1

1

Y Ddwy ffordd

Sanctus 87.87.D

[1-2] Gwyn ei fyd y sawl na ddilyn
Gyngor drwg, na loetran chwaith
Ar y ffordd lle y tramwya
Pechaduriaid ar eu taith,
Na chydeistedd â gwatwarwyr,
Ond sy’n cadw cyfraith Duw,
Ac yn dwfn fyfyrio arni
Beunydd beunos tra bo byw.


2

3
[3-4] Bydd fel coeden wedi’i phlannu
Ar lan dŵr, yn dwyn ffrwyth da
Yn ei phryd, a’i dail heb wywo.
Llwydda ym mhob peth a wna.
Nid fel hynny y drygionus,
Ond fel us a yrr y gwynt,
Yn ymdroelli yn yr awyr
Cyn diflannu ar ei hynt.


4

5
[5-6] Felly, ni saif y drygionus
Yn y farn a ddaw ryw ddydd,
Ac yng nghynulleidfa’r cyfiawn
Pechaduriaid byth ni bydd.
Y mae’r Arglwydd da yn gwylio
Ffordd y cyfiawn ar bob llaw,
Ond mae ffordd y rhai drygionus
Yn diflannu a darfod draw.

2

1

Duw a’r cenhedloedd

Clawdd Madog 76.76.D

[1-2] Paham y mae’r cenhedloedd
Yn derfysg oll i gyd,
A’r bobloedd yn cynllwynio
Yn ofer ledled byd?
Brenhinoedd, llywodraethwyr,
Yn trefnu byddin gref
Yn erbyn Duw, yr Arglwydd,
A’i fab eneiniog ef.


2

3
[3-6] “Fe ddrylliwn ni eu rhwymau
A’u rhaffau,” yw eu cri;
Ond chwerthin y mae’r Arglwydd,
A’u gwatwar yn eu bri.
Llefara yn ei ddicter,
A’u llenwi oll â braw:
“Gosodais i fy mrenin
Ar fynydd Seion draw.”


4

5

6

7
[7-9] “Adroddaf,” meddai’r brenin,
“Ddatganiad Duw i mi:
‘Fi a’th genhedlodd heddiw.
Yn wir, fy mab wyt ti,
Rhof iti’n etifeddiaeth
Y gwledydd yn ddi-lai.
Fe’u drylli â gwialen haearn,
A’u malu fel llestr clai.’”


8

9

10
[10-12] Yn awr, frenhinoedd, pwyllwch,
A rhowch, heb dywallt gwaed,
Wasanaeth gwiw i’r Arglwydd;
Cusanwch oll ei draed.
Rhag iddo ffromi a’ch difa,
Cans chwim yw llid Duw’r nef.
Gwyn fyd y rhai sy’n gwneuthur
Eu lloches ynddo ef.

3

1

Hyder mewn adfyd

Bod Alwyn MB

[1-2] Mae fy ngelynion lu,
Yn uchel iawn eu llef,
Yn holi’n goeglyd, “Pam na ddaw
Ei Dduw i’w achub ef?”


2

3
[3-4] Ond yr wyt ti, fy Nuw,
Yn darian gref i mi.
Gwaeddaf yn uchel arno ef;
Fe etyb yntau ’nghri.


4

5
[5-6] Mi gysgaf, a deffrôf,
Am fod fy Nuw o’m tu.
Nid ofnwn fyrddiwn o rai drwg.
Nac ymosodiad llu.


6

7
[7-8] Fe drewi di’r rhai drwg,
A thorri’u dannedd llym.
Ti biau’r waredigaeth fawr.
Bendithia ni â’th rym.

4

1

Duw’n gynhaliaeth

Eirinwg 98.98.D

[1-4] O Dduw, a’m gwaredaist i droeon
O’m blinder, clyw ’ngweddi yn awr.
Clywch chwithau, sy’n gwawdio f’anrhydedd
A charu celwyddau mor fawr:
Mae’r Arglwydd yn gwneud rhyfeddodau
I’r ffyddlon, a’i weddi a glyw.
Pa werth colli cwsg mewn dicllonedd?
Na phechwch, distewch gerbron Duw.


2

3

4

5
[5-8] O rhowch eich holl ffydd yn yr Arglwydd,
Offrymwch aberthau sydd iawn.
Llewyrched yr Arglwydd oleuni
Ei wyneb ef arnom yn llawn.
Rwy’n llonnach na chwi, er digonedd
Cynhaeaf eich grawnwin a’ch ŷd.
Gorweddaf mewn heddwch, a chysgu:
Yr Arglwydd a’m cynnal o hyd.

5

1

Duw biau barnu

Bishopthorpe MC

[1-3] O gwrando ’ngeiriau, Arglwydd da,
Ystyria ’nghwyn, a chlyw
Fy nghri am gymorth gennyt ti,
Fy Mrenin i a’m Duw.


2

3

4
[4-5a] Disgwyliaf am y bore bach,
Pan glywi di fy llais.
Ni saif y drwg yn d’wyddfod byth,
Ni hoffi neb trahaus.


5
[5b-6] Difethi di’r celwyddgwn oll,
Casei bob drwg a wnaed.
Ffieiddia Duw’r twyllodrus rai,
A’r sawl sy’n tywallt gwaed.


6

7
[7-8] Ond gan mor fawr dy gariad, dof
I’th deml i gadw’r oed;
Yn dy gyfiawnder arwain fi,
Gwna union ffordd i’m troed.


8

9
[9-10] Nid oes ar eiriau’r drwg ddim coel,
Mae’u llwnc fel beddrod du;
Boed aflwydd iddynt, cosba hwy
Am eu pechodau lu.


10

11
[11-12] Ond llawenhaed a chaned pawb
Sy’n caru d’enw drud.
Bydd tarian ffafr dy fendith dros
Y cyfiawn yn y byd.

6

1

Gweddi mewn cyfyngder

Moab 65.65.66.65

[1-3] O Arglwydd, yn dy ddig,
Paid â’m ceryddu,
Ond trugarha, fy Nuw,
Cans rwy’n clafychu.
O tyred i’m hiacháu;
Brawychwyd f’esgyrn brau;
Arswydaf a thristáu.
Pa hyd y pery?


2

3

4
[4-7] O Arglwydd, gwared fi,
Yn d’ofal ffyddlon,
Cans pwy all yn y bedd
Dy foli o galon?
Fy ngwely’n foddfa sydd
Gan ddagrau nos a dydd,
A phŵl fy llygaid prudd
Gan fy ngelynion.


5

6

7

8
[8-10] Ewch ymaith, chwi rai drwg,
Sy’n fy mhoenydio,
Oherwydd clywodd Duw
Fi’n beichio wylo.
Gwrandawodd arnaf fi,
Derbyniodd ing fy nghri.
Fe ddrysa’ch cynllwyn chwi,
A’ch cywilyddio.

7

1

Cwyn un a gyhuddwyd ar gam

Elliot 98.98.D

[1-5] Fy Nuw, ynot ti y llochesaf,
Boed iti f’amddiffyn yn lew
Rhag dyfod fy holl wrthwynebwyr
I’m darnio a’m llarpio fel llew.
O Arglwydd, os bûm yn dwyllodrus,
Os brifais fy ngelyn heb raid,
Boed iddo ddifetha fy einioes,
A sathru f’anrhydedd i’r llaid.


2

3

4

5

6
[6-11] Tyrd, Arglwydd, i farnu ’ngelynion,
A saf yn eu herbyn mewn llid.
Ymgasgled y bobl o’th amgylch,
A thi uwch eu pennau i gyd.
Ond barna fi’n ôl fy nghyfiawnder,
Difetha ddrygioni o’r tir.
Dduw cyfiawn, sy’n profi calonnau,
Dyrchafa y cyfiawn a’r gwir.


7

8

9

10

11

12
[12-15] Fe hoga’r drygionus ei gleddyf,
Mae’n plygu ei fwa yn dynn.
Darpara ei arfau angheuol,
A’r tân ar ei saethau ynghyn.
Cenhedlodd ddrygioni a niwed,
Yn awr mae yn esgor ar dwyll.
Bu’n cloddio ei bydew a’i geibio,
Yn awr mae yn syrthio drwy’r rhwyll.


13

14

15

16
[16-17] Daw’n ôl ar ei ben ef ei hunan
Y trais a gynlluniodd er gwaeth,
Ac arno’i hun hefyd y disgyn
Y cyfan o’r niwed a wnaeth.
A minnau, diolchaf i’r Arglwydd
Am ei holl gyfiawnder i gyd,
A chanaf i enw’r Goruchaf
Fy alaw o foliant o hyd.

8

1

Ardderchowgrwydd Duw

Llangloffan 76.76.D

[1-2] O Arglwydd, mor ardderchog
Dy enw drwy’r holl fyd.
Gosodaist dy ogoniant
Goruwch y nef i gyd.
Ond codaist fawl babanod,
Plant sugno bychain, gwan,
I’th warchod rhag d’elynion
A’u trechu yn y man.


2

3
[3-4] Pan welaf waith dy fysedd
Wrth edrych tua’r ne’:
Yr haul a’r sêr a’r lleuad,
A roddaist yn eu lle,
“Pwy ydwyf fi,” gofynnaf,
“A phwy yw dynol ryw,
I ti ofalu amdanom,
A’n cofio, f’Arglwydd Dduw?”


4

5
[5-6] Ac eto, ti a’n gwnaethost
Ychydig bach islaw
Y duwiau; rhoist awdurdod
I ni dros waith dy law.
Coronaist ni â mawredd,
A gosod dan ein traed,
Er ein mwynhad a’n defnydd
Y cyfan oll a wnaed:


6

7
[7-9] Yr ychen yn y meysydd,
Y defaid oll a’r myllt,
A’r anifeiliaid rheibus,
Y pysg a’r adar gwyllt,
A phopeth sy’n tramwyo
Trwy’r dyfroedd oll i gyd,
O Arglwydd, mor ardderchog
Dy enw drwy’r holl fyd.

9

1

Duw’n obaith i’r gorthrymedig

Gwalchmai 74.74.D

[1-3] Diolchaf, Arglwydd, am dy holl
Ryfeddodau.
Try fy ngwrthwynebwyr oll
Yn eu holau;
Ond â mi fe fuost ti’n
Gwbl uniawn.
Eistedd ar dy orsedd fry’n
Farnwr cyfiawn.


2

3

4
[4-8] Cosbaist y drygionus rai,
A’r cenhedloedd;
Difa’u henw a dileu
Eu dinasoedd.
A hyd byth, ar orsedd fawr
Dy uchelder,
Berni bobloedd daear lawr
Mewn cyfiawnder.


5

6

7

8

9
[9-12] Bydded Duw yn noddfa i’r
Gorthrymedig.
Bydd y sawl a’i cais yn wir
Yn gadwedig.
Canwch fawl i’r Arglwydd Dduw.
Ef, Duw Seion,
Yw’r dialydd gwaed a glyw
Waedd ei weision.


10

11

12

13
[13-16] Cod fi, Dduw, o byrth y bedd,
O’m helbulon,
Fel y molaf di mewn hedd
Ym mhyrth Seion.
Maglwyd y rhai drwg yn nwyd
Eu dichellion;
Daliodd Duw hwy’n sownd yn rhwyd
Eu cynllwynion.


14

15

16

17
[17-20] Nid am byth y troir yn ôl
Gri’r anghenus,
Ond dychweled i Sheol
Y drygionus.
Dyro d’arswyd, Dduw, yn chwim
Yn eu calon,
Fel y gwelont nad ŷnt ddim
Ond meidrolion.

10

1

Duw’n noddfa i’r diamddiffyn

Llanfair 74.74.D

[1-4] Pam, O Dduw, y sefi draw
Mewn cyfyngder
Pan fo’r drwg yn peri braw
Yn ei falchder?
Barus ac ymffrostgar yw
Yn ei chwantau.
Gwawdia’r Arglwydd, caeodd Dduw
O’i gynlluniau.


2

3

4

5
[5-8] Mae dy farnau di’r tu hwnt
I’w amgyffred.
Dywed yn ei feddwl brwnt,
“Ni chaf niwed.”
Mae’n llawn melltith, trais a gwawd
A drygioni.
Llecha’n gudd i ladd y tlawd
Mewn pentrefi.


6

7

8

9
[9-12] Gwylia, megis llew o’i ffau,
Am y truan,
Ac fe’i dena i’r dychrynfâu
Sy’n ei guddfan.
Dywed, “Trodd yr Arglwydd draw,
Ac ni falia.”
Cyfod, Arglwydd, cod dy law.
Nac anghofia.


10

11

12

13
[13-15] Pam y mae’r rhai drwg, O Dduw,
Yn dy wawdio,
Ac yn dweud o hyd, “Nid yw
Ef yn malio”?
Ond rwyt ti yn sylwi ar boen
Yr anffodus.
Cod a dryllia nerth a hoen
Y drygionus.


14

15

16
[16-18] Duw sydd frenin; blin fydd ffawd
Y cenhedloedd.
Arglwydd, clywaist gwyn y tlawd
Yn eu hingoedd.
Gwnei gyfiawnder iddynt hwy,
A’u hamddiffyn,
Ac ni chaiff meidrolion mwy
Beri dychryn.

11

1

Llochesu yn Nuw

Dusseldorf 87.87.D

[1-3] Yn yr Arglwydd cefais loches.
Beth yw diben dweud mor ffôl:
“Ffo i’r mynydd fel aderyn”,
A’r drygionus ar fy ôl?
Plyg ei fwa, yna saethu
Yn y caddug at y da.
Os dinistrir y sylfeini,
Yr un cyfiawn — beth a wna?


2

3

4
[4-7] Gwêl yr Arglwydd ar ei orsedd
Yn ei deml yn y nef
Ni feidrolion, ac fe’n profir
Gan ei lygaid tanbaid ef.
Glawia farwor tân a brwmstan
Ar y drwg, a gwynt di-hedd.
Cyfiawn yw, a châr gyfiawnder.
Caiff yr uniawn weld ei wedd.

12

1

Gweddi am achubiaeth

Aurelia 76.76.D

[1-4] O Arglwydd, arbed bellach;
Nid oes neb teyrngar mwy.
Mae gweniaith ffals a chelwydd
Ar eu tafodau hwy.
Dinistria di’r ymffrostgar,
Sy’n dweud mewn brol a bri,
“Ein nerth sydd yn ein tafod.
Pwy a’n disgybla ni?”


2

3

4

5
[5-8] “Oherwydd cri’r anghenus,
Achubaf ef o’i gur,”
Yw geiriau Duw, a’r rheini
Fel aur neu arian pur.
O gwared ni, O Arglwydd,
Rhag y genhedlaeth hon,
Am fod drygioni a llygredd
Yn prowla’r ddaear gron.

13

1

Am ba hyd, Arglwydd?

Eudoxia 65.65

Am ba hyd, O Arglwydd
Yr anghofi fi,
Ac y troi dy wyneb
Oddi wrth fy nghri?


2
Am ba hyd y dygaf
Loes a gofid prudd,
Ac y’m trecha’r gelyn
Fel y gwawria dydd?


3
Edrych arnaf, Arglwydd.
Gwared fi, fy Nuw.
Dyro, rhag fy marw,
Olau i’m llygaid gwyw.


4
Rhag i’m gelyn frolio,
Wrth i’m llygaid gau,
“Fe’i gorchfygais i ef,”
Ac ymlawenhau.


5
Ond yn dy achubiaeth
Ffyddlon a di-ffael
Rhof fy ffydd, a chanaf
Am dy fod mor hael.

14

1

Ateb i’r anghredinwyr

Thanet 8.33.6

Fe ddywedodd y rhai ynfyd,
“Nid oes Duw”.
Ffiaidd yw
Eu gweithredoedd bawlyd.


2
Gwyrodd Duw o’i nef i chwilio
A oedd un
Ar ddi-hun
A oedd yn ei geisio.


3
Ond mae pawb yn cyfeiliorni.
Nid oes neb,
Nac oes, neb,
Sydd yn gwneud daioni.


4
Gwnânt bryd bwyd o’m pobl anghenus.
Oni bydd
Cosb ryw ddydd
Ar y rhai drygionus?


5
A’r pryd hynny fe fydd gyflawn
Maint eu braw,
Cans fe ddaw’r
Arglwydd at y cyfiawn.


6
Er i chwi ddirmygu cyngor
Y rhai gwael,
Y Duw hael
Yw eu noddfa a’u hangor.


7
Pan adferir i’r iselwael,
Lwydd a budd,
Mawr iawn fydd
Gorfoleddu Israel.

15

1

Gwestai’r Arglwydd

Stuttgart 87.87

Pwy gaiff ganiatâd i aros
Yn dy babell di, fy Nuw?
Yn dy fynydd sanctaidd, Arglwydd,
Pwy gaiff ganiatâd i fyw?


2
[2-3a] Un sy’n byw yn gywir, onest,
Gwneud cyfiawnder ar ei daith,
Nad oes malais ar ei dafod,
Na wna ddrwg i’w gyfaill chwaith.


3
[3b-4a] Un nad ydyw’n goddef enllib
Am gymydog, ac sy’n byw
I ddirmygu yr ysgymun,
Parchu’r rhai sy’n ofni Duw.


4
[4b-5] Un sy’n cadw’r llw a dyngodd,
Llog ar arian byth ni fyn,
Nad yw’n twyllo y diniwed,
Ni symudir a wna hyn.

16

1

Yr Arglwydd yw fy rhan

Crug-y-bar 98.98.D

[1-4a] O Dduw, cadw fi, cans llochesaf
Yn dawel am byth ynot ti.
Ti ydyw fy Arglwydd, a hebot
Nid oes dim daioni i mi.
Boed melltith ar bawb sy’n gwirioni
Ar dduwiau paganaidd y wlad;
Dim ond amlhau ei ofidiau
Y mae’r un a’u blysia mewn brad.


2

3

4
[4b-7a] Ni roddaf waed-offrwm i’r rheini,
Na’u galw am help pan wyf wan.
Ti, Arglwydd, yw ’nghyfran a’m cwpan;
Ti sy’n diogelu fy rhan.
Fe syrthiodd i mi y llinynnau
Mewn mannau dymunol drwy f’oes.
Mae im etifeddiaeth ragorol;
Bendithiaf yr Arglwydd a’i rhoes.


5

6

7
[7b-11] Y mae fy meddyliau’n fy nysgu.
Yr Arglwydd yw nerth fy llaw dde.
Fe’i dodais o’m blaen i yn wastad:
Am hyn, ni’m symudir o’m lle.
Rwy’n llawen. Caf fyw yn ddiogel,
Ac ni ddaw un distryw i mi.
Dangosi imi lwybr pob gwynfyd.
Mae mwyniant am byth ynot ti.

17

1

Cri am gyfiawnder

Pennant 87.87.D

[1-4] Rwyf yn llefain am gyfiawnder;
Dyro sylw i’m llef, a chlyw.
Gwrando gri gwefusau didwyll.
Doed fy marn oddi wrth fy Nuw.
Gwyliaist fi drwy’r nos heb ganfod
Dim drygioni ynof fi.
Ni throseddais gyda’m genau,
Ond fe gedwais d’eiriau di.


2

3

4

5
[5-7] Ar hyd llwybrau yr anufudd
Byddai ’nghamau’n pallu’n syth,
Ar dy lwybrau di, fodd bynnag,
Nid yw ’nhraed yn methu byth.
Gwaeddaf am dy fod yn f’ateb.
Dangos dy ffyddlondeb triw,
Ti sy’n achub â’th ddeheulaw
Bawb a’th geisia’n lloches wiw.


6

7

8
[8-12] Megis cannwyll loyw dy lygad
Cadw fi, a’m cuddio dan
Dy adenydd rhag gelynion
Sydd o’m cwmpas ym mhob man.
Bras eu calon, balch eu tafod,
Maent amdanaf wedi cau,
Bron â’m bwrw i’r llawr a’m llarpio,
Megis llew yn llamu o’i ffau.


9

10

11

12

13
[13-15] Cyfod, Arglwydd, yn eu herbyn;
Bwrw hwy i lawr i’r baw.
Gwared fi rhag y drygionus,
A dinistria hwy â’th law.
Cosba hwy, a chadw weddill
I’w babanod, wŷr di-hedd.
Ond caf fi, pan gyfiawnheir fi,
Fy nigoni o weld dy wedd.

18

1

Diolch am waredigaeth

Lobe den Herren 14.14.4.7.8

[1-3] Caraf di, Arglwydd, fy nghryfder, fy nghraig a’m gwaredydd,
Duw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nghaer, fy achubydd.
Gwaeddaf ar Dduw,
Cans fy ngwaredwr i yw
Rhag fy ngelynion aflonydd.


2

3

4
[4-6] Pan oedd marwolaeth a distryw yn clymu amdanaf,
Gwaeddais yn daer yn fy ngofid ar Dduw y Goruchaf.
Clywodd fy llef
O’i deml lân yn y nef.
Clywodd fy ngwaedd a daeth ataf.


5

6

7
[7-10] Crynodd y ddaear a gwegian; ysgydwodd y bryniau.
Daeth mwg o’i ffroenau; o’i gylch yr oedd marwor yn cynnau.
A daeth i lawr
Drwy’r nen fel tymestl fawr:
Marchog y gwynt a’r cymylau.


8

9

10

11
[11-14] Taenodd gymylau yn orchudd a chaddug yn guddfan;
Cenllysg a thân o’r disgleirdeb o’i flaen a ddaeth allan.
Daeth ei lais ef
Megis taranau o’r nef,
A’i fellt fel saethau yn hedfan.


12

13

14

15
[15-17] Gwelwyd gwaelodion y môr, a dinoethwyd holl seiliau’r
Byd gan dy gerydd di, Arglwydd, a chwythiad dy ffroenau.
Tynnodd ef fi
O ddyfroedd cryfion eu lli.
Gwaredodd fi o’m holl frwydrau.


16

17

18
[18-19] Daethant i’m herbyn yn lluoedd yn nydd fy nghaledi,
Ond fe fu’r Arglwydd fy Nuw yn gynhaliaeth driw imi.
Dug fi o’r tân
I le agored a glân,
Am ei fod ef yn fy hoffi.


19

20
[20-24] Talodd yr Arglwydd i mi yn ôl glendid fy nwylo,
Am imi gadw ei lwybrau, heb droi oddi wrtho.
Cedwais o hyd
Ei holl gyfreithiau i gyd:
Cedwais fy hun rhag tramgwyddo.


21

22

23

24

25
[25-27] Rwyt ti’n ddi-fai i’r di-fai, ac yn ffyddlon i’r ffyddlon,
Pur i’r rhai pur, ond yn wyrgam i bawb sy’n elynion.
Yr wyt yn hael
At y rhai gwylaidd a gwael,
Ac yn darostwng y beilchion.


26

27

28
[28-30] Ti sy’n goleuo fy llusern, yn troi nos yn nefoedd.
Trwot ti neidiaf dros fur a goresgyn byddinoedd.
Tarian o ddur,
Profwyd ei air ef yn bur.
Perffaith yw Duw’n ei weithredoedd.


29

30

31
[31-33] Pwy ond ein Duw ni sydd graig? Pwy sydd Dduw ond yr Arglwydd?
Rhydd imi nerth, ac fe’m tywys ar lwybrau perffeithrwydd.
Trwy’i rym fe wnaed
Fel carnau ewig fy nhraed:
Troediaf fynyddoedd mewn sicrwydd.


32

33

34
[34-37] Ef sy’n fy nysgu i ryfela, i dynnu y bwa.
Rhoes imi darian i’m harbed; â’i law fe’m cynhalia.
Ni lithraf byth,
Cans mae fy llwybrau mor syth.
Daliaf elynion a’u difa.


35

36

37

38
[38-41] O dan fy nhraed y syrthiasant, ac rwy’n eu trywanu.
Ti a’m gwregysaist â chryfder a nerth i’w gorchfygu.
Rhoddaist fy nhroed
Ar eu gwegilau’n ddi-oed,
Ac ni ddaw neb i’w gwaredu.


39

40

41

42
[42-45] Malaf hwy’n fân, ac fe’u sathraf fel llaid ar y strydoedd.
Ti sy’n fy ngwneud, wedi’r brwydro, yn ben ar genhedloedd.
Mae estron rai’n
Plygu o’m blaen dan eu bai;
Deuant mewn ofn o’u cuddleoedd.


43

44

45

46
[46-48] Byw yw yr Arglwydd fy Nuw, ac y mae’n fendigedig.
Bydded y Duw sy’n rhoi dial i mi’n ddyrchafedig.
Gwaredodd fi
Rhag fy ngelynion di-ri
A’m gwrthwynebwyr ystyfnig.


47

48

49
[49-50] Felly, clodforaf di, Arglwydd, ymysg y cenhedloedd.
Cedwi yn ffyddlon i’th frenin eneiniog byth bythoedd;
Ac ym mhob gwlad
Fe ddiogelir mawrhad
Dafydd a’i had yn oes oesoedd.

19

1

Gogoniant Duw

Navarre 10.10.10.10

[1-2] Mae’r nef yn adrodd mawr ogoniant Duw,
A thraetha’r wybren waith ei ddwylo byw.
Byrlymu siarad y mae dydd wrth ddydd
A nos wrth nos am ei gyfeillach gudd.


2

3
[3-4a] Mud yw eu llais, ac nid oes ganddynt iaith
Na geiriau. Eto, drwy’r holl ddaear faith
Fe â eu sain, a chlyw eithafoedd byd
Sŵn eu lleferydd am ein Duw o hyd.


4
[4b-6] Daw’r haul o’i babell megis priodfab llon
Neu fabolgampwr cryf yn curo’i fron.
Amgylchu’r wybren y mae’i daith a’i des,
Ac nid oes dim yn cuddio rhag ei wres.


5

6

7
[7-8] Mae cyfraith berffaith Duw’n dwyn egni’n ôl;
Tystiolaeth sicr Duw’n gwneud doeth o’r ffôl.
Mae deddfau cywir Duw yn llawenhau;
Gorchymyn Duw’n goleuo llygaid cau.


8

9
[9-10] Ofn Duw sydd lân, a phery byth yn ir.
Mae barnau Duw yn gyfiawn ac yn wir.
Hyfrytach ŷnt nag aur neu drysor cêl,
Melysach na diferion diliau mêl.


10

11
[11-13a] Rhybuddiant ni; o’u cadw gwobr a fydd.
Glanha fi oddi wrth fy meiau cudd.
Rhag pechod hyf, a yrr dy was ar ŵyr,
O cadw fi, rhag iddo ’nhrechu’n llwyr.


12

13
[13b-14] Caf yna fod heb fai na phechod mawr.
Boed geiriau ’ngenau wrth dy fodd yn awr
A’m holl feddyliau’n gymeradwy i ti,
O Arglwydd Dduw, fy nghraig a’m prynwr i.

20

1

Gweddi dros y brenin

Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D

[1-4] O bydded i’r Arglwydd dy ateb
Yn nydd dy gyfyngder i gyd,
I enw Duw Jacob d’amddiffyn
O’i gysegr yn Seion o hyd.
Boed iddo ef gofio d’offrymau
A ffafrio aberthau dy glod.
Cyflawned ddymuniad dy galon,
A dwyn dy gynlluniau i fod.


2

3

4

5
[5-6] A bydded i ni orfoleddu
Yn dy fuddugoliaeth a’th fri.
Yn enw ein Duw codwn faner,
Rhoed yntau a fynni i ti.
Yn awr gwn fod Duw yn gwaredu’i
Eneiniog, a’i ateb o’r nef.
Y mae’n ei waredu yn nerthol,
Cans mae ei ddeheulaw’n un gref.


6

7
[7-9] Ymffrostia rhyw rai mewn cerbydau,
Ac eraill mewn meirch chwim eu tuth,
Ond ninnau, ymffrostiwn yn enw
Yr Arglwydd ein Duw ni hyd byth.
Maent hwy oll yn crynu ac yn syrthio,
A ninnau yn sefyll mewn bri.
O Arglwydd da, gwared y brenin,
Ac ateb, pan alwn, ein cri,

21

1

Duw’n llwyddo’r brenin

Tal-y-llyn 76.76.D

[1-3] O Arglwydd, llawenycha
Y brenin yn dy nerth;
Mae’n gorfoleddu oblegid
D’achubiaeth fawr ei gwerth.
Rhoist iddo heb wrthodiad
Ei bob deisyfiad taer.
Doist ato â bendithion;
Rhoist iddo goron aur.


2

3

4
[4-6] Am fywyd y gofynnodd:
Fe’i cafodd gennyt ti;
A chafodd drwy d’achubiaeth
Ogoniant, clod a bri.
Yr wyt yn rhoddi iddo
Dros byth fendithion llawn,
A’th bresenoldeb hyfryd
A’i gwna yn llawen iawn.


5

6

7
[7-10] Mae’r brenin yn ymddiried
Yn nerth yr Arglwydd Dduw;
Ac am fod Duw yn ffyddlon
Bydd ddiogel tra bo byw.
Cei afael yn d’elynion
A’r rhai sy’n dy gasáu,
A’u gwneud fel ffwrnais danllyd,
A’r tân yn eu hamgáu.


8

9

10

11
[11-13] Dinistri eu hepil hefyd
O blith plant dynol ryw.
Bwriadent ddrwg i’th erbyn,
Heb lwyddo. Ffônt rhag Dduw.
Aneli at eu hwynebau
Dy fwa a’th saethau llym.
Cod, Arglwydd, yn dy gryfder!
Cawn ganu am dy rym!

22

1

I’r Arglwydd y perthyn brenhiniaeth

Eventide 10.10.10.10

[1-2] Fy Nuw, fy Nuw, pam y’m gadewaist i?
Pam cadw draw oddi wrth holl eiriau ’nghri?
Rwy’n gweiddi arnat ddydd a nos bob awr,
Ond nid atebi fi’n fy mlinder mawr.


2

3
[3-5] Ond fe’th orseddwyd di, y Sanctaidd Un,
Yn foliant Israel. Ynot ti dy hun
Yr ymddiriedai’n tadau dan eu clwy:
Achubwyd ac ni chywilyddiwyd hwy.


4

5

6
[6-8] Pryf ydwyf fi. Nid ydwyf neb. Rwy’n wawd.
Mae pawb a’m gwêl yn wfftio at fy ffawd,
Gan ddweud, “Fe roes ei achos i Dduw’r nef,
A chan fod Duw’n ei hoffi, achubed ef”.


7

8

9
[9-11] Ond ti o groth fy mam a’m tynnodd i;
Fe’m bwriwyd ar fy ngeni arnat ti.
Paid â phellhau oddi wrthyf, cans nid oes
Neb a rydd gymorth im yn nydd fy loes.


10

11

12
[12-14a] Amdanaf mae gwŷr cryfion wedi cau,
Fel teirw Basan. Llewod ŷnt mewn ffau
Yn rheibio a rhuo, ac y mae eu stŵr
Yn gwasgu’r nerth o’m corff, fel tywallt dŵr.


13

14
[14b-15a] Datododd fy holl esgyrn, ac fe lwyr
Doddodd fy nghalon, fel pe bai yn gwyr
Mae ’ngheg yn sych fel cragen ar y stryd,
A glŷn fy nhafod yn fy ngenau mud.


15
[15b-17a] Fe’m bwriaist i lwch angau. Y mae cŵn
O’m cylch, dihirod brwnt yn cadw sŵn.
Tyllant fy nhraed a’m dwylo â’u gwayw dur,
A gallaf gyfrif f’esgyrn yn fy nghur.


16

17
[17b-19] Dan rythu arnaf, rhannant yn eu mysg
Fy nillad. Bwriant goelbren ar fy ngwisg.
Ond ti, O Arglwydd, paid â sefyll draw;
O brysia, rho im gymorth nerth dy law.


18

19

20
[20-22] Gwared fy unig fywyd rhag y cledd,
Rhag cyrn y teirw, a rhag safn y bedd.
Ac fe gyhoeddaf d’enw i’m brodyr i,
Ac yn y gynulleidfa molaf di.


21

22

23
[23-24] Molwch ef, chwi sy’n ofni’r Arglwydd Dduw.
Blant Israel, parchwch ef; trugarog yw.
Heb guddio’i wyneb, clywodd lef y sawl
Y sarnodd y gorthrymwr ar ei hawl.


24

25
[25-26] Fe’i molaf yn y gynulleidfa gref.
Cadwaf fy llw yng ngŵydd ei bobl ef.
Digonir yr anghenus, a bydd byw
Am byth galonnau’r rhai sy’n moli Duw.


26

27
[27-28] Daw’n ôl at Dduw holl gyrrau eitha’r byd,
Ymgryma’r holl genhedloedd iddo ynghyd,
Cans iddo y perthyn y frenhiniaeth fawr,
Ac ef sy’n llywodraethu teulu’r llawr.


28

29
[29-31] Sut gall y meirw’i foli yn Sheol?
Ond byddaf fi fyw iddo, a’m plant ar f’ôl.
Sonnir am Dduw wrth genedlaethau i ddod.
Bydd pobl nas ganwyd eto’n traethu’i glod.

23

1

Yr Arglwydd yw fy mugail

Dominus Regit Me MS

[1-2] Yr Arglwydd yw fy mugail i,
Ac ni bydd eisiau arnaf.
Mewn porfa fras gorffwyso a gaf;
Ger dyfroedd braf gorweddaf.


2

3
Mae yn f’adfywio yn ddi-frys
A’m tywys yn garuaidd.
Hyd ffyrdd cyfiawnder mae’n fy nwyn,
Er mwyn ei enw sanctaidd.


4
Mewn dyffryn tywyll du ni chaf
Nac anaf byth na dolur;
A thi o’m blaen, fe rydd dy ffon
A’th wialen dirion gysur.


5
Arlwyi fwrdd o’m blaen, a’m llu
Gelynion i yn gwylio,
Eneinio ’mhen ag olew glân.
Mae ’nghwpan yn gorlifo.


6
Daioni a thrugaredd fydd
O’m hôl bob dydd o’m bywyd;
Ar hyd fy oes mi fyddaf byw
Yn nhŷ fy Nuw mewn gwynfyd.

24

1

Y Brenin gogoneddus

Blaen-y-coed 87.87.3.3.6.7

[1-3] Eiddo’r Arglwydd yw y ddaear
A’i holl lawnder hi i gyd.
Ar y moroedd a’r afonydd
Y sylfaenodd ef y byd.
Pwy yw’r sawl
Sydd â hawl
I roi yn ei fynydd fawl?
Yr un glân ei ddwylo a’i galon,
Un na thwyllodd yn ei fyw.
Fe gaiff fendith gan yr Arglwydd
A chyfiawnder gan ei Dduw.


2

3

4
[4-6] Dyna nod
Pawb sy’n dod
Gerbron Duw i seinio clod.


5

6

7
[7-8] Codwch, byrth, eich pennau’n uchel!
Ymddyrchefwch, ddrysau mawr!
Y mae’r brenin gogoneddus
Am gael dod i mewn yn awr.
Ond pwy yw?
Dyma’n Duw —
Arglwydd cadarn, nerthol lyw!


8

9
[9-10] Codwch, byrth, eich pennau’n uchel!
Ymddyrchefwch, ddrysau mawr!
Y mae’r brenin gogoneddus
Am gael dod i mewn yn awr.
Ond pwy yw?
Dyma’n Duw —
Arglwydd yr holl Luoedd yw.

25

1

Arwain fi a dysg fi

Franconia 65.65.D

[1-3] Arglwydd, rwy’n dyrchafu
F’enaid atat ti.
Paid â chywilyddio
F’ymddiriedaeth i.
Nid i’r rhai sy â’u gobaith
Ynot ti, O Dad,
Y daw byth gywilydd,
Ond i rai llawn brad.


2

3

4
[4-6] Rho i mi wybodaeth,
Arglwydd, am dy ffyrdd.
Rho i mi hyfforddiant
Yn dy lwybrau fyrdd.
Arwain fi, a dysg fi.
Ti bob amser yw
Yr Un a ddisgwyliaf
I’m gwaredu, O Dduw.


5

6

7
[7-9] Cofia dy ffyddlondeb,
Sydd yn bod erioed.
Paid â chofio ’mhechod
Cyn im ddod i oed.
Da yw Duw ac uniawn.
Arwain wylaidd rai
A dysg bechaduriaid
Yn ei ffordd ddi-fai.


8

9

10
[10-11] Cariad a gwirionedd
Yw ei lwybrau i gyd
I’r rhai sydd yn cadw’i
Gyfraith ef o hyd.
Er mwyn d’enw, Arglwydd,
Maddau di yn awr
Imi fy holl gamwedd,
Sydd yn gamwedd mawr.


11

12
[12-15] Dysgi i’r sawl a’th ofna
Rodio llwybrau gwir.
Caiff ei blant ef hefyd
Etifeddu’r tir.
Rhoddi dy gyfeillach
Iddo i’w mwynhau.
Trof yn wastad atat:
Ti sy’n fy rhyddhau.


13

14

15

16
[16-19] Bydd drugarog wrthyf,
Canys yr wyf fi’n
Unig ac anghenus.
Dwg fi o’m gofid blin.
Gwêl fy ing, a maddau
Fy mhechodau gau.
Gwêl fy llu gelynion,
Sy’n fy llwyr gasáu.


17

18

19

20
[20-22] Paid â’m cywilyddio.
Cadw, gwared fi,
Canys rwy’n llochesu,
Arglwydd, ynot ti.
Yn d’uniondeb byddaf
Ddiogel tra bwyf byw.
Gwared o’i blinderau
Israel, O fy Nuw.

26

1

O Arglwydd, barna fi

Carlisle MB

O Arglwydd, barna fi.
Rhodiais yn gywir iawn,
A rhois, heb ballu, ynot ti
Fy ymddiriedaeth lawn.


2
[2-3] Chwilia fy meddwl; rho
Brawf ar fy nghalon i.
Cadwaf fy nhrem, wrth rodio ymlaen,
Ar dy ffyddlondeb di.


3

4
[4-5] I’r diwerth ni bûm ffrind,
Nac i ragrithwyr gau;
Ni chedwais gwmni i rai drwg
Yr wyf yn eu casáu.


5

6
[6-7] Golchaf fy nwylo, cans
Dieuog ydwyf fi.
Canaf o gylch dy allor am
Dy ryfeddodau di.


7

8
[8-9] Caraf y tŷ lle’r wyt,
Lle mae d’ogonoiant drud.
Na chyfrif fi ymhlith y rhai
Sy’n pechu a lladd o hyd:


9

10
[10-12] Y rhai y mae’u llaw dde’n
Llawn llwgrwobrwyon brad,
Ond gwared fi, cans cywir wyf;
Bendithiaf di, O Dad.

27

1

Hyder yn Nuw

Lobe den Herren 14.14.4.7.8

[1-2] Duw yw f’achubiaeth a’m golau, rhag pwy byth yr ofnaf?
Ef yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf?
Pan ddaw’r di-dduw
Fel pe i’m llyncu yn fyw,
Baglant wrth ruthro amdanaf.


2

3
[3-4a] Pe deuai byddin i’m herbyn, ni fyddwn yn ofnus.
Pe deuai rhyfel i’m rhan, mi a fyddwn hyderus.
Un peth gan Dduw
A geisiais i, sef cael byw
Byth yn ei dŷ tangnefeddus.


4
[4b-5] Yno cawn edrych am byth ar hawddgarwch yr Arglwydd,
A gofyn iddo am gyngor, cans yn nydd enbydrwydd
Fe’m cyfyd i
Ar graig o afael y lli.
Cuddia fi ym mhabell ei sicrwydd.


5

6
Cyfyd fy mhen i uwchlaw fy ngelynion yn ebrwydd.
Offrymaf finnau’n ei deml aberthau hapusrwydd.
Llawen fy llef
Pan blygaf ger ei fron ef.
Canaf, canmolaf yr Arglwydd.


7
[7-9] Gwrando fi, Arglwydd, pan lefaf, a dyro im ateb;
Canys dywedais amdanat ti, “Ceisia ei wyneb”.
Fe fuost ti
O Dduw’n waredwr i mi.
Paid â throi i ffwrdd mewn gwylltineb.


8

9

10
[10-12] Derbyniai Duw fi hyd yn oed pe bai fy rhieni
Yn cefnu arnaf. O Arglwydd, dysg di dy ffordd imi.
I’r llwybr da
Arwain fi, canys fe wna
Fy ngelyn imi gamwri.


11

12

13
[13-14] Caf weld daioni yr Arglwydd, mi wn hyn i sicrwydd,
Yn nhir y byw. Disgwyl dithau wrth Dduw a’i berffeithrwydd.
Disgwyl, a bydd
Wrol dy galon mewn ffydd.
A disgwyl di wrth yr Arglwydd.

28

1

Bendigedig fyddo’r Arglwydd

Blaen-wern 87.87.D

[1-2] Arglwydd, arnat ti y gwaeddaf;
Na thro fyddar glust i’m cri,
Rhag im fod fel rhai sy’n feirw
Yn y bedd, ond gwrando fi.
Gwrando lef fy ngweddi am gymorth
Pan wy’n codi ’nwylo fry
Tua’th gysegr sancteiddiolaf,
Lle preswyli yn dy dŷ.


2

3
[3-5] Paid â’m cipio ymaith gyda
Phobl ddrwg y ddaear hon,
Sy’n wên deg yng ngŵydd cymdogion,
Ond sy â chynnen dan eu bron.
Rho di iddynt hwy eu haeddiant
Am ddrygioni eu holl waith.
Difa hwy am d’anwybyddu,
A phaid byth â’u hadfer chwaith.


4

5

6
[6-9] Bendigedig fyddo’r Arglwydd.
Clywodd fi; fy nharian yw.
Ymddiriedaf yn ei gymorth.
Rhoddaf fawl ar gân i’m Duw.
Mae’n achubiaeth i’w eneiniog,
Ac yn nerth i’w bobl byth mwy.
Gwared a bendithia d’eiddo,
Arglwydd, a’u bugeilio hwy.

29

1

Mawrhydi’r Arglwydd

Gwalchmai 74.74.D

[1-4] Molwch, dduwiau, yn ddi-daw
Enw’r Arglwydd.
Plygwch iddo ef pan ddaw
Mewn sancteiddrwydd.
Mae ei lais uwch cenllif gref
Yn taranu.
Duw’r gogoniant ydyw ef
Sy’n llefaru.


2

3

4

5
[5-6] Mawr a nerthol lef yw hon:
Dryllia’r cedrwydd.
Dryllio cedrwydd Lebanon
Y mae’r Arglwydd.
Gwna i fynydd Lebanon
Ac un Sirion
Neidio a llamu ger ei fron
Fel dau eidion.


6

7
[7-9] Fflachia’i lais fel mellt ar daith,
Ac mae’n peri
I anialwch Cades faith
Grynu ac ofni.
Mae’r ewigod cyn eu pryd
Oll yn llydnu.
Yn ei deml mae’r bobl i gyd
Yn mawrygu.


8

9

10
[10-11] Eistedd y mae’r Arglwydd Dduw
Uwch y dyfroedd
Ar ei orsedd. Brenin yw
Yn oes oesoedd.
Rhodded ef i’w bobl byth mwy
Nerth a mawredd!
A bendithied hefyd hwy
 thangnefedd!

30

1

Dyrchafu’r Arglwydd

Cwmgiedd 76.76.D

[1-3] Dyrchafaf di, O Arglwydd,
Am iti f’achub i.
Gwrthodaist i’m gelynion
Fy ngwneud yn destun sbri.
O Arglwydd, gwaeddais arnat,
A daethost i’m hiacháu;
Fe’m dygaist i i fyny
O Sheol, a’m bywhau.


2

3

4
[4-5] Chwychwi ffyddloniaid, rhoddwch
I’r Arglwydd fawl ar gân,
A rhoddwch ddiolch beunydd
I’w enw sanctaidd, glân.
Am ennyd y mae’i ddicter,
Am oes ei ffafrau mawr;
A thry wylofain heno’n
Llawenydd pan ddaw’r wawr.


5

6
[6-9] Dywedwn yn fy hawddfyd,
“Byth ni’m symudir i”,
Ond siglwyd fy nghadernid
Pan guddiwyd d’wyneb di.
Ymbiliais am drugaredd,
Gan ddweud, “Pa les a fydd
O’m marw, os disgynnaf
I bwll y beddrod prudd?


7

8

9

10
[10-12] A all y llwch byth foli
Dy lân wirionedd di?
O Arglwydd, bydd drugarog,
A chynorthwya fi.”
Fe droist sachliain f’adfyd
Yn wisg i ddawnsio’n llon.
Hyd byth, fy Nuw, fe’th folaf
Am y drugaredd hon.

31

1

Yn dy law y mae f’amserau

Hyfrydol 87.87.D

[1-4] Ynot, Arglwydd, ceisiais loches;
Na foed c’wilydd arnaf byth;
Achub fi yn dy gyfiawnder.
Gwared fi yn union syth.
Bydd i mi yn graig a noddfa.
Er mwyn d’enw, tywys fi.
Tyn fi o’r rhwyd sy’n cau amdanaf,
Cans fy noddfa ydwyt ti.


2

3

4

5
[5-8] I’th law di cyflwynaf f’ysbryd.
Rwyt ti, Arglwydd, yn casáu
Pawb sy’n glynu wrth wag-oferedd
Ac addoli duwiau gau.
Llawenhaf yn dy ffyddlondeb.
Gwelaist fy nghyfyngder prudd;
Ac ni’m rhoddaist yn llaw’r gelyn,
Ond gollyngaist fi yn rhydd.


6

7

8

9
[9-11] Trugarha! Mae’n gyfyng arnaf.
Collodd fy holl gorff ei hoen.
Darfod mae fy nerth gan dristwch
A’m blynyddoedd gan fy mhoen.
I’m gelynion rwyf yn ddirmyg,
I’m cymdogion rwyf yn wawd,
I’m cyfeillion rwyf yn arswyd;
Ffy dieithriaid rhag fy ffawd.


10

11

12
[12-15] Fe’m hanghofiwyd fel un marw;
Llestr a dorrwyd wyf yn awr.
Mae rhai’n cynllwyn am fy mywyd:
Ar bob tu mae dychryn mawr.
Ond rwyf fi’n ymddiried ynot,
Ac yn dweud, “Ti yw fy Nuw”.
Yn dy law y mae f’amserau.
Gwared fi, a byddaf byw.


13

14

15

16
[16-18] Na foed arnaf byth gywilydd,
Ond llewyrcha di dy wedd.
Cywilyddia y drygionus,
A’u distewi yn y bedd.
Taro di yn fud wefusau
Y rhai beilchion a thrahaus
Sydd yn siarad am y cyfiawn
Yn gelwyddog a sarhaus.


17

18

19
[19-21] Mawr i’r rhai sy’n d’ofni, Arglwydd,
Dy ddaioni di o hyd.
Yr wyt yn rhoi lloches iddynt,
A’i amlygu i’r holl fyd.
Fe’u cysgodi rhag gwag glebran
Y tafodau cas eu si.
Bendigedig yw yr Arglwydd:
Bu mor ffyddlon wrthyf fi.


20

21

22
[22-24] Yn fy nychryn fe ddywedais,
“Torrwyd fi yn llwyr o’th ŵydd”;
Ond pan waeddais am dy gymorth,
Clywaist ti fy ngweddi’n rhwydd.
Carwch Dduw, ei holl ffyddloniaid,
Cans fe’ch ceidw â’i law gref.
Byddwch wrol eich calonnau,
Bawb sy’n disgwyl wrtho ef.

32

1

Bendithion edifeirwch

Crug-y-bar 98.98.D

[1-4] Mor ddedwydd y sawl y maddeuwyd
Ei drosedd, y cuddiwyd ei gam,
Na ddeil Duw’r un twyll yn ei erbyn,
Nad oes yn ei ysbryd ddim nam.
Tra oeddwn yn gwrthod cyfaddef,
Fe nychwn, dan gwyno’n ddi-les;
Yr oedd dy law’n drwm arnaf beunydd,
A sychwyd fy nerth fel gan des.


2

3

4

5
[5-6] Ac yna, bu imi gyfaddef
Fy mhechod i gyd wrthyt ti.
Dywedais, “Cyffesaf fy mhechod”,
A bu iti faddau i mi.
Am hyn, fe weddïa pawb ffyddlon,
Fy Nuw, arnat ti dan eu clwy,
A phan ddaw llifeiriant o ddyfroedd
Ni chânt byth nesáu atynt hwy.


6

7
[7-10] Ti ydyw fy nghysgod rhag adfyd.
Yr wyt yn f’amgylchu â chân.
Dywedaist, “Hyfforddaf di a’th ddysgu,
A chadwaf dy lwybrau yn lân.
Paid â bod fel mul neu fel ceffyl
Ystyfnig y mae’n rhaid tynhau
Yr enfa a’r ffrwyn i’w rheoli
Cyn byth yr anturiant nesáu”.
Daw poenau di-rif i’r drygionus,
Ond cylch o ffyddlondeb byth yw
Y gyfran gyfoethog sy’n aros
Y sawl sy’n ymddiried yn Nuw.


8

9

10

11
Am hyn, llawenhewch yn yr Arglwydd,
Rai cyfiawn, a’i foli ar gân;
A chanwch yn uchel i’w enw,
Bob un y mae’i galon yn lân.

33

1

Llygaid Duw ar y rhai sy’n disgwyl wrtho

Rhuddlan 87.87.44.7

[1-3] Llawenychwch, chwi rai cyfiawn,
Yn yr Arglwydd, gweddus yw.
Canwch salmau iddo â’r dectant,
Ar y delyn molwch Dduw.
Canwch iddo
Gân o’r newydd
Ar y tannau, a rhowch floedd.


2

3

4
[4-6] Canys gwir yw gair yr Arglwydd;
Ffyddlon yw ei waith i gyd.
Fe gâr farnu mewn cyfiawnder;
Llawn o’i gariad yw’r holl fyd.
Trwy ei air
Anadl ei enau
Gwnaed y nefoedd a’i holl lu.


5

6

7
[7-9] Casgla’r môr fel dŵr mewn potel,
A chrynhoi’r dyfnderau ynghyd.
Ofned yr holl ddaear rhagddo,
Ac arswyded pobloedd byd.
Cans llefarodd,
A bu felly.
Fe orchmynnodd: hynny a fu.


8

9

10
[10-12] Mae’n diddymu holl gynllwynion
Pobloedd a chenhedloedd byd;
Ond mae’i gyngor ef yn sefyll
Dros y cenedlaethau i gyd.
O mor ddedwydd
Ydyw’r genedl
A ddewisodd iddo’i hun.


11

12

13
[13-15] Y mae’n tremio i lawr o’r nefoedd
Ac yn gweld pawb oll o’r bron;
O’r lle y triga y mae’n gwylio
Holl drigolion daear gron.
Llunia feddwl
Pawb ohonynt,
A dealla’r cwbl a wnânt.


14

15

16
[16-19] Ni all byddin achub brenin,
Ni all cryfder achub cawr,
Ni all march roi dim ymwared,
Ond mae llygaid Duw bob awr
Ar y rhai sy’n
Disgwyl wrtho,
Ac fe’u ceidw hwy yn fyw.


17

18

19

20
[20-22] Fe ddisgwyliwn wrth yr Arglwydd,
Tarian ein hamddiffyn yw.
Llawenycha’n calon ynddo;
Rhown ein ffydd yn enw Duw.
Arglwydd dango
Dy ffyddlondeb,
Cans gobeithiwn ynot ti.

34

1

Bendithiaf yr Arglwydd bob amser

Eirinwg 98.98.D

[1-5] Bendithiaf yr Arglwydd bob amser,
Yn Nuw y caf bleser o hyd;
Cydfolwch â mi, chwi rai gwylaidd,
Dyrchafwn ei enw ynghyd.
Pan geisiais yr Arglwydd, atebodd
A’m gwared o’m hofn. Gloyw yw
Wynebau’r rhai nas cywilyddir,
Y rhai sydd yn edrych ar Dduw.


2

3

4

5

6
[6-8] Myfi yw’r un isel a waeddodd,
A’r Arglwydd a’m clywodd yn syth,
A’m gwared o’m holl gyfyngderau.
Gwersylla ei angel ef byth
O amgylch y rhai sy’n ei ofni,
A’u gwared. Gwyn fyd pawb a wna
Ei loches yn Nuw. Dewch a phrofwch,
A gweld fod yr Arglwydd yn dda.


7

8

9
[9-11] Ei seintiau ef, ofnwch yr Arglwydd.
Nid oes eisiau byth ar y rhai
A’i hofna. Y mae yr anffyddwyr
Yn dioddef o hyd dan eu bai,
Ond nid yw y rhai sydd yn ceisio
Yr Arglwydd yn brin o ddim da.
Dewch, blant, gwrandewch arnaf, a dysgaf
I chwi ofn y Duw a’ch boddha.


10

11

12
[12-17] Oes rhywun ohonoch sy’n chwennych
Byw’n hir, gweld daioni a’i fwynhau?
Ymgadw rhag traethu drygioni,
Gwna dda, a chais hedd sy’n parhau.
Mae’r Arglwydd yn gwarchod y cyfiawn,
A’i glustiau’n agored i’w cri,
Ond mae’n gwrthwynebu’r drygionus,
I ddifa pob cof am eu bri.


13

14

15

16

17

18
[18-22] Mae’n gwrando gwaedd pobl am gymorth,
Yn gwared y rhai calon-friw.
Daw llawer o adfyd i’r cyfiawn,
Ond gŵyr fod yr Arglwydd yn driw:
Fe geidw’i holl esgyrn yn gyfan,
Ond cosbi’r rhai drwg â’i law gref.
Gwareda yr Arglwydd ei weision
A phawb sy’n llochesu ynddo ef.

35

1

O Arglwydd, dadlau drosof

Meirionnydd 76.76.D

[1-4] O Arglwydd, dadlau drosof
Ac ymladd ar fy rhan
Yn erbyn fy ngelynion,
A helpa fi; rwy’n wan.
Tyn waywffon a phicell
At bawb a bair im glwy,
A dweud, “Fi yw d’achubiaeth”,
A chywilyddia hwy.


2

3

4

5
[5-8] Dihangant rhagot, Arglwydd,
Fel us o flaen y gwynt;
A’th angel yn eu hymlid
Fe lithrant ar eu hynt.
Taenasant rwyd dros bydew
Er mwyn fy maglu i,
Ond dalier hwy eu hunain
A’u difa ynddi hi.


6

7

8

9
[9-10] Ond llawenhaf fi ynot
Ac yn d’achubiaeth di,
A gwaedda fy holl esgyrn,
“Pwy sydd fel f’Arglwydd i,
Yn achub cam y tlodion
Rhag cryfion cas y byd,
A gwared rhag ysbeilwyr
Y gweiniaid oll i gyd?”


10

11
[11-14] Daeth tystion yn fy erbyn
 chyhuddiadau ffug;
Gwnânt ddrwg am dda a wneuthum:
Bûm i a’m pen ymhlyg
Mewn gweddi ac ympryd drostynt
Pan oeddent glaf a thlawd,
Fel pe dros gyfaill imi
Neu dros fy mam neu ’mrawd.


12

13

14

15
[15-17] Ond roeddent hwy yn llawen
Y dydd y cwympais i:
Poenydwyr nas adwaenwn
Yn fy enllibio’n ffri.
Pan gloffais i, fe’m gwawdient,
(O Arglwydd, am ba hyd?)
Tyrd, gwared rhag anffyddwyr
Fy unig fywyd drud.


16

17

18
[18-20] Diolchaf it bryd hynny
Gerbron y dyrfa fawr;
Ond na foed i’m gelynion
Gael llawenhau yn awr.
Ni soniant ddim am heddwch,
Dim ond cynllwynio brad
Yn erbyn pobl gyfiawn,
Preswylwyr distaw’r wlad.


19

20

21
[21-24] Siaradant yn fy erbyn
Gan ddweud, “Aha, aha,
Fe welsom ni â’n llygaid ...!”
O Arglwydd, na phellha!
Rho ddedfryd ar fy achos
Yn ôl d’uniondeb di;
Na ro lawenydd iddynt
Yn fy anghysur i.


22

23

24

25
[25-27a] Ac na foed iddynt frolio,
“Fe’i llyncwyd gennym ni”.
Doed gwarth i bawb sy’n llawen
Oblegid f’adfyd i;
Ond boed i’r rhai sydd eisiau
Cael gweld fy nghyfiawnhau
Gael gorfoleddu o’m plegid
A chanu a llawenhau.


26

27
[27b-28] Boed iddynt ddweud yn wastad,
“Mawr yw yr Arglwydd Dduw
Sydd yn dymuno llwyddiant
Ei was, a’i gadw’n fyw”.
Ac yna, Dduw trugarog,
Fy nhafod i a fydd
Yn datgan dy gyfiawnder
A’th foli ar hyd y dydd.

36

1

Goleuni i ni yng ngoleuni Duw

Sarah MB

[1-2a] Llefara pechod byth
Wrth bob drygionus un.
Does ar ei gyfyl ddim ofn Duw,
A llwydda i’w dwyllo’i hun.


2
[2b-4] Mae’i eiriau oll yn dwyll;
Gedy ddaioni ar ôl;
Cynllunia yn ei wely ddrwg
Yn ffyrdd troseddwyr ffôl.


3

4

5
Ond dy ffyddlondeb di
A’th gariad, Arglwydd, sy’n
Ymestyn hyd gymylau’r nen
A hyd y nef ei hun.


6
Mae dy gyfiawnder fel
Mynyddoedd tal, O Dduw,
A’th farnau fel y dyfnder mawr.
Fe gedwi bopeth byw.


7
[7-8] Llochesa pobl dan
Gysgod d’adenydd clyd;
O gysur d’afon, moeth dy dŷ
Digonir hwy o hyd.


8

9
Cans y mae ffynnon lân
Pob bywyd gyda thi,
Ac yn d’oleuni di, fy Nuw,
Y daw goleuni i ni.


10
At bawb a’th adwaen di
Dy gariad a barha;
A phery dy gyfiawnder at
Y rhai sy â chalon dda.


11
[11-12] Na syfled troed neb balch
Na llaw neb drwg fi’n awr.
A dyna y gwneuthurwyr drwg
Oll wedi eu bwrw i’r llawr!

37

1

Diarhebion am Dduw

Degannwy MS

[1-2] Na chenfigenna wrth y drwg,
Na gwgu ar ddihiryn,
Cans gwywant hwy fel glaswellt sych,
Fel glesni gwych y gwanwyn.


2

3
[3-4] Ymddiried yn yr Arglwydd Dduw,
Gwna dda; cei fyw mewn digon.
Mawrha yr Arglwydd, a chei’n rhydd
Ddeisyfiad cudd dy galon.


4

5
[5-6] Rho di dy dynged ar Dduw’r nef,
Rhydd ef ei gymorth iti;
D’uniondeb fydd fel haul prynhawn
Yn loyw a llawn goleuni.


6

7
Bydd amyneddgar yn dy fyw,
Disgwyl am Dduw yn raslon;
Ac na fydd ddicllon wrth y rhai
Sy’n llwyddo â’u cynllwynion.


8
[8-9] Paid byth â digio, cans fe ddaw
Drwg di-ben-draw i’r llidus;
Pobl Dduw a etifedda’r tir,
Dinistrir y drygionus.


9

10
[10-11] Cyn hir fe gilia’r drwg o’i dref,
A’i le fydd anghyfannedd,
A’r gwylaidd yn meddiannu’r tir
A’i ddal mewn gwir dangnefedd.


11

12
[12-13] Cynllwynia’r drwg i daro’r da,
Ac ysgyrnyga’i ddannedd;
Ond chwardd yr Arglwydd am ei ben,
Aflawen fydd ei ddiwedd.


13

14
[14-15] Fe gais rhai drwg â’u bwa a’u cledd
Roi diwedd ar rai bychain,
Ond fe â’r saeth a’r cleddyf drwy
Eu calon hwy eu hunain.


15

16
[16-17] Gwell yw’r ychydig sydd i’r doeth
Na chyfoeth y drygionus.
Dileir y drwg, ond bydd Duw’n dal
I gynnal y difeius.


17

18
[18-19] Fe wylia’r Arglwydd dros y da,
Parha eu hetifeddiaeth;
A phan fydd newyn yn y tir
Bydd ganddynt wir gynhaliaeth.


19

20
Ond fel coed tân mewn fflamau coch
Gelynion croch yr Arglwydd
A dderfydd; cilia y rhai drwg
Bob un fel mwg yn ebrwydd.


21
Ni thâl yr un drygionus, ffôl
Yn ôl ddim a fenthyciodd;
Ond am y cyfiawn, hwn a fydd
Yn rhoi yn rhydd o’i wirfodd.


22
Rhydd Duw ei etifeddiaeth hael
I’r sawl sy’n cael ei fendith,
Ond torrir ymaith y rhai cas
A brofodd flas ei felltith.


23
[23-24] Cyfeiria’r Arglwydd gamau’r da,
Fe’i gwylia ef yn ddyfal;
Er iddo gwympo, cwyd yn rhwydd:
Mae’r Arglwydd yn ei gynnal.


24

25
Yr holl flynyddoedd y bûm byw
Ni welais Dduw hyd yma
Yn troi ei gefn ar unrhyw sant
Na pheri i’w blant gardota.


26
[26-27] Hael a thrugarog ydyw’r da,
A’i blant ef a fendithir.
Tro oddi wrth ddrwg; gwna’r hyn sydd dda,
A’th gartref a ddiogelir.


27

28
[28-29] Oherwydd câr yr Arglwydd farn,
Ni sarn ar ei ffyddloniaid;
Ond torrir plant y drwg o’r tir,
Difethir pechaduriaid.


29

30
[30-31] Fe drig y cyfiawn yn y tir
Yn ddoeth a gwir ei eiriau;
Mae yn ei galon ddeddf ei Dduw,
A sicr yw ei gamau.


31

32
[32-33] Fe wylia’r drwg y da; cais le
A chyfle i’w lofruddio,
Ond nid yw Duw’n ei iselhau
Na chaniatáu’i gondemnio.


33

34
Disgwylia wrth yr Arglwydd; glŷn
Wrth ffordd yr Un daionus,
Ac fe gei etifeddu’r tir,
Ond chwelir y drygionus.


35
[35-36] Mi welais i’r drygionus, do
Yn brigo fel blaguryn,
Ond llwyr ddiflannodd, heb ddim sôn
Amdano’n fuan wedyn.


36

37
[37-38] Gwêl di’r di-fai, heddychlon ŷnt,
A chanddynt ddisgynyddion,
Ond am y drwg, bydd Duw yn eu
Dileu, a’u plant a’u hwyrion.


38

39
[39-40] Daw oddi wrth Dduw achubiaeth lawn
I’r cyfiawn mewn cyfyngder,
Rhag drwg fe’u harbed am eu bod
Yn gosod arno’u hyder.

38

1

Cyffes un claf

Rhyddid 76.76.D

[1-3] O Arglwydd, na cherydda
Fi yn dy ddicter mawr.
Y mae dy saethau’n suddo
I mewn i mi yn awr.
Y mae dy law’n drwm arnaf,
Ac nid oes rhan o’m cnawd
Yn gyfan gan dy ddicter,
Ac afiach f’esgyrn tlawd.


2

3

4
[4-7] Fy mhechod a’m camweddau
Sydd faich rhy drwm i mi.
Mae ’mriwiau cas yn crawni
Gan fy ffolineb i.
Fe’m plygwyd a’m darostwng,
Galaraf drwy y dydd,
Fy llwynau’n llosg gan dwymyn,
A’m cnawd yn afiach, brudd.


5

6

7

8
[8-10] Mae ’nghalon i yn griddfan.
Parlyswyd, llethwyd fi.
O Arglwydd, mae ’nyhead
Yn amlwg iawn i ti.
Mae ’nghalon yn tabyrddu,
Fy nerth yn pallu i gyd,
A thywyll yw fy llygaid,
Heb olau yn y byd.


9

10

11
[11-12] Mae ’nheulu a’m cymdogion
A’m ffrindiau’n cadw draw.
Mae’r rhai sydd am fy einioes
Yn gosod maglau braw,
A’r rhai sydd am fy nrygu
Yn sôn am ddinistr fydd,
Ac yn parhau i fyfyrio
Dichellion drwy y dydd.


12

13
[13-15] Ond rwyf fi fel un byddar
Heb fod yn clywed dim,
Fel mudan heb leferydd,
Ac nid oes dadl im.
Amdanat ti, O Arglwydd,
Yr hir ddisgwyliais i.
O Arglwydd, pwy a’m hetyb?
Does neb, fy Nuw, ond ti.


14

15

16
[16-18] Oherwydd fe ddywedais,
“Llawenydd byth na foed
I’r rheini sy’n ymffrostio
O weled llithro o’m troed”.
Yn wir, rwyf ar fin syrthio,
Mae ’mhoen o’m blaen bob awr.
Cyffesaf a phryderaf
Am fy mhechodau mawr.


17

18

19
[19-22] Cryf ydyw fy ngelynion
Sy’n fy nghasáu ar gam
Ac yn fy ngwrthwynebu
Am fy mod i’n ddi-nam.
O paid â’m gadael, Arglwydd,
Na chilia oddi wrthyf fi,
Ond brysia i’m cynorthwyo,
Fy iachawdwriaeth i.

39

1

Tro draw dy lid, Arglwydd

St. Michael MB

Dywedais, “Gwyliaf rhag
Pechu âm tafod rhwydd.
Rhof ar fy ngenau ffrwyn pan fo’r
Drygionus yn fy ngŵydd.


2
[2-3] Bûm ddistaw, ond i beth?
Gwaethygu a wnaeth fy nghri;
Llosgodd fy holl deimladau’n dân
O’m mewn, ac meddwn i:


3

4
Dysg imi, Arglwydd Dduw,
Fy niwedd; dangos di
Mor brin fy nyddiau yn y byd,
Mor feidrol ydwyf fi.


5
Gwnaethost fy nyddiau i gyd
Fel dyrnfedd, ac nid yw
Fy oes yn ddim i ti, cans chwa
O wynt yw pob un byw:


6
Pob un yn mynd a dod
Fel cysgod, a di-fudd
Yw’r cyfoeth a bentyrra; ni
Ŵyr pwy a’i caiff ryw ddydd.


7
[7-8a] Yn awr, O Arglwydd, am
Beth y disgwyliaf fi?
Gwared fi o’m troseddau oll.
Mae ’ngobaith ynot ti.


8
[8b-10] Na wna fi’n wawd i ffŵl.
Bûm fud, a’m ceg a daw.
Ti a wnaeth hyn, a darfod rwyf
Gan drawiad llym dy law.


9

10

11
[11-12a] Drylli fel gwyfyn bawb
Pan gosbi’n pechod ni.
Yn wir, mae pawb fel chwa o wynt.
O Arglwydd, clyw fy nghri.


12
[12b-13] Pererin estron wyf,
Fel fy holl dadau i gyd.
Tro draw dy lid a’m llawenhau
Cyn imi fynd o’r byd.”

40

1

Paid ag oedi, Arglwydd

Wilton Square 76.76.D

[1-2] Fe fûm yn disgwyl, disgwyl
Wrth Dduw, ac yna daeth;
Fe blygodd i lawr ataf,
A gwrando ’nghri a wnaeth.
Fe’m cododd o’r pwll lleidiog,
Allan o’r mwd a’r baw,
A gwneud fy nghamau’n ddiogel
Ar graig ddiysgog draw.


2

3
[3-4] Fe roddodd im gân newydd
I’w foli yn ei glyw.
Pan welant, ofna llawer
A rhoi eu ffydd yn Nuw.
Gwyn fyd pawb sy’n ymddiried
Yn Nuw, ein craig, o hyd,
Ac nad yw’n troi at feilchion
Na duwiau gau y byd.


4

5
O mor niferus, Arglwydd,
Dy ryfeddodau di
A’th fwriad ar ein cyfer;
Does neb, yn wir, fel ti.
Dymunwn eu cyhoeddi
A’u hadrodd wrth y byd,
Ond maent yn rhy niferus
I’w rhifo oll i gyd.


6
[6-8] Nid wyt yn hoffi aberth
Nac offrwm neb heb fod
Y person hwnnw’n ufudd.
Dywedais, “Rwyf yn dod,
Mae wedi ei ysgrifennu
Mewn llyfr amdanaf fi
Fy mod yn gwneud d’ewyllys
Yn ôl dy gyfraith di.”


7

8

9
[9-10] Cyhoeddais i gyfiawnder
I’r gynulleidfa i gyd;
Fe wyddost ti, O Arglwydd,
Na bûm erioed yn fud.
Ni chelais dy ffyddlondeb,
Ond traethais bob yr awr
Dy gariad a’th wirionedd
I’r gynulleidfa fawr.


10

11
[11-12] Paid tithau, Dduw, ag atal
Tosturi rhagof fi,
Ond cadwer fi’n dy gariad
A’th fawr wirionedd di.
Mae drygau dirifedi’n
Cau drosof megis llen,
Camweddau yn fy nallu,
A’u rhif fel gwallt fy mhen.


12

13
[13-15] Bydd fodlon i’m gwaredu,
O Arglwydd; brysia di
I’m helpu. Cywilyddia
Bawb a wnâi ddrwg i mi;
A phawb y mae ’nhrallodion
Yn llonni’u calon hwy,
Syfrdana di’r rhai hynny
 rhyw waradwydd mwy.


14

15

16
[16-17] Ond llawenhaed yn wastad
Bawb sy’n dy geisio di.
Dyweded pawb a’th garo,
“Mawr yw fy Arglwydd i”.
Meddylia Duw amdanaf,
Er ’mod i’n dlawd yn wir;
Dduw ’nghymorth a’m gwaredydd,
O paid ag oedi’n hir.

41

1

Gwyn ei fyd y trugarog

Godre’r Coed MC

[1-2a] Gwyn fyd y sawl sy’n meddwl am
Y tlawd, cans fe fydd Duw
Yn gwared hwn rhag adfyd blin
Ac yn ei gadw’n fyw.


2
[2b-3] Fe’i gwna yn ddedwydd yn y tir,
Nis rhydd i fympwy cnaf.
Fe’i cynnal ef, a pharatoi
Ei wely pan fo’n glaf.


3

4
Dywedais innau, “Trugarha,
O Arglwydd, wrthyf fi;
Iachâ fi’n awr, oherwydd gwn
Im bechu yn d’erbyn di”.


5
Dirmyga fy ngelynion fi,
Gan ddweud mewn gwawd, “Pa bryd
Y bydd ef farw, a dileu
Ei enw ef o’r byd?”


6
Pan ddelo un i’m gweld, mae’i sgwrs
Yn rhagrith oll i gyd;
Hel clonc amdanaf yw ei nod
I’w thaenu ar y stryd.


7
[7-8] Fe sisial pawb sy’n fy nghasáu
Â’i gilydd am fy nghlwy:
“Mae rhywbeth marwol arno’n siŵr;
Ni chyfyd eto mwy”.


8

9
Mae hyd yn oed fy nghyfaill hoff,
Fu’n bwyta wrth fy mwrdd,
A mi’n ymddiried ynddo’n llwyr,
Yn troi ei ben i ffwrdd.


10
O adfer fi yn awr, fy Nuw,
O Arglwydd, trugarha,
A lle y gwnaethant imi ddrwg
Mi dalaf innau dda.


11
Caf wybod imi gael dy ffafr
Pan na fydd llawenhau
Gan fy ngelynion ar fy nhraul,
A thi yn fy mywhau.


12
[12-13] Cynheli fi, cans cywir wyf,
Yn d’wyddfod byth heb sen.
Duw Israel, bendigedig fo
Am byth. Amen. Amen.

42

1

Pam f’anghofio fi?

Filitz (Wem in Leidenstagen) 65.65

Fel y blysia ewig
Am y dyfroedd byw
Y dyhea f’enaid
Innau am fy Nuw.


2
Mae ar f’enaid syched
Am fy Arglwydd byw;
Pa bryd y caf brofi
Presenoldeb Duw?


3
Ddydd a nos bu ’nagrau’n
Fwyd i mi a’m clyw’n
Llawn o holi’r gelyn:
“Ple y mae dy Dduw?”


4
Gofid ydyw cofio
Mynd mewn torf lawn hwyl
I dŷ Dduw dan ganu:
Tyrfa’n cadw gŵyl.


5
Na thristâ, fy enaid,
Ac na thyrfa’n awr!
Wrth Dduw y disgwyliaf,
Fy ngwaredydd mawr.


6
Na thristâ, fy enaid.
Cofiaf Dduw o dir
Hermon a Bryn Misar
A’r Iorddonen ir.


7
Dyfnder eilw ar ddyfnder
Dy raeadrau di.
Mae dy fôr a’i donnau
Wedi’m llethu i.


8
Liw dydd ei ffyddlondeb
A orchymyn Duw.
Liw nos canaf weddi,
Duw fy mywyd yw.


9
Duw, fy nghraig, a holaf,
“Pam f’anghofio fi?
Pam fy rhoi dan orthrwm?
Pam tristáu fy nghri?”


10
Dirmyg fy ngelynion,
Cledd yn f’esgyrn yw.
Di-baid y gofynnant,
“Ple y mae dy Dduw?”


11
Na thristâ, fy enaid,
Ac na thyrfa’n awr!
Molaf fy Nuw eto,
Fy ngwaredydd mawr.

43

1

Pam fy ngwrthod i?

Filitz (Wem in Leidenstagen) 65.6

Cyfiawnha fi, Arglwydd,
F’achos dadlau di;
Rhag rhai drwg, annheyrngar
Tyrd i’m gwared i.


2
Ti yw fy amddiffyn.
Pam fy ngwrthod i?
Pam fy rhoi dan orthrwm?
Pam tristáu fy nghri?


3
Anfon dy wirionedd
A’th oleuni i mi.
Dygant hwy fi i fynydd
Dy lân drigfan di.


4
Yna dof at d’allor.
Fy llawenydd yw
Dy foliannu â’r delyn,
Ti, O Dduw, fy Nuw.


5
Na thristâ, fy enaid,
Ac na thyrfa’n awr!
Molaf fy Nuw eto,
Fy ngwaredydd mawr.

44

1

Cwyn cenedl orchfygedig

Whitford 76.76.D

[1-2] Fe glywsom gan ein tadau,
O Arglwydd, am y gwaith
A wnaethost yn eu dyddiau
Dros y blynyddoedd maith.
Fe droist genhedloedd allan,
Ond eto’u plannu hwy.
Difethaist bobloedd lawer,
Ond llwyddo’n tadau’n fwy.


2

3
[3-4a] Oherwydd nid â’u cleddyf
Y cawsant hwy y tir,
Ac nid â’u braich y cawsant
Y fuddugoliaeth wir,
Ond trwy nerth dy ddeheulaw
A llewyrch d’wyneb di,
Am dy fod yn eu hoffi,
Fy Nuw a’m brenin i.


4
[4b-7] Ti sy’n rhoi buddugoliaeth
I Jacob, trwot ti
Y sathrwn a darostwng
Ein holl elynion ni.
Nid ymddiriedaf bellach
Mewn cleddau na bwâu,
Cans ti a gywilyddiaist
Y rhai sy’n ein casáu.


5

6

7

8
[8-10] Yn Nuw y bu ein hymffrost.
Clodforwn d’enw mawr;
Ond yr wyt wedi’n gwrthod,
Ac nid ei di yn awr
I ymladd gyda’n byddin,
Ond gwnei i ni lesgáu,
Ac fe’n hysbeilir bellach
Gan rai sy’n ein casáu.


9

10

11
[11-14] Fe’n lleddaist megis defaid,
A’n gwasgar ledled byd.
Fe’n gwerthaist ni heb elw,
A’n gwneud ni’n warth i gyd,
Yn destun gwawd a dirmyg
Pob cenedl is y nen.
Fe’n gwnaethost yn ddihareb,
A’r bobl yn ysgwyd pen.


12

13

14

15
[15-16] Fe’m cuddiwyd mewn cywilydd
A gwarth oherwydd sen
Y gelyn a’r dialydd
Yn seinio yn fy mhen.
A hyn i gyd ddaeth arnom
Er nad anghofiwn ni
Mohonot, na bradychu
Dy lân gyfamod di.


16

17
[17-21] Ni throesom chwaith o’th lwybrau
I beri iti’n awr
Ein sigo yn lle’r siacalau
A’n cuddio â chaddug mawr.
Ped anghofiasem d’enw
A throi at dduw di-fydd,
Fe fyddit ti yn gwybod.
Does dim i ti yn gudd.


18

19

20

21

22
[22-26] Ond er dy fwyn fe’n lleddir
Fel defaid drwy y dydd.
Ymysgwyd, pam y cysgi,
A’th wyneb teg ynghudd?
I’r llwch yr ymostyngwn,
Fe’n bwriwyd ni i’r llawr.
O cod i’n cynorthwyo,
Er mwyn dy gariad mawr.

45

1

Priodas y brenin

Montgomery 11.11.11.11

Symbylwyd fy nghalon gan neges sydd braf,
Ac adrodd fy nghân am y brenin a wnaf,
Ac y mae fy nhafod yn llithro mewn hoen,
Fel pin ysgrifennydd yn llithro dros groen.


2
[2-3] Does undyn mor deg ag wyt ti, ac mae gras
Yn disgyn o’th wefus; bendithiwyd dy dras.
O gwisga, ryfelwr, dy gledd ar dy glun;
 mawredd gogoniant addurna dy hun.


3

4
[4-5] Marchoga o blaid beth sy’n gyfiawn a gwir;
Dangosed dy nerth fod llaw Duw yn y tir.
Dy saethau yng nghalon d’elynion sydd llym,
Syrth pobloedd o danat yn gwbl ddi-rym.


5

6
[6-7] Tragwyddol dy orsedd, fel gorsedd ein Duw,
A gwialen cyfiawnder dy deyrnwialen yw.
Am wrthod y drwg, rhoi cyfiawnder mewn bri,
Ag olew llawenydd eneiniodd Duw di.


7

8
[8-9] Myrr, aloes a chasia dy ddillad i gyd,
Telynau tai ifori’n canu iti o hyd;
Mae tywysogesau’n dy lys mawr ei foeth,
A’th wraig wrth dy ochor mewn aur Offir coeth.


9

10
[10-11] O gwrando di, ferch, a rho sylw er llesâd:
Anghofia dy bobl, a chartref dy dad;
A’r brenin a chwennych dy degwch yn siŵr,
Oherwydd ef ydyw dy arglwydd a’th ŵr.


11

12
[12-13] Ferch Tyrus, ymostwng i’r brenin â rhodd,
A braint cyfoethogion fydd rhyngu dy fodd.
Mor wych yw’r frenhines sy’n dyfod i’n mysg,
A chwrel mewn aur yn addurno ei gwisg.


13

14
[14-15] Mewn brodwaith fe’i dygir yn rhwysgfawr i’th ŵydd,
A’i holl gyfeillesau’n cyflawni eu swydd,
Yn dilyn o’i hôl hi yn ysgafn eu bron
I balas y brenin yn hapus a llon.


15

16
[16-17] Yn lle bu dy dadau daw meibion i ti,
A thithau a’u gwnei’n dywysogion o fri.
A minnau, mynegaf byth bythoedd dy glod:
Bydd pobl yn dy ganmol tra bo’r byd yn bod.

46

1

Duw yn noddfa ac yn nerth

Arabia MC

[1-2a] Duw yw ein noddfa ni a’n nerth.
Ein cymorth yw o hyd.
Ac felly nid arswydwn pe
Symudai yr holl fyd;


2
[2b-3] Na phe bai’r holl fynyddoedd mawr
Yn cwympo i’r môr islaw;
Na phe terfysgai’r dyfroedd nes
I’r bryniau ffoi mewn braw.


3

4
Mae afon deg a’i ffrydiau hi
Yn llonni dinas Duw,
Y ddinas sanctaidd, lle y mae’r
Goruchaf Un yn byw.


5
[5-6] Mae Duw’n ei chanol; diogel fydd;
Yn fore helpa hi.
Pan gwyd ei lais, mae gwledydd byd
Yn toddi o’i flaen yn lli.


6

7
[7-8] Mae Duw y Lluoedd gyda ni,
Duw Jacob yw ein caer.
O dewch i weld yr hyn a wnaeth,
Ei ddifrod ar y ddaer.


8

9
Gwna i ryfeloedd beidio trwy
Y ddaear oll achlân.
Fe ddryllia’r bwa a’r waywffon,
Fe lysg dariannau â thân.


10
[10-11] Dysgwch mai ef yw’r unig Dduw,
Y dyrchafedig, claer.
Mae Duw y Lluoedd gyda ni,
Duw Jacob yw ein caer.

47

1

Duw’n frenin ar y cenhedloedd

Garthowen 87.87.D

[1-4] Curwch ddwylo yr holl bobloedd,
Rhowch wrogaeth lon i Dduw,
Cans ofnadwy yw’r Goruchaf,
Brenin yr holl ddaear yw.
Fe ddarostwng bobloedd lawer
A chenhedloedd danom ni,
A rhoes inni ein hetifeddiaeth,
Balchder Jacob ydyw hi.


2

3

4

5
[5-9] Yn sŵn llawen ffanffer utgyrn,
Yn sŵn bloedd, esgynnodd Duw.
Canwch fawl i Dduw ein brenin,
Brenin yr holl ddaear yw.
Gyda phlant Duw Abram unodd
Tywysogion yr holl fyd
Ger ei orsedd; ef a’u piau,
Ac mae’n uwch na hwy i gyd.

48

1

Dinas Duw

Lobe den Herren 14.14.4.7.8

[1-3] Teilwng yw’r Arglwydd o fawl yn ei fynydd cyfannedd,
Yn Seion, dinas ein Duw, ar lechweddau y Gogledd.
Dinas yw hon
Sy’n llawenhau’r ddaear gron,
A Duw’n amddiffyn ei mawredd.


2

3

4
[4-7] Pan ymgynullodd brenhinoedd, a gweld, fe’u brawychwyd;
Daeth gwewyr, fel gwewyr esgor, i’w llethu, ac arswyd.
Megis pan fo
Holl longau Tarsis ar ffo
Rhag y dwyreinwynt, fe’u drylliwyd.


5

6

7

8
[8-9] Cawsom weld popeth a glywsom am Arglwydd y Lluoedd
Yn ninas Duw, a gynhelir gan Dduw yn oes oesoedd.
Yn dy deml, Dduw,
Fe bortreasom yn fyw
Ddrama dy gariad i’r bobloedd.


9

10
[10-11] Fel mae dy enw, O Dduw, mae dy fawl yn ymestyn
Hyd eitha’r ddaear. O’th law mae cyfiawnder yn disgyn.
Boed lawen fryd
Seion a Jwda i gyd
Am iti gosbi y gelyn.


11

12
[12-14] Teithiwch o gwmpas Jerwsalem, rhifwch ei thyrau,
Ewch trwy ei chaerau, a sylwch ar gryfder ei muriau,
A dweud yng nghlyw
Yr oes sy’n dod, “Dyma Dduw!
Fe’n harwain ni drwy’r holl oesau”.

49

1

Tynged y cyfoethog

Trentham MB

[1-3] Clywch hyn, holl bobloedd byd,
Y tlawd a’r rhai mewn moeth.
Fe draethaf fi ddoethineb ddofn,
Myfyrdod calon ddoeth.


2

3

4
[4-5] Gwrandawaf gyngor Duw,
Datrysaf bos i chwi.
Paham yr ofnaf yn fy ing
Rai drwg sy’n f’erlid i?


5

6
[6-7] Ffydd yr erlidwyr hyn,
Ffydd yn eu cyfoeth yw;
Ond ni all neb ei brynu ei hun
Na thalu iawn i Dduw.


7

8
[8-9] Rhy uchel ydyw pris
Ei fywyd, ac ni fedd
Y modd i’w dalu, i gael byw
Am byth heb weld y bedd.


9

10
[10-11] Bydd farw’r doeth a’r dwl.
Rhennir eu heiddo i gyd;
Mewn pwt o fedd y trigant byth,
Er bod â thiroedd drud.


11

12
[12-14a] Fe dderfydd pobl a’u rhwysg
Fel anifeiliaid ffôl.
Â’r ynfyd a’u canlynwyr oll
Fel defaid i Sheol.


13

14
[14b-15] Bugeilia angau hwy;
Darfyddant yn Sheol;
Ond fe fydd Duw’n fy mhrynu i,
A’m dwyn o’r bedd yn ôl.


15

16
[16-17] Na chenfigenna wrth
Gyfoethog yn ei dref.
Pan fo yn marw, nid â â dim
O’i gyfoeth gydag ef.


17

18
[18-19] Er iddo foli ei ffawd,
A derbyn clod di-fudd,
 at ei dadau, ac ni wêl
Byth mwy oleuni dydd.


19

20
Nid erys neb yn hir
Mewn rhodres yn y byd.
Darfyddant, er eu balchder mawr,
Fel anifeiliaid mud.

50

1

Gwir addoliad

Pen-yr-yrfa 76.76.D

[1-4] Fe alwodd Duw y duwiau
Breswylwyr yr holl fyd.
O Seion y llewyrcha,
Fe ddaw, ac ni bydd fud.
Bydd tymestl fawr o’i gwmpas,
O’i flaen fe ysa tân,
A geilw ar nef a daear
I dystio i’w eiriau glân.


2

3

4

5
[5-6] Fe ddywed, “Casglwch ataf
Fy holl ffyddloniaid i,
Y rhai a wnaeth trwy aberth
Gyfamod gyda mi.
A’r nefoedd a gyhoedda’i
Gyfiawnder yn gytûn,
Cans nid oes barnwr arall,
Dim ond ein Duw ei hun.


6

7
[7-10] O gwrando, Israel, tystiaf
Yn d’erbyn. Fi yw Duw.
Ceryddu dy aberthau
Ni fedraf yn fy myw.
Ond ni chymeraf fustach
Na bychod geifr o’th dŷ,
A minnau’n berchen popeth
Sy’n pori ar fryniau lu.


8

9

10

11
[11-14a] Mi adwaen yr ymlusgiaid
A’r adar oll i gyd.
Pe clemiwn, ni chaet wybod,
Cans eiddof fi’r holl fyd.
Cig teirw a gwaed bychod,
Nid ydynt ddim i mi.
Yr hyn a fynnaf gennyt
Yw dy addoliad di.


12

13

14
[14b-16] Am hynny, tâl, O Israel,
Dy addunedau i Dduw.
Os gelwi yn nydd cyfyngder,
Fe’th gadwaf di yn fyw.
Ond wrth bob un drygionu
Dywedaf: Sut wyt ti
Yn meiddio sôn am ddeddfau
Fy nglân gyfamod i?


15

16

17
[17-21b] Rwyt yn casáu disgyblaeth,
Yn bwrw ’ngeiriau o’th ôl,
Yn cadw cwmni i ladron
A godinebwyr ffôl;
Dy dafod drwg, enllibus
Yn nyddu twyll mor chwim;
A thybiaist ti na faliwn,
Am na ddywedais ddim.


18

19

20

21
[21c-23] Ystyriwch hyn yn fanwl,
Chwi sy’n anghofio Duw,
Rhag imi droi a’ch darnio,
Heb neb i’ch cadw’n fyw.
Y sawl sy’n diolch imi
A dilyn ffordd y nef
Yw’r sawl sy’n f’anrhydeddu,
Ac fe’i hachubaf ef.”

51

1

Gweddi o edifeirwch

Love Divine 87.87

[1-2] Bydd drugarog wrthyf, Arglwydd,
Yn ôl dy ffyddlondeb drud;
Golch fi’n lân o’m holl euogrwydd,
A glanha fi o’m beiau i gyd.


2

3
[3-4] Gwn fy mod i wedi pechu,
Arglwydd, yn dy erbyn di.
Cyfiawn wyt yn fy nedfrydu,
Cywir yn fy marnu i.


4

5
[5-6a] Fe’m cenhedlwyd mewn drygioni,
Ganwyd fi i ddrygau’r byd;
Ond gwirionedd a ddymuni
Oddi mewn i mi o hyd.


6
[6b-7] Felly, dysg i mi ddoethineb;
Pura ag isop fi yn lân;
Golch fi nes bod imi burdeb
Gwynnach nag yw’r eira mân.


7

8
[8-9] Llanw fi, a ddrylliaist gynnau,
 gorfoledd llon yn awr.
Cuddia d’wyneb rhag fy meiau,
A dileu ’mhechodau mawr.


9

10
[10-11] Crea ynof galon lanwaith,
Ysbryd cadarn rho i mi;
A phaid byth â’m bwrw ymaith,
Na nacáu im d’ysbryd di.


11

12
[12-13] Rho im eto orfoleddu
Yn d’achubiaeth; rho i mi
Ysbryd ufudd, a chaf ddysgu
I droseddwyr dy ffyrdd di.


13

14
[14-15] Os gwaredi fi rhag angau,
Traethaf dy gyfiawnder glân.
Arglwydd, agor fy ngwefusau,
A moliannaf di ar gân.


15

16
[16-17] Cans yr aberth sy’n dderbyniol
Iti, ysbryd drylliog yw.
Calon ddrylliog, edifeiriol,
Ni ddirmygi di, O Dduw.


17

18
[18-19] Gwna ddaioni eto i Seion;
Cod Jerwsalem i’w bri,
A chei dderbyn eto’n fodlon
Ein hoffrymau cywir ni.

52

1

Sicrwydd yn Nuw

Eirinwg 98.98.D

[1-4a] Ŵr grymus, paham yr ymffrosti
Mewn drwg, a defnyddio dy rym
Yn erbyn y duwiol, a’th dafod
Fel ellyn, yn finiog a llym?
Ti fradwr, fe geri ddrygioni
Yn fwy na daioni o hyd,
A chelwydd yn fwy na gwirionedd,
Ac enllib yw d’eiriau i gyd.


2

3

4
[4b-7] Am fod dy holl iaith yn dwyllodrus,
Dy dynnu i lawr a wna Duw,
Dy gipio o’th gartref cyffyrddus,
A’th rwygo o dir y rhai byw.
A’r cyfiawn a wêl ac a ofna,
Gan chwerthin, a dweud, “Dyma’r dyn
Na roddodd ei ffydd yn yr Arglwydd,
Ond yn ei drysorau ei hun”.


5

6

7

8
[8-9] Ond fi, byddaf fel olewydden
Yn iraidd yng ngardd tŷ fy Nuw;
Ac yn ei ffyddlondeb y rhoddaf
Fy hyder tra byddaf i byw.
Diolchaf am byth iti, Arglwydd,
Am bopeth a wnaethost i mi.
Cyhoeddaf dy enw — da ydyw —
Ymysg y rhai ffyddlon i ti.

53

1

Disgwyl am farn Duw

Ebeling 8.33.6

Fe ddywedodd y rhai ynfyd,
“Nid oes Duw”.
Ffiaidd yw
Eu gweithredoedd bawlyd.


2
Gwyrodd Duw o’i nef i chwilio
A oedd un
Ar ddi-hun
A oedd yn ei geisio.


3
Ond mae pawb yn cyfeiliorni.
Nid oes neb,
Nac oes, neb,
Sydd yn gwneud daioni.


4
Gwnânt bryd bwyd o’m pobl anghenus.
Oni bydd
Cosb ryw ddydd
Ar y rhai drygionus?


5
Cywilyddier y dihirod.
Arnynt daw
Ofn a braw
Am i Dduw eu gwrthod.


6
Pan adferir i’r iselwael,
Lwydd a budd,
Mawr iawn fydd
Gorfoleddu Israel.

54

1

Enw Duw yn gynhaliaeth

Mannheim 87.87.87

[1-3] Arglwydd, gwared fi trwy d’enw;
A thrwy d’allu — nerthol yw —
Cyfiawnha fi. Gwrando ’ngweddi;
Geiriau dwys fy ngenau clyw.
Gwŷr trahaus sy’n ceisio ’mywyd,
Na feddyliant ddim am Dduw.


2

3

4
[4-7] Ti, O Dduw, yw ’nghynorthwywr;
Ti sy’n cynnal f’einioes i.
Cosba hwy trwy dy wirionedd.
Molaf byth dy enw di.
Dros gyfyngder a gelynion
Fe’m gosodaist i mewn bri.

55

1

Bwrw dy faich ar yr Arglwydd

Morning has broken 10.9.10.9

[1-3] Paid ag ymguddio rhag fy neisyfiad,
Gwrando fi, Arglwydd, ateb fy nghri.
Rwyf bron â drysu gan sŵn y gelyn
Sydd yn pentyrru drwg arnaf fi.


2

3

4
[4-8] Yn f’ofn dywedais, “O na bai gennyf
Esgyll colomen; hedwn ar hynt:
Crwydro i’r anial, ac aros yno,
A cheisio cysgod rhag brath y gwynt”.


5

6

7

8

9
[9-11] O Dduw, cymysga’u hiaith, canys gwelais
Drais yn y ddinas fore a hwyr;
Twyll sy’n ei marchnad, ac mae drygioni
Wedi amgylchu’i muriau yn llwyr.


10

11

12
[12-14] Gallwn ddygymod â gwawd y gelyn,
Ond ti, fy ffrind — fe aeth hynny i’r byw!
A ninnau’n gymaint ffrindiau â’n gilydd,
Ac yn cydgerdded gynt i dŷ Dduw.


13

14

15
[15-19] Aed y drygionus i boenau Sheol;
Ond gwaeddaf fi bob amser ar Dduw,
A bydd yr Arglwydd da yn fy achub
Ac yn fy nwyn o’r rhyfel yn fyw.


16

17

18

19

20
[20-21] Ond fy nghydymaith, fe dorrodd hwnnw
Air ei gyfamod â’i weniaith goeth.
Yr oedd ei eiriau’n llyfnach nag olew,
Ond roeddent hefyd yn gleddau noeth.


21

22
[22-23] Bwrw dy faich ar Dduw ar ei orsedd.
Ti, Dduw y cyfiawn, a’m cynnal i.
Bwria’r gwŷr gwaedlyd i’r pydew isaf;
Ond ymddiriedaf fi ynot ti.

56

1

Duw o’m tu

Abbot’s Leigh 87.87 D

[1-4] Bydd drugarog wrthyf, Arglwydd.
Mae ’ngelynion i yn llu
Yn ymosod arnaf beunydd
A’m gorthrymu ar bob tu.
Cod fi i fyny yn nydd fy arswyd;
Rwy’n ymddiried ynot ti.
Molaf d’air, heb ofni rhagor.
Beth all neb ei wneud i mi?


2

3

4

5
[5-9] Maent o hyd yn stumio ’ngeiriau;
Ceisiant imi niwed mwy.
Tâl di iddynt am eu trosedd;
Yn dy ddig, darostwng hwy.
Rhoist fy nagrau yn dy gostrel,
F’ocheneidiau yn dy sgrôl.
Yn y dydd y galwaf arnat
Troir fy ngelyn yn ei ôl.


6

7

8

9

10
[10-13] Hyn a wn, fod Duw o’m hochr.
Molaf d’air, ac ynot ti
Ymddiriedaf byth heb ofni.
Beth all neb ei wneud i mi?
Talaf f’addunedau gydag
Ebyrth diolch iti, Dduw,
Cans fe’m dygaist o byrth angau
I oleuni tir y byw.

57

1

O Arglwydd, cod uwch y nefoedd

Down Ampney 6.6.11 D

[1-3a] O Arglwydd, dangos di
Drugaredd ataf fi,
Oherwydd ynot ti yr wy’n llochesu.
Mi alwaf ar fy Nuw,
Fy amddiffynnwr yw,
Ac enfyn ef o’r nefoedd i’m gwaredu.


2

3
[3b-4] Fe gywilyddia’n fawr
Y rhai a’m bwrw i lawr,
Ac anfon im ei gariad a’i wirionedd.
Rwy’n byw yng nghanol gwŷr
Y mae eu tafod dur
Yn gleddyf llym, a saethau yw eu dannedd.


4

5
[5-6] O Arglwydd, cod yn awr
Yn uwch na’r nefoedd fawr,
A bydded dy ogoniant dros y ddaear.
Cloddiasant bwll o’m blaen,
A rhwydau drosto ar daen,
Ond hwy a gaiff eu dal, y rhai ystrywgar.


6

7
[7-9] Ond teyrngar wyf, O Dduw,
A’m calon, cadarn yw.
O deffro, f’enaid; deffro di, fy nhelyn.
Diolchaf gyda’r wawr,
A’th ganmol, Arglwydd mawr,
Ymhlith cenhedloedd daear yn ddiderfyn.


8

9

10
[10-11] Mae dy ffyddlondeb hyd
Gymylau’r nen i gyd,
A hyd y nef dy gariad, sy’n ddigymar.
O Arglwydd, cod yn awr
Yn uwch na’r nefoedd fawr,
A bydded dy ogoniant dros y ddaear.

58

1

Melltith ar y drygionus

Elliot 98.98 D

[1-5] Chwi dduwiau, a ydych mewn difrif
Yn barnu yn gyfiawn o hyd?
O na! Fe ddyfeisiwch gelwyddau,
A gwasgar eich trais dros y byd.
Anufudd o’r groth yw’r drygionus,
Gwenwynllyd fel sarff yw y rhain,
Fel gwiber a gaodd ei chlustiau
Rhag clywed y swynwr a’i sain.


2

3

4

5

6
[6-9] O Dduw, dryllia’u dannedd; diwreiddia
Gilddannedd y llewod, ac aed
Y cyfan fel dŵr, a diflannu,
A chrino fel gwellt o dan draed.
Fe fyddant fel marw-anedig
Na wêl olau dydd, ac fe fyn
Ein Duw eu diwreiddio yn ebrwydd,
A’u sgubo hwy ymaith fel chwyn.


7

8

9

10
[10-11] Bryd hynny, bydd lawen y cyfiawn
Oherwydd y dial a wnaed.
Yng ngwaed y drygionus, o’r diwedd,
Fe’i gwelir yn golchi ei draed.
A dywed pawb oll, “Oes, yn bendant,
Mae gwobr i’r cyfiawn o hyd;
Ac oes, y mae Duw sydd yn barnu
Yn gyfiawn y ddaear i gyd.”

59

1

Duw, fy nerth

Llanfair 74.74 D

[1-4] O fy Nuw, amddiffyn fi
Rhag gwŷr cryfion
Sydd yn bygwth f’einioes i
Â’u cynllwynion.
Heb fod pechod ynof fi,
Maent yn chwennych
Fy nifetha, cyfod di,
Tyrd ac edrych.


2

3

4

5
[5-7] Arglwydd Dduw y Lluoedd, ti
Yw Duw Israel.
Cosba’r bobloedd sydd â ni
Yn ymrafael.
Dônt fin nos drwy’r dref fel cŵn
Wynebgaled,
Gan fytheirio’n fawr eu sŵn:
“Pwy sy’n clywed?”


6

7

8
[8-10] Ond fe’u gwawdi di, fy Nuw,
Hwy a’u hyfdra.
O fy Nerth, ti’n unig yw
F’amddiffynfa.
Sefi di o’m plaid, heb os,
Arglwydd graslon;
Rho im fuddugoliaeth dros
Fy ngelynion.


9

10

11
[11-15] Paid â’u lladd, ond gwasgar hwy,
A’u darostwng,
Am fod geiriau’u genau’n fwy
Nag annheilwng.
Am eu balchder mawr a’u bri
Tyrd i’w cosbi,
Fel y gwelo’r byd mai ti
Sy’n rheoli.


12

13

14

15

16
[16-17] Canaf innau am dy nerth
A’th uniondeb;
Gorfoleddu a wnaf yng ngwerth
Dy ffyddlondeb.
Buost amddiffynfa i mi
Mewn cyfyngder.
Canaf byth fy mawl i ti,
Dduw, fy Nghryfder.

60

1

Penarglwyddiaeth Duw

Guiting Power 85.85.7.8

[1-2] Cosbaist ni, O Dduw, a’n bylchu,
Digiaist wrthym ni.
Gwnaethost i’r holl ddaear grynu,
Ac fe’i holltaist hi.
Simsan dan ei chlwyfau yw;
Iachâ ei briw, ac achub hi.


2

3
[3-5] Gwnaethost inni yfed wermod,
Meddwaist ni â gwin.
Ond fe roist i’r ffyddlon gysgod
Rhag y bwa blin.
Er mwyn gwared d’annwyl rai,
O maddau’n bai, ac ateb ni.


4

5

6
[6-7a] Fe lefarodd y Goruchaf:
“Af i fyny’n awr;
Dyffryn Succoth a fesuraf,
Rhannaf Sichem fawr.
Mae Gilead, led a hyd,
Manasse i gyd yn eiddo i mi.


7
[7b-8] Effraim yw fy helm, a Jwda
Fy nheyrnwialen wir.
Moab ydyw fy ymolchfa,
A thros Edom dir
Taflaf f’esgid. Caf foddhad
Yn erbyn gwlad Philistia i gyd”.


8

9
[9-12] Pwy a’m dwg i’r ddinas gaerog?
Pwy, O Dduw, ond ti?
Er it wrthod ein llu arfog,
Rho dy help i ni.
Gwnawn wrhydri gyda Duw,
Cans ofer yw ymwared dyn.

61

1

Gweddi am noddfa

Bemerton 65.65

[1-2a] O Dduw, clyw fy ngweddi,
Gwrando ar fy nghri.
Rwyf ymhell oddi wrthyt,
Pallodd f’ysbryd i.


2
[2b-3] Dwg fi at graig uchel.
Buost gysgod siŵr
Imi rhag y gelyn,
Ac yn gadarn dŵr.


3

4
Caniatâ imi aros
Yn dy babell byth.
Gad im dan d’adenydd
Beunydd wneud fy nyth.


5
Clywaist ti, O Arglwydd,
F’addunedau i.
Caniatei ddymuniad
Pawb sy’n d’ofni di.


6
[6-7] Estyn ddyddiau’r brenin,
A’i hiliogaeth ef.
Gwylia drosto â’th gariad
A’th drugaredd gref.


7

8
Molaf byth dy enw.
Talaf tra bwyf byw
F’addunedau beunydd
Iti, O fy Nuw.

62

1

2

3

Nid oes neb pwerus ond Duw

Maccabeus 10.11.11.11 a chytgan

Pa hyd yr ymosodwch nes bod dyn
Fel pe bai’n dadfeilio ynddo ef ei hun,

4
Twyllo a chynllwynio i’w iselhau o hyd,
Bendith yn eich genau, melltith yn eich bryd?

[1-2] Ynot, fy Nuw, yr ymdawelaf fi;

5
[5-6] Craig ac amddiffynfa gadarn ydwyt ti.


6

7
Mae fy anrhydedd yn dibynnu ar Dduw;
Amddiffynfa imi, fy nghadernid yw.

8
Bobl, ymddiriedwch ynddo ef o hyd;
Dewch â’ch cwynion ato; ef yw’ch noddfa glyd.

[1-2] Ynot, fy Nuw, yr ymdawelaf fi;
[5-6] Craig ac amddiffynfa gadarn ydwyt ti.


9
Nid yw dynolryw’n ddim ond anadl frau;
Nid yw teulu dyn ond rhith nad yw’n parhau.
Pan roir hwy mewn clorian, codi a wnânt yn chwim,
Nid oes pwysau iddynt, maent yn llai na dim.

[1-2] Ynot, fy Nuw, yr ymdawelaf fi;
[5-6] Craig ac amddiffynfa gadarn ydwyt ti.


10
Na rowch eich ffydd yn ofer bethau’r byd;
Os cynydda cyfoeth, na rowch arno’ch bryd.

11
Nid oes neb pwerus, neb ond Duw ei hun,

12
Ac wrth ei weithredoedd y mae’n talu i ddyn.

[1-2] Ynot, fy Nuw, yr ymddiriedaf fi;
[5-6] Craig ac amddiffynfa gadarn ydwyt ti.

63

1

Sychedu am Dduw

Ellers 10.10.10.10

[1-2] O Dduw, ti yw fy Nuw; amdanat ti,
Fel sychdir cras am ddŵr, sychedaf fi,
Dihoenaf am gael gweld d’ogoniant mawr,
A welais yn y cysegr lawer awr.


2

3
[3-5] Gwell yw na bywyd dy ffyddlondeb di.
Am hynny, fe’th foliannaf. Codaf fi
Fy nwylo byth mewn gweddi i’th enw pêr.
Caf fy nigoni ar fraster ac ar fêr.


4

5

6
[6-8] Pan, ar fy ngwely y nos, dy gofio a wnaf —
Fel y cysgodais dan d’adenydd braf —
Fy enaid fydd yn glynu wrthyt ti;
Bydd dy ddeheulaw yn fy nghynnal i.


7

8

9
[9-11] Ond am y rhai a wnâi im drais a chlwy,
Ysglyfaeth i lwynogod fyddant hwy;
A bydd y brenin byth yn llawenhau
Yn Nuw, cans tewir pob celwyddgi gau.

64

1

Duw’n dymchwel y drygionus

Diademata 66.86.D

[1-4] Clyw di, O Dduw, fy llais
Pan alwaf arnat ti.
Rhag dichell pawb sy’n bygwth trais
O tyrd i’m hachub i.
Mae ar eu tafod fin
Fel cledd; yn gudd a chwim
Anelant saethau’u geiriau blin
At un na phechodd ddim.


2

3

4

5
[5-8] Dyfeisiant ffyrdd i wneud
A gosod maglau cêl.
Mor gyfrwys calon dyn! cans dweud
Y maent, “Pwy byth a’n gwêl?”
Ond Duw â’i saethau braw
A ddial am eu sen,
A’u cwymp yn sydyn iawn a ddaw,
A phawb yn ysgwyd pen.


6

7

8

9
[9-10] Daw ofn ar bob dyn byw
Wrth weld drygioni’n gaeth.
Cânt ddweud am waith ardderchog Duw,
A deall beth a wnaeth.
Yn Nuw, yr Arglwydd, boed
I’r cyfiawn lawenhau,
Llochesu ynddo fel erioed,
A’i foli a’i fawrhau.

65

1

Moliant dyledus i Dduw

Regent Square 87.87.87

[1-3] Moliant sy’n ddyledus iti,
Dduw yn Seion, ac i ti,
Sydd yn gwrando gweddi, y telir
Yr adduned. Deuwn ni
Atat i gyffesu’n pechod
Llethol, a maddeui di.


2

3

4
Gwyn ei fyd bawb a ddewisi
Ac a ddygi’n agos iawn
Iddo fyw yn dy gynteddau.
O digoner ninnau’n llawn
Yn dy dŷ, dy deml sanctaidd,
Â’th ddaioni ac â’th ddawn.


5
Mewn gweithredoedd tra ofnadwy
Yr atebi di i ni.
Ti yw Duw ein hiachawdwriaeth.
Daear gron a’i chyrion hi
A phellafoedd eitha’r moroedd
Sy’n ymddiried ynot ti.


6
[6-7] Fe osodi di’r mynyddoedd
Yn eu lle â nerth dy law.
Yr wyt wedi dy wregysu
Gyda chryfder. Rhoddi daw
Ar ru’r moroedd, terfysg pobloedd,
Ac fe bair d’arwyddion fraw.


7

8
[8-9a] Gwnaethost ti i holl drigolion
Byd yn gyfan lawenhau.
Fe ymwelaist ti â’r ddaear,
A’i ffrwythloni a’i dyfrhau.
Mae dy afon yn llawn dyfroedd;
Rhoddaist ŷd i ni’i fwynhau.


9
[9b-11a] Rwyt yn trefnu ar gyfer daear:
Gwastatáu ei chefnau hir,
Dyfrhau’i rhychau; yna’i mwydo’n
Dyner â chawodydd ir.
Yna, i goroni’r flwyddyn,
Fe fendithi gnwd y tir.


10

11
[11b-13] Mae dy lwybrau di’n diferu
Braster dros borfeydd y byd.
Gwisgi’r bryniau â llawenydd,
A’r dyffrynnoedd gydag ŷd.
Cuddi’r dolydd oll â defaid.
Canu y mae y bobl i gyd.

66

1

Bendigedig fyddo Duw

Austria 87.87.D

[1-4] Rhowch wrogaeth, yr holl ddaear,
I ogoniant enw Duw,
A dywedwch, “Mor ofnadwy
Dy weithredoedd o bob rhyw.
Rwyt mor nerthol, mae d’elynion
Yn ymgreinio ger dy fron.
Moesymgrymu iti a moli
D’enw a wna’r ddaear gron”.


2

3

4

5
[5-7] Dewch i weld yr holl weithredoedd
Mawrion a wnaeth Duw erioed:
Trodd y môr yn sychdir, aethant
Trwy yr afon fawr ar droed.
Yno y llawenychwn ynddo,
Mae’i lywodraeth byth yn gref.
Ofer yw i wrthryfelwyr
Godi yn ei erbyn ef!


6

7

8
[8-12] Molwch ein Duw ni, chwi bobloedd,
Rhoes le inni ymhlith y byw.
Ond fel coethi arian, buost
Yn ein profi ni, O Dduw.
Rhwydaist ni, rhoist rwymau amdanom,
Sathrodd carnau meirch ein ffydd.
Aethom trwy y tân a’r dyfroedd,
Ond fe’n dygaist ni yn rhydd.


9

10

11

12

13
[13-16] Dof i’th deml â phoethoffrymau;
Talaf f’addunedau i gyd,
Rhai a wneuthum pan oedd pethau’n
Gyfyng arnaf am ryw hyd.
Mi aberthaf basgedigion
Yn bêr arogldarth i ti.
Clywch, chwi oll sy’n ofni’r Arglwydd,
Beth a wnaeth fy Nuw i mi.


14

15

16

17
[17-20] Gwaeddais arno; roedd ei foliant
Ef ar flaen fy nhafod i.
Pe bai drwg o fewn fy nghalon,
Ni wrandawsai arnaf fi.
Ond rhoes sylw i lef fy ngweddi,
Canys bythol ffyddlon yw.
Am na throdd fy ngweddi oddi wrtho
Bendigedig fyddo Duw.

67

1

Bydded Duw’n drugarog

Rachie 65.65.D a chytgan

[1-2] Bydded Duw’n drugarog
A’n bendithio o’r nef;
Bydded arnom lewyrch
Claer ei wyneb ef,
Fel y byddo’i allu’n
Hysbys i’r holl fyd,
Ac y prawf pob cenedl
Ei achubiaeth ddrud.


2

3
Bydded i’r holl bobloedd
Dy foliannu, O Dduw.
Moled yr holl bobloedd
Di, a’u ceidw’n fyw.


4
Bydded i’r cenhedloedd
Orfoleddu i gyd;
Llawenhaed y gwledydd,
Cans rwyt ti o hyd
Yn eu llywodraethu’n
Gyfiawn ac yn goeth.
Mae cenhedloedd daear
Dan d’arweiniad coeth.


5
Bydded i’r holl bobloedd
Dy foliannu, O Dduw.
Moled yr holl bobloedd
Di, a’u ceidw’n fyw.


6
[6-7] Rhoes y ddaear inni
Ei chynhaeaf hael.
Rhoes yr Arglwydd in ei
Fendith yn ddi-ffael.
Ac am iddo roddi
Inni’r fendith hon,
Ofned holl derfynau’r
Ddaear ger ei fron.

3/5 Bydded i’r holl bobloedd
Dy foliannu, O Dduw.
Moled yr holl bobloedd
Di, a’u ceidw’n fyw.

68

1

Caned y teyrnasoedd i Dduw

Lobe den Herren 14.14.4.7.8

[1-3] Boed i Dduw godi, a boed i’w elynion wasgaru.
Fel cwyr mewn tân, boed i’r rhai a’i casâ gael eu chwalu.
Bydded i’r drwg
Ddarfod o’i flaen ef fel mwg,
A’r cyfiawn yn gorfoleddu.


2

3

4
[4-6] Canwch i Dduw, sy’n marchogaeth trwy dir yr anialwch.
Tad yr amddifaid, gwarchodwr y gweddwon. Moliannwch
Y Duw a wnaeth
Gartref i’r unig a’r caeth,
A throi’r rhai drwg i’r diffeithwch.


5

6

7
[7-10] Crynodd y ddaear pan aethost trwy’r anial o’n blaenau.
Glawiodd y nefoedd o’th flaen di, Dduw Israel, Duw Sinai.
Caiff dy braidd fyw
Yn d’etifeddiaeth, O Dduw,
A gwyli dros bawb mewn eisiau.


8

9

10

11
[11-14] Rhoes Duw y gair, ac mae llu yn cyhoeddi’r newyddion.
Mae’r merched gartref yn rhannu trysorau’r gelynion.
Pan chwalodd Duw
Yno bob byddin a’i llyw,
Roedd eira ar Fynydd Salmon.


12

13

14

15
[15-16] Ti, Fynydd Basan, sydd uchel, a thal dy gopaon,
Pam yr edrychi mewn cymaint cenfigen ar Seion,
Lle y mae Duw
Wedi ei ddewis i fyw,
Cartref ei fythol fendithion?


16

17
[17-18] Yr oedd cerbydau yr Arglwydd yn filoedd ar filoedd
Pan ddaeth i’w gysegr yn Seion, a’i gaethion yn lluoedd.
Rhoesant i gyd
Roddion i Dduw yr holl fyd
Yno, lle trig yn oes oesoedd.


18

19
[19-23] Bendigaid beunydd yw’r Arglwydd. Rhag angau fe’n ceidw.
Duw sy’n gwaredu yw Duw’n hiachawdwriaeth; ond geilw
Yr euog oll
O uchder Basan a’r holl
Foroedd i’w difa yn ulw.


20

21

22

23

24
[24-27] Gwelir d’orymdaith i’r cysegr, Arglwydd — cantorion
Ac offerynwyr yn arwain, yna morynion
Yn canu’n llon
Iti, Dduw Israel, gerbron
Y llwythau a’u tywysogion.


25

26

27

28
[28-31] O Dduw, o achos dy deml yn Jerwsalem, brysied
Pobl Ethiopia a’r Aifft atat ti gyda’u teyrnged.
Ond pâr ddileu
Y lloi o bobl sy’n dyheu
Am ryfel, arian a hoced.


29

30

31

32
[32-35] Canwch i Dduw; rhoddwch foliant i’r Arglwydd, deyrnasoedd.
Gwrandewch lais nerthol yr un sy’n marchogaeth y nefoedd.
Ofnadwy yw
Grym a gogoniant ein Duw.
Bendigaid fo yn oes oesoedd.

69

1

Gweddi mewn dyfroedd dyfnion

Meriba 87.87.D

[1-4a] Gwared fi, O Dduw, oherwydd
Rwyf yn suddo’n ddwfn mewn llaid;
Dyfroedd sy’n fy sgubo ymaith,
Blinais weiddi yn ddi-baid.
Mae fy llygaid wedi pylu’n
Disgwyl, Dduw, amdanat ti.
Mae ’ngelynion ffals yn amlach
Nag yw ’ngwallt na’m hesgyrn i.


2

3

4
[4b-6] Sut y gallaf fi ddychwelyd
Beth nas dygais yn fy myw?
Gwyddost ti fy ffolinebau,
A’m camweddau i gyd, fy Nuw.
Ond na foed i’r rhai a’th geisio
Weld fy nhynged i yn awr,
Rhag i’w ffydd yn d’allu ddarfod,
Arglwydd Dduw y Lluoedd mawr.


5

6

7
[7-12] Er dy fwyn y’m gwaradwyddwyd.
Gwadodd fy holl deulu i.
Sêl dy dŷ a’m hysodd; teimlaf
Wawd y rhai a’th wawdia di.
Ceblir fi pan wy’n ymprydio,
Rwyf yn wrthrych straeon cas
Yn y ddinas, ac yn destun
I ganeuon meddwon cras.


8

9

10

11

12

13
[13-17] Ond daw ’ngweddi atat, Arglwydd,
Ar yr amser priodol, Dduw.
Yn dy gariad mawr, rho ateb.
Gwared fi, fel y caf fyw.
Achub fi o’r llaid a’r dyfroedd,
Rhag i’r pwll fy llyncu i.
Ateb fi yn dy drugaredd,
Canys da dy gariad di.


14

15

16

17

18
[18-21] Nesâ ataf i’m gwaredu,
Cans, O Dduw, fe wyddost ti
Fy nghywilydd, ac adwaenost
Natur fy ngelynion i.
Fe ddisgwyliais am dosturi
Ac am gysur, heb eu cael.
Rhoesant wenwyn yn fy ymborth,
Ac, i’w yfed, finegr gwael.


19

20

21

22
[22-29] Rhwyder hwy yn eu haberthau.
Torra’u grym, a daller hwy.
Boed eu tai yn anghyfannedd,
Canys gwnânt fy mriwiau’n fwy.
Cosba hwy, a’u cosbi eilwaith,
A’u dileu o lyfr y byw.
Yr wyf fi mewn poen a gofid.
Cod fi i fyny, O fy Nuw.


23

24

25

26

27

28

29

30
[30-33] Molaf enw Duw, a rhoddaf
Ddiolchgarwch iddo ar gân.
Gwell fydd hynny gan yr Arglwydd
Nag aberthau gwych o’r tân.
Gwelwch hyn, a byddwch lawen,
Chwi drueiniaid a gais Dduw,
Cans fe wrendy gri’r anghenus,
Ac i’r caethion ffyddlon yw.


31

32

33

34
[34-36] Boed i’r nefoedd oll a’r ddaear
Ei foliannu yn un côr,
A boed iddo dderbyn moliant
Popeth byw sydd yn y môr.
Cans bydd Duw’n gwaredu Seion;
Fe wna Jwda eto’n gref.
Fe drig plant ei weision yno,
A’r rhai sy’n ei garu ef.

70

1

Cri un anghenus

Rutherford 76.76.D

[1-3] Bydd fodlon i’m gwaredu,
O Arglwydd, brysia di
I’m helpu. Cywilyddia
Bawb a wnâi ddrwg i mi.
A phawb y mae ’nhrallodion
Yn llonni’u calon hwy,
Syfrdana di’r rhai hynny
 rhyw waradwydd mwy.


2

3

4
[4-5] Ond llawenhaed yn wastad
Bawb sy’n dy geisio di.
Dyweded pawb a’th garo,
“Mawr yw fy Arglwydd i”.
Un tlawd, anghenus ydwyf;
O Arglwydd, brysia’n wir.
Dduw ’nghymorth a’m gwaredydd,
O paid ag oedi’n hir.

71

1

Gweddi yn amser henaint

Westminster Abbey 87.87.87

[1-4] Ynot, Arglwydd, ceisiais loches;
Na foed c’wilydd arnaf fi.
Achub fi yn dy gyfiawnder;
Bydd yn amddiffynfa i mi.
Gwared fi o law’r drygionus,
O fy Nuw, fy nghraig wyt ti.


2

3

4

5
[5-8] Ti, O Arglwydd, yw fy ngobaith.
Pwysais arnat ti bob cam
O’m hieuenctid. Ti a’m tynnodd
Allan gynt o groth fy mam.
Gwnaethost fi’n esiampl, ond molaf
Di o hyd, waeth beth fy nam.


6

7

8

9
[9-12] Na ad fi yn amser henaint.
Mae ’ngelynion croch eu llef
Yn dweud, “Ciliodd Duw oddi wrtho.
Nid oes neb a’i gwared ef”.
Na fydd bell oddi wrthyf, Arglwydd;
Cynorthwya fi o’th nef.


10

11

12

13
[13-16] Gwaradwydder fy ngelynion.
Molaf innau fwy a mwy
Dy weithredoedd grymus, Arglwydd,
Er na wn eu nifer hwy —
Moli i ddechrau dy gyfiawnder
Tuag ataf dan bob clwy.


14

15

16

17
[17-18] O’m hieuenctid, ti a’m dysgaist,
Ac rwy’n moli o hyd dy waith.
O fy Arglwydd, paid â’m gadael
Pan wy’n hen a phenwyn chwaith
Nes caf draethu i’r to sy’n codi
Am dy ryfeddodau maith.


18

19
[19-20] Hyd y nef y mae dy gryfder
A’th gyfiawnder di, O Dduw.
Ti, a wnaeth im weld cyfyngder,
A’m bywhei o’m gofid gwyw,
Ac o’r dyfroedd dan y ddaear
Ti a’m dygi i fyny’n fyw.


20

21
[21-24] Fe gynyddi fy anrhydedd,
A moliannaf innau di.
O Sanct Israel, ar y delyn
Canaf byth dy glod a’th fri.
Traethaf beunydd dy gyfiawnder
A’th ffyddlondeb mawr i mi.

72

1

Gweddi am frenhiniaeth gyfiawn

Morning has broken 10.9.10.9

[1-3] Dyro, O Dduw, dy ddeddfau i’r brenin.
Barned dy bobl a’th dlodion yn iawn,
Nes daw cyfiawnder inni o’r bryniau,
Ac o’r mynyddoedd heddwch yn llawn.


2

3

4
[4-6] Boed iddo warchod achos y tlodion.
Boed, tra bo haul, i’w linach barhau.
Bydded fel glaw yn disgyn yn gawod
Ar gnwd y ddaear i’w lwyr ddyfrhau.


5

6

7
[7-9] Hedd a chyfiawnder fo yn ei ddyddiau.
Boed ei lywodraeth o’r Afon fawr
Hyd eitha’r byd. Ymgrymed gelynion
Iddo, a llyfu’r llwch ar y llawr.


8

9

10
[10-11] Deued brenhinoedd Sheba a Seba,
Tarsis a’r holl ynysoedd i gyd
Â’u teyrnged iddo, ac ymostynged
Ger ei fron holl genhedloedd y byd.


11

12
[12-14] Canys tosturia wrth yr anghenus,
Ac wrth y gwan, na all achub ei hun.
Gwared y tlodion rhag trais a gormes,
Cans fe’u hystyria’n werthfawr bob un.


13

14

15
[15-16] Hir oes fo iddo. Bydded gweddïau
Drosto, a bendith arno o hyd.
Bydded i’w gnydau dyfu fel cedrwydd
Lebanon; bydded digon o ŷd.


16

17
[17-19] Cyhyd â’r haul parhaed ei enw’n
Fendith cenhedloedd, ac ef yn ben.
A bendigedig fyddo Duw Israel,
A’r byd yn llawn o’i fawredd. Amen.

73

1

Duw yw fy nghryfder a’m cyfran

Nicea 12.13.12.10

[1-5] Da yw Duw, yn sicr, i’r rhai pur o galon.
Llithrais bron drwy genfigennu wrth y rhai trahaus
Am eu bod heb ofid, ac yn iach a bodlon —
Nid fel y tlawd, mewn helynt yn barhaus.


2

3

4

5

6
[6-9] Mae eu balchder, felly, yn gadwyn am eu gyddfau.
Y mae trais yn wisg amdanynt, a’u calonnau’n ffôl.
Gwawdiant a bygythiant ormes, a’u tafodau’n
Tramwy trwy’r wybren, a thros fryn a dôl.


7

8

9

10
[10-12] Try y bobl, am hynny, atynt gan ddywedyd,
“Y Goruchaf — sut y gŵyr? Beth ydyw’r ots gan Dduw?”
Felly y mae’r rhai’r drwg — bob amser mewn esmwythyd,
Ac yn hel cyfoeth mawr tra byddant byw.


11

12

13
[13-15] Cwbl ofer im oedd cadw’n lân fy nghalon,
Cans ni chefais ddim ond fy mhoenydio drwy y dydd;
Ond pe dywedaswn, “Dyma fy nadleuon”,
Buaswn wedi gwadu teulu’r ffydd.


14

15

16
[16-20] Eto, anodd ydoedd deall hyn, nes imi
Fynd i gysegr Duw a gweld beth yw eu diwedd hwy.
Llithrig yw eu llwybr; yn sydyn fe’u dinistri.
Ciliant fel hunllef, ac nis gwelir mwy.


17

18

19

20

21
[21-23] Mor ddiddeall oeddwn yn fy siom a’m chwerwder,
Ac yn ymddwyn fel anifail tuag atat ti.
Ond, er hynny, yr wyf gyda thi bob amser.
Yr wyt yn cydio yn fy neheulaw i.


22

23

24
[24-26] Fe’m cynghori i, a’m derbyn mewn gogoniant.
Pwy sydd gennyf yn y nef na’r ddaear ond tydi?
Er i’m cnawd a’m calon fynd i lwyr ddifodiant,
Duw yw fy nghryfder byth, a’m cyfran i.


25

26

27
[27-28] Yn wir, fe ddifethir pawb sy’n bell oddi wrthyt,
Ond peth da i mi yw bod yn agos at fy Nuw.
Ti yw f’Arglwydd Dduw, ac fe gaf gysgod gennyt
I ddweud dy ryfeddodau tra bwyf byw.

74

1

Galarnad am ddinistrio’r deml

Eirinwg 98.98.D

[1-5] Pam bwrw dy ddefaid o’r neilltu
Ym mwg dy ddigofaint, O Dduw?
Ymwêl eto â’r bobl a brynaist,
A Seion, lle’r oeddit yn byw.
Cyfeiria dy draed at dy deml
Sy’n awr yn adfeilion di-lun —
D’elynion yn rhuo yn dy gysegr
A chodi’u harwyddion eu hun.


2

3

4

5

6
[6-11] Chwalasant hi, megis coedwigwyr
Yn chwifio eu bwyeill mewn coed.
Malasant y cerfwaith, a maeddu
Preswylfod dy enw erioed.
Llosgasant holl demlau ein cenedl,
Ac ni ŵyr neb oll am ba hyd.
Pa hyd, Dduw, y’th wawdia d’elynion,
A thithau yn aros yn fud?


7

8

9

10

11

12
[12-17] Ond ti yw fy mrenin, iachawdwr
Y ddaear, a rhannwr y môr.
Fe ddrylliaist saith pen Lefiathan,
A’i roi i forfilod yn stôr.
Agoraist ffynhonnau ac afonydd;
Gosodaist derfynau y byd.
Sefydlaist yr heulwen a’r lleuad,
A threfnu’r tymhorau i gyd.


13

14

15

16

17

18
[18-23] Mae’r gelyn, O Dduw, yn dy wawdio.
Na wna dy golomen yn fwyd
Bwystfilod. Rho sylw i’th gyfamod
Ar ddaear sy’n llawn trais a nwyd.
Na ddrysa y rhai gorthrymedig,
Ond boed i’r anghenus a’r tlawd
Dy foli. O Dduw, dadlau d’achos,
A chofia d’elynion a’u gwawd.

75

1

Disgwyl am farn Duw

Downing MB

Diolchwn iti, O Dduw,
Ac fe adroddwn ni,
Sy’n galw ar dy enw, am
Dy ryfeddodau di.


2
[2-3] “Pan ddaw yr amser, dof
I gywir farnu’r byd.
Pan dawdd y ddaear, daliaf fi
Ei holl golofnau i gyd.


3

4
[4-5] Dywedaf wrth y balch,
‘Na fyddwch yn drahaus’,
Ac wrth y drwg, ‘At Dduw, eich Craig,
Na fyddwch yn sarhaus’.”


5

6
[6-7] Ni ddaw o’r dwyrain help,
Nac o’r gorllewin chwaith,
Nac o’r anialwch, ond bydd Duw’n
Ein barnu yn ôl ein gwaith.


7

8
Mae cwpan yn llaw Duw
Yn llawn o ddiod gref.
Fe’i rhydd i’r rhai drygionus oll,
A gwagiant hwythau ef.


9
[9-10] Ond molaf fi am byth
Dduw Jacob am ei fod
Yn tynnu y rhai drwg i lawr,
A’r cyfiawn yn cael clod.

76

1

Y Duw buddugoliaethus

Gwalchmai 74.74.D

[1-3] Yng ngwlad Jwda y mae Duw’n
Adnabyddus,
Ac yn Israel enwog yw
Ei waith grymus.
Yn Jerwsalem y trig,
Ar Fryn Seion,
Lle y malodd arfau dig
Ei elynion.


2

3

4
[4-6] Duw ofnadwy ydwyt ti.
Rwyt yn gryfach
Na’n mynyddoedd cadarn ni.
Troist yn llegach
Y rhyfelwyr cryf i gyd,
Dduw galluog,
A syfrdanu yn dy lid
Farch a marchog.


5

6

7
[7-9] Pwy all sefyll ger dy fron
Pan wyt ddicllon?
Ofnodd yr holl ddaear gron
Dy ddedfrydon,
Pan, o’th nefoedd, codaist di,
Dduw, i’w barnu,
A gweld ei thrueiniaid hi,
A’u gwaredu.


8

9

10
[10-12] Fe’th folianna Edom oll,
Hamath hithau.
Telwch chwithau iddo eich holl
Addunedau.
Cans ofnadwy ydyw Duw
Yn ei nefoedd.
Drylliwr tywysogion yw,
A brenhinoedd.

77

1

Pa dduw mor fawr â’n Duw ni?

Morning has broken 10.9.10.9

[1-2] Gwaeddais yn daer ar Dduw, ac fe’m clywodd.
Ceisiais yr Arglwydd yn nydd fy mhoen —
Estyn fy nwylo’n ddiflino ato.
Nid oedd i’m henaid gysur na hoen.


2

3
[3-6] Pan wyf yn meddwl am Dduw, rwy’n cwyno.
Cedwaist fi oriau’r nos ar ddi-hun.
Cofiaf y dyddiau gynt, a myfyriaf,
Ac yn fy ing fe’m holaf fy hun:


4

5

6

7
[7-8] “A fydd fy Nuw am byth yn fy ngwrthod,
A chadw’i ffafr oddi wrthyf byth mwy?
Beth am ei gariad a’i addewidion:
Pa hyd y pery i’w hatal hwy?


8

9
[9-10] A fwriodd Duw o’i gof bob trugaredd,
A chloi’i dosturi yn ei lid llym?”
Yna dywedais, “Hyn yw fy ngofid:
Collodd deheulaw’r Arglwydd ei grym”.


10

11
[11-13] Galwaf i gof weithredoedd yr Arglwydd.
O Dduw, meddyliaf am dy waith di.
Sanctaidd dy ffordd, yn gwneud rhyfeddodau.
Pa dduw mor fawr ag yw ein Duw ni?


12

13

14
[14-16] Ti yw y Duw sy’n gwneud pethau rhyfedd.
Cedwaist â’th fraich blant Israel yn fyw.
Gwelodd y dyfroedd di, ac arswydo;
Crynodd o’th flaen y dyfnder, O Dduw.

Roedd y ffurfafen fry yn taranu,
A fflachiodd saethau’r mellt ar bob llaw,

15

16

17
[17-18] Ac fe ddisgynnodd dŵr o’r cymylau.
Crynodd y ddaear gyfan mewn braw.


18

19
[19-20] Fe aeth dy ffyrdd drwy’r môr a’i lifddyfroedd,
Eithr ni welwyd dim oll o’th ôl.
Ti a’n harweiniaist, trwy gyfarwyddyd
Moses ac Aron, fel praidd ar ddôl.

78

1

Gweithredoedd Duw mewn hanes

Crug-y-bar 98.98.D

[1-8] Gwrandewch fy nysgeidiaeth, fy mhobl,
Damhegion anhraethol eu gwerth
A draethodd ein tadau gynt wrthym
Am Dduw a’i weithredoedd a’i nerth.
Rhoes arnom ddyletswydd i’w traethu
I’n plant dros yr oesau a fydd,
Rhag iddynt hwy fod fel eu tadau’n
Genhedlaeth derfysglyd, ddi-ffydd.


2

3

4

5

6

7

8

9
[9-18] Gorchfygwyd gwŷr Effraim am iddynt
Anghofio’r cyfamod a wnaeth
Yr Arglwydd â’u tadau, a’u hachub
Pan oeddynt yn Soan yn gaeth.
Fe rannodd y môr, a’u dwyn trwyddo,
A’u harwain â chwmwl a thân.
Fe holltodd y creigiau’n ddŵr yfed,
Ond heriol a chwantus eu cân:


10

11

12

13

14

15

16

17

18

19
[19-31] “Gall ddwyn dŵr o’r graig, mae’n wir,” meddent,
“Ond beth am ein bara a’n cig?
A all hulio bwrdd yn yr anial?”
Pan glywodd yr Arglwydd, bu ddig,
A glawiodd y manna, bwyd engyl,
A’r soflieir fel tywod ar draeth;
Ond cododd ei ddig yn eu herbyn,
A lladd y grymusaf a wnaeth.


20

21

22

23

24

25

26

27

28

29

30

31

32
[32-39] Er hyn, fe ddaliasant i bechu,
Ac felly fe’u cosbodd ef hwy.
Pan drawai hwy, ceisient ef eto,
Gan dwyllo a rhagrithio yn fwy.
Sawl gwaith y maddeuodd ef iddynt
Eu trosedd, sawl gwaith trugarhau,
Gan gofio mai chwa o wynt oeddynt,
Meidrolion diffygiol a brau?


33

34

35

36

37

38

39

40
[40-48] Mor fynych y gwrthryfelasant
Yn erbyn yr Arglwydd eu Duw,
Heb gofio mai ef a’u gwaredodd
O’r Aifft, ac a’u cadwodd yn fyw.
Troes Afon yr Aifft yn ffrwd waedlyd,
Daeth pryfed a llyffaint yn bla;
Dinistriodd eu gwinwydd â chenllysg,
Daeth haint ar eu preiddiau a’u da.


41

42

43

44

45

46

47

48

49
[49-62] Fe drawodd eu cyntafanedig,
Ond arwain ei bobl i’w gwlad;
Troes allan genhedloedd o’u blaenau,
Ond profodd wrthryfel a brad.
Digiasant ef â’u huchelfannau,
A’u delwau cerfiedig i gyd.
Am hyn, ymadawodd â Seilo,
A’u lladd yng nghynddaredd ei lid.


50

51

52

53

54

55

56

57

58

59

60

61

62

63
[63-68a] Fe ysodd y tân eu gwŷr ifainc,
Fe syrthiodd offeiriaid trwy’r cledd;
Ni allai eu gweddwon alaru;
Ac yna, fel milwr llawn medd,
Fe gododd yr Arglwydd o’i drymgwsg,
A tharo’i elynion bob un.
Gwrthododd lwyth Effraim, a dewis
Llwyth Jwda yn bobl iddo’i hun.


64

65

66

67

68
[68b-72] Troes o babell Joseff, a gosod
Ar ben Mynydd Seion ei gaer,
Sydd gyfuwch â’r nefoedd, a’i seiliau’n
Dragywydd, fel seiliau y ddaer.
Dewisodd, yn was iddo, Ddafydd,
A fu’n fugail defaid di-fraw,
A’i roi i fugeilio’i bobl, Israel,
A’u harwain yn fedrus â’i law.

79

1

Arglwydd, a fyddi’n ddig am byth?

Corinth 87.87.D

[1-4] Mae’r cenhedloedd wedi llygru
D’etifeddiaeth di, O Dduw.
Yn Jerwsalem, fe wnaethant
Dy lân deml yn adfail gwyw.
Rhônt i adar a bwystfilod
Gyrff dy weision di, a’u cnawd.
Tywalltasant waed yn ddyfroedd;
Aethom oll yn destun gwawd.


2

3

4

5
[5-9] Arglwydd, am ba hyd? A fyddi’n
Ddig am byth, yn llosgi’n dân?
Tro dy ddicter at y bobloedd
Nad adwaenant d’enw glân.
Paid â dal drygioni ein tadau
Yn ein herbyn. Trugarha.
Dduw ein hiachawdwriaeth, maddau
Inni, er mwyn dy enw da.


6

7

8

9

10
[10-13] Pam y caiff estroniaid holi,
“Ple mae’u Duw?”? Diala’n glau
Waed dy weision; clyw ochneidiau’r
Carcharorion, a’u rhyddhau.
Taro seithwaith ein cymdogion
Am dy watwar; a chawn ni,
Braidd dy borfa, ym mhob cenhedlaeth,
Adrodd byth dy foliant di.

80

1

Gwinwydden Duw

Father, I place into your hands 86.86.86.9

[1-3] Gwrando, O fugail Israel, sy’n
Ein harwain ni o hyd,
Uwch y cerwbiaid yr wyt ti’n
Teyrnasu dros y byd.
Adfer Fanasse, Benjamin,
Ac Effraim, dy braidd mud.
Tro dy wyneb atom; gwared ni.


2

3

4
[4-7] Arglwydd, pa hyd y troi i ffwrdd
Oddi wrth ein gweddi dlawd?
Rhoist fara dagrau ar ein bwrdd,
A gwnaethost ni yn wawd.
Arglwydd y Lluoedd, adfer ni,
A’n hachub rhag ein ffawd.
Tro dy wyneb atom; gwared ni.


5

6

7

8
[8-13] Dygaist o’r Aifft winwydden braf,
A chlirio iddi’r tir.
Cuddiai ei chysgod fryniau’r haf,
A thyfai’i changau’n hir.
Pam rhwygo’i chloddiau, nes bod pawb
Yn tynnu’i ffrwythau ir,
A bod baedd y coed yn tyrchu’r pridd?


9

10

11

12

13

14
[14-19] O Dduw y Lluoedd, cadw di
Dy winllan rhag pob clwy;
Am y rhai sy’n ei llosgi hi,
Cerydda a difa hwy.
Arglwydd y Lluoedd, adfer ni.
Ni thrown oddi wrthyt mwy.
Tro dy wyneb atom; gwared ni.

81

1

Galwad am ufudd-dod

Diademata 66.86.D

[1-5a] Canwch hyd eitha’ch dawn,
A’ch telyn fwyn mewn hwyl,
I Dduw eich nerth; mae’r lloer yn llawn,
A ninnau’n cadw gŵyl;
A seiniwch utgorn llon,
Cans dyma ddeddf ein Duw,
A roes pan ddaeth â’r genedl hon
O wlad yr Aifft yn fyw.


2

3

4

5
[5b-7] Fe glywaf Dduw yn dweud,
“Mi ysgafnheais i
Y baich ar d’ysgwydd gynt, a gwneud
Yn rhydd dy ddwylo di.
Mi ddeuthum i’th fywhau
Mewn taran ac mewn gwynt,
A phrofais dy deyrngarwch brau
Wrth ddŵr Meriba gynt.


6

7

8
[8-12] Felly, O Israel, clyw
Fi’n tystio yn d’erbyn di.
Na fydded gennyt estron dduw,
Ond gwrando arnaf fi.
Myfi yw’r Arglwydd Dduw,
A’th ddygodd di o’r Aifft.
Ond Israel, cenedl gyndyn yw,
A gyrrais hi i’w thaith.


9

10

11

12

13
[13-16] O na bai Israel byth
Yn rhodio yn fy ffyrdd!
Mi ddarostyngwn i yn syth
Ei gwrthwynebwyr fyrdd.
Dôi’r gelyn yn un haig
I blygu o’m blaen yn fud,
Ond bwydwn di â mêl o’r graig.
A’r gorau oll o’r ŷd.”

82

1

Dedfryd Duw

Ravenshaw 66.66

Saif ein Duw yng nghanol
Y cynulliad dwyfol;
Barna ymhlith y duwiau.
Gwrandewch ar ei eiriau.


2
[2-3a] “Pa hyd y camfarnwch?
Pa hyd y dangoswch
Ffafr at y drygionus?
Trowch at y truenus.


3
[3b-4] Rhoddwch eich dyfarniad
O blaid yr amddifad,
A gwaredu’r bregus
O law’r rhai drygionus.


4

5
Ond am na ddeallwch,
Cerddwch mewn tywyllwch,
Ac am hyn, sylfeini’r
Ddaear a ysgydwir.


6
[6-7] Duwiau ydych; eto
Byddwch oll yn syrthio
Megis tywysogion
Marw fel meidrolion.”


7

8
Barna di yn ebrwydd
Yr holl ddaear, Arglwydd,
Canys ti sy’n didol
Yr holl fyd a’i bobol.

83

1

Ofni ymosodiad gan elynion Duw

Edinburgh 87.87. D

[1-8] O Dduw, paid â bod yn ddistaw;
Gwêl y rhai sy’n dy gasáu
Yn cynllwynio yn erbyn Israel
A chynghreirio i’w llesgáu:
Edom, Ismael, Moab, Hagar,
Gebal, Ammon, yn un llu,
Amalec, Philistia a Thyrus,
Ac Asyria fawr o’u tu.


2

3

4

5

6

7

8

9
[9-13] Fel i Sisera, neu Jabin
Ar lan Cison dan ei glwy,
Neu i Fidian gynt yn Harod,
Gwna i’r rhain; gwna’u mawrion hwy
Megis Oreb, Seeb, Seba
A Salmuna. Mae pob un
Yn ymffrostio, “Fe feddiannwn
Diroedd Duw i ni ein hun”.


10

11

12

13

14
[14-18] O fy Nuw, gwna hwy fel manus
O flaen gwynt. Ymlidia hwy
Megis tân yn llosgi coedwig,
A dwg arnynt warth byth mwy.
Gwna’u hwynebau’n llawn cywilydd,
Fel y ceisiant d’enw drud,
Ac y gwelant mai ti, Arglwydd,
Yw’r Goruchaf drwy’r holl fyd.

84

1

Llawenydd tŷ Dduw

Guiting Power 85.85.78

[1-2] Dduw y Lluoedd, dy breswylfod,
O mor brydferth yw!
Rwy’n hiraethu hyd at ddarfod
Am gynteddau Duw.
Y mae’r cwbl ohonof fi
Yn gweiddi am yr Arglwydd byw.


2

3
[3-4] Adar to, a’r wennol dirion
A gânt yno nyth;
Wrth d’allorau magant gywion.
Gwyn eu byd am byth
Bawb sy’n trigo yn dy dŷ,
Yn canu mawl i ti’n ddi-lyth.


4

5
[5-7] Gwyn eu byd y pererinion;
Cedwi hwy rhag braw.
Fe gânt ddyffryn Baca’n ffynnon
Dan y cynnar law.
Ânt o nerth i nerth, nes dod
I wyddfod Duw yn Seion draw.


6

7

8
[8-10a] Arglwydd Dduw y Lluoedd, gwrando
Ar fy ngweddi i.
Edrych ar ein tarian; dyro
Ffafr i’n brenin ni.
Gwell na blwyddyn gartref fydd
Un dydd yn dy gynteddau di.


9

10
[10b-12] Gwell yw sefyll y tu allan
Yno na chael byw
Yn nhai’r drwg; cans haul a tharian
Yw yr Arglwydd Dduw.
Gwyn ei fyd y sawl y bo
Ei hyder ynddo; dedwydd yw.

85

1

Tyrd eto i’n hadfer

Down Ampney 6.6.11.D

[1-3] O Arglwydd, buost wir
Drugarog wrth dy dir.
Adferaist ni, a maddau in ein camwedd,
Dileu’n pechodau i gyd,
A thynnu’n ôl dy lid,
A throi i ffwrdd oddi wrth dy fawr ddicllonedd.


2

3

4
[4-7] Tyrd eto i’n hadfer ni.
Ai byth y byddi di
Yn ddicllon wrthym, Dduw ein hiachawdwriaeth?
Tyrd eto i’n bywhau,
Fel y cawn lawenhau
Yn dy ffyddlondeb mawr a’th waredigaeth.


5

6

7

8
[8-9] Disgynned ar ein clyw
Yr hyn a ddywed Duw.
Cyhoedda hedd i’w bobl. Daw yn agos
Ei iachawdwriaeth gref
At bawb a’i hofna ef,
Fel bo’i ogoniant yn ein tir yn aros.


9

10
[10-13] Fe fydd teyrngarwch Duw
A’i gariad yn cyd-fyw,
A’i heddwch a’i gyfiawnder yn cusanu;
Ffyddlondeb ym mhob tref,
Cyfiawnder lond y nef,
A Duw’n rhoi popeth da, a’n tir yn glasu.

86

1

Tro dy glust ataf, Arglwydd

Reliance 10.10.10.10

[1-2] Tro dy glust ataf, Arglwydd, dan fy ffawd,
Oherwydd rwy’n anghenus ac yn dlawd.
Arbed fy mywyd; teyrngar ydwyf fi,
Dy was, ac rwy’n ymddiried ynot ti.


2

3
[3-5] Ti yw fy Nuw, O Arglwydd; trugarha,
Cans gwaeddaf arnat beunydd. Llawenha
Dy was, cans arnat y dibynnaf fi;
Da a maddeugar, Arglwydd, ydwyt ti.


4

5

6
[6-8] Gwrando ar f’ymbil; fy ngweddïau clyw;
Yn nydd fy ing, atebi fi, O Dduw.
Does neb fel ti ymhlith y duwiau i gyd;
Unigryw dy weithredoedd drwy’r holl fyd.


7

8

9
[9-11a] Fe welir holl genhedloedd byd yn dod
I blygu o’th flaen, a rhoi i’th enw glod.
Cans rwyt ti’n fawr; gwnei ryfeddodau fyrdd.
Ti ydyw’r unig Dduw; dysg im dy ffyrdd.


10

11
[11b-13] Gad imi rodio yn dy wirionedd di;
I ofni d’enw tro fy nghalon i.
Clodforaf dy ffyddlondeb di-droi’n ôl.
Gwaredaist ti fy mywyd o Sheol.


12

13

14
[14-15] Cododd, O Dduw, yn f’erbyn wŷr trahaus;
Bygythia criw didostur fi’n barhaus.
Ond d’anian di, gras a thrugaredd yw;
Llawn cariad a gwirionedd wyt, O Dduw.


15

16
[16-17] Tro ataf, trugarha; rho nerth i’th was;
Rho imi arwydd o’th ddaioni a’th ras;
A chywilyddier pawb sy’n fy nghasáu
Am i ti, Dduw, fy helpu a’m hiacháu.

87

1

Emyn i Seion

Maccabeus 10.11.11.11 a chytgan

[1-3] Ar fryniau sanctaidd y sylfaenodd hi,
Ac fe roes yr Arglwydd iddi fwy o fri
Na holl drefi Jacob. Gogoneddus yw
Pob rhyw sôn amdanat ti, O ddinas Duw.

5 Yn Seion, dinas Duw, y’n ganwyd ni.
Y Goruchaf Un sy’n ei sylfaenu hi.


2

3

4
Yr wyf yn enwi’r Aifft a Babilon
Ymhlith y cenhedloedd sy’n cydnabod hon;
Yn Philistia a Thyrus, Ethiopia i gyd,
Gwelir i blant Seion wasgar drwy’r holl fyd.


5
Yn Seion, dinas Duw, y’n ganwyd ni.
Y Goruchaf Un sy’n ei sylfaenu hi.


6
[6-7] Wrth restru’r bobloedd, bydd yr Arglwydd Dduw
Yn cofnodi am lawer, “Un o Seion yw”.
Dawnswyr a chantorion, unant yn y gri:
“Mae ein holl darddiadau, Seion, ynot ti”.

5 Yn Seion, dinas Duw, y’n ganwyd ni.
Y Goruchaf Un sy’n ei sylfaenu hi.

88

1

Gweddi un a fu’n glaf o’i ieuenctid

Aberavon 77.77

[1-3a] Arglwydd, doed fy ngweddi brudd
Am dy gymorth nos a dydd
Atat ti. Yr wyf yn llawn
O helbulon dyrys iawn.


2

3
[3b-5] At Sheol yr wy’n nesáu;
Rwyf fel un sydd yn llesgáu,
Fel y meirw yn y bedd
Na chânt brofi dim o’th hedd.


4

5

6
[6-8] Bwriaist fi i fannau llwm.
Daeth dy ddicter arna’ i’n drwm.
Gwnest i’m ffrindiau ymbellhau,
Fe’m caethiwaist a’m tristáu.


7

8

9
[9-10] Pyla poen fy llygaid i.
Galwaf beunydd arnat ti.
A wnei di i’r meirwon mud
Rai o’th ryfeddodau drud?


10

11
[11-12] A foliennir di, O Dduw,
Yn nhir Abadon? A yw
Yn wybyddus ddim o’th waith
Yn nhir ango’r caddug maith?


12

13
[13-15a] Llefaf am dy gymorth di;
Yn y bore clywi fi.
Pam fy ngwrthod i, O Dduw?
Rwyf ar drengi, a’m corff yn wyw.


14

15
[15b-16] Fe ddioddefais ddychrynfeydd
O’m hieuenctid; dy wasgfeydd
Sy’n fy nifa; drosof fi
Llifodd dy ddigofaint di.


16

17
[17-18] Mae’n f’amgylchu megis lli,
Ac yn cau amdanaf fi;
Rwyf heb gyfaill yn y byd,
Cans dieithriaist hwy i gyd.

89

1

Ystyried y cyfamod â Dafydd

Sabbath MS

[1-2] Datganaf byth dy gariad di,
A’n cynnal ni drwy’r oesoedd,
A’th faith ffyddlondeb, Arglwydd Dduw —
Mor sicr yw â’r nefoedd.


2

3
[3-4] Dywedaist ti, “Cyfamod gras
A wneuthum â’m gwas Dafydd:
‘Mi sicrhaf dy had mewn hedd
A’th orsedd yn dragywydd’”.


4

5
[5-7] Rhoed holl lu’r nef fawl iti’n awr
Am dy fawr ryfeddodau.
Pwy ond yr Arglwydd Dduw, yn wir,
A ofnir gan y duwiau?


6

7

8
[8-9] O Arglwydd Dduw y lluoedd, pwy
Ohonynt hwy sydd cystal?
Ti sydd yn llywodraethu’r môr,
Yn chwyddo’r don a’i hatal.


9

10
[10-12a] Fe ddrylliaist dy elynion cas
A Rahab fras â’th fysedd.
Rhoist nef a daear yn eu lle,
A chreaist dde a gogledd.


11

12
[12b-14a] O Dabor ac o Hermon daw
I’th nerthol law glodforedd.
Barn a chyfiawnder yw’r ddau faen
Sy’n ffurfio sylfaen d’orsedd.


13

14
[14b-15a] Rhagflaenir di, O Arglwydd da,
Gan gariad a gwirionedd.
Gwyn fyd y rhai a ddaw mewn parch,
A’th gyfarch mewn gorfoledd.


15
[15b-16] Gwyn fyd y rhai sydd yn mwynhau
Dy ffafrau di bob amser,
Sy’n gorfoleddu yn d’enw di,
Yn ffoli ar dy gyfiawnder.


16

17
[17-18] Cans ti yw ein gogoniant ni,
Fe beri i’n corn ddyrchafael.
Ein tarian ydyw’r Arglwydd Dduw,
Ein brenin yw Sanct Israel.

Hysbysaist dy ffyddloniaid gynt,
Rhoist iddynt weledigaeth:

18

19
“O blith y bobl coronais lanc,
Gŵr ifanc grymus odiaeth.


20
[20-22] Eneiniais Ddafydd, fy ngwas glew,
Â’m holew sanctaidd. Iddo
Mi rof fy nerth a’m cryfder i,
Ac ni chaiff neb ei goncro.


21

22

23
[23-24] Nis trecha’r gelyn yn y gad.
Fy nghariad a’m ffyddlondeb
Fydd gydag ef. Yn f’enw bydd
Ysblennydd ei ddisgleirdeb.


24

25
[25-26] Dros yr afonydd oll a’r môr
Rhof iddo’r fuddugoliaeth;
A dywed ef, ‘Fy nhad, ti yw
Fy Nuw a’m hiachawdwriaeth’.


26

27
[27-28] Yn brif etifedd mi a’i gwnaf,
Yr uchaf o’r brenhinoedd.
Deil fy nghyfamod yn ddi-wad
A’m cariad yn oes oesoedd.


28

29
[29-32] Fe bery’i orsedd byth; ei blant,
Os llygrant f’ordeiniadau,
Neu dorri fy ngorchmynion da,
A gosbaf â fflangellau.


30

31

32

33
[33-34] Ond deil fy nghariad, er pob gwall;
Di-ball fydd fy ffyddlondeb.
Ni wadaf ddim a draethais i,
Na thorri fy nghytundeb.


34

35
[35-37] Mi dyngais i’m sancteiddrwydd lw
I’w gadw byth â Dafydd
Y pery ei had a’i orsedd ef
Cyhyd â’r nef dragywydd.”


36

37

38
[38-39] Ond eto, fe droist heibio fri
D’eneiniog di, a’i wrthod,
A thaflu i’r llawr ei goron bur,
Diddymu’r hen gyfamod.


39

40
[40-41] Mae’i furiau yn furddunod prudd,
A’i geyrydd yn adfeilion;
Ysbeilir ef gan bawb yn ffri;
Mae’n destun sbri cymdogion.


41

42
[42-43] Ei wrthwynebwyr nawr sydd ben,
A llawen ei elynion.
Fe bylaist fin ac awch ei gledd
A gomedd dy gynghorion.


43

44
[44-45] Fe fwriaist orsedd hwn i’r llawr,
A dryllio o’i law’r deyrnwialen,
Byrhau’i ieuenctid, a rhoi tost
Gywilydd drosto’n gaenen.


45

46
[46-48] Ai byth, O Dduw, y cuddi di?
Ond cofia fi, sy’n feidrol.
Pa ddyn fydd byw heb weld ei dranc?
A ddianc neb rhag Sheol?


47

48

49
[49-50] O Dduw, ple mae dy gariad di,
A dyngaist gynt i Ddafydd?
Gwêl fel yr wyf yn dwyn ar goedd
Sarhad y bobloedd beunydd.


50

51
[51-52] Er bod d’eneiniog di a’i ffawd
Yn wrthrych gwawd a chrechwen,
Bendigaid fyddi, Dduw di-lyth,
Am byth. Amen ac Amen.

90

1

Tragwyddoldeb Duw, meidroldeb dyn

Praise, my soul 87.87.87

[1-2] Arglwydd, buost noddfa inni
Drwy y cenedlaethau i gyd.
Ers cyn geni y mynyddoedd
A chyn esgor ar y byd,
Ti sydd Dduw o dragwyddoldeb
Hyd at dragwyddoldeb mud.


2

3
[3-6] Fe wnei’n llwch yr holl ddynolryw.
Mil blynyddoedd, Arglwydd mawr,
Sydd i ti fel doe a ddarfu,
Ac fel cysgu tan y wawr.
Sgubi hwy i ffwrdd fel breuddwyd,
Neu fel crinwellt oddi ar lawr.


4

5

6

7
[7-9] Fe ddarfyddwn gan dy ddicter,
A’n brawychu gan dy lid.
Dodaist yng ngoleuni d’wyneb
Ein pechodau cudd i gyd.
Derfydd fel ochenaid egwan
Ein blynyddoedd yn y byd.


8

9

10
[10-12] Hyd ein hoes yw saith deng mlynedd —
Wyth deg, hwyrach — ond mae’u hyd
Yn llawn blinder, ac ânt heibio.
Pwy, fel ni, a ŵyr dy lid?
Dysg ni, felly, i gyfri’n dyddiau,
Inni fod yn ddoeth ein bryd.


11

12

13
[13-15] Am ba hyd? O Arglwydd, dychwel
At dy bobl, a thrugarhau,
A’n digoni ni â’th gariad
Nes cawn eto lawenhau.
Rho in flwyddyn o lawenydd
Am bob blwyddyn o’n tristáu.


14

15

16
[16-17] Boed yn amlwg iawn i’th weision
Dy weithredoedd mawr a’th fri.
Arglwydd Dduw, disgynned arnom
Dy raslonrwydd hyfryd di.
Llwydda waith ein dwylo inni,
Llwydda waith ein dwylo ni.

91

1

Bendithion ymddiried yn Nuw

Missionary 76.76.D

[1-3] Mae’r sawl sy’n byw yn lloches
Yr Hollalluog Dduw
Yn dwedyd am yr Arglwydd,
“Fy nghaer a’m noddfa yw;
Mi ymddiriedaf ynddo”.
Cans dy waredu a wna
O fagl gudd yr heliwr,
Rhag dinistr a rhag pla.


2

3

4
[4-6] Bydd cysgod ei adenydd
I ti yn nodded dlos.
Cei darian ei wirionedd.
Nid ofni ddychryn nos,
Na’r saeth sydd yn ehedeg
Liw dydd, na’r heintiau sydd
Yn cerdded drwy’r tywyllwch,
Na dinistr ganol dydd.


5

6

7
[7-10] Pe syrthiai mil wrth d’ochor,
Deng mil ar dy law dde,
Diogel fyddi, a gweli
Roi’r anfad yn eu lle.
Bydd Duw i ti yn noddfa,
Yn amddiffynfa gref.
Ni ddigwydd niwed iti,
Ac ni ddaw pla i’th dref.


8

9

10

11
[11-13] Gorchmynna i’w angylion
Dy gadw yn dy ffyrdd.
Rhag taro o’th droed wrth garreg,
A rhag trallodion fyrdd,
Fe’th godant ar eu dwylo;
A throedio a wnei yn lew
Ar lewod ac ar nadroedd,
Y sarff a chenau’r llew.


12

13

14
[14-16] “Am iddo lynu wrthyf,
Gwaredaf ef,” medd Duw.
“Am iddo fy adnabod,
Fe’i cadwaf tra bo byw.
Dof ato mewn cyfyngder,
Ac fe’i digonaf ef
Ag einioes hir i flasu
Fy iachawdwriaeth gref.”

92

1

Y Duw dyrchafedig

Llef MH

[1-2] Da yw dy foli, Arglwydd Dduw,
A chanu i’th enw, gweddus yw:
Sôn am dy gariad gyda’r wawr,
A’r nos am dy ffyddlondeb mawr.


2

3
[3-5] Â’r delyn fwyn a’i thannau mân,
Ar gordiau’r dectant, seiniwn gân.
Cans gwaith dy ddwylo a’m llonnodd i;
Mor ddwfn yw dy feddyliau di!


4

5

6
[6-8] Un ynfyd yw y sawl na ŵyr
Y caiff y drwg eu difa’n llwyr;
Dinistrir hwy, er maint eu bri,
Ond dyrchafedig byth wyt ti.


7

8

9
[9-11] Difethir dy elynion di,
Ac yn eu cwymp fe’m llonnir i.
Eneiniaist fi ag olew gwych
A chodi ’nghorn fel corn yr ych.


10

11

12
[12-13] Blodeua’r da fel palmwydd ir,
Fel cedrwydd Lebanon, drwy’r tir.
Yn nhŷ yr Arglwydd maent yn byw;
Blodeuant yng nghynteddau’n Duw.


13

14
[14-15] Parhant i ffrwytho hyd yn oed
Mewn henaint, wyrdd ac iraidd goed,
I ddweud nad oes camwri yn Nuw:
Ef yw fy nghraig, ac uniawn yw.

93

1

Gorsedd ddi-syfl Duw

Down Ampney 6.6.11.D

[1-2] Y mae yr Arglwydd Dduw
Yn frenin; mawredd yw
Ei wisg, ac y mae cryfder iddo’n wregys.
Di-syfl, yn wir, yw’r byd,
A’th orsedd di o hyd;
Yr wyt er tragwyddoldeb yn Dduw grymus.


2

3
[3-5] Fe gododd dyfroedd lu
A thonnau’r môr eu rhu,
Ond cryfach ydyw Duw na’u holl enbydrwydd.
Mi wn mai sicr yw
Holl dystiolaethau Duw;
Sancteiddrwydd byth sy’n gweddu i’th dŷ, O Arglwydd.

94

1

Duw’n sefyll dros y cyfiawn

Ellers 10.10.10.10

[1-4] O dial, Arglwydd Dduw, ti farnwr byd,
Rho’u haeddiant i’r rhai beilchion. Am ba hyd
Y caiff y drwg, â’u parabl trahaus,
Barhau i ymfalchïo mor sarhaus?


2

3

4

5
[5-7] Y maent yn sigo d’etifeddiaeth di,
Yn lladd ein gweddwon a’n hamddifaid ni.
Llofruddiant yr estroniaid yn ein plith,
Cans dweud y maent, “Ni sylwa’r Arglwydd byth”.


6

7

8
[8-11] Deallwch hyn, chwi ffyliaid: Oni chlyw
Yr un a blannodd glust, ac onid yw
Lluniwr pob llygad yn gweld drosto’i hun?
Fe ŵyr yr Arglwydd holl feddyliau dyn.


9

10

11

12
[12-15] Gwyn fyd y sawl y dysgi iddo, O Dduw,
Dy gyfraith, a’i ddisgyblu. Diogel yw
Rhag ing. Caiff eto d’etifeddiaeth di
Farn deg, a’r uniawn yn ei dilyn hi.


13

14

15

16
[16-18] Pwy a saif drosof rhag y rhai a wna
Weithredoedd drwg? Mi fyddwn, Arglwydd da,
Yn nhir y bedd ond am dy gymorth di.
Pan lithrwn, daliai dy ffyddlondeb fi.


17

18

19
[19-21] Er bod pryderon mawr yn fy nhristáu,
Mae dy gysuron di’n fy llawenhau.
A wnei di gynghrair gyda barnwyr sy’n
Condemnio’r cyfiawn, ac yn elwa’u hun?


20

21

22
[22-23] Ond craig a lloches imi ydyw Duw.
Am y rhai drwg, fe’u tyrr o dir y byw.
Fe’u llwyr ddiddyma’r Arglwydd, ac fe ddwg
Arnynt eu hunain eu gweithredoedd drwg.

95

1

Galwad am ufudd-dod

Rockingham MH

[1-2] Dewch, canwn oll yn llon i Dduw,
Cans craig ein hiachawdwriaeth yw.
 diolch down i’w deml lân,
A rhown wrogaeth iddo ar gân.


2

3
[3-4] Oherwydd mawr yw’r Arglwydd Dduw;
Brenin goruwch y duwiau yw.
Ef biau ddyfnder daear lawr
Ac uchder y mynyddoedd mawr.


4

5
[5-6a] Ef biau’r môr, ac ef a’i gwnaeth;
Y sychdir oll, o drum i draeth,
A greodd ef â’i ddwylo hud.
Dewch, ac addolwn ef ynghyd.


6
[6b-7a] I’r Arglwydd plygwn, cans ef yw
Yr un a’n gwnaeth; ef yw ein Duw,
A ninnau’n bobl iddo ef,
Yn ddefaid ar borfeydd y nef.


7
[7b-8] O wrando ar ei lais, fe gewch
Ei rym, ond nac anufuddhewch,
Fel eich cyn-dadau ar eu hynt
Yn llwch Meriba a Massa gynt.


8

9
[9-11] “Profasant fi, er gweld fy ngwaith.
Dros ddeugain mlynedd blin eu taith
Ffieiddiais hwy, a’u her a’u brad,
A dweud na chaent feddiannu’r wlad.”

96

1

Yr Arglwydd yn frenin ac yn farnwr

Mannheim 87.87.87

[1-3] Canwch newydd gân i’r Arglwydd,
Bobl y ddaear oll i gyd,
Ei fendithio a chyhoeddi’i
Iachawdwriaeth ef o hyd,
Taenu ar led ei ryfeddodau
Ymysg holl genhedloedd byd.


2

3

4
[4-6] Teilwng iawn o fawl yw’r Arglwydd;
Mwy na’r duwiau ydyw ef.
Duwiau’r bobloedd ŷnt eilunod,
Ond ein Duw a wnaeth y nef.
Mae anrhydedd a gogoniant,
Nerth a mawredd yn ei dref.


5

6

7
[7-9] Rhowch i’r Arglwydd, chwi dylwythau
Y cenhedloedd, foliant llon;
Dygwch offrwm i’w gynteddoedd,
Ac ymgrymwch bawb gerbron
Holl ysblander ei sancteiddrwydd.
Crynwch rhagddo, ddaear gron.


8

9

10
[10-12a] A mynegwch i’r cenhedloedd:
“Brenin ydyw’r Arglwydd mawr”;
Bydd yn barnu’r bobl yn uniawn,
Ac mae’r byd yn sicr yn awr.
Llawenhaed y nefoedd uchod,
Gorfoledded daear lawr.


11

12
[12b-13] Llawenhaed y maes a’i gynnwys.
Caned prennau’r wig i gyd
O flaen Duw, cans y mae’n dyfod
I reoli a barnu’r byd —
Barnu’r ddaear mewn cyfiawnder
A’i holl bobl â’i degwch drud.

97

1

Brenhiniaeth a grym yr Arglwydd

Joanna 11.11.11.11

[1-2] Mae’r Arglwydd yn frenin; boed lawen y byd
Hyd eitha’r ynysoedd pellennig i gyd.
Mae cwmwl a chaddug o’i amgylch, a sail
Ei orsedd yw barn a chyfiawnder di-ail.


2

3
[3-5] Mae’n llosgi’i elynion oddi amgylch â thân.
Mae’i fellt yn goleuo y ddaear achlân.
Mae’r holl fyd yn gweld, ac yn crynu yn llwyr
O’i flaen, a’r mynyddoedd yn toddi fel cwyr.


4

5

6
[6-7] Mae’r nef yn cyhoeddi’i gyfiawnder, a gwêl
Y bobl ei ogoniant. Cywilydd a ddêl
Ar bawb sy’n addoli gau-dduwiau di-werth.
Ymgrymwch, chwi dduwiau, i Arglwydd pob nerth.


7

8
[8-9] O achos dy farnedigaethau, llon yw
Jerwsalem a threfi Jwda, O Dduw.
Oherwydd yr ydwyt goruwch yr holl fyd;
Dyrchafwyd di’n uwch na’r holl dduwiau i gyd.


9

10
[10-12] Fe gâr Duw gasawyr drygioni, a dwg
Fywydau’i ffyddloniaid o ddwylo’r rhai drwg.
Llewyrcha goleuni ar yr uniawn. O dewch,
Rai cyfiawn, a molwch; yn Nuw llawenhewch.

98

1

Cyfarchwch yr Arglwydd, y brenin

Ravenshaw 66.66

Canwch oll i’r Arglwydd
Newydd gân, oherwydd
Gwnaeth weithredoedd odiaeth;
Cafodd fuddugoliaeth.


2
Rhoddodd Duw wybodaeth
Am ei iachawdwriaeth.
Dengys ei gyfiawnder
I genhedloedd lawer.


3
Deil ei serch yn ddiogel
At ei bobl, Israel.
Cafodd pob tiriogaeth
Weld ei iachawdwriaeth.


4
Rhowch i Dduw wrogaeth,
Yr holl ddaear helaeth.
Canwch mewn llawenydd,
A rhowch fawl yn ddedwydd.


5
[5-6] Canwch iddo â thannau
Telyn a thympanau.
Rhowch wrogaeth ddibrin
O flaen Duw, y brenin.


6

7
[7-8] Rhued tir ac eigion,
A phawb o’u trigolion.
Llawenhaed y dyfroedd.
Caned y mynyddoedd.


8

9
Cans mae Duw yn dyfod.
Barna’r ddaear isod:
Barnu’r byd yn gyfiawn,
Barnu’r bobl yn uniawn.

99

1

Dyrchafwch Dduw Seion

Blaen-cefn 87.87.44.7

[1-3] Y mae’r Arglwydd Dduw yn frenin;
Cryna’r bobl, ysgydwa’r byd.
Fe’i gorseddwyd ef yn Seion
Goruwch y cerwbiaid mud.
Dyrchafedig
Ydyw. Moled
Pawb ei enw — sanctaidd yw.


2

3

4
[4-5] Frenin cryf, fe gâr gyfiawnder,
A sylfaenydd tegwch yw;
Gwnaeth uniondeb barn yn Jacob.
O dyrchafwch bawb ein Duw,
Ac ymgrymwch
Wrth ei droedfainc —
Sanctaidd, sanctaidd ydyw ef.


5

6
[6-7] Yr oedd Moses gynt, ac Aaron
Ymhlith ei offeiriaid ef;
Samuel yn broffwyd iddo;
Yn y golofn niwl o’r nef
Fe’u hatebodd,
A chadwasant
Dystiolaethau Duw a’i ddeddf.


7

8
[8-9] Arglwydd Dduw, rhoist ateb iddynt;
Duw yn maddau fuost ti,
Ond yn dial eu camweddau.
O dyrchafwch ein Duw ni,
Ac ymgrymwch
Yn ei fynydd —
Sanctaidd, sanctaidd yw ein Duw.

100

1

Rhowch wrogaeth i’r Arglwydd

Belmont MC

[1-2] O rhowch wrogaeth, yr holl fyd,
Ynghyd i’r Arglwydd glân.
Ei foliant rhowch yn llon ar daen,
A dewch o’i flaen â chân.


2

3
Gwybyddwch mai yr Arglwydd yw
Y Duw a’n gwnaeth bob un,
A ninnau’n ddefaid ei borfeydd,
Ei bobl, ei eiddo’i hun.


4
 diolch dewch i mewn i’w byrth,
A chydag ebyrth mawl.
Diolchwch, a bendithiwch Dduw,
Cans dyna yw ei hawl.


5
Oherwydd da yw’r Arglwydd byth;
Di-lyth ei gariad ef,
A phery ei ffyddlondeb hyd
Y pery’r byd a’r nef.

101

1

Llw’r brenin delfrydol

Ravenshaw 66.66

Canaf am ffyddlondeb,
Canaf am uniondeb;
I ti, dirion Arglwydd,
Pynciaf gerdd yn ebrwydd.


2
Dy ffordd di a ddysgaf.
Pryd y deui ataf?
Byddaf gywir-galon
Ymysg fy nghymdeithion.


3
Ni osodaf lygad
Ar ddim byd sy’n anfad.
Cas yw gennyf dwyllwr:
Ni rof iddo swcwr.


4
Cilia’r gwyrgam galon
Rhagof ar eu hunion.
Ni wnaf gymdeithasu
Gyda’r sawl sy’n pechu.


5
Y sawl sy’n enllibio
Cyfaill, rhof daw arno;
Ac ni allaf arddel
Y rhai balch, ffroenuchel.


6
Ond y mae fy llygaid
Ar y gwir ffyddloniaid.
Pobl y ffordd berffeithiaf
A gaiff weini arnaf.


7
Ni chaiff neb sy’n twyllo
Yn fy nhŷ breswylio,
Ac ni chaiff celwyddgi
Aros yn fy ngŵydd i.


8
Ddydd wrth ddydd helbulus,
Tawaf y drygionus;
Trof hwy i ffwrdd o ddinas
Duw, ddihirod atgas.

102

1

Galaru a gweddïo dros Seion

Father, I place into your hands 86.86.86.9

[1-3] O Arglwydd, clyw fy ngweddi; doed
Fy llef hyd atat ti.
Na chudd dy wyneb rhagof; boed
It glywed ing fy nghri.
Dyro im ateb yn ddi-oed,
Cans darfod yr wyf fi,
A’m holl gorff yn llosgi megis ffwrn.


2

3

4
[4-7] Gwywo fel glaswellt a fu’n ir,
A nychu yw fy ffawd.
Oherwydd sŵn f’ochneidio hir,
Mae f’esgyrn trwy fy nghnawd.
Yr wyf fel brân mewn anial dir,
Tylluan adfail tlawd,
Fel aderyn unig ar ben to.


5

6

7

8
[8-11] I’m gwawdwyr nid yw f’enw i
Ond rheg o flaen y byd.
Lludw fy mwyd, a dagrau’n lli
A yfaf. Yn dy lid
Fy mwrw o’r neilltu a wnaethost ti;
Mae ’mywyd i i gyd
Megis cysgod hwyr neu laswellt gwyw.


9

10

11

12
[12-15] Arglwydd, am byth gorseddwyd di;
Fe godi i drugarhau;
Canys fe ddaeth yr amser i
Dosturio wrth Seion frau.
Hoff gan dy weision ei llwch hi.
Pan ddeui i’w chryfhau
Bydd cenhedloedd byd yn crynu o’th flaen.


13

14

15

16
[16-18] Fe adeilada’r Arglwydd Dduw
Ei Seion, a daw dydd
Y gwelir eto’i fawredd; clyw
Gri’r gorthrymedig prudd.
Hyn oll, ysgrifenedig yw
I genedlaethau a fydd.
Genir eto bobl i’w foli ef.


17

18

19
[19-22] Cans bu i’r Arglwydd drugarhau.
O’r nef fe fwriodd drem
Ar garcharorion, a’u rhyddhau
Rhag angau a gormes lem,
Fel bod i’w enw mawr barhau
Drwy holl Jerwsalem
Pan ddaw’r byd ynghyd i’w foli ef.


20

21

22

23
[23-25] O Arglwydd Dduw, byrheaist ti
Fy nyddiau yn y byd.
Dywedaf am fy einioes i,
“Na chymer hi cyn pryd”.
Cans pery dy flynyddoedd di
Drwy’r cenedlaethau i gyd.
Creaist ddaear; gwaith dy law yw’r nef.


24

25

26
[26-28] Derfydd y rhain, a llwyr lesgáu,
Ond nid ei di’n ddim hŷn.
Treulio a wnânt fel dillad brau,
Ond yr wyt ti yr un.
Bydd plant dy weision yn parhau
Yn Seion hardd ei llun,
A’u hiliogaeth dan d’amddiffyn di.

103

1

Trugarog a graslon yw’r Arglwydd

Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D

[1-5] Bendithied y cyfan sydd ynof
Lân enw yr Arglwydd o hyd.
Na foed im anghofio’i holl ddoniau:
Mae’n maddau ’nhroseddau i gyd.
Ef sydd yn iacháu fy afiechyd,
Ac yn fy ngwaredu o Sheol.
Y mae’n fy nghoroni â chariad,
Yn dwyn fy ieuenctid yn ôl.


2

3

4

5

6
[6-9] Mae’r Arglwydd yn gwneuthur cyfiawnder
I bawb sydd dan orthrwm a thrais.
Fe ddysgodd ei ffyrdd gynt i Moses,
A chlywodd plant Israel ei lais.
Trugarog a graslon yw’r Arglwydd;
Ni lidia; mae’n ffyddlon ddi-lyth.
Nid yw yn ceryddu’n ddiddiwedd
Na meithrin ei ddicter am byth.


7

8

9

10
[10-14] Ni thalodd i ni ein troseddau,
Ond, fel y mae’r nef dros y byd,
Mae’i gariad ef dros bawb a’i hofna.
Pellhaodd ein pechod i gyd
Mor bell oddi wrthym ag ydyw’r
Gorllewin o’r dwyrain; cans gŵyr
Mai llwch ydym ni, ac, fel rhiant
Wrth blentyn, tosturia yn llwyr.


11

12

13

14

15
[15-18] Mae’n dyddiau ni megis glaswelltyn.
Blodeuwn fel blodau ar ddôl;
Ond pan ddaw y gwynt, fe ddiflannwn:
Ni ddeuwn i’n cartref yn ôl.
Ond y mae ffyddlondeb yr Arglwydd
A’i iawnder am byth yn parhau
I’r rhai sydd yn cadw’i gyfamod
A’i ddeddfau, ac yn ufuddhau.


16

17

18

19
[19-22] Mae gorsedd ein Duw yn y nefoedd,
Ac ef sy’n rheoli pob peth.
Bendithiwch yr Arglwydd, angylion,
Sy’n gwneuthur ei air yn ddi-feth.
Bendithiwch yr Arglwydd, ei luoedd,
Sy’n gwneud ei ewyllys; a chwi,
Ei holl greadigaeth, bendithiwch
Yr Arglwydd ein Duw gyda mi.

104

1

Emyn i’r Creawdwr

Diademata 66.86.D

Arglwydd, bendithiaf di.
Fy Nuw, yr wyt mor fawr.

[1-3] Dy wisg, ysblander ydyw hi;
Dy fantell yw y wawr.
Fe daeni’r nef fel llen;
Dy blas a seiliaist gynt
Goruwch y dyfroedd; ei drwy’r nen
Ar esgyll chwim y gwynt.


2

3

4
[4-7] Gwyntoedd a fflamau tân
Sydd weision oll i ti.
Sylfaenaist ti y ddaer achlân,
Ac nis symudir hi.
Bu’r dyfnder yn gor-doi’i
Mynyddoedd mawr i gyd,
Ond gwnaethost ti i’r dyfroedd ffoi
A chilio rhag dy lid.


5

6

7

8
[8-12] I’r lle a bennaist ânt;
Gosodaist iddynt hwy
Derfynau pendant fel na chânt
Orchuddio’r ddaear mwy.
Mewn hafnau diystŵr
Fe roist ffynhonnau iach
Lle daw’r bwystfilod gwyllt am ddŵr,
Lle nytha’r adar bach.


9

10

11

12

13
[13-15] O’th blas rwyt yn dyfrhau
Y ddaear; tyfi di
Y gwellt i’r gwartheg; rwyt yn hau
At ein gwasanaeth ni.
Cawn ddwyn o’r ddaear wledd:
Yn fara trown ei hŷd;
Cawn olew i ddisgleirio’n gwedd,
A gwin i lonni’n bryd.


14

15

16
[16-18] Digoni a wnei y coed,
Hen gedrwydd Lebanon,
Lle bu’r ciconia’n byw erioed,
Lle nytha’r adar llon.
Ar y mynddoedd pawr
Y geifr, yn fodlon, glyd,
A lloches yw’r clogwyni mawr
I’r brochod mân i gyd.


17

18

19
[19-23] Trefnaist ei chylch i’r lloer;
Daw’r hirnos, pan y mae
Bwystfilod gwig, â’u rhuo oer,
Yn prowla am eu prae.
Ond pan ddaw’r haul i’w daith,
Fe giliant hwy yn llwyr.
Daw pobl allan at eu gwaith
A’u llafur hyd yr hwyr.


20

21

22

23

24
[24-26] Doeth a niferus iawn
Yw gwaith dy law, O Dduw:
Mae’r ddaear lydan oll yn llawn
O’th greaduriaid byw;
A’r môr â’i bysg di-ri,
A’i longau o bob llun,
A Lefiathan, a wnest ti
Er sbort i ti dy hun.


25

26

27
[27-30] Arnat dibynnu a wnânt
Am ymborth yn ei bryd.
Pan roi, fe’u casglant, ac fe gânt
Eu llwyr ddiwallu i gyd.
Pan ei â’u hanadl frau,
Dychwelant yn llwch mud,
Ond daw dy anadl di i fywhau
Ac adnewyddu’r byd.


28

29

30

31
[31-32] Gogoniant Duw a fo’n
Dragywydd a di-goll.
A bydded iddo lawen sôn
Am ei weithredoedd oll.
Pan fwria’i drem i’r llawr,
Fe bair ddaeargrynfeydd;
Pan gyffwrdd â’r mynyddoedd mawr,
Fe fygant gan losgfeydd.


32

33
[33-35] Canaf i’r Arglwydd gân,
A’i foli tra bwyf byw,
A boed fy myfyrdodau’n lân
A chymeradwy i Dduw.
Yr anfad yn ein plith,
Erlidied hwy o’u tref.
Bendithiaf fi yr Arglwydd byth,
A molwch chwithau ef.

105

1

Y Duw sy’n cadw’i addewid

Cruger 76.76.D

[1-6] Diolchwch oll i’r Arglwydd
Ar weddi ac ar gân.
Hysbyswch ei weithredoedd,
A moli’i enw glân.
Addolwch ef, a chofiwch
Holl ryfeddodau’i ras,
Chwi blant ei ffefryn, Jacob,
Ac Abraham, ei was.


2

3

4

5

6

7
[7-11] Ef yw ein Duw, yr Arglwydd.
Mae’n barnu’r byd heb gam.
Mae’n cofio ei gyfamod,
Ei lw i Abraham,
I Isaac ac i Jacob,
A’i eiriau sy’n ddi-lyth:
“I chwi y rhof wlad Canaan
Yn etifeddiaeth byth”.


8

9

10

11

12
[12-15] Pan nad oedd cenedl Israel
Ond bechan, ac ar daith
O wlad i wlad, ni chafodd
Neb ei darostwng chwaith.
Ceryddodd ef frenhinoedd,
A’u siarsio, “Peidiwch chwi
 chyffwrdd â’m heneiniog
Nac â’m proffwydi i”.


13

14

15

16
[16-19] Cyn anfon newyn, trefnu
I’w bwydo hwy a wnaeth,
Pan yrrodd eu brawd, Joseff,
O’u blaen i’r Aifft yn gaeth.
Fe roed ei draed mewn cyffion
A’i wddf mewn cadwyn gref,
Nes profodd gair yr Arglwydd
Mai gwir ei eiriau ef.


17

18

19

20
[20-23] Yr Arglwydd a anfonodd
Y brenin i’w ryddhau
A’i wneud yn llywodraethwr
Y deyrnas, i’w chryfhau,
A dysgu i’w henuriaid
Ddoethineb yn eu gwaith.
Ac yna daeth plant Israel
I grwydro yn nhir yr Aifft.


21

22

23

24
[24-27] Fe’u gwnaeth yr Arglwydd yno
Yn bobl ffrwythlon iawn.
Gwnaeth galon eu gelynion
O ddichell cas yn llawn.
Daeth Moses, a’i frawd, Aaron,
Drwy’i air, i sythu’r cam,
A thrwyddynt gwnaeth arwyddion
A gwyrthiau yn nhir Ham.


25

26

27

28
[28-32] Er anfon drosti gaddug,
Terfysgai’r Aifft yn fwy;
Fe droes yn waed ei dyfroedd,
A lladd eu pysgod hwy,
A llenwi’r tir â llyffaint
A gwybed yn un haid;
Trwy’r wlad fe lawiai cenllysg
A fflachiai mellt di-baid.


29

30

31

32

33
[33-36] Fe drawodd ffrwyth eu gwinwydd
A’r holl ffigyswydd ir.
Llefarodd, a daeth cwmwl
Locustiaid dros y tir
I lwyr ddinistrio’r glaswellt
A difa’r cnydau ŷd;
A’u plant cyntafanedig
A drawodd yn ei lid.


34

35

36

37
[37-40] Ac yna dug hwy allan,
Ag aur ac arian drud,
A’r Eifftiaid, yn eu harswyd,
Yn llawenhau i gyd.
Rhoes gwmwl i’w gorchuddio,
Goleuo’r nos â thân;
Anfonodd iddynt soflieir
A bara’r nefoedd lân.


38

39

40

41
[41-45] Fe holltodd graig nes tarddodd
Y dŵr drwy’r anial cras,
Cans cofiodd ei addewid
I Abraham, ei was.
Rhoes diroedd y cenhedloedd
I’w bobl yn lle i fyw,
I gadw ei gyfreithiau
A’i ddeddfau. Molwch Dduw.

106

1

Israel anniolchgar

Lobe den Herren 14.14.4.7.8

[1-3] Molwch yr Arglwydd, cans da yw; ei gariad a bery.
Diolchwch iddo; ei wyrthiau ni all neb eu traethu.
Mor wyn eu byd
Y rhai sy’n uniawn o hyd
Ac sydd yn gyfiawn wrth farnu.


2

3

4
[4-5] Cofia fi, Arglwydd, pan ddoi at dy bobl â’th ffafriaeth.
Ymwêl â mi pan estynni dy fawr waredigaeth,
A gweld a gaf
Lwyddiant dy bobl; llawenhaf
Pan lawenha d’etifeddiaeth.


5

6
[6-8] Yr ydym ni, fel ein tadau gynt, wedi troseddu.
Yn yr Aifft, gwadent dy wyrthiau a’th gariad a’th allu.
Wrth y Môr Coch,
Gwrthryfelasant yn groch;
Ond mynnodd Duw eu gwaredu.


7

8

9
[9-12] Sychodd y môr, ac arweiniodd hwy trwy ei ddyfnderau.
Gwaredodd hwy o law’r gelyn a’u harbed rhag angau.
Llyncodd y dŵr
Eu gwrthwynebwyr, bob gŵr.
Yna credasant ei eiriau.


10

11

12

13
[13-15] Buan yr aeth ei weithredoedd yn angof llwyr ganddynt.
Profasant Dduw yn yr anial, pan ddaeth eu blys drostynt.
Rhoes iddynt hwy
Bopeth a geisient, a mwy,
Ond gyrrodd nychdod amdanynt.


14

15

16
[16-18] Roedd eu cenfigen at Foses ac Aaron yn wenfflam.
Caeodd y ddaear am Dathan a chwmni Abiram.
Cyneuodd tân:
Llosgodd ei fflamau yn lân
Y rhai drygionus a gwyrgam.


17

18

19
[19-22] Yn Horeb, delw a wnaethant o lo, a’i haddoli:
Newid gogoniant eu Duw am lun eidion yn pori;
Anghofio Duw,
A’u dygodd o’r Aifft yn fyw,
A gwyrthiau mawr ei ddaioni.


20

21

22

23
[23-25] Felly, dywedodd y byddai’n eu difa yn ebrwydd
Oni ddôi Moses i’r bwlch i droi’n ôl ei ddicllonrwydd.
Mawr oedd eu brad;
Cablent hyfrydwch y wlad,
Heb wrando ar lais yr Arglwydd.


24

25

26
[26-27] Fe gododd yntau ei law yn eu herbyn, a thyngu
Y byddai’n peri eu cwymp yn yr anial, a chwalu
Eu plant i gyd
I blith cenhedloedd y byd —
Trwy’r gwledydd oll eu gwasgaru.


27

28
[28-31] Yna fe aethant dan iau’r duw Baal Peor, a bwyta
Ebyrth y meirw, a digio yr Arglwydd â’u hyfdra.
Daeth arnynt bla,
Nes barnodd Phinees hwy’n dda;
Cofir am byth ei uniondra.


29

30

31

32
[32-33] Wrth ddyfroedd Meriba hefyd, digiasant yr Arglwydd,
Ac fe aeth Moses ei hun i drybini o’u herwydd,
Canys fe aeth
Chwerwder i’w enaid, a gwnaeth
Bethau a fu iddo’n dramgwydd.


33

34
[34-37] Nid ufuddhasant ychwaith a dinistrio’r paganiaid,
Ond ymgymysgu â hwy, dysgu ffyrdd yr anwariaid:
Plygu o flaen
Delwau o goed ac o faen,
Aberthu’u plant i’r demoniaid.


35

36

37

38
[38-39] I dduwiau Canaan aberthent eu meibion a’u merched,
Ac fe halogwyd y ddaear â gwaed y diniwed.
Trwy hyn i gyd
Aethant yn aflan eu bryd
Ac yn buteiniaid gwargaled.


39

40
[40-43] Yna cythruddodd yr Arglwydd eu Duw yn eu herbyn,
A darostyngodd ei bobl dan lywodraeth eu gelyn.
Droeon bu’n gefn
Iddynt, ond pechent drachefn,
A darostyngai hwy wedyn.


41

42

43

44
[44-46] Ond, wrth eu clywed yn llefain am gymorth, fe gofiodd
Ei hen gyfamod â hwy, ac fe edifarhaodd.
O’i gariad hael
Rhoes ei drugaredd ddi-ffael
Yng nghalon pawb a’u caethiwodd.


45

46

47
[47-48] Gwared ni, Arglwydd, a’n cynnull ni o blith y gwledydd,
Inni gael diolch i’th enw, a’th foli di beunydd.
Byth y bo’n ben
Arglwydd Dduw Israel. Amen.
Molwch yr Arglwydd tragywydd.

107

1

Diolched pawb i’r Arglwydd

Wir pflügen 76.76.D a chytgan

[1-3] “Diolched pawb i’r Arglwydd,
Cans da a ffyddlon yw,”
Yw cân pawb a waredwyd
Trwy law yr Arglwydd Dduw.
Fe’u cipiodd o law’r gelyn,
A’u cynnull i un lle
O’r dwyrain a’r gorllewin,
O’r gogledd ac o’r de.


2

3

4

5

6

7

8
Bydded iddynt ddiolch
Am holl ffyddlondeb Duw,
Ac am a wnaeth i’w bobl gaeth,
Cans cariad yw.

[4-7] Aeth rhai ar goll mewn drysi,
Heb ffordd at le i fyw.
Yr oeddent yn newynog,
Ac yn sychedig, wyw.
Gwaeddasant ar yr Arglwydd,
A’u gwared a wnaeth ef,
A’u harwain hyd ffordd union
I ddiogelwch tref.

[8-9] Bydded iddynt ddiolch
Am holl ffyddlondeb Duw;
Eu porthi a wnaeth â mêl a llaeth,
Cans cariad yw.


9

10
[10-14] Roedd rhai mewn carchar tywyll
Am wrthod ufuddhau
I eiriau Duw, yn gaethion
Heb undyn i’w rhyddhau.
Gwaeddasant ar yr Arglwydd,
A’u gwared a wnaeth ef,
A’u dwyn hwy o’r tywyllwch,
A dryllio’r gadwyn gref.


11

12

13

14

15
[15-16] Bydded iddynt ddiolch
Am holl ffyddlondeb Duw
Yn dryllio’r pyrth a’r heyrn drwy wyrth,
Cans cariad yw.


16

17
[17-20] Roedd rhai, yn sgîl eu pechod,
Yn ynfyd a di-hedd;
Casaent fwyd, a daethant
Yn agos at y bedd.
Gwaeddasant ar yr Arglwydd,
A’u gwared a wnaeth ef.
Iachaodd hwy, a’u hachub,
Drwy nerthol air y nef.


18

19

20

21
[21-22] Bydded iddynt ddiolch
Am holl ffyddlondeb Duw:
Mynegi i’r byd ei wyrthiau i gyd,
Cans cariad yw.


22

23
[23-30] Aeth rhai i’r môr mewn llongau,
A gwelsant Dduw y gwynt
Yn corddi’r don nes troellent
Fel meddwon ar eu hynt.
Gwaeddasant ar yr Arglwydd,
A’u gwared a wnaeth ef.
Fe wnaeth i’r storm dawelu,
A dug hwy tua thref.


24

25

26

27

28

29

30

31
[31-32] Bydded iddynt ddiolch
Am holl ffyddlondeb Duw,
A’i foli ymhlith ei bobl byth,
Cans cariad yw.


32

33
[33-36] Mae’n troi ffynhonnau’n sychdir
I gosbi pobl ddrwg.
Mae’n troi tir sych yn ffrwythlon
I rai newynog. Dwg
Hwy yno i godi dinas;
Cânt blannu a chânt hau.
Bydd ef yn eu bendithio
Ac yn eu hamlhau.

Bydded iddynt ddiolch
Am holl ffyddlondeb Duw,
Am gnydau’r haf, am wartheg braf,
Cans cariad yw.


34

35

36

37
[37-42] Pan fyddant hwy dan orthrwm,
Fe ddaw a thywallt gwarth
Ar eu gormeswyr creulon,
A’u gyrru i anial barth;
Ond cwyd y tlawd o’i ofid,
Cynydda’i deulu i gyd.
Fe lawenha yr uniawn,
Ond bydd y drwg yn fud.

8 Bydded iddynt ddiolch
Am holl ffyddlondeb Duw;

38

39

40

41

42

43
Os doeth wyt, myn roi sylw i hyn,
Cans cariad yw.

108

1

Gwnawn wrhydri gyda Duw

Guiting Power 85.85.7.8

[1-3] Cadarn wyf, O Dduw, a theyrngar.
Mi ddeffrôf yn awr,
Ac â’m crwth a’m telyn lafar,
Fel y tyrr y wawr,
Rhoddaf ddiolch iti’n rhwydd,
O Arglwydd, gyda phobloedd byd.


2

3

4
[4-6] Cans ymestyn mae dy gariad
Hyd y nefoedd fry.
Cyfod, Dduw, a thros y cread
Boed d’ogoniant di.
Er mwyn gwared d’annwyl rai,
O maddau’n bai, ac ateb ni.


5

6

7
[7-8a] Fe lefarodd y Goruchaf:
“Af i fyny’n awr;
Dyffryn Succoth a fesuraf,
Rhannaf Sichem fawr.
Mae Gilead, led a hyd,
Manasse i gyd yn eiddo i mi.


8
[8b-9] Effraim yw fy helm, a Jwda
Fy nheyrnwialen wir.
Moab ydyw fy ymolchfa,
A thros Edom dir
Taflaf f’esgid. Caf foddhad
Yn erbyn gwlad Philistia i gyd”.


9

10
[10-13] Pwy a’m dwg i’r ddinas gaerog?
Pwy, O Dduw, ond ti?
Er it wrthod ein llu arfog,
Rho dy help i ni.
Gwnawn wrhydri gyda Duw,
Cans ofer yw ymwared dyn.

109

1

Duw’n sefyll o blaid y gorthrymedig

Llantrisant 88.88

[1-3] Paid â thewi, Dduw fy moliant.
Pobl ddrwg a ddywedasant
Eu celwyddau cas amdanaf,
A, heb sail, ymosod arnaf.


2

3

4
[4-5] Cwynant am fy ngharedigrwydd;
Rwy’n gweddïo drostynt, Arglwydd.
Drwg am dda i mi a dalant,
Cas am gariad, a dywedant:


5

6
[6-7] “Rhowch ar ei ddeheulaw elyn;
Euog fydd, a’i weddi’n wrthun.
Boed ei ddyddiau’n brin, a rhodder
Arall yn ei swydd ar fyrder.


7

8
[8-11] Boed ei blant ef yn amddifaid,
Yn gardotwyr ac yn grwydriaid.
Aed ei eiddo i’r beilïaid,
A’i enillion i estroniaid.


9

10

11

12
[12-13] Na wnaed neb ag ef drugaredd,
Na gwneud ffafr â’i blant, na’u coledd.
Torrer ymaith ei hiliogaeth,
Dileu’i enw o fewn cenhedlaeth.


13

14
[14-15] Na ddilëer holl ddrygioni
Ei gyn-dadau na’i rieni;
Cofied Duw mor anwir oeddynt,
A dileu pob cof amdanynt.


15

16
[16-17a] Ni fu hwn erioed yn ffyddlon,
Ond melltithiodd y rhai tlodion
A’r drylliedig hyd at angau.
Deued melltith arno yntau.


17
[17b-19] Gan na hoffai ef fendithio,
Pell fo bendith oddi wrtho.
Gwisgodd felltith megis dillad;
Bydded hon amdano’n wastad.”


18

19

20
[20-21] Hyn a fo dy dâl, O Arglwydd,
I’m cyhuddwyr; tyrd yn ebrwydd,
Er mwyn d’enw, i weithredu
Drosof fi, ac i’m gwaredu.


21

22
[22-24] Tlawd a thruan wyf; fe dderfydd
F’egni megis cysgod hwyrddydd.
Mae fy ngliniau’n wan gan ympryd;
Tenau ydwyf a newynllyd.


23

24

25
[25-26] Rwy’n gyff gwawd i bawb; pan welant
Fi, eu pennau a ysgydwant.
Arglwydd, cymorth fi mewn llesgedd,
Achub fi yn dy drugaredd.


26

27
[27-29] Dangos iddynt dy lareidd-dra;
Pan felltithiant hwy, bendithia.
Deued mawr gywilydd arnynt,
Boed eu gwarth fel gwisg amdanynt.


28

29

30
[30-31] Yng ngwydd tyrfa fawr moliannaf
Fi yr Arglwydd; fe’i clodforaf.
Ar ddeheulaw’r tlawd, digysur,
Saif i’w achub rhag cyhuddwyr.

110

1

Dathlu gorseddu’r brenin

Omni Dei 87.87

Oracl Duw i’m brenin: “Eistedd
Di ar fy neheulaw i,
Nes im osod dy elynion
Megis troedfainc danat ti”.


2
Fe rydd Duw o Seion wialen
Ei awdurdod yn dy law;
Llywodraetha dithau’n nerthol
Dros dy holl elynion draw.


3
Mae dy bobl yn deyrngar iti
Ar ddydd d’eni o groth y wawr
Mewn gogoniant glân; cenhedlais
Di, fel gwlith, yn frenin mawr.


4
[4-5a] Tyngodd Duw, “Yr wyt offeiriad,
Fel Melchisedec, am byth”.
Bydd yr Arglwydd yn amddiffyn
Dy ddeheulaw yn ddi-lyth.


5
[5b-6a] Pan ddaw dydd ei ddig, dinistria
Holl frenhinoedd balch y byd.
Barna ymysg yr holl genhedloedd,
Ac fe’u lleinw â meirwon mud.


6
[6b-7] Fe ddinistria Duw benaethiaid
Gwledydd daear yn eu chwant;
Ond fe rydd i frenin Israel
Rym pan yf o ddŵr y nant.

111

1

Dechrau doethineb, ofni Duw

Maccabeus 10.11.11.11 a chytgan

[1b-2] Diolch a wnaf i’r Arglwydd â’m holl fod;
Gyda’r gynulleidfa uniawn seiniaf glod.
Mawr yw ei weithredoedd, fe’u harchwilir mwy
Gan y rhai sy’n ymhyfrydu ynddynt hwy.

[1a] Molwch yr Arglwydd. Alelwia.
Molwch yr Arglwydd. Alelwia.


2

3
[3-4] Llawn mawredd ac anrhydedd yw ei waith;
Pery ei ddaioni i dragwyddoldeb maith.
Fe wnaeth inni gofio’i ryfeddodau i gyd;
Graslon a thrugarog ydyw Duw o hyd.

[1a] Molwch yr Arglwydd. Alelwia.
Molwch yr Arglwydd. Alelwia.


4

5
[5-6] I bawb a’i hofna rhydd gynhaliaeth gref;
Ac am byth fe gofia ei gyfamod ef.
Profi a wnaeth ei rym pan roes i’w bobl holl
Dir ac etifeddiaeth y cenhedloedd oll.

[1a] Molwch yr Arglwydd. Alelwia.
Molwch yr Arglwydd. Alelwia.


6

7
[7-8] Mae gwaith ei ddwylo’n gyfiawn a di-ail,
Ac mae ei ofynion oll yn gryf eu sail;
Fe’u sefydlwyd hwy’n dragwyddol yn y tir,
Ac maent oll yn uniawn, y maent oll yn wir.

[1a] Molwch yr Arglwydd. Alelwia.
Molwch yr Arglwydd. Alelwia.


8

9
[9-10] Prynodd ei bobl, a mynnu eu bod hwy’n
Cadw ei gyfamod sanctaidd ef byth mwy.
Dechrau pob doethineb ydyw ofni Duw;
Pawb sy’n ufudd iddo, un deallus yw.

[1a] Molwch yr Arglwydd. Alelwia.
Molwch yr Arglwydd. Alelwia.

112

1

Gwobr y cyfiawn

Quem Pastores Laudavere 88.88

[1-2a] Molwch Dduw; fe ddaw bodlonrwydd
I bob un sy’n ofni’r Arglwydd
Ac yn hoffi ei orchmynion;
Cedyrn fydd ei ddisgynyddion.


2
[2b-3] Fe fendithir teulu’r uniawn.
Bydd ei gartref ef yn orlawn
O oludoedd, a’i gyfiawnder
Yn parhau tra pery amser.


3

4
[4-5a] Mewn tywyllwch caiff oleuni;
Llawn yw’r cyfiawn o dosturi.
Da yw trugarhau yn raslon
A rhoi benthyg i’r rhai tlodion.


5
[5b-6] Da yw trefnu pob rhyw fater
Mewn gonestrwydd a chyfiawnder.
Yr un cyfiawn, nis symudir,
Ac am byth ei waith a gofir.


6

7
[7-8] Nid yw’n ofni drwg newyddion,
Ond diysgog yw ei galon,
Ac nid ofna nes gweld diwedd
Ei elynion a’u hanwiredd.


8

9
Rhoes i’r tlawd haelioni lawer;
Byth fe bery ei gyfiawnder;
Ac fe gaiff gan Dduw o’r diwedd
Ei ddyrchafu mewn anrhydedd.


10
Mae’r drygionus yn cynhyrfu
O weld hyn, gan ysgyrnygu;
Ond diflannu yn adfydus
A wna gobaith y drygionus.

113

1

Pwy sydd fel yr Arglwydd?

Hengoed 10.7.7.7.9

[1-3] Molwch yr Arglwydd, weision yr Arglwydd;
Molwch ef tra byddoch byw.
O gyfodiad haul hyd wawl
Ola’r machlud, traethwch fawl
A bendigwch yr Arglwydd ein Duw.


2

3

4
[4-6] Uchel yw’r Arglwydd, uwch y cenhedloedd,
Uwch ei ogoniant na’r nef.
Uchel yw ei orsedd fawr,
Eto i gyd, mae’n gwyro i lawr
At yr isel. Pwy’n wir sydd fel ef?


5

6

7
[7-9] Cwyd rai mewn angen o lwch y domen
At dywysogion i fyw.
Teulu i’r wraig ddi-blant a rydd,
A mam falch i feibion fydd.
Molwch, molwch yr Arglwydd ein Duw.

114

1

Cryned y ddaear gerbron Duw

Camberwell 65.65.D

[1-2] Pan ddaeth Israel allan
Gynt o wlad yr Aifft,
O blith pobl estron,
Rhai â dieithr iaith,
Rhoes yr Arglwydd Jwda’n
Gysegr iddynt hwy,
A thir Israel ydoedd
Eu harglwyddiaeth mwy.


2

3
[3-4] O weld hyn, fe giliodd
Tonnau’r môr, a throdd
Yr Iorddonen hithau
Yn ei hôl o’i bodd.
Neidiodd y mynyddoedd
Megis hyrddod ffôl;
Pranciodd yr holl fryniau
Megis ŵyn ar ddôl.


4

5
[5-6] Beth sydd arnoch, donnau’r
Môr, eich bod yn ffoi?
Tithau, li’r Iorddonen,
Pam dy fod yn troi?
Pam yr ydych, fryniau,
A’r mynyddoedd mwy’n
Neidio megis hyrddod,
Prancio megis ŵyn?


6

7
[7-8] Cryna di, O ddaear,
Rhag yr Arglwydd Dduw;
Cryna rhag Duw Jacob,
Cans ofnadwy yw.
Ef yw’r Un sy’n gallu
Troi y graig yn llyn,
Ac o’r gallestr galed
Ddwyn ffynhonnau gwyn.

115

1

Rhagoriaeth ein Duw

St. Gertrude 65.65.D a chytgan

[1-3] Dyro di ogoniant,
Arglwydd, nid i ni,
Ond i’th enw, canys
Cariad ydwyt ti.
Pam yr hola’r gwledydd,
“Ple y mae eu Duw?”
Mae’n Duw ni’n y nefoedd;
Crëwr popeth yw.


2

3

4

5

6

7

8

9
Israel, ymddirieda
Yn yr Arglwydd Dduw,
Cans dy gymorth parod
Di, a’th darian yw.

[4-6a] Duwiau y cenhedloedd,
Delwau ŷnt bob un,
Delwau aur ac arian
O waith dwylo dyn.
Y mae ganddynt enau,
Ond y maent yn fud;
Dall eu llygaid; byddar
Yw eu clustiau i gyd.


10
O dŷ Aaron, credwch
Yn yr Arglwydd Dduw,
Cans eich cymorth parod
Chwi, a’ch tarian yw.

[6b-8] Ffroenau nad aroglant,
Dwylo na wnânt waith
Sydd i’r delwau mudion:
Traed na cherddant chwaith.
Y mae eu gwneuthurwyr
Yr un mor ddi-werth,
A phawb sy’n ymddiried
Yn eu grym a’u nerth.


11
Chwi sy’n ofni’r Arglwydd,
Rhowch eich cred yn Nuw,
Cans eich cymorth parod
Chwi, a’ch tarian yw.


12
[12-14] Y mae Duw’n ein cofio,
A’n bendithio a wna.
Fe fendithia Israel
A thy Aaron dda,
A phawb sy’n ei ofni,
Boed yn fach neu’n fawr.
Amlhaed Duw chwi
Oll, a’ch plant yn awr.


13

14

15
Boed i chwi gael bendith
Gan yr Arglwydd Dduw;
Crëwr mawr y nefoedd
A’r holl ddaear yw.


16
[16-18] Am y nefoedd uchod,
Eiddo’r Arglwydd yw;
Ond fe roes y ddaear
I blant dynolryw.
Ni all neb o’r meirw
Foli Duw o’u tref,
Ond nyni’n oes oesoedd
A’i moliannwn ef.

Molwch bawb yr Arglwydd,
A bendithiwch Dduw,
Cans eich cymorth parod
Chwi, a’ch tarian yw.

116

1

Beth a dalaf i’r Arglwydd?

Breslau MH

[1-3] Rwy’n caru Duw am iddo ef,
Pan waeddais, wrando ar fy llef.
Amdanaf yr oedd ing yn cau
A chlymau angau yn tynhau.


2

3

4
[4-5] Ar enw’r Arglwydd gelwais i:
“Rwy’n erfyn, Arglwydd, gwared fi”.
Yr Arglwydd, da a chyfiawn yw,
A llawn tosturi yw ein Duw.


5

6
[6-7] Fe geidw Duw rai syml y byd.
Gwaredodd fi o’m poenau i gyd.
Caf orffwys, lle bûm gynt yn wael,
Cans wrthyf fi bu Duw yn hael.


7

8
[8-9] Gwaredodd fi rhag angau du,
Fy llygaid pŵl rhag dagrau lu,
Fy nhraed rhag baglu. Gerbron Duw
Caf rodio mwy yn nhir y byw.


9

10
[10-11] Yr oeddwn gynt ar lan y bedd,
A chystudd trwm yn hagru ’ngwedd;
Ac meddwn wrthyf fi fy hun,
“Twyllodrus ydyw cymorth dyn”.


11

12
[12-13] Pa beth a dalaf fi yn awr
I Dduw am ei haelioni mawr?
Mi godaf gwpan fy iachâd
A galw’i enw mewn coffâd.


13

14
[14-15] Mi dalaf f’addunedau i Dduw
Yng ngŵydd ei bobl oll. Nid yw
Marwolaeth ei ffyddloniaid ef
Yn fater bach i Dduw y nef.


15

16
[16-17] Yn wir, O Arglwydd, rwyf o dras
Dy weision di; rwyf finnau’n was.
Datodaist fy holl rwymau i.
Rhof aberth diolch nawr i ti.


17

18
[18-19] Mi dalaf f’addunedau i Dduw
Yng ngŵydd ei bobl ac yn eu clyw,
Yn nheml yr Arglwydd uchel-drem,
Dy ganol di, Jerwsalem.

117

1

Yr holl bobloedd, molwch Dduw

Troyte’s Chant Englyn

Genhedloedd, bobloedd y byd, - ei ddeiliaid,
Addolwch Dduw’r hollfyd:

2
Y Tad sy’n gariad i gyd,
A’i ofal dros byth hefyd.

118

1

Emyn o Ddiolchgarwch

Father, I place into your hands 86.86.86.9

[1-4] Diolchwch bawb i’r Arglwydd mawr,
Cans ffyddlon yw o hyd.
Uned tŷ Aaron oll yn awr,
Ac Israel oll i gyd,
A phawb o’r rhai dros ddaear lawr
A’i hofna, i ddweud ynghyd:
“Mae’i ffyddlondeb ef yn para byth”.


2

3

4

5
[5-8] Gwaeddais mewn ing, ac yna daeth
Yr Arglwydd i’m rhyddhau.
A Duw o’m tu, nid ofnaf waeth:
Pa ddyn all fy llesgáu?
A Duw o’m plaid, caf weld yn gaeth
Y rhai sy’n fy nghasáu.
Gwell rhoi ffydd yn Nuw nag yn nerth dyn.


6

7

8

9
[9-12] Gwell yw gobeithio yn Nuw yn llwyr
Nag mewn arweinwyr ffôl.
Daeth y cenhedloedd gyda’r hwyr,
Ond gyrraf hwy yn ôl.
Heidiant fel gwenyn o gylch cwyr,
Fel tân mewn drain ar ddôl;
Ond yn enw Duw gorchfygaf hwy.


10

11

12

13
[13-16] Gwthiwyd fi’n galed, nes fy mod
Ar syrthio, ond rhoes Duw
Gymorth i mi; fy nerth a’m clod
A’m gwaredigaeth yw.
Clywch gân achubiaeth heddiw’n dod
O bebyll y rhai byw:
“Mae deheulaw Duw yn rymus iawn”.


14

15

16

17
[17-21] Nid marw ond byw a fyddaf fi.
Adroddaf am ei waith.
Disgyblodd Duw fi’n llym, ond ni
Bu imi farw chwaith.
Agorwch byrth y deml i mi,
A rhoddaf ddiolch maith
I ti, Arglwydd, am fy ngwared i.


18

19

20

21

22
[22-24] Mae’r garreg y gwrthodwyd hi
Gan y penseiri i gyd
Yn bennaf conglfaen y tŷ,
A ninnau’n synnu’n fud.
Hwn ydyw dydd d’amlygu di
Yn Arglwydd yr holl fyd;
Gorfoleddwn ynddo a llawenhawn.


23

24

25
[25-27a] Erfyniwn arnat, Arglwydd, clyw,
Ac achub, llwydda ni.
Sanctaidd a bendigedig yw
A ddaw yn d’enw di.
Rhoddwn yn awr o dŷ ein Duw
Ei fendith arnoch chwi.
Y mae’r Arglwydd, ein goleuni, yn Dduw.


26

27
[27b-29] Ymunwch â’r orymdaith fawr
At gyrn yr allor wiw.
Ti yw fy Nuw; diolchaf nawr;
Dyrchafaf di, fy Nuw.
Diolchwch bawb i’r Arglwydd mawr,
Cans Duw daionus yw;
Mae’i ffyddlondeb ef yn para byth.

119

1

Moli Cyfraith Duw

Eirinwg 98.98.D

[1-4] Gwyn fyd y rhai perffaith, sy’n rhodio
Yng nghyfraith yr Arglwydd o hyd,
Yn cadw ei farnedigaethau,
A’i geisio â’u calon i gyd,
Y rhai na wnânt unrhyw ddrygioni,
Sy’n rhodio ei ffyrdd heb lesgáu.
Fe wnaethost d’ofynion yn ddeddfau,
A disgwyl i ni ufuddhau.


2

3

4

5
[5-8] O na allwn gerdded yn union,
A chadw dy ddeddfau bob pryd.
Ni ddaw im gywilydd os cadwaf
Fy nhrem ar d’orchmynion i gyd.
Clodforaf di â chalon gywir
Wrth ddysgu am dy farnau di-lyth.
Mi gadwaf y cyfan o’th ddeddfau;
Paid, Arglwydd, â’m gadael i byth.

Kilmorey 76.76.D


6

7

8

9
[9-10] Pa fodd y ceidw’r ifainc
Eu llwybrau’n lân fel ôd?
Trwy gadw d’air. O Arglwydd,
Fe’th geisiais â’m holl fod.
Na ad i mi byth wyro
Oddi wrth d’orchmynion di.
Dy eiriau a drysorais
O fewn fy nghalon i.


10

11
[11-13] Rwyt fendigedig, Arglwydd;
Dy ddeddfau dysg i mi.
Bûm droeon yn ailadrodd
Holl farnau d’enau di.
Yn dy farnedigaethau
Bûm lawen iawn fy mryd;
Roedd fy llawenydd ynddynt
Uwchlaw holl gyfoeth byd.


12

13

14
[14-16] Fe fyddaf yn myfyrio
Ar dy ofynion di,
Yn cadw dy holl lwybrau
O flaen fy llygaid i.
Yr wyf yn ymhyfrydu
Yn neddfau pur y nef,
Ac am dy air, O Arglwydd,
Byth nid anghofiaf ef.

Crug-y-bar 98.98.D


15

16

17
[17-20] Bydd dda wrth dy was. Er mwyn imi
Gael cadw dy air, gad im fyw;
Ac agor fy llygaid i weled
Rhyfeddod dy gyfraith, fy Nuw.
Ymdeithydd wyf fi ar y ddaear;
Na chadw d’orchmynion yn gudd.
Dihoena fy nghalon o hiraeth
Am brofi dy farnau bob dydd.


18

19

20

21
[21-24] Ceryddaist y balch melltigedig
Sy’n torri d’orchmynion o hyd.
Tyn ymaith eu gwawd, cans fe gedwais
Dy farnedigaethau i gyd.
Er bod tywysogion yn f’erbyn,
Myfyriaf ar dy ddeddfau di.
Dy farnedigaethau sydd hyfryd,
Ac maent yn gynghorwyr i mi.

Rutherford 76.76.D


22

23

24

25
[25-28] Yn ôl dy air, O Arglwydd,
O’r llwch adfywia fi.
Atebaist fi o’m cyni;
Dysg im dy ddeddfau di.
Eglura ffordd d’ofynion,
Myfyriais arni’n hir.
Yn ôl dy air, cryfha fi;
Anniddig wyf yn wir.


26

27

28

29
[29-32] Boed twyll ymhell oddi wrthyf,
Dy gyfraith yn gonglfaen.
Dewisais ffordd ffyddlondeb;
Dy farnau rhois o’m blaen.
Na wawdia fi; cofleidiais
Dy dystiolaethau coeth.
Dilynaf ffordd d’orchmynion,
Cans gwnaethost fi yn ddoeth.

Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D


30

31

32

33
[33-36] O Arglwydd, dysg im ffordd dy ddeddfau;
Caf wobr o’u cadw o hyd;
A gwna fi’n ddeallus i gadw
Dy gyfraith â’m calon i gyd.
Mae llwybr d’orchmynion mor hyfryd:
Gwna imi ei gerdded bob dydd.
Tro fi at dy farnedigaethau,
Ac oddi wrth elw di-fudd.


34

35

36

37
[37-40] Tro ymaith fy llygaid rhag gwagedd,
A bydded i’th air fy mywhau.
Cyflawna i’th was dy addewid
I bawb sydd i ti’n ufuddhau.
Tro ymaith y gwawd rwy’n ei ofni,
Oherwydd dy farnau sydd iawn.
Yr wyf yn dyheu am d’ofynion,
O adfer fi i fywyd llawn.

Henryd 87.87.D


38

39

40

41
[41-44] Rho dy ffafr a’th iachawdwriaeth
Im, yn ôl d’addewid daer;
Ac atebaf bawb o’m gwawdwyr,
Cans gobeithiais yn dy air.
Na ddwg air y gwir o’m genau;
Yn dy farnau di, fy Nuw,
Y gobeithiais; am dy gyfraith:
Cadwaf hi tra byddaf byw.


42

43

44

45
[45-48] Rhodio a wnaf yn rhydd oddi amgylch;
Ceisiais dy ofynion di.
Rhof dy gyfraith i frenhinoedd,
Heb gywilydd arnaf fi.
Ymhyfrydaf yn d’orchmynion,
Ac rwyf yn eu caru hwy.
Rwyf yn parchu dy holl ddeddfau,
A myfyriaf arnynt mwy.

Mount of Olives 87.87.D


46

47

48

49
[49-52] Cofia d’air, y gair y gwnaethost
Imi ynddo lawenhau.
Hyn fu ’nghysur ym mhob adfyd:
Fod d’addewid di’n bywhau.
Er i’r rhai trahaus fy ngwawdio,
Cedwais i bob deddf a roed.
Cefais gysur yn dy farnau,
Ac fe’u cofiais hwy erioed.


50

51

52

53
[53-56] Digiais wrth y rhai sy’n gwrthod
Dy lân gyfraith di, fy Nuw,
Cans i mi fe fu dy ddeddfau’n
Gân ble bynnag y bûm byw.
Cofiaf d’enw y nos, O Arglwydd;
Cadw a wnaf dy gyfraith di.
Hyn sydd wir: i’th holl ofynion
Cwbl ufudd a fûm i.

Cwmgiedd 76.76.D


54

55

56

57
[57-60] Ti yw fy rhan, O Arglwydd;
Addewais gadw d’air.
Rwy’n erfyn, bydd drugarog,
Yn ôl d’addewid daer.
At dy farnedigaethau
Fy nghamre a drof fi,
A brysio a wnaf i gadw
Dy holl orchmynion di.


58

59

60

61
[61-64] Dy gyfraith nid anghofiais,
Os tyn yw clymau’r fall,
Ac am dy farnau cyfiawn
Moliannaf di’n ddi-ball.
Rwyt ffrind i bawb sy’n cadw
D’ofynion di. Mae’r byd
Yn llawn o’th gariad, Arglwydd;
Dysg im dy ddeddfau i gyd.

Eirinwg 98.98.D


62

63

64

65
[65-68] Yn unol â’th air, Arglwydd, gwnaethost
Ddaioni i mi. Dysg i’th was
Iawn farnu, cans rwyf yn ymddiried
Yn llwyr yng ngorchmynion dy ras.
Fe’m cosbaist am fynd ar gyfeiliorn;
Yn awr wrth dy air rwyf yn byw.
Da wyt, ac yn gwneuthur daioni.
Dysg imi dy ddeddfau, O Dduw.


66

67

68

69
[69-72] Parddua’r trahaus fi â chelwydd,
Ond cadwaf d’ofynion o hyd.
Trymhawyd eu calon gan fraster,
Ond dygodd dy gyfraith fy mryd.
Mor dda yw i mi gael fy nghosbi
Er mwyn imi ddysgu dy air!
Mae cyfraith dy enau’n well imi
Na miloedd o arian ac aur.

Crug-y-bar 98.98.D


70

71

72

73
[73-76] Dy ddwylo a’m gwnaeth; rho im ddeall
I ddysgu d’orchmynion; fe bair
Lawenydd i bawb sy’n dy ofni
Fy ngweld yn gobeithio yn dy air.
Mi wn fod dy farnau yn gyfiawn,
Ac nad oedd dy gosb ond gwaith gras.
O tyrd i’m cysuro â’th gariad,
Yn ôl dy addewid i’th was.


74

75

76

77
[77-80] Er mwyn im gael byw, rho drugaredd,
Cans hoffais dy gyfraith i gyd.
Celwyddau’r trahaus cywilyddier,
Ond ar dy ofynion mae ’mryd.
Boed i’r rhai a’th ofnant droi ataf
I wybod dy farnau, fy Nuw;
A bydded, rhag fy nghywilyddio,
Dy ddeddfau o’m mewn tra bwyf byw.

Eifionydd 87.87.D


78

79

80

81
[81-84] Rwy’n dyheu am iachawdwriaeth;
Yn dy air gobeithio a wnaf.
Hir ddisgwyliaf am d’addewid,
A dywedaf, “Pryd y caf
Fy nghysuro?” Rwy’n crebachu
Megis costrel groen mewn mwg,
Ond dy ddeddfau nid anghofiaf.
Barna di f’erlidwyr drwg.


82

83

84

85
[85-88] Cloddiodd gwŷr, yn groes i’th gyfraith,
Bwll y cwympwn iddo’n syth.
Pan erlidiant, tyrd i’m cymorth;
Sicr yw d’orchmynion byth.
Buont bron â’m lladd, ond eto
Cedwais dy ofynion di
A barnedigaethau d’enau.
Rho dy ffafr, adfywia fi.

Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D


86

87

88

89
[89-92] O Arglwydd, dy air sy’n dragwyddol;
Mae wedi’i sefydlu’n y nef.
Y mae dy ffyddlondeb yn para;
Fe seiliaist y byd, a saif ef.
Saif popeth yn ôl d’ordeiniadau,
Cans gweision i ti ŷnt i gyd.
Heb gysur dy gyfraith buaswn
Yn f’ing wedi marw cyn pryd.


90

91

92

93
[93-96] Hyd byth nid anghofiaf d’ofynion;
Trwy’r rhain y’m hadfywiaist, fy Nuw.
Dy eiddo di wyf. Tyrd i’m hachub,
D’ofynion sy’n llywio fy myw.
Fe gais y drygionus fy nifa,
Ond cadwaf dy farnau di-lyth;
Cans gwelaf fod diwedd i bopeth,
Ond pery d’orchymyn di byth.

Eirinwg 98.98.D


94

95

96

97
[97-100] O fel yr wy’n caru dy gyfraith!
Hi yw fy myfyrdod drwy’r dydd.
Fe wna dy orchymyn fi’n ddoethach
Na’m gelyn; mae’n gyson ei fudd.
O ddysgu dy farnedigaethau
Deallaf yn well nag y gwna
F’athrawon na neb o’r hynafgwyr,
Cans cadw d’ofynion sydd dda.


98

99

100

101
[101-104] Mi gedwais fy nhraed rhag drwg lwybr,
Er mwyn imi gadw dy air.
Ni throais fy nghefn ar dy farnau,
Cans fe’m cyfarwyddaist yn daer.
Mor felys d’addewid i’m genau,
Melysach i’m gwefus na mêl.
D’ofynion sy’n rhoi imi ddeall;
Casâf lwybrau twyll, doed a ddêl.

Gwalchmai 74.74.D


102

103

104

105
[105-108] Llusern yw dy air i’m troed,
Golau i’m llwybrau.
Mi ymrwymais i erioed
I’th holl farnau.
Yn ôl d’air, adfywia fi
O’m gofidiau.
Clyw fy nheyrnged, a dysg di
Im dy ddeddfau.


106

107

108

109
[109-112] Cofio a wnaf dy gyfraith di
Mewn peryglon;
Er holl rwydau’r gelyn, mi
Wnaf d’ofynion.
Dy farnedigaethau yw
Fy llawenydd,
Ac i’th ddeddfau tra bwyf byw
Byddaf ufudd.

Eirinwg 98.98.D


110

111

112

113
[113-116] Yr wyf yn casáu rhai anwadal,
Ond caraf dy gyfraith yn fawr.
Ti ydyw fy lloches a’m tarian;
Yn d’air y gobeithiaf bob awr.
Trowch ymaith, rai drwg, oddi wrthyf,
A chadwaf orchmynion fy Nuw.
O cynnal fi, na’m cywilyddier,
Ac, yn ôl d’addewid, caf fyw.


114

115

116

117
[117-120] O dal fi, a chaf waredigaeth,
A pharchaf dy ddeddfau o hyd.
Gwrthodi wrthodwyr dy ddeddfau,
Oherwydd mai twyll yw eu bryd.
Ystyri’r drygionus yn sothach,
Ond minnau, mi garaf hyd byth
Dy farnedigaethau, a chrynaf
Mewn ofn rhag dy farnau di-lyth.

Crug-y-bar 98.98.D


118

119

120

121
[121-124] Mi wneuthum i farn a chyfiawnder,
Na ad fi i’m gorthrymwyr, ond bydd
Yn feichiau i’th was; paid â gadael
I’r beilchion fy llethu bob dydd.
Rwy’n nychu am dy iachawdwriaeth,
Am weled cyfiawnder dy ras.
O delia â mi yn dy gariad,
A dysga dy ddeddfau i’th was.


122

123

124

125
[125-128] Dy was ydwyf fi; rho im ddeall
Dy farnedigaethau o hyd.
Mae’n amser i’r Arglwydd weithredu,
Cans torrwyd dy gyfraith i gyd.
Er hynny, rwy’n caru d’orchmynion
Yn fwy, ie’n fwy, nag aur drud.
Mi gerddaf yn ôl dy ofynion;
Casâf lwybrau dichell y byd.

Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D


126

127

128

129
[129-132] Rhyfeddol dy farnedigaethau;
Am hynny fe’u cadwaf i gyd.
Pan roddi dy air, mae’n goleuo;
Rhydd ddeall i’r syml ei fryd.
Rwy’n agor fy ngenau i flysio
D’orchmynion; O Dduw, trugarha;
Tro ataf, yn unol â’th arfer
I’r rhai sy’n dy garu di’n dda.


130

131

132

133
[133-136] O cadw fy ngham i yn sicr;
Na rwystred drygioni dy was.
Rhyddha fi rhag gormes a gorthrwm,
A chadwaf ofynion dy ras.
Boed llewyrch dy wyneb di arnaf,
A dysga dy ddeddfau i mi.
Rwy’n wylo am nad ydyw pobl
Yn cadw dy lân gyfraith di.

Dwedwch, fawrion o wybodaeth 88.88


134

135

136

137
[137-138] Arglwydd, yr wyt ti yn gyfiawn,
Ac y mae dy farnau’n uniawn.
Cyfiawn dy farnedigaethau,
Cwbl ffyddlon ydwyt tithau.


138

139
[139-140] Mae ’nghynddaredd wedi cynnau
Am fod rhai’n anghofio d’eiriau.
Mae d’addewid wedi’i phrofi,
Ac rwyf finnau yn ei hoffi.


140

141
[141-142] Er fy mod i’n llai na’r lleiaf,
Dy ofynion nid anghofiaf.
Dy gyfiawnder byth sydd berffaith,
A gwirionedd yw dy gyfraith.


142

143
[143-144] Er bod gofid ar fy ngwarthaf,
Yn d’orchmynion ymhyfrydaf.
Cyfiawn dy farnedigaethau;
Rho im ddeall, a byw finnau.

Tan-y-marian 87.87.D


144

145
[145-148] Gwaeddaf arnat; Arglwydd, ateb,
Ac i’th ddeddfau ufuddhaf.
Tyrd i’m gwared, ac fe gadwaf
Dy farnedigaethau braf.
Cyn y wawr rwy’n ceisio cymorth,
Yn dy air mae ’ngobaith i.
Rwy’n myfyrio ym mân oriau’r
Nos ar dy addewid di.


146

147

148

149
[149-152] Gwrando ’nghri yn ôl dy gariad,
’N ôl dy farnau adfer fi.
Agos yw f’erlidwyr castiog,
Pell oddi wrth dy gyfraith di.
Yr wyt ti yn agos, Arglwydd.
Mae d’orchmynion oll yn wir.
Seiliaist dy farnedigaethau
Yn dragywydd yn y tir.

Eirinwg 98.98.D


150

151

152

153
[153-156] O edrych ar f’adfyd a’m gwared,
Cans cofiais dy lân gyfraith di.
Amddiffyn fy achos a’m hadfer,
Yn ôl dy addewid i mi.
Ni ddaw i’r rhai drwg iachawdwriaeth:
I’r rhain aeth dy ddeddfau yn sarn.
Mawr yw dy drugaredd, O Arglwydd;
Adfywia fi’n unol â’th farn.


154

155

156

157
[157-160] Ni throis rhag dy farnedigaethau,
Er bod fy ngelynion yn daer.
Ffieiddiais at bawb sy’n dwyllodrus,
Am nad ŷnt yn cadw dy air.
Gwêl fel yr wy’n caru d’ofynion;
Dy gariad, fy Nuw, a’m bywha.
Cans hanfod dy air yw gwirionedd;
Tragwyddol dy farnau, a da.

Crug-y-bar 98.98.D


158

159

160

161
[161-164] Erlidir fi gan dywysogion,
Ond d’air di yw f’arswyd bob awr;
Ac rwy’n llawenhau yn d’addewid,
Fel un wedi cael ysbail mawr.
Casâf a ffieiddiaf bob dichell,
Ond caraf dy gyfraith o hyd;
A seithwaith y dydd rwy’n dy foli,
Cans cyfiawn dy farnau i gyd.


162

163

164

165
[165-168] Caiff carwyr dy gyfraith wir heddwch;
Ni faglant ar ddim. Yr wyf fi
Yn disgwyl am dy iachawdwriaeth,
Yn cadw d’orchmynion di-ri.
Rwy’n caru dy farnedigaethau,
Eu caru a’u cadw â graen,
Ac i’th holl ofynion rwy’n ufudd,
Cans mae dy holl ffyrdd di o’m blaen.

Cyfamod (Hen Ddarbi) 98.98.D


166

167

168

169
[169-172] Doed fy llef hyd atat, Arglwydd;
Yn ôl d’air gwna fi yn ddoeth.
Clyw ’neisyfiad; tyrd i’m gwared
Yn ôl dy addewid coeth.
Molaf di, fy Nuw, am iti
Ddysgu dy holl ddeddfau i mi.
Canaf am dy addewidion;
Cyfiawn yw d’orchmynion di.


170

171

172

173
[173-176] Tyrd i’m helpu, cans dewisais
Dy ofynion; blysio a wnaf,
Arglwydd, am dy iachawdwriaeth;
Yn dy gyfraith llawenhaf.
Gad im fyw i’th foli, a’th farnau’n
Gymorth im. Fel dafad goll
Chwilia am dy was, oherwydd
Cofiais dy orchmynion oll.

120

1

Gweddi am heddwch

Llantrisant 88.88

[1-2] Gwaeddais ar yr Arglwydd tyner,
“Tyrd i’m gwared o’m cyfyngder,
Rhag y genau drwg, twyllodrus,
A rhag tafod sy’n enllibus”.


2

3
[3-4] Beth yn fwy a roddaf iti,
Dafod drwg sy’n fy nifenwi?
Rwyt fel saethau llym rhyfelwr,
Marwor eirias yw dy ddwndwr.


4

5
Gwae fy mod i yn ymdeithio
Yn nhir Mesach, ac yn trigo
Ymysg pebyll alltud Cedar,
Ymhlith pobl estron, anwar.


6
[6-7] Yn rhy hir bûm fyw mewn dryswch
Gyda’r rhai na charant heddwch.
Yr wyf fi am heddwch tawel,
Ond maent hwythau’n mynnu rhyfel.

121

1

Cymorth gan Dduw

Altona MS

[1-2] Tua’r mynyddoedd syllu a wnaf;
P’le y caf gymorth hawddgar?
Fe’i caf oddi wrth yr Arglwydd; ef
A greodd nef a daear.


2

3
[3-4] Nid yw yn goddef llithro o’th droed;
Ni fu erioed yn huno.
Nid ydyw ceidwad Israel gu
Yn cysgu na gorffwyso.


4

5
[5-6] Fe geidw’r Arglwydd dy holl fod;
Rhydd gysgod rhag dy lethu.
Ni chaiff haul llethol y prynhawn
Na lleuad lawn d’anafu.


6

7
[7-8] Fe geidw’r Arglwydd d’einioes di
Rhag pob drygioni beunydd;
Fe wylia dros dy fynd a’th ddod,
A’th warchod yn dragywydd.

122

1

Gweddi am heddwch Jerwsalem

Diademata 66.86.D

[1-3] Roeddwn yn llawen iawn
Pan ddaeth un dydd i’m clyw
Y geiriau hyn: “Dewch, bawb, mi awn
I dŷ yr Arglwydd Dduw”.
A bellach mae ein traed
O fewn cynteddau drud
Jerwsalem, y lle a wnaed
I uno’r bobl ynghyd.


2

3

4
[4-6] Yno y daw ar hynt
Holl lwythau Duw o’u tref,
Yn ôl y ddeddf i Israel gynt,
I ddiolch iddo ef.
Tŷ Dafydd yno sydd,
A llys y gyfraith lem.
Gweddïwch bawb bob nos, bob dydd,
Am hedd Jerwsalem.


5

6

7
[7-9] Llwyddiant a fo i’r rhai
A’th gâr, a bydded hedd
O fewn dy furiau; boed dy dai
Yn ddiogel rhag y cledd.
Er mwyn i’m pobl gael byw,
Dy hedd a fynnaf fi;
Ac er mwyn tŷ ein Harglwydd Dduw,
Fe geisiaf dda i ti.

123

1

Arglwydd, trugarha

Ar gyfer heddiw’r bore 73.73.7773.73

[1-2] Mi dremiaf i’r entrychoedd
Atat ti,
Sy’n eistedd yn y nefoedd,
Atat ti.
Fel y mae llygaid gweision
A llygaid caethforynion
Yn gwylio llaw’r meistradon,
Gwyliwn di,
Nes deui, Arglwydd graslon,
Atom ni.


2

3
[3-4] O bydd dugarog wrthym,
Arglwydd Dduw.
Tyrd i’n gwaredu’n gyflym,
Arglwydd Dduw.
Oherwydd cawsom ddigon
O wawd a dirmyg beilchion
Ac amarch cyfoethogion,
Arglwydd Dduw.
O trugarha yr awron,
Arglwydd Dduw.

124

1

Diolch am waredigaeth

St. Stephen MC

[1-2] Dyweded Israel: Oni bai
I’r Arglwydd fod o’n tu
Pan gododd ein gelynion oll
I’n herbyn yn un llu,


2

3
[3-5] Fe fyddent wedi’n llyncu’n fyw,
A’n llosgi yn eu llid.
Cuddiasai’r tonnau’n pennau, a’n
Hysgubo i ffwrdd i gyd.


4

5

6
[6-7a] Ond bendigedig fyddo Duw.
Ni roddodd ni yn brae
I’w dannedd. Cawsom fynd yn rhydd,
A dianc rhag pob gwae.


7
[7b-8] Dianc yn rhydd, fel adar bach
O faglau’r heliwr cudd.
Ein gobaith sydd yn enw Duw,
Creawdwr popeth sydd.

125

1

Duw o amgylch ei bobl

Was Lebet 11.10.11.10

[1-2] Y mae pob un sy’n rhoi’i ffydd yn yr Arglwydd
Fel Mynydd Seion, yn aros am byth.
Fel y mae’r bryniau o amgylch Jerwsalem,
Mae Duw o amgylch ei bobl yn ddi-lyth.


2

3
[3-4] Er bod teyrnwialen y drwg yn ymestyn
Dros dir y cyfiawn, nid hir y parha,
Rhag troi o’r uniawn i wneud anghyfiawnder.
Gwna di ddaioni, O Dduw, i’r rhai da.


4

5
Ond am y rhai sydd yn gwyro i ffyrdd troellog,
Bydded i’r Arglwydd eu difa i gyd,
Ynghyd â phawb o’r gwneuthurwyr drygioni.
Bydded tangnefedd ar Israel o hyd!

126

1

Gwnaeth Duw bethau mawrion i ni

Dwedwch, fawrion o wybodaeth 88.88

[1-2] Pan adferodd Duw i Seion
Lwyddiant, roeddem lon ein calon.
Llawn o chwerthin oedd ein genau;
Bloeddio canu a wnâi’n tafodau.


2

3
A dywedai ein gelynion,
“Gwnaeth Duw iddynt bethau mawrion”.
Do, gwnaeth bethau mawrion inni.
Llawenhau a wnawn am hynny.


4
[4-5] Ein llwyddiannau, Arglwydd, adfer,
Megis ffrydiau lle bu sychder.
Boed i’r rhai sy’n hau mewn dagrau
Mewn gorfoledd fedi’r cnydau.


5

6
Boed i hwnnw sydd yn cario
Ei sach hadyd gan ochneidio
Gael dychwelyd mewn gorfoledd
Ag ysgubau trwm ddigonedd.

127

1

Heb Dduw, heb ddim

Finlandia 10.10.10.10.10.10

[1-2] Os nad yw Duw yn adeiladu’r tŷ,
Waeth heb i’w adeiladwyr wneud eu gwaith;
Os nad yw’n gwylio’r ddinas ar bob tu,
Waeth heb i’r gwylwyr gadw’n effro chwaith.
Waeth heb llafurio beunydd hyd yr hwyr;
Pan fôm ynghwsg bendithia Duw ni’n llwyr.


2

3
[3-5] Mae plant yn wobr oddi wrth yr Arglwydd Dduw;
Ei wobr ef yw ffrwyth y groth, yn siŵr.
Fel saethau syth yn llaw rhyfelwr yw
Meibion ieuenctid dyn. Gwyn fyd y gŵr
 chawell llawn ohonynt. Perchir ef
Gan ei elynion oll ym mhorth y dref.

128

1

Bendithion Duw i’r sawl sy’n ei ofni

Winchester New MH

[1-2] Gwyn fyd pob un sy’n ofni Duw,
Yn cadw’i ddeddfau tra bo byw.
Cei fwyta o ffrwyth dy lafur drud,
A byddi’n hapus; gwyn dy fyd.


2

3
Dy wraig fydd ar dy aelwyd lawn
Megis gwinwydden ffrwythlon iawn,
A’th blant o gylch dy fwrdd, yn wir,
Fel blagur olewydden ir.


4
[4-5a] Bendithia Duw â’i ddwylaw gref
Y sawl sydd yn ei ofni ef.
Bendithied dithau’n hael fel hyn
O’i deml lân ar Seion fryn.


5
[5b-6] Fel y cei weld drwy d’oes bob awr
Jerwsalem yn llwyddo’n fawr,
A gweld holl blant dy blant i gyd.
Boed hedd ar Israel o hyd!

129

1

Israel heb ei threchu

Burford MC

[1-2] Dyweded Israel: Oddi ar
Fy mebyd lawer gwaith
Ymosodasant arnaf fi,
Ond heb fy nhrechu chwaith.


2

3
[3-4] Fe arddwyd cwysau ar fy nghefn
Gan lach eu ffrewyll gref,
Ond torrodd Duw eu rhaffau hwy,
Cans cyfiawn ydyw ef.


4

5
[5-6] O boed i bawb a roes eu cas
Ar Israel gilio o’r tir,
Fel glaswellt gwael ar doeau tai
Sy’n grin cyn tyfu’n ir.


6

7
[7-8] Ni fedir hwn na’i rwymo byth.
Ni ddywed undyn byw
Am gnwd fel hwn, “Bendithiwn chwi
Yn enw’r Arglwydd Dduw”.

130

1

Disgwyl wrth yr Arglwydd

Ar hyd y nos 84 84 888 4

[1-4] Gelwais arnat o’r dyfnderau;
Clyw fi, fy Nuw.
Arglwydd, gwrando fy ngweddïau;
Clyw fi, fy Nuw.
Os wyt ti yn sylwi ar fethiant,
Pwy a all osgoi difodiant?
Ond mae gyda thi faddeuant.
Clyw fi, fy Nuw.


2

3

4

5
[5-6] Wrth yr Arglwydd y disgwyliaf;
Clyw fi, fy Nuw.
Yn ei air ef y gobeithiaf;
Clyw fi, fy Nuw.
Disgwyl rwyf am Dduw bob cyfle,
Mwy na’r gwylwyr am y bore,
Mwy na’r gwylwyr am y bore.
Clyw fi, fy Nuw.


6

7
[7-8] Israel, rho dy obaith ynddo;
Clyw fi, fy Nuw.
Cans y mae ffyddlondeb ganddo;
Clyw fi, fy Nuw.
Gydag ef y mae yn helaeth
I bobl Israel waredigaeth
Oddi wrth bob damnedigaeth.
Clyw fi, fy Nuw.

131

1

Ymdawelu yn Nuw

Dennis MB

O Arglwydd, nid wyf fi
Yn ymfalchïo dim;
Nid wyf yn poeni am bethau sydd
Yn rhy ryfeddol im.


2
[2-3] Ond megis plentyn bach
Ar fron ei fam yn glyd
Tawelu a wnaf. O Israel,
Gobeithia yn Nuw o hyd.

132

1

Duw’n ethol Seion a Dafydd

Llantrisant 88.88

[1-2] Cofia am Ddafydd, Arglwydd tirion;
Cofia am ei holl dreialon;
Cofia am ei lw angerddol
I Un Grymus Jacob dduwiol:


2

3
[3-5] “Nid af byth i mewn i’m pabell,
Ni chymeraf gwsg na hunell,
Ni orffwysaf byth yn unman
Nes cael gwneud i’r Arglwydd drigfan”.


4

5

6
[6-7] Yn Effratha gynt fe glywsom
Am yr arch, ac yna cawsom
Hi ym meysydd coed y gelli.
Awn i’r deml, a phlygwn wrthi.


7

8
[8-9] Cyfod, Arglwydd, i’th orffwysfa,
Ti ac arch dy nerth; a gwisga
 chyfiawnder dy offeiriaid.
Gorfoledded dy ffyddloniaid.


9

10
[10-11a] Er mwyn Dafydd, dy was enwog,
Paid â gwrthod dy eneiniog.
Gynt i’r brenin Dafydd tyngaist
Sicr adduned, ac fe’i cedwaist:


11
[11b-12] “Mi osodaf byth ar d’orsedd
Un o ffrwyth dy gorff i eistedd;
Ac, os ceidw fy nghyfreithiau,
Caiff ei fab ei ddilyn yntau”.


12

13
[13-14] Canys Seion a ddewisodd
Duw yn drigfan, a dywedodd:
“Hon am byth fydd fy ngorffwysfa;
Mi ddewisais drigo yma.


14

15
[15-16] Â bwyd ddigon fe’i bendithiaf;
Ei holl dlodion a ddigonaf.
Rhof gyfiawnder i’w hoffeiriaid,
Gorfoledda ei ffyddloniaid.


16

17
[17-18] Llinach Dafydd fydd sefydlog;
Byth ni ddiffydd lamp f’eneiniog.
Daw cywilydd i’w elynion;
Gwisga yntau ddisglair goron”.

133

1

Bendithion byw’n heddychlon

Dyfrdwy MS

[1-2] Mor dda ac mor ddymunol yw
I bobl fyw’n heddychlon.
Mae fel y dafnau ennaint pêr
Ar farf a choler Aaron.


2

3
Mae fel pan ddisgyn gwlith y wawr
I lawr dros fynydd Seion,
Lle rhoddodd Duw ei fendith ddrud,
Sef bywyd byth i’w weision.

134

1

Bendithio a derbyn bendith

Eirinwg 98.98.D

[1-3] O dewch, a bendithiwch yr Arglwydd,
Chwi weision yr Arglwydd bob un,
Sy’n sefyll yn nheml yr Arglwydd
Yn gwylio liw nos ar ddi-hun.
O codwch eich dwylo yn y cysegr;
Bendithiwch yr Arglwydd o hyd.
Bendithied ef chwithau o Seion —
Creawdwr y nefoedd a’r byd.

135

1

Canmol Duw’r cyfamod

Lobe den Herren 14.14.4.7.8

[1-4] Molwch yr Arglwydd! O molwch ef, weision yr Arglwydd,
Chwi sydd yn sefyll yn nhŷ a chynteddoedd yr Arglwydd.
Molwch ein Duw!
Jacob ac Israél yw
Trysor arbennig yr Arglwydd.


2

3

4

5
[5-7] Gwn fod yr Arglwydd yn fawr, ac yn well na’r holl dduwiau.
Gwna beth a fyn yn y ddaear a’r nef a’r dyfnderau.
Llunia â’i law
Fellt a chymylau a glaw,
A daw y gwynt o’i ystordai.


6

7

8
[8-10] Trawodd rai cyntafanedig yr Aifft — epil dynion
Ac anifeiliaid. Anfonodd i Pharo rybuddion.
Bwriodd i’r llawr
Lawer i genedl fawr,
A lladd brenhinoedd tra chryfion:


9

10

11
[11-12] Lladd Sihon, teyrn yr Amoriaid, ac Og, brenin Basan;
Yna dinistrio holl dywysogaethau gwlad Canaan.
Rhoes eu tir hwy
I bobl Israel byth mwy
Yn etifeddiaeth a chyfran.


12

13
[13-14] Y mae dy enw, O Arglwydd, am byth, a’th enwogrwydd
O un genhedlaeth i’r llall, cans mi wn y daw’r Arglwydd
I gyfiawnhau
Ei bobl, a thrugarhau
Wrth ei holl weision yn ebrwydd.


14

15
[15-18] Arian ac aur ydyw delwau’r cenhedloedd — gwaith dynion.
Mae ganddynt lygaid a genau, ond dall ŷnt a mudion:
Clustiau heb glyw,
Ffroenau heb anadl fyw.
Bydd felly eu crëwyr yn union.


16

17

18

19
[19-21] Israel ac Aaron a Lefi, bendithiwch yr Arglwydd;
Chwithau, bob un sy’n ei ofni, bendithiwch yr Arglwydd;
Seion achlân
A holl Jerwsalem lân,
Molwch, bendithiwch yr Arglwydd.

136

1

Byth fe bery ei gariad

This joyful Eastertide (Vreuchten) 67.67.D

[1-9] Diolchwch oll i Dduw,
Cans da yw Duw y duwiau.
Arglwydd arglwyddi yw;
Mae’n gwneud mawr ryfeddodau:
Y byd a’r wybren dlos,
Yr haul liw dydd, a’r lleuad
A’r sêr yn olau i’r nos,
Cans byth fe bery ei gariad.


2

3

4

5

6

7

8

9

10
[10-15] Fe drawodd blant yr Aifft,
A daeth ag Israel allan.
Ag estynedig fraich
A nerth ei law ei hunan,
Fe’n dygodd trwy’r Môr Coch,
Ond taflu’r Pharo anfad
A’i lu i’r dyfroedd croch,
Cans byth fe bery ei gariad.


11

12

13

14

15

16
[16-26] Fe’n dug trwy’r anial hir,
A lladd brenhinoedd cryfion,
A rhoi i ni eu tir
Yn etifeddiaeth dirion.
Gwaredodd ni, ac ef
Sy’n bwydo pawb drwy’r cread.
Diolchwch i Dduw’r nef,
Cans byth fe bery ei gariad.

137

1

Ar lan afonydd Babilon

Arabia MC

Ar lan afonydd Babilon
Yr eisteddasom ni,
Ac wylo wrth gofio am Seion gynt,
A’r deml yn ei bri.


2
[2-3] Crogasom ein telynau ar
Yr helyg uwch y lli.
Gofynnai’n meistri, “Canwch rai
O salmau’r deml i ni”.


3

4
[4-5] Ond sut y medrwn ganu cân
I’n Duw mewn estron le?
Os â Jerwsalem o’m cof,
Parlyser fy llaw dde.


5

6
Fy nhafod glyned yn fy ngheg,
A thrawer fi yn fud,
Os na rof di, Jerwsalem,
Uwch popeth gorau’r byd.


7
Am boen Jerwsalem, O Dduw,
Rho i Edom benyd trwm,
Am iddynt ddweud, “I lawr â hi
At ei sylfeini llwm”.


8
[8-9] A thithau, Fabilon, gwyn fyd
Y sawl a dâl i ti,
A lladd dy blant yn erbyn craig
Am iti’n dryllio ni.

138

1

Paid â gadael gwaith dy law

Arwelfa 87. 87. D

[1-3] Fe’th glodforaf â’m holl galon;
Yng ngŵydd duwiau molaf di
Am dy gariad a’th ffyddlondeb.
Tua’r deml ymgrymaf fi.
Cans dyrchefaist d’air a’th enw
Uwchlaw popeth sydd o werth.
Fe’m hatebaist i pan elwais,
A chynyddaist ynof nerth.


2

3

4
[4-6] Boed i holl frenhinoedd daear
Ganu am dy ffyrdd yn awr,
Canys clywsant eiriau d’enau,
A’th ogoniant di sydd fawr.
Er dy fod yn uchel, Arglwydd,
Fe gymeri sylw o lef
Y rhai isel, a darostwng
Y rhai balch o uchder nef.


5

6

7
[7-8] Er im fynd trwy gyfyngderau,
Â’th ddeheulaw gref, fy Nuw,
Cosbaist ti fy holl elynion,
A rhoist imi flas ar fyw.
Byddi, Arglwydd, yn gweithredu
Ar fy rhan, waeth beth a ddaw.
Mae dy gariad yn dragywydd;
Paid â gadael gwaith dy law.

139

1

I ble’r af oddi wrth Dduw?

Ebeneser 87.87.D

[1-4] Arglwydd, yr wyt ti’n f’adnabod;
Gwyddost ti yn iawn pa bryd
Yr wy’n eistedd ac yn codi;
Gwyddost beth sydd yn fy mryd.
Fe fesuraist fy holl gerdded,
Gwyddost bopeth rwy’n ei wneud,
Ac fe wyddost fy holl eiriau
Cyn i’m tafod i eu dweud.


2

3

4

5
[5-8] Taenaist dy ddeheulaw drosof;
Amgylchynaist fi o’r bron;
Ond rhy ryfedd a rhy uchel
Imi yw’r wybodaeth hon.
I ble’r af oddi wrth dy ysbryd?
Ple y ffoaf rhagot ti?
Os i’r nefoedd, yr wyt yno;
Os i Sheol, wele di.


6

7

8

9
[9-12] Os ehedaf ar adenydd
Chwim y wawr i ben draw’r byd,
Yno hefyd dy ddeheulaw
A’m cynhaliai i o hyd.
Os dywedaf, “Gall tywyllwch
Nos fy nghuddio,” gwn na fydd
Dim i ti’n dywyllwch, Arglwydd,
Ond goleua’r nos fel dydd.


10

11

12

13
[13-15] Ti a greodd f’ymysgaroedd;
Lluniaist fi yng nghroth fy mam.
Molaf di — rhyfeddol ydwyt,
A’th weithredoedd heb un nam.
Da’r adwaenost fi. Ni chuddiwyd
Fy ngwneuthuriad rhagot ti
Pan, yn nyfnder cudd y ddaear,
Y gwnaed ac y lluniwyd fi.


14

15

16
[16-18] Cyn fy ngeni, ysgrifennaist
Yn dy lyfr holl dro fy rhod,
Ac fe ffurfiaist fy holl ddyddiau
Pan nad oedd yr un yn bod.
O mor ddwfn yw dy feddyliau,
Mor lluosog ydynt hwy;
Lluosocach ŷnt na’r tywod;
Pe’u cyfrifwn, wele fwy!


17

18

19
[19-20] O na byddit ti, O Arglwydd,
Yn dinistrio gyda gwg
Y drygionus, fel y troai
Oddi wrthyf y rhai drwg —
Y rhai gwaedlyd sy’n dy herio
Mor ddichellgar yn dy fyd,
Ac yn gwrthryfela’n ofer
Yn dy erbyn di o hyd.


20

21
[21-24] Onid wy’n casáu, O Arglwydd,
Bawb sy’n dy ffieiddio di?
Fe’u ffieiddiaf â chas perffaith,
A gelynion ŷnt i mi.
Chwilia fi, O Dduw, a phrofa
Fy meddyliau i bob un;
Ac os ydwyf ar ffordd distryw,
Arwain fi i’th ffordd dy hun.

140

1

Gweddi rhag gorthrwm

Llantrisant 88.88

[1-2a] Cadw fi, O Dduw, rhag pobol
Sy’n ddrygionus a gormesol,
Rhai sy’n wastad yn cynllunio
Yn eu calon ddrwg a chyffro.


2
[2b-3] Maent bob amser yn y dirgel
Yn ymbaratoi at ryfel.
Mîn fel sarff sydd i’w tafodau,
Gwenwyn gwiber eu gwefusau.


3

4
[4-5] Arbed fi rhag llaw’r drygionus,
Cadw fi rhag pobl orthrymus.
Cuddiodd y trahaus eu maglau
Ar fy ffordd, a gosod rhwydau.


5

6
[6-7] Ti yw ’Nuw, O Arglwydd grymus,
Gwrando lef fy ngweddi glwyfus.
Ti, fy nghadarn iachawdwriaeth,
Fu fy helm mewn brwydr ganwaith.


7

8
[8-9] Na ro iddynt eu dymuniad,
Paid â’u llwyddo yn eu bwriad.
Llethed gwenwyn eu gwefusau
Y trahaus yn eu bwriadau.


9

10
[10-11] Syrthied arnynt farwor tanllyd,
Bwrier hwynt i ffosydd bawlyd;
A drygioni a ymlidied
Bob gorthrymwr yn ddiarbed.


11

12
[12-13] Gwn y rhoddi, Dduw, gyfiawnder
I’r anghenus, tlawd bob amser.
Moli d’enw a wna y cyfiawn,
Ac yn d’ŵydd bydd byw yr uniawn.

141

1

Peryglon cwmni drwg

Yorkshire 10.10.10.10.10.10

[1-4a] O Arglwydd, gwaeddaf, brysia ataf fi;
Gwrando fy llef pan alwaf arnat ti.
Bydded fy ngweddi’n arogldarth o’th flaen,
Ac offrwm hwyrol fo fy nwylo ar daen.
Dros ddrws fy ngenau, Arglwydd, gwylia di;
Rhag pob gweithredoedd drwg, O cadw fi.


2

3

4
[4b-5] Mae rhai sy’n gwneud drygioni fwy a mwy;
Na ad im fwyta o’u danteithion hwy.
Cerydded y rhai cyfiawn fi heb sen,
Ond nad eneinied olew’r drwg fy mhen;
Oherwydd mae fy ngweddi i o hyd
Yn llef yn erbyn holl ddrygioni’r byd.


5

6
[6-8a] Pan fwrir oddi ar graig eu barnwyr oll,
Cânt wybod imi draethu’r gwir di-goll.
Yng ngheg Sheol y bydd eu hesgyrn gwyw,
Fel darnau pren neu graig; ond mi, O Dduw,
A drof fy llygaid beunydd atat ti,
Ac ynot, Arglwydd, y llochesaf fi.


7

8
[8b-10] Na ad fi heb amddiffyn; cadw fi
Rhag y peryglon sydd i’m maglu i,
Rhag gafael pob rhyw rwyd neu fagl a rydd
Gwneuthurwyr drwg ar hyd fy ffordd yn gudd.
Boed i’r drygionus syrthio i’w rhwydau’u hun,
A minnau yn mynd heibio i bob un.

142

1

Duw, yr unig gyfaill

St. George MB

[1-2] Gwaeddaf yn daer ar Dduw,
Ymbiliaf arno ef;
Arllwysaf fy holl gwyn o’i flaen,
A dof i’w ŵydd â’m llef.


2

3
Fe wyddost ti fy llwybr
Pan balla f’ysbryd i.
Maent wedi cuddio magl ar
Y llwybr a gerddaf fi.


4
Tremiais i’r dde, a gweld
Nad oes un cyfaill im;
Nid oes dihangfa imi chwaith,
Na neb yn malio dim.


5
Ond gwaeddais arnat ti;
Dywedais, “O fy Nuw,
Ti, Arglwydd, yw fy noddfa i
A’m rhan yn nhir y byw”.


6
Bwriwyd fi’n isel iawn;
O gwrando ar fy nghri
A’m gwared rhag f’erlidwyr oll,
Cans cryfach ŷnt na mi.


7
Dwg fi o’m carchar caeth,
Fel y clodforaf di.
Pan gaf dy ffafr dylifo a wna
Y cyfiawn ataf fi.

143

1

Sychedu am Dduw

Nicea 12.13.12.10

[1-2] Arglwydd, clyw fy ngweddi, gwrando fy neisyfiad.
Yn dy fawr ffyddlondeb a’th gyfiawnder, ateb fi.
Paid â rhoi dy was, O Arglwydd, dan gondemniad:
Nid oes neb byw yn gyfiawn o’th flaen di.


2

3
[3-5a] Y mae’r gelyn wedi f’ymlid i a’m llorio,
Gwnaeth im eistedd, fel y meirw, mewn tywyllwch du.
Pallodd f’ysbryd ynof, ac rwyf yn arswydo,
Ond rwyf yn cofio am yr hyn a fu.


4

5
[5b-6] Ar bob peth a wnaethost yr wyf yn myfyrio,
Ac yr wyf yn meddwl am holl waith dy ddwylo gwych.
Arglwydd, rwyf yn estyn atat ti fy nwylo,
Ac yn sychedu amdanat fel tir sych.


6

7
[7-8a] Brysia ataf, Arglwydd; pallu y mae fy ysbryd;
Arglwydd, paid â chuddio d’wyneb oddi wrthyf fi,
Neu mi fyddaf fel y meirw yn yr isfyd.
Rho im, y bore, flas o’th gariad di.


8
[8b-9] Cans rwyf yn ymddiried ynot, Arglwydd ffyddlon.
Dangos imi’r ffordd i’w cherdded, cans dyrchefais i
F’enaid atat. Gwared fi rhag fy ngelynion,
Oherwydd ffois am gysgod atat ti.


9

10
[10-11a] Dysg im wneuthur dy ewyllys di a’th fwriad,
Canys ti, O Arglwydd, ti yn unig, yw fy Nuw.
Boed i’th ysbryd da fy arwain i dir gwastad;
Er mwyn dy enw cadw fi yn fyw.


11
[11b-12] Yn dy fawr gyfiawnder dwg fi o’m hanallu,
A’m gelynion, yn dy gariad mawr, distawa di.
A dinistria’r holl rai sydd yn fy ngorthrymu,
Canys dy was, O Arglwydd, ydwyf fi.

144

1

Gweddi am fendithion heddwch

Camberwell 65.65.D

[1-2] Bendigedig fyddo
Duw, fy nghraig a’m caer;
Ef sy’n dysgu ’nwylo
I ryfela’n daer.
Ffrind, gwaredydd, lloches,
Tarian gadarn yw,
A darostwng pobloedd
Danaf a wna Duw.


2

3
[3-4] Beth yw dyn, O Arglwydd,
Iti ei gofio ef?
Beth yw pobloedd daear
I gael nawdd y nef?
Tebyg iawn i anadl
Ydyw einioes dyn;
Cysgod yw ei ddyddiau’n
Darfod bob yr un.


4

5
[5-8] Agor di y nefoedd,
Arglwydd; tyrd i lawr;
Saetha fellt nes tanio
Y mynyddoedd mawr.
O’th uchelder achub
Fi o’r dyfroedd dyfn
Ac o law estroniaid
A’u celwyddau llyfn.


6

7

8

9
[9-11] Arglwydd, gyda’r dectant
Canaf iti gân.
Fe achubaist Ddafydd
Rhag y cleddyf tân.
Achub finnau, Arglwydd,
Gwared fi yn awr
O law yr estroniaid
A’u celwyddau mawr.


10

11

12
[12-13] Bydded gryf ein meibion
Fel planhigion gardd;
Fel pileri palas
Boed ein merched hardd.
Boed ein hysguboriau
Oll yn llawn o ŷd;
Bydded defaid filoedd
Yn ein caeau i gyd.


13

14
[14-15] Boed ein gwartheg cyflo
Oll yn drymion iawn.
Na foed gwaedd o ddychryn
Ar ein strydoedd llawn.
Gwyn eu byd y bobl
Sydd fel hyn byth mwy —
Y bobl y mae’r Arglwydd
Yn Dduw iddynt hwy.

145

1

Llywodraeth dragwyddol Duw

All Souls 10.10.10.10

[1-3] Fy Nuw, O Frenin, fe’th ddyrchafaf di;
Dy enw beunydd a fendithiaf fi.
Mawr yw yr Arglwydd, teilwng iawn o glod,
Ac anchwiliadwy ydyw ei holl fod.


2

3

4
[4-5] Molianna’r naill genhedlaeth wrth y llall
Dy holl weithredoedd nerthol yn ddi-ball.
Dywedant am d’ysblander di o hyd,
A sylwi ar dy ryfeddodau i gyd.


5

6
[6-7] Cyhoeddant rym dy holl weithredoedd mawr,
Ac adrodd am dy fawredd bob yr awr.
Dygant i gof dy holl ddaioni, O Dduw,
A chanu am dy gyfiawnder tra bônt byw.


7

8
[8-9] Graslon a llawn trugaredd ydyw Duw,
Araf i ddigio, llawn ffyddlondeb yw.
Daionus yw yr Arglwydd wrth bob un,
Trugarog wrth holl waith ei ddwylo’i hun.


9

10
[10-12] Dy waith i gyd a’th fawl, ac mae dy saint
Yn dy fendithio, O Dduw, gan ddweud am faint
Dy nerth, a sôn am rwysg dy deyrnas di
I beri i bawb weld ei hysblander hi.


11

12

13
Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas di,
Saif dy lywodraeth byth heb golli’i bri.
Ffyddlon yw’r Arglwydd yn ei eiriau i gyd,
Trugarog ei weithredoedd ef o hyd.


14
[14-16] Cwyd bawb sy’n syrthio; gwna y cam yn syth;
Try llygaid pawb mewn gobaith ato byth;
Â’th law’n agored, bwydi hwy, O Dduw.
Diwelli, yn ôl d’ewyllys, bopeth byw.


15

16

17
[17-19] Cyfiawn yw’r Arglwydd da yn ei holl ffyrdd,
A ffyddlon yw yn ei weithredoedd fyrdd;
Nesâ at bawb sy’n galw arno ef.
Gwna eu dymuniad, gwrendy ar eu llef.


18

19

20
[20-21] Gofala Duw am bawb a’i câr yn wir,
Ond mae’n dinistrio’r holl rai drwg o’r tir.
Moliannaf ef; ac fe fydd popeth byw
Byth yn bendithio enw sanctaidd Duw.

146

1

Gwyn fyd y sawl sy’n ymddiried yn Nuw

Diademata 66.86.D

[1-4] Molwch yr Arglwydd Dduw.
Fy enaid, mola di
Yr Arglwydd da: tra byddaf byw
Ei fawl a ganaf fi.
Nac ymddiriedwch ddim
Yn nhywysogion byd,
Cans darfod a wnânt hwy yn chwim
A’u holl gynlluniau i gyd.


2

3

4

5
[5-7] Gwyn fyd y sawl y daeth
Duw Jacob ato ef,
Sy â’i obaith yn yr un a wnaeth
Y tir a’r môr a’r nef —
Y Duw sy’n cyfiawnhau
Y tlawd, yn rhoddi bwyd
I’r rhai newynog, yn rhyddhau
Y carcharorion llwyd.


6

7

8
[8-10] Golwg a rydd i’r dall;
Uniona’r rhai sy’n gam;
Fe geidw’r dieithr yn ddi-ball
A’r weddw rhag pob cam.
Mae’n caru’r da i gyd,
Ond dryllia’r drwg o’u tref.
Duw Seion a deyrnasa hyd
Byth bythoedd. Molwch ef.

147

1

Da yw moli Duw

Was Lebet 12.10.11.10

[1-2] O molwch yr Arglwydd! Da yw rhoi mawl iddo,
Cans mae ein Duw yn drugarog ei fryd.
Mae’n adeiladu Jerwsalem — yno
Y dwg blant Israel o bedwar ban byd.


2

3
[3-6] Iachâ’r rhai drylliedig a rhwymo’u harchollion;
Rhifa ac enwi’r holl sêr. Y mae’n fawr,
Yn ddoeth ddifesur. Mae’n codi’r rhai tlodion,
Ond y mae’n bwrw’r drygionus i’r llawr.


4

5

6

7
[7-8] O canwch i’r Arglwydd mewn diolch â’r delyn.
Ef sy’n rhoi glaw o’i gymylau i’r tir.
Gwisga’r mynyddoedd â glaswellt, ac enfyn
At ein gwasanaeth blanhigion sydd ir.


8

9
[9-11] Mae’n rhoddi i’r holl anifeiliaid eu porthiant,
A’r hyn a fynnant i gywion y frân.
Nid yn nerth march na grym gŵr y mae’i fwyniant,
Ond yn y rhai y mae’u ffydd ynddo’n lân.


10

11

12
[12-14] Jerwsalem, mola dy Dduw, a thi, Seion,
Cans fe gryfhaodd dy furiau i gyd.
Rhoes iti heddwch, bendithiodd dy feibion,
Ac fe’th ddigonodd â’r gorau o’r ŷd.


13

14

15
[15-18] Mae’n anfon i’r ddaear ei air, ac yn rhoddi
Barrug fel lludw ac eira fel gwlân,
Rhew megis briwsion, ac yna’n eu toddi,
Pan yrr ei wyntoedd, yn ddŵr gloyw, glân.


16

17

18

19
[19-20] Mynega i Jacob ei holl eiriau diwall,
Ei ddeddfau a’i farnau Israel a glyw.
Ni wnaeth mo hyn â’r un genedl arall.
Molwch, O molwch yr Arglwydd ein Duw.

148

1

Boed i’r holl fyd foli’r Arglwydd

Hengoed 10.7.7.7.9

[1-4] Molwch yr Arglwydd! Molwch o’r nefoedd!
Molwch, chwi’i holl engyl ef;
Haul a lloer a’r sêr bob un,
Lluoedd nef, a’r nef ei hun,
A’r holl ddyfroedd sydd fry uwch y nef.


2

3

4

5
[5-6] Boed iddynt foli enw yr Arglwydd.
Boed iddynt foli’n Duw ni.
Ar ei air y crewyd hwy,
Ac fe’u gwnaeth yn sicr byth mwy,
A rhoes ddeddf iddynt nas torrir hi.


6

7
[7-9a] Molwch yr Arglwydd! Molwch o’r ddaear,
Ddreigiau’r dyfnderau i gyd,
Cenllysg oer a mwg a thân,
Gwynt ystormus, eira mân,
Y mynyddoedd a holl fryniau’r byd;


8

9
[9b-12] Coed a bwystfilod, adar, ymlusgiaid,
Pobl a brenhinoedd a holl
Farnwyr ac arweinwyr byd,
Hen ac ifanc oll ynghyd,
A’r gwyryfon a’r gwŷr ifainc oll.


10

11

12

13
[13-14] Boed iddynt foli enw yr Arglwydd,
Enw heb ail iddo yw.
Mae uwchlaw y byd a’r nef,
Moliant Israel ydyw ef.
Molwch, molwch yr Arglwydd ein Duw!

149

1

Emyn o fuddugoliaeth

Slane 11.11.11.11

[1-2] O molwch yr Arglwydd! Boed newydd eich cân
Ymhlith cynulleidfa’r ffyddloniaid yn dân.
Boed Israel yn llon yn ei chrëwr a’i Duw,
Clodfored plant Seion eu brenin a’u llyw.


2

3
[3-5] Â thympan a thelyn, ar ddawns ysgafn droed
Moliannwch! Mae’n Duw’n caru’i bobl erioed.
Mae’n gwared y gwylaidd. O bydded i’r saint
Roi mawl mewn gogoniant gan gymaint eu braint.


4

5

6
[6-8] Molianned eu genau ein Duw yn ddi-daw.
Boed cleddyf daufiniog yn noeth yn eu llaw
I ddial ar wledydd a phobloedd y byd,
A rhwymo â chadwynau’r brenhinoedd i gyd.


7

8

9
Cans hon ydyw’r farn sydd i ddod arnynt hwy —
Yr heyrn a’r hualau; ac yna byth mwy
Teyrnasa cyfiawnder yr Arglwydd; ef yw
Gogoniant y ffyddlon. O molwch ein Duw!

150

1

Molwch yr Arglwydd

Darwall 66.66.88

[1-3] Molwch yr Arglwydd Dduw,
Sy’n byw yng nghysegr nef,
Am ei weithredoedd gwiw
A’i holl fawrhydi ef.
Molwch ag utgorn clir ei sain,
 thannau ac â thelyn gain.


2

3

4
[4-6] Â dawns a thympan fwyn,
Ag organ glir fel cloch,
 thannau llawn o swyn
 sŵn symbalau croch,
Bydded i bopeth sydd yn fyw
Foliannu’r Arglwydd. Molwch Dduw!