhell,
pen ddelo dichell ffyrnig,

22
Brysia, cymorth fi yn y byd,
fy Nuw, a’m iechyd unig.

39

1

Dafydd heb allu tewi gan ofid, yn gweddio, ac yn dangos meddwl blin. Ei ymdrech yn erbyn marwolaeth ac anobaith.

Addewais gadw ’ngenau’n gu,
rhag pechu yn fy ngeiriau,

2
Y dyn annuwiol lle y bo
bwriedais ffrwyno ’ngenau.

3
Tewais, tewais fel y dyn mud,
rhag dwedud peth daionus,
Pan y cyffroais o hir ddal,
ymattal oedd ofidus.


4
Yn fy nghalon y cododd gwres:
a’m mynwes o’m myfyrdod,
Fel y tân ynynnu a wnaeth,
a rhydd yr aeth fy’ nhafod.

5
O dangos ym’ (fy Arglwydd ner)
pa amser y diweddaf
Rifedi ’nyddiau: a pha hyd
o fewn y byd y byddaf.


6
Rhoddaist fy nyddiau fel lled llaw,
i’m heinioes daw byr ddiwedd.
Diau yn d’ olwg di (o Dduw)
fod pob dyn byw yn wagedd.

7
Sef mewn cysgod y rhodia gwr,
dan gasglu pentwr ofer,
Odid a wyr wrth dyrru da
pwy a’i mwynha mewn amser.


8
Beth bellach a obeithiaf fi,
Duw rhois i ti fy nghalon.

9
Tyn fi o’m camweddau yn rhydd,
nâd fi’n wradwydd i ffolion.

10
Yn fudan gwael yr aethym i,
a hyn tydi a’i parodd:

11
O tyn dy gosp oddiwrthif swrn,
sef pwys dy ddwrn a’m briwodd.


12
Pan gosbech di am bechod wr
fo wywa’n siwr ei fowredd,
Fel y gwyfyn: gwelwch wrth hyn
nad yw pob dyn ond gwagedd.

13
Clyw fy ngweddi o Dduw o’r nef,
a’m llef: a gwyl fy nagrau
Dy wâs caeth wyf (o clyw fy mloedd)
ac felly ’roedd fy nheidiau.


14
O paid a mi gad ym gryfhau,
cyn darfod dyddiau ’mywyd.

15
O gwna â mi sy’ mron fy medd
drugaredd a syberwyd.

40

1

Diolchgarwch i Dduw am ei ddaioni i ddynion: addaw ymroi i wasnaethu Duw, ar modd i hynny: gwedi diolch y mae yn achwyn rhag ei elynion, ac yn mynd at Dduw am gymorth.

Bum yn dyfal ddisgwyl fy Ner,
ef o’r uchelder clybu,
Clustymwrandawodd ef fy llais
pan lefais ar i fynu.

2
Cododd fyfi or pydew blin,
a’r pridd tra gerwin tomlyd:
A rhoes ar graig fy nhroed i wau,
a threfn fy nghamrau hefyd.


3
A newydd gerdd i’m genau rhoes,
clod iddo troes yn hylwydd.

4
Pawb ofnant pan y gwelant hyn,
a chredan yn yr Arglwydd.

5
Pob gwr yn ddiau dedwydd yw
a rotho ar Dduw ei helynt:
A’r beilch, a’r ffeils a’r chwedlan tro
nid edrych efo arnynt.


6
Aml (o Dduw) yw y gwrthiau tau,
fel dy feddyliau ynny:
A heb un dyn yn dysgu i ti,
nac yn blaenori hynny.

7
Y rhai pe y ceisiwn i drwy gred,
eu rhoi ar led, a’i canu,
Mwy amlach ydynt nag y gall
un dyn heb pall eu traethu.


8
Ni fynnaist offrwm rhodd, na gwerth,
na chwaith un aberth cennyf:
Er hyn fy nghlustiau i mewn pryd,
hwy a egoryd ymy.

9
Hyn pan wrthodaist dwedais i,
Duw wele fi yn dyfod

10
Megis o honof mae gwir pur
yn dy ysgrythur hynod.


11
Y rhyngwn i dy fodd yn llawn,
(o Dduw) rwy’ ’n fodlawn ddigon,
Dy ewyllys di a’th lân ddeddf
sy’n greddf yn nautu’r galon.

12
Mi a bregethais dy air cu
ynghanol llu mawr anian.
Ac ni thawaf (fy’ Arglwydd gwyn)
ti wyddost hyn dy hunan.


13
Dy iownder, iechyd, a’th air gwir
ni bum chwaith hir i’w celu,
Na’th drugaredd, na’th roddion da
rhag un gynlleidfa meithlu.

14
Dithau (o Dduw) rhagof na chel
dy dawel drugareddau,
Dy nawdd a’th wir gosod ar lled,
bont byth i’m gwared innau.


15
Dagrau o’m hamgylch fydd uwch rhif,
a throso’n llif mae pechod:
Amlach ydynt nâ’m gwallt i’m brig,
a’m calon ddig sy’n darfod.

16
Tyred (fy Arglwydd) helpa’n rhodd,
a rhynged bodd yt’ hynny:
Bryssia i’m gwared, na thrig yn hwy,
a bydd gynhorthwy ymy.


17
A chyd wradwydder hwynt ar gais
a fyn drwy drais fy nifa:
A throer iw hol y rhai y sy
yn chwennych ymy ddirdra.

18
Bont hwy annedd-wâg yn lle tâl
y rhai a dyfal dafod
Er gwradwydd ym’ a ddwedant hyn,
ffei, ffei, ar destyn dannod.


19
Y rhai a’th geisiant di bob pryd
bont lawen hyfryd hylwydd:
A dweded a’th gâr di (Dduw ner)
mawryger enw’r Arglwydd.

20
Cofia (o Dduw) fy mod yn wan,
ac yn druan, a dyred,
(O Dduw fy nerth) na thrig yn hir,
dyrd rhag y dir i’m gwared.

41

1

Bendithio y rhai trugarog wrth eraill. Achwyn rhag anffyddlon gyfeillion. Diolchgarwch.

Gwyn ei fyd yr ystyriol frawd,
a wnel a’r tlawd syberwyd.
Yr Arglwydd ystyriol o’r nef
a’i ceidw ef rhag drygfyd.

2
Duw a’i ceidw, a byw a fydd
yn ddedwydd yn ddaiarol:
O na ddyro efo yn rhodd
wrth fodd y rhai gelynol.


3
Yn ei wely pan fo yn glaf
rhydd y Goruchaf iechyd:
A Duw a gweiria oddi fry
ei wely yn ei glefyd.

4
Dywedais innau yna’n rhwydd,
dod f’Arglwydd dy drugaredd,
Iachâ di’r dolur sy dan fais,
lle y pechais mewn anwiredd.


5
Traethu y gwaethaf a wnâi’ nghâs
amdanaf, atcas accen:
Pa bryd y bydd marw y gwan,
a’i enw o dan yr wybren?

6

Os daw i’m hedrych, dywaid ffug,

dan gasglu crug iw galon,
Ac a’i traetha pan el i ffwrdd
i gyfwrdd a’i gyfeillion.


7
Fy holl gaseion doent ynghyd,
i fradu ’i gyd yn f’erbyn,
Ac i ddychmygu i mi ddrwg,
a minneu’n ddiddrwg iddynt.

8
Yna dywedent hwy yn rhwydd,
tywalldwyd aflwydd arno,
Mae ef yn gorwedd yn ei nyth,
ni chyfyd byth oddiyno.


9
F’anwyl gyfaill rhwym y’m wrth gred,
fy ’mddiried a’m dewisddyn:
A fu yn bwyta’ mara erioed,
a godai’i draed yn f’erbyn.

10
Eithyr dy hunan cyfod fi,
o’th ddaioni Duw o’r nef:
Felly y gallaf fi ar hynt
gael talu iddynt adref.


11
Da y gwn fy mod i wrth dy fodd,
wrth hyn, na chafodd casddyn:
A gwna na chaiff un gelyn glas
ddim urddas yn fy erbyn.

12
Felly y gwn am danaf fi,
di a’m cynheli’n berffaith:
Gan fy rhoi i byth gar dy fron
o fysg y dynion diffaith.


13
I Dduw Israel boed yn flith
y fendith, (Ior goruchaf)
Yn oes oesoedd: a thrwy air llen:
Amen: Amen a draethaf.

42

1

Dafydd heb gael gan ei erlidwyr ddyfod i’r gynulleidfa sanctaidd, yn dangos fod ei galon ef yn bresennol gydâ hwy, a bod ei holl ymddiried ef yn yr Arglwydd.

Yr un wedd ag y bref yr hydd
am yr afonydd dyfroedd:
Felly y mae fy hiraeth i
am danat ti o’r nefoedd.

2
Fy enaid i sychedig yw,
am fy Nuw byw, a’i gariad:
Pa bryd y dof fi gar dy fron?
fy Nuw a’m cyfion ynad.


3
Fy nagrau oeddynt ddydd a nos
yn fwyd ym’, achos gofyn
Ym am fy Nuw bob pen awr bach,
ple mae fo bellach? meddyn.

4
O gofio hyn wrthyf fy hun,
fel tywallt ffun fy einioes:
Ynghyd a theulu Duw yr awn,
be cawn fy meddwl eisoes.

Hyd at dy Dduw yn ystig iawn
yr awn, dan ganu clodydd:
Fel tyrfa a fai’n cadw gŵyl,
hyn bum i’w ddisgwyl beunydd.

5
Trwm wyd f’enaid o’m mewn:
paham y rhoi brudd lam ochenaid?

6

Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bron

ei wyneb tirion cannaid.


7
Fy enaid o’m mewn pan fo prudd,
a â yn rhydd o’th gofion:
A chofio yr Iorddonen iâch,
ar mynydd bâch o Hermon.

8
Dyfnder is dyfnderau y sydd,
ac ar eu gilydd galwant:
A dwfr pob ffrwd, pob llif, pob ton,
hwy dros fy mron a aethant.


9
Fy Naf a roes y dydd ym’ hedd,
a’r nos gyfannedd ganu,
I ganmawl fy Nuw, hwn a roes
ym’ einioes iw foliannu.

10
Paham im’ gedyt dros gof cyd?
Duw, wrthyd yr achwynaf.

11
Er gorthrymder y gelyn cam,
mewn galar pa’m y rhodiaf?


12
Trwy f’esgyrn taro cleddyf llym
mewn gwarthlid ym, oedd edliw
Ym’ om gelynion er fy ngwae,
dy Dduw p’le mae fo heddiw?

13
Trwm wyd f’enaid o’m mewn:
paham y rhoi brudd lam ochenaid?

14
Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bron
ei wyneb tirion cannaid.

43

1

Gweddio am gael ei wared o ddwylo yr enwir, modd y gallai foli Duw yn ei gynulleidfa sanctaidd.

Barn fi (o Dduw) a dadleu’n dynn
yn erbyn pob oedd enwir,
Rhag y gwr twyllgar gwared fi,
a rhag drygioni’r dihir.

2
Cans ti yw Duw fy nerth i gyd,
paham ym’ bwryd ymaith?
A pha’m yr âf mor drwm a hyn,
gan bwys y gelyn diffaith?

3

Gyr dy olau, a moes dy wir,

ac felly twysir finnau:
A’m harwain i’th breswylfydd,
i’th fynydd, ac i’th demlau.

4
Yna yr âf at allor Duw,
sef goruchel Dduw hyfryd,
Ac ar y delyn canaf fawl,
Duw, Duw, fy hawl a’m gwynfyd.


5
Trwm wyd f’enaid o’m mewn: paham
y rhoi brudd lam ochenaid?
Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bron
ei wyneb tirion cannaid.

44

1

Gweddi y ffyddlon pan erlidiwyd, ar i Dduw faentymio ei achos cyfion.

Clywsom â’n clustiau, (o Dduw cu)
a’n tadau fu’n mynegy
I ni, dy wyrthiau gynt a oedd
yn yr amseroedd hynny.

2
Sef y cenhedloedd tynnaist hwy,
a’th bobl yn fwyfwy plennaist.
Llâdd estroniaid heb ado un,
a’th bobl dy hun a gedwaist.


3
Cans nid â’i cledd eu hun yn wir,
y cowsant dir na thyddyn,
Nid â nerth eu breichiau yn fflwch,
y cadwyd heddwch iddyn:
Ond dy law ddeau, a’th fawr nerth,
a’th olwg prydferth effro,
O herwydd yt’ eu hoffi: hyn
a barodd iddyn lwyddo.


4
Ti Dduw, fy mrenin ydwyd: o
Duw, pâr i Jago lwyddiant:

5
Lladdwn a sathrwn yn d’enw di
y rheini a’n cassaant.

6
Nid yn fy mwa mae fy ngrym,
na’m cleddyf llym f’amddiffyn,

7

Ond tydi Dduw, achubaist fi,

a rhoist warth fri i’r gelyn.


8
Am hynny molwn di bob dydd,
cai yn dragywydd fowredd.
Canwn i’th enw gerdd gan dant,
o glod a moliant ryfedd.

9
Ond ti a giliaist ymaith beth,
daeth arnom feth a gwradwydd:
Nid ait ti allan gyd â’u llu,
cyfagos fu i dramgwydd.


10
Gwnaethost i nyni droi heb drefn,
ein cefn at y gelynion.
Felly yr aeth ein da o’n gwlad
yn sclyfiad i’n caseion.

11
Rhoist ni yn fwyd (fel defaid gwâr)
ar wasgar i’r cenhedloedd.

12
A gwerthaist dy bobl ar bris bach,
nid hyttrach dy oludoedd.


13
Rhoist ni yn watwar (o Dduw Ion)
i’n cymdogion gwrthrym:
A diystyrwch oll a gwarth
i bawb o bobparth ydym.

14
Dodaist ni yn ddihareb chwith
ymhlith yr holl genhedloedd,
Ac yn arwydd i ysgwyd pen,
a choeg gyfatcen pobloedd.


15
Fy ngwarth byth o’m blaen daw yn hawdd,
fy chwys a dawdd fy rhagdal,

16
Gan lais gwarth ruddwr, cablwyr câs,
a gwaith galanas dial.

17
Er dyfod arnom hynny i gyd
ni throes na’m bryd na’n cofion,
Ac ni buom i’th air (o Ner)
un amser yn anffyddlon.


18
Ein calon yn ei hol ni throed,
ni lithrai’n troed o’th lwybrau:

19
Er ein gyrru i ddreigiaidd
gell a’n toi a mantell angau.

20
Os aeth enw ein Duw o’n co,
ac estyn dwylo’i arall.

21
Oni wyl Duw y gaugred hon?
ein calon mae’n ei deall.


22
O herwydd er dy fwyn yn wir
o Dduw, i’n lleddir beunydd,
Fal y defaid ymron eu llâdd,
fal dyna râdd y llonydd.

23
O deffro cyfod, Dduw, mewn pryd:
pa’m yr wyd cyd yn gorwedd?
A dihuna, a chlyw fy nghri,
a chofia fi o’r diwedd.


24
Paham y cuddi d’wyneb pryd?
o darbod hyn ein blinder,
Ein henaid mathrwyd yn y llwch
gan dristwch a gorthrymder.

25
Wrth y llwch mae ein bol ynglyn,
fal dyna derfyn gwagedd.

26
Duw, cyfod, cymorth, gwared ni
o egni dy drugaredd.

45

1

Anrhydedd, nerth, a phrydferthwch Salomon: bendithio ei briodas ef a’r Aiphtes, os hi a ymwrthodei â’i thylwyth, gan ddilyn ei gwr; a hyn yn arwydd o Ghrist a’r eglwys o’r cenhedloedd.

Traethodd fy nghalon bethau da,
i’r brenin gwna’ fyfyrdod:
Fy nhafod fel y pin, y sydd
yn llaw scrifennydd parod.

2
Uwch meibion dynion tegach wyd,
tywalldwyd rhad i’th enau,
Herwydd i Dduw roi arnat wlith
ei fendith byth a’i radau.


3
Gwisg dy gleddau yng wasg dy glun,
o gadarn gun gogonedd:
A hyn sydd weddol a hardd iawn,
mewn llwydd a llawn orfoledd.

4
Marchog ar air y gwir yn rhwydd,
lledneisrwydd, a chyfiownedd:
A’th law ddeau di a â drwy
bethau ofnadwy rhyfedd.


5
A thanat ti pobloedd a syrth,
gan wyrth dy saethau llymion:
Briwant hwy, a glynant yn glau
ym mronnau dy elynion.

6
Dy lân orseddfaingc (o Dduw fry)
a bery o dragwyddoldeb:
Awdurfaingc dy dyrnas y sydd
awdurol: rhydd uniondeb.


7
Ceraist uniondeb: case’ist gam,
o achos pa’m: Duw lywydd,
Dy Dduw rhoes arnat ragor fraint,
sef ennaint y llawenydd.

8
Aroglau myrh, ac aloes da,
a chasia sy ar dy ddillad,
Pan ddelych di o’th Ifyrn dai
lle i’th lawenai’r hollwlad.


9
Sef merched brenhinoedd yn gwau
gyda’ch garesau cywir,
O’th du deau’r frenhines doeth
mewn gwisg aur coeth o Ophir.

10
Clyw hyn, o ferch, a hefyd gwel,
ac a chlust isel gwrando:
Mae’n rhaid yt ollwng pawb o’th wlâd,
a thy dy dâd yn ango’.


11
Yna’i bydd (gan y brenin) wych
gael edrych ar dy degwch:
Dy Arglwydd yw, gwna iddo foes,
i gael i’th oes hyfrydwch.

12
Merched Tirus oedd â rhodd dda:
a’r bobloedd appla o olud:
A ymrysonent gar dy fron,
am roi anrhegion hefyd.


13
Ond merch y brenin, glân o fewn,
anrhydedd llawn sydd iddi:
A gwisg o aur a gemmau glân
oddiallan sydd am dani.

14
Mewn gwaith gwe nodwydd y daw hon
yn wych gar bron ei harglwydd,
Ac a’i gwyryfon gyda hi
daw attad ti yn ebrwydd.


15
Ac mewn llawenydd mawr a hedd
ac mewn gorfoledd dibrin,
Hwyntwy a ddeuant wrth eu gwys
i gyd i lys y brenin.

16
Dy feibion yn attegion tau
yn lle dy dadau fyddant,
Tywysogaethau drwy fawrhâd,
yn yr holl wlâd a feddant.


17
Coffâf dy enw di ymhob oes,
tra caffwyf einioes ymy:
Am hyn y bobloedd a rydd fawl,
byth yn dragwyddawl ytty.

46

1

Gobaith a nerth i’n yw Duw hael:
mae help iw gael mewn cyfwng.

2
Daiar, mynydd, aent hwy i’r mor:
nid ofnaf f’angor deilwng.

3
Pe ymgymysgai’r tir a’r dwfr,
nid ofnwn gynwfr rhuad,
Ped ai’r mynyddoedd i’r mor mawr
ar brynnieu i lawr y gwastad.


4
Dinas Duw lle llawen a fydd,
cyfagos glennydd afon,
Cyssegr preswylfa y rhad,
gan ddyfal rediad Cedron.

5
Duw sydd yn trigo o’i mewn hi
nid âd hi ’scogi unwaith:
Duw a’i cymyrth ar y wawr ddydd,
a phreswylfeydd perffaith.


6
Y cenhedloedd pan fyddent ddig,
a ffyrnig y tyrnesydd,
Toddai y ddaiar o’i flaen ef
pam glywid llef Duw ddofydd.

7
Y mae yr Arglwydd gydâ ni,
Ior anifeiri’y lluoedd:
Y mae Duw Jago yn ein plaid,
gyr help wrth raid o’r nefoedd.


8
Y wlad, o dowch i gyd yn rhwydd,
a gwaith yr Arglwydd gwelwch,
Y modd y gosododd ef ar
y ddaiar anniddanwch.

9
Gwna i ryfeloedd beidio’n wâr
hyd eitha’r ddaiar lychlyd:
Dryllia y bwa, tyr y ffon,
llysg y cerbydon hefyd.


10
Peidiwch, gwybyddwch mai fi yw
eich unig Dduw a’ch gwanar,
Ymysg cenhedloedd mi ’a gâf barch,
a’m cyfarch ar y ddaiar.

11
Y mae yr Arglwydd gydâ ni,
Ior anifeiri y lluoedd,
Y mae Duw Jago yn ein plaid,
gyr help wrth raid o’r nefoedd.

47

1

Peri addoli Duw am ei drugaredd i had Iago: prophwydoliaeth am deyrnas Christ.

Cenwch, a churwch ddwylo ’nghyd:
holl bobl y byd cyfannedd:
A llafargenwch i Dduw nef,
gan leisio â llef gorfoledd.

2
Sef ofnir Duw uwch daiar gron,
ef sydd dros hon yn frenin,

3
Dwg bobloedd danom, a phob gwaed,
a than ein traed fo’i disgin.


4
Fe a rydd ini feddiant siwr,
gwlad Jago, gwr a garai.

5
Duw a dderchafodd wrth y sain,
yr utgorn gain pan leisiai.

6
O cenwch, cenwch, glod ein Duw,
ein brenin yw, o cenwch,

7

Duw dros y byd sy frenin call,

drwy ddeall ymhyfrydwch.


8
Brenin yw ef, a da y gwnaeth
lywodraeth ar wyr bydol,
Ac y mae’n eistedd yn ei drwn,
gorseddfa swn sancteiddiol.

9
Ymgasglant bendefigion byd:
ynghyd â llu Duw Abra’m,
Duw biau tariannau y tir,
drwy foliant hir yn ddinam.

48

1

Diolch i Ddruw dros Jerusalem.

Mawr ei enw’n ninas ein Duw,
a hynod yw yr Arglwydd:
A’i drigfan ef yno y sydd,
ym mynydd ei sancteiddrwydd.

2
Tegwch bro, a llawenydd gwlâd,
yw Seion lathriad fynydd,
Yn ystlysau y gogledd lawr,
tre’r brenin mawr tragywydd.


3
Adweinir Duw ’mhalasau hon
yn gymorth digon hynod.

4
Ac wele nerth brenhinoedd byd
doent yno i gyd-gyfarfod.

5
A phan welsant, rhyfedd a fu,
ar frys brawychu rhagor.

6
Dychryn a dolur ar bob ffaig,
fel dolur gwraig wrth esgor.


7
Ti â dwyreinwynt drylli’n frau
eu llongau ar y moroedd.

8
Fel y clywsom y gwelsom ni,
yn ninas rhi’ y lluoedd:
Sef hyn yn ninas ein Duw ni,
sicrha Duw hi byth bythoedd.

9
Duw disgwyliasom am dy râs
i’th deml, ac addas ydoedd.


10
Duw, fel yr aeth dy enw o hyd,
felly drwy’r byd i’th folir.
Dy law ddeau y sydd gyflawn,
a chyfiawn i’th adweinir.

11
A bryn Sion a lawenhâ,
a merched Juda hefyd:
A'i llawenydd hwy yn parhau
O ran dy farnau hyfryd.


12
Ewch, ewch, oddiamgylch Sion sail,
a’i thyrau adail rhifwch.
Ei chadarn fur a’i phlasau draw
i’r oes a ddaw mynegwch.

13
Cans ein Duw ni byth yw’r Duw hwn
hyd angau credwn yntho.
A hyd angau hwnnw a fydd
yn dragywydd i’n twyso.

49

1

Yr Yspryd yn dangos nad y cyfoethoccaf y sydd ddedwyddaf, ond mai Duw sydd yn llywio pôb pêth.

Gwrandewch chwi y bobloedd i gyd,
trigolion byd doellwch,

2
Gwerin, tlawd, bonheddig, a chryf
cyfoethog hyf ystyriwch.

3
O’m genau daw doethair didwyll,
â’m calon pwyll fyfyriaf,

4
A’m clust gwrandawaf ddameg ddwys
â’m llais cerdd fwys a ganaf.


5
Paham yr ofnaf ddrygau’r byd
yn amser adfyd atcas?
Pan fo anwiredd wedi cau,
wrth fy sodlau o’m cwmpas.

6
Mae llawer rhai o wyr y byd,
mewn golud a’mddiriedant:
A thrwy siarad am werth, a rhi
y rhei’ni y rhodresant.


7
Ond ni wareda neb mo’i frawd,
ni thâl yn ddidlawd drosto,
Ac mi chymer Duw y fâth dâl,
nac iawn mor sâl amdano.

8
Sef pryniad enaid dyn drud sydd,
a hyn byth gorfydd peidio,

9
Fel y gallo efe fyw byth,
heb fynd i nyth yr amdo.


10
Gwelir mai’r bedd yw lletty’r doeth,
y ffol ar annoeth unwedd:
Marw yw’r naill, a marw yw’r llall
i arall gâd ei annedd.

11
Meddwl am ei hadeilad byth,
yn ddilyth y parhâant:
Am hyn wrth eu henwau yn wir
henwau eu tir a alwant.


12
Ni phery dyn o gnawdol dras,
mewn urddas er ei adail,
Diau pob dyn, pan ddel ei ddydd,
a derfydd fal anifail.

13
Dyma eu ffordd, ffordd ffioledd fydd,
na welant ddydd yn passio.
Er hyn eu hil a ddel iw’ hol
fydd yn eu canmol etto.


14
Angeu yw terfyn pob dyn byw,
i hwn nid yw ond tamaid:
Myned sydd raid o’r ty i’r bedd:
yn rhwym un wedd a’r defaid.

15
Daw dydd i’r cyfion dranoeth teg,
daw ym’ ychwaneg ystyn:
Daw ym’ o’r bedd godiad i fyw,
deheulaw Duw a’m derbyn.


16
Er codi o wr mewn parch neu dda,
nac ofna di un gronyn:
Ei olud ef, na’i barch, na’i dda,
i’r bedd nid â iw ddylyn.

17
Hwn tra fu fyw yn rhodio llawr,
gwnai’n fawr o hono’i hunan,
Gwna honot ti dy hun yn fwy,
a hwynt hwy a’th ganmolan.


18
At oes ei dadau hwn pan ddel,
â i’r bedd dirgel efrydd.

19
Dyn mewn anrydedd heb ddeall
(fal llwdn o wall) a dderfydd.

50

1

Prophwydoliaeth am alwedigaeth y cenhedloedd, ac na fyn Duw aberth ond diolchgarwch, yn erbyn y rhai arferant Ceremoniau o flaen gair Duw.

Duw y duwiau, yr Arglwydd cu,
gan lefaru a alwodd,
O godiad haul hyd fachlud hwn,
yr hollfyd crwn cyffrodd.

2
O fryn Sion y daeth Duw naf,
hon sydd berffeithiaf ddinas,
Mewn tegwch a goleuni mawr,
a llewych gwawr o’i gwmpas.


3
Doed rhagddo’n Duw, na fid fel mud,
o’i flaen fflam danllud ysed:
A mawr dymestloedd iw gylch ef,
pan ddel o nef i wared.

4
Geilw ef am y nefoedd fry,
a’r ddaiar obry isom,
I gael baru ei bobloedd ef,
fal hyn rhydd lef am danom.


5
O cesglwch attaf fi fy saint,
y rhai drwy ryddfraint brydferth:
A wnaethan ammod a myfi,
a’i rhwymo hi drwy aberth.

6
A phan ddangoso mintai nef
ei farnau ef yn union,
Sef Duw fydd yn barnu ei hun,
yr unic gun sydd gyfion.


7
Clyw di fy mhobl, traethaf yn ffraeth
dystiolaeth yn dy erbyn,
Dithau Israel: ac iawn yw,
Duw, sef dy Dduw a’th ofyn.

8
Ni chai di am yr ebyrth tau,
na’th boeth offrymau gerydd:
Nac am na baent hwy gar fy mron,
y cyfryw roddion beunydd.


9
Ni chymeraf o’th dy un llo,
na hyfr a fo’n dy gorlan,

10
Mi biau’r da’n y maes sy’n gwau
ar fil o frynniau allan.

11
Pob aderyn erbyn ei ben,
a adwen ar y mynydd.
Pob da maesydd, y lle y maen,
y maent o’m blaen i beunydd.


12
Nid rhaid ym’ ddangos i ti hyn,
pe delai newyn arnaf,
Ac yn eiddo fi yr holl fyd,
a’i dda i gyd yn llownaf.

13
A’i cig y teirw fydd fy mwyd? na thyb:
nid wyd ond angall:
Ai gwaed hyfrod fydd fy niod?
dysg o newydd ddeall.


14
Dod dy oglud ar Dduw yn drwm,
a thal yr offrwm pennaf:
Cân ei fawl ef: a dod ar led
d’adduned i’r Goruchaf:

15
Galw arnaf yn dy ddydd blin,
yno cai fi’n waredydd.
Yno y ceni i mi glod
am droi y rhod mor ddedwydd.


16
Duw wrth yr enwir dywaid hyn:
ai ti perthyn fy neddfau?
Paham y cym’ri di, na’m clod,
na’m hamod yn dy enau?

17
Sef, cas fu gennyt ti iawn ddysg
ac addysg ni chymeraist:
A’m geiriau i (fel araith ffol)
i gyd o’th ol a deflaist.


18
A phan welaist leidr rhedaist
a rhwydaist ran oddiwrtho:
Ac os gordderchwr brwnt af lan,
mynnaist ti gyfran gantho.

19
Gollyngaist di dy safn yn rhydd
yn efrydd ar ddrygioni:
A’th dafod a lithrai ym mhell
at ddichell a phob gwegi.


20
Eisteddaist di, dwedaist ar gam
ar fab dy fam er enllib.

21
Pan wnaethost hyn, ni’th gosbais di,
a thybiaist fi’n gyffelib.
Ond hwy na hyn tewi ni wnaf,
mi a’th geryddaf bellach
Mi a ddangosaf dy holl ddrwg
o flaen dy olwg hayach.


22
Gwrandewch: a pheidiwch tra foch byw
a gollwng Duw yn angof:
Pan ni bo neb i’ch gwared chwi,
rhag ofn i mi eich rhwygo.

23
Yr hwn a ’abertho ’i mi fawl
yw’r sawl a’m gogonedda,
I’r neb a drefno’i ffordd yn wiw
gwir iechyd Duw a ddysgaf.

51

1

Dafydd yn cyfaddef ei anwiredd, ac wrth ymgydnabod a brynti ei anian, yn dymuno cael gan Dduw faddeuant, ac adnewyddu ei ddoniau: ac mae hefyd yn gweddio dros yr eglwys.

Trugaredd dod i mi,
Duw, o’th ddaioni tyner;
Ymaith tyn fy enwiredd mau
o’th drugareddau lawer.

2
A golch fi yn llwyr ddwys
oddiwrth fawr bwys fy meiau:
Fy Arglwydd, gwna’n bur lân fyfi,
rhag brynti fy nghamweddau.


3
Cans adwen fy nghamwedd,
a’m brwnt anwiredd yssig,
Sef beunydd maent gar fy mron i,

4
Yn d’erbyn di yn unig,
Y gwneuthym hyn oedd ddrwg
yn dy lan olwg distrych,
Fel i’th gyfiowner yn ol d’air,
yn burair pan y bernych.


5
Mewn pechod lluniwyd fi,
ac mewn drygioni dygas,
Felly yr wyf o groth fy mam
yn byw bob cam yn atgas.

6
Ac wele ceri’r gwir
o fewn y gywir galon.
Am hyn dysgaist ddoethineb iach
y’m o’th gyfrinach ffyddlon.


7
Ag Isop golch fi’n lan,
ni byddaf aflan mwyach,
Byddafi o’m golchi mal hyn,
fel eira gwyn neu wynnach.

8
Par i mi weled hedd,
gorfoledd, a llawenydd,
I adnewyddu f’esgyrn i
a ddrylliaist di a cherydd.

9

O cuddia d’wyneb-pryd

rhag fy mhechodau i gyd,
Fy anwireddau tyn eu lliw,
o Arglwydd bid wiw gennyd.

10
Duw, crea galon bur,
dod i mi gysur beunydd.
I fyw yn well tra fwy’n y byd,
dod ynof yspryd newydd.


11
O Dduw na ddyro chwaith,
fi ymaith o’th olygon,
Ac na chymer dy Yspryd glân
oddiwrthif, druan gwirion,

12
Gorfoledd dwg i mi,
drwy roddi ym dy iechyd:
A chynnal a’th ysprydol ddawn
fi, i fyw’n uniawn hefyd.


13
A dysgaf dy fford wir
i’r enwir, a’th addoliad:
A phob pechadur try i’r iawn,
a chyrch yn uniawn attad.

14
Rhag gwaed gwared fi Dduw,
sef Duw fy iechydwriaeth:
A’m tafod o’th gyfiawnder di
a gân gerdd wirgi hyffraeth.


15
Duw, egor y min mau,
â’m genau mi a ganaf,
O Arglwydd, gerdd o’th fawl, a’th nerth,
fal dyma’r Aberth pennaf.

16
Cans Aberth ni’s ceisi,
ac ni fynni offrwm poeth:
Pe y mynasyt cowsyt hyn,
nid rhaid yt dderbyn cyfoeth.


17
Aberthau Duw i gyd,
yw yspryd pur drylliedig,
Ac ni ddistyri (o Dduw Ion)
y galon gystuddiedig.

18
Bydd dda wrth Seion fryn,
o Arglwydd, hyn a fynni,
Ac wrth Gaersalem dy dretâd,
a gwna adeilad arni.


19
Cei aberth iownedd coeth,
cei offrwm poeth yn rhagor,
Cei aberth llosg, a bodlon fych,
cei fustych ar dy allor.

52

1

Dangos dull gorthrymydd, ac am ei ddiwedd: cysur i’r ffyddlon yn Nuw. Mae y Psalm hon yn gosod allan yn eglur dyrnasiad yr Anghrist.

Pa’m y rhodresi yn dy frâd,
a’th ddrwg fwriad (o gadarn?)
A maint trugaredd Duw bob dydd,
ac felly bydd hyd dyddfarn.

2
Dychymyg drwg yw’r fyfyrdawd,
a gwaith dy dafawd sceler,
Hwn sydd fel ellyn llym o ddur,
a’i swydd yw gwneuthur ffalsder.


3
Ni hoffaist dda, gwnaist ddrwg yn haws,
a’r traws, yn fwy nâ’r union,

4
Hoffaist eiriau distryw a bâr,
ti golyn twyllgar, creulon.

5
Duw a’th ddistrywia dithau byth,
fo dyn dy chwyth o’th gaban:
Ac a dyn dy wraidd di i gyd,
o dir y bywyd allan.


6
Rhai a’i gwelant a arswydant,
cans hwy a ydynt gyfion:
A hwy a chwarddant am ei ben,
pan welont ddilen greulon.

7
Gwelwch y gwr ni rodd yn ddwys
ar Dduw na’i bwys na’i oglud,
Ond ar ddrygioni yn rhoi nerth,
a rhif a gwerth ei olud.


8
Minnau fel oliwydden werdd
yn nhy Dduw, cerdd a ganaf,
Ymddiriedaf iddo yn hawdd,
byth dan ei nawdd y byddaf.

9
Mi a’th folaf, a’th obeithiaf,
bythoedd drwy ymddiried.
Da yw dangos garbron dy Saint
dy enw, a maint dy weithred.

53

1

Dangos drwg naturiaeth dyn, a chosbedigaeth y drygionys. Gweddi dros y duwiol.

Dwedai’r ynfyd wrtho’i hun
nad oes un Duw na dial:
Ei ddrwg ffieidd-dra a’i drais tynn,
a ddengys hyn yn ddyfal.

2
Llygru yn ffiaidd maent drwy’r byd,

Oedd neb a geisiai Dduw yn gall,
nac oedd yn deall gronyn,

3
Ciliasai bawb yn ol ei gefn,
a hwy drachefn cydlygrynt:
Nid oedd neb a wnelai yr iawn,
nac un yn gyfiawn honynt.


4
Pa’m na ’styria gweithwyr traha
eu bod yn bwyta’ mhobloedd:
Fel y bara? ac heb ddim bri:
ni alwent fi o’r nefoedd.

5
Ofn heb achos arnynt a ddaeth
y rhai a’ch caeth warchaeodd:
Cans trwy eu gwasgar hwy i bob parth,
mewn gwarth Duw a’i gwasgarodd.


6
Och fi na roid i Israel
o Sion uchel iechyd:
Pan roddo Duw ei bobl ar led
o drom gaethiwed adfyd,

7

Yna y bydd Jago yn iach,

ac Israel bach yn hyfryd:
Yna, ac drachefn.

54

1

Dafydd yn galw ar Dduw i ddinistrio ei elynion, drwy addo diolchgarwch.

Duw yn d’enw cadw fi’n dda,
a barna i’th gadernid.

2
Duw clyw fy ngweddi, gwrando ’nghwyn
a’m llef yn achwyn wrthyd.

3
Cans codi’m herbyn i yn chwyrn
mae cedyrn ac estroniaid.
Ac heb osod Duw gar eu bron,
mor greulon ynt i’m henaid.


4
Wele Duw fydd ym’ cymorth rhag
pwy bynnag a gais dial:
Duw sydd gyda’r rhai sy’ ar blaid
fy enaid, er ei gynnal.

5
Efe a dâl o’r achos hon
i’m gelynion eu drygedd,
O torr di ymaith hwynt (fy Ion)
yn eigion dy wirionedd.


6
Rhof aberth yt o wllys da,
a chlod-fora’ dy enw
Fy Arlwydd cymmwys ydyw hyn,
sef ti wyd yn fy nghadw,

7

Gwir yw, Duw a’m gwaredodd i

o’m cyni a’m trallodion:
A’m llygad a gafodd ei fryd,
a’i wynfyd o’m caseion.

55

1

Dafydd yn ofni Saul yn a ruthr, ac yn gweddio, ac yn achwyn faint ei greulondeb ef.

O Dduw gwrando fy ngweddi brudd,
nac ymgudd rhag fy nghwynfan,

2
Erglyw a gwyl fy ngwael ystâd,
a llais fy nâd a’m tuchan.

3
Hyn rhag rhuadaidd lais fy nghâs,
a phwys dyn llym iâs enwir,
Y rhai a daerant arnaf ddrwg,
a’i llid yn amlwg gwelir.


4
Gofid calon sy’n dwyn fy oes,
daeth angau loes hyd attaf.

5
Mae ofn ac arswyd arnaf caeth,
a dychryn daeth ar f’uchaf.

6
O dra ofn dwedwn yn fy nghri,
gwae fi am esgyll clommen,
Yna’r ehedwn i le rhydd,
i gael ym’ lonydd amgen.


7
Wele, awn i grwydro ym mhell,
lle cawn ystafell fachog.

8
Yna y bryssiwn ar fy hynt
rhac rhuad gwynt tymestlog.

9
Dinistria di hwynt, (Arglwydd da)
gwahana eu tafodau.
Sef yn y ddinas amlwg drais
a welais, a chynennau.


10
Dydd a nos ei chylchu yn dro,
a rhodio rhyd ei chaerau,
O’i mewn y mae enwiredd mawr,
ac ar ei llawr bechodau.

11
Gan faint ei henwireddau hi,
a maint drygioni beunydd,
Nid ymâd twyll na dichell chwaith
fyth ymaith o’i heolydd.


12
Ac ni wnaeth fy nghâs y gwaith hyn:
pe gelyn, goddefaswn:
A phe dyn atgas yn ei roch,
yn hawdd y gochelaswn.

13
Ond tydi wr, fy nghyfaill gwar,
fy nghymmar a’m cydnabod,

14
A fu mewn cyd-gyfrinach ddwys
yn eglwys Dduw’n cyfarfod.


15
Terfysg angau arnaw y del,
i’r pwll yr el yn lledfyw:
Sef ymherfedd eu cartref cau
nid oes ond drygau distryw.

16
Minnau gweddiaf ar Dduw byw,
yr hwn a’m clyw mewn amser,

17
Hwyr, a borau, a chanol dydd,
a hyn a fydd drwy daerder.


18
Gwaredodd Duw yr enioes fau
mewn hedd yn nyddiau drygnaws,
Lle’r oedd or blaen yn ferbyn lu,
sef ar fy nhu troes liaws.

19
Duw a’i gostwng hwynt,
ac a’m clyw, sef brenin yw er cynnoes.
Hwythau heb ymado â’i chwant,
fy Nuw nid ofnant eisoes.


20
Ef wedi cymmod, a rhoi llaw,
drwy godi braw a frochodd,
Ef â’r unllaw (yn erbyn hedd)
yr un glyfaredd torrodd.

21
Ei eiriau fal ymenyn gwyrf,
a’i fwriad ffyrf am ryfel:
Pan fo oel ar ei dafod doeth
tyn gleddyf noeth yn ddirgel.


22
O bwrw d’ofal ar dy Dduw,
o mynni fyw heb syrthio,
Duw a geidw y cyfion byth,
a’r drwg f’oi chwyth i gwympo.

23
Sef pob dyn gwaedlyd bradog dro
nid oesa fo hyd hanner,
(Fy Arglwydd Dduw) ond ynot ti
mae’n gobaith i bob amser.

56

1

Dafydd yn achwyn rhag ei elynion: ac yn gofyn cymorth, ac yn ymddiried yn Nuw. Ac yn addaw ei foli ef yn ei Eglwys.

Duw dy nawdd ym rhag marwol ddyn
hwn yn ei wyn a’m llyngcai:
Sef ymryfelu a mi bydd,
a beunydd i’m gorthrymmai.

2
Llyncent fi beunydd o dra châs,
(dy râs o Dduw goruchaf)
Rhai beilch rhy dynion maent yn llu
yn poeth ryfelu arnaf.


3
Y dydd y bai mwyaf fy ofn
rhown ynot ddofn ymddiried.

4
Molaf, credaf, nid ofnaf gnawd,
doi yn ddidlawd i’m gwared.

5
Yn fy ymadrodd i fy hun,
y ceisiant lun i’m maglu:
Ac ar bob meddwl a phob tro
y maent yn ceisio ’nrygu.


6
Ymgasglu, llechu, dirgel hwyl,
a disgwyl fy holl gerdded,
Drwy ymfwriadu i mi loes,
a dwyn i’m heinioes niwed.

7
A ddiangant hwy? Duw tâl y pwyth,
dod iddynt ffrwyth f’enwiredd:
Disgyn y bobloedd yn dy lid,
Duw felly bid eu diwedd.


8
Duw rhifaist bob tro ar fy rhod,
fy nagrau dod i’th gostrel:
Ond yw pob peth i’th lyfrau di
a wneuthym i yn ddirgel?

9

Y dydd y llefwyf, gwn yn wir

dychwelir fy ngelynion:
Am fod drosof fy Nuw â’i law,
mi a wna y daw yn union.


10
Gorfoleddaf yngair fy Nuw,
gair f’Arglwydd byw a folaf,

11
Yn Nuw y rhoi ymddiried siwr,
beth a wnel gwr nid ofnaf.

12
O Dduw mae arnaf fi yn ddled
llawer adduned ffyddlon,
Ac mi a’i talaf hwynt yn rhydd
i ti fy Arglwydd cyfion.


13
Am yt ludd dwyn fy oes a’m gwaed,
a llestair i’m traed lithro,
Fel y rhodiwy’ fi gar dy fron
yngolau’r bywion etto.

57

1

Dafydd yn anialwch Ziph yn galw ar Dduw drwy ymddiried yn ei addewid ef. Ac y dangosai ef ei ogoniant. Am hynny y mae ef yn rhoi diolch a mawl.

Dy ras, dy nawdd, (fy Nuw) ym’ dod,
sef ynod ymddiriedaf,
Nes myned heibio’r aflwydd hyn
dan d’edyn ymgyscodaf.

2
Ymddiried f’enaid ar Dduw sydd,
ar Dduw drwy ffydd mi a alwaf,
Ac a gwblhaf ei air yn iawn,
sef cyfiawn yw’r Goruchaf.


3
O’r nef yr enfyn geidwad y’m,
rhag nerth dyn llym a’m llyngcai:
Enfyn fy Nuw ei nawdd a’i hedd,
a’i lân wirionedd didrai.

4
Ym mysg y llewod mae fy oes,
plant dynion poethfoes eiriau,
Eu dannedd sydd fel gwayw neu saeth,
a’i tafod gwaeth nâ’r cleddau.


5
Ymddercha Dduw y nef uwchlaw,
oddiyno daw d’arwyddion:
A bydded dy ogoniant ar
y ddaiar, a’i thrigolion.

6
O flaen fy nrhaed y rhoesant rwyd,
ac felly’m rhwymwyd weithian:
Ar fy ffordd y cloddiasant glawdd,
i’r hwn yn hawdd syrthiasan.


7
Parod yw fy nghalon (o Dduw)
o parod yw fy nghalon.
Canaf yt’ a datcanaf wawd
o fawl fy nhafawd cyson.

8
Deffro dafod, a deffro dant,
a chân ogoniant beunydd,
Nabl a thelyn, eb ado un,
deffrof fy hun ar las ddydd.


9
Mawl yt (o Arglwydd) pan ddeffrof
a rof ymysg y bobloedd:
A chlodfori dy enw a wnâf
lle amlaf y cenhedloedd.

10
Cans crrhaeddyd y mae dy râs
hyd yn’nhyrnas y nefoedd:
A’th wirionedd di hyd at len
yr wybren, a’i thyrnasoedd.


11
Ymddercha (Dduw) y nef uwchlaw,
oddiyno daw d’arwyddion:
A bydded dy ogoniant ar
y ddaiar a’i thrigolion.

58

1

Y mae efe yn gosod allan dull ei elynion, y rhai yn ddirgel a geisient ei ddifa ef: ac y mae efe yn troi at farn Duw, ac yn dangos y caiff yr union lawenydd pan gwymper y traws. A hyn er gogoniant i Dduw.

Ai’r uniondeb (o bobloedd wych)
yr ydych yn ei ddwedyd?
A ydych chwi, o blant dynion,
yn barnu’r union hefyd?

2

Hyttrach malais sy yn eich bron

ac ystryw calon dwyllgar:
A gwaith eich dwylo trowsder blin,
tra foch yn trin y ddaiar.


3
Y rhai annuwiol aent ar gam,
o groth eu mam newidient,
Ac ar gyfeilorn mynd o’r bru,
a chelwydd fu a draethent.

4
Un wedd a gwenwyn y sarph yw
y gwenwyn byw sydd ynddyn.
Neu’r neidr fyddar yn trofâu,
dan gau ei chlustiau cyndyn.


5
Yr hon ni wrendy ddim ar lais,
na’r wers a gais y rhinwyr,
Nac un gyfaredd ar a wna
y cyfarwydda’ o swyn-wyr.

6
Duw, torr eu dannedd yn eu safn,
diwreiddia’r llafn o dafod:
Duw dryllia’r bonau, a gwna’n donn
bob grudd i’r c’nawon llewod.


7
Todder hwynt fel dwr ar y tir,
felly diflennir hwythau:
Os mewn bwa rhoesant saeth gron,
boed torri hon yn ddrylliau.

8
Boent hwy mor ddiffrwyth, ac mor hawdd
a malwen dawdd y todder:
Neu fel rhai bach ni welai’r byd,
o eisau pryd ar amser.


9
Tâl Duw iddynt ffrwythau eu llid,
cynt nac y llosgid ffagldan:
Tynn hwyntwy ymaith yn dy ddig,
cyn twymnai cig mewn crochan.

10
A phan weler y dial hyn,
fo chwardd y glanddyn cyfion.
Pan fo rhydd iddo olchi eu draed
yngwaed yr annuwolion.


11
Yna dywaid dynion fod iawn,
a ffrwyth i gyfiawn bobloedd:
A bod ein Duw yn farnwr ar
y ddaiar a’i therfynoedd.

59

1

Dafydd yn ofni Saul, yn dangos ei ddiniweidrwydd ei hun, a chreulondeb ei elynion: yn gweddio yn erbyn pechaduriaid maleisus, ac yn moli Duw.

Fy Nuw gwareda fi rhac brâd
a rhac twyll fwriad gelyn,
Derbyn di drosof rhac y rhai
a godai yn fy erbyn.

2
Ac ymddiffyn fi bybyr
oddiwrth weithredwyr camwedd,
Achub fyfi rhac câs y byd,
a rhac gwyr gwaedlyd hygledd.


3
Ac wele, maent hwy i’m cynllwyn,
amranent ddwyn fy mywyd,
Nid ar fy mai yr haeddais hyn,
ond tynder gelyn gwaedlyd.

4
Duw rhedent hwy yn barod iawn,
a dim ni wnawn iw herbyn.
Edrych dithau, fy Arglwydd rhed,
a thyred i’m hymddiffyn.


5
Ti Dduw y llu, Duw Israel,
o deffro gwael enwiredd,
I’r cenhedloedd na âd di’n rhâd,
lle y gwnant drwy frâd eu trawsedd.

6
Maent hwy yn arfer gydâ’r hwyr,
o’mdroi ar wyr o bobparth:
A thrwy y ddinas clywch eu swn,
un wedd a’r cwn yn cyfarth.


7
Wele maent a thafodau rhydd,
awch cledd a fydd iw genau,
Pwy meddant hwy all glywed hyn?
ac a wna i’n herbyn ninnau.

8
Ond tydi fy Arglwydd a’m Duw,
a’i gwel, ai clyw, a’i gwatwar:
Am ben eu gwaith y chwerddi di
y cenhedlaethi twyllgar.


9
Ti a attebi ei nerth ef,
a’th law gref a’m hamddiffyn

10
Duw a’m rhagflaena innau chwip,
caf weled trip i’m gelyn.

11
Na lâdd hwynt rhag i’m pobloedd i
anghofi dy weithredoedd:
Gwasgar, gostwng hwy yn dy nerth
Duw darian prydferth lluoedd.


12
Am bechod eu tafodau hwy,
a’i geiriau, mwyfwy balchedd,
Telir iddynt ni ront air teg
ond celwydd, rheg, a choegedd.

13
Duw difa, difa hwynt i’th lid,
a byth na fid un mwyach,
Gwybyddant mai Duw Jago sydd
drwy’r byd yn llywydd hyttrach.


14
Maent hwy yn arfer gydâ’r hwyr
o’mdroi yn llwyr o bobparth:
A thrwy y ddinas clywch ei swn,
un wedd a chwn yn cyfarth.

15
I gael ymborth crwydro a wnant,
ac oni chânt eu digon,
Nes cael byddant ar hyd y nos
yn aros dan ymryson.


16
Minnau a ganaf o’r nerth tau,
a’th nawdd yn forau molaf:
Nerth ym’ a nawdd buost (o Ner)
pan fu gorthrymder arnaf.

17
I ti canaf, o Dduw fy nerth,
a’m hymadferth rymusol,
Sef tydi yw fy Nuw, fy Naf,
fy nhwr fy noddfa rasol.

60

1

Dafydd pan oedd yn frenin ar Juda, yn dangos drwy arwyddion mai Duw a’i dewisasai, ac yn dangos hynny i’r bobl: dymuno ar Dduw orphen yr hyn a ddechreuasei.

O Dduw, dydi a’n gwrthodaist,
ar wasgar gyraist ymaith,
O sorraist wrthym yn ddi gel,
tro attom, dychwel eilwaith.

2
Dychrynaist di y ddaiar gron,
a holltaist hon yn ddrylliau,
Cans o’th lid ti siglo y mae,
iachâ, a chae ei briwiau.


3
Dangosaist i’th elynion di
o bwys caledi ormod:
A’r ddiod a roist yn eu min,
oedd megis gwin madrondod.

4
Rhoddaist faner, er hyn i gyd,
i bawb o’r byd a’th ofnant,
I faneru drwy dy air gwir,
dros lu y tir lle y trigant:


5
Fel y gwareder drwy lân hwyl,
bob rhai o’th anwyl ddynion.
O achub hwynt â’th law ddeau,
a gwrando finnau’n ffyddlon.

6
Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duw,
llawen yw fy nghyfamod,
Mi a rannaf Sichem rhyd y glyn,
mesuraf ddyffryn Succod.


7
Myfi biau y ddwy dref tad,
sef Eilead, a Manasse,
Ephraim hefyd yw nerth fy mhen,
a Juda wen f’anneddle.

8
Ym Moab ymolchi a wnaf,
dros Edom taflaf f’esgid:
A chwardded Palestina gaeth,
a’i chwerthin aeth yn rhybrid.


9
Duw, pwy a’m dwy i’r ddinas gref?
pwy a’m dwg i dref Edom?

10
Er yt ein gwrthod, pwy ond ti,
o Dduw a’mleddi drosom?
Ynot yn unig mae’n coel ni,
perhon i ti a’n gwrthod,
Er nad aethost o flaen ein llu,
bydd ar ein tu mewn trallod.


11
O unig Dduw, bydd di’ ni’n borth,
ofer yw cymorth undyn.

12
Yn Nuw y gwnawn wroliaeth fawr
fo sathra’i lawr y gelyn.

61

1

Y mae yn dymuno ar Dduw ei achub rhag ei erlidwyr, a’i gadarnhau yn ei dyrnas, drwy addo mawl tragwyddol.

Erglyw (o Dduw) fy llefain i,
ac ar fy ngweddi gwrando:

2
Rhof lef o eitha’r ddaiar gron,
a’m calon yn llysmeirio.
Dwg fi i dollgraig uwch na mi,
ac iddi bydd i’m derbyn.

3
Cans craig o obaith, twr difost,
y’m fuost rhag y gelyn.


4
O fewn dy Babell y bydd byth,
fy nrigfan dilyth dedwydd:
A’m holl ymddiried a fyn fod
ynghysgod dy adenydd.

5
Sef tydi Dduw clywaist yn glau,
fy addunedau puraidd:
Rhoist etifeddiaeth i bob rhai
a ofnai dy enw sanctaidd.


6
Rhoi oes i’r brenin: nid oes ferr:
fo fydd fyw lawer blwyddyn.

7
(Duw) gar dy fron y trig yn hir,
dod nawdd a gwir iw ganlyn.

8
A thrwy y rhai’n y molaf fi
dy enw di yn dragywydd.
Ac felly peri i mi gwplau
fy addunedau beunydd.

62

1

Dafydd yn dangos fod yn rhaid i bob cenedl ymddiried yn Nuw. Ac na thâl dim heb Dduw.

Fy unig Dduw ydyw fy mlhaid,
mae f’enaid yn ei ddisgwyl,
Ohonaw ef, a thrwy ei rym
daw iechyd ym’ o’m hanhwyl.

2
Duw yw fy nghraig, a’m unig nerth,
ac ymadferth fy einioes.
Ac am hyn drwy ymddiffyn hir
mi ni’m ysgogir eisoes.


3
Ba hyd y mae’n eich bryd barhau,
i fwrw eich maglau aflwydd,
Lleddir chwi oll: gwthir yn llwyr
fel magwyr ar ei gogwydd.

4
Ymgasglent, llunient gelwydd mawr,
iw roi i lawr o’i fowredd:
Ar eu tafodau rhoi bendith
a melldith dan ei dannedd.


5
Fy enaid dod (er hyn i gyd)
ar Dduw dy fryd yn ddyfal,
Ynto gobeithiaf fi er hyn,
efo a’m tyn o’m gofal.

6
Sef craig ymddiffyn yw ef ym’,
fy’ nhwr, a grym fy mywyd:
Am hynny y credaf yn wir
na’m mawr ysgogir ennyd.


7
Yn Nuw yn unig mae i gyd,
fy iechyd, a’m gogoniant,
Fy nghraig yw, a’m cadernid maith,
a’m gobaith yn ddilyssiant.

8
Gobeithiwch yntho: gar ei fron
tywelltwch galon berffaith,
Ac ymddiriedwch tra foch byw:
a dwedwch, Duw yw’n gobaith.


9
Plant Adda, gwagedd ynt i gyd,
plant gwyr sydd hud a gwegi,
Gwagach na gwagedd yn eu fawl,
mewn mantawl wrth eu codi.

10
Na rowch eich coel ar gam na thrais,
rhaid yw i falais drwccio:
Os cynnydda cyfoeth y byd
na rowch mo’ch goglyd arno.


11
Duw a lefarodd hyn unwaith,
mi a glywais ddwywaith hynny,
Sef, mai Duw biau’r nerth i gyd,
gostyngiad byd, neu fynnu.

12
O Arglwydd, ti hefyd a fedd
drugaredd a daioni,
I bawb dan gwmpas wybren faith,
yn ol ei waith y teli.

63

1

Dafydd wedi dianc o Ziph yn diolch i Dduw am ei waredu, yn prophwydo dinistr gelynion Duw, a dedwyddwch y rhai a ymddiriedant yntho.

Tydi o Dduw yw y Duw mau,
mi a geisia’n foreu attad.
Y mae fy enaid yn dra sych,
a’m cnawd mewn nych amdanad.

2
Mewn lle heb ddwfr, mewn crinder crâs
ceisiais o’th ras dy weled,
Mal i’th welswn yn y Deml gynt,
ar helynt nerth gogoned.


3
Cans dy drugaredd (o Dduw byw)
llawer gwell yw nâ’r bywyd:
A’m gwefusau y rhof yt fawl,
a cherdd ogonawl hyfryd.

4
Felly tra fwyf fi fyw y gwnaf,
ac felly’th folaf etto,
Ac yn dy enw di sydd gu
y caf dderchafu’ nwylo.


5
Digonir f’enaid fel â mer
a chyflawn frasder hefyd:
A’m genau a gân y moliant tau,
â phur wefusau hyfryd.

6
Tra fwy fi yn fy fy ngwely clyd,
caf yn fy mryd dy gofio,
Ac yng wiliadwriaethau’r nos
câf achos i fyfyrio.


7
Ac am dy fod yn gymmorth ym’,
drwy fawr rym’ dy drugaredd,
Fy holl orfoledd a gais fod
dan gysgod dy adanedd.

8
Y mae f’enaid wrthyd ynglyn
dy ddeau sy’n ynghynnal.

9
Elont i’r eigion drwy drom loes,
y rhai a’m rhoes mewn gofal.


10
Syrthiant hwyntwy ar fin eu harf,
sy noeth er tarf i’r gwirion.
A chwedi eu meirw hwyntwy dod
yn fwyd llwynogod gwylltion.

11
Ond y brenin yn enw ei Dduw
boed tra fo byw yn llawen:
A phawb a dyngo iw fowredd
a gaiff orfoledd amgen.


12
Ond o’r diwedd y daw yn wir,
fe a dywelldir tywod,
I gau safnau y rhai y sydd
yn tywallt celwydd parod.

64

1

Dafydd yn gweddio’n erbyn celwydd a chamgyhuddiad: er cysur i’r cyfion y mae yn dangos cospedigaeth yr enwir.

O Arglwydd Dduw, erglyw fy llef,
a chlyw o’r nef fi’n erfyn:
O Dduw cadw fy einioes i
y sydd yn ofni’r gelyn.

2
A chuddia fi dros ennyd bach
rhag cyfrinach y rhai drwg:
A rhag terfysg y rhai sy’n gwau,
i wneuthur cammau amlwg.


3
Hogi tafodau fel y cledd,
a dwedyd bustledd ddigon,
Saethant ergydion i’m syrhau,
a’r rhai’n oedd eiriau chwerwon.

4
I saethu’n ddirgel bigau dur,
yn erbyn pur ei galon,
Yn ddisymwth heb ofni neb,
a thrwy gasineb creulon.


5
Ymgryfhânt hwy yngwaith y fall,
gan guddio’n gall eu rhwydau,
Yna y dwedant pwy a’n gwel
yn bwrw dirgel faglau?

6

Gan chwilio dyfnder drygau trwch,

o fewn dirgelwch eigion:
A phawb iw gilydd yn rhoi nod
o geuedd gwaelod calon.


7
Ond y mae Duw a’i saeth ynghudd,
rhydd yn ddirybudd ergyd,
Ef a dal adref yr hawl hon,
yn ddyfn archollion gwaedlyd.

8
Gwaith y tafodau drwg lle y bo,
a fynn lwyr syrthio arnynt,
Pob dyn a’i gwel a dybia’n well
gilio ymhell o ddiwrthynt.


9
Yna y dywaid pawb a’i gwel,
gwaith y Goruchel yw hyn,
Cans felly y deallant hwy
y cosbir fwyfwy’r gelyn.

10
Ond yn yr Arglwydd llawenhâ,
ac y gobeithia’r cyfion:
A gorfoledda yntho’n iawn
pob dyn ag uniawn galon.

65

1

Y ffyddloniaid yn diolch i Dduw, am eu dewis a’i llywodraethu hwy, ac am ei fendithion i’r ddaiar.

I ti (o Dduw) y gweddai mawl
yn y sancteiddiawl Sion,
I ti y telir drwy holl gred,
bob gwir adduned calon.

2
Pawb sydd yn pwyso attad ti,
a wrendy weddi dostur,
Ac attad ti y daw pob cnawd,
er mwyn gollwngdawd llafur.


3
Pethau trowsion, a geiriau mawr,
myfi i’r llawr bwriasant,
Ond tydi Dduw, rhoi am gamwedd
drugaredd a maddeuant.

4
Dy etholedig dedwydd yw
caiff nesnes fyw i’th Babell,
Trig i’th gynteddau, ac i’th lys,
a’th sanctaidd weddus gangell.


5
Duw’n ceidwad attebi i ni
o’th ofni i’th gyfiownedd,
Holl obaith wyd drwy’r ddaiar hon,
a’r mor cynhyrfdon rhyfedd.

6
Hwn a siccrhâ bob uchel fryn
â’i wregys yn gadernyd.

7
Hwn a ostega’r mor, a’r don,
a rhuad eigion enbyd.


8
A holl breswylwyr eithaf byd
sy’n ofni’ gyd d’arwyddion,
I ti gan forau a chan hwyr,
y canant laswyr ffyddlon.

9
Dyfrhau y ddaiar sech yr wyd,
afon Duw llanwyd drosti,
Darperaist lifddyfr rhyd ei llawr
iw thramawr gyfoethogi.


10
Pob rhych yr wyd yn ei ddyfrhau,
a’i chwysau’r wyd iw gostwng.
A’i rhoi ym mwyd mewn cafod wlith,
iw chnwd rhoi fendith deilwng.

11
Coroni’r ydwyd ti fal hyn
y flwyddyn â’th ddaioni,
Y ffordd hyn a’r modd (Duw fy ner)
diferaist frasder arni.


12
Ef a ddifera ffrwyth dy serch
ar bob rhyw lannerch ddyrys,
Pob mynydd sych yn uchder gwlâd
o ffrwyth dy rad y dengys.

13
Drwy dy fendith y gwastad dir
a guddir oll â defaid,
Crechwennant, canant bawb ynghyd,
a’r wlâd ac ŷd ei llonaid.

66

1

Y mae’n annog pawb i foli Duw yn ei weithredoedd, ac yn dangos ei allu ef a’i drugaredd i Israel, ac yn dysgu i bawb ei ofni a’i foli ef.

Yn Nuw ymlawenhewch i gyd,
yr hollfyd, a datcenwch

2
Ogoniant ei enw hyd y nef,
a’i foliant gref a draethwch.

3
Wrth Dduw dwedwch fo bair dy law
i’th elyn oerfraw anfad,
Rhag amled yw nerth y llaw hon
â dy gaseion danad.


4
Felly’r holl fyd i gyd a’i rhi’
i ti a ymostyngant,
Canant yt’ fawl, ac ânt hyd lawr,
i’th enw mawr y canant.

5
O dowch, edrychwch ofnus yw
gweithredoedd ein Duw cyfion,
Ofn ei weithredoedd a rydd ddysg
ymysg holl feibion dynion.


6
Fo droes y mor coch yn dir sych,
ai wyr yn droed-sych drwyddo:
A thrwy yr afon: llawen fu,
ei bod heb wlychu yno.

7
Ef byth bydd lywydd cadarn gwych,
a’i olwg edrych beunydd
Ar y cenhedloedd drwy’r holl fyd,
ni chyfyd rhai anufydd.


8
O bobloedd molwch Dduw ar gais,
a moeswch lais ei foliant:

9

Hwn sy’n dal bywyd yn y gwaed

a ddeil ein traed na lithrant.

10
O Dduw, profaist a choethaist ni
un wedd a choethi arian.

11
Yn gaeth y dygaist ni i’th rwyd,
ein cyrph a wasgwyd weithian.


12
Aethom drwy ddwfr a thân yn gaeth,
bu rai’n marchogaeth arnom:
O peraist hyn: ni bu chwaith hir,
i ddiwall dir y daethom.

13
Ac offrwm poeth i’th dy yr âf
talaf fy addunedau,

14
Y rhai mewn cyfwng, rhac mwy trais,
addewais â’m gwefusau,


15
Poeth ebyrth breision yt a rof,
aroglaeth cof cyfammod,
Ychen, hyrdd, offrymmu a wnaf,
ac etto rhoddaf fychod,

16
O dowch yn nes a gwrandewch chwi
sy’n ofni Duw tragfythoes,
Mi a fynegaf i chwi’n ffraeth
pa les a wnaeth i’m heinioes.


17
Llefais i arno â’m genau,
a’r tafod mau a’i molawdd.

18
Pe troeswn fy nghalon at fai,
Duw a’m gwrandawsai’n anawdd.

19
Diau Duw a’m clybu yn hawdd,
gwrandawawdd ar fy ngweddi,
20 Bendigaid yw: fo a’m clywawdd,
ni throes mo’i nawdd oddiwrthi.

67

1

Gweddi am lewych wynebpryd Duw, fel yr adwaener ei farnedigaethau. A dangos mai Duw sy’n llywodraethu pob peth.

Trugaredd Duw i’n plith,
a rhoed ei fendith drosom:
A thywynned ei wynebpryd,
a’i nawdd, a’i iechyd arnom.

2
Fel y gwyper dy ffyrdd
drwy’r ddaiar gydwyrdd gnydoedd:
A’th iechydwriaeth di (o Dduw)
y’mysg pob rhyw genhedloedd.

3
Duw: moled pobloedd di,
rhoent fawl a bri drwy’r hollfyd.

4
A’r holl genhedloedd is wybren,
byddant lawen a hyfryd.
Cans ti a ferni’n iawn
y bobl drwy lawn wybodaeth,
Ac a roi’r holl genhedloedd ar
y ddaiar mewn llywodraeth.


5
Duw, moled pobloedd di,
rhoent fawl a bri trwy’r hollfyd.

6
Yna rhydd y tir ffrwyth i’n plith,
a Duw ei fendith hefyd.

7
A Duw, sef Duw ein tâd,
a rotho ei râd a thycciant:
A therfynau y ddaiar gron,
a phawb ar hon a’i hofnant.

68

1

Dafydd yn dangos trugareddau Duw iw bobl, a bod Eglwys Duw yn rhagori ar bob peth bydol.

Ymgyfoded un Duw ein Ner,
gwasgarer ei elynion:
Un drygddyn honynt nac arhoed,
o’i flaen foed ei gaseion.

2
Os chwalu mwg mewn gwynt sy hawdd,
os tawdd cwyr wrth eiriasdan,
Fel hynny o flaen Duw (yn wir)
yr enwir a ddiflannan.


3
Ond llawenycher ger bron Duw
y cyfion, iw orfoledd:
A'i hyfrydwch hwyntwy a fydd
yn llawenydd cyfannedd.

4
Cenwch, a molwch enw Duw,
sef hwn yw uwch y nefoedd
Yn marchogaeth, megis ar farch,
iw enw rhowch barch byth bythoedd.


5
A gorfoleddwch gar ei fron,
Duw tirion, tâd ymddifaid.
Ac i’r gweddwon mae’n farnwr da
yn ei bryswylfa gannaid.

6
Duw a wna rai mewn ty’n gytun,
ei hun mae’n gollwng gefyn,
Ac yn rhoi trigfan mewn tir crâs,
i ddynion atcas cyndyn.


7
Pan aethost (Dduw) o flaen dy lu,
dy daith a fu drwy ddrysni.

8
Y ddaiar crynodd a flaen Duw,
a’r nef rhoes amryw ddefni.
Ac felly Sinai o flaen Duw,
sef (unduw Israel howddgar)

9
Ar d’etifeddiaeth hidlaist law,
i ddiflinaw y ddaiar.


10
Gwrteithiast hon, dy bobloedd di
sydd ynthi yn preswylio:
Oth râd darperaist Dduw i’r tlawd,
i gael digondawd yno.

11
Yr Arglwydd Dduw a roddai’r gair,
mawr mintai’r cantoressau:

12
Cilient gedyrn: gweiniaid arhont,
yr ysbail rhont yn rhannau.


13
Pes ymdroech mewn parddu a llwch,
chwi a fyddwch fel y glommen:
A’i phlu yn aur ac arian teg,
yn hedeg is yr wybren.

14
Hon, pan wasgarodd Duw yn chwyrn
bob cedyrn o’i gaseion,
Oedd mor ddisgleirwych, ac mor wenn,
ac eira’ar ben bryn Salmon.


15
Mynydd Duw (sef Sion) y sydd
fel Basan fynydd tirion:
Mynydd Basan uchel ei grib
cyffelib yw i Sion.

16
Chwychwi fynyddoedd cribog pam
y bwriwch lam mewn cyffro?
Duw ar Seion ei serch a roes,
lle myn ef eisoes drigo.


17
Rhif ugain mil o filoedd yw
angylion Duw mewn cerbyd:
Ynghyssegr Sinai y bu ei wlith,
bydd Duw iw plith hwy hefyd.

18
I’r uchelder y derchefaist,
a chaethgludaist gaethiwed,
Cymraist, dodaist ddoniau, Duw Ion,
i ddynion oedd ddiniwed.


19
Bendigaid fyth fo’r Arglwydd mau
am ddoniau ei ddaioni.
A’i iechydwriaeth i ni’n llwyth
o berffrwyth ei haelioni.

20
Efe ei hun yw’n Duw ni i gyd,
sef Duw ein iechyd helaeth,
Drwy’r Arglwydd Dduw cawn yn ddi swrth
ddiangc oddiwrth farwolaeth.


21
Duw yn ddiammau a dyrr ben,
a thalcen ei elynion:
A choppa walltog rhai a fo
yn rhodio mewn drwg creulon.

22
Dygaf fy mhobloedd (meddai ef)
hyd adref fel o Basan:
A dygaf hwynt iw hol drachefn,
fel o’r mor donlefn allan.


23
Fel y gwlychech ditheu dy draed
yn llif gwaed dy ddigassau,
Ac y llyfo dy gwn heb gel
y gwaed a ddel o’i briwiau.

24
Gwelodd pawb (o Dduw) dy ystâd,
yn dy fynediad sanctaidd,
Mynediad fy Nuw frenin fry,
fel hyn iw dy casegraidd.


25
Y cantorion, aent hwy o’r blaen,
cerddorion aen ol ynol,
Yna’r gweryfon, beraidd gân,
ar tympan yn y canol.

26
Clodforwch Dduw hynny sydd dda
ym mhob cyn’lleidfa ddiwael:
A chlodforwch yr Arglwydd Ion,
chwi sydd o ffynnon Israel.


27
Doed Benjamin y llywydd bach,
doed bellach dugiaid Juda,
Doed Nephtali, a Zabulon,
a’i tywysogion yna.

28
Dy Dduw a drefnodd i ti nerth,
a’i law sydd brydferth geidwad,
Duw cadarnhâ etto yn faith
arnom ni waith dy gariad.


29
Er mwyn Caersalem adail deg,
rhydd cedyrn anrheg yty.

30
Difetha dyrfa y gwaywffyn,
a’r rhai a fyn ryfely.
Dewr fel teirw, nwyfus fel lloe,
y rhei’ni a roe yr arian:
Delont i’r iawn: tyn nerth a nwy’
a gostwng hwy yn fuan.


31
Y pendefigion o’r Aipht draw
a ddaw, ac Ethiopia:
At Dduw yn brysur i roi rhodd,
ac aberth gwirfodd yna.

32
Holl dyrnasoedd y ddaiar lawr,
i Dduw mawr cenwch foliant,
Cenwch, cenwch ei glod yn rhwydd,
sef Arglwydd y gogoniant.


33
Hwn a farchogodd y nef fry,
a hynny o’r dechreuad:
Wele, daw nerthol sain ei lef
o eitha’r nef i wastad.

34
Rhoddwch gadernid i Dduw ner,
sef uchder ei ragoriaeth,
Y sydd ar Israel, a’i nerth
uwch wybrau prydferth gywaeth.


35
Duw, o’th gysegr i’th ofnir di,
Duw Israel dodi nerthoedd:
A chadernid mawr wyd i’th blaid,
bendigaid fych oes oesoedd.

69

1

Serch Dafydd, a’i flinderau: creulondeb ei elynion, ei gysur, a’i glod i Dduw: y mae efe hefyd yn annog pob creadur i foli Duw, ac yn prophwydo am dyrnas Christ: ac yn y psalm hon y mae Dafydd yn arwydd o Grist.

Achub fi Dduw (y gwr a’m gwnaeth)
tros f’enaid daeth llif-ddyfr-loes,

2
Yr wyf mewn dyfnder tom ynglyn,
heb le i ’mddiffyn f’einioes.
O’r dyfnder daethym fal ar fawdd,
a’r ffrwd a lifawdd uchod:

3
Sychodd fy ngheg, blinodd fy llais,
â’m llygaid pellais ganfod.


4
A hyn wrth ddisgwyl Duw a’i câs,
wele fy nghâs yn amlach
Nâ’r gwalld ar ben fy nghoppa fry,
a’r trowsion sy’n gadarnach.
Y rhai celwyddog, taerion ynt,
rhois iddynt beth ni chefais.

5
Adwaenost (Dduw) f’ynfydrwydd mau,
a’m beiau fi ni chuddiais.


6
O’m plegid i dim gwarth ni chânt
y rhai a goeliant arnad,
Na âd (Dduw’r lluoedd) fefl na thrais
i’r rhai a ymgais attad.

7
(Duw Israel) sef er dy fwyn,
yr wyf yn dwyn gwarthrudd-deb:
A thrwy gywilydd ymarhois,
mewn chwys y tois fy wyneb.


8
I bobl dieithr myfi, (gwn pa’m)
i blant fy mam fel estron.

9
A’m fod fy serch a’m sel i’th dy
i’m hysu hyd fy nghalon.
Cans cabl y rhai a’th gablant di
ar f’ucha i mae’n disgyn.

10
Fy nagrau cystudd, a’m hun-pryd,
ynt warth i gyd i’m herbyn.


11
A phan wisgwn i liain sach,
bum ddiystyrach lawer,

12
Bum chwedyl drws i gryf a thlawd,
i’r meddw yn wawd iw harfer.

13
Ond f’Arglwydd Dduw, gwnaf attad ti
fy ngweddi yn amserol.
O gwrando fi i’th wirfawr hedd,
ac i’th wirionedd grasol.


14
Duw, gwared fi, gwna fi’n rhydd
o’r dom y sydd i’m suddo,
Sef caseion, dyfroedd dyfnion,
a mi nid ofnaf gyffro.

15
Na lifed dwfr drosof yn ffrwd,
na’m llynced amrwd ddyfnder,
Na chaued pydew arnaf chwaith,
mo’i safn diffaith ysceler.


16
Gwrando fi bellach Arglwydd Dduw,
cans da yw dy drugaredd,
Yn amlder dy dosturi mawr
edrych i lawr rhag trowsedd.

17
O’m cyfyngder oddiwrth dy wâs
na chudd mo râs dy wyneb,
Rwyf yn gweddio yn fy ngloes,
Duw bryssia moes y’m atteb.


18
Neshâ at f’enaid Arglwydd mau,
er fy ryddhau a’m gwared,
Moes ymddiffyn rhag cael o hon
gan fy ngelynion niwed,

19
Duw di a weli o bob parth
fy ngwardwydd, gwarth, a’m cwilydd
O herwydd rhodio gar dy fron
mae fy ngelynion beunydd.


20
Mewn gorthrwn ofid yr wyf fi
a gwarth yn torri’ nghalon:
Disgwyl cymhorthwyr, ni ddoe neb,
ni chawn gysurdeb tirion.

21
Bustl a roesan yn fwyd i mi,
finegr i dorri syched.

22
Eu bwrdd boed iddynt fagl aflwydd,
a’i llwydd yn dramgwydd bydded.


23
Ar eu llygaid dallineb doed,
iw llwynau boed crynfeydd.

24
Tywallt arnynt dy ddig a’th lid,
doed iddynt ofid beunyd.

25
Boed eu palasau’n wâg heb wedd,
ac anghyfannedd iddyn,
Na allo neb na dydd na nos
mo’r aros yn eu tyddyn.


26
Cans yr hwn a darawsyd ti
mae’ rhei’ni yn ei erlyd:
A’r doluriau y sydd o’th friw
y maent iw hedliw hefyd.

27
Dod gamwedd ar eu camwedd hwy,
na ddont mwy i’th gyfiownder

28
Ymaith o lyfr y bywyd llawn,
o fysg y cyfiawn tynner.


29
Finnau pan fwyf odidus wan,
a phan fwyf druan hefyd,
Dy iechydwriaeth di (o Dduw)
eilchwyl i fyw a’m cyfyd.

30
Moliannaf d’enw Dduw ar gân,
fal dyma f’amcan innau.

31
A hyn fydd gwell gan Dduw deyrn
nag ych â chyrn a charnau.


32
A phob truan, pan weler hyn,
a ennyn o lawenydd:
A’ch calon chwi sy’n ceisio Duw
cyfyd i fyw o newydd.

33
Duw gwrendy dlawd,
ni ddirmyg lef oi gaethwas ef sy fethiant.

34
Nef, a daiar, a mor, a hyn
a ymlysg ynthyn, moliant.


35
Cans Duw a gedw Sion deg,
a threfna’n chwaneg Juda:
Adeilada ddinesydd hon,
i ddynion yn breswylfa.

36
Fe ei weision ef a’i hil,
a’i heppil, a’i meddiannant:
A’r rhai a hoffa ei enw fo,
yn honno a breswyliant.

70

1

Gweddi am gymmorth pryssur: ac yn erbyn ei elynion.

Duw prysura i’m gwared i,
Ion, bryssia di i’m cymmorth.

2
Gwarth a gwradwydd a ddel i’r blaid
a gais i’m henaid ammorth.
Drwy wradwydd troer y rhai a ddwg
i mi ddim drwg ewyllys.

3
Mefl fo’i gwobr, a draeth hâ hâ,
am danaf yn ddirmygus.


4
Y sawl a’th gais calonnog fydd,
o dra llawenydd ynod,
Dweded sawl a’th gâr bob amser,
mawrhyger ein Duw hynod.

5
Minnau’n dlawd, ac yn druan sydd,
Duw brysia bydd yn agos:
Fy mhorth a’m ceidwad wyd yn wir,
(o Arglwydd) na hir aros.

71

1

Gweddi (drwy ffydd) ar i Dduw ei waredu ef rhac ei fâb Absolon greulon.

Mi a’mddiriedais ynod (Ner)
na’m gwradwydder byth bythoedd,

2
Duw o’th gyfiownder gwared fi,
a chlyw fy nghri hyd nefoedd.

3
Duw bydd yn graig o nerth i mi
i gyrchu atti’n wastad:
A phâr fy nghadw i yn well,
ti yw fy nghastell caead.


4
Duw gwared fi o law’r trahaus,
a’r gwr trofaus, a’r trowsddyn.

5
Ynot ti, Dduw bu ’ngoglud maith,
a’m gobaith er yn ronyn.

6
O groth fy mam y tynnaist fi,
rhoist ynof egni etto,
I tithau fyth, am hyn o hawl,
y canaf fawl heb peidio.


7
I lawer dyn bum anferth iawn,
ti yw fy nerthlawn lywydd.

8
Fy safn bydd lawn o’th fawl gan dant,
ac o’th ogoniant beunydd.

9
Nac esgeulusa fi na’m braint
yn amser henaint truan.
Er pallu’r nerth, na wrthod fi,
Duw edrych di ar f’oedran.


10
Medd fy nghaseion r’wyf yn wann,
hwy a ddisgwilian f’anaf:
Ymgynghorasant yn ddi synn,
gan ddwedyd hyn am danaf:

11
Duw a’i gwrthododd, (meddant hwy)
erlidiwch fwyfwy bellach:
A deliwch ef, nid oes drwy’r byd
yr un a’i gweryd baiach.


12
Er hyn o frad, (Duw) bydd di well,
na ddos ymhell oddiwrthy.
Fy Nuw prysura er fy mhorth,
ac anfon gymmorth ymmy.

13
Angau gwarthus pob rhai a gânt
a wrthwynebant f’einioes,
Gwradwydd a gwarth iddynt a drig,
a gynnig i mi ddrygloes.


14
Fy ngobaith innau a saif byth
yn ddilyth a safadwy,
Ymddiried ynot (Dduw) a wnaf,
ac a’th foliannaf fwyfwy.

15
Dy iechydwriaeth sy i’m genau,
yr hwn ni thau funudyn:
A’th gyfiawnder, ac ni wn i
ddim o’r rhifedi arnyn.


16
Ynghadernid yr Arglwydd Dduw,
tra fwy fi byw y credaf:
A’th gyfiownder di hyd y brig,
yn unig hyn a gofiaf.

17
Duw, di a ddysgaist i mi hyn,
do, er yn blentyn bychan:
A hyd yn hyn r’wyf yn parhau
i osod d’wrthiau allan.


18
O Duw na wrthod fi yn hen,
a’m pen, a’m gen yn llwydo,
Nes i’m ddangos i’r rhai sy’n ol
dy wrthiau nerthol etto.

19
Dy gyfiownder yn uchel aeth,
yr hwn a wnaeth bob mowredd,
Duw pwy y sydd debyg i ti?
nid ydym ni ond gwagedd.


20
Duw gwnaethost di ym’ fyw yn brudd,
a gweled cystudd mynych,
Troist fi i fyw, dychwelaist fi,
drwy’ nghodi o’r feddrod-rych.

21
Mwy fydd fy mawredd nag a fu,
troi i’m diddanu innau,

22
Yna y molaf dy air am hyn,
ar nabl offeryn dannau.

O Sanct Israel, canaf hyn
ar delyn, ac â’m genau:

23
Am ytty wared f’enaid i,
gwnâf i ti hyfryd leisiau.

24
Canaf y’t hefyd gyfion glod
â’m tafod: wyt iw haeddu:
Am yt warthau a gwarthruddiaw,
fy ngwas sy’n ceisiaw ’nrygu.

72

1

Solomon a’i deyrnas yn y psalm hon yn arwydd ac yn ffigur o Grist a’i ogoniant.

Duw dod i’r brenin farn o’r nef,
dod iw fâb ei gyfiowndeb.

2
Yna y rhydd rhwng pobl iawn frawd,
ac i’r dyn tlawd uniondeb.

3
Hedd a chyfiownder, yn ol hyn,
cair ym hob bryn a mynydd.

4
Y gwan a’r llesg achub a wna,
fe dryllia y gorthrymmydd.


5
Hwy a’th ofnant byth ar bob tro,
tra treiglo haul a lleuad,

6
Fo ddisgyn fel glaw ar wellt glâs,
neu gafod frâs ar wastad,

7

Iw ddyddiau ef cerir yn iawn,

a’r cyfiawn a flodeua.
Ac aml fydd hedd ar ddaiar gron,
tra fo’r lloer hon yn para.


8
Llwydda efe o for hyd for,
o’r ffrwd hyd oror tiroedd:

9

Ei gâs ymgrymmnt, llyfant lwch,

hyd yr anialwch cyrredd.

10
Cedyrn o Tharsus frenhinoedd,
ac o’r ynysoedd canol,
O Seba ac Arabia deg,
doe bawb â’i anrheg reiol.


11
Yr holl frenhinoedd doent yn llu,
a than ymgrymmu atto:
A’r holl genhedloedd, fel yn gaeth,
a wnant wasanaeth iddo.

12
Cans y dyn rheidus, a’r gwr gwan,
fo’i gweryd pan weddio.
Bydd i bod dyn yn nerthol dwr,
ar ni bo pleidwyr gantho:

13
Ef a erbyd y tlawd mewn rhaid,
fo achub enaid glanddyn:

14
Fo a’i gweryd rhag twll a drwg,
gwerthfawr iw olwg ydyn.

15
Felly bydd byw: rhoir iddo dda,
sef aur o Seba ddedwydd,
Hwy a weddiant arno fo,
gan ei fendithio beunydd.


16
Rhyd pen y mynydd yd a gân,
fel brig coed Liban siglant:
A’r plant cyn amled ar gwellt glâs,
o’r ddinas a flagurant.

17
Os haul cylch wybren byth a dry,
byth pery enw iddaw,
Pawb a’i bendithia ef yn wir,
pawb a fendithir ynthaw.


18
Bendigaid fo yr Arglwydd Dduw,
(sef Duw yr Israel dirion)
Efe’n unig byth sy’n parhau,
i wneuthur gwrthiau mowrion.

19
Bendigaid fytho i enw byth,
gogonedd dilyth iddo:
A’i glod llenwir y ddaiaren:
Amen: Amen hyn fytho.

73

1

Dafydd yn dysgu i ddynion nad anghysurent er gweled llwyddiaut yr enwir, neu aflwyddiant y cyfion, yn y byd hwn, drwy ddangos mor ddisymmwth y diflanna y drwg, a maint gwobr y daionus.

Ys da yw Duw i Israel,
wrth bawb a wnel yn union:

2
Minnau llithrais, braidd na syrthiais,
swrth-wael fu f’amcanion.

3
Cans cynfigennais wrth y ffwl,
ar dyn annuwiol dihir,
Braidd na chwympais pan y gwelais
eu hedd a’i golud enwir.


4
Can nad oedd arnynt rwymau caeth
i gael marwolaeth ddynol,
Lle maent yn byw yn heini hyf,
yn iraidd gryf ddigonol.

5
Ac ni ddoe arnynt lafur blin
hyd y bawn i’n eu deall,
Na dim dialedd, na dim gwyn,
fel y doe ar ddyn arall.


6
Am hynny syth maent yn ymddwyn,
fel o fewn cadwyn balchder:
A gwisgant am danynt yn dynn
(megis dillad n) drowsder.

7
A’i llygaid hwynthwy wrth dewhau
doent yn folglymmau drosodd:
A’i golud hwy, er hyn o wyn,
uwch meddwl dyn a dyfodd.


8
Treuthu eu trowsder, bod yn dynn,
a bostio hyn ar wasgar,

9
Egori safn at wybren fry,
a thafod cry’ drwy’r ddaear.

10
Am hyn rhai o’i bobl ef â chwant
a ymddychwelant yma,
Yn gweled y dwfr yn loyw lân
a thybio y cân eu gwala.


11
Cans ymresymmant hwn yn fyw,
pa’m? ydyw Duw yn canfod
Pwy sydd yn ddrwg, a phwy sy’n dda?
ydyw’r gorucha’n gwybod?

12
Wele y drygddyn mwya’i chwant
caiff fwyaf llwyddiant gwastad:
Yn casglu golud a mawr dda,
hwnnw sydd fwya’i godiad.


13
Ofer iawn fu i mi warhau,
a llwyr lanhau fy nghalon:
Golchi fy nwylo, caru gwir,
a bod yn hir yn gyfion:

14
Cael fy maeddu ar hyd y dydd:
ond trwstan fydd uniondeb,
Os y borau, ac os pryd nawn,
myfi a gawn wrthwyneb.


15
Hyn os dwedwn, a feddyliwn,
o ryw feddalaidd ammau,
Wele, a’th blant di y gwnawn gam,
i ddwyn un llam a minnau.

16
Pan geisiwn ddeall hyn yn llwyr,
o nerth fy synwyr ddynol,
Hynny i’m golwg i oedd flin,
nes cael rhyw rin ysprydol.


17
Ond pan euthym i gysegr Duw,
lle cefais amryw olau,
Yna deellais i pa wedd
y bydd eu diwedd hwythau.

18
Gwybum i ti eu gosod hwy,
lle caent lam mwy’n y diwedd,
Sef mewn lle llithrig rhwydd-gwymp trwch,
anialwch anghyfannedd:


19
Ond gwedi dodaist iddynt wth,
disymmwth y pallasant,
Mynd o’r byd heb na lliw na llun,
o’i hofn eu hun darfyddant.

20
Fel breyddwyd pan ddihunai un,
y gwnai di iddun f’Arglwydd,
O’r newid hon y caiff fy nghâs,
drwy yr holl ddinas wradwydd.


21
Bum i ddig wrthyf fi fy hun,
ac oerni fu’n fy nghalon.

22
Nas deallaswn hyn yn gynt,
bum ffol un hynt ac eidion.

23
Er hyn etto bum gydâ thi,
lle i’m twysi yn ddilysiant

24
Wrth fy llaw ddeau: wedi hyn
fy nerbyn i gogoniant.


25
Pa’m? pwy (o Dduw) sydd gennyf fi
ond tydi yn y nefoedd?
Dim ni ddymunwn gydâ thi,
wrth weini daiar leoedd.

26
Fy nghalon i, a’m nerth, a’m cnawd,
y sydd mewn palldawd beunydd,
Ond tydi Dduw sydd ar fy rhan,
a’m tarian yn dragywydd.


27
A elo ymhell oddiwrthyd ti,
y rhei’ni gwnaent yn ddiffaith:
Ac a buteiniant rhagot ti,
y rhei’ni torrir ymaith.

28
Ond mi a ddof nesnes at fy Nuw,
fy ngobaith yw i’m calon

29
Y traethaf fi ei nerth, a’i wyrth,
o fewn dy byrth, merch Sion.

74

1

Achwyn am fod yn distrywio’r Eglwys, a’r grefydd, a’r allorau: gofyn cymorth gan Dduw drwy ffydd o’i gyfamod.

Paham (o Dduw) oddiwrthym ni
y cili yn dragywydd?
Paham y digi mor danbaid
wrth ddefaid dy borfeydd?

2

Cofia y bobl a brynaist gynt,

rhoist iddynt etifeddiaeth,
Mynydd Seion, dy breswylfa,
i’r rhai’n yn drigfa helaeth.


3
Ymddercha (Arglwydd) taro’n drwm,
pob gelyn gorthrwm difa
Yn dragywydd, a wnaeth na thrais,
na dyfais i’th gysegrfa.

4
Dy elynion daethant i’n mysg,
rhuasant derfysg greulon:
A gosodasant dan gryfhau,
fanerau yn arwyddion.


5
Iw cherfio’r saeri gorau gynt,
a roesan wynt iw bwiyll.

6
Drylliant i’r llawr gerfiadau hon
ag eirf, gyfeillion erchyll.

7
Llosgasant oll dy eglwys lân,
a’i phyrth a thân yn ulw:
A halogasant mewn dull dig,
y noddfa’y trig dy enw.


8
Awn, gwnawn gyd-artaith meddant hwy,
a dinystr drwy yr hollwlad:
Llosgasant holl demlau y tir,
gwnaethant yn wir eu bwriad.

9
Nid oes un arwydd in’ iw gael,
na phrophwyd diwael destyn,
Na gwybedydd, a wyr pa hyd,
y pery’r byd i’n herbyn.


10
Dywaid di pa hyn (o Dduw Ion)
y gwna d’elynion warthrudd?
A rydd dy gâs ei gabledd fri
arnat ti yn dragywydd?

11
Paham y tynni’n ol dy law,
(sef dy ddeheulaw berffaith,
Hon sydd i’th fonwes) allan tynn,
a difa d’elyn diffaith.


12
Cans o’r dechreuad Duw ei hun
ydyw fy nghun a’m brenin,
Fe a wnâ iechwydwriaeth hir,
i bawb trwy’r tir a’i dilin.

13
Parthu a wnaethost di â’th nerth
y mor, a’i anferth donnau,
Gwahenaist, torraist, uwch y don,
bennau y blinion ddreigiau.


14
Drylliaist di ben, (nid gorchwyl gwan)
y Lefiathan anferth,
I’th bobl yn fwyd dodaist efo,
wrth dreiglo yn y diserth.

15
Holltaist y graig, tarddodd ffynnon,
ac aeth yn afon ffrwd-chwyrn:
A diysbyddaist yn dra sych
afonydd dyfr-grych cedyrn.


16
Di biau’r dydd, di biau’r nos,
golau a haul-dlos geinwedd:

17
Seiliaist y ddaiar, lluniaist hâf:
a gauaf o’th ogonedd.

18
Fy Arglwydd bellach cofia hyn,
i’r gelyn gynt dy gablu,
Ac i’r ynfydion roi drwg fri,
a’th enw di dirmygu.


19
Oes dy durtur na ddod a’r gawdd
dan nawdd anifail creulon,
Na âd o’th gof (o Arglwydd da)
dy dyrfa, y rhai tlodion.

20
Duw, edrych ar dy gyfammod,
a gwyl waelod y gwledydd:
Mae ym-mhob man drigfa dyn traws,
mae honynt liaws efrydd.


21
Na ddychweled y truan tlawd
mewn difrawd ac mewn gwradwydd,
Y dyn anghenus, llesg, a gwan,
a ddatcan dy enw: Arglwydd.

22
Cyfod, dadlau dy ddadl (o Dduw)
dy enw yw yn dragywydd:
Coffa gabledd, yr hon drwy’r byd
a gayt gan ynfyd beunydd.


23
Duw: nac anghofia lais a son
d’elynion y cenhedloedd,
Eu swn, a’i rhodres, a’i dadwrdd
a ddring i gwrdd â’r nefoedd.

75

1

Mawl i Dduw, a dangos y daw ef i farnu, er codi y cyfion a gostwng y drwg.

Clodforwn di (dragwyddol Dduw)
a’th enw yw yn agos.
Maint yw dy enw a’th nerth i’th hynt
dy wrthiau ynt iw ddangos.

2
Dwedaist, pan dderbyniwyf y llu
mi a rof farn gu ac union.

3
Fel y nerthais sylfeini’r byd
oedd rydd, a’i gyd-trigolion.


4
Minnau a ddwedais hyn o’m bryd
wrth y rhai ynfyd, peidiwch,
Wrth annuwiolion poethion chwyrn,
eich mebcyrn na dderchefwch,

5
Och: na dderchefwch chwi mo’ch cyrn,
na siglwch rychwyrn ragdal,
Ac na ddwedwch chwi yn warr-syth
nid rhaid yn’ fyth mo’r gofal.


6
Oherwydd, nid o’r dwyrain draw
i ddyn y daw derchafiad,
Nid o’r gorllewin, na’r deau,
y daw i chwithau godiad.

7
Cans ar law Duw y mae y farn,
na fid gwr cadarn rygry’,
Gostwng heddyw y naill heb pall,
a chodi’r llall y fory.


8
Cans yn llaw’r Arglwydd phiol sydd,
cymysgwin hyd wydd ynddi,
Tywalldodd hwn: drwg ddynion byd
yfant i gyd o honi.

9
Mynegaf finnau ac i’m cof,
ei gerdd (Duw Jagof) canaf:

10
Torraf gyrn yr annuwioliawn,
a phen y cyfiawn codaf.

76

1

Dangos gallu Duw, a’i ofal dros ei bobl. Cynghor i’r ffyddlon i fod yn ddiolchgar.

Yn Juda ac Israel dir
adweinir ein Duw cyfion.

2
Ei babell ef yn Salem sydd,
a’i breswylfydd yn Sion.

3
Yno drylliodd y bwa a’r saeth,
a’r frwydr a wnaeth yn ddarnau:
A thorrodd ef yn chwilfriw mân bob tarian,
a phob cleddau.


4
Trawsion fu cedyrn mynydd gynt,
mewn yspail helynt uchel:
Uwch a chryfach wyt na hwyntwy,
nid rhaid byth mwy mo’i gochel,

5
Pob cadarn galon a ymroes,
ac ni ddeffroes o’i gyntyn.
Pawb a ddiffrwythodd pan ddaeth braw,
ni chae un llaw ei dderbyn.


6
O’th waith (Duw Jagof) a’th amharch,
cerbyd a’r march rhoi’i huno.

7
Ofnadwy wyd pwy i’th lid wg,
a saif i’th olwg effro?

8
Pan ddaeth o’r nefoedd dy farn di,
yr wyd yn peri’ i chym’ryd,
Y ddaiar ofnodd, a’i holl llu,
rhoist i ostegu ennyd.


9
I farnu pan gyfododd Duw
i gadw yn fyw y gwirion:
A’r rhai oedd lonydd yn y tir,
yr oeddyn gywir galon.

10
Cans poethder dyn yw dy fawl di,
felly gostegi drallod:
Eu gwres, i’r da a fag gref ffydd,
i’r drwg a fydd yn ddyrnod.


11
Eich rhodd i’r Arglwydd Dduw addewch,
a llawn gwblhewch eich gobrwy,
Pawb sydd o amgylch Sion deg,
rhowch anrheg i’r ofnadwy.

12
Ef a ostyngodd uchel fryd,
ac yspryd gwyr rhyfelgar:
Fo a yrr ofn ynghanol hedd,
ar holl frenhinoedd daiar.

77

1

Dafydd yn cofio yr amryw brofedigaethau, a’r blinderau oedd arno: yn dangos mowredd Duw, ac yn ymgryfhau mewn ffydd.

Fy llais at Dduw, pan roddais lef,
fy llais o’r nef fo’i clybu:
A’m llais gweddiais ar Dduw Ner,
pan oedd blinder yn tarddu.

2
Y dydd y rhedai ’mriw, a’r nos
ni pheidiai achos llafur,
Mewn blin gyfyngder gwn fy mod,
a’m hoes yn gwrthod cysur.


3
Yna y cofiwn Dduw a’i glod,
pan syrthiai drallod enbyd:
Yna gweddiwn dros fy mai,
pan derfysgai fy yspryd.

4
Tra fawn yn effro, ac mewn sann,
heb allel allan ddwedyd,

5
Ystyriais yna’r dyddiau gynt,
a’r helynt hen o’r cynfyd.


6
Cofiwn fy ngherdd y nos fy hun,
heb gael amrantun, chwiliwn
A chalon effro, genau mud,
â’m hyspryd ymddiddanwn:

7
Ai’n dragywydd y cilia’r Ion?
a fydd ef bodlon mwyach?

8
A ddarfu byth ei nawdd a’i air?
a gair ei addaw bellach?

9

Anghofiodd Duw drugarhâu?

a ddarfu cau ei galon?
A baid efe byth (meddwn i)
fal hyn â sorri’n ddigllon?

10
Marwolaeth ym’ yw’r meddwl hwn:
a throis yn grwn i gofio
Ei fawr nerth gynt: cofio a wnaf,
waith y Goruchaf etto.


11
Cofiaf dy weithredoedd (f’Arglwydd)
a’th wrthiau hylwydd cofiaf,

12
Am bob rhyfeddod a phob gwaith,
â myfyr maith y traethaf.

13
O Dduw: pa Dduw sydd fal ti Dduw?
dy ffordd di yw’n sancteiddiol:

14
Dy waith dengys dy nerth i’r byd,
pair yn’ i gyd dy ganmol.


15
Dy nerth fawr hon a ro’ist ar led,
wrth wared yr hen bobloedd,
Jagof, a Joseph, a fu gaeth,
a’i holl hiliogaeth luoedd.

16
Y deifr gwelsant, ofnasant hyn,
a dychryn cyn eu symmud.

17
Cymylau dwfr cylch wybr yn gwau,
a mellt fal saethau enbyd.


18
Dy daran rhuodd fry’n y nen,
dy fellt gwnaent wybren olau,
Y ddaiar isod a gyffrodd,
ac a dychrynodd hithau.

19
Yn eigion mor mae y ffordd dau,
a’th lwybrau mewn deifr sugnedd,
Ac ni adweinir byth mo’th ol,
yn dy anfeidrol fowredd.


20
Dy bobloedd a dywysaist di
drwy anial ddrysni efrydd,
Gan law Moses, a’i frawd Aaron,
fel defaid gwirion llonydd.

78

1

Dangos ddarfod i Dduw ddethol ei eglwys o hâd Abraham annog y plant i gydnabod trugaredd Dduw, ac i gywilyddio dros aml ddrygau eu tadau; dangos gweithredoedd Duw.

Fy mhobl i gyd gwrandewch fy neddf,
a boed fy ngreddf i’ch calon,
Clust ymostyngwch a’m genau,
i ystyr geiriau ffyddlon.

2
Mewn diharebion, i barhau,
fy ngenau a egoraf:
A hen ddamhegion oedd ar hyd
y cynfyd a ddangosaf.


3
Y rhai a glywsom gynt eu bod,
ac ym yn gwybod hefyd,
Ac a fynedodd yn ddiau,
ein tadau er y cynfyd.

4
Heb gel mynegwn ninnau’n ffraeth,
hyn iw hiliogaeth hwythau:
Canmolwn Dduw i’r oes a ddel,
ei nerth a’i uchel wrthiau.


5
Felly gorchmynnodd ef fod cof,
yn Jagof: ac i’r hynaf
Yn Israel ddysgu iw blant,
ogoniant y Goruchaf.

6
Fel y gwypid o oes i oes,
y rhoes ef ei dystiolaeth:
O Dâd i fab, o fâb i wyr,
i gadw llwyr wybodaeth.


7
Gobeithio’n Nuw, cofio ei waith,
y sydd mal rhaith eneidiol:
I gael cadw ei orchymmyn,
rhoes Duw’r wers hyn yn rheidiol,

8
Rhag ofn mynd o’r genhedlaeth hyn
yn gyndyn ac anufydd:
A chalon wan, ac yspryd gwael,
heb afael gyda’i llywydd.


9
Eu tadau, fel plant Ephraim,
yn arfog lym er saethu,
Troesant eu cefnau yn y gâd,
ymroi a dadynylu.

10
Cyfammod Duw a wrthodent,
ni rodient yn ei Gyfraith,

11
Anghofio’i wyrth a welsent gynt,
a’i ddeddfau oeddynt berffaith.


12
Yn nhir yr Aipht: ym maes Zoan,
gwnaeth Duw gyflafan fwyfwy.

13
Rhoi dwfr y mor yn ddau dwfr crych,
a’r llawr yn sych i drammwy.

14
Y dydd mewn niwl, y nos a thân,
tywysai’n lân ei bobloedd:

15
Holldi’r creigiau a’i troi’n llynniau,
a llenwi ei lu a dyfroedd.


16
Er tynnu dwfr o’r garreg lâs,
er llithro’n loyw frâs ffrydau:

17
Yn yr anialwch digient Dduw,
chwanegent amryw feiau.

18
Yn y diffaithwch profent Dduw,
oes fwyd i fyw? meddylient:

19
A all Duw gael i’n ymma fwyd,
mewn cyfryw lochwyd? dwedent.


20
Er taro’r graig a rhedeg dwr,
yn ffrydau, cyflwr diball:
A eill efe roi i’n fara’ a chig,
i’n cadw yn ddiddig ddiwall?

21

Pan glybu Duw yr araith hon,

fel tân yn wreichion nynnodd,
Yn Iago ac yn Israel,
gan lid yn uchel digiodd.


22
A’i ddig oedd am na chredent hwy
i Dduw a’i fwyfwy fowredd,
Ac na welent pa iechyd oedd
yn ei weithredoedd rhyfedd.

23
Gorchymmyn wybren, a’i gwarhau,
egoryd drysau’r nefoedd:

24
A Manna’n fwyd, fel gwenith nef,
a lawiodd ef iw luoedd.


25
Rhoi i ddyn gael rhyw luniaeth da,
sef bara yr Angylion:

26
Gyrru rhyd wybren ddwyrain wynt,
gydâ’r deheuwynt nerthlon.

27
Fel y llwch y rhoes gig iw hel,
ac adar fel y tywod:

28
Ynghylch eu gwersyll a’i trigfydd,
y glawiai beunydd gawod.


29
Bwyta digon o wledd ddiwael,
a chael eu bwyd dymunol:

30
Ac heb ommedd dim ar eu blys,
nac mo’i hewyllys cnawdol.

31
A’i tameidiau hwy iw safnau,
(ys ofnwn y Goruchaf:)
Yn Israel lladdodd iw ddig
wyr etholedig brasaf.


32
Er hyn pechent, ac ni chredent,
iw iach radau rhyfedd:

33
Treuliodd Duw eu hoes hwy am hyn,
mewn dychryn ac oferedd.

34
Tra fyddai Duw yn eu lladd hwy,
os ceisient dramwy atto:
Os doent drwy hiraeth at ei râs,
yn forau glâs iw geisio.


35
Os cofient fod Duw iw holl hynt,
graig iddynt a gwaredydd:

36
(Er ceisio siommi Duw’n y daith,
â’i gweiniaith, ac â’i celwydd:

37
Er nad oedd eu calon yn iawn,
na ffyddlawn iw gyfammod:)

38
Er hyn trugarhaei Duw o’r nef,
a’i nodded ef oedd barod.

Rhag eu difa, o’i lid y troes,
ac ni chyffroes iw hartaith:

39
Cofiodd ddyn, os marw a wnai,
nas gallai ddychwyl eilwaith.

40
Pa sawl gwaith y cyffroesant hwy,
wrth fyned trwy’r anialwch?
Gan ddigio Duw a’i lwyr dristhau,
ynghreigiau y diffeithwch.


41
Troesant, profasant Dduw â’i chwant,
gan demptio Sanct yr Israel:

42
Anghofio eu cadw hwynt fal hyn,
rhag cael o’i casddyn afael.

43
Rhoesai’n yr Aipht arwydd o’i râs,
a’i wyrth yn ninas Zoan:

44
Y modd y troes eu dwfr yn waed,
ni chaed dim glan-ddwfr allan.


45
Rhoes Duw yngwlâd yr Aipht iw plau,
waed, gwybed, llau, a llyffaint:

46
Lindys, locust, i ddifa’i ffrwyth,
a chenllysg lwyth, a mallhaint.

47
Distrywiodd Duw eu hyd, gwellt,

48
Eu coedydd, a’i han’feiliaid: (gwydd)
A chenllysg cessair, mellt a roes,
bu wrth eu heinioes danbaid.


49
Rhoes arnynt bwys ei lid, a’i fâr,
ac ing anghreugar digllon:
Ffrwyth ei lidiowgrwydd ef, a’i wg,
anfonodd ddrwg angylion.

50
Rhyw ffordd a hon iw lid a droes,
heb ludd iw heinioes angau,
Ond dwyn eu bywyd hwy drwy haint,
yn ei ddigofaint yntau.


51
Yna y tarawdd un Duw Naf
y plant cyntaf anedig:
Yn nhir yr Aipht, a phebyll Cam,
sef am ei fod yn llawnddig.

52
Ond (gan droi at ei bobl yn hawdd,)
foi twysawdd drwy’r anialfan,
Fel arwain defaid, llwybrau pell,
yn wael ddiadell fechan.


53
Arweiniodd hwyntwy yn ddiofn,
drwy’r mor (ffordd ddofn) heb wlychu:
A’i goll elynion heb fwy stor,
fe wnaeth i’r mor eu llyngcu.

54
Rhoes hwy i etifeddu’n rhydd,
ym mynydd ei sancteiddrwydd:
Yr hwn a ddarfu ei warhau,
â llaw ddeau yr Arglwydd.


55
Rhoes ef y wlad i ddwyn pob ffrwyth
rhoes i bob llwyth ei gyfran
O Israel, ac yn eu plaid, rhoi’r hen drigoliain allan.

56
Er hyn temptient, a digient Dduw,
hwn unic yw sancteiddiol:
Ac ni fynnent mo’r ufuddhau,
iw dystiolaethau nefol.


57
Ond mynd ar gil, ac ymlaccau,
fel eu holl dadau twyll-naws:
Megis bwa a fai mewn câd,
ac yntho dafliad gwyrdraws.

58
Hwyntwy yn fynych a’i cyffroent,
mewn camwedd troent oddiwrtho
At wylfa nos, a delw o bren,
fal hyn y digien efo.


59
Ond y Gorucha’n gweled hyn,
a ddigiodd wrthyn hwythau:
Felly dirmygodd Israel,
a gadel ei ammodau.

60
Yna’r ymadawodd efo,
â chysegr Shilo dirion:
Ei bebyll a’i brif ysgol ddysg,
lle’ buasai’ mysg ei ddynion.


61
Ei nerth a roes i garchar caeth,
dan elyn daeth eu mowredd:

62
Ei bobl ei hun i’r cleddau llym’,
(fal dyna rym’ ei ’ddigedd:)

63
Ei wyr ieuainc fo’i rhoes i’r tân,
gweryfon glân rhoes heibio:

64
Ei offeiriaid i’r cleddyf glâs,
a’i weddw ni chafas wylo.


65
Yr Arglwydd gwedi hyn deffroe,
fal un a ddoe o gysgu:
Neu fal gwr cadarn wedi gwin,
yn erwin iw dychrynu.

66
Taflodd y gelyn yn ei ol,
rhoes mewn tragwyddol wradwydd,

67
Rhoes wyrion Joseph dan un pwyth,
ac Ephraim lwyth i dramgwydd.


68
Gwedi chwilio y rhai’n i gyd,
fo roes ei fryd ar Juda:
Ar fynydd Seion (ei dretâd)
o gariad iw breswylfa.

69
Yna yr adeiladodd ef
adeilad gref a howddgar,
Yn gysegr-lys byth i barhau,
fel hen seiliadau’r ddaiar.


70
Etholodd ef Ddafydd ei was,
yr hwn oedd ddiflas fugail:
Ac a’i dug ef i maes yn lân,
o’i gorlan a’i ddefeid-gail.

71
O borthi defaid mammau wyn,
iw ddwyn i borthi dynion:
Jagof, ac Israel, a’i plant,
dyna ei feddiant ffyddlon.


72
Yntau a’i porthodd hwynt yn ol
ei berffaith reiol galon:
Ac a’i trinodd hwy yn brydferth,
o nerth ei ddwylaw cyfion.

79

1

Achwyn rhag y dinistr a wnaethai Antiochus ar Deml Dduw a Jerusalem: a gofyn cymorth gan Dduw rhag ei orthrwm elynion.

Llawer cenedl (o Dduw) a ddaeth,
i’th etifeddiaeth unig:
Rhoed Caerselem a’i chyssegr hi,
yn garneddi o gerrig.

2
Rhoi cyrph dy weision,
wrth eu rhaid, i hediaid y ffurfafen:
I’nfeiliaid maes rhoi cig dy saint,
fel dyma fraint aflawen.


3
Fel ffrydau dwfr tywallt a wnaed,
eu gwaed o amglch dinas
Caerselem, heb roi corph mewn bedd,
fel dyma ddiwedd atgas.

4
Yn ddirmyg, gwradwydd, ac yn warth,
i bawb o’n pobparth ydym.

5
O Dduw pa hyd? wyd byth yn ddig?
ai fel tân ffyrnig poethlym?

6

Tywallt dy lid ar bobl estron,

rhai nid adwaenon m’onot:
Ac ar dyrnasoedd ni eilw,
(Duw) ar dy enw hynod.

7
Cans wyrion Jagof (bobl oedd gu)
y maent iw hysu’n rhyfedd:
Ac a wnaethant i’r rhei’ni fod
preswylfod anghyfannedd.


8
Na chofia’n camwedd gynt i’n hoes,
Duw bryssia moes drugaredd:
Dy nodded a’n rhagflaeno ni
sy’ mewn trueni’n gorwedd.

9
O Dduw ein iechyd cymorth ni,
er mwyn dy fri gogonol:
A gwared er mwyn dy enw tau,
ni rhag pechodau marwol.


10
Pan y gofynnant ple mae’n Duw,
dod arnynt amryw fformod:
I ddial gwaed dy ddwyfol blant,
ac yno cânt hwy wybod.

11
Duw, doed ochenaid ger dy fron
dy garcharorion rhygaeth:
Ac yn dy ddirfawr ogoniant,
ymddiffyn blant marwolaeth.


12
Ein cymdogion a’th gablodd di,
tâl i’r rhei’ni yn gwblol
Eu cabledd iw mynwesau’i hun,
o Arglwydd gun gorchestol.

13
Ninnau dy bobl a’th ddefaid mân,
a wnawn yt gân ogonawl,
O oes i oes byth i barhau,
ac i’th fawrhau’n dragwyddol.

80

1

Gweddi at Dduw dros yr Eglwys, ar iddo barhau ei ddaioni a dechreuasei ef ynthi.

Clyw di fugail i Israel,
sy’n arwain fel y defaid
Hil Jagof, a llewycha di,
a’ steddi ar Gerubiaid.

2
Fel y gwelo Ephraim hyn,
Beniamin a Manasses.
Cyfod, cymorth a gwared ni,
o’th fawr ddaioni cynnes.


3
Llewycha d’wyneb, dychwel ni,
Duw, di a’n cedwi’n gyflym:

4
Duw y lluoedd, clyw ein gweddi,
pa hyd y sorri wrthym?

5
Llewa’i bara, drwy wylo yn dost,
a wnaethost di i’r eiddod:
A rhoi iddynt ddagrau bob awr,
drwy fesur mawr yn ddiod.


6
Duw i’n gelynion o bob parth
rhoist ni yn warth i’n gwatwar:

7
Llewycha d’wyneb, dychwel ni,
felly i’n cedwi’n gynnar.

8
Dugost o’r Aipht winwydden ir,
rhoist iddi dir i dyfu:
A’r holl genhedloedd o bob man,
troist allan cyn ei phlannu.


9
Arloesaist y tir o’i blaen hi,
a pheraist iddi wreiddio:

10
Llanwodd, cuddiodd bob bryn a llawr
fel cedrwydd mawr yn brigo.

11
A’i hiraidd frig ystyn yr oedd
hyd foroedd ac afonydd:

12
Pam y rhwygaist gae’r fâth ber lwyn,
i bawb i ddwyn ei ffrwythydd?

Pawb ai heibio yn tynnu ei grawn,
pan oedd hi’n llawn ffrwyth arni:

13
A’r baedd o’r coed yn tirio’i llawr,
a’r bwystfil mawr iw phori.

14
O Dduw y lluoedd, edrych, gwyl,
a dychwel i ’mgleddu
Y winllan hon a blennaist di,
â’th law, a’i rhoddi ’dyfu.


15
Lle cadarnheist i ti dy hun,
dy brif blanhigyn dedwydd:

16
Llygrwyd â’r cledd, a’r tân yn faith,
a hyn o waith dy gerydd.

17
I gryfhau gwr dy ddehau law,
boed drostaw dy fraich nerthol,
Hwn a siccrheist i ti dy hun,
sef dros fab dyn dewisol.


18
Tros hwn tra rhoddych di dy law
oddiwrthaw ni ddychwelwn:
O Dduw, dadebra, bywha ni,
ar d’enw di y galwn.

19
A dadymchwel nyni i fyw,
o Arglwydd Dduw y lluoedd:
Tywynna arnom d’wyneb-pryd,
ni a gawn iechyd bythoedd.

81

1

Cyngor i foli Duw am ei ddaioni, ac i gydnabod â’n anniolchgarwch.

O cenwch fawl i Dduw ein nerth,
cerdd brydferth cenwch iddo:
A llafar lais, a genau ffraeth,
gerddwriaeth i Dduw Jago.

2
Cymerwch gathl y psallwyr lân,
a moeswch dympan hefyd:
A cheisiwch ganu gydâ hyn
y nabl a’r delyn hyfryd.


3
Cenwch udcyrn ar loer newydd,
y pryd sydd nodol iddo:

4
Sef deddf yw hon ar wyl uchel,
Duw Israel ac Jago.

5
Yn Joseph clymmodd hyn yn ddysg,
pan ddaeth o fysg yr Aiphtwyr:
Lle clywais iaith oedd ddieithr im’,
heb ddeall dim o’i hystyr.


6
Dwedodd fy Nuw: drwy nerth fy mraich
tynnais faich eich ysgwyddau:
Ac felly tynnais eich dwy law,
i’madaw a’r ffwrneisiau.

7
I’th flinder gelwaist arnaf fi,
gwaredais di sut yma:
Wrth lais taran fy mrhofiad oedd,
ynglan dyfroedd Meribba.


8
Fy mhobl Israel gwrando fi,
os ystyri yn ffyddlon:

9

Na fid ynot arall yn Dduw:

na chrymma’i gaudduw estron.

10
Myfi yr Arglwydd Dduw a’th ddug
o’r Aiphtir caddug allan:
Llanwaf dy fol heb ddiffyg dafn,
lleda dy safn yn llydan.


11
Ni choeliai Israel fy rhybudd,
ni fyddent ufudd ymy:

12
Gollyngais hwynt iw ffyrdd eu hyn,
iw cyngor cyndyn hynny.

13
Och na wrandawsai Israel,
gan rodio’n ffel fy llwybrau:

14
A phwys fy llaw llethaswn fron
eu holl elynion hwythau.


15
Caseion ein Duw, yn ei lid,
a ostyngesid iddaw.
Ac ef a roesai yn y tir
ammodau hir i’r eiddaw.

16
Ein Duw a roesai iddynt borth,
drwy frasder cymorth rhadol:
Rhoi mel o’r graig, rhoi llaeth yn flith,
a gwenith yn ddigonol.

82

1

Yn erbyn tuedd ac anghyfiownder barnwyr: a dymuno cyfiownder ar law Duw ei hun.

Holl farnwyr byd mae Duw’n eu mysg,
pe cymrent addysg gantho:
Duw yw ymysg y duwiau mân,
a’i farn sy lân heb wyro.

2
Pa hyd y rhoddwch farn ar dro,
gan bleidio gydâ’r trowsion?

3

I’r tlawd, ymddifad, rheidus trwch,

paham na fernwch union.


4
Gwrandewch chwi ar y gwan a’r gwael,
a’r tlawd heb gael mo’i gyfraid:
(Pan ddel y rhei’ni gar eich bron)
o ddwylo’r trowsion diriaid.

5
Gwyr heb wybod, heb ddeall chwaith,
sy’n rhodio taith tywyllni:
Ni syflent hwy, pe siglai ’nghyd,
yr hollfyd a’i sylfeini.


6
Dwedais mai duwiau ych yn siwr,
a phlant i’r Gwr goruchaf:
Er hyn mal dyn marw a wnewch,
un gwymp a gewch a’ch hynaf.

7
Duw cyfod, a dyro farn ar
y ddayar a’i thyrnasoedd:
8 Cans mawr yw d’etifeddiaeth, di
a feddi’r holl genhedloedd.

83

1

Plant Israel yn gweddio, ar i Dduw eu gwared rhag eu gelynion: ac iddo gosbi rhai drwg fel yr ofnent ef.

Na ostega, na thaw, na fydd
di lonydd Duw y lluoedd:

2
Wele, d’elynion yn cryfhau,
gan godi’ pennau i’r nefoedd.

3
Ymgyfrinachu dichell ynn’,
y lle mae ganthyn fwriad:
A dychymygu dilen brudd,
i ni sy’n ymgudd danad.


4
Dwedasant, dewch difethwn hwynt
na byddo honwynt genhedl:
Ac na bytho byth (meddant hwy)
am Israel mwy mor chwedl.

5
Ymgynghorasant bawb ynghyd,
ac yn un fryd i’th erbyn,

6
Edom, Ismael, Moab blaid,
a’r holl Hagariaid cyndyn.


7
Gebal: Ammon: Amalechiaid,
Philistiaid a gwyr Tirus:

8
Assur, yn gydfraich â phlant Lot,
fal dyna gnot maleisus.

9
Tâl dithau adref yn y man,
megis i Madian greulon,
I Sisera, ne’i Jabin swrth,
a laddwyd wrth lan Cizon.


10
Yn Endor gynt bu laddfa fawr,
ar hyd y llawr ar wasgar:
Gwna honynt hwythau laddfa ail,
a’i cyrph yn dail i’r ddaiar.

11
Gosod eu bonedd hwy fel Zeb,
ac Oreb yr un diwedd:
A'i tywysogion fel Zeba,
a Salmunna i orwedd.


12
Dwedent y mynnent yn eu byw
gysegrfa Duw i’w meddiant:

13
Fel troad rhod, neu wellt mewn gwynt,
Dyna yr hynt a gaffant.

14
Fal y llysg y tân bob pren crin,
a’r fflam yr eithin mynydd:

15
Felly â’th ’storm, ymlid hwy’n gynt
nâ dychryn corwynt efrydd.


16
Llanw eu tâl’ o warth a chwys,
ceisiant ar frys yr Arglwydd.

17
Ac yn dragwyddol iddynt bydd,
gywilydd, mefl, a gwradwydd.

18
Difether hwynt: gwyped dyn byw,
mai d’enw di yw Jehofah:
Ac mai ti unic Dduw sydd ar
y ddaiar yn oruchaf.

84

1

Dafydd yn hiraethu am Deml Dduw, ac am gynulleidfa y Sainct: a chlod y bobl a ymwelant â Sion.

Dy Babell di mor hyfryd yw!
(o Arglwydd byw y lluoedd)

2

Mynych chwenychais weled hon,

rhag mor dra-thirion ydoedd.
Mae f’enaid i (fy Ion) mewn blys,
i’th gyssegr lys dueddu:
Fy nghalon i, a’m holl gnawd yw,
yn Nuw byw’n gorfoleddu.


3
Aderyn y to cafodd dŷ,
a’r wennol fry iw chywion
Le wrth dy allor di iw trin,
fy Nuw a’m brenin tirion.

4
Gwyn ei fyd a drig yn dy dy,
caiff dy folianny ddigon:

5
Ac ynot ti sy’n cadarnhau,
a’th lwybrau yn eu calon.


6
Pe rhon a gorfod ar y rhai’n
rhyd glyn wylofain dramwy:
Gosodant ffynnon iddyn nhw,
a’r glaw a leinw fwyfwy.

7
Ant rhagddynt bawb o nerth i nerth,
nes cael yn brydferth ddyfod:
I’mddangos i Dduw gar ei fron,
yn Seion ei breswylfod.


8
Arglwydd Dduw y lluoedd, clyw fi,
a’m gweddi o Dduw Jagof:

9

Gwel wyneb d’eneiniog, a’i stâd,

Duw’n tarian nâd fi’n angof.

10
Gwell yw nâ mil, un dydd i’th dy,
am hynny mwy dewisol
Ym fod ar riniog y drws tau,
nâ phlasau yr annuwiol.


11
Sef, haul a tharian yw Duw mâd,
a rydd rad a gogoniant:
Ni lestair ef ddaioni maith,
i’r rhai a berffaith rodiant.

12
O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr,
anfon i lawr dy gymmod:
Dedwydd yw’r dyn a rotho’i gred,
a’i holl ymddiried ynod.

85

1

Er mwyn nad oedd Duw yn tynnu mo’i wialen oddiar ei Eglwys gwedi ei dyfod adref o Babel, maent hwy yn gyntaf iw goffau ef i orphen arnynt waith ei ras. Ac yn achwyn rhag eu hir gystudd, ac yn olaf, yn ymlawenychu yn eu gobaith o addewidion Duw.

Da wyd i’th dir (Jehouah Ner)
dychwelaist gaethder Jago:

2
Maddeuaist drowsedd dy bobl di,
mae’i camwedd wedi’i guddio.

3
Tynnaist dy lid oddiarnom ni,
troist dy ddiglloni awchlym:

4
(O Dduw ein nerth) tro ninnau’n well,
a’th lid bid bell oddiwrthym.


5
Ai byth y digi wrthym ni?
a sori di hyd ddiwedd?
A saif dy lid o oes i oes?
Duw gwrando, moes drugaredd.

6
Pam? oni throi di a’n bywhau,
a llawenhau yr eiddod?

7

O dangos in’ dy nawdd mewn pryd,

felly cawn iechyd ynod.


8
Beth a ddywaid Duw am danaf,
mi a wrandawaf hynny:
Fe draetha hedd iw bobl, a’i Sainct,
rhag troi ym mraint ynfydu.

9
I’r rhai a ofnant Arglwydd nef,
mae’i iechyd ef yn agos:
Felly y caiff gogoniant hir,
o fewn ein tir ni aros.


10
Ei drugaredd, a’i wirionedd,
ar unwaith cyfarfuant:
Ei uniondeb, a’i hedd ynghyd,
drwy’r tir a’mgydgusanant.

11
Gwirionedd o’r ddaiar a dardd,
uniondeb chwardd o’r nefoedd:

12
Duw a ddenfyn yn’ ddaioni,
a’n tir i roddi cnydoedd.


13
Uniondeb oedd o flaen Duw nef,
a’r cyfion ef aed rhagddo:
A Duw a rodia yn ei waith,
fel i’r un daith ac efo.

86

1

Dafydd yn gweddio ar Dduw am gymmorth, ac yn dymuno ar Dduw ei ddysgu ef. Ac y mae efe yn achwyn rhag ei elynion.

Gostwng o Arglwydd y glust dau,
clyw fy ngweddiau trymion:
Gwrando fi sy’ druan a thlawd,
o’th barawd drugareddion.

2
Cadw fy oes, gwr cynnwys wy’,
ac ytti’r ydwy’n credu:
Duw bydd achubwr da i’th wâs,
o’th râs dyrd i’m gwaredu.


3
Trugarha wrthif Arglwydd mâd,
cans arnad llefa’n ddibaid:

4
Einioes dy wâs Duw llawenhâ,
cans attad coda’ f’enaid:

5
Cans ti o Arglwydd ydwyd dda,
i’th bobloedd a thrugarog,
I’r rhai a alwant arnat ti,
mae dy ddaioni’n bleidiog.


6
O Arglwydd clyw fy llais mor llym,
a’m gweddi y’m myfyrdod:

7
Clywi fy llais, gweli fy nghlwyf,
y dydd y bwyf i’m trallod.

8
Ymysg y duwiau nid oes un,
fel dydi gun gogoned:
Ymysg gweithredoedd cymmain hun,
nid oes yr un un-weithred.


9
Y bobloedd oll a wnaethost (Ion)
o’th flaen don ac addolant:
A pha le bynnag ar y bont
i’th enw rhont ogoniant.

10
Cans tydi ydwyd fawr a phur
yn gwneuthur rhyfeddodau:
A thydi’n unig wyd yn Dduw,
ni cheisiwn amryw dduwiau.


11
Dysg imi dy ffordd (o Arglwydd)
câf rhwydd dy wirionedd:
Gwna fy nghalon yn un â thi,
ac ofnaf fi dy fawredd.

12
Fy Arglwydd Dduw moliannaf di
â holl egni fy nghalon:
Ac i’th fawr enw byth gan dant,
y rhof ogoniant cyson.


13
Cans mawr yw dy drugaredd di,
tu ac attaf fi yn barod,
Gwaredaist f’enaid i o’r bedd,
ac o’r gorddyfnedd isod.

14
Duw, daethant arnaf fi wyr beilch,
fel llu o weilch ewin-ddrud:
Ceisient ddwyn f’einioes o’r byd hwn,
i’w golwg gwn nad oeddud.


15
Ond tydi’n unig wyd hawddgâr,
a chlaear dy drugaredd,
Hwyr i’th lid ac i gymmod hawdd,
llawn o nawdd a gwirionedd.

16
O edrych arnaf, moes dy râs
i’th wâs y sydd i’th orllwyn:
Dod ym’ dy nerth, cadw fal hyn
fi, plentyn dy lawforwyn.


17
O Dduw dod o’th serch ym’ arwydd,
er gwradwydd i’m caseion:
Pan welant dy fod yn rhoi nerth
ym’, ac ymadferth ddigon.

87

1

Yr Yspryd glân yn prophwydo am ryddhâd yr eglwys a’r cysur sydd o fod yn un o honi.

Sailfeini hon (sef Sion) sydd,
ar gyssegr fynydd ucho’:

2
Ac ar dy byrth rhoes Duw ei serch,
uwch pob trig-lannerch Jaco.

3
O ddinas Duw, preswylfa’r Ion,
mawr ydyw’r son danad:
A gogoneddus air yt’ sydd,
uwch trigfennydd yr holl-wlad.


4
Rahab, Babel, a Phalestin,
a Thirus flin, a’r Mwriaid
A fu i’th blant elynion gynt,
mae rhai o honynt unblaid.

5
Ond dwedir hyn am Seion ber,
fo anwyd llawer ynthi,
Nid ymbell un: cans swccwr da
yw Duw gorucha’ iddi.


6
Fe rydd yr Arglwydd yn ei rif,
y neb fo cyfrif hono:
Efe a esyd hyn ar led
sef, hwn a aned yno.

7
Cantor tafod, a cherddor tant,
pob rhai yt’ canant fawr-glod
A thrwy lawenydd mae’n parhau,
fy holl ffynhonnau ynod.

88

1

Y ffyddloniaid yn eu cystudd yn galw ar Dduw drwy ffydd.

O Dduw fy Iechyd, nos a dydd,
mae ’ngweddi’n ufydd arnad,

2
Gostwng dy glust, o Arglwydd nef,
a doed fy llef hyd attad.

3
Cans mae fy enaid mewn dull caeth,
a’m heinioes aeth i’r beddrod:

4
Fel gwr marw y rhifwyd fi,
a’m nerth oedd wedi darfod.


5
Mor farw a rhai wedi eu llâdd,
a’i taflu ’nglhâdd mewn angof:
A laddyt di mor siwr a hyn,
na bai byth honyn atgof.

6
Gosodaist fi mewn dyfnder trwch,
ac mewn tywyllwch eithaf.

7
Rhoist bwys dy ddig ar y corph mau,
a’th holl for-donnau arnaf.


8
Pellheist fy holl gydnabod da,
r’wyf yn ffieidd-dra iddyn:
Ni chaf fi fyned at un câr,
yr wyf mewn carchar rhydyn.

9
Y mae fy ngolwg (gan dy lid)
mewn gofid o fawr gystydd.
Duw llefais arnad yn fy mraw,
gan godi ’nwylaw beunydd.


10
Ai i’r meirw dangosi wyrth?
a ddont i’th byrth i’th foli?

11
A draethir dy fawl yn y bedd,
a’th ni lân wirionedd heini?

12
Ai mewn tywyll y mae dy râd?
a’th iowndeb yng wlâd angof?

13
Fal hyn (Dduw) llefais arnat ti,
o clyw fy ngweddi etto.


14
Pam (o f’Arglwydd a’m Duw) i’m rhaid
y rhoi f’enaid ar wrthod?
Ac y cuddi dy wyneb pryd?
fy nghoel i gyd sydd ynod.

15
Truan ymron marwolaeth wyf,
mewn trymglwyf o’m ieuenctyd:
A'th ofni bum yn nychbeth gwael,
gan ammau cael mo’r iechyd.


16
Dy ddig a lifodd drosof fi,
d’ofn sydd i’m torri’n efrydd,
Fel deifr y daethant yn fy nghylch,
do, do, o’m hamgylch beunydd.

17
Ymhell oddiwrthyf rhoist bob câr,
pob cyfaill hygar heibio:
18 A’m holl gydnabod a fu gynt,
yr ydynt yn ymguddio.

89

1

Dafydd yn moli Duw am ei gyfamod, ac yn achwyn wacced oedd ei dyrnas: ac yn olaf y mae efe yn gweddio am ei wared o’i flinderau, ac yn dangos byrred oes dyn.

Myfyriaf gerdd byth i barhau,
o drugareddau’r Arglwydd:
A'i wirionedd i’m genau fydd,
hyd dragywydd yn ebrwydd.

2
Sef dwedais hyn: cair byth yn wir,
adeiledir trugaredd:
I barhau byth cair yn y nef
dy gadarn gref wirionedd.


3
Fal hyn (o Dduw) attebaist ym’,
mi a wneuthym rwym gan dyngu
I Ddafydd f’etholedig wâs,
a’r gair o’m grâs yn tarddu.

4
Fal hyn sicrhâf dy hâd di byth,
a gwnaf wehelyth drefniad.
I’th gadarn faingc o oed i oed,
mi a rof bob troed yn wastad.


5
Am hyn y sicrwyd trag’wyddawl:
y nef o fawl dy wyrthiau:
Yngorsedd sainct, ynghyrchfa hedd,
am bur wirionedd d’eiriau.

6
Pwy sydd cystal â’n harglwydd cu,
pe chwilid llu’r wybrennau?
Ymysg Angylion pwy mal Ion,
sef ymhlith meibion duwiau?

7

Drwy gynulleidfa ei Sainct ef,

Duw o’r nef sydd ofnadwy:
A thrwy’r holl fyd o’n hamgylch ni,
i ofni sydd ddyladwy.

8
Pwy sydd debig i ti Dduw byw,
o Arglwydd Dduw y lluoedd?
Yn gadarn Ior, a’th wir i’th gylch,
o amgylch yr holl nefoedd.


9
Ti a ostyngi y mor mawr,
a’r don hyd lawr yn ystig:

10
A nerth dy fraich curi dy gâs,
yr Aipht, fal gwâs lluddedig,

11
Eiddod nef a daiar i gyd,
seiliaist y byd a’i lanw:

12
Gogledd, deau, Tabor, Hermon,
sy dirion yn dy enw.


13
I’th fraich mae grym’, mae nerth i’th law,
a’th gref ddeheulaw codi:

14
Nawdd a barn yw dy orsedd hir,
a nawdd a gwir a geri.

15
Eu gwnfyd i’r holl bobl a fydd,
a fo’i llawenydd ynod:
Ac yn llewych dy wyneb glân
y rhodian i gyfarfod.


16
Yn d’unig enw di y cânt,
fawl a gogoniant beunydd.
Yn dy gyfiownder codi’ a wnânt,
ac felly byddant ddedwydd.

17
Cans ti wyd gryfder eu nerth hwy,
lle y caffent fwy o dycciant:
Dydi a ddarchefi eu cyrn,
ac felly cedyrn fyddant.


18
Cans o’r Arglwydd a’i ddaioni,
y daw i ni amddiffin:
O Sanct Israel drwy ei law,
oddiyno daw ein brenin.

19
I’th sanct y rhoist gynt wybodaeth,
drwy weledigaeth nefol:
Gosodais gymorth ar gryf gun,
derchefais un dewisol.


20
Cefais (eneiniais ef yn ol)
fy ngwâs dewisol Dafydd

21
Ag olew sanct: Braich a llaw gref,
rhoist gydag ef yn llywydd.

22
Ni chaiff gelyn ei orthrymmu,
na’i ddrygu un mab enwir:

23
O’i flaen y coetha’i elynion,
a’i holl gaseion dihir.


24
Fy ngwirionedd, a’m trugaredd,
rhof fi trwy gariad iddo,
Ac yn fy enw fi ’yn ddi orn,
dyrchefir ei gorn efo.

25
Gosodaf ei law ar y mor,
ac o’r goror bwygilydd:
A gosodaf ei law ddeau,
hyd terfynau’r afonydd.


26
Ef a weddia arnaf fi
iw galedi, gan ddwedyd,
Ti yw fy nhad fy Nuw, fy ngharn,
yn gadarn o’m ieuenctyd.

27
Minnau gwnaf yntau im yn fab,
yn gynfab ac etifedd:
Ar frenhinoedd y ddaiar las,
yn uwch ei ras a’i fowredd.


28
A chadwaf iddo (yr un wedd)
drugaredd yn dragwyddol:
A’m cyfammod iddo yn llawn,
yn ffyddlawn, ac yn nerthol.

29
Gosodaf hefyd byth i’w had,
nerth a mawrhâd uwch bydoedd
A’i orseddfainc ef i barhau,
un wedd a dyddiau’r nefoedd.


30
Ond os ei blant ef (drwy afrol)
nid ânt yn ol fy nghyfraith,
Os hwy ni rodiant, gan barhau,
i’m beirn a’m llwybrau perffaith,

31
Os fy neddfau a halogant,
ni chadwant fy holl eirchion,

32
Yna ymwelaf a’i cam gwrs,
â gwiail scwrs, neu goedffon.


33
Ond ni thorraf ag ef un nod,
o’m hammod a’m trugaredd:
Ac ni byddaf fi ddim yn ol,
o’m ystyriol wirionedd.

34
Ni thorraf fy nghyfammod glân,
a ddaeth allan o’m genau,
Ac ni newidiaf air o’m llw,
mi a rois hwnnw’n ddiau.


35
Yn fy sancteiddrwydd tyngais im’
na phallwn ddim i Ddafydd,

36
Bydd ei had a’i drwn, yn ddi draul
o’m blaen fel haul tragywydd.

37
Yn dragywydd y siccrheir ef,
fel cwrs (is nef) planedau
Haul neu leuad, felly y bydd
ei gwrs tragywydd yntau.


38
Ond ti a’n ffieiddiaist ar fyrr,
ac yn ddiystyr lidiog
Di a gyffroaist yn dra blin,
wrth dy frenin eneiniog.

39
Diddymaist di dy air i’th was,
a’th râs, a’th addewidion:
Ac a’i halogaist ef yn fawr,
gan daflu’i lawr ei goron.


40
A drylliaist ei fagwyrydd ef,
a’i gaer gref rhoi’st yn adwy.

41
Yn egored felly y mae
yn brae i bawb sy’n tramwy.

42
Iw gym’dogion gwarthrudd yw ef,
a than law gref ei elyn:
A llawen iawn y codent floedd,
bob rhai a oedd i’w erbyn.


43
Troist hefyd fin ei gleddau ef,
a’i law oedd gref a blygaist:

44
Darfu ei lendid ef a’i wawr,
a’i drŵn i’r llawr a fwriaist.

45
Pryd ei ieuenctyd heibio’r aeth,
a thi a’i gwnaeth cyn fyrred:
A bwriaist drosto wradwydd mawr,
o nen hyd lawr y torred.


46
Pa hyd fy Nuw y byddi’ nghudd?
ai byth, fy llywydd nefol?
A lysg dy lid ti fel y tân
yn gyfan yn dragwyddol?

47
O cofia f’oes ei bod yn fyrr,
ai’n ofer gynt y gwnaethost
Holl blant dynion? o dal dy law,
ac yn’ ni ddaw yn rhydost.


48
Pa wr y sydd a’i oes dan sel,
na ddel marwolaeth atto?
Pwy a all ddiangc, ac ni ddaw
y caib a’r rhaw i’w guddio?

49
O mae dy nodded Arglwydd gynt:
mae helynt dy drugaredd:
Mae dy lw, o ystyriol ffydd,
i Ddafydd i’th wirionedd?

50

Cofia Arglwydd yn wradwydd llym’

lle’r ydym ni, dy weision.
Yr hwn a dawdd i’m monwes i,
gan ffrost y Cowri mowrion.

51
Yr hwn warth ’r oedd d’elynion di
yt’ yn ei roddi’n eidiog,
(Fy Arglwydd Dduw) a’r un fyrrhâd
i droediad dy eneiniog.


52
Moler yr Arglwydd byth: Amen,
a byth Amen, hyd fytho.
Moler yr Arglwydd byth: Amen,
a byth Amen, hyd fytho.

90

1

Moesen wrth weled y bobl heb ystyried dim o ddaioni Duw, na’i gosb, yn gweddio ar Dduw a’m droi eu calonau hwy o’i drugaredd.

Duw! buost in’ yn Arglwydd da,
ac yn breswylfa i drigo,
O bryd i bryd, felly yr aeth
pob rhyw genhedlaeth heibio.

2
Er cyn rhoi sail y mynydd mawr,
cyn llunio llawr cwmpas-fyd,
Duw! o dragwyddol wyd cyn neb,
hyd dragwyddoldeb hefyd.


3
Weithiau i ddinistr y troi ni,
troi dithau wedi’n rhydda:
A dwedi cyn ein mynd i’r llwch,
dychwelwch meibion Adda.

4
Cans dec can mlynedd fel doe ynt,
pan elo’i helynt heibio,
O’th flaen di, megis gwylfa nos,
ni chaiff ymddangos etto.


5
Nid yw dyn ond fel hun,
neu ail i addail, neu lifeiriant.
Neu megis glâs lysieun gwan,
mor fuan y newidiant.

6
Yr hwn y borau gwyrddlas fydd,
a gwawr o newydd arno:
Ond pan y torrer er brydnawn,
yn fuan iawn mae’n gwywo.


7
Cans yn dy lid difethwyd ni
gan ofni dy ddigofaint,

8
Rhoist di ein beiau gar dy fron,
a’n holl ddirgelion dryghaint:

9

Cans drwy dy ddig mae’n dyddiau ni,

a’n tegwch gwedi darfod:
A’n holl flynyddoedd ynt ar ben,
fel gorphen hen chwedl gorfod.


10
Ein holl flynyddoedd yw saith ddeg,
dau pump chwaneg os bydd grym:
Yna ein nerth ai’n boen blin iawn,
i ffordd yr awn yn gyflym.

11
Ond pwy a edwyn nerth dy lid?
mawr ofid sydd o’th sorri:
Sef fel y mae dy ofn di’n fawr,
dy ddig sydd ddirfawr inni.


12
Dysg felly’n rifo’n dyddiau gwael,
i’n calon gael doethineb.

13
Duw ba hyd? dyrd a dod yn hawdd
i’th weision nawdd ac undeb.

14
Yn forau iawn diwalla ni
â’th fawr ddaioni eisoes,
Fel y caffom ni lawen fyd
yn hyfryd dros yn heinioes.


15
Gwna ni yn llawen, buom brudd
ban oedd yn’ gystudd dybryd:
A chwedi llawer blwyddyn drom,
y rhai y cowsom adfyd.

16
O Dduw, gwna weled dy fawr waith,
a’th wrthiau maith i’th weision:
A’th odidowgrwydd, a’th ffyniant,
ymysg eu plant a’i hwyrion.


17
Arnom ni doed rhâd Duw a’i nerth dda,
i allu prydferth weithiaw,
Duw dod ein gwaith mewn trefnid
Duw trefna waith ein dwylaw.

91

1

Dyma sicrhâd o ddedwyddwch y dyn a fo yn rhoi ei hyder ar Dduw rhag pob profedigaeth. Addewid Duw i’r rhai a’i hofnant ac a’i carant ef, o ddiogelrwydd a gogoniant tragwyddol.

Y sawl a drigo, doed yn nes,
yn lloches y Goruchaf,
Ef a ymerys i gael bod
ynghysgod hwn sydd bennaf.

2
Fy holl ymddiffyn wyd a’m llwydd,
wrth fy Arglwydd y dwedaf:
A’m holl ymddiried tra fwy fyw
sydd yn fy Nuw Goruchaf.


3
Cans ef a weryd yr oes dau,
oddiwrth faglau yr heliwr:
A hefyd oddiwrth bla, a haint,
echrysaint, ac anghyflwr.

4
Ei esgyll drosod ef a rydd,
dan ei adenydd byddi
Yn ddiogel: a’i wiredd gred
fydd gylch a bwccled itti.


5
Ni ddychryni er twrf y nos,
na’r dydd o achos hedsaeth.

6
Er haint, neu blâ mewn tywyll fydd,
neu hanner dydd marwolaeth.

7
Wrth dy ystlys y cwympa mil,
a dengmil o’th law ddeau:
Ac ni ddaw drwg yn dy gyfyl,
a thi a’i gwyl yn ddiau.


8
A’th lygaid y gweli di dâl
i’r enwir gwammal anian.

9
Sef fy holl obaith wyd (o Dduw)
ac uchel yw dy drigfan.

10
Ni ddigwydd niwed yt’, ond da,
na phla, na dim’ echrydon,
I’th Eglwys a’th gynlleidfa nawdd,

11
cans archawdd iw Angylion.

I’th ffyrdd dy gadw, a’th gynllwyn,
a’th ddwyn â’i dwylaw hardd-deg,

12
Rhag digwydd yt ddrwg (hyd yn oed)
taro dy droed wrth garreg.

13
Dy sangfa fydd ar y llew dig,
a’r asp wenwynig sethri:
Ar greulon genau’r llew o’r graig,
ac ar y ddraig y sengi.


14
Mi a’i gwaredaf ef rhag brâd,
am roi ei gariad arnaf:
Am adnabod fy enw mau,
yn ddiau y derchafaf.

15
Geilw arnaf, mi’ ai gwrandawaf,
mewn ing y byddaf barod,
Gwaredaf hefyd rhag ei gâs,
a chaiff drwy urddas fowrglod.


16
Fo gaiff fyw yn ddigon o hyd,
caiff yn y byd hir ddyddiau.
Dangosaf iddo radlawn faeth,
a’m iechydwriaeth innau.

92

1

Psalm i gynhyrfu y bobl i gydnabod ac i foliannu Duw yn ei weithredoedd. Diwedd disymwth yr enwir: a dedwyddwch y cyfion yn cael moli Duw yn ei Deml.

Moliannu’r Arglwydd da iawn yw,

a chyfarch Duw yn bennaf:
A chanu i’th enw di fawl,
a’th ganmawl (y Goruchaf.)

2

Y borau am dy drugaredd,

a’th wirionedd son y nos,

3
Ar ddectant, nabyl, a thelyn,
myfyrio hyn a’i ddangos.


4
Sef drwy dy weithred llawen wyf,
ynnyn nwyf yn fy Nuw Naf:
Yngwaith dy ddwylaw fy Nuw Ior,
beunydd y gorfoleddaf.

5
Dy weithredoedd ond mawrion ynt?

6

Dy helynt nis gwyr anghall:

Dy feddyliau o ddyfn iawn fryd,
hyn nis gwyr ynfyd ddeall.


7
Pan flodeuo yr enwir ddyn,
megis llyseuyn iraidd,
Pan fo drygweilch yn gref eu plaid,
Duw yno rhaid eu diwraidd.
Y drwg flagur uchel yr ânt,
a hwy a syrthiant beunydd:

8
Tithau yr Arglwydd yn ddigel,
wyt uchel yn dragywydd.


9
O Arglwydd wele d’elynion,
dy gaseion difethir:
A holl weithredwyr trais a cham,
yn ddinam a wasgerir.

10
Tydi a dderchefi fy nghorn,
fel yr unicorn perffaith.
Hefyd â gwerthfawr olew ir,
i’m taenellir i eilwaith.


11
Fy llygaid a welant hefyd,
fy ngwynfyd o’m gelynion.
A’m clustiau a glywant ar frys
f’ewyllys am ddrwg ddynion.

12
Y cyfion blodeua i’r nen,
fal y balmwydden union,
Cynnyddu yn iraidd y bydd,
fel cedrwydd yn Libanon.


13
Y rhai a blannwyd yn nhy Dduw,
yn goedwyrdd byw y tyfant,
Ac ynghynteddau ein Duw ni
y rhei’ni a flodeuant.

14
A dwyn eu ffrwyth a wnant o faint,
yn amser henaint etto,
Tirfion, iraidd, a phrofadwy
a fyddant hwy yn hilio.


15
I ddangos nad traws, ac nad cam
yw f’Arglwydd a’m cadernyd,
Ac nad oes yntho na chamwedd,
na dim anwiredd hefyd.

93

1

Moliant i allu Duw: yn erbyn y bobl a wrthwynebant awdwrdod.

Teyrnasu y mae yr Arglwydd,
mewn ardderchowgrwydd gwisgodd:
Ymwisgodd f’Arglwydd yn brydferth,
a nerth yr ymwregysodd.

2
Fe a sicrhâodd sail y byd
heb syflyd, yn ddihareb.
Dy faingc erioed a ddarparwyd,
ti wyd er tragwyddoldeb.


3
Y llifeiriaint, (fy Arglwydd) faint
y llifeiriaint yn codi,
Tyrfau a llif yn rhwygo’r llawr,
a thonnau mawr yn coethi.

4
Cadarn yw tonnau y moroedd,
gan dyrfau dyfroedd lawer.

Cadarnach yw yr Arglwydd mau,
yn nhyrau yr uchelder.

5
Dy dystiolaethau ynt siwr iawn:
sef cyfiawn yw sancteiddrwydd:
A gweddus yn dy dy di fydd,
byth yn dragywydd f’Arglwydd.

94

1

Gweddi at Dduw yn erbyn y gorthrymwyr, a chysur i’r gorthrymedig.

O Arglwydd Dduw,
Duw mawr ei rym, dialwyr llym pob traha,
O Dduw y nerth, ti biau’r tâl,
a’r dial, ymddisgleiria.

2
Ymddercha di farnwyr y byd,
a thâl i gyd eu gobrwy,
I’r beilchion a’r trahaus dod,
y tâl a fo dyladwy.


3
Ba hyd? (o Arglwydd) o ba hyd,
y chwardd gwyr byd drygionus?

4
Yr ymfalchiant yn eu drwg,
gan fygwth amlwg ffrostus?

5
A’th bobl di (Arglwydd) a faeddant,
a chystuddiant dy dretâd,

6
Y weddw, a’r dieithr a laddant,
lliasant yr amddifad.


7
Dwedasant hyn heb geisio cel,
ein gwaith ni wel yr Arglwydd,
Ac ni ddeall Duw Jago hyn,
ynny ni ddisgyn aflwydd.

8
Ymysg y bobloedd difraw don,
ystyriwch ddynion angall,
Chwithau ynfydion, o ba bryd
y rhowch eich bryd ar ddeall?

9

Hwn a wnaeth y glust i bob byw,

oni chlyw ef yn amlwg?
Ac oni wyl hwnnw yn hawdd
a luniawdd i ni olwg?

10
Oni cherydda hwnnw chwi
sy’n cosbi pob cenhedlaeth?
Ac oni wyr hwnnw y sy’n
dysgu i ddyn wybodaeth?


11
Gwyr yr Arglwydd feddyliau dyn
mai gwagedd ydyn diffaith,

12
Duw, dedwydd yw a gosbech di,
a’i fforddi yn dy gyfraith:

13
Yr hon a ddysg i ddyn warhau,
i fwrw dyddiau dihir,
Tra foer yn darparu y clawdd,
y fan y bawdd yr enwir.


14
Cans ein Ior ni ei bobl ni âd,
a’i wir dretâd ni wrthyd,

15
Ef at iawn farn a gadarnhâ,
a phob dyn da a’i dilyd.

16
Pwy a gyfyd gyda myfi,
yn erbyn egni trowsedd?
Pa rai a safant ar fy nhu
yn erbyn llu anwiredd?


17
Oni bai fod Duw imi yn borth,
ac estyn cymorth imi,
Braidd fu na ddaethai ym’ y loes
a roesai f’oes i dewi.

18
Pan fawn yn cwyno dan drymhau,
rhag bod i’m camrau lithro.
Fy Arglwydd, o’th drugaredd drud,
di a’m cynhelud yno.


19
Pan fo ynof’ amlaf yn gwau,
bob rhyw feddyliau trymion,
Doe dy ddiddanwch di ar dro,
i gysuro fy nghalon.

20
A oes gyfeillach i ti Dduw,
a maint yr annuwolion?
Hwn a lunia enwiredd maith
yn lle y gyfraith union.


21
Y rhai sy’n ymdyrru ynghyd,
ar fryd dwyn oes y cyfion:
Ac yn eu cyngor yr ymwnaed
i geisio gwaed y gwirion.

22
Ond yr unic Ior sydd er hyn,
yn llwyr amdiffyn f’enaid:
Efe yw fy nerth o’m hol a’m blaen,
a seilfaen fy ymddiriaid.


23
Efe a dâl i bob dyn drwg,
yn amlwg am ei gamwedd:
Y maleisus tyn Duw o’r byd,
am ei chwyd o enwiredd.

95

1

Y mae’n annog i foli Duw am lywodraethu y byd, a dewis yr eglwys: ac i ochel cyfeilorni ein tadau, y rhai am demptio Duw, ni chawsant ddyfod i dir y bywyd.

O dowch a chanwn i’r Arglwydd,
efe yw llwydd ein bywyd:
Ac ymlawenhawn yn ei nerth,
ef yw ein prydferth iechyd.

2
O down yn un-fryd gar ei fron,
â chalon bur ddiolchgar:
Bryssiwn at Dduw dan lawenhau,
a chanwn psalmau’n llafar.


3
Herwydd yr Arglwydd nef a llawr,
y sy Dduw mawr yn ddiau:
Tywysog mawr yw ef mewn trin,
a brenin yr holl dduwiau.

4
Efe biau holl ddaiar gron,
a’r dyfnder eigion danaw:
Uchelder hefyd, eithafoedd,
mynyddoedd sydd yn eiddaw.


5
Ef biau’r moroedd uwch pob traeth,
ac ef a’i gwnaeth i ruo:
Ei ddwylaw ffurfiasant yn wir
y sych-dir ac sydd yntho.

6
O dowch, addolwn, cyd-ymgrymmwn,
ac ymostyngwn iddaw:
Ef yw ein Arglwydd un-ben rhi’,
ef a’n gwnaeth ni â’i ddwylaw.


7
Cans ef i ni y sydd Dduw da,
a phobl ei borfa ydym:
A'i ddefaid ym, os chwi a glyw
ei air ef heddyw’n gyflym.

8
Meddyliwch fod eich bai ar lled,
na fyddwch galed galon:
Fel yn nydd prawf, mewn anial dir,
lle y cofir bod ymryson.


9
Y lle temtiodd eich tadau fi,
a’m profi i’m adnabod:
Faint ydoedd y gweithredoedd mau,
yn ddiau cawsant wybod.

10
Dros ddeugain mlynedd â’r llin hon
drwy fawr ymryson, dwedais,
Pobloedd ynt cyfeiliornus iawn,
a’i calon yn llawn malais.

Cans nid awaenent y ffyrdd mau,
onid amlhau eu tuchan:

11
Wrthynt i’m llid y tyngais hyn,
na ddelyn i’m gorphwysfan.

96

1

Cyngor i bob cenhedlaeth i foli Duw am ei drugaredd.

O cenwch glod i’r Arglwydd mâd,
a moeswch ganiad newydd:
Yr holl ddaiar dadcenwch fawl,
yr Arglwydd nefawl beunydd.

2
Cenwch chwi glod i’r Arglwydd nef,
a’i enw ef bendigwch:
A’i iechydwriaeth drwy grefydd,
o ddydd i ddydd cyhoeddwch.


3
Datcenwch byth ei glod a’i râd,
yngwlad y cenhedlaethoedd:
A’i ryfeddodau ef ym mhlith,
pob amryw, amrith bobloedd.

4
Cans ein Arglwydd ni sydd Dduw mawr,
a rhagawr camoladwy:
Uwch yr holl dduwiau y mae ef,
yn frenin nef ofnadwy.


5
Duwiau y bobl eulynnod ynt,
ni ellynt mwy na chysgod:
A’n Duw ni a wnaeth nef a llawr,
fal dyna ragawr gormod.

6
Cans mawr ydyw gogoniant nef,
ac o’i flaen ef mae harddwch,
Yn ei gyssegr ef y mae nerth,
a phrydferth yw’r hyfrydwch.


7
Chwi dylwythau y bobloedd, trowch,
yn llawen rhowch i’r Arglwydd,
I’r Arglwydd rhowch ogonedd fry,
a nerth, a hynny’n ebrwydd.

8
Rhowch ogoniant iw enw ef,
yr Arglwydd nef byth bythoedd:
A bwyd offrwm iddo a rowch,
a chwi dowch iw gynteddoedd.


9
Addolwch f’Arglwydd gar ei fron
iw gyssegr, digon gweddol:
A’r ddaiar rhagddo, hyd, a lled,
dychryned yn aruthrol.

10
I’r holl genhedloedd dwedwch hyn
yr Arglwydd sy’n tyrnasu:
Nid ysgog y byd sy’n sicr iawn,
ef a wyr uniawn farnu.


11
O llawenhaed nefolaidd do,
i’r ddaiar bo gorfoledd:
Rhued y mor a’i donnau llawn,
a’r pysg sy’ mewn ei annedd.

12
A gorfoledded y maes glâs,
ei dwf, a’i addas ffyniant:
A phob pren gwyrdd sydd yn y coed,
i’r Arglwydd rhoed ogoniant.


13
Am ei ddyfod, am ei ddyfod,
a’i farn sydd hynod iownwedd:
Barna yn gyfion yr holl fyd,
a’r bobl, â’i gyd-wirionedd.

97

1

Dafydd yn cynghori pawb i lawenychu am ddyfod teyrnas Christ, yn ofnadwy i’r anwir, ac yn llawenydd i’r cyfion.

Yr Arglwydd ydyw ein pen rhaith,
bo perffaith y ddaiaren:
Ynysoedd cedyrn yr holl fyd,
bont hwy i gyd yn llawen.

2
Niwl a thywyllwch sy iw gylch ef,
hyfrydwch nef gyfannedd:
Iawnder a barn ydynt yn sail,
ac adail maingc ei orsedd.


3
Tân â o’i flaen ef, ac a lysg
ym mysg ei holl elynion:

4
A’i fellt yn fflamio trwy’r holl fyd,
oedd olwg enbyd ddigon.

5
O flaen Duw, fel y tawdd y cwyr,
y bryniau’n llwyr a doddent:
O flaen hwn (sef yr Arglwydd) ar
y ddaiar y diflannent.


6
Yr holl nefoedd yn dra hysbys
a ddengys ei gyfiownedd:
A’r holl genhedloedd a welsant
ei fawr ogoniant rhyfedd.

7
Gwradwydd i’r rhai a wasnaethan
y delwau mân cerfiedig:
Addolwch ef (nid aulun cau)
holl dduwiau darfodedig.


8
Dy farnedigaeth (o Dduw Ion)
a glybu Sion ddedwydd:
Merched Juda (o herwydd hyn)
sy’n ynnyn o lawennydd.

9
Cans ti (o Arglwydd) yw fy Naf,
oruchaf dros y ddaiar:
Rhagorol yw’r derchafiad tau
uwchlaw’r holl dduwiau twyllgar.


10
Pob drygioni chwi a gasewch,
caru a wnewch yr Arglwydd,
Hwn sydd yn cadw oes ei Sainct,
i’w dwyn o ddrygfraint afrwydd.

11
Mewn daiar yr egina’i hâd,
goleuad daw i’r cyfion,
Yn ol tristwch fo dry y rhod,
i lân gydwybod union.


12
Yn yr Arglwydd, o’r achos hon,
chwi gyfion llawenychwch,
Drwy goffa ei sancteiddrwydd ef,
â llais hyd nef moliennwch.

98

1

Annog pob creadur i foli Duw, am ei allu, a’i drugaredd, a ffyddlondeb ei gyfammod ynghrist, drwy’r hwn y mae ein cadwedigaeth ni.

Cenwch i’r Arglwydd newydd gân,
ei waith fu lân ryfeddod:
Ei law ddeau a’i fraich a wnaeth,
i’n iechydwriaeth parod.

2
Yr Arglwydd hysbys in’ y gwnaeth
ei iechydwriaeth gyhoedd:
A’i gyfiownder ef yn dra hawdd
datguddiawdd i’r cenhedloedd.


3
Fe gofiodd ei drugaredd hir,
a’i wir i dy Israel,
Fel y gwelodd terfynau’r byd
ei iechyd yn ddiymgel.

4
I’r Arglwydd â chaniad llafar,
chwi yr holl ddaiar cenwch:
A llafar lais, ac eglur lef,
fry hyd y nef y lleisiwch.


5
Cenwch i’r Arglwydd Dduw fal hyn
â’r delyn, a chywirdant:
A chydâ’r delyn lais a thon,
rhowch iddo gyson foliant.

6
Canu yn llafar ac yn rhwydd,
o flaen yr Arglwydd Frenin:
Ar yr udgyrn, a’r chwŷthgyrn pres,
fel dyna gyffes ddibrin.


7
A rhued y mor mawr i gyd,
a’r byd, ac oll sydd ynthynt,

8
Y llifddyfroedd, a’r mynyddoedd,
y mae yn addas iddynt.

9
Curant, canant, o flaen Duw cu,
yr hwn sy’n barnu’r bydoedd.
I’r byd y rhydd ei farn yn iawn,
ac yn uniawn i’r bobloedd.

99

1

Mawl teyrnas Chris, dros yr Iddewon a’r cenhedloedd: gan eu hannog i foli ac i wasanaethu Duw, ac i weddio arno.

Yr Arglwydd Dduw yw ein brenin,
er maint yw trin y bobloedd:
Mae’n eistedd rhwng dau gerubyn,
fe gryn’ pob daiar leoedd.

2
Canys brenin mawr ydyw’r Ion
yn Seion o’i dderchafel:
Ac uwchlaw pobloedd yr holl fyd,
y sydd o rydyd uchel.


3
Cydfoliannant o’r nef i’r llawr,
dy enw mawr rhagorol:
Ofnadwy, sanctaidd, yw i’w drin.

4
Tithau (o frenin nerthol)
A geri farn, darperi iawn:
yn gyfiawn heb draws-osgo:
A barnedigaeth bur ddidost,
a wnaethost di yn Jago’.


5
Derchefwch yr Arglwydd ein Duw,
sef sanctaidd yw i’w fawredd:
Ymgrymmwch o flaen ei stol draed,
felly parhaed ei fowledd.

6
Moses, ac Aaron sanctaidd blaid,
ymhlith offeiriaid gyrrodd:
Samuel galwai ei enw ef,
yntau o’r nef attebodd.


7
Mewn colofn o niwl y bu wiw,
gan Dduw lefaru wrthynt,
Tra fuant hwy yn cadw ei fodd,
a’r ddeddf a roddodd iddynt.

8
Gwrandewaist arnynt, dodaist ged,
a’i harbed, gan ymattal:
Duw ein Nâf, dy nawdd parod fu,
a hwythau’n haeddu dial.


9
Derchefwch ein Duw Ior am hyn,
yn Seion fryn cyssegraidd,
Ymgrymmwch iddo yn eich byw,
sef unig Dduw sydd sanctaidd.

100

1

Mae yn cynghori pob dyn i wasanaethu yr Arglwydd, ac i fyned iw gynnulleidfa i’w foli.

I’r Arglwydd cenwch lafar glod,
a gwnewch ufydd-dod llawen fryd,

2
Dowch o flaen Duw a pheraidd don,
trigolion y ddaear i gyd.


3
Gwybyddwch mai’r Arglwydd sydd Dduw,
a’n gwnaeth ni’n fyw fel hyn i fod,
Nid ni’n hunain, ei bobl ym ni,
a defaid rhi’ ei borfa a’i nod.


4
O ewch i’w byrth a diolch brau,
yn ei gynteddau molwch ef,
Bendithiwch enw Duw hynod,
rhowch iddo glod drwy lafar lef.

5
Cans da yw’r Arglwydd, awdur hedd,
da ei drugaredd a di lyth:
A’i wirionedd ini a roes,
o oes, i oes, a bery byth.

101

1

Dafydd yn dangos trefn a rheol ei dy: sef gyrru ymaith y rhai drwg, ac yn mawrygu y da.

Datcanaf drugaredd a barn,
i’r Arglwydd cadarn canaf.

2
Byddaf ddeallus mewn ffordd wych,
hyd oni ddelych attaf.
A rhodiaf yn fy nhy yn rhwydd,
a thrwy berffeithrwydd calon.

3
Pob peth drwg sydd gennif yn gâs,
a childyn ddyrras ddynion.


4
Calon gyndyn ynof ni bydd,
drwg weithydd ni ’dnabyddaf.

5
Sclandrwr dirgel, a’r balch uchel
o’r achos ni oddefaf.

6
Ar ffyddloniaid mae ’ngolwg i,
fe lyn y rhei’ni wrthy’:

7
A’r hwn a rodio mewn ffordd dda,
hwn a wasnaetha ymmy.


8
Ni chaiff aros o fewn fy nhy,
un dyn ac sy dwyllodrus,
Yn fy ngolwg un dyn ni bydd,
a lunio gelwydd trefnus.

9
Holl annuwiolion fy ngwlâd faith,
yn forau ymaith torraf:
Fel da ddelont i ddinas Dduw,
y cyfryw a ddiwreiddiaf.

102

1

Gweddi y ffyddloniaid yn amser caethiwed Babel.

O Arglwydd, erglyw fy ngweddi,
a doed fy nghri hyd attad:

2
Na chudd d’wyneb mewn ing tra fwyf,
clyw, clyw, pan alwyf arnad.

3
Fy nyddiau aethant fel y mwg,
sef cynddrwg im cystuddiwyd:
Fy esgyrn poethant achos hyn,
fal tewyn ar yr aelwyd.


4
Fy nghalon trawyd â chryn iâs,
ac fel y gwelltglas gwywodd:
Fel yr anghofiais fwyta ’mwyd
dirmygwyd fi yn ormodd.

5
Glynodd fy esgyrn wrth fy nghroen,
gan faint fy mhoen a’m tuchan.

6
Fel un o’r anialwch, lle y trig
y pelig, neu’r dylluan.


7
Neu fel un o adar y to,
a fai yn gwilio ’i fywyd,
Yn rhodio ’n unic ben y ty:
wyf anhy ac anhyfryd.

8
Fy ngelynion â thafod rhydd,
hwy beunydd a’m difenwant:
A than ynfydu yn ei gwyn,
i’m herbyn y tyngasant.


9
Fel llwch a lludw yn fy mhla,
fu’r bara a fwyteais:
Yr un wedd yn y ddiod fau
fy nagrau a gymysgais.

10
A hyn fu o’th ddigofaint di,
am yt’ fy nghodi unwaith:
Ac herwydd bod dy ddig yn fawr,
i’r llawr i’m teflaist eilwaith.


11
Fy nyddiau troesant ar y rhod,
ac fel y cysgod ciliant:
A minnau a wywais achos hyn,
fel y glaswelltyn methiant.

12
Ond tydi Dduw, fy Arglwydd da,
a barhei yn dragwyddol,
O oes i oes dy enw a aeth
mewn coffadwriaeth grasol.


13
O cyfod bellach trugarhâ,
o Dduw bydd dda wrth Sion:
Mae’n fadws wrthi drugarhau,
fel dyma’r nodau’n union:

14
Cans hoff iawn gan dy weision di,
ei meini a’i magwyrau,
Maent yn tosturio wrth ei llwch,
a’i thristwch, a’i thrallodau.


15
Yno yr holl genhedloedd byw
yr Arglwydd Dduw a ofnant:
A’r holl frenhionedd trwy y byd,
a ront yt gyd-ogoniant.

16
Pan adeileder Sion wych,
a hon yn ddrych i’r gwledydd:
Pan weler gwaith yr Arglwydd ne’,
y molir e’n dragywydd.

17
Edrychodd hwn ar weddi’r gwael,
rhoes iddynt gael ei harchau:

18
Scrifennir hyn: a’r oes yn ol
a gaiff ei ganmol yntau.


19
Cans Duw edrychodd o’r nef fry,
ar ei gyssegrdy, Sion:

20
Clybu ei griddfan, er rhyddhau
plant angau ’i garcharorion.

21
Fel y cydleisient hwy ar gân,
yn Seion lân, ei foliant:
Ac ynghaer-Salem yr un wedd,
ei fowredd a’i ogoniant.


22
Hyn fydd pan gasglo pawb ynghyd,
yn unfryd iw foliannu:
A’r holl dyrnasoedd dont yngwydd
yr Arglwydd, iw wasnaethu.

23
Duw ar y ffordd lleihâdd fy nerth,
byrrhâdd fy mrhydferth ddyddiau:
A mi’n disgwyl rhyddhâd ar gais,

24
yno y dywedais innau.

O Dduw na thorr fy oes yn frau,
ynghanol dyddiau f’oedran:
Dy flynyddoedd di sydd erioed,
o oed i oed y byddan.

25
Di yn y dechrau dodaist sail,
odd’ isod adail daiar:
A chwmpas wybren uwch ein llaw,
yw gwaith dy ddwylaw hawddgar.


26
Darfyddant hwy, parhei di byth,
treuliant fel llyth trwssiadau.

27
Troi hwynt fel gwisg, llygru a wnant,
felly newidiant hwythau:
Tithau Arglwydd, yr un wyt ti,
a’th flwyddau ni ddarfyddant.

28
Holl blant dy weision gar dy fron,
a’i hwyrion a bresswyliant.

103

1

Y mae’n cynghori pob creadur i foli yr Arglwydd am ei aneirif drugareddau, a’i ymwared i’r ffydloniaid.

Fy enaid mawl sanct Duw yr Ion,
a chwbl o’m eigion ynof.

2
Fy enaid n’âd fawl f’Arglwydd nef,
na’i ddoniau ef yn angof.

3
Yr hwn sy’n maddau dy holl ddrwg,
yr hwn a’th ddwg o’th lesgedd:

4
Yr hwn a weryd d’oes yn llon,
drwy goron a’i drugaredd.


5
Hwn a ddiwalla d’enau di
â’i lawn ddaioni pybyr:
Drwy adnewyddu yt’ dy nerth,
mor brydferth a’r hen eryr.

6
Yr Ion cyfiawnder, barn a wnai
i’r rhai sydd orthrymedig.

7
Dangos a wnaeth ei brif-ffyrdd hen
i Foesen yn nodedig:

Ac i Israel ei holl ddawn.

8
Duw llawn yw o drugaredd:
Hwyr yw ei lid, parod ei râd,
fal dyna gariad rhyfedd.

9
Nid ymryson ef â ni byth,
nid beunydd chwyth digofaint,

10
Nid yn ol ein drygau y gwnai
â ni: ni’n cosbai cymmaint.


11
Cyhyd ac yw’r ffurfafen fawr
oddi ar y llawr o uchder,
Cymaint i’r rhai a’i hofnant ef,
sydd nawdd Duw nef bob amser.

12
Os pell yw’r dwyrain olau hin
oddiwrth orllewin fachlud:
Cyn belled ein holl bechod llym,
oddiwrthym ef a’i symmud.


13
Ac fel y bydd nawdd,
serch, a chwant
tâd da iw blant naturiol,
Felly cawn serch ein tâd o’r nef,
os ofnwn ef yn dduwiol.

14
Efe a’n hedwyn ni yn llwyr,
fe wyr mai llwch yw’n defnydd:

15
Oes dyn fel gwellt-glas sy’n teghau,
neu ddail, neu flodau maesydd.


16
Yr hwn, cyn gynted ac y del
y gwynt â’i awel drosodd:
A chwythir ymaith felly o’i le,
na wyddis ple y tyfodd.

17
Ond graslawn drugaredd a fydd,
yn lân dragywydd feddiant,
O oes i oes heb drangc, heb drai,
gan Dduw i’r rhai ai’ hofnant.


18
A’i gyfiownder i blant y plant
a gadwant ei gyfammod:
O chofiant ei orchmynion ef,
mae tyrnas nef yn barod.

19
Yno y mae ei orseddfa ef,
sef yn y nef tragwyddol:
A llywio y mae ef bob peth,
drwy ei frenhinieth nefol.


20
Bendithiwch chwi yr Arglwydd Ion,
angylion, a’i holl gedyrn.
Ei lân orchymmyn ef a wnewch,
a’i lais gwrandewch yn drachwyrn.

21
Bendithiwch chwi yr Arglwydd ner,
ei luoedd tyner tirion.
Ei wyllys gwnewch, canlynwch wir,
chwychwi ei gywir weision.


22
Bendithiwch chwi yr Arglwydd nef,
ei hollwaith ef sy hylwydd:
Ymmhob mân oll o’i drefn a’i hawl,
O f’enaid mawl di’r Arglwydd.

104

1

Diolch am wneuthuriad, a llywodraethiad y byd, drwy ryfedd ragluniaeth Duw.

Fy enaid mola’r Arglwydd byw,
o f’Arglwydd Dduw y mawredd,
Mawr wyt, gogoniant a gai di,
ymwisgi ag anrhydedd.

2
Megis ei ddillad y gwisg fo
am dano y goleuad:
Rhydd yn ei gylch yr wybr ar dân,
yn llydan, fel llen wastad.


3
Ar ddeifr rhoes sail ei stefyll cau,
gwnaeth y cymylau iddo
Yn drwn olwynog: mae ei hynt
uwch esgyll gwynt yn rhodio.

4
Gwnaeth bob chwythad iddo’n gennad,
gogonedd y ffurfafen:
A'i weinidogion o fflam dân,
a wibian rhyd yr wybren.


5
Cref y rhoes sail y ddaiar gron,
fel na syfl hon oddiyno:
Yr hon a bery fel y rhoes,
o oes i oes, heb siglo.

6
Tydi (Dduw) a ddilledaist hon
â’r eigion yn fantellau,
Ac oni bai dy ddehau law,
ai’r deifr uwchlaw y bryniau.


7
Gan dy gerydd maent hwy yn ffo,
fel pan y synio taran:
Drwy fraw a brys ar hyd y ddol,
y deifr iw hol a lithran.

8
Weithiau y codai’r deifr yn fryn:
weithiau fel glyn panhylent,
Lle y trefnaist iddynt bannwl cau,
ac weithiau y gorphwysent.


9
Gosodaist derfyn lle yr arhont,
ac fel nad elont drosto:
Ac na ddelont hwy fyth dros lawr
y ddaiar fawr, iw chuddio.

10
Rhoes Duw ffynnon i bob afon,
a phawb a yfant beunydd:
A rhed y ffrydau rhyd y glynn,
a rhwng pob bryn a’i gilydd.


11
Yfant yno anfeiliaid maes,
assynnod myng-laes gwylltion,
Heb ymadael a llawr y nant,
hyd onid yfant ddigon.

12
Ac adar awyr dont gar llaw,
i leisiaw rhwng y coedydd:
Yn canu ei fawl o bren i bren,
cethlyddiaeth lawen ufydd.


13
Dwfr ar fynyddoedd lle ni ddaw,
fo wlych â glaw oddiarno:
A’r gwastad tir efe a’i gwlych,
bob grwn a rhych i ffrwytho.

14
Parodd i’r gwellt dyfu wrth raid
anifeiliaid: a’r llysiau,
Er da i ddyn: Lle rhoes o’r llawr,
ymborthiant mawr rhag angau.


15
A gwin llawena calon dyn,
ag olew tywyn wyneb.
A bara nerthir calon gwr,
mewn cyflwr digonoldeb.

16
Preniau’r Arglwydd o sugn llawn,
o’i unic ddawn y tyfan.
Sef y coed cedrwydd brigog mawr,
a roes e’n llawr y Liban.


17
Lle y mae nythod yr adar mân,
mewn preniau glân cadeir-ir:
Lle mewn ffynnidwydd glwyswydd glyn,
mae ty’r aderyn trwynhir.

18
Y mynydd uchel a’r bryn glâs,
yw llwybr y danas fychod:
Ogof y doll-graig a wna les,
yn lloches i’r cwningod.


19
Fe roes i’r lleuad i chwrs clau,
a’i chyfnewidiau hefyd:
A’r haul o amgylch y byd crwn,
fo edwyn hwn ei fachlyd.

20
Tywyllwch nos a roed wrth raid,
i fwystfiliaid y coedydd.

21
Y llewod rhuant am gael maeth
gan Dduw, ysclyfaeth bennydd.


22
A chwedi cael yr ymborth hyn,
pan ddel haul attyn unwaith,
Ymgasglant hwy i fynd iw ffau,
ac iw llochesau eilwaith.

23
Y pryd hwn cyfyd dyn iw waith,
ac iw orchwyliaith esgyd:
Ac felly yr erys tan yr hwyr,
lle y caiff yn llwyr ei fywyd.


24
O Dduw, mor rhyfedd yw dy waith
o’th synwyr berffaith dradoeth!
Gwnaethost bob peth â doethder dawn,
a’r tir sy lawn o’th gyfoeth.

25
A’r llydan for, y deifr ymmysg,
lle aml yw pysc yn llemmain:
Lle yr ymlusgant, rif yr od,
bwystfilod mawr a bychain.


26
Yno yr â llongau glân
dros y Leuiathan heibo.
Yr hwn a osodaist di, lle y mae
yn cael ei chwrae yntho.

27
Hwynt oll disgwiliant yn ei bryd
am gael oddiwrthyd borthiant:
I gael dy rodd ymgasglu ynghyd,
ie am ei bywyd byddant.


28
Duw, pan agorech di dy law,
oddi yno daw daioni:
Pob anifail a phob rhyw beth,
a ddaw yn ddifeth ini.

29
Pan guddiech di dy wyneb pryd,
a chasglu d’yspryd allan,
Crynant, trengant, ac ant iw llwch,
mewn diwedd trwch a thwrstan.


30
Duw, pan ollyngech di dy râd,
fel rhoddi cread newydd,
Y modd hyn wyneb yr holl dir
a adnewyddir beunydd.

31
Yr Arglwydd gogoneddus fydd
drwy fawr lawenydd bythoedd.
Yr Arglwydd yn ddiau a fedd,
orfoledd yn y nefoedd.


32
Ein Duw o’r nef a edrych ar
y ddayar, a hi a dychryn.
Os cyffwrdd a’r mynyddoedd draw,
y mwg a ddaw o honyn.

33
Canaf i’r Arglwydd yn fy myw,
canaf i’m Duw tra fythwyf:

34
Mi a lawenhaf yn fy Ion,
bydd ffyddlon hyn a wnelwyf.


35
Y trawsion oll o’r tir ânt hwy,
ni bydd mwy annuwiolion.
Fy enaid mola Duw yn rhodd:
mae hyn wrth fodd fy nghalon.

105

1

Mae fe yn canmol daioni Duw, am ei dewis hwy yn bobl iddo, gan wneuthur iddynt ddaioni er mwyn ei addewid.

Clodfored pawb yr Arglwydd nef,
ar ei enw ef y gelwch:
A’i weithredoedd ymmysc pobloedd
yn gyhoedd a fynegwch.

2
Cenwch ei gerdd, clodforwch hwn,
a’i ddidwn ryfeddodau.

3
Y rhai a gais ei enw, (y Sant)
llawenant yn eu c’lonnau.


4
Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth mawr,
a’i fodd bob awr yn rhadlon,

5
Cofiwch ei holl ryfeddodau,
a barn ei enau cyfion.

6
O hâd Abraham ei wâs fo,
o feibion Jaco’r ethol:

7
Ef yw’n Duw, a’i farn ef aeth
dros holl diriogaeth fydol.


8
Bob amser cofiodd ei gyn-grair,
ei air, a’i rwym ammodau

9
Ag Abraham, Isaac, a’i hil,
a mil o genedlaethau.

10
Fe roes i Jaco hyn yn ddeddf,
ac yn rwym greddf dragwyddol.

11
Ac i Israel y rhoes lân
wlâd Canan yn gartrefol.


12
Pan oedd yn anaml iawn eu plaid,
a hwy’n ddieithriaid ynddi:

13
Ac yn rhodio o’r wlâd i’r llall,
yn dioddef gwall a chyni:

14
Llesteiriodd iddynt gam yn dynn:
o’r achos hyn brenhinoedd
A geryddodd ef yn eu plaid:
a’i air a gaid yn gyhoedd.


15
A’m eneiniog na chyffyrddwch:
na ddrygwch fy mrhophwydi.

16
Galwodd am newyn ar y tir,
yn wir dug fara ’honi.

17
O flaen ei blant y gyrrodd râs,
Joseph yn wâs a werthwyd.

18
Ar ei draed y rhoed hayarn tynn,
mewn gefyn y cystuddiwyd.


19
Gwisgodd y gefyn hyd y byw,
nes i air Duw amseru:
Drwy Dduw y cafas ef ryddhâd,
a phrifiad er ei garu.

20
Yna y gyrrwyd iw gyrchu fo
gar bron hen Pharo frenin:
Ac y gollyngwyd ef ar lled,
o’i gam gaethiwed ryflin.


21
O hyn ei osod ef a wnaeth
yn bennaeth ar ei deuly,
Ac o’i holl gyfoeth ef a’i wlâd,
ys da fawr-hâd oedd hynny,

22
I ddyscu’i reolwyr ei lys,
ei ’wllys a’i foddlondeb:
I fforddio henuriaid y wlâd,
yn wastad mewb doethineb.


23
Daeth Israel i’r Aipht tir Cham,
lle’r oedd yn ddinam estron:

24
Lle llwyddodd Duw hil Jaco bach
yn amlach nâ’i caseion.

25
Yna y troes ei calon gau,
i lwyr gasau ei bobloedd:
Iw weision ef i wneuthur twyll,
a llid (nid amwyll) ydoedd.


26
Duw gyrrodd Foesen i was hen,
ac Aron llen dewisol.

27
Yn nhir Ham i arwyddoccau
ei nerth a’i wrthiau nodol.

28
Rhoes Duw dywyllwch dros y wlâd,
er hyn ni châd ufydd-dod.

29
Eu dyfroedd oll a droed yn waed,
a lladd a waned eu pysgod.


30
Iw tir rhoes lyffaint, heidiau hyll,
yn stefyll ei brenhinoedd:

31
Daeth ar ei air wybed a llau,
yn holl fannau eu tiroedd.

32
Fe lawiodd arnynt genllysc mân,
a’i tir â than a ysodd:

33
Eu gwinwydd a’i ffigyswydd mâd,
a choed y wlâd a ddrylliodd.


34
Ceiliog rhedyn, a lindys brwd,
yn difa cnwd eu meusydd,

35
Uwchlaw rhif, drwy yd, gwellt, a gwair,
a hyn drwy air Duw ddofydd.

36
Cyntaf-anedig pob pen llwyth,
a’i blaenffrwyth ef a drawodd:
Ym hob mân drwy holl dir ei gâs,
a’i bobl o’i râs a gadwodd:


37
Ar a’i dug hwynt yn rhydd mewn hedd,
o’winedd eu caseion,
Heb fod ohonynt un yn wan,
ac aur ac arian ddigon.

38
A llawen fu gan wyr y wlad,
o’r Aipht pan gâd eu gwared.
Daeth arnynt arfwyd y llaw gref
a ddaeth o’r nef i wared.


39
Rhoes Duw y dydd gwmwl uwchben,
fel mantell wen y toodd:
A’r nos goleuodd hwynt â thân,
fal hyn yn lân y twysodd.

40
Fo a roes iddynt ar y gair
gig sofli-air iw bodloni:
A bara, o’i orchymmyn ef,
a ddaeth o’r nef iw porthi.


41
Holltodd y graig, death deifr yn llif,
fel be baent brif afonydd:
Cerddodd yr hedlif, a rhoes wlych
rhyd pob lle sych o’r gwledydd.

42
Cofio a wnaeth ei air a’i râs,
i Abram ei wâs ffyddlon.

43
A thrwy fawr nerth yn rhydd o gaeth
y gwnaeth ei ddewisolion.

44
Tir y cenhedloedd iddynt rhoes,
a’i llafur troes iw meddiant:

45
Er cadw ei air a’i gyfraith ef,
rhowch hyd y nef ei foliant.

106

1

Y bobl (wedi i tanu dan Antiochus) yn datcan daioni Duw i’r edifeiriol, ac yn dymuno ar Dduw eu casglu ynghyd, er mwyn ei enw.

Molwch yr Arglwydd, cans da yw,
moliennwch Dduw y llywydd:
Oblegyd ei drugaredd fry
a bery yn dragywydd.

2
Yr Arglwydd pwy all draethu ei nerth
a’i holl dirionferth foliant?

3

A wnel gyfiownder gwyn eu byd,

ei farn i gyd a gadwant.


4
O Arglwydd, cofia fi dy wâs,
yn ol dy râs i’r eiddod:
Ymwel â mi i’m cystudd caeth,
â’th iechydwriaeth barod.

5
Fel y gwelwyf, ac y chwarddwyf,
wych urddas d’etifeddaeth.
Ac y cydganwyf fawl un don,
a’th ddewisolion odiaeth.


6
Pechod, camwedd, ac annoethedd,
gwnaethom gyda’n tadau:
Ef a gaed arnom ormod gwall,
heb ddeall dy fawr wyrthiau.

7
Yng wlâd yr Aipht wrth y mor coch,
yn gyndyn groch anufydd:
Heb gofio amled fu dy râs
haeddasom atgas gerydd.


8
Etto er mwyn ei enw ei hun,
Duw cun a ddaeth i’n gwared:
I beri i’r byd gydnabod hyn,
ei fod ef cyn gadarned.

9
Y dyfnfor coch a’i ddyfrllyd wlych,
a wnaeth e’n sych â’i gerydd:
Trwy ddyfnder eigion aent ar frys,
fel mynd rhyd ystlys mynydd.


10
Fel hyn y dug hwynt trwodd draw,
o ddwylaw eu caseion:
Ac y tywysodd ef ei blant
o feddiant eu gelynion.

11
Y deifr a guddiodd yr Aipht ryw,
nid oedd un byw heb foddi:

12
Yna y credent iw air ef,
a’i gerdd hyd nef ai’n wisgi.


13
Er hyn, tros gof mewn amser byrr,
y rhoent ei bybyr wrthiau:
Heb sefyll wrth air un Duw Ior,
na’i gyngor, na’i ammodau.

14
Ond cododd arnynt chwant a blys,
yn nyrys yr anialwch:
Gan demptio Duw â rheibus fol,
ynghanol y diffeithwch.


15
Rhoes iddynt lenwi ei holl flys,
rhoes an-nhycciannys aflwydd.

16
Lle digient Foses wrth eu chwant,
ac Aron Sant yr Arglwydd:

17
Egorai’r ddayar yn y man,
a llyngcai Ddathan ddybryd:
Ac a gynhullodd i’r un llam,
holl lu Abiram hefyd.


18
Ac yn ei ddig enynnodd tân,
yn fuan yn eu canol:
Llosgi y rhai’n, eu terfyn fu,
yn ulw, y llu annulwion.

19
Yn Horeb gwnaethant dawdd-lun llo
ac iddo ymgrymmasant:

20
I lun llo a borai wellt mân,
y troesan eu gogoniant.


21
Anghofient wrthiau Duw ar hynt,
(a fuasai gynt achubwr.)

22

Yng wlâd yr Aipht, mor coch, tir Ham,

heb feddwl am eu cyflwr.

23
Dwedodd mai eu difetha wnai
oni bai i’w was Moesen
Drwy sefyll o’i blaen iw lid maith
droi ymaith eu drwg ddilen.


24
Dirmygent hwy y prydferth dir,
ac iw air gwir ni chredent:

25
Ond yn eu pebyll grwgnach tro,
ac arno ni wrandawent.

26
Yno y derchafodd Duw ei law,
iw cwympiaw drwy’r anialwch:

27
Rhyd tiroedd a phobloedd anghu,
iw tanu mewn diffyrwch.


28
A Baal Peor aent ynghyd,
ymgredu i gyd ag efo:
Ebyrth y meirwon a fwytent,
a Duw a roddent heibio.

29
Fal hyn digiasant f’Arglwydd Dduw
â chyfryw goeg ddychmygion:
Yntau anfonodd bla’n eu mysg,
fal dyma derfysg greulon.


30
Yna cyfododd Phinehes,
mewn cyfiawn wres i ddial:
A phan roes hwn ei farn yn dda,
Duw ar y pla rhoes attal.

31
A chyfrifwyd y weithred hon,
yn weithred gyfion yntho,
O oes i oes (drwy air Duw Ion)
pan ddelai son amdano.


32
Ac wrth lan dwfr Meribbah gynt,
yno ’y cyffroynt gynnen,
Lle’y digient Dduw â’i crasder ffraeth,
am hyn bu’n waeth i Foesen.

33
Wrth gythruddo yspryd y Sanct,
hwy a barasant hefyd
Iw enau draethu gair ar fai,
ar na pherthynai’i ddwedyd.


34
Ni laddent chwaith bobloedd y wlâd
wrth archiad Duw y lluoedd,

35
Ond ymgymyscu â hwynt yn gu,
a dysgu eu gweithredoedd.

36
Gwasanaethu eu duwiau gau,
y rhai fu faglau iddyn.

37
Aberthu eu plant, yn fâb, yn ferch,
o serch i’r cythraul eulyn.


38
A thywalltasant wirion waed,
dan draed gau-dduwiau Canaan.
Y tir (wrth aberthu eu plant)
gwaed llygrasant weithian.

39
Felly o’i gweithredoedd eu hun,
yn un ymhalogasant.
Putteinio wrth ei cwrs a’i bryd,
ac felly cyd-lygrasant.


40
Wrthynt enynnodd Duw mewn dig
am hyn â ffyrnig gyffro.
Câs a ffiaidd felly yr aeth
ei etifeddiaeth gantho.

41
O’r achos hyn eu rhoddi a wnaeth
dan bob cenhedlaeth gyndyn,
Mewn cyflwr câs dan estron blaid,
a’i câs yn feistraid arnyn.


42
Eu gelynion aethant yn ffrom,
a’i llaw fu drom a ffyrnig,
Felly y darostyngwyd hwy,
a mwyfwy fu eu dirmig.

43
Mynych-waredodd Duw ei blant,
hwy a’i digiasant yntau
A’i cwrs eu hyn: daeth cystudd hir
am waith eu henwir feiau.


44
Pan welai arnyn ing na thrais,
fo glywai llais eu gweddi,

45
Gan gofio’i air troi nawdd a wnaeth
o’i helaeth fawr ddaioni.

46
A throi yn drugarog a wnaeth,
y gwyr yn gaeth a’i cludynt,
Y rhai y buasai’n fawr eu câs:
cael mwy cwmwynas ganthynt.


47
Achub innau o blith y rhai’n,
i arwain d’enw hyglod,
O Arglwydd Dduw, cymell ni’n gu
i orfoleddu ynod.

48
Duw Israel bendigaid fydd,
yn dragywydd Jehoua:
A dweded yr holl bobl Amen,
molwch Dduw llen gorucha’.

107

1

Dafydd yn cynghori y rhai a gasglodd, ac a waredodd Duw i ddiolch iddo. Yr hwn (gan roi daioni i’r cyfion) sydd yn cau safn yr enwir.

Molwch yr Arglwydd, cans da yw,
moliennwch Dduw ein llywydd,
Oblegid ei drugaredd fry
a bery yn dragywydd.

2
Y gwaredigion canent fawl,
i Dduw gerdd nodawl gyson:
Y sawl a’ achubwyd, caned hyn,
o law y gelyn creulon.


3
A gasglodd o bedwar-ban byd,
dowch chwi i gyd-ganeuau.
O dir y dwyrain dowch mewn hedd,
gorllewin, gogledd, deau.

4
Drwy yr anialwch, wyrdraws hynt,
y buasent gynt yn crwydro
Allan o’r ffordd: heb dref na llan,
lle caent hwy fan i drigo.


5
Drwy newyn, syched bu’r daith hon,
a’i calon ar lewygu:

6
Ar Dduw y galwent y pryd hyn,
pan oeddyn ymron trengu.
Yna eu gwared hwynt a wnaeth,
o’i holl orthrym-gaeth foddion.

7
Rhyd yr iawn ffordd fe’i dug mewn hedd,
i dref gyfannedd dirion.


8
Addefant hwythau gar ei fron,
ei swynion drugareddau:
Ac er plant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau:

9

Ddiwallu honaw einioes dyn,

rhag newyn a rhag syched:
Ac o’i fawr râs eu cadw i gyd,
pan oedd y byd yn galed.


10
Y rhai mewn tywyllwch a drig,
ynghysgod llewig angau,
Yn rhwym mewn nychdod, ac mewn bâr,
a heyrn ar eu sodlau.

11
A hyn o herwydd iddynt fod,
mewn anufydd-dod eithaf:
A llwyr ddirmygu gair Duw Ior,
a chyngor y Goruchaf.


12
A thrymder calon cwympiwyd hwy,
nid oedd neb mwy a’i cododd.

13
Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,
ac yntef a’i gwaredodd.

14
Ef a’i gwaredodd hwynt o’i drwg,
sef o dywyllwg caeth-glud,
O gysgod angau eu rhyddhau,
a thorri eu rhwymau hefud.


15
Addefent hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau,
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.

16
Cans y pyrth pres torrodd yn chwyrn
a’r barriau heyrn hefyd:

17
Am eu bai a’i camwedd yn wir,
y poenir y rhai ynfyd.


18
A hwynt yn laru ar bob bwyd,
fe’i dygwyd at byrth angau.

19
Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,
achubodd ef hwynt hwythau,

20
Gan yrru ei air iw iachau,
ac iw rhyddhau yn fuan:
A hwynt â’i air tynnu a wnaeth
o’i methedigaeth allan.


21
Addefant hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau:
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.

22
Aberthant hefyd aberth mawl,
iw ogoneddawl fawredd:
A mynegant ei waith a’i wyrth,
yn ei byrth mewn gorfoledd.


23
Y rhai ânt mewn llongau i’r don,
a’i taith uwch mawrion ddyfroedd,

24
A welsant ryfeddodau’r Ion,
a hyn mewn eigion moroedd.

25
A’i air cyffroe dymestloedd gwynt,
y rhai’n a godynt donnau

26
Hyd awyr fry, hyd eigion llawr,
ac ofn bob awr rhag angau.


27
Gan ysgwyd a phendroi, fal hyn,
dull meddwyn, synnai arnynt.

28
Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,
daeth ef a chymorth iddynt.

29
Gwnaeth e’r ystorm yn dawel deg,
a’r tonnau’n osteg gwastad.

30
Yn llawen ddistaw doen i’r lan,
i’r man y bai’i dymuniad.


31
Cyffesent hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau,
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.

32
Holl gynulleidfa ei bobl ef,
clod Duw hyd nef dyrchafant:
Holl eisteddfeydd pennaethiaid hen,
yn llawen a’i moliannant.


33
Y ffrydau’n ddyrys dir a wnâi,
fe sychai ddwfr lle tarddo.

34
A thir ffrwythlawn a wnâi’n ddiffrwyth,
lle trig drwg dylwyth yntho.

35
Troes yr anialwch yn llyn glâs,
a’r tir cras yn ffynhonnydd.

36
Lle y gwnâi ef drigfan i’r gwael ddyn,
i dorri ei newyn beunydd.


37
Lle yr hauasant faesydd glân,
a llawer gwinllan dyner,
Y rhai a roddant lawnder ffrwyth,
a chnydlwyth yn ei amser.

38
Cans cynyddasant hwy gan wlith
grasol fendith un Duw cun:
A’i hanifeiliaid hysb a blith,
rhoes yr un fendith arnun.


39
Daeth caethder gwedi hyn i gyd,
a drygfyd er eu gostwng.
Gadawodd eu gorthrymmu a’i plau,
cawsant flinderau teilwng.

40
Eu dirmyg ar y beilchion troes,
ac ef a’i rhoes i grwydro
Mewn drysni heb lun ffordd i’w chael,
lle buant wael eu gortho.


41
Yna rhoes y tlawd i well fri,
dug o’r trueni allan,
Gan lwyddo ei deulu, a’i holl blaid,
fel defaid wrth y gorlan.

42
Y rhai cyfiawn a welant hyn,
a chanthyn bydd yn hyfryd:
A’r enwir ceuir ei ddwy en
ar ei gynfigen fowlyd.


43
Pa rai sy ddoeth i ddeall hyn,
fe roddir iddyn wybod
Faint yw daioni f’Arglwydd yn’,
wrth hyn y cân gydnabod.

108

1

Dafydd yn clodfoi yr Arglwydd: gan ymsiccrhau yn ei addewidion ef, yr hwn yn y diwedd a deifl y gelynion i’r llawr, pe rhon i ni ac ofni ddarfod iddo yn esceuluso dros amser.

Parod yw fy nghalon (o Dduw)
o parod yw fy nghalon,
Canaf yt a datcanaf wawd,
o fawl fy nhafawd ffyddlon.

2
Deffro dafod, a deffro dant,
a chân ogoniant beunydd:
Y nabl ar delyn yn gytun,
deffrof fy hun ar laf-ddydd.


3
Mawl ytty f’Arglwydd, pan deffrof,
a rof ymmysc y bobloedd:
A chlodfori dy enw a wnaf,
lle amlaf y cenhedloedd.

4
Cans cyrhaeddyd y mae dy râs,
hyd yn nheyrnas nefoedd.
A’th wirionedd oi hyd at len
yr wybren a’i therfynoedd.


5
Ymddercha Dduw y nef uwchlaw,
oddiyno daw d’arwyddion.
A bydded dy ogoniant ar
y ddayar a’i thrigolion.

6
Fal y gwareder drwy hon hwyl,
bob rhai o’th anwyl ddynion.
O achub hwynt â’th law ddehau,
a gwrando finnau’n ffyddlon.


7
Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duw
llawen yw fy nghyfamod,
Mi a rannaf Sichem rhyd y glyn,
mesuraf ddyffryn Succod.

8
Myfi piau y ddwy dretâd,
sef Gilead a Manasse.
Ac Ephraim yw nerth fy mhen,
a Juda wen fy neddf-le.


9
Ym Moab ymolchi a wnaf,
dros Edom taflaf f’esgid
A chwardded Palestina gaeth,
a chwerthin aeth yn rhybrid.

10
Duw pwy a’m dwg i’r ddinas gref?
pwy a’m dwg i dref Edom?

11
Er yt ein gwrthod, pwy ond ti,
o Dduw, a ’mleddi drosom?


12
O unig Dduw, bydd i’n yn borth,
mae’n ofer cymorth undyn.

13
Yn Nuw y gwnawn wrolaeth fawr,
fe sathr i lawr ein gelyn.

109

1

Dafydd, wedi ei gyhuddo ef ar gam gan weinieithwyr Saul, yn gweddio ar Dduw am help i ddinistrio ei elynion.

O Dduw fy moliant i na thau,

2
cans genau’r annuwiolion:
A’i tafod twyllgar, a’i safn rhwth,
arnaf sy’n bygwth digon.

3
Daethant i’m cylch â geiriau câs,
rhoent ddiflas sen anynad.

4
Fal hyn i’m talent ddrwg dros dda,

5
a chas a gaf am gariad.

Ac fel yr oeddynt hwy fal hyn,
i’m herbyn wedi codi,
Fy wyneb attad ti a drois,
ac arnat rhois fy ngweddi.

6
Bid Sathan ar ei ddehau law,
i’r swydd y daw yn barod,

7

A phan roer barn, yn euog boed,

a’i weddi troed yn bechod.


8
Bo ei oes yn fer, ac yn ddilwydd,
a’i swydd arall iw chymryd.

9
Poed yn ymddifaid y bo ei blant,
a’i weddw yn fethiant hefyd.

10
A boed ei blant yn crwydro byd,
i gymryd mân gerdodau:
A cheisiant hyn rhyd dyrys dir,
lle bytho hir eu prydiau.


11
Yn rhwyd y ceisiad ei dda syrth,
ei lafur pyrth ddieithriaid:

12
Na ddel iddo nawdd am ei fai,
na chwaith i’w rai ymddifaid.

13
Doed distryw dial ar ei hil,
a’i eppil a ddileer,

14
Am bechodau ei dâd a’i fam
y caiff ef lam ryw amser.


15
A bydded hyn i gyd gar bron
yr Arglwydd gyfion farnwr,
Yr hwn a’i torro, fel na bo
mwy gofio eu anghyflwr.

16
Erioed ni cheisiodd wneuthur hedd,
na thrugaredd i ddyn gwan,
Ond erlid tlawd ar isel radd,
a cheisio lladd y truan.


17
Hoffodd ffelldith a hi a ddaeth,
ac fel y gwnaeth did iddo,
Casâodd fendith, ac ni chai,
ond pell yr ai oddiwrtho.

18
Gwisgodd felldith fel dillad gwr,
a daw fel dwr iw galon,
Fel olew doed iw esgyrn fo,
hyd oni chaffo ddigon.


19
A’r felldith bid iw gylch yn dyn,
fel yn ddilledyn iddo:
A'i gwisgo hi bid iddo’n dasg,
fel gwregys gwasg am dano.

20
A hyn gan Dduw a gaf yn dâl,
i’r gelyn gwamal enbyd:
A ddweto neu a wnelo gam,
neu niwed am fy mywyd.


21
Dithau Dduw er mwyn d’enw gwna,
herwydd mai da d’ymwared:
Gwna dy drugaredd a myfi,
a bryssia di i’m gwared.

22
O herwydd tlawd a rheidus wyf,
a dirfawr glwyf i’m calon,

23
Symudiad cyscod a fai’n ffo,
hyn er na welo dynion.

Mor ansefydlog yw fy’ stâd:
a’r mudiad geiliog rhedyn

24
Fy nghnawd yn gul, fy ngliniau’n wan
a siglan o dra newyn,

25
Gwarth wyf i’m câs yn fy ngwael ddrych,
a hwynt wrth edrych arnaf
A’m diystyrent dan droi tro,
a than bensiglo attaf.


26
Cymorth di fi Arglwydd fy Nuw,
cadw fi’n fyw â’th nodded:

27
Fel y gwyper mai gwaith dy law,
yw’r lles a ddaw i’m gwared.

28
Melldithiant nac eiriechant hwy,
dod fendith fwy i minnau,

Bid gwarth i’m gwrthwynebwyr câs,
gorfoledd i’th wâs dithau.

29
A gwarth a gwradwydd gwisger hwy,
a fwyfwy y del attynt:
A mantell laes o gwilydd mawr,
gwisg di hyd lawr am danynt.


30
Ond fi, gan ddiolch i’m Ior mau,
â’m genau mawl a ganaf:
Ac a rof glod iw enw cu,
lle bytho’r llu yn amlaf.

31
O herwydd ar ddeheulaw’r tlawd
y saif ddydd brawd yn gefnog:
A gadw ei enaid ef yn gu,
rhag ei farnu yn euog.

110

1

Dafydd yn prophwydo am allu a theyrnas Christ, ac am yr offeiriadaeth a dynnai ymmaith offeiriadaeth Lefi.

Dwedai’r Arglwydd wrth f’Arglwydd mau,
ar fy llaw ddeau eistedd:
Nes rhoddi’ rhai a gais dy waed
yn faingc draed yt, i orwedd.

2
’R Arglwydd denfyn ffrewyll dy nerth
o ddinas fowrwerth Seion,
Pan lywodraethech yn eu mysg,
gwna derfysg ar d’elynion.


3
Yn nydd dy nerth dy bobl a ddaw,
ag aberth llaw’n wyllysgar,
Yn sanctaidd hardd daw’r cynnyrch tau
o wlith y borau hawddgar.

4
Yr Arglwydd tyngodd, ac ni wâd,
ti sy’n offeiriad bythol,
Wrth urdd Melchisedech odd’ fry,
a bery yn dragwyddol.


5
Yr Arglwydd ar dy ddehau law,
brenhinoedd draw a friwa,
Yn nydd ei ddig gwna’n archollion
frenhinoedd cryfion, meddaf.

6
Ar y cenhedloedd rhydd farn iawn,
a’i gwlad gwna’n llawn celanedd:
A llawer pen dros wledydd mawr,
a dyrr ei lawr yn unwedd.


7
O wir frys i’r gyflafan hon,
fe yf o’r afon nesaf:
A gaffo ar ei ffordd yn rhwydd,
a’r Arglwydd a’i derchafa.

111

1

Y mae efe yn y psalm hon yn diolch i Dduw am ei aml weithredoedd da i’r eglwys, gan ddangos beth yw iawn ddoethineb a gwybodaeth.

Clodforaf fi fy Arglwydd Ion,
o wyllys calon hollawl,
Mewn cynnulleidfa gar eu bron,
mewn tyrfa gyfion rasawl.

2
Mawr iawn yw gwrthiau’n Arglwydd ni
hysbys i bawb a’i hoffant.

3
Ei waith a’i iownder pery byth,
a’i wehelyth ogoniant.


4
Yr Arglwydd a wnaeth ei goffau,
am ryfeddodau nerthol.
Cans Arglwydd nawdd-fawr yw i ni,
llawn o dosturi grasol.

5
Ef i bob rhai a’i hofnant ef,
rhydd gyfran gref at fywyd:
Ac yn dragywydd y myn fod
cof o’i gyfammod hefyd.


6
Mynegodd ef iw bobl i gyd,
gadernyd ei weithredoedd:
A rhoddi iddynt hwy a wnaeth
’tifeddiaeth y cenhedloedd.

7
Gwirionedd a barn ydyw gwaith
ei ddwy law berffaith efo:
A'i orchmynion sy ffyddlon iawn,
a da y gwnawn eu gwrando.


8
Y rhai’n sy gwedi eu sicrhau,
dros byth yn ddeddfau cyfion:
Gwedi eu gwneuthur hwy mewn hedd,
a thrwy wirionedd union.

9
Anfonodd gymmorth iw bobl ef,
cyfammod gref safadwy:
Archodd hyn: bo iw enw sawl,
sancteiddiawl ac ofnadwy.

10
Dechreuad pob doethineb ddofn
i bawb yw ofn yr Arglwydd,
Da yw deall y sawl a’i gwnai,
a’i ofn a sai’n dragywydd.

112

1

Mawl dedwyddwch y rhai a ofnant Dduw. A dangos melldith iw ddirmygwyr ef.

Dedwyddol yw mewn buchedd dda,
y sawl a ofna’r Arglwydd:
A’i orchymynion anwyl ynt,
bydd iddo helynt hylwydd.

2
Ei hâd fydd nerthol yn y tir,
bendithir hil rhai union:

3
Golud a chyfoeth yn ei dy,
tros byth y pery’n gyfion.


4
Yr union yn y tywyll cau
caiff fodd i olau weled:
Ystyriol a thosturiol iawn,
a chyfiawn fydd ei weithred.

5
Gwr da a fydd trugarog fwyn,
rhydd echwyn a chymwynas:
A’i air mewn pwyll a barn a rydd,
a’i weithred sydd yn addas.


6
Ni ’sgogir byth y cyfiawn, gwna
ei goffa yn dragywydd:

7
A chalon ddisigl, ddwys, ddiofn,
a sail ddofn yn yr Arglwydd.

8
Hwn yn nerth Duw diofnog fydd,
ac atteg sydd iw galon:
Hyd oni chaffo drwy lawn wys,
ei wyllys o’i elynion.


9
Rhannodd a rhoes i’r tlawd yn hy,
byth pery ei gyfiownedd:
A chryfder ei goron yn wir,
dyrchefir mewn gogonedd.

10
Yr anwir edrych, ffromma o ddig,
drwy ffyrnig ysgyrnygiad:
Yr annuwiol a dawdd: fal hyn
fydd terfyn eu dymuniad.

113

1

Cyngor i foli Duw am ei ddaioni iw bobl.

Chwi weision Duw molwch yr Ion,
Molwch ei enw â llafar don,

2
bendigaid fytho ei enw ef.

3
O godiad haul hyd fachlud dydd,
Mawr enw yr Ion moliannus fydd,
yn y byd hwn, ac yn y nef.

4
Derchafodd Duw uwch yr holl fyd:
A’i foliant aeth uwch nef i gyd,

5
pwy sy gyffelyb i’n Duw ni?
Yr hwn a breswyl yn y nef,

6
I’r ddaear hon darostwng ef,
gwyl ef ein cam, clyw ef ein cri.


7
Yr hwn sy’n codi’r tlawd o’r llwch:
A’r rheidus o’i ddiystyrwch,

8
iw gosod uwch pennaethiaid byd.

9
I’r ammhlantadwy mae’n rhoi plant,
Hil teg, a thylwyth, a llwyddiant:
am hyn moliennwch Dduw i gyd.
Gogoniant fyth a fytho i’r Tâd:
A bid gogoniant i’r Mab rhad,
i’r Yspryd glân gogoniant fo:
Megis gynt yn y dechreu yr oedd,
Ac y bydd byth yn oes oesoedd,
dwedwn Amen, poed felly y bo.

114

1

Y mae mynediad Israel o gaethiwed yn dwyn ar gof i ni faint yw trugaredd Duw iw blant, a maint ein anniolchgarwch ninnau iddo ef.

Pan ddaeth Israel o’r Aipht faith:
A thy Jaco o estron iaith,

2
Juda oedd ei sancteiddrwydd ef,
Israel oedd benaethiaeth Ior.

3
Gwelodd hyn a chiliodd y mor,
a throes iw hol Iorddonen gref.


4
Neidiai’r mynyddoedd megis hyrdd:
A’r bryniau mal wyn llament ffyrdd,
cawsant wastad megis llawer dol.

5
Ciliaist (o for) dywaid pa ham?
Tithau Iorddonen lathraidd lam,
p’am y dadredaist dithau d’ol?

6

Chwychwi fynyddoedd p’am y ffoech,

Fel hyrddod? a ph’am nad arhoech?
a chwithau fryniau fal wyn man?

7

Am mai rhaid ofni Duw Jaco,

8

Yr hwn sy’n troi’r graig yn llyn tro,
a’r callestr yn ffynnon-ddwfr glan.

115

1

Y bobl a orthrymid gan dywysogion annuwiol, yn addo bod yn ddiolchgar, os Duw a wrandawai ei gweddiau, ac a i gwaredai hwynt.

Nid i ni Arglwydd, nid i ni,
y dodi y gogonedd,
Ond i’th enw dy hun yn hawdd,
er mwyn dy nawdd a’th wiredd.

2
Pa’m y dwedant am danat ti
y cenedlaethi estron:
A thrwy edliw hynny yn fwy,
ple’y mae’u Duw hwy yr awron?

3

Sef ein Duw ni mae yn y nef,

lle y gwnaeth ef a fynnodd.

4
Eu delwau hwy, aur, arian yn’,
a dwylo dyn a’i lluniodd.

5
Safn heb draethu: llun lygaid glân,
y rhai’n ni welan ronyn:

6
Trwyn heb arogl, clustiau ar lled
heb glywed, y sydd ganthyn.


7
Ac i bob delw y mae dwy law
heb deimlaw, traed heb symyd:
Mae mwnwgl iddynt heb roi llais,
fal dyna ddyfais ynfyd.

8
Fel hwyntwy ydyw’ rhai a’i gwnant,
a’r rhai a gredant iddynt:
Am hyn ni ddylai neb drwy gred
roi mo’i ymddiried arnynt.


9
O Israel, dod ti yn rhwydd
ar yr Arglwydd dy hollfryd,
Ef yw eu nerth a’i dwg i’r lan,
eu porth a’i tarian hefyd.

10
O ty Aron, dod tithau’n rhwydd,
ar yr Arglwydd dy hollfryd:
Ef yw eu nerth a’i dwg i’r lan,
eu porth a’i tarian hefyd.


11
Rhai a ofnwch yr Arglwydd Ion,
rhowch arno’ch union hollfryd.
Efe yw’r neb a’ch dwg i’r lan,
eich porth a’ch tarian hefyd.

12
Duw nef a’n cofiodd, ac i’n plith
fo roes ei fendith rhadlon:
I dy Israel rhydd ei hedd,
ac unwedd i dy Aaron.


13
Sawl a’i hofnant bendithiant ef,
yr Arglwydd nef canmolan:
A’i enw sanct o’r nef i’r llawr,
bendithied mawr a bychan:

14
Yr Arglwydd arnoch, arnoch chwi,
a wna ddaioni amlach.
Ac a chwanega ar eich plant
ei fwyniant yn rymusach.


15
Y mae ywch fendith a mawr lwydd,
gan y gwir Arglwydd cyfiawn,
Yr hwn a wnaeth y nefoedd fry,
ar ddayar obry yn gyflawn.

16
Y nef, ie’r nefoedd uwchlaw,
sy yn eiddaw Duw yr Ion:
Ar ddaiar, lle y preswyliant,
a roes ef i blant dynion.


17
Pwy a folant yr Arglwydd? Pwy?
gwn nad hwyntwy y meirwon,
Na’r rhai a ânt i’r bedd yn rhwydd,
lle y mae distawrwydd ddigon.

18
Ond nyni daliwn yn ein cof
fyth fyth fendithio’r Arglwydd.
Molwch yr Arglwydd yn un wedd,
a mawl gyfannedd ebrwydd.

116

1

Diolch Dafydd i Dduw am ei fawr gariad tuag atto ef, pan oedd Saul yn ei erlid ef yn niffeithwch Maon.

Da gennif wrando’ or Arglwydd nef,
ar lais fy llef a’m gweddi:

2
Am iddo fy nghlywed i’n hawdd,
byth archaf ei nawdd imi.

3
Mae maglau angau i’m cynllwyn,
ym mron fy nwyn i’m beddrod:

4
Cefais ing. Ond galwaf fy Ner
i’m hoes, moes dyner gymmod.


5
Cyfion yw’r Ion trugarog iawn,
ein Duw fy lawn o nodded.

6
Duw a geidw’r gwirion: bum i,
mewn cyni, daeth i’m gwared.

7
O f’enaid dadymchwel o’r llwch:
dyrd i’th lonyddwch bellach:
Am i’r Arglwydd fod i ti’n dda,
saf i’th orphwysfa bauach.


8
Oherwydd i Dduw wared f’oes,
a’m cadw rhag gloes angau,
Fy nrhaed rhag llithro i law drwg,
a’m golwg i rhag dagrau.

9
Yn y ffydd hon o flaen fy Nuw,
ym mysg gwyr byw y rhodiaf.

10
Fel y credais felly y tystiais,
ar y testyn ymma.


11
Yn fy ffrwst dwedais i fal hyn,
mae pob dyn yn gelwyddog,

12
Ond o Dduw, beth a wnaf i ti,
am dy ddaioni cefnog?

13
Mi a gymeraf, gan roi mawl,
y phiawl iechydwriaeth,
Ac a alwaf, er mwyn fy llwydd,
ar enw yr Arglwydd bennaeth.


14
I’r Arglwydd talaf yn forau,
fy addunedau ffyddlon,
Y myd hyn o flaen ei holl lu,
y modd y bu’n fy nghalon.

15
Marwolaeth ei sainct gwerthfawr yw
yngolwg Duw: O cenfydd,
Dy wâs, dy wâs wyf, mewn dirmyg,
mab dy forwynig ufydd.


16
Datodaist fy rhwymau yn rhydd,
fy offrwm fydd dy foliant.

17
Enw’r Arglwydd nid â o’m co,
i hwnnw bo gogoniant.

18
I’r Arglwydd bellach tala’n frau
fy addunedau cyfion.

19
Ynghaer Salem dy sanctaidd dy,
o flaen dy deulu ffyddlon.

117

1

Cynghori y Cenhedloedd i foli Duw o ran bod yr addewid mor helaeth iddynt hwy, ac i’r Iddewon.

O cenwch fawl i’r Arglwydd nef,

moliennwch ef genhedloedd,
Molwch ei Enw ef drwy’r byd,
chwithau i gyd y bobloedd.

2
Am ei fod inni yn dda iawn,
yr Arglwydd llawn trugaredd:
A’i air fe fydd yn parhau byth,
sef ei ddilyth wirionedd.

118

1

Dafydd (wedi ei Saul ei erlid ef a chael o honaw y frenhiniaeth gan Dduw) yn erchi i bawb o’r ffyddloniaid fod yn ddiolchgar.

Molwch yr Arglwydd, cans da yw
moliannu Duw y llywydd.
Oherwydd ei drugareddau,
sydd yn parhau’n dragywydd.

2
Dweded Israel da yw ef,
a’i nawdd o nef ni dderfydd.

3
Dyweded ty Aaron mai da yw,
trugaredd Duw’n dragywydd.


4
Y rhai a’i hofnant ef yn lân,
a ganan yr un cywydd.
Rhon iw drugaredd yr un glod,
sef ei bod yn dragywydd.

5
Im hing gelwais ar f’Arglwydd cu,
hawdd gantho fu fy nghlywed:
Ef a’m gollyngodd i yn rhydd
o’i lân dragywydd nodded.


6
Yr Arglwydd sydd i’m gyda’ mi,
nid rhaid ym’ ofni dynion.

7
Yr Arglwydd sydd ynghyd â mi,
er cosbi fy ngelynion.

8
Gwell yw gobeithio yn Nuw cun,
nag mewn un dyn o’r aplaf:

9

Gwell yw gobeithio yn yr Ion,

nâ’r tywysogion pennaf.


10
Doed y cenhedloedd arna’i gyd,
a’i bryd ar wneuthur artaith:
Ond yn enw y gwir Arglwydd Naf,
myfi a’i torraf ymaith.

11
Daethant i’m cylch ogylch i’m cau,
ac ar berwylau diffaith,
Ond yn enw’r gwith Arglwydd Naf,
myfi a’i torraf ymaith.


12
Daethant i’m cylch fel gwenyn mân:
fal diffodd tân mewn goddaith,
Yn enw yr Arglwydd yr wyf fi
yn eu diffoddi ymaith.

13
Fy nghaf-ddyn gwthiaist atta’n gryf,
i geisio gennyf syrthio.

14
Duw a’m cadwodd,
sef Ion fy ngrym,
fy iechyd i’m, ac etto.


15
Am orfoledd Duw y bydd son
yn nhai rhai cyfion dwyfol,
Mai’r Arglwydd Dduw â’i law ddehau,
a wnaeth y gwrthiau nerthol.

16
Deheulaw’r Arglwydd drwy ei nawdd
ef a’i derchafawdd arnom:
A dehau law yr Arglwydd nef,
a wnaeth rymusder drosom.


17
Nid marw onid byw a wnaf,
mynegaf waith yr Arglwydd,

18
Hwn a’m cospodd, ond ni’m lladdodd,
yn hyttrach lluddiodd aflwydd.

19
Agorwch ym byrth cyfiownder,
o’i mewn Duw ner a folaf.

20
Porth yr Arglwydd fal dyma fo,
ânt iddo’r rhai cyfiownaf.


21
Minnau a’th folaf yn dy dy,
o herwydd ytty ’nghlywed,
Yno y canaf nefol glod
yt, am dy fod i’m gwared.

22
Y maen sy ben congl-faen i ni,
a ddarfu i’r seiri ei wrthod.

23
O’r Arglwydd Dduw y tyfodd hyn,
sy gan ddyn yn rhyfeddod.


24
Yr Arglwydd a’i gwnaeth, dyma’r dydd,
er mawr lawenydd ynny,
Yntho cymrwn orfoledd llawn,
ymlawenhawn am hynny.

25
Attolwg Arglwydd y pryd hyn
yr ym yn erfyn seibiant.
Adolwyn Arglwydd Dduw pâr’ yn’
y pryd hyn gaffael llwyddiant.


26
Bendigedig yw y sawl a ddel
yn enw yr uchel Arglwydd.
O dy Dduw bendithiasom chwi,
drwy weddi a sancteiddrwydd.

27
Yr Arglwydd sydd yn Dduw i ni,
rhoes i’n oleuni ragor.
Deliwch yr oen a rhowch yn chwyrn
yn rhwym wrth gyrn yr allor.


28
Tydi o Dduw wyt Dduw i mi,
am hyn tydi a folaf:
(Da gwedd it fawl, fy Nuw mau fi)
a thydi a ddyrchafaf.

29
Molwch yr Arglwydd, cans da yw
moliannu Duw y llywydd,
O herwydd ei drugaredd fry,
a bery yn dragywydd.

119

1

Yn y psal, y mae y prophwyd yn canmol ac yn mawrhygu cyfraith Dduw, gan ddysgu i’r ffyddloniaid ymfodloni ynddi, ar air, a myfyrdod ac yn yr Hebraeg y mae pob 8 wers o’r Psalm hon yn dechrau ar vn llythyren, gan ddechrau yn y llythyren. A, ac felly drwy bob vn or. 22. mewn trefn.

Pob cyfryw ddyn y sydd a’i daith
yn berffaith, mae fe’n ddedwydd,
Y rhai’n fucheddol a rodian
Ynghyfraith lân yr Arglwydd.

2
Y rhai i gyd gwynfyd a gânt,
a gadwant ei orchmynion:
Ac a’i ceisiant hwy yn ddilys,
 holl ewyllys calon.


3
Diau yw nad â y rhai hyn,
i galyn llwybrau gwammal,

4
Ond cadw dy air (a erchaist ynn)
a dilyn hyn yn ddyfal.

5
Och fi na chawn unioni’n glau,
fy llwybrau at dy ddeddfod:

6
Byth ni’m gwradwyddid y modd hwn,
tra cadwn dy gyfammod.


7
Mi a’th glodforaf di er neb,
ac mewn uniondeb calon:
Pan ddysgwyf adnabod dy farn,
sy gadarn, ac sy gyfion.

8
Am dy farn mae fy holl amcan,
dy ddeddfau glân a gadwaf.
Na âd fyth fyth fi yn fy nych,
o, tro i edrych arnaf.

9

Pa fodd (o Dduw) y ceidw llangc,

sydd ieuangc, eu holl lwybrau?
Wrth ymgadw yn ol dy air,
pob llwybr a gair yn olau.

10
Dy orchmynion â’m holl galon,
a’i dirgelwch ceisiais oll,
O lluddias fi ar ofer hynt,
oddiwrthynt ar gyfyrgoll.


11
I’m calon cuddiais dy air cu,
rhag imi bechu’n d’erbyn:

12
O Arglwydd bendigaid wyt ti,
o dysg i mi d’orchymmyn.

13
Dy gyfiawn feirn, a’r gwir air tau,
a mawl gwefusau traethais.

14
A’th dystiolaethau di i gyd,
uwch holl dda’r byd a hoffais.


15
Dy ddeddf fy myfyr yw a’m drych,
dy ffyrdd ’r wy’n edrych arnyn.

16
Mor ddirgrif ymy yw dy air,
o’m cof nis cair un gronyn.

17

Bydd dda i’th wâs, a byw a wna,

a’th air a gadwa’n berffaith:

18
A’m llygaid egor di ar lled,
i weled rhin dy gyfraith.

19
Dieithr ydwyfi’n y tir,
dy ddeddf wir na chudd rhagor.

20
O wir awydd i’r gyfraith hon,
mae’n don fy enaid ynof.


21
Curaist feilch: daw dy felltith di
i’r rhai sy’n torri d’eirchion.

22
Tro oddiwrthif fefl ar gais,
cans cadwais dy orchmynion:

23
Er i swyddogion roi barn gas,
rhoes dy wâs ei fyfyrdod

24
Yn dy ddeddf, hon sydd ym i gyd
yn gyngor hyfryd ynod.

25

F’enaid ymron llwch y bedd yw:

o’th air gwna fi’n fyw eilwaith:

26
Mynegais fy ffyrdd clywaist fi,
o dysg i mi dy gyfraith.

27
Pâr i mi ddeall ffordd dy air,
ar hwnnw cair fy myfyr.

28
Gan ofid f’enaid fu ar dawdd,
a’th air gwnai ’n hawdd fi’n bybyr,


29
O’th nawdd oddiwrthif tyn ffyrdd gau,
a dysg y’m ddeddfau crefydd.

30
Dewisais ffordd gwirionedd, hon
sydd ger fy mron i beunydd.

31
Glynais wrth dy air, o Arglwydd,
o lludd i’m wradwydd digllon.

32
Yn dy ddeddfau fy rhediad fydd
pan wneych yn rhydd fy nghalon.

33

Duw, ffordd dy ddeddfau dysg i mi,

dros f’einioes hi a gadwaf.

34
O par i’m ddeall y ddeddf hon,
o’m calon mi a’i cyflownaf.

35
Par i’m fynd lwybr dy ddeddf ar frys,
hyn yw fy ’wyllys deilwng;

36
A’m calon at ddystiolaeth dda,
nid at gybydd-dra gostwng.


37
Tro fi rhag gweled gwagedd gwael,
bywha fi’i gael dy ffordd di.

38
Cyflowna d’air â mi dy was,
yna caf ras i’th ofni.

39
Ofnais warth, o tro heibio hon,
da yw d’orchymynion tyner.

40
Wele, f’awydd i’th gyfraith yw,
gwna ym fyw o’th gyfiownder.

41

Arglwydd dod dy drugaredd ym,

a hyn o rym d’addewid.

42
Drwy gredu’n d’air rhof atteb crwn
i’m cablwr hwn a’m dilid.

43
O’m genau na ddwg dy air gwir,
i’th farnau hir yw’n gobaith.

44
Minnau’n wastadol cadwaf byth
dy lân wehelyth gyfraith.


45
Mewn rhyddid mawr rhodio a wnaf,
a cheisiaf dy orchmynion.

46
A’th dystiolaethau rhof ar goedd,
o flaen brenhinoedd cryfion.

47
Heb wradwydd llawen iawn i’m cair
yn d’air, yr hwn a hoffais.

48
Codaf fy nwylo at dy ddeddf
drwy fyfyr, greddf a gredais.

49

Cofia i’th was dy air a’th raith,

lle y rhois fy ngobaith arno.

50
Yn d’air mae ’nghysur, Ior, i gyd,
yr hwn mae’ mywyd yntho.

51
Er gwatwar beilch ni throis ychwaith
oddiwrth dy gyfraith hoyw-bur.

52
Cofiais (o Dduw) dy ddeddf erioed,
yn honno rhoed i’m gysur.


53
Y trowsion a ofnais yn faith,
sy’n torri’r gyfraith eiddod’.

54
O’th ddeddf y cenais gerdd yn hy,
yn nhy fy mhererindod.

55
Cofiais d’enw (fy Ion) bob nos,
o serch i’th ddiddos gyfraith.

56
Cefais hynny am gadw o’m bron
dy ddeddf: sef hon sydd berffaith.

57

Ti Arglwydd wyt i mi yn rhan,

ar d’air mae f’amcan innau,

58
Gweddiais am nawdd gar dy fron
o’m calon yn ôl d’eiriau.

59
Meddyliais am ffyrdd dy ddeddfau,
a throis fy nghamrau attat.

60
Dy eirchion ar frys a gedwais,
nid oedais ddim o honynt.


61
Er i draws dorf fy’ speilio i,
dy gyfraith ni anghofiais.

62
Gan godi ganol nos yn frau,
dy farnau a gyffesais.

63
Cyfaill wyf i’r rhai a’th ofnant,
ac a gadwant dy eiriau.

64
Dy nawdd drwy’r tir sy lawn i’n mysg,
Duw dysg i mi dy ddeddfau.

65

Arglwydd gwnaethost yn dda a’th was,

yn ol dy râs yn addo.

66
Dysg i’m ddwall dy air yn iawn,
’rwy’n credu’n gyflawn yntho.

67
Cyn fy ngostwug euthym ar gam,
yn awr wyf ddinam eilwaith.

68
Da iawn a graslawn ydwyt ti,
o dysg i mi dy gyfraith.


69
Dy air er beilch yn clyttio ffug,
â’m calon orug cadwaf.

70
Breision ynt hwy, er hyn myfi,
dy gyfraith di a hoffaf.

71
Fy mlinder maith da iawn i’m fu,
i ddysgu dy ffatusoedd.

72
Gwell fu i’m gyfraith d’enau glân
nag aur ac arian filoedd.

73

A’th ddwylaw gwnaethost fi dy hun,

a rhoist i’m lun yn berffaith:
O par i’m ddeall dy air di:
A dyscaf fi dy gyfraith.

74
Y sawl a’th ofnant gwelant hyn,
bydd llawen genthyn weled:
Am fod fy ngobaith yn dy air,
Yr hwn a gair ei glywed.


75
Duw gwn fod dy farnau’n deilwng,
a’m gostwng i yn ffyddlon:

76
Dod nawdd er cyssur i’m dy was,
o’th ras a’th addewidion.

77
Dod i’m dy nawdd, a byddaf byw,
dy gyfraith yw yn felys.

78
Gwradwydder beilch a’m plyg ar gam,
myfyriaf am d’ewyllys.


79
Y rhai o Dduw a’th ofnant di,
troer y rhei’ni attaf:
A’r rhai adwaenant er eu maeth,
dystiolaeth y Goruchaf.

80
Bydded fy nghalon yn berffaith,
yn dy lân gyfraith Arglwydd,
Fel nas gorchuddier yn y byd,
fy wyneb-pryd a gwradwydd.

81

Gan ddisgwyl am dy iechyd di,

mae f’enaid i mewn diffig
Yn gwilied beunydd wrth dy air,
o Arglwydd cair ff’n ddiddig.

82
Y mae fy llygaid mewn pall ddrych
yn edrych am d’addewyd,
Pa bryd (o Arglwydd, dwedais i)
i’m ddiddeni â’th iechyd?

83
Cans wyf fel costrel mewn mwg cau:
cofiais dy eiriau cyfion.

84
Pa hyd yw amser dy wâs di?
Pa bryd y bernir trowsion?

85
Cleddiai’r beilchion i’m byllau: hyn
sy’n erbyn dy gyfreithiau.

86
Gwirionedd yw d’orchmynion di,
cymmorth fi rhag cam faglau.


87
Braidd na’m difent o’r tir ar gais:
Ond glynais wrth d’orchmynion.

88
Bywha fi Dduw, i gadw ’yn glau,
dystiolaeth d’enau ffyddlon.

89

Byth yn y nef y pery d’air,

o Dduw cair dy wirionedd.

90
O oes i oes: sicrhe’ist y tir
na siglir mo’i amgylchedd.

91
Safant byth wrth dy farnau di,
maent i ti’n weision ufudd.

92
Oni bai fod dy ddeddf yn dda,
i’n difa buasai gystudd.


93
A’th orchmynion y bywheist fi,
am hyn y rhei’ni a gofiais.

94
Eiddoti wyf, Dduw achub fi,
dy ddeddfau di a geisiais.

95
Disgwyl fy lladd mae’r anwir sur;
’rwy’n ystyr dy dystiolaeth.

96
Ar bob perffeithrwydd mae terfyn,
ond ar d’orchymyn helaeth.

97

Mor gu (o Arglwydd) gennyf fi,

dy ddeddf di a’th gyfammod:
Ac ar y rhai’n o ddydd i ddydd,
y bydd fy holl fyfyrdod.

98
Gwnaethost ti â’th orchmynion iach,
yn ddoethach nâ’m gelynion:
Cans gyd â mi yn dragywydd,
y bydd dy holl orchmynion.


99
Gwnaethost fi’n ddoethach (o Dduw Ion)
nâ’r athrawon a’m dyscynt:
Oblegid fy myfyrdod mau,
dy dystiolaethau oeddynt.

100
Am gadw o honof dy ddeddf di,
mwy nâ’m rhieni delldais:

101
Rhag drwg-lwybr, fel y cadwn d’air,
fy nrhaed yn ddiwair cedwais.


102
Rhag dy farnau ni chiliais i,
cans ti a’m dysgaist ynthynt.

103
Mor beraidd gennif d’eiriau iach,
nâ’r mel melusach ydynt.

104
O Arglwydd â’th orchmynion di,
y gwnaethost fi yn bwyllawg:
Am hynny’r ydwyf yn casau
pob cyfryw lwybrau geuawg.

105

Dy air i’m traed i llusern yw,

a llewych gwiw i’m llwybrau.

106
Tyngais, a chyflowni a wnaf,
y cadwaf dy lân ddeddfau.

107
Cystuddiwydd fi’n fawr: Arglwydd da:
bywha fi’n ôl d’addewyd:

108
Bodloner di, o Arglwydd mau,
ag offrwm genau diwyd:
A dysg i’m dy holl farnau draw,

109
f’enaid sy’im llaw’n wastadol:
Am hynny nid anghofiais chwaith,
dy lân gyfraith sancteiddiol.

110
Yr annuwiolion i’r ffordd fau, rhoddasant faglau geirwon:
Ni chyfeiliornais i er hyn,
ond dylyn dy orchmynion.


111
Cymerais yn etifeddiaeth lân,
byth weithiau dy orchmynion,
O herwydd mai hwyntwy y sydd,
lawenydd mawr i’m calon.

112
Gostyngais i fy nghalon bur,
i wneuthur drwy orfoledd,
Dy ddeddfau di tra fwy’n y byd,
a hynny hyd y diwedd.

113

Dychmygion ofer caseis i,

a’th gyfraith di a hoffais.

114
Lloches a tharian i’m i’th gair:
wrth dy air y disgwyliais.

115
Ciliwch rai drwg oddiwrthiff,
fy Nuw cadwaf ei gyfraith,

116
Cynnal fi â’th air, a byw a wnaf,
ni wridaf am fy ngobaith.


117
O cynnal fi, fy Arglwydd Naf,
a byddaf iach dragwyddol:
Ac yn dy ddeddfau iach y bydd
fy llawenydd gwastadol.

118
Sethraist o Arglwydd, yr holl rai,
a ai oddiwrth dy ddeddfau:
Am mai oferedd gar dy fron
oedd eu dychmygion hwythau.


119
Difethaist holl rai drwg y tir,
fel y dyfethir sothach.
Am hyn dy dystiolaethau di,
a gerais i’n anwylach.

120
O Arglwydd Dduw rhag ofn dy ddig,
fy gnhawd am cig a synnodd.
Rhag dy farnedigaethau di,
fy yspryd i a ofnodd.

121

Barn a thrugaredd a wneuthym,

na ddod fi ym caseion:

122
O Arglwydd, dysg ddaioni i’th was,
achub rhag cas y beilchion.

123
Pallai’n golwg yn disgwyl llawn
iechyd o’th gyfiawn eiriau.

124
Yn ol trugaredd â’th was gwna,
dysg imi’n dda dy ddeddfau.


125
Dy was wyf fi, deall i’m dod,
i wybod dy amodau.

126
Madws it (Arglwydd) roddi barn,
torrwyd dy gadarn ddeddfau.

127
Mwy nag aur hoffais dy ddeddf di,
pe rhon a’i goethi yn berffaith.

128
Yn uniawn oll y cyfrifais,
caseais lwybrau diffaith.

129

Rhyfedd yw dy dystiolaethau,

fy enaid innau a’i cadwodd.

130
Egoriad d’air yn olau y caid,
i weiniaid pwll a ddysgodd.

131
Dyheais gan chwant (o Dduw Ion)
i’th lân orchmynion croyw.

132
Edrych di arnaf, megis ar
y rhai a gâr dy enw.


133
Yn ol d’air cyfarwydda ’nrhoed,
anwiredd na ddoed arnaf.

134
O gwared fi rhag trowsedd dyn,
a’th orchymmyn a gadwaf:

135
Llewycha d’wyneb ar dy was:
dysg imi flas dy ddeddfau.

136
Dagrau om’ golwg llifo’ a wnânt,
nes cadwant dy gyfreithiau.

137

Cyfiawn ydwyt (o Arglwydd Dduw)

ac uniawn yw dy farnau.

138
Dy dystiolaethau yr un wedd,
ynt mewn gwirionedd hwythau.

139
Fy serch i’th air a’m difaodd,
pan anghofiodd y gelyn.

140
D’ymadrodd purwyd drwy fawr ras,
hoffodd dy wâs d’orchymyn.


141
Nid anghofiais dy gyfrath lân,
er bod yn fychan f’agwedd.

142
Dy gyfiawnder di cyfiawn fydd:
a’th ddeddf di fydd wirionedd.

143
Adfyd cefais, a chystudd maith:
dy gyfraith yw ’nigrifwch.

144
Gwna i’m ddeall cyfiownder gwiw:
a byddaf fyw mewn heddwch.

145

Llefais a’m holl galon, o clyw,

a’th ddeddfau Duw a gadwaf,

146
Arna ti llefais, achub fi,
a’th lwybrau di a rodiaf.

147
Gwaeddais, achubais flaen y dydd,
wrth d’air yn ufydd gwiliais.

148
Deffroe fy llygaid ganol nos,
o achos d’air a hoffais.


149
Clyw fi’n ol dy drugaredd dda,
bywha fi’ yn ol dy farnau.

150
Arnaf rhai sceler a nessânt:
troseddant dy gyfreithiau.

151
Tithau bydd agos: Arglwydd Dduw:
gwirionedd yw d’orchmynion.

152
Gwyddwn fod dy dystiolaethau,
gwedi eu sicrhau yn gryfion.

153

Gwel fy nghystudd, gwared ar gais,

cans cofiais dy gyfreithiau.

154
Dadleu fy nadl, rhyddha fi’n rhodd,
yn ol ymadrodd d’enau.

155
Ffordd iechydwriaeth sydd bell iawn,
oddiwrth anghyfiawn ddynion:
Am nad ydynt yn ceisio’n glau,
mo llwybr dy ddeddfau union.


156
Dy drugaredd Arglwydd aml yw,
gwna i’m fyw’n ol dy farnau.

157
Llawer sy’m herlid, r’wyf er hyn,
yn dylyn dy lân ddeddfau.

158
Gwelais y traws, a gresyn fu,
iddynt ddirmygu d’eiriau.

159
Hoffais dy ddeddf, bywha fi’ Arglwydd,
herwydd dy drugareddau.


160
Dechrau dy air gwirionedd yw,
o Arglwydd Dduw y llywydd:
A'th gyfiawn farnedigaethau,
sydd yn parhau’n dragywydd.

161

Y cryf a’r gam f’erlid a wnai,

rhag d’ofn y crynai’ nghalon.

162
Oblegid d’air wyf lawen iawn,
fel pe cawn dlysau mowrion.

163
Celwydd ffieidd-dra a gasais,
a hoffais dy gyfreithiau:

164
Saith waith bob dydd y rhof yt glod,
am fod yn dda dy farnau.


165
Y sawl a gâr dy air, cânt hedd,
drwg nis goddiwedd mhonyn.

166
Gwiliais Arglwydd wrth dy iechyd,
gan wneuthyd dy orchymmyn.

167
Dy ddeddf cadwodd fy enaid i,
a hi yn fawr a hoffais.

168
Am fod fy llwybrau gar dy fron,
d’orchmynion nid anghofiais.

169

O’th flaen Arglwydd nessaed fy nghri,

dysg imi ddeall d’eiriau.

170
Gwared fi’n ol d’ymadrodd rhâd,
del attad fy ngweddiau.

171
Dy fawl a draetha’ ngenau’n wych
pan ddysgych ym’ dy ddeddfau.

172
Datgan fy nhafod d’air yn rhwydd,
herwydd dy gyfiawn eiriau.


173
Cymhorthed dy law fi ar gais,
Dewisais dy orchmynion.

174
Cerais dy iechyd, a’th ddeddf sydd
lawenydd mawr i’m calon.

175
Bo f’enaid byw, a mawl it rhoed:
dy farn boed i’m amddiffyn.

176
Crwydrais fel oen, dy was o cais,
cans cofiais dy orchymmyn.

120

1

Dafydd wedi dyfod o fysg yr Arabiaid yn cwyno hyd y bu efe ymysg y genhedlaeth enwir anghredadwy honno.

I’m ing y gelwais ar f’Arglwydd,
ac ef yn rhwydd a’m clybu.

2
Duw gwared fi rhag tafod gau,
a genau yn bradychu.

3
Dywaid i mi oes les neu fael,
iw gael, oh dafod distryw?

4
Geiriau fel llymion saethau cawr,
ynghyd a marwawr meryw.


5
Gwae fi aros honof yn llech,
ynghyd â Mesech dwyllgar:
A chyfanneddu a’m gwersyll,
yn nrhowsion bebyll Cedar.

6
Hir y bu f’enaid i sut hon
ymysg caseion hedwch.

7
Os son am lonydd a wnawn i,
rhyfelai rhei’ni’n ’rhyff lwch.

121

1

Dangos y dylai y ffyddloniaid ddisgwyl am gymmorth gan Dduw yn vnic, y modd y mae y Prophwyd yn y psalm hon.

Disgwyliaf o’r mynyddoedd draw,
lle y daw i’m help wyllysgar.

2
Yr Arglwydd rhydd i’m gymmorth gref,
hwn a wnaeth nef a daiar.

3
Dy droed i lithro ef nis gâd,
a’th geidwad fydd heb huno:

4
Wele, ceidwad Israel lân,
heb hun na heppian arno.


5
Ar dy law ddeau mae dy Dduw,
yr Arglwydd yw dy geidwad,

6
Dy lygru ni chaiff haul y dydd,
ar nos nid rhydd i’r lleuad.

7
Yr Ion a’th geidw rhag pob drwg,
a rhag pob cilwg anfad:

8
Cai fynd a dyfod beth yn rhwydd,
yr Arglwydd fydd dy geidwad.

122

1

Dafydd ym ymlawenhau ddarfod i Dduw gyflowni yr addewid, a gosod yr Arch yn Seion, gan weddio am gynnyrch yr eglwys.

I Dy’r Arglwydd (pan ddwedent) awn,
i’m llawen iawn oedd wrando.

2
Sai’n traed o fewn Caer-Salem byrth,
yr un ni syrth oddiyno.

3
Caersalem lân ein dinas ni,
ei sail sydd ynddi’i hunan:
A'i phobl sydd ynddi yn gytun,
a Duw ei hun a’i drigfan.


4
Cans yno y daw y llwythau ’nghyd,
yn unfryd, llwythau’r Arglwydd:
Tystiolaeth Israel a’i drig-fod,
a chlod iw fawr sancteiddrwydd.

5
Cans yno cadair y farn sydd:
eisteddfod Dafydd yno.

6
Erchwch i’r ddinas hedd a mawl:
a llwydd i’r sawl a’th garo.


7
O fewn dy gaerau heddwch boed,
i’th lysoedd doed yr hawddfyd.

8
Er mwyn fy mrodyr mae’r arch hon,
a’m cymydogion hefyd.

9
Ac er mwyn ty’r Arglwydd ein Duw,
hwn ynot yw’n rhagorol:
O achos hyn yr archaf fi,
i ti ddaioni rhadol.

123

1

Gwedd y ffyddloniaid, y rhai y mae yr anuwiol, a diystyrwyr Duw, yn eu blino.

Tuedda’ ngolwg at y ne’
(fy Nuw) dy le trigiannol.

2
Fel y try gweision eu llygaid
at ddwylo i meistraid bydol.
Llygaid llaw-forwyn ar bob tro,
a ddylyn dwylo’i meistres,
Disgwyliwn arnat (Dduw) ’r un wedd,
am dy drugaredd gynnes.


3
Dy nawdd Arglwydd, dy nawdd yn rhodd,
dygasom ormodd dirmig,

4
Gan watwar y tynn a’r balch iawn,
yr ym yn llawn boenedig.

124

1

Y ffyddloniaid wedi eu gwaredu o’i peryglon, yn cyfaddef nad o’i nerth eu hun, eithr drwy drugaredd Duw y diangasant.

Dyma’r amser yn ddi ymgel,
gall Israel, fynegi,
Yr Arglwydd nef oni bai ei fod
a’i arfod gydâ nyni.

2
Gydâ ni oni bai ei fod,
pan ddaeth gwrth-drafod dynion:

3
Pan gododd llid i’n, a phoeni,
llyngcasent ni yn fywion.


4
Y dyfroedd a’n boddasent ni,
a’n hoes dan gefn lli buan:

5
Chwyddasent drosom, fel chwydd dwr:
fal dyna gyflwr truan.

6
Bendigaid Ior ei law a droes:
ac ef ni roes mo honom
Yn ysglyfaeth i’n rhwygo’n frau
iw gwâg efeilliau llymion.


7
Ein henaid aeth yn rhydd o lyn,
fal yr aderyn gwirion,
Rhwyd yr adarwr torri a wnaeth,
a minnau aeth yn rhyddion.

8
Ein holl gynnorthwy ni, a’n llwydd,
sy’n nerth yr Arglwydd howddgar,
Yr hwn drwy waith ei ddwylaw ef,
a greawdd nef a daiar.

125

1

Mae fe yn dangos siccr obaith y ffyddloniaid yn eu blinderau, gan ddymuno iddynt lwyddiant: ac i’r rhai anwir ddistryw.

Sawl a’mddiriedant yn Nuw Ion,
byddant fel Seion fynydd,
Yr hwn ni syfl: a’i sylwedd fry
a bery yn dragywydd.

2
Fel y saif sail Caersalem fry,
a’i chylchu mae mynyddoedd:
Felly yr Arglwydd yn gaer fydd,
dragywydd cylch ei bobloedd.


3
Er na orphwys rhag cledd hir
yr enwir ar gyfiowniaid,
Rhag i’r rhai cyfiawn ystyn llaw
i deimlaw campau diriaid.

4
O Arglwydd Dduw yn brysur gwnn
i bob dyn da ddaioni:
Sef union attad ti yn glau
y bydd calonnau’ rhei’ni.


5
Onid y dryg-ddyn Duw a’i gyrr
gydâ gweithwyr anwiredd:
Mewn drwg ymdroes, felly ymdroed,
ar Israel boed tangnhefedd.

126

1

Y psalm hon sydd yn dangos ryfedded fu gwarediad y bobl allan o gaethiwed Babylon,

ac mai yr Arglwydd a’i gwnaethei.

Pan ddychwelodd ein gwir Dduw Ion
gaethiwed Seion sanctaidd:
Mor hyfryd gennym hyn bob un,
a rhai mewn hun nefolaidd.

2
Nyni â’n genau yn dda’n gwedd,
gorfoledd ar ein tafod:

3
Ymhlith cenhedloedd dwedynt hyn,
fe wnaeth Duw drostyn ysod.


4
Ystod fawr a wnaeth Duw yn wir,
ein dwyn i’n tir cynnefin
O gaethiwed y gelyn llym,
am hyn yr ym yn chwerthin.

5
O cynnull ein gweddillion ni,
tro adre’ rhei’ni eilwaith,
Gan dy lif-ddyfroedd fel y gwlych
y dehau sych a diffaith.


6
Y rhai sy’n hau mewn dagrau blin,
hwyntwy dan chwerthin medant:
Felly f’Arglwydd dan droi y byd,
dwg ni i gyd i’r meddiant.

7
Y rhai dan wylo aeth o’r wlad,
fel taflu hâd rhyd gryniau:
Drwy lawenydd y dont ynghyd,
fel casglu yd yn dyrrau.

127

1

Nad synwyr dyn na’i boen,

ond trugaredd Duw, sy yn cadw, ac yn dwyn i ben bob peth.

Y ty ni adeilado’r Ner,
ai’n ofer gwaith y saeri:
A’r ddinas hon nis ceidw efo,
ni thyccia gwilio ynthi.

2
Is borau godi, os hun hwyr,
a byw drwy llwyr ofidio,
Ofer i gyd: Duw a rydd hun
i bob rhyw un a’i caro.


3
Wele, y plant a roir i ddyn,
hiliogaeth yn i’r Arglwydd:
Ac o’i rodd ef daw ffrwyth y bru,
iw magu mewn sancteiddrwydd.

4
Fel gwr cryf, ple bynnag y daw,
ac yn ei law ei saethau:
Plant yr ieuenctyd felly y maen
yn barch o flaen y tadau.


5
Sawl honynt sydd a’i gwifr yn llawn,
mae’n ddedwydd iawn ei foddion:
Hwy nis gwradwyddir pan ddel man
i’mddiddan â’r gelynion.

128

1

Dangos daioni y rhai priodol a ofno’r Arglwydd, ac addewid o fendithion Duw i’r rhai a fo byw yn ol ei orchymyn ef yn y lân stad honno.

A ofno’r Arglwydd gwyn ei fyd,
a rhodiaw rhyd ei lwybrau,

2
Bwyttei o ynnill gwaith dy law,
a blith y daw i tithau.

3
Dy wraig ar du dy dy is nen,
fel per winwydden ffrwythlon,
Dy blant ynghylch dy fwrdd a fydd
fel olewydd blanhigion:


4
Wele, fal dyma’r modd yn wir
bendithir y gwr cyfion,
Ac ofno’r Arglwydd Dduw yn ddwys,
rhydd arno bwys ei galon.

5
Cei gyflawn fendith gan Dduw Ion,
bydd dithau Seion ddedwydd,
Fel y gwelych â golau drem,
Caersalem mewn llawenydd.


6
Holl dyddiau d’einioes. Plant dy blant,
cei weled llwyddiant iddynt,
Ac ar holl deulu Israel,
daw hedd diogel arnynt.

129

1

Cynghori y mae i’r eglwys ymlawenhau, er bod erlidwyr ym mhob oes. Duw a’i gweryd hi, ac a fathr ei chaseion.

Llawer gwaith cefais gystudd mawr,
Israel yn awr dyweded,
O’m hieuenctyd hyd yr awr hon,
fe wyr fy mron eu trymed.

2
A llawer gwaith y cefais lid,
o’m gwan ieuengctid allan:
A blin gystudd ar lawer tro,
ac etto ni’m gorfuan’.


3
Yr arddwyr arddent y cefn mau,
drwy rhwygo cwysau hirion:

4
Y cyfion Ner torrodd yn frau,
bleth-didau’r annuwiolion.

5
Pa rai bynnag a roesant gâs
ar degwch dinas Seion,
Gwradwydder hwynt, cilient iw hol,
y rhai annuwiol creulon.

6
Byddant fel y glâs wellt a fai
ar bennau tai yn tyfu,
Yr hwn fydd, cyn y tynner fo,
yn gwywo, ac yn methu.

7
Ni leinw’r medelwr ei law,
ni chair o honow ronyn:
I’r casclwyr nis tal ddim mo’i droi,
na’i drin, na’i roi mewn rhwymyn.


8
Fel na bai byth gwiw gan y rhai
ar a dramwyai heibio,
Ddwedyd unwaith, Duw a ro llwydd,
neu’r Arglwydd a’ch bendithio.

130

1

Gweddi am drugaredd a maddeuant o’n pechodau, ac o’r diwedd am gael ein gwaredu o bob drwg.

O’r dyfnder gelwais arnat Ion,

2
O Arglwydd tirion gostwng
Dy glust, ystyria y llais mau,
clyw fy ngweddiau teilwng.

3
Duw, pwy a saif yn d’wyneb di,
os creffi ar anwiredd?

4
Ond fel i’th ofner di yn iawn,
yr wyd yn llawn trugaredd.


5
Disgwyliais f’Arglwydd, wrth fy rhaid,
disgwyliodd f’enaid arno.
Rhois fy holl obaith yn ei air,

6
f’enaid a gair yn effro.
Ac am yr Arglwydd gwilio’y bydd,
fwy nâ gwiliedydd difri:
A edrych blygain bob pen awr,
a welo’r wawr yn codi.


7
Un wedd disgwylied Israel,
yn ddirgel am yr Arglwydd,
Cans mae nawdd gyda’r Arglwydd nef,
mae yntho ef rywiogrwydd.
Ei drugareddau ânt ar lled,
fe rydd ymward ini.

8
Fe weryd Israel: fal hyn,
fo’i tyn o’i holl ddrygioni.

131

1

Dafydd yn ymwrthod â blarchder gar bron Duw.

Yn fy nghalon ni bu falch chwydd,
o Arglwydd, na dim tynder,
Ni chodais chwaith drahaus wg
i’m golwg o dra uchder.

2
Ac ni rodiais yma a thraw,
i dreiglaw pethau mowrion:
Ni fanwl chwiliais am wybod
rhyfeddod a dirgelion.


3
Gostyngais f’enaid i mewn pryd,
fel pan ddiddyfnyd herlod:
Fy enaid sydd fel un a fu
gwedi ei ddiddyfnu’n barod.

4
Ond disgwilied ty Israel
wrth wir Imanuel beunydd,
Sef wrth yr Arglwydd o’r pryd hyn,
heb derfyn yn dragywydd.

132

1

Y ffyddlon yn ymddiried i addewidion Duw. Dafydd yn dymuno ar Dduw sicrhau ar vnrhyw.

O cofia Ddafydd, fy Nuw Ner,
a’i holl wrth-flinder hefyd:

2
Pa lw adduned a roes fo
i Dduw Jaco, gan dwedyd,

3
Nid âf o fewn pabell fy nhy,
a’m gwely mwy nis dringaf:

4
Ni roddaf i’m dau lygad hun,
amrantun chwaith ni chysgaf:


5
Nes caffwyf gyflo yn ddi rus,
i Arglwydd grymus Jaco.

6
Wele’n Ephrata clywsom fod
lle o breswylfod iddo.
Cawsom hi ym meusydd y coed.

7
Pawb doed iw bebyll tirion:
Awn, ymgrymwn, pawb ufyddhaed,
wrth ei faingc droed yn union.


8
F’arglwydd, cyfod i’th esmwyth lys,
a’th arch o rymmus fowredd.

9
Gwisged d’offeiriaid gyfion fraint,
gwisged dy Sainct wirionedd.

10
Er mwyn Dafydd dy ffyddlon wâs,
na thyn dy râs yn llidiog:
Ac na wrthneba di er neb,
mo wyneb dy enneiniog.


11
I Ddafydd rhoes yr Ion iw gwir,
a chedwir hwn heb wyredd:
O ffrwyth dy gorph rhof ar dy faingc,
it iraidd gaingc i eistedd.

12
Fy neddfau a’m cyfammod i,
dy feibion di os cadwant:
O blann i blann o gaingc i gaingc,
hwy ar dy faingc a farnant.


13
Cans fy Arglwydd, o serch a bodd,
a rag-ddewisodd Seion:
I drigo ynthi rhoes ei fryd,
gan ddwedyd geiriau tirion:

14
Hon fyth fydd fy ngorphwysfa i,
o hoffder ynthi trigaf.

15
Bendithiaf hi â bwyd di ball,
a’i thlawd diwall o fara.


16
Ag iechydwriaeth, medd Duw naf,
y gwisgaf ei heglwyswyr:
A rhoddaf yngenau pob Sanct
o’i mewn, ogoniant psallwyr.

17
Paraf hyn oll, ac felly y bydd,
corn Dafydd yn goronog:
Felly darperais, gan fy mhwyll,
brif ganwyll i’m eneiniog.


18
Am ei elynion, o bob parth,
y gwiscaf warth a gwradwydd,
Paraf hefyd iw goron fo
flodeuo: medd yr Arglwydd.

133

1

Clod cariad brawdol, a’i gyffelybu i’r olew yn y 30. pen. o Exodus.

Wele fod brodyr yn byw ’nghyd,
mor dda, mor hyfryd ydoedd:

2
Tebyg i olew o fawr werth,
mor brydferth ar y gwisgoedd.
Fel pe discynnai draw o’r nen,
rhyd barf a phen offeiriad.
Sef barf Aron a’i wisg i gyd,
yn hyfryd ei arogliad.


3
Fel pe discynnai gwlith Hermon
yn do dros Seion fynydd,
Lle rhwymodd Duw fywyd, a gwlith
ei fendith, yn dragywydd.

134

1

Cyngor i offeiriaid y Deml i glodfori yr Arglwydd.

Wele, holl weision Arglwydd nef,
bendithiwch ef, lle’r ydych
Yn sefyll yn nhy Dduw y nos,
a’i gyntedd diddos trefn-wych.

2
Derchefwch chwi eich dwylo glân,
yn ei gyssegr-lân annedd:
A bendithiwch â chalon rwydd,
yr Arglwydd yn gyfannedd.


3
Yr Arglwydd a’i ddeheulaw gref,
hwn a wnaeth nef a daiar:
A roddo ei fendith a’i ras
i Seion ddinas hawddgar.

135

1

Cyngor i’r ffyddloniaid i foli’r Arglwydd am ei ddaioni yn gwarawyddo addolwyr culynnod.

O molwch enw’r Arglwydd nef,
ei weision ef moliennwch,

2
Y rhai a saif iw dy a’i byrth,
i’n Duw a’i fawrwyrth cenwch.

3
Molwch yr Arglwydd, cans da yw,
clod i’r Ior a berthyn:
Cenwch ei glod dros yr holl fyd,
a hyfryd yw y destyn.


4
Oblegid yr Arglwydd, a’i nawdd,
ef a etholawdd Jaco,
Ac Israel, iw mysg y trig,
yn deulu unic iddo.

5
Cans mawr yw’r Arglwydd yn ei lys,
mi a wn yn hysbys hynny:
Ym mhell uwchlaw’r holl dduwiau mân,
mae’r Arglwydd glân a’i allu.


6
Hyn oll a fynnodd a wnaeth ef,
yn uchder nef eithafon:
Ar ddaiar, ac yn y mor cau,
a holl ddyfnderau’r digion.

7
O eithaf daiar cyfyd tarth,
daw’r mellt o bobparth hwythau,
Ac oer dymestloedd, glaw, a gwynt,
a godynt o’i drysorau.


8
Yn nhir yr Aipht dynion, a da,
â llawer pla y trawodd,
Cyntaf-anedig o bob un,
â’i law ei hun a laddodd.

9
I’th ganol di, o Aipht greulon,
rhoes Duw arwyddion rhyfedd:
Ar Pharo a’i holl weision i gyd:
dug drwy’r holl fyd orfoledd.


10
O nerth ei fraich efe a wnaeth,
lawer cenhedlaeth feirwon:
A lladdodd lawer yr un wedd
o ben brenhinoedd cryfion.

11
Sef o’r Amoriaid Sehon fawr,
ac Og, y cawr o Basan:
A’r un ddinystriad arnynt aeth,
a holl frenhiniaeth Canan.


12
A’i holl diroedd hwyntwy i gyd,
gyd â’i holl fywyd bydol,
I Israel i roi a wnaeth
yn etifeddiaeth nerthol.

13
Dy enw (o Arglwydd) a’th nerth cry’,
a bery yn dragywydd,
Ac o genedl i genedl aeth
dy goffadwriaeth, lywydd.


14
Cans ar ei bobl y rhydd ef farn,
yr Arglwydd cadarn cyfion,
Ac yn ei holl lywodraeth bur,
bydd dostur wrth ei weision.

15
Y delwythau oll, gwaith dwylaw yn,
a dyfais dyn anffyddlon,
O aur ac arian dyn a’i gwnaeth,
o hil cenhedlaeth weigion.


16
O waith dyn, genau rhwth y sydd,
heb ddim llyferydd iddyn:
Ac mae llun llygaid mawr ar led,
a’r rhai’n heb weled gronyn.

17
Drwy glust dynion sydd i bob un,
heb glywed mymryn etto.
Eu safn yn ehang, ac ni chaid
na chwyth, nag enaid yntho.


18
Un fodd a’r delwau fydd y rhaf
a’i gwnelai hwynt â’i dwylo.
Ac nid yw well nâ’r rhai’n yr un,
ynthyn a ymddirietto.

19
Ty Israel na choeliwch chwi:
ty Aron, Lefi ufydd,

20
I’r rhai’n ddim, ond i’r Arglwydd nef,
bendithiwch e’n dragywydd.


21
Bendithier fyth mawr enw’r Ion,
o Seion hen a barchem,
Bendithier moler ei enw fo,
sy’n trigo ynghaer Selem.

136

1

Mawr ddiolch i Dduw am wneuthur a llywodraethu pob peth.

Molwch yr Arglwydd, cans da yw,
moliennwch Dduw y llywydd,
Cans ei drugaredd oddi fry,
a bery yn dragywydd.

2
Molwch chwi Dduw y duwiau’n rhwydd

3
ac Arglwydd yr arglwydi,

4
Hwn unic a wnaeth wrthiau mawr,
drwy ei ddirfawr ddaioni.


5
Gwaeth â’i ddoethineb nef uwchben,

6
a’r ddaiaren a’r dyfredd,
Y rhai yw prif sylwedd y byd,
ac i gyd o’i drugaredd.

Molwch yr Arglwydd (cans da yw)
moliennwch Dduw y llywydd,
Cans ei drugaredd oddi fry,
a bery yn dragywydd.


7
R’ hwn a wnaeth oleuadau mawr,
o’r nef hyd lawr a’i fowredd.

8
[8-9] Haul y dydd, â’r lleuad y nos,
i ddangos ei drugaredd.

9

10
’Rhwn a drawodd yr Aipht iw ddig,
a’r blaen-anedig ynthi,

11
Ac a ddug Israel i’r daith,
ac ymmaith o’i holl gyni.

12
A hyn drwy law gref a braich hir,
o rym ei wir ogonedd:

13
A hollti’r mor coch yn ddwy ran,
o anian ei drugaredd.

14
Dug Israel i’r lan yn wych,
fel dyna ddrych gorfoledd:

15
Yscyttian Pharo, a’i holl lu,
a hyn a fu’i drugaredd.

Molwch yr Arglwydd (cans da yw) moliennwch &c.


16
A dwyn ei bobloedd yn ddichwys,
drwy wledydd dyrys anian:

17
Taro brenhinoedd er eu mwyn,
ac felly eu dwyn hwy allan.

18
Lladd llawer brenin cadarn llon,

19
sef Sehon yr Amoriaid:

20
Ac Og o Basan yn un wedd,
o’i fawr drugaredd dibaid.


21
A’i holl diroedd hwyntwy i gyd,
eu rhoi yn fywyd bydol

22
I Israel ei was a wnaeth,
yn etifeddiaeth nerthol.

Molwch yr Arglwydd (cans da yw) moliennwch &c.


23
Hwn i’n cystudd a’n cofiodd ni,
o’i fawr ddaioni tirion.

24
Ac a’n hachubodd yn ddi swrth
oddiwrth ein holl elynion.

25
Yr hwn a ymbyrth bob rhyw gnawd,
yn ddidlawd o’i drugaredd.

26
Clodforwch Dduw brenin y nef,
rhowch iddo ei ogonedd.


27
Molwch Arglwydd yr arglwyddi,
uwchben pob rhi o fowredd,
Duw’r duwiau, Ior uwchben pob Ion,
a ffynnon y drugaredd.

Molwch yr Arglwydd cans da yw, molienwch Dduw y llywydd, &c.

137

1

Yr Israeliaid yn eu caethiwed (wrth glywed y Caldeaid yn cablu Duw) sydd yn dymuno ar Dduw gosbi yr Edomiaid, y rhai a barasent i wyr Babel greuloni wrthynt: a prophwydoliaeth am ddinistr Babel.

Pan oeddym gaeth yn Babilon,
ar lan prif afon groyw,
Mewn coffadwriaeth am Seion,
hidlason ddagrau’n loyw.

2
Rhoddasom ein telynau’n ’nghrog,
ar goed canghennog irion.
Lle yr oedd preniau helyg plan,
o ddeutu glann yr afon.


3
Y rhai a’n dug i garchar caeth,
ini yn ffraeth gofynnen:
A ni’n bruddion, gerdd i Seion,
sywaeth peth nis gallen:

4
O Dduw pa fodd y canai neb,
(rhoem atteb yn ystyriol)
I chwi o gerdd ein Harglwydd Dâd,
a ni mewn gwlad estronol?


5
Os â Chaersalem o’r cof mau,
anghofied dehau gany:

6
Na throed fy nhafod, oni bydd,
hi’n ben llawenydd ymy.

7
Cofia di Dduw, blant Edom lemm,
yn nydd Caersalem howddgar.
Noethwch dynoethwch (meddei rhai’n)
ei mur a’i main i’r ddaiar.


8
Bydd gwyn eu byd i’r sawl a wnel
iti merch Babel rydost,
Yr unrhyw fesur, gan dy blau,
i minnau fel y gwnaethost.

9
Y sawl a gymro dy blant di,
bo’r rhei’ni fendigedig,
Ac a darawo’r eppil tan,
a’i pennau wrth y cerrig.

138

1

Dafydd yn canmol daioni Duw tuag atto ef, ac yn gweled drwy ei ffyrdd y cai efe gymaint daioni gan Dduw rhag llaw, ac o’r blaen.

Rhof fawrglod iti, fy Nuw Ion,
o ddyfnder calon canaf:
Yngwydd holl Angylion y nef,
â’m hoslef i’th foliannaf.

2
Ymgrymmaf tua’th sanctaidd dy,
dan ganu o’th drugaredd:
A’th enw mawr uwchlaw pob peth,
a’th air difeth wirionedd.


3
Y dydd gelwais arnat ti,
gwrandewaist ti yn fuan:
Yno y nerthaist â chref blaid,
ef enaid i oedd egwan.

4
Doed brenhinoedd y ddaiar hon,
a rhoen yt union foliant:
Addolent oll ein gwir-dduw ni,
cans d’eiriau di a glywsant.


5
Yn ffyrdd yr Arglwydd yr un wedd,
ac am ei fowredd canant:
Gan ddangos drwy’r holl fyd ei fraint,
a maint yw ei ogoniant.

6
Uchel yw’r Ion, etto fe wel
yr ufydd isel ddynion:
A gwyl o hirbell, er eu plau,
y beilch a’r gwarrau sythion.


7
Pe bai yn gyfyng arna’r byd,
ti a’m bywheyd eilwaith:
Gan ystyn llaw i ddwyn dy wâs
oddiwrth rai atcas ymaith.

8
Yr Arglwydd a gyflowna â mi,
Duw dy ddaioni rhag llaw,
Ac yn dragywydd imi dod:
na wrthod waith dy ddwylaw.

139

1

Dafydd er mwyn ei lanhau ei hun, yn dangos nad oes dim yn guddiedig rhag Duw: a thrwy ddangos ei serch tuag at Dduw, y mae efe yn ymroi i fod yn elyn i’r rhai a wrthwynebant Dduw.

Arglwydd, manwl y chwiliaist fi,
da i’m adwaeni hefyd:

2
Eisteddiad, codiad, gwyddost hyn,
a’m meddwl cyn ei dwedyd.

3
Yr wyd ynghylch fy lloches i,
a’m ffyrdd sydd itti’n hysbys:

4
Nid oes air nas gwyddost ei fod
ar flaen fy nhafod ofnys.


5
O’m hol ac o’m blaen i’m lluniaist,
dy law a ddodaist arnaf:

6
Gwybodaeth ddieithr yw i mi,
a’i deall hi nis medraf.

7
I ba le r’af fi i roi tro,
i’mguddio rhag dy Yspryd?
I ba le ffoaf rhag dy wydd,
drwy gael ffordd rwydd i lathlyd?


8
Os dringaf tua’r nefoedd fry,
wyd yno i’th dy perffaith:
Os tua’r dyfndwr, gostwng tro
yr wyt ti yno eilwaith.

9
Pe cawn adenydd borau wawr,
a mynd i for mawr anial,

10
Yno byddai dy ddehau di,
i’m tywys i a’m cynnal.


11
A phe meddyliwn, yr ail tro,
ymguddio mewn tywyllwg,
Canol y nos fel hanner dydd,
mor olau fydd yn d’olwg.

12
Nid dim tywyllwch nos i ti
nag yw goleuni haf-ddydd:
A’r ddau i ti maent yr un ddull,
y tywyll a’r goleu-ddydd.


13
Da y gwyddost y dirgelwch mau,
f’arennau a feddiennaist,
Ynghroth fy mam pan oeddwn i,
yno dydi a’m cuddiaist.

14
Cans rhyfedd iawn y gwnaethbwyd fi,
a’th waith di sy ryfeddod:
A’m henaid a wyr hynny’n dda
a hon a wna yt fowrglod:


15
Ni chuddiwyd fy ngrym rhagot ti,
pan wnaethost fi yn ddirgel,
Fel llunio dyn o’r ddaiar hon,
o fewn pridd eigion isel.

16
Dy lygaid gwelsant fy nhrefn wael,
cyn imi gael perffeith-lun:
Roedd pob peth yn dy lyfr yn llawn,
cyn bod yn iawn un gronun.


17
Mor anwyl dy feddyliau ym,
mor fawr yw sum y rhei’ni:

18
Wrth fwrw, amlach gwn eu bod
na’r tywod o rifedi.
Myfyrio pan ddeffrowyf fi,
’r wyf gyd’â thi yn gwblol.

19
O Dduw, ba achos yn dy lid,
na leddid yr annuwiol?

O Dduw pe cospid rhai o’r rhai’n
y sydd yn arwain traha:
Wrth y gwaedlyd fo gaid dwedyd,
dydi dos oddiymma.

20
Y rhai am danad f’Arglwydd cu,
sy’n treuthu pethau sccler:
A’th elynion dibris eu llw,
cymrasant d’enw’n ofer.


21
Ond câs yw gennif, o Dduw Ion,
dy holl gaseion gwaedlyd:
Ond ffiaidd gennyf fi bod dyn,
a ai yn d’enw hefyd:

22
A llawn gâs y caseais hwynt,
ynt fel ar bwynt gelynion.

23
O chwilia fi o Dduw yn hy,
cei hynny yn fy nghalon.

Duw prawf fy meddwl i’n fy mol

24
oes ffordd annuwiol genny:
Gwel fi, tywys, dwg fi yn f’ol,
dod ffordd dragwyddol ymy.

140

1

Dafydd yn achwyn wrth Dduw rhag dichellion ei elynion: a chan ei siccrhau ei hun o gymorth Duw, mae efe yn annog y cyfion i foli Duw eu helpwr.

Rhag y gwr drwg gwared fi (Ner,)
rhag gwr y trowsder efrydd,

2
Rhai sy’n bradychu yn ddirgel,
a chasglu rhyfel beunydd.

3
Fel colyn sarph yn llithrig wau,
yw eu tafodau llymion:
Gwenwyn yr Asp sydd yn parhau
dan eu gwefusau creulon.


4
Rhag y dyn drwg, rhag y gwr traws,
sy’n myfyr lliaws faglau,
Duw gwared fi, rhag gosod brâd,
ynghylch fy ngwastad lwybrau.

5
Y beilch cuddiasant fagl a rhwyd,
wrth hon gosodwyd tannau:
Ar draws fy ffyrdd i ddal fy ’nrhoed,
ynghudd, y rhoed llinynnau.


6
Dwedais wrth f’Arglwydd fy Nuw wyd,
tyn fi o’i rhwyd a’i maglau:
O gwrando’n fuan f’Arglwydd nef,
ar brudd lef fy ngweddiau.

7
Fy Arglwydd yw fy nerth i gyd,
a’m coel a’m iechyd calon:
Ti a roist gudd tros fy mhen mau,
yn nydd yr arfau gloywon.


8
I’r dyn annuwiol, Duw, na âd
ddymuniad drwg ei ’wyllys:
Rhag ei wneuthur efo yn gry,
a’i fynd yn rhy drahâus.

9
A’i holl ddymuniad drwg i mi,
a’i rhegen weddi greulon,
Y rhai’n yn llwyr a ddont ymmhen
y capten o’m caseion.


10
Syrthied arnynt y marwor tân,
ac felly llosgan ymaith,
Bwrier hwynt mewn cau ffosydd nant,
fel na chyfodant eilwaith.

11
Dyn llawn siarad fydd anwastad,
ni eistedd ef yn gryno:
A drwg a ymlid y gwr traws,
o hyn mae’n haws ei gwympo.


12
Da y gwn y rhydd yr Arglwydd dâl
i ddial cam y truan:
Ac yr iawn farna y dyn tlawd
sy’n byw ar gerdawd fechan.

13
Y rhai cyfiawn drwy yr holl fyd,
dy enw a gyd-foliannant:
A’r holl rai union, heb ofn neb,
o flaen dy wyneb trigant.

141

1

Dafydd pan oedd Saul yn ei erlid, yn dymuno help gan Dduw: a ddioddefgarwch, nes passio’r erlid hwnnw.

O Bryssia Arglwydd, clyw fy llais,
o brysur gelwais arnad:
O’r man lle’y bwyf gwrando fy llef,
a doed i’r nef hyd attad.

2
Fy ngweddi gar dy fron a ddalw,
gan godi dwylaw’n uchel,
Yn arogl darth ac aberth hwyr,
fel union ddiwyr lefel.


3
O Arglwydd gosod, rhag gair ffraeth,
gadwriaeth ar fy ngenau,
Rhag i’m gam-ddwedyd, gosod ddor
ar gyfor fy ngwefusau.

4
Na phwysa ’nghalon at ddrwg beth,
ynghyd-bleth â’r annuwiol:
Nag mewn cydfwriad gwaith neu wedd,
rhag twyll eu gwledd ddaintethol.


5
Boed cosp a cherydd y cyfiawn,
fel olew gwerthlawn arnaf:
Ni friw fy mhen, bo mwyaf fo,
mwy trosto a weddiaf.

6
Eu barnwyr pe bwrid i’r llawr,
ar greigiau dirfawr dyrys:
Gwrandawent ar f’ymadrodd i,
a chlywent hi yn felys.


7
Fel darnau cynnyd o goed mân,
a fwrian rhyd y ddaiar,
Mae’n hesgyrn ninnau yr un wedd,
ym mron y bedd ar wasgar.

8
Mae ’ngolwg a’m holl obaith i,
Duw, arnat ti dy hunan:
Duw bydd di’n unic yn fy mhlaid,
na fwrw f’enaid allan.


9
Cadw fi Arglwydd rhag y rhwyd,
hon a osodwyd ymy,
Telm yr annuwiol, hoenyn main,
rhag ofn i’r rhain fy magly.

10
Yr anwireddwyr b’ado un,
cwympant eu hun iw rhwydau,
Ymddiried ynot ti a wnaf,
ac felly diangaf innau.

142

1

Dafydd, er nag ofn na dig, yn arbed Saul, ac yn gweddio ar Dduw ei geidwad.

Rhois weddi ar yr Arglwydd nef,
yn llym fy llef ymbiliais:

2
A’m holl fyfyrdod gar ei fron,
o’m calon y tywelltais.

3
Ond pan fynegais it fy nghur,
a’m dolur o’m meddyliau,
Da gwyddit ti bob ffordd a’r man,
y rhoesan i mi faglau.


4
O’r tu deau nid oedd ym’ neb,
trown f’wyneb, a’m hadwaenai,
Pa nawdd, na neb, o du’n y byd,
fy mywyd a ’mgeleddai.

5
Arno llefais, wrthyt dwedais,
Duw, di a ydwyd union:
Fy nghwbl obaith wyt yn wir,
a’m rhan yn nhir y bywion.


6
O ystyr Arglwydd, faint fy nghri,
wyf mewn trueni digllon:
Rhag fy erlidwyr gwared fi,
mae rhei’ni yn rhy gryfion.

7
O garchar caeth fy enaid tynn,
dy enw am hyn a folaf:
Pan weler dy fod ar fy rhan,
y cyfion twysgan attaf.

143

1

Gweddi am faddeuant pechodau. Dymuno cael ei dderbyn i drugaredd, a chael Yspryd Duw iw gadw hyd ddiwedd ei fywyd.

Erglyw fy arch, o Arglwydd mâd,
wyf arnad yn gweddio:
O’th wirionedd, a’th gyfiownedd,
gofynnaf yt fy ngwrando.

2
Ac na ddos i’r farn â’th wâs gwael,
(pa les i’m gael cyfiownder?)
Am nad oes dyn byw gar dy fron
yn gyfion pan ei teimler.


3
Y gelyn a erlidiodd f’oes,
mewn llwch i’m rhoes i orwedd:
Fal y rhai meirwon a fai’n hir,
is tywyll dir a’i hannedd.

4
Yna fy ysbryd, mewn blin ing,
a fu mewn cyfing-gyngor:

5
Ac ar fy nghalon drom daeth braw:
ond wrth fyfyriaw rhagor.

Mi a gofiais y dyddiau gynt,
a helynt gwaith dy ddwylo:
Am hyn myfyriais, fy Nuw Naf,
am hyn myfyriaf etto.

6
Fy nwylaw attad rhois ar led,
lle y mae f’ymddiried unig:
Am danad f’enaid sydd yn wir,
un wedd â’r tir sychedig.


7
Yn ebrwydd gwrando fi yn rhodd,
o Arglwydd, pallodd f’yspryd:
Rhag imi fyned i’r pwll du,
fel rhai a ddarfu eu bywyd.

8
Par i’m ar frys glywed dy nawdd,
cans ynot hawdd y credais:
A dysg i’m rodio dy ffyrdd rhâd,
cans f’enaid attad codais.


9
A gwared fi fy Nuw, a’m Ion,
rhag fy ngelynion astrys:
Am fod fy lloches gydâ thi:

10
o dysg i mi d’ewyllys:
Cans tydi ydwyt y Duw mau,
boed d’ Yspryd tau i’m tywys
Ar yr uniondeb yn y tir,
dyma dy wir ewyllys.


11
Duw, er mwyn d’enw fi bywhâ,
a helpa f’enaid tyner:
Allan o ing Duw cais ei ddwyn,
ac er mwyn dy gyfiownder.

12
A gwna ar yr elynol blaid,
caseion f’enaid, gerydd:
Difetha hwynt er mwyn dy râs,
cans mi wyf dy was ufydd.

144

1

Dafydd yn moli Duw am iddo ynnill ei dyrnas, ac y mae fe yn dymuno eu tâl i’r annuwiol: ac yn dangos beth yw happus-rwydd cenedl.

Bendigaid for Arglwydd fy nerth,
mor brydferth yr athrawa
Fy nwylo’i ymladd, a’r un wedd,
fy mysedd i ryfela.

2
Fy nawdd, fy nerth, fy nug, fy nghred,
fy nhwr, f’ymwared unig:
Cans trwyddo ef fy mhobl a gaf
tanaf yn ostyngedig.


3
Pa beth yw dyn, dywaid o Dduw,
pan fyddyt iw gydnabod?
A mab dyn pa beth ydyw fo,
pan fych o hono’n darbod?

4
Pa beth yw dyn? peth yr un wedd
a gwagedd heb ddim honno:
A'i ddyddiau’n cerdded ar y rhod,
fal cysgod yn myned heibio.


5
Gostwng y nefoedd: Arglwydd da,
ac edrych draha dynion:
Duw cyffwrdd a’r mynyddoedd fry,
gwna iddynt fygu digon.

6
Iw gwasgar hwynt gyrr fellt i wau,
iw lladd gyrr saethau tanbaid.

7
Discyn, tyn fi o’r dyfroedd mawr:
hyn yw, o law’r estroniaid.


8
Duw gwared fi. Geneuau ’rhai’n
a fydd yn arwain gwegi:
A'i dehau law sy yr un bwyll,
ddeheulaw twyll, a choegni.

9
I ti Dduw, canaf o fawrhad,
yn llafar ganiad newydd:
Ar nabl, ac ar y deg-tant,
cei gerdd o foliant beunydd.


10
Duw i frenhinoedd rhoi a wnaeth,
ei swccraeth at iawn reol:
Dan ymwared Dafydd ei was,
rhag cleddyf cas niweidiol.

11
Duw gwared, achub fi wrth raid,
rhag plant estroniaid digus:
A’i safn yn llawn o ffalsder gau,
ba’i dehau yn dwyllodrus.


12
Bydd ein meibion mal planwydd cu,
o’r bon yn tyfu’n iraidd:
A’n merched ni fel cerrig nadd,
mewn conglau neuadd sanctaidd.

13
A’n conglau’n llawnion o bob peth,
a’n defaid, difeth gynnydd,
Yn filoedd (mawr yw’r llwyddiant hwn)
a myrddiwn i’n heolydd.


14
A’n hychen cryfion dan y wedd,
yn hywedd, ac yn llonydd:
Heb dorr na soriant i’n mysg ni,
na gwdeiddi i’n heolydd.

15
Dedwydd ydyw y bobl y sy,
a phob peth felly ganthynt:
Bendigaid yw’r bobl y rhai’n yw,
a’r Arglwydd yn Dduw iddynt.

145

1

Dafydd yn dangos daioni Duw yn llywodraethu pob creadur. Mawl i Dduw am ei gyfiownder, ai ras, ai serch i bob dyn a’i hofno, ac a’i caro.

Mi a’th fawrygaf di, fy Nuw,
cans tydi yw fy llywydd:
Bendithio dy enw byth a wnaf,
mi a’i molaf yn dragywydd.

2
Dy enw a folaf fi bob dydd,
a’th glod a fydd heb orphen.

3
Yr Arglwydd sydd glodfawr heb wedd,
a’i fowredd sydd heb ddiben.


4
Cenedl wrth genedl a ront fawl
i’th ogoneddawl wrthiau:
Gan danu dy nerth rhyd y byd,
a dwedyd dy gynneddfau.

5
Am dy ogonedd mawr, fy Naf,
mynegaf, a’th gadernyd.

6
Son am dy bethau ofnadwy,
gwnant hwy a minnau hefyd.


7
Llwyr goffadwriaeth honot ti,
a’th fawr ddaioni traethant:
Ac o’th gyfiownder, fy Nuw Ion,
a llafar don y canant:

8
Sef graslawn yw ein Arglwydd ni,
ac o dosturi rhyfedd:
Hwyr ac anniben yw i ddig:
llawn-frydig i drugaredd.


9
Da yw yr Arglwydd i bob dyn,
a’i nodded sy’n dycciannol:
Ac ar ei holl weithredoedd ef
daw nawdd o’r nef yn rasol.

10
Dy holl weithredoedd di i’th lwydd,
o Arglwydd a’th glodforant:
Dy wyrth pan welo dy Sainct di,
y rhei’ni a’th fendithiant.


11
Gan son am drugaredd a grâs
dy dyrnas, a’i chadernyd:
Fal dyna’r gerdd sydd yn parhau,
yn eu geneuau hyfryd.

12
Fel y parent drwy hyfryd glod,
gydnabod a’th dyrnasiad:
A’th nerth ym mysg holl ddynol blant,
a’th lawn ogoniant gwastad.


13
Brenhiniaeth dy dyrnas di fry,
a bery yn wastadol:
A’th lywodraeth o oed i oed,
hon a roed yn dragwyddol.

14
Yr Arglwydd cynnal ef yn llonn,
y rhai sy ’mron eu cwympod.
Ac ef a gyfyd bawb yn wir,
ar a ostyngir isod.


15
Wele, mae llygaid yr holl fyd
yn disgwyl wrthyd Arglwydd,
Dithau a’i porthi hwynt i gyd,
bawb yn ei bryd yn ebrwydd.

16
A phan agorech di dy law,
o honni daw diwall-faeth:
D’ewylls da yw ymborth byw,
a hynny yw eu llyniaeth.


17
Holl ffyrdd yr Arglwydd cyfion ynt,
a’i wrthiau ydynt sanctaidd:

18
Agos iawn i bawb ydyw fo,
a eilw arno’n buraidd.

19
Sef ar y gwyr a’i hofnant ef,
fo glyw eu llef iw gwared,
Fo rydd eu ’wyllys hwynt a’i barch,
o’i wir-barch, Ion gogoned.


20
Pob dyn a garo’r Arglwydd nef,
caiff gantho ef ei ’mddiffyn:
A chan difetha rhydd oes ferr,
i bob ysceler cyndyn.

21
Fy enaid traethed fendith rhwydd,
a mawl yr Arglwydd nefol:
A phob cnawd rhoed iw enw, y Sanct,
ogoniant yn dragwyddol.

146

1

Na all neb ymddiried i ddyn, ond yn Nuw hollalluog, yr hwn a weryd y cystuddiedig, a byrth y tylodion, a ryddha y carcharorion, a gyssura yr ymddifad, y weddw, a’r dieithr: ac sydd frenin yn dragywydd.

Fy enaid mola’r Arglwydd nef,

2
Mi ’ai molaf ef i’m bywyd:
Dangosaf glod i’m Harglwydd Dduw,
tra gallwyf fyw na symmyd.

3
Na wnech hyder ar dwysogion,
nac ar blant dynion bydol:
Am nad oes ynddynt hwy i gyd,
na help nac iechyd nerthol.


4
Pan el y ffun o’r genau gwael,
a’r corph i gael daiar-lan:
Felly dychwel, fel dyna’r dydd
y derfydd ei holl amcan.

5
Y pryd hwn gwyn ei fyd efo
a rotho ei holl obaith
Ar Dduw Jaco yn gymorth da,
pan el oddi yma ymaith.


6
Hwn Dduw a wnaeth nef, dayar, mor,
a’r holl ystor sydd ynthynt:
Hwn a saif yn ei wir ei hun,
pryd na bo un ohonynt.

7
Yr hwn i’r gwael a rydd farn dda,
a bara i’r newynllyd,
Fe ollwng Duw y rheidus gwâr,
o’i garchar ac o’i gaethfyd.


8
Yr Arglwydd egyr llygaid dall,
ef a dyr wall gwael ddynion:
Ymgleddu’r gwan mae’n Harglwydd ni,
a hoffi y rhai cyfion.

9
Dieithraid, a’r ymddifad gwan,
a’r weddw druan unig,
Duw a’i pyrth: ond dyrysu wnai
holl ffyrdd pob rhai cythreulig:


10
Yr Arglwydd yn teyrnasu a fydd,
dy Dduw tragywydd Seion:
O oes i oes pery dy lwydd:
molwch yr Arglwydd tirion.

147

1

Mae’r prophwyd yn moli amryw ddaioni Duw tuag at ei greaduriaid, ac yn enwedig eu eglwys, yr hon a gasclwyd, ac a gafas ragor ddaioni rhagor vn bobl eraill.

Molwch yr Arglwydd, cans da yw
canu i Dduw yn llafar:
O herwydd hyfryd yw ei glod,
a da yw bod yn ddiolchgar.

2
Caersalem dinas gyflawn fydd
yr Arglwydd sydd iw darpar:
Can gasglu Israel ynghyd,
a fu drwy’r byd ar wasgar.


3
Yr unic Arglwydd sy’n iachâu,
yn rhydd o friwiau’r galon:
Yr Arglwydd rhwym ’cu brwiau’n iawn
y rhai dolur-lawn cleifion.

4
Yr Arglwydd sydd yn rhifo’r ser,
a phob rhyw nifer honynt:
Ef a’i geilw hwynt oll yn glau,
Wrth briod enwau eiddynt.


5
Mawr yw ein Arglwydd ni o nerth,
a phrydferth o rasoldeb:
Ac mae’n bell iawn uwch ben pob rhif,
son am ei brif ddoethineb.

6
Yr Arglwydd unic sydd yn dal
i gynnal y rhai gweiniaid,
Ac ef a ostwng hyd y llawr
y dorf fawr annuwioliaid.


7
Cenwch i’r Arglwydd mal y gwedd,
clodforedd iddo a berthyn:
O cenwch, cenwch gerdd i’n Duw,
da ydyw gyda’r delyn.

8
Hwn â chymylau troes y nen,
â glaw’r ddayaren gwlychodd,
I wellt gwnaeth dyfu ar y fron,
a llysiau’i ddynion parodd.


9
Hwn i’r anifael ar y bryn
a rydd yr hwn a’i portho:
Fe bortha gywion y cigfrain,
pan fo’nt yn llefain arno.

10
Nid oes gantho mewn grym un march,
na serch na pharch, na phleser:
Nac mewn esgair, neu forddwyd gwr,
fal dyna gyflwr ofer.


11
Yr Arglwydd rhoes ei serch ar ddyn,
yr hwn y sy’n ei hoffi:
Ac sydd yn disgwyl cael ei nawdd,
caiff hwn yn hawdd ddaioni.

12
O Caersalem gyfiawn o lwydd,
molianna’r Arglwydd eiddod:
O Seion sanctaidd, dod un wedd
i’th Dduw glodforedd barod.


13
Herwydd yr Arglwydd â’i fawr wyrth
a wnaeth dy byrth yn gryfion:
A rhoes ei fendith, a thycciant,
ymlhith dy blant a’th wyrion.

14
Hwn a roes heddwch yn dy fro,
fel y cynnyddo llwyddiant,
Ac a ddiwallodd yn eich plith,
o frasder gwenith, borthiant.


15
Ei orchymyn ef a ddenfyn,
o’i ddown-fawr air cymhesur,
Hwn ar y ddaiar â ar led,
ac yno rhed yn brysur.

16
Eirch i’r eira disgyn fel gwlân:
eirch rew, fe’i tân fel lludw,

17
Eirch ia, fe ddaw yn defyll cri,
pwy’ erys oerni hwnnw?


18
Wrth ei air eilwaith ar ei hynt,
fe bair i’r gwynt ochneidio
I doddi’r rhai’n, ac felly bydd
i’r holl afonydd lifo.

19
Grym ei air, a’i ddehaulaw gref,
a ddengys ef i Jaco:
A’i ffydd a’i farn i Israel,
a’r rhai a ddel o hono.


20
Ni wnaeth efe yn y dull hwn,
â neb rhyw nassiwn arall;
Ni wyddent farnu’r Arglwydd nef.
O molwch ef yn ddiball.

148

1

Mae efe yn annog pob creadur, o bob lle i foli Duw, yn enwedig am ei ddaioni i Israel.

O molwch yr Arglwydd o’r nef,
rhowch lef i’r uchel-leoedd.

2
Molwch hwn holl angylion nef,
molwch ef ei holl luoedd.

3
Yr haul, a’r lleuad, a’r holl ser,
y gloywder, a’r goleuni,

4
Nef y nefoedd, a’r ffurfafen,
a’r deifr uwch ben y rhei’ni.


5
Moliannant enw’r Arglwydd nef,
hwynt â’i air ef a wnaethbwyd.
Dwedodd y gair, a hwy fal hyn
ar ei orchymmyn crewyd.

6
Rhoes reol iddynt i barhau,
fel deddfau byth iw dilyn:
Rhoes bob peth yn ei le’n ddi os,
nad elo dros ei derfyn.


7
Molwch yr Arglwydd o’r ddayar,
chwychwi ystrwgar ddreigiau,

8
Y tân, a’r cenllysg, eira, a tharth,
a’r gwynt o bob parth yntau,

9
Mynyddoedd, bryniau, ffrwythlon wydd
a’r tirion gedrwydd brigog,

10
An’feiliaid, ac ymlusgiaid maes,
ac adar llaes asgellog.


11
Brenhinoedd dair, barnwyr byd,
swyddwyr ynghyd â’r bobloedd,

12
Gwyr ieuainc, gwyryfon, gwyr hen,
pob bachgen ym mhob oesoedd.

13
Molant ei enw ef ynghyd,
uchel a hyfryd ydoedd,
Ei enw ef sydd uchel ar
y ddaiar oll, a’r nefoedd.


14
Cans corn ei bobl a dderchafawdd,
yn fawl a nawdd i’r eiddo,
I Israel ei etholedig,
a drig yn agos atto.

149

1

Cyngor i’r eglwys i foli Duw am oruchafiaeth y Sainct.

Cenwch i’r Arglwydd, ac iawn fydd,
ryw ganiad newydd rhyfedd:
A chlywer ynghynlleidfa’r Sainct,
ei fawr fraint a’i orfoledd.

2
Boed Israel lawen a ffraeth,
yn Nuw a’u gwnaeth yn ddibrin:
A byddant hyfryd blant Seion,
yn Nuw eu tirion frenin.


3
Molant ei Enw ar y bibell,
a thympanell, a thelyn:

4
Cans bodlon iw bobl yw i gyd,
rhydd iechyd i’r lledneus-ddyn.

5
Iw Sainct ef doed gorfoledd iawn,
a hon yn llawn gogoniant,
Yn eu gweiau, (yn llawn ddull)
ac yn eu stefyll canant.


6
Yn eu genau bydd cerdd bob awr,
ein Duw a’i fawr ryfeddod,
Ac yn eu dwylaw bydd iw drin,
y cleddyf deufin parod:

7
Ar estroniaid i’n dial ni,
ac i gosb boeni’r bobloedd:

8
I roi mewn caethder gadwyn dro,
i rwymo ei brenhnioedd.

I roi eu pendefigion chwyrn,
mewn gefyn heyrn ffyrnig.

9
I wneuthur arnynt union farn,
yn gadarn scrifennedig.
Dymma’r glân ardderchwgrwydd fydd
iw Sainct y sydd yn credu;
Clodforwch oll yr Arglwydd nef,
o molwch ef am hynny.

150

1

Mae yn annog i foli Duw yn ddibaid â phob cerdd, am ei weithredoedd mowrion.

Molwch Dduw yn ei gyssegr len,
sef ei ffurfafen nerthol,

2
Molwch ef iw gadernid llym,
ac amlder grym rhagorol.

3
Ar lais udcorn rhowch y mawl hyn,
ar nabl, telyn, Tympan.

4
Molwch chwi ef â llawn glod glau,
a thannau, pibell, organ.


5
Ar symbalau molwch ef,
ar rhai’n â’i llef yn sein-gar:
O molwch ef â moliant clau,
ar y Symbalau llafar.

6
Holl bethau (molent unduw byth)
sydd ynthynt chwyth y bywyd.
Rhoent gyd-gerdd foliant i barhau:
clodforwn ninnau hefyd.

Gogonedd a fytho i’r Tâd,
i’r Mab rhad a’r glân Yspryd:
Mal y bu, y mae, ac y bydd
yn Duw tragywydd hyfryd.